Cipolwg ar Ymarfer Effeithiol: Y Gwasanaeth Prawf – Rhanbarth Cymru
Methodoleg ymarfer effeithiol (Back to top)
Wrth arolygu gwasanaethau prawf yng Nghymru, aseswyd achosion o dan ein safonau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf. Bu’r arolygwyr yn ystyried a oedd yr ymarfer mewn achosion penodol yn ddigonol i ateb anghenion pobl sydd ar brawf, a hynny yn y modd y bydd y gwasanaethau’n ymgysylltu â nhw ac yn eu helpu i ymatal rhag troseddu. Bu’r arolygwyr hefyd yn ystyried a oedd y gweithgarwch yn ddigonol i gadw pobl eraill yn ddiogel.
Cyfrifwyd y sgoriau cyffredinol ar gyfer darparu gwasanaethau ar sail canran yr achosion a ganfuwyd eu bod yn ddigonol o dan bob un o’n cwestiynau allweddol a’n safonau.
Ein diffiniad o ymarfer effeithiol yw ymarfer ble byddwn ni’n gweld ein safonau’n cael eu cyflawni’n dda yn ymarferol. Gwelson ni ymarfer effeithiol mewn nifer o’r achosion a arolygwyd fel rhan o’r gwaith maes yng Nghymru. Nod y cipolwg hwn yw amlygu’r meysydd hynny lle roedd yr ymarfer yn effeithiol.
Crynodeb o ymarfer effeithiol yng Nghymru (Back to top)
- Cynhaliwyd gwaith maes ym mhob uned gyflawni gwasanaeth prawf (‘uned gyflawni’) yng Nghymru rhwng 28 Gorffennaf 2025 a 22 Medi 2025. Cynhaliwyd gwaith maes rhanbarthol rhwng 29 Medi 2025 a 27 Hydref 2025.
- Adolygwyd 338 o achosion. Roedd dedfryd gymunedol wedi’i rhoi mewn 224 o’r achosion hyn, a’r unigolyn wedi’i ryddhau ar drwydded mewn 144 ohonyn nhw.
- Adolygwyd hefyd 265 o adroddiadau llysoedd a 107 o achosion lle roedd darpariaeth ailsefydlu’n berthnasol.
- Arolygwyd 58 o achosion gwaith di-dâl a 28 o achosion drwy’r rhanbarth a oedd yn ymwneud â dioddefwyr statudol, lle roedd dedfrydau cymunedol a thrwyddedau wedi dechrau rhwng 18 Rhagfyr 2024 a 24 Mawrth 2025.
- Yn yr holl unedau cyflawni, gwelwyd yr ymarfer cryfaf wrth asesu a chynllunio i ymgysylltu â’r unigolyn a oedd ar brawf, lleihau aildroseddu, a helpu pobl i ymatal rhag troseddu. Roedd y rhan fwyaf o’r unedau cyflawni hefyd yn ymgysylltu’n dda â’r unigolyn a oedd ar brawf wrth gyflawni ac adolygu.
- Daethon ni o hyd i 109 o enghreifftiau o ymarfer effeithiol yng ngwaith achos parth dau[1].
- Yn y cipolwg hwn, rydyn ni wedi amlygu’r enghreifftiau cryfaf o ymarfer effeithiol o bob uned gyflawni, a hynny o dan sawl thema sy’n berthnasol i reoli achosion.
Ein safonau (Back to top)
Safonau Arolygiaeth Prawf EF yw’r rhain, a gafodd eu cyrraedd yn yr enghreifftiau o ymarfer effeithiol a ddewiswyd o wahanol rannau o Gymru. Mae rhestr lawn o’n safonau, ynghyd â rhagor o ddeunydd darllen a gwaith ymchwil, i’w gweld ar ein gwefan.
- Mae’r gwaith asesu yn seiliedig ar wybodaeth, yn ddadansoddol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.
- Mae’r gwaith cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn gyfannol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf..
- Galluogir staff i ddarparu gwasanaeth ymatebol, personol o ansawdd uchel i bawb sydd ar brawf.
- Mae ystod gynhwysfawr o wasanaethau o ansawdd uchel ar gael, sy’n cefnogi gwasanaeth ymatebol ac wedi’i deilwra ar gyfer pawb sydd ar brawf.
- Mae gwasanaethau cydlynol, personol o ansawdd uchel, gyda ffocws da yn cael eu darparu, gan ymgysylltu â’r sawl sydd ar brawf.
Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol (Back to top)
Enghraifft o waith effeithiol: Y model Ffactorau Dynol
Yn 2022, cyflwynodd Gwasanaeth Prawf Cymru ddull gweithio’r sefydliad sy’n dysgu.[2] Model yw hwn sy’n ceisio helpu i greu diwylliant dysgu cynhwysol ac agored, ynghyd â gwella diogelwch. A hwnnw’n defnyddio sylfaen dystiolaeth o’r enw Ffactorau Dynol, mae’n cyflwyno adnoddau newydd a ffyrdd newydd o weithio er mwyn helpu i fynd i’r afael â rhagfarnau ac anghymesuredd wrth wneud penderfyniadau, gwella cyfathrebu a chydweithio rhwng timau, creu amser a gofod i fyfyrio a dysgu, a hybu rhyddid y staff gan gynnal atebolrwydd ar yr un pryd.
Y Ffactorau Dynol ar waith:
- Sefyllfa, cefndir, asesiad, argymhelliad (SBAR): Adnodd cyfathrebu strwythuredig sy’n helpu i roi eglurder ac yn hybu rhyddid y staff a’r gallu i wneud penderfyniadau mwy ystyriol.
- Awr warchodedig (amser): Amser sydd wedi’i neilltuo i reolwyr a’u staff gael trafodaethau myfyriol, blaenoriaethu tasgau, a rheoli eu llwyth gwaith yn effeithiol.
- Briffiau tîm (rhestr wirio): Wedi’u cyd-greu gan y rheolwyr a’r staff i ganfod beth sy’n achosi straen, risgiau a chamgymeriadau, gan olygu bod modd datrys problemau, uwchgyfeirio a chael adborth prydlon.
- Cyfarfod misol (adborth, myfyrio a dysgu): Cyfathrebu uniongyrchol rhwng y staff rheng flaen a’r uwch arweinwyr i rannu llwyddiannau a dysgu gwersi drwy ddadansoddi gwraidd problemau.
Roedd uwch arweinwyr yng Nghymru’n cydnabod bod staff dan bwysau yn dilyn newidiadau sylweddol i bolisïau cenedlaethol. Roedden nhw hefyd yn cydnabod bod dull gweithio’r sefydliad sy’n dysgu wedi helpu i greu diwylliant cefnogol a oedd yn blaenoriaethu lles y staff, ymarfer myfyriol a’r broses o wneud penderfyniadau. Dywedodd rheolwyr fod mwy o ffocws i sgyrsiau, a’u bod yn fwy cynhyrchiol, a hynny’n golygu bod modd gwneud penderfyniadau cliriach. Teimlai ymarferwyr eu bod yn gallu perchnogi eu gwaith, ac roedden nhw’n teimlo’n gynyddol hyderus wrth ddatrys problemau’n annibynnol. Roedd amser gwarchodedig yn gwella lles pobl drwy leihau straen a gorbryder, a hynny’n galluogi timau i weithio’n fwy effeithiol. Roedd rhoi mwy o adroddiadau am risgiau ac achosion a fu bron â digwydd, ynghyd â chylchoedd adborth cadarn, yn cryfhau’r broses o reoli risgiau. Yn dra phwysig, roedd y dull hwn wedi arwain at newid diwylliant, at lai o hierarchaeth, at roi llais i bob aelod o staff, ac at feithrin cydweithio a chyd-gyfrifoldeb. Roedd Ffactorau Dynol wedi creu amgylchedd tryloyw a chefnogol, a hwnnw’n sicrhau cydbwysedd da rhwng rhyddid staff ac atebolrwydd. Drwy wreiddio adnoddau strwythuredig fel SBAR ac amser gwarchodedig yn ei waith, roedd Gwasanaeth Prawf Cymru wrthi’n creu newid diwylliannol a oedd yn gwella’r broses o wneud penderfyniadau, lles pobl ac ansawdd y gwasanaeth.
Enghraifft o waith effeithiol: Defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i ysgafnhau tasgau gweinyddol ac i ymgysylltu’n well â phobl
Fel rhan o strategaeth trawsnewid digidol Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, roedd Gwasanaeth Prawf Cymru wedi treialu sawl system ddeallusrwydd artiffisial i drawsgrifio a chrynhoi, gyda’r nod o ysgafnhau tasgau gweinyddol a gwella effeithlonrwydd. Nod y cynllun oedd rhyddhau amser ymarferwyr i ymgysylltu’n ystyrlon â phobl sydd ar brawf, gan wella ansawdd a phrydlondeb wrth gofnodi achosion.
Roedd y systemau hyn yn trawsgrifio ac yn crynhoi cyfarfodydd goruchwylio a’r rhyngweithio a fyddai’n digwydd ar y rheng flaen, ac yn creu crynodebau cywir mewn cwta funudau.
Roedd y cynlluniau peilot yn rhan o strategaeth ehangach i leihau’r baich gweinyddol ar ymarferwyr prawf, i wella ansawdd a phrydlondeb cofnodion drwy drawsgrifio awtomataidd, ac i wella hygyrchedd i staff sydd â chyflyrau niwroamrywiol neu anghenion eraill, a hynny drwy leihau’r baich gwybyddol.
Roedd y cynlluniau peilot yn para 10-20 wythnos, ac yn canolbwyntio ar dimau rheoli dedfrydau ac ar ymgysylltu allweddol rhwng pobl – er enghraifft, apwyntiadau cynefino, cyfweliadau cynllunio dedfrydau, a chyfarfodydd goruchwylio. Roedd rhoi’r systemau hyn ar waith yn golygu cyflwyno prosesau cynefino, hyfforddiant a chylchoedd adborth strwythuredig.
Yr effaith a’r manteision
Gwelwyd buddion sylweddol wrth werthuso un o’r systemau, sef ‘Minute’:
- Roedd modd cwblhau tasgau a arferai gymryd dwy awr mewn 30 munud, gyda’r amser a dreulid yn ysgrifennu logiau cyswllt yn lleihau 73 y cant, ar gyfartaledd.
- Dywedodd 96 y cant o’r ymarferwyr fod ansawdd cofnodion wedi gwella.
- Dywedodd 83 y cant o ymarferwyr eu bod yn ymgysylltu’n well â phobl ar brawf yn ystod sesiynau, gan y gallen nhw gadw cyswllt llygad a gwrando’n fwy astud.
- Dyma sgôr yr ymarferwyr prawf (N=24) a ru’n rhan o’r cynllun peilot am y crynodebau goruchwylio oedd wedi’u creu gan AI: Cywirdeb 4.27/5, Cysondeb 4.68/5, Tegwch 4.55/5 (arolwg oedd hwn a gynhaliwyd yn ystod y cynllun peilot). Dangosodd adborth yn yr ap gan yr un defnyddwyr fod 94 y cant yn fodlon a chafwyd sgôr NPS o +70.
- Cafodd dros 3,000 o gyfarfodydd rheng flaen eu crynhoi yn ystod y ffenestr werthuso.
- Mae’r adborth ansoddol gan staff niwroamrywiol a staff anabl yn dangos bod y system wedi lleihau’r baich gwybyddol drwy hwyluso’r gwaith o greu nodiadau, helpu i arddweud, a chaniatáu i bobl ganolbwyntio ar bethau eraill yn ystod sesiynau.
Yn ôl yr ymarferwyr, roedd yr adnoddau’n “ardderchog – mae’r crynodebau’n glir ac yn gryno”. Roedden nhw’n gwerthfawrogi’r gallu i ganolbwyntio a gwrando yn hytrach na chreu nodiadau. Roedden nhw’n dweud bod hyn yn gwella’r modd roedden nhw’n ymgysylltu â phobl ar brawf, a’i fod yn rhyddhau amser i gynnal asesiadau risg ac i ddangos chwilfrydedd proffesiynol.
Cynaliadwyedd a’r camau nesaf
Ar ôl y cynlluniau peilot, cafodd Justice Transcribe ei gyflwyno drwy’r holl dimau rheoli dedfrydau yng Nghymru ac yng Nghaint, Surrey a Sussex (KSS). Mae’r system hefyd wedi’i hehangu i ardaloedd yn Llundain ac mae cynlluniau ar y gweill i’w chyflwyno drwy’r holl Ranbarthau Prawf. Hyd yma, mae dros 50,000 o gyfarfodydd wedi cael eu trawsgrifio. Bydd gwerthusiad llawn, sy’n cael ei arwain gan yr uned sy’n gyfrifol am AI yn y system gyfiawnder, yn ystyried effaith y dechnoleg ar y gwasanaeth a’r modd y caiff ei defnyddio yn ehangach.
Drwy ddefnyddio technoleg AI, dangosodd Gwasanaeth Prawf Cymru sut y gall arloesi drawsnewid ymarfer, gan greu capasiti, gwella ansawdd gwasanaethau, a hybu dull o weithio sy’n canolbwyntio mwy ar yr unigolyn. Mae hyn yn cyd-fynd â strategaeth ehangach y Gwasanaeth Prawf ar gyfer cyflwyno technoleg i wella canlyniadau i bobl sydd ar brawf. Mae’n cyd fynd hefyd â rhaglen ‘Gwasanaeth Prawf y Dyfodol’, sy’n ceisio creu gwasanaeth prawf sy’n barod am y dyfodol drwy drawsnewid digidol, gwella effeithlonrwydd gweithredol, a lleihau llwyth gwaith y gwasanaeth prawf. Y nod yn hyn o beth yw gwella’r gwasanaethau a gaiff eu darparu a hybu cynaliadwyedd.
Dilynwch y ddolen hon i weld adborth y staff am y defnydd o AI.
Enghraifft o waith effeithiol: Y Tîm Ailsefydlu, Atgyfeirio a Gwerthuso Gweithredol Canolog (CORRE)
Roedd tîm CORRE yn elfen allweddol ym model unedig Gwasanaeth Prawf Cymru. Roedd yn gyswllt canolog rhwng ymarferwyr prawf a gwaith ymyriadau, a hynny’n golygu ymwneud â darparwyr yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a’r trydydd sector. Yn wahanol i ranbarthau yn Lloegr, lle mae systemau digidol yn cael eu defnyddio’n bennaf i helpu i atgyfeirio at wasanaethau adsefydlu a gomisiynir, roedd tîm CORRE yn rheoli amrywiaeth ehangach o ymyriadau, a’r rheini’n cynnwys yr adnodd ar gyfer atgyfeirio a monitro ar yr un pryd (gwasanaeth digidol ymyriadau).
Diben
Roedd tîm CORRE yn helpu ymarferwyr prawf gan ei fod:
- yn canfod ymyriadau addas
- yn gwella ansawdd asesiadau a’r gwaith o gynllunio dedfrydau
- yn fodd o gwblhau atgyfeiriadau yn gyflym ac yn gywir.
Drwy gael gwared ar dasgau gweinyddol sy’n llyncu amser, roedd tîm CORRE yn galluogi ymarferwyr prawf i ganolbwyntio ar oruchwylio ac ar ymgysylltu â phobl, gan arwain at well canlyniadau i bobl sydd ar brawf. Yn ystod yr arolygiad, roedd gan 77 y cant o’r achosion yr edrychwyd arnyn nhw gynlluniau a oedd yn canolbwyntio’n ddigonol ar leihau aildroseddu ac ar helpu pobl i ymatal rhag troseddu, gyda rhai unedau cyflawni’n cyrraedd lefelau digonolrwydd uwch fyth.
Ymhlith y prif elfennau roedd:
- rheoli atgyfeiriadau: atgyfeiriadau wedi’u brysbennu, eu blaenoriaethu a’u monitro drwy ymyriadau mewnol, gwasanaethau adsefydlu a gomisiynir, a darpariaeth gymunedol
- dylanwad strategol: tracio cyfraddau atgyfeirio, canfod bylchau, a gwaith comisiynu ar sail gwybodaeth
- sicrhau ansawdd: defnyddio adnoddau sicrhau ansawdd a chylchoedd adborth myfyriol i barhau i wneud gwaith o ansawdd da sy’n ateb anghenion Arolygiaeth Prawf EF.
- promptio: rhaglen achrededig oedd yn cael ei datblygu’n weithgar a gofynion yn gysylltiedig â gwaith di-dâl, gan sicrhau bod y rhain yn dilyn trefn dda.
Yn 2024, cefnogodd tîm CORRE 9,036 o gynlluniau dedfryd a phrosesodd 8,122 o atgyfeiriadau at wasanaethau adsefydlu a gomisiynir. Gwnaed yr atgyfeiriadau hyn 50 y cant yn gyflymach na’r cyfartaledd cenedlaethol. Cadarnhaodd adroddiad adnodd asesu Cymru (Gorffennaf 2024) fod cynlluniau dedfryd CORRE yn fwy tebygol o ymgysylltu’n llwyddiannus ag unigolion ac o leihau aildroseddu. At hynny, mae gwaith sicrhau ansawdd tîm CORRE yn parhau i arwain at welliannau wrth gynllunio dedfrydau ac yn y prosesau atgyfeirio.
Roedd swyddogion gwasanaethau prawf CORRE yn cadw cyfeirlyfr o wasanaethau a ddarperir drwy Gymru gyfan. Roedd hyn yn golygu bod y swyddogion hyn yn bwyntiau cyswllt pan fyddai angen gwybodaeth arbenigol ar bobl, ac roedd yn galluogi ymarferwyr i gynnig ymyriadau wedi’u teilwra’n arbennig – er enghraifft, cymorth pan fyddai gan bobl anafiadau i’r ymennydd neu awtistiaeth. Dywedodd y rhanbarth fod y cyfathrebu’n dda rhwng yr unedau cyflawni a darparwyr gwasanaethau adsefydlu a gomisiynir. Roedd adroddiadau misol CORRE yn tracio perfformiad ac yn sail i welliant parhaus.
Roedd tîm CORRE yn creu arbedion maint, yn trosglwyddo’r baich gweinyddol o ymarferwyr prawf i dimau dynodedig, ac yn gwreiddio blaenoriaethau strategol yn y gwaith o gynllunio dedfrydau. Roedd y dull hwn yn sicrhau ansawdd, cysondeb a phrydlondeb; roedd yn hwb i agenda ‘dechrau’n iawn, gorffen yn iawn’ y rhanbarth; ac roedd yn gwella canlyniadau i bobl sydd ar brawf.
Gwaith llys (Back to top)
Enghraifft o waith effeithiol: Dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth wneud argymhellion yn yr adroddiad cyn-dedfrydu
Cafodd Barry, dyn 40 oed, euogfarn am fethu darparu sbesimen anadl. Codwyd pryderon am faterion diogelu oherwydd honiadau blaenorol o gam-drin domestig.
Cofnod cynhwysfawr o’r troseddu a’r amgylchiadau:
- Rhoddwyd adroddiad cyn-dedfrydu ar lafar ar ddiwrnod y ddedfryd, a hwnnw’n dangos lefel uchel o chwilfrydedd proffesiynol a dyfnder dadansoddol.
- Cafodd yr ymholiadau perthnasol am faterion diogelu eu dychwelyd wedi’u hystyried yn drylwyr, gan gynnwys edrych ar gofnodion galw’r heddlu a gwybodaeth am ddiogelu plant.
- Defnyddiwyd rhagfynegyddion risg yn briodol i helpu gyda’r asesiad, gan ddefnyddio’r drosedd fynegai a hanes troseddu blaenorol yr unigolyn.
Dull cytbwys wedi’i seilio ar dystiolaeth:
- Cymerodd Barry ran amlwg yn y trafodaethau am yr opsiynau dedfrydu, ac aseswyd a chofnodwyd y ffaith ei fod yn awyddus i ymwneud â’r ymyriadau.
- Edrychwyd yn fanwl ar gyfrifoldebau Barry, ac ystyriwyd yr effaith bosibl ar ei ddioddefwyr.
- Rhoddodd awdur yr adroddiad cyn-dedfrydu ystyriaeth lawn i amgylchiadau personol Barry, ac yn enwedig i’w rôl fel prif ofalwr tri o blant awtistig, gan ddefnyddio dull o weithio a oedd yn ystyriol o drawma ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
Y canlyniad: Roedd yr adroddiad cyn-dedfrydu yn ddadansoddol ac yn bersonol. Roedd yn effeithiol wrth helpu i wneud penderfyniadau barnwrol gan ei fod yn rhoi sylw i’r risg o aildroseddu ac achosi niwed. Roedd yn argymell gorchymyn cymunedol realistig, wedi’i deilwra, a oedd yn cydbwyso anghenion Barry â’i gyfrifoldebau teuluol. Cafodd Barry ddedfryd o orchymyn cymunedol, a fyddai’n cynnwys gwaith di-dâl a gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu. Roedd y ddedfryd yn gymesur a byddai modd ei chyflawni yng nghyd-destun ei ddyletswyddau teuluol.
Model ASPIRE ar gyfer goruchwylio achosion (Back to top)
Mae ymarfer prawf cyfoes yn seiliedig ar fodel goruchwylio achosion ASPIRE (Asesu, Cynllunio, Gweithredu, Adolygu). Yn ein harolygiadau craidd, rydym yn barnu ansawdd y ddarpariaeth mewn achosion unigol yn erbyn camau’r broses ASPIRE.’[3]

Wrth arolygu’r modd y caiff achosion oedolion eu goruchwylio, mae’r pedair safon a ddefnyddir yn dilyn model ASPIRE, a hynny drwy ganolbwyntio ar ansawdd yr asesu, y cynllunio, y gweithredu a’r adolygu. O dan bob safon, byddwn yn asesu ansawdd yr ymgysylltu ag unigolion, y gwaith i helpu unigolion i ymatal rhag troseddu, a’r gwaith i gadw pobl eraill yn ddiogel.
Mae’r enghreifftiau canlynol o achosion yn dangos sut y defnyddiodd ymarferwyr prawf fodel ASPIRE i oruchwylio’n effeithiol. Maen nhw’n amlygu ymarfer cryf o ran asesu risgiau, diogelu, cydweithio amlasiantaethol, ac addasu wrth ymgysylltu â phobl.
Enghraifft o waith effeithiol: Dull addasol wedi’i seilio ar wybodaeth, yn blaenoriaethu amddiffyn y cyhoedd ac yn helpu i ailintegreiddio.
Cafodd Terry, dyn 47 oed, ddedfryd o garchar am dorri gorchymyn atal. Methodd gydymffurfio â chamau a oedd yn gosod cyfyngiadau arno, a bu’n gwthio’r ffiniau’n gyson yn ystod ei ddedfryd, gan arwain at ei adalw.
- Asesiad trylwyr a phrydlon, a’r gwaith cynllunio ar gyfer ailsefydlu wedi’i gydlynu:
- Roedd yr adroddiad cyn-dedfrydu’n drylwyr. Roedd yn cynnwys ymholiadau am faterion diogelu, a dadansoddiadau o’r risg, o allu Terry i ymatal rhag troseddu, ac o’r effaith ar y dioddefwr.
- Roedd y gwaith cynllunio amlasiantaethol ar gyfer ailsefydlu yn rhoi sylw i anghenion o bwys fel llety, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, a materion ariannol.
- Roedd amodau’r drwydded a thag GPS yn helpu i reoli’r risg.
- Roedd yr asesiad yn rhoi sylw i amgylchiadau personol, amrywiaeth, a ffactorau’n ymwneud ag amddiffyn pobl, gyda chwilfrydedd proffesiynol yn amlwg wrth edrych ar y pryderon a oedd yn dod i’r amlwg.
- Roedd y gwaith cynllunio’n edrych ar rwystrau fel natur wledig yr ardal dan sylw a thrafnidiaeth.
- Gweithredu a darparu’n rhagweithiol ac yn ymatebol:
- Bu’r ymarferydd prawf yn gweithio gyda’r unigolyn mewn ffordd ystyrlon, a hynny’n gyson. Cymerodd gamau gorfodi’n chwim, a chydlynodd gymorth gan wasanaethau adsefydlu a gomisiynir ar gyfer symud o’r carchar i’r gymuned.
- Rhoddwyd blaenoriaeth i reoli risg drwy amrywiadau yn y drwydded a defnyddio tag GPS.
- Adolygu gweithgar ac addasol:
- Byddai’r gwaith rheoli risg yn cael ei ddiweddaru’n rheolaidd, gyda Terry’n cyfrannu at y broses.
- Golygodd atgyfeiriad at drefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) Lefel 2, ynghyd â goruchwyliaeth gan uwch swyddog prawf, fod y penderfyniadau a wnaed yn gadarn.
Y canlyniad: Dangosodd yr achos hwn ymarfer cryf, cyson ym mhob parth wrth oruchwylio. Er gwaethaf heriau o ran cydymffurfio, parhaodd yr ymarferydd prawf i roi ffocws clir ar reoli risgiau, ar ymatal rhag troseddu, ac ar ddiogelu.
Enghraifft o waith effeithiol: Cynllunio a darparu gwasanaeth mewn ffordd a oedd yn cydbwyso gwaith i ymgysylltu â’r unigolyn, gwaith i helpu’r unigolyn i ymatal rhag troseddu, a gwaith i gadw pobl eraill yn ddiogel.
Cafodd Emily, menyw 35 oed, ddedfryd o orchymyn cymunedol gyda gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu, a hynny am droseddau treisgar. Roedd ganddi anghenion niferus a chymhleth, gan gynnwys diagnosau o awtistiaeth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), dyslecsia, gorbryder ac iselder. Penderfynwyd bod Emily hefyd yn fenyw a oedd yn agored i niwed.
- Chwilfrydedd proffesiynol o’r dechrau’n deg:
- Parhaodd yr ymarferydd prawf i roi ffocws cryf ar ddiogelu, a pharhaodd i wneud ymholiadau am gam-drin domestig a diogelu plant drwy gydol y gorchymyn.
- Byddai’r asesiadau risg yn cael eu diweddaru’n brydlon wrth ymateb i newidiadau yn amgylchiadau Emily. Roedd y rhain yn rhoi sylw i wybodaeth gan asiantaethau partner a gwybodaeth y byddai Emily yn ei datgelu.
- Ymgysylltu â’r unigolyn ac ymarfer yn seiliedig ar amrywiaeth:
- Addasodd yr ymarferydd prawf ei ddull o ymateb i niwroamrywiaeth Emily, gan feithrin perthynas drwy opsiynau goruchwylio hyblyg a oedd yn lleddfu gorbryder.
- Trefnwyd apwyntiadau o amgylch anghenion trafnidiaeth Emily, a’u cynnal mewn canolfan leol i fenywod. Golygodd hyn bod modd osgoi mynd i lefydd a oedd yn llethu Emily, gan wella’i phresenoldeb.
Ymyriadau a gwaith amlasiantaethol:
- Bu Emily’n ymwneud yn dda â gwaith strwythuredig mewn canolfan i fenywod, a hynny drwy wasanaethau adsefydlu a gomisiynir. Yn gefn i hynny, cynhaliwyd ymweliadau â’i chartref a sesiynau Camau Cyntaf i Newid.
- Roedd y gwaith goruchwylio’n gydweithredol ac yn dryloyw. Edrychodd yr ymarferydd prawf ar y system asesu troseddwyr gydag Emily, er mwyn meithrin ymddiriedaeth a pherchnogaeth.
- Roedd y cynllun rheoli risgiau’n gadarn, gydag asiantaethau eraill yn cyfrannu ato, a hwnnw’n blaenoriaethu diogelwch dioddefwyr drwy osod ffiniau clir.
- Roedd cynlluniau wrth gefn i’w gweld o hyd, gan helpu i reoli risgiau mewn ffordd gyson.
Adolygu a rheoli risgiau:
- Parhaodd yr ymarferydd prawf i ddangos chwilfrydedd proffesiynol, a heriodd Emily mewn ffordd briodol pan ddaeth trosedd newydd honedig i’r golwg.
- Roedd yr adolygiadau o risgiau’n seiliedig ar ddiweddariadau gan y gwasanaeth menywod, a hynny’n sicrhau bod y cynllun dedfrydu’n parhau i ymateb i anghenion Emily wrth i’r rheini newid.
Y canlyniad: Cwblhaodd Emily ei gorchymyn cymunedol yn llwyddiannus, gyda dull hyblyg, ystyriol o drawma, ynghyd â chydweithio amlasiantaethol cryf, yn sail i hynny. Roedd yr achos yn cydbwyso gwaith i ymgysylltu â’r unigolyn ar y naill law â gwaith i reoli risgiau ar y llall, gan arwain at ganlyniadau cadarnhaol i Emily a’r gymuned ehangach.
Chwilfrydedd proffesiynol (Back to top)
Mae chwilfrydedd proffesiynol yn hanfodol i ymarfer yn effeithiol wrth roi gwasanaethau prawf. Mae’n golygu cwestiynu’n rhagweithiol, meddwl yn feirniadol, a myfyrio i ddeall amgylchiadau unigolyn yn llawn. Drwy edrych y tu hwnt i wybodaeth arwynebol a thrwy herio rhagdybiaethau, gall ymarferwyr lwyddo’n well i ganfod risgiau ac anghenion sy’n guddiedig. Mae’r dull hwn yn arbennig o bwysig yn y maes diogelu, lle gall methu arwyddion arwain at ganlyniadau gwael. Yn ein harolygiadau, rydyn ni wedi amlygu’r ffaith bod diwylliant chwilfrydig, gyda goruchwyliaeth, deialog agored ac ymwybyddiaeth o ragfarn yn gefn i hynny, yn gwella’r broses o oruchwylio achosion a gwneud penderfyniadau.
Yn ôl gwaith ymchwil a wnaed ymhlith gweithwyr prawf proffesiynol gan Phillips et al. (2022), roedd dealltwriaeth ymarferwyr o chwilfrydedd proffesiynol yn perthyn i un o bedwar categori bras:
- chwilfrydedd proffesiynol sy’n canolbwyntio ar risgiau
- chwilfrydedd proffesiynol therapiwtig
- chwilfrydedd proffesiynol sy’n meithrin gwybodaeth (yn gwella gwybodaeth yr ymarferydd ei hun)
- chwilfrydedd proffesiynol niwtral (cwestiynu pethau’n gyffredinol, bod yn ‘fusneslyd’).
Er bod chwilfrydedd proffesiynol yn aml yn cael ei gysylltu ag asesu risg, mae iddo werth ymhell y tu hwnt i hyn. Anogir ymarferwyr i fabwysiadu safbwynt ehangach, gan ddefnyddio chwilfrydedd fel adnodd therapiwtig i feithrin ymddiriedaeth, i edrych yn fanwl ar fywydau unigolion, ac i hybu eu datblygiad proffesiynol parhaus eu hunain.
Yn yr enghreifftiau isod o achosion, gwelson ni sut yr oedd chwilfrydedd proffesiynol yn sail i ymarfer prawf effeithiol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Yn y naill achos a’r llall, roedd ymarferwyr prawf wedi mynd y tu hwnt i ymgysylltu â’r unigolyn yn arwynebol yn unig, a hynny er mwyn dod o hyd i risgiau cudd a phethau cudd a oedd yn gwneud yr unigolyn yn agored i niwed. Roedd eu dycnwch a’u gwaith cydlynu amlasiantaethol rhagweithiol wedi’u galluogi i ymateb yn gadarn i bryderon am ddiogelu, gan amlygu pa mor hollbwysig yw chwilfrydedd wrth reoli achosion cymhleth ac wrth amddiffyn y cyhoedd.
Enghraifft o waith effeithiol: Canfod achos o ecsbloetiaeth drwy chwilfrydedd proffesiynol
Cafodd Jakub, dyn 59 oed o gefndir Pwylaidd, orchymyn cymunedol am gario cyllell mewn man cyhoeddus ac am drosedd yrru ar wahân. Roedd Jakub wedi’i fagu yng Ngwlad Pwyl, felly nid Saesneg oedd ei famiaith. Cynigiwyd cyfieithydd ar y pryd iddo, ond gwrthododd, gan ddweud ei fod yn deall Saesneg. Serch hynny, roedd hi’n ymddangos nad oedd yn deall popeth yn iawn.
Asesu ac ymgysylltu cychwynnol cryf:
- Edrychodd yr ymarferydd prawf ar anghenion personol Jakub a’i anghenion o ran amrywiaeth, gan ganfod fod galar, ynysigrwydd a sefyllfa dai ansefydlog yn heriau o bwys. Roedd Jakub yn barod i gyfrannu at yr asesiad, lle daeth pryderon i’r amlwg ynghylch unigrwydd, defnyddio alcohol, ac ansefydlogrwydd o ran gwaith, a’r cyfan yn gysylltiedig â’i sefyllfa lety.
Canfod y pryderon a oedd yn dod i’r amlwg:
- Dangosodd yr ymarferydd prawf chwilfrydedd proffesiynol cryf, gan ganfod y gallai Jakub fod yn agored i niwed drwy gaethwasiaeth fodern.
- Rhoddwyd ymateb diogelu amlasiantaethol ar waith, gan gynnwys cysylltu â’r heddlu, gwneud atgyfeiriad at gynhadledd amlasiantaeth asesu risg (MARAC), cynnal archwiliadau gofal cymdeithasol, a chysylltu ag asiantaeth arbenigol.
- Holwyd y gwasanaethau cymdeithasol a chysylltwyd â thimau allgymorth y stryd pan nad oedd modd cysylltu â Jakub.
- Bu Jakub yn gweithio gydag asiantaeth arbenigol sy’n cefnogi dioddefwyr caethwasiaeth fodern.
- Defnyddiwyd cyfieithydd ar y pryd i sicrhau bod Jakub yn deall y pryderon pan lwyddwyd i ailgysylltu ag o.
Rheoli risg a gorfodi effeithiol:
- Pan na fyddai Jakub yn barod i ymwneud â’r gwasanaeth, byddai’r ymarferydd yn cymryd camau rhagweithiol i ailsefydlu cyswllt, gan ddod o hyd i’w rif ffôn newydd. Sylwodd hefyd ar arwyddion bod iechyd Jakub yn dirywio.
- Cychwynnwyd achos torri amod, gan gynnig ymwneud eto â Jakub pe bai’n ymateb i wŷs y llys.
Y canlyniad: Dangosodd yr ymarferydd prawf chwilfrydedd cyson, gan wneud gwaith amlasiantaethol effeithiol i ddiogelu Jakub, a oedd yn wynebu risg o ecsbloetiaeth. Mae’r achos yn amlygu gwerth chwilfrydedd a dulliau hyblyg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn wrth ganfod risgiau cudd a chefnogi pobl sy’n agored i niwed.
Enghraifft o waith effeithiol: Rheoli risgiau drwy waith amlasiantaethol dygn
Cafodd Yasir, a oedd yn 40 oed ac yn dod o Irac, orchymyn dedfryd wedi’i gohirio i gychwyn, gyda gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu, a hynny am droseddau gyrru. Oherwydd diffyg cydymffurfio cyson, cafodd ail ddedfryd o garchar. Aseswyd bod gan Yasir risg uchel iawn o achosi niwed difrifol. Roedd ei achos yn gymhleth tu hwnt: bu’n defnyddio sawl enw arall, roedd yr wybodaeth a oedd ar gael weithiau’n groes, ac roedd cysylltiadau â cham-drin domestig a throseddu cyfundrefnol. Roedd y ffactorau hyn yn amharu ar y broses o rannu gwybodaeth, ac yn galw am ymateb amlasiantaethol wedi’i gydlynu’n dda.
Chwilfrydedd proffesiynol rhagweithiol:
- Aeth yr ymarferydd prawf ati i chwilio am wybodaeth o amrywiaeth eang o ffynonellau, gan driongli’r wybodaeth honno, a oedd yn cynnwys gwybodaeth am gam-drin domestig, y risgiau i blant, a throseddu cyfundrefnol.
- Roedd dygnwch yr ymarferydd prawf wrth gysylltu ag asiantaethau niferus yn allweddol er mwyn creu darlun llawnach o’r risgiau dan sylw.
Cydlynu amlasiantaethol:
- Daeth troseddau newydd honedig i’r amlwg, ynghyd â chymhlethdodau trawsffiniol, gan greu heriau wrth i asiantaethau geisio rhannu gwybodaeth yn effeithiol.
- Gwnaeth yr ymarferydd prawf atgyfeiriad MAPPA Lefel 2. Sicrhaodd hyn bod gwaith cynllunio amlasiantaethol strwythuredig yn cael ei wneud a bod mwy o wybodaeth am bryderon diogelu, yn enwedig y rheini’n ymwneud â phlant.
- Cafodd yr ymarferydd prawf drafodaethau â’r gwasanaethau carchardai i helpu i fonitro cyfathrebu. Cydweithiwyd â’r gwasanaeth cynghori annibynnol ar gyfer cam-drin domestig (IDVA) i roi sylw i risgiau a oedd yn gysylltiedig ag amgylchiadau Yasir wrth i’r rheini newid.
- Anogwyd partner Yasir i ymwneud eto â gwasanaethau cymorth diogelu, gan gynnwys cymryd camau i galedu’r targed wrth baratoi ar gyfer rhyddhau posibl.
- Gwnaed atgyfeiriad at yr uned troseddu cyfundrefnol oherwydd pryderon am gysylltiadau Yasir, ei waith, a’i weithgarwch ariannol.
Y canlyniad: Er gwaethaf yr heriau, arweiniodd ymdrechion yr ymarferydd prawf at well cydlynu amlasiantaethol, at gymryd gwell camau diogelu, ac at ddealltwriaeth gliriach o’r risgiau a fodolai. Golygodd dedfryd Yasir o garchar bod modd cynllunio ymhellach i reoli’r risgiau.
Gwaith i amddiffyn y cyhoedd (Back to top)
Enghraifft o waith effeithiol: Ymarfer prawf yn ymateb yn effeithiol i risgiau
Cafodd Greg, dyn 33 oed, orchymyn cymunedol gyda gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu am droseddau gyrru. Rhoddwyd y gorchymyn hwn heb adroddiad cyn-dedfrydu. Roedd gan Greg hanes cymhleth o drais, troseddau’n gysylltiedig â chyffuriau, a throseddau meddiangar. Roedd wedi cael diagnosis o ADHD ac anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD). Aseswyd bod risg uchel y gallai Greg achosi niwed difrifol i blant, i’r cyhoedd, ac i oedolyn hysbys. Roedd ei risgiau’n gysylltiedig â throseddu cyfundrefnol, cam-drin domestig, a thrais cyffredinol.
Gwaith cryf i reoli risgiau:
- Ymatebodd yr ymarferydd prawf yn chwim i ddigwyddiadau adroddadwy, a’u gosod yng nghyd-destun proffil risg Greg.
- Cymerodd yr ymarferydd prawf gamau penodol a phrydlon i ddiogelu pobl eraill, gan gynnwys atgyfeiriadau at MAPPA a MARAC, trafod â’r heddlu, cysylltu â’r partner, a gweithio gyda’r IDVA a gwasanaethau plant.
- Aeth yr ymarferydd prawf ati i chwilio am ragor o wybodaeth i roi sail i benderfyniadau a sicrhau ymatebion priodol ar gyfer diogelu.
Gwneud penderfyniadau clir:
- Roedd nodiadau’r achos a chyfweliadau’r ymarferydd prawf yn dangos tystiolaeth o resymeg glir dros yr asesiadau risg a’r camau gweithredu a gymerwyd.
- Roedd goruchwyliaeth y rheolwyr yn effeithiol. Roedd y rheolwyr wedi gosod targedau CAMPUS strwythuredig a oedd yn llywio ymateb yr ymarferydd prawf i bryderon am ddiogelu, wrth i’r rheini ddod i’r amlwg, ac i’r risgiau wrth iddyn nhw fynd yn fwy difrifol.
- Roedd proses y digwyddiadau adroddadwy yn helpu i gydlynu’r gwaith amlasiantaethol. Arweiniodd atgyfeiriad MAPPA Lefel 2 at gyfarfodydd â gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, a hynny’n gwella’r broses o rannu gwybodaeth a chynllunio ar y cyd.
Y canlyniad: Mae’r achos yn dangos sut y gall casglu gwybodaeth yn gyson, gweithio amlasiantaethol, ac ymarfer ymatebol – gyda goruchwyliaeth gryf gan reolwyr yn sail i hynny – sicrhau bod modd gwneud gwaith effeithiol i reoli risgiau cymhleth a risgiau sy’n esblygu.
Enghraifft o waith effeithiol: Gwaith diogelu holistig effeithiol wrth reoli achosion
Cafodd James, dyn 33 oed, ddedfryd o orchymyn cymunedol gyda gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu, rhaglen achrededig, ac ymwrthod ag alcohol yn dilyn trosedd cam-drin domestig. Aseswyd bod risg uchel y gallai achosi niwed difrifol.
Ymarfer effeithiol wrth wneud gwaith diogelu:
- Dangosodd yr ymarferydd prawf ymarfer cyson gryf wrth wneud gwaith diogelu.
- Aseswyd y risg i bobl eraill yn drylwyr gan asesu’r risg y gallai rhywun ymosod ar briod (SARA).
- Ystyriwyd yn ofalus effaith ehangach ymddygiad James ar ei deulu, gan gynnwys ei rieni a pherthnasau ifanc.
- Defnyddiwyd data am alw’r heddlu yn effeithiol wrth gynnal asesiadau risg.
- Gwnaed ymholiadau am faterion diogelu i nifer o awdurdodau lleol.
- Roedd deialog agored â James a’i fam yn hybu tryloywder, yn rhoi sail i benderfyniadau, ac yn sicrhau trywydd archwilio clir o ran diogelu.
Diogelu oedolion:
- Yn ystod ymweliad â’r cartref, sylwodd yr ymarferydd prawf y gallai tad James fod yn agored i niwed a thrafododd â mam James atgyfeiriad posibl i ddiogelu oedolyn. Gwnaed atgyfeiriad, gan arwain at asesiad ffurfiol o anghenion y teulu.
- Ystyriodd yr ymarferydd prawf hefyd y risg roedd James yn ei hachosi i’w rieni oherwydd ei hanes o gam-drin domestig, gan ddilyn dull diogelu holistig ac ataliol.
Ymyriadau prydlon a chydlynu amlasiantaethol:
- Gwnaeth yr ymarferydd prawf atgyfeiriadau chwim at wasanaethau ymyrryd.
- Bu James yn gweithio gyda gwasanaethau lles personol cyn dechrau rhaglen achrededig.
- Defnyddiwyd proses CORRE yn effeithiol, gan sicrhau bod atgyfeiriadau’n cael eu rhoi ar waith yn brydlon a bod ymyriadau’n cyd-fynd â’r risgiau a’r anghenion.
Y canlyniad: Yn sgil cynllunio cydlynol a gwaith diogelu rhagweithiol yr ymarferydd prawf, helpwyd James i gwblhau ei weithgareddau adsefydlu ac i barhau i ymwneud â gwasanaethau. Rhoddodd atgyfeiriadau sylw i’r risgiau ehangach i deulu James, gan gynnwys asesiad diogelu oedolion ffurfiol a gryfhaodd y camau i ddiogelu ei dad. Mae’r achos yn dangos sut y gall camau diogelu strwythuredig ac ymyriadau prydlon leihau risgiau ac arwain at ganlyniadau mwy diogel i unigolion a theuluoedd.
Gwaith amlasiantaethol a rhannu gwybodaeth (Back to top)
Mae cydweithio amlasiantaethol effeithiol a rhannu gwybodaeth yn brydlon yn hollbwysig mewn ymarfer prawf cadarn, yn enwedig wrth weithio gydag unigolion sydd â risgiau ac anghenion cymhleth. Drwy gydlynu â phartneriaid fel gwasanaethau gofal cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau tai a’r heddlu, gall ymarferwyr prawf feithrin dealltwriaeth drylwyr o risg, cryfhau camau diogelu, a rhoi cymorth wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer adsefydlu.
Mae’r dystiolaeth yn dangos bod cydweithio o’r fath yn gwella canlyniadau drwy feithrin cyd-atebolrwydd a thrwy alluogi ymarferwyr prawf i gynnig ymyriadau sy’n adlewyrchu amgylchiadau unigryw’r unigolyn a’r pethau unigryw sy’n ei wneud yn agored i niwed (Pycroft a Gough, 2019). At hynny, mae adolygiadau o achosion difrifol a threfniadau i amddiffyn y cyhoedd yn amlygu’n gyson pa mor hollbwysig yw rhannu gwybodaeth wrth atal niwed (Waring et al., 2022; Y Weinyddiaeth Gyfiawnder, 2024). Mewn gwasanaethau prawf, nid arferion gweithdrefnol yn unig yw’r rhain, ond dulliau hollbwysig o reoli risg, diogelu a helpu unigolion i ymatal rhag troseddu yn y tymor hir.
Mae’r achosion isod yn enghreifftiau o’r modd y dangosodd ymarferwyr prawf chwilfrydedd proffesiynol, ynghyd â chydlynu ymatebion amlasiantaethol i ddiogelu oedolion a phlant a oedd yn agored i niwed. Maen nhw’n dangos sut y gall ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolion arwain at reoli risgiau a hybu adsefydlu, a hynny drwy ymgysylltu’n rhagweithiol ag unigolion, asesu’n drylwyr, a chynllunio mewn ffordd ymatebol.
Enghraifft o waith effeithiol: Ymateb i anghenion cymhleth ac amrywiol drwy gymryd camau diogelu
Cafodd Evan, dyn 31 oed, ddedfryd o orchymyn cymunedol am gynnau tân bwriadol, a hynny ar ôl llosgi sbwriel a gymerwyd o sgip a’i roi mewn bin. Roedd ganddo hanes hir o droseddu, ac roedd ei ymddygiad yn adlewyrchu obsesiwn â thaclusrwydd a diffyg hunanreoli, a oedd yn cynnwys gwneud pethau llawn risg fel llosgi gwastraff a bwyta bwyd oedd wedi difetha.
Deall anghenion cymorth:
- Dangosodd yr ymarferydd prawf ddealltwriaeth gref o anghenion cymhleth Evan, gan gydnabod effaith problemau niwroamrywiol, camddefnyddio sylweddau a hunanesgeulustod.
- Gweithiodd yr ymarferydd prawf yn effeithiol gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion i ddod o hyd i lety â chymorth i Evan, ar ôl gwneud asesiadau o gapasiti.
- Cyfrannodd yr ymarferydd prawf at gyfarfodydd ‘hunanesgeulustod’ amlasiantaethol, gan gydlynu â gwasanaethau tai, yr heddlu, gwasanaethau iechyd a staff carchardai i gynllunio at pan fyddai Evan yn cael ei ryddhau.
- Ystyriodd yr ymarferydd prawf yr elfennau a wnâi Evan yn agored i niwed, gan gynnwys niwroamrywiaeth, digartrefedd, a hunan-niweidio, er mwyn rheoli’r risgiau yr oedd yn eu hwynebu.
- Roedd gwaith cyfathrebu cryf a chyd-atebolrwydd rhwng asiantaethau’n golygu bod modd ymateb mewn ffordd holistig ac ataliol.
Y canlyniad: Dangosodd achos Evan sut y mae cydlynu amlasiantaethol yn bwysig er mwyn rheoli anghenion cymhleth a risgiau wrth i’r rheini fynd yn fwy difrifol. Gweithiodd asiantaethau gyda’i gilydd i roi sylw i drawma Evan, i heriau niwroddatblygiadol, ac i broblemau hunanreoli. Datblygwyd cynllun rheoli risgiau wedi’i deilwra i leihau niwed, i atal digartrefedd, ac i helpu i ailintegreiddio Evan mewn ffordd sefydlog.
Enghraifft o waith effeithiol: Ymarfer effeithiol wrth reoli risgiau a diogelu plant
Cafodd Henry, dyn 34 oed, ddedfryd o orchymyn cymunedol am droseddau treisgar, gyda gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu. Nid oedd ganddo euogfarnau blaenorol ac nid oedd anghenion amrywiaeth wedi’u canfod, er y nodwyd bod ganddo amgylchiadau personol a oedd yn gysylltiedig â chyflogaeth. Aseswyd ei fod yn achosi risg uchel, gyda phryderon am gam-drin domestig a diogelu plant.
Diogelu a chwilfrydedd proffesiynol:
- Dangosodd yr ymarferydd prawf chwilfrydedd proffesiynol a bu’n effro i faterion drwy gydol yr achos.
- Ar ôl dysgu bod Henry yn byw gyda’r fenyw a oedd i bob golwg wedi dioddef y drosedd fynegai, gwnaeth yr ymarferydd prawf atgyfeiriad yn syth at wasanaethau cymdeithasol plant ac ymwelodd â’r cartref i fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r sefyllfa.
- Yn sgil y camau hyn, daeth gwasanaethau cymdeithasol plant yn rhan o’r achos, a gwnaed gwaith cynllunio amlasiantaethol effeithiol i ddiogelu’r plant.
Cydweithio a chyfathrebu:
- Llwyddwyd i aros mewn cyswllt â’r dioddefwr ac ysgol y plant, yn enwedig pan ddatgelodd Henry wybodaeth a oedd yn groes i’r cynlluniau diogelu y cytunwyd arnyn nhw.
- Sefydlwyd cylch adborth parhaus i gadw golwg ar gynnydd Henry a’r modd yr oedd yn ymwneud â’r gwasanaeth, a hynny’n helpu i asesu risgiau’n ddynamig a chymryd camau diogelu.
- Cyfrannodd camau rhagweithiol yr ymarferydd i rannu gwybodaeth at greu cynllun cadarn i ofalu am ddiogelwch y plant.
Y canlyniad: Yn sgil ymateb prydlon a chydlynol yr ymarferydd prawf, gyda chwilfrydedd proffesiynol a chydweithio effeithiol yn sail i hynny, cryfhawyd y camau diogelu a chrëwyd amgylchedd mwy diogel i’r plant dan sylw.
Enghraifft o waith effeithiol: Camau diogelu rhagweithiol a rhannu gwybodaeth
Cafodd Kenny, dyn 34 oed, ddedfryd fer o garchar am dorri gorchymyn atal. Ar adeg y ddedfryd, roedd ganddo ddau orchymyn cydamserol. Dangosodd ymholiadau ynghylch diogelu a cham-drin domestig fod hanes o alw’r heddlu mewn perthynas â’r dioddefwr presennol, a chanfuwyd bod dau o blant yn gysylltiedig â’r achos a hwythau wedi ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol plant.
Asesu a chynllunio rhagweithiol wedi’u cydlynu’n dda:
- Dangosodd yr ymarferydd prawf ddealltwriaeth gref o anghenion personol a throseddogenig Kenny, gan gynnwys ystyriaethau’n gysylltiedig ag amrywiaeth mewn meysydd fel iechyd meddwl a thai.
- Roedd y gwaith asesu’n drylwyr ac yn ymatebol, gyda chwilfrydedd proffesiynol yn amlwg wrth edrych ar y risgiau a oedd yn dod i’r amlwg a phryderon am ddiogelu.
Rhannu gwybodaeth yn effeithiol ac yn brydlon rhwng asiantaethau:
- Bu’r ymarferydd prawf yn trafod â’r heddlu i sicrhau bod fflagiau risg yn cael eu rhoi ar gyfeiriad y dioddefwr.
- Cysylltodd yr ymarferydd prawf â gwasanaethau IDVA i gadarnhau bod cymorth cyson yn cael ei roi i’r dioddefwr.
- Adolygwyd y digwyddiadau adroddadwy a’u cofnodi’n ofalus, a hynny’n cyfrannu at greu dull cadarn o reoli risgiau.
- Gwnaed ymdrechion i ganfod statws lletya Kenny ar ôl i’w CAS3 ddod i ben, ac i adolygu ei anghenion iechyd meddwl.[4]
Gwaith cryf i ailosod gwasanaethau prawf:
- Fe wnaeth Kenny ymwneud yn ystyrlon â’r gwasanaeth a chymerodd yr ymarferydd prawf gamau ymatebol.
- Aeth tîm ailosod y gwasanaeth prawf gam ymhellach na gwneud gwaith rheoli ymatebol unig, gan ymyrryd yn rhagweithiol yn y maes diogelu ac adolygu’r risgiau’n gyson.
- Roedd cydlynu amlasiantaethol, gan gynnwys gyda’r heddlu a gwasanaethau i ddioddefwyr, yn sicrhau bod oedolion a oedd yn wynebu risg wedi cael eu diogelu drwy gydol y cyfnod goruchwylio.
Y canlyniad: Roedd achos Kenny’n dangos sut y gall rhannu gwybodaeth yn effeithiol ac ymateb yn gydlynol yn y maes diogelu, a hynny o fewn y fframwaith ar gyfer ailosod gwasanaethau prawf, wella gwaith i amddiffyn y cyhoedd a helpu i adsefydlu unigolion. Roedd dull rhagweithiol yr ymarferydd prawf a’r cydweithio cryf rhwng asiantaethau’n hollbwysig er mwyn rheoli risgiau a sicrhau bod dioddefwyr a’r gymuned ehangach yn ddiogel.
Tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn (Back to top)
Mae ymarfer prawf effeithiol yn mynd ati’n gynyddol i wreiddio egwyddorion tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn, gan gydnabod bod unigolion sydd o dan oruchwyliaeth yn aml yn wynebu anfanteision croestoriadol.
Mae gwaith ymchwil yn dangos bod dulliau cynhwysol sy’n addas yn ddiwylliannol ac sy’n ystyriol o drawma yn gwella’r modd y bydd gwasanaethau prawf yn ymgysylltu â phobl ac yn gwella canlyniadau. Er enghraifft, mae goruchwyliaeth sy’n ymwybodol o niwroamrywiaeth ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma’n gallu lleihau trallod a chryfhau ymddiriedaeth (Bradley a Petrillo, 2022; Arolygiaeth Prawf EF, 2023). Yn yr un modd, mae gweithio gydag unigolion o gymunedau lleiafrifiedig yn gofyn am wyleidd-dra diwylliannol ac eiriolaeth er mwyn herio rhwystrau systemig a hybu tegwch (Wainwright et al., 2024).
Mae’r enghreifftiau canlynol yn dangos sut y gwnaeth ymarferwyr prawf wreiddio egwyddorion tegwch, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn drwy addasiadau meddylgar, cydweithio amlasiantaethol, a goruchwylio myfyriol, gan ddangos effaith drawsnewidiol ymarfer cynhwysol.
Enghraifft o waith effeithiol: Cefnogi unigolyn amrywiol sydd â gorchymyn dedfryd wedi’i gohirio
Cafodd Keith, dyn 27 oed, orchymyn dedfryd wedi’i gohirio gyda gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu a gwaith di-dâl am droseddau rhyw. Roedd ganddo ddiagnosis o awtistiaeth ac roedd yn arddel hunaniaeth ddeurywiol. Cadarnhaodd yr ymholiadau ar ôl dedfrydu nad oedd unrhyw bryderon am ddiogelu plant, nad oedd gan Keith hanes o gam-drin domestig, ac nad oedd ganddo blant.
Ymyriadau a gwaith amlasiantaethol:
- Roedd yr ymarferydd prawf wedi rhoi’r gofynion ar waith yn chwim, gan ddarparu mapiau ar gyfer newid. Atgyfeiriwyd Keith at wasanaethau adsefydlu a gomisiynir i hybu’i les personol; at Gyrfa Cymru i gael cymorth gydag addysg, hyfforddiant a chyflogaeth; ac at gymorth ym maes niwroamrywiaeth.
- Gweithiodd yr ymarferydd prawf yn agos gyda’r uned Rheoli Troseddwyr Rhyw a Throseddwyr Treisgar (MOSOVO) er mwyn rheoli’r risg ar y cyd.
Ymarfer cynhwysol ac addasiadau:
- Roedd yr ymarferydd prawf wedi gwneud addasiadau i helpu gydag awtistiaeth Keith, gan gynnwys gofyn iddo sut y byddai’n ffafrio cael cymorth, defnyddio cymhorthion gweledol, addasu hyd ac amseru sesiynau, a chadw’r amserlenni’n gyson er mwyn lleihau trallod a helpu Keith i ymwneud â’r gwasanaeth.
- Aeth yr ymarferydd prawf ati i ddysgu drwy wrando ar bodlediadau a defnyddio adnoddau ym maes cyfiawnder troseddol, gan wella’i ymarfer myfyriol a’r modd yr oedd yn gweithio gyda Keith.
Y canlyniad: Bu Keith yn ymwneud yn dda â gorchymyn ei ddedfryd ohiriedig, a gwnaeth gynnydd o ran lles ac o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Roedd dull yr ymarferydd prawf o weithio, a oedd yn ymwybodol o niwroamrywiaeth ac yn ystyriol o drawma, yn gymorth i barhau i ymgysylltu â’r unigolyn, ac yn amlygu gwerth goruchwyliaeth a chymorth strwythuredig mewn achosion cymhleth.
Enghraifft o waith effeithiol: Cefnogi unigolyn sydd ar brawf o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr
Cafodd Graham, Cymro 36 oed o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ddedfryd o garchar am droseddau’n ymwneud â chyffuriau a throseddau a oedd yn gysylltiedig â gweithgarwch llinellau cyffuriau. Ar ôl cael ei ryddhau, dangosodd ei ymarferydd prawf ymrwymiad cryf i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau bod y gwaith goruchwylio’n ystyriol o ddiwylliant Graham ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn drwy gydol yr achos.
Sensitifrwydd diwylliannol a pharch i hunaniaeth:
- Roedd yr ymarferydd prawf yn cydnabod arwyddocâd hunaniaeth ddiwylliannol Graham fel aelod o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr ac aeth ati i greu gofod ar gyfer cynnal deialog agored a pharchus am dreftadaeth a gwerthoedd Graham. Helpodd hyn i feithrin ymddiriedaeth a pherthynas, gan olygu bod modd ymgysylltu â Graham mewn ffordd fwy ystyrlon.
Ymyriadau wedi’u teilwra a pharchu rhyddid:
- Gwrthododd Graham atgyfeiriadau at wasanaethau addysg, tai a chyflogaeth oherwydd ei ddewisiadau diwylliannol. Parchodd yr ymarferydd prawf ei ryddid yn hyn o beth, gan flaenoriaethu cymorth a oedd yn addas yn ddiwylliannol. Roedd y dull hwn a ganolbwyntiai ar yr unigolyn yn dilyn egwyddorion sy’n ystyriol o drawma ac yn osgoi gwahaniaethu, gan sicrhau bod yr ymarfer yn gynhwysol ac yn dangos parch.
Gwaith amlasiantaethol ac eirioli:
- Deliodd yr ymarferydd prawf â phryderon cymhleth ym maes diogelu a oedd yn gysylltiedig â’r ffaith bod Graham yn byw ar safle teithwyr, a hynny gan ddangos proffesiynoldeb a sensitifrwydd diwylliannol.
- Cydlynwyd cyfarfodydd amlasiantaethol â’r heddlu a gwasanaethau tai, a pharchwyd urddas Graham drwy gydol y rhain.
- Gan gydnabod bod angen eirioli a oedd yn addas yn ddiwylliannol, cyfeiriodd yr ymarferydd prawf Graham at Gypsies and Travellers Wales[5] i’w helpu i gael gwasanaethau mewn ffordd deg ac i herio gwahaniaethu.
Goruchwyliaeth gan reolwyr a dysgu fel tîm:
- Elwodd yr achos o oruchwyliaeth gyson gan reolwyr, gan gynnwys goruchwyliaeth grŵp, ac o’r ffaith bod uwch swyddog prawf yn rhan o’r cyfarfodydd amlasiantaethol.
- Helpodd yr uwch swyddog prawf yr ymarferydd prawf i wrthsefyll gwrthwynebiad gan asiantaethau partner wrth reoli cyd-ddiffynyddion o’r gymuned Sipsiwn, Roma a Theithwyr. Arweiniodd hyn at feithrin ymarfer cynhwysol a diwylliant dysgu yn y tîm.
Y canlyniad: Dangosodd yr achos hwn sut y mae ymarfer myfyriol sy’n addas yn ddiwylliannol, gyda chymorth goruchwyliaeth gan reolwyr, yn gallu meithrin ymddiriedaeth, herio rhwystrau systemig, a hybu tegwch mewn gwaith prawf.
Gwaith di-dâl (Back to top)
Enghraifft o waith effeithiol: Goruchwylio cynhwysol ac integreiddio cymunedol
Cafodd Nabil, dyn 40 oed sy’n wreiddiol o Eritrea, Affrica, ddedfryd o orchymyn cymunedol am droseddau gyrru, gan gynnwys gwaith di-dâl a gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu. Nid oedd gan Nabin euogfarnau blaenorol ac roedd wedi chwilio am loches yn Lloegr. Cafodd gymorth cyfieithydd ar y pryd yn ei apwyntiad cyntaf. Trafododd yr ymarferydd prawf beth fydda Nabil yn ei ffafrio, gan nodi ei awydd cryf i gwblhau gwaith di͏-dâl. Helpodd hynny i feithrin ymddiriedaeth a dull o gydweithio wrth ei oruchwylio.
Dewis lleoliad synhwyrol a rhoi cymorth:
- Cafodd Nabil leoliad gwaith di-dâl yn un o siopau elusen Islamic Relief. Roedd y lleoliad hwnnw’n addas yn ddiwylliannol ac yn cyd-fynd â’i werthoedd, gan hybu ymdeimlad o berthyn ac urddas.
- Gofalodd yr ymarferydd prawf fod y lleoliad yn sensitif i gefndir Nabil, a rhoddodd gymorth cyson iddo.
- Bu Nabil yn gweithio gyda Gyrfa Cymru a chwblhaodd fodiwlau yn y rhaglen addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Helpodd y sesiynau hyn Nadil i fagu hyder a chwilio am gyfleoedd gwaith yn y dyfodol.
Y canlyniad: Cwblhaodd Nabil holl oriau ei waith di-dâl yn brydlon. Anfonwyd llythyr cwblhau, gan ganmol ei ymrwymiad a’i gynnydd. Yn fuan wedyn, cafodd Nabil waith cyflogedig, gan ddangos effaith gadarnhaol goruchwyliaeth gynhwysol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Cafodd ei gymell hefyd gan ei brofiad yn y siop elusen i wneud rhagor o waith gwirfoddol, gan gryfhau ei gyfalaf cymdeithasol a’i helpu i ymatal rhag troseddu yn y tymor hir.
Enghraifft o waith effeithiol: Hybu ymwneud â’r gwasanaeth drwy waith di-dâl
Cafodd Manish, dyn 43 oed o India, orchymyn troseddau rhyw am drosedd ryw. Er iddo barhau i fynnu ei fod yn ddieuog, derbyniodd benderfyniad y llys a dangosodd barodrwydd i ymwneud â’r Gwasanaeth Prawf. Roedd ei ddedfryd yn cynnwys gorchymyn aml-ofyniad gyda gofyniad i wneud gweithgareddau adsefydlu, gwaith di-dal, a gofynion hysbysu o dan y gofrestr troseddwyr rhyw.
Dewis lleoliad gwaith di-dâl mewn ffordd ymatebol:
- Aethpwyd ati’n ofalus i ddewis lleoliad mewn gweithdy, i gyd-fynd â phroffil risg ac anghenion Manish. Roedd hyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac roedd yn fodd o reoli’r elfennau a’i gwnâi’n agored i niwed oherwydd ei statws fel troseddwr rhyw cofrestredig. Roedd hyn hefyd yn lleihau’r risgiau sy’n gysylltiedig â lleoliadau yn y gymuned.
- Gofalwyd bod y cynllun yn hyblyg er mwyn rhoi sylw i ymrwymiadau personol Manish, a oedd yn cynnwys cyfrifoldebau gofalu am ei wraig anabl.
- Er bod gan Manish gefndir proffesiynol, croesawodd y cyfle i ddysgu sgiliau newydd yn ei leoliad gwaith di-dâl. Wrth gael ei baru â saer coed, cafodd brofiad ymarferol ac yn ddiweddarach aeth ati i rannu enghreifftiau o brosiectau roedd wedi’u cwblhau gartref gan ddefnyddio’r sgiliau hynny.
Y canlyniad: Bu Manish yn ymwneud yn gyson â’r gwasanaeth, gan gwblhau holl oriau’r gwaith di-dâl heb fod yn absennol unwaith. Helpodd y sesiynau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth Manish i feithrin sgiliau newydd. Rheolwyd yr achos yn dda. Roedd gan Manish gymhelliad cryf, ac aethpwyd ati i gydnabod yr elfennau cadarnhaol. Roedd yr achos yn dangos sut y gall dulliau wedi’u teilwra, a’r rheini wedi’u seilio ar gryfderau, wella’r modd y bydd pobl yn ymwneud â’r gwasanaeth ac yn cael cyfle i adsefydlu.
Gwaith statudol gyda dioddefwyr (Back to top)
Enghraifft o waith effeithiol: Gwaith rhagweithiol gyda’r dioddefwr mewn achos o gam-drin domestig gyda risg uchel
Roedd dyn 26 oed wedi cyflawni trosedd cam-drin domestig yn erbyn ei bartner benywaidd, yn dilyn ymosodiadau niferus. Dim ond pan ymyrrodd cymydog y daeth y rheini i ben. Rheolwyd yr achos o dan drefniadau MAPPA oherwydd difrifoldeb y drosedd a lefel y risg.
Ymgysylltu â’r dioddefwr a chynllunio camau diogelwch:
- Gofynnodd y dioddefwr am amod i wahardd cyswllt ac am barth gwaharddedig. Digwyddodd hyn.
- Bu’r swyddog cyswllt dioddefwyr yn rhagweithiol wrth ymweld â’r parth gwaharddedig, a gwnaeth ragor o ymholiadau i helpu i gael gorchymyn atal ôl-weithredol.
Cydweithio a chymorth amlasiantaethol:
- Cydlynodd y swyddog cyswllt dioddefwyr waith gyda Cymorth i Fenywod, gwasanaethau cwnsela, a thimau tai er mwyn cymryd camau i galedu’r targed.
- Pan ofynnodd yr ymarferydd prawf am newidiadau i’r parth gwaharddedig, rhoddodd y swyddog cyswllt dioddefwyr esboniadau clir, rhesymol dros lynu wrth y cynllun diogelwch a fodolai.
Ymgysylltu’n uniongyrchol ac eirioli:
- Trefnodd y swyddog cyswllt dioddefwyr gyswllt wyneb yn wyneb er mwyn trafod amgylchiadau personol y dioddefwr.
- Gwnaeth ymdrechion sylweddol i gynnig cymorth ychwanegol, gan gynnwys atgyfeirio’r achos at MARAC, cysylltu â’r gwasanaethau tai, a chynnwys yr IDVA yn yr achos.
- Edrychodd y swyddog cyswllt dioddefwyr hefyd ar y posibilrwydd o gynnwys gwasanaethau plant yn yr achos, ac aeth ati i ganfod yr anghenion o ran rhoi cymorth i’r teulu.
Y canlyniad: Dangosodd yr achos hwn bwysigrwydd gwaith rhagweithiol sy’n ystyriol o drawma gyda dioddefwyr. Golygodd dygnwch y swyddog cyswllt dioddefwyr, y cydlynu amlasiantaethol, a’r eirioli ym maes diogelu fod blaenoriaeth wedi’i rhoi i ddiogelwch ac urddas yn dioddefwr drwy gydol y broses oruchwylio.
Enghraifft o waith effeithiol: Gwella diogelwch dioddefwyr drwy gyswllt rhagweithiol a chydweithio amlasiantaethol
Cyflawnodd dyn 42 oed ymosodiad treisgar a barhaodd am gyfnod hir yn erbyn ei bartner benywaidd, gan gynnwys ymosodiadau corfforol niferus ac ymgais i dagu’r partner. Rheolwyd yr achos o dan MAPPA oherwydd difrifoldeb y drosedd a phryderon a oedd yn dal i fodoli am y risgiau.
Y cyswllt a’r ymgysylltu â’r dioddefwr:
- Ar y cychwyn, ni chafodd y swyddog cyswllt dioddefwyr ymateb i lythyron a thaflenni’r cynllun i hysbysu dioddefwyr, felly aeth ati’n rhagweithiol i geisio ymwneud â hi.
- Cysylltodd y swyddog cyswllt dioddefwyr â’r dioddefwr dros y ffôn er mwyn esbonio’r broses a chynnig cymorth. Gweithiodd yn agos â’r IDVA i sicrhau bod modd deall a blaenoriaethu anghenion y dioddefwr.
Cydlynu amlasiantaethol:
- Cymerodd y swyddog cyswllt dioddefwyr ran weithgar yn adolygiadau MAPPA, lle cytunwyd ar gamau gweithredu i ofalu am ddiogelwch y dioddefwr, gan gynnwys atal cyswllt dros dro.
- Adolygwyd a chadarnhawyd y camau gweithredu hyn gyda’r IDVA, a hynny’n sicrhau bod y dull o ddiogelu’n gydlynol.
- Ystyriwyd trefniadau tai hefyd, a chrëwyd marciau heddlu i roi rhagor o ddiogelwch.
Adalw a chynllunio i adael:
- Ar ôl i’r troseddwr gael ei adalw, gofalodd y swyddog cyswllt dioddefwyr fod y dioddefwr yn cael gwybod, a gofalodd fod y cynlluniau diogelwch ar gyfer gadael yn cael eu hadolygu a’u diweddaru. Roedd hyn yn cynnwys cydlynu â’r heddlu a’r gwasanaethau tai er mwyn cadw’r camau amddiffyn yn eu lle.
Y canlyniad: Dangosodd yr achos waith effeithiol i gadw mewn cyswllt â’r dioddefwr, a hynny drwy ymwneud â hi’n gyson, drwy gyfathrebu a oedd yn ystyriol o drawma, a thrwy gydweithio amlasiantaethol. Roedd gwaith y swyddog cyswllt dioddefwyr yn ganolog i sicrhau bod modd gofalu am ddiogelwch y dioddefwr a pharchu’i hurddas drwy gydol y broses oruchwylio.
Goruchwyliaeth gan reolwyr (Back to top)
Enghraifft o waith effeithiol: Goruchwyliaeth strwythuredig gan reolwyr i sicrhau parhad wrth reoli risgiau a gwneud penderfyniadau
Cafodd Scott, Cymro 36 oed, ddedfryd o garchar am dorri amodau gorchymyn atal a fodolai am gyfnod amhenodol yn gysylltiedig â’i gyn-bartner. Ar ôl iddo gael ei ryddhau, fe’i rhoddwyd ar drwydded gydag amodau a oedd yn cynnwys tag GPS, parth gwaharddedig, profi am gyffuriau, ac amod yn gwahardd cyswllt. Roedd ganddo anghenion ychwanegol, gan gynnwys anaf i’w ymennydd a phroblemau symudedd. Roedd yn siarad Cymraeg.
Ar ôl i’w achos gael ei ailosod, adroddwyd am ddigwyddiad newydd yn ymwneud â cham-drin domestig yn erbyn partner gwahanol, a hynny drwy’r cynllun digwyddiadau adroddadwy. Arweiniodd hyn at ailasesu ei risg a’i gynllun rheoli.
Goruchwyliaeth gadarnhaol ac ymatebol gan reolwyr:
- Parhaodd yr uwch swyddog prawf i gynnal deialog reolaidd â’r ymarferydd prawf, gan gynnig arweiniad strategol a chymorth ymarferol ill dau.
- Yn ystod absenoldeb yr ymarferydd prawf, gofalodd yr uwch swyddog prawf fod y gwaith i reoli’r risg yn parhau, ac arweiniodd drafodaethau am adalw Scott, gan ystyried dewisiadau eraill fel y cynllun integredig i reoli troseddwyr ac atgyfeirio Scott i adeilad cymeradwy.
- Cwblhaodd yr uwch swyddog prawf yr atgyfeiriad i adeilad cymeradwy ac uwchgyfeiriodd ymholiadau’r heddlu.
- Aeth ati i weithio’n uniongyrchol gyda Scott i bwysleisio amodau’r drwydded, a bu’n bresennol mewn cyfarfod tair ffordd gyda’r ymarferydd prawf a Scott, a hynny’n enghraifft o oruchwyliaeth ar y cyd.
- Ar ôl adalw Scott, rhoddodd yr uwch swyddog prawf arweiniad clir, gan gynghori Scott i ildio i’r heddlu ar ôl iddo ymweld â’r swyddfa’n ddirybudd.
Dangosodd yr uwch swyddog prawf arweinyddiaeth weithgar ac ymarfer sy’n ystyriol o drawma, gan fynd y tu hwnt i ddilyn gweithdrefnau goruchwylio er mwyn rheoli’r risgiau mewn ffordd foesegol ac ymatebol. Roedd y gwaith uniongyrchol gyda Scott, y cymorth cyson a roddodd i’r ymarferydd prawf, a’r penderfyniadau clir a wnaeth yn batrwm o arweinyddiaeth weledol a pharodrwydd i rannu cyfrifoldeb mewn achos o oruchwylio risg uchel, yn enwedig gydag unigolion sydd ag anghenion cymhleth.
Enghraifft o waith effeithiol: Goruchwylio effeithiol mewn achos risg uchel gydag anghenion sylweddol
Cafodd Jules, menyw 28 oed o gefndir ethnig cymysg, ddedfryd o orchymyn cymunedol ar ôl trosedd o drais yn erbyn un o weithwyr y gwasanaethau brys. Roedd haenau niferus o gymhlethdod yn perthyn i’w hachos: roedd ganddi ddiagnosis o ADHD, roedd ganddi broblemau camddefnyddio alcohol, ac roedd ganddi broblemau iechyd meddwl. Roedd Jules hefyd yn agored i niwed oherwydd ei chysylltiad â gwaith rhyw a’i statws deuol fel rhywun a oedd wedi dioddef a chyflawni trais domestig.
- Gweithredodd yr ymarferydd prawf yn rhagweithiol o’r dechrau’n deg, gan gychwyn archwiliadau’r heddlu ac archwiliadau diogelwch, a chadarnhau a oedd pryderon am ddiogelu plant yng nghanol amgylchiadau dryslyd Jules, a oedd yn cynnwys digartrefedd a chamddefnyddio sylweddau.
- Goruchwyliodd yr uwch swyddog prawf bethau’n gyson, gan gynnig cymorth ffurfiol ac anffurfiol a alluogodd yr ymarferydd prawf i reoli risgiau cymhleth, a’r rheini’n newid yn gyson, yn hyderus.
- Pan waethygodd risgiau Jules, aeth yr uwch swyddog prawf a’r ymarferydd prawf ati ar y cyd i’w hasesu, gan gasglu bod ei risgiau’n uchel iawn. Arweiniodd hyn at atgyfeiriad MAPPA prydlon ac at gynnwys MARAC yn yr achos er mwyn sicrhau ymateb cydlynol, amlasiantaethol.
- Er iddi dorri amodau gofynion y gorchymyn cymunedol, parhaodd Jules i ymwneud â’r gwasanaeth. Parhaodd yr ymarferydd prawf i weithio mewn ffordd a oedd yn ystyriol o drawma, tra gofalodd yr uwch swyddog prawf fod yr ymyriadau wedi’u cydlynu’n dda a bod y gwaith i reoli’r risg yn parhau’n gadarn.
- Roedd gan yr uwch swyddog prawf rôl ganolog wrth reoli achos Jules, gan sicrhau bod yr ymyriadau’n gydlynol a bod y risgiau’n cael eu rheoli’n gadarn, a hynny er gwaethaf achosion cyson o dorri gofynion y driniaeth alcohol. Hybodd y goruchwylio hwn ymarfer a oedd yn ystyriol o drawma; rhoddwyd arweiniad i’r ymarferydd prawf wrth wneud penderfyniadau; a pharhawyd i ddiogelu ac amddiffyn y cyhoedd. Golygodd arweinyddiaeth yr uwch swyddog prawf fod atebolrwydd a sefydlogrwydd yn bodoli drwy gydol yr achos.
Cyfeiriadau a chydnabyddiaethau (Back to top)
Mae’r cipolwg hwn ar ymarfer effeithiol wedi’i seilio ar wybodaeth a gafwyd wrth gynnal ein harolygiad o ranbarth Gwasanaeth Prawf Cymru. Y rheolwr sy’n gyfrifol am y rhaglen arolygu hon yw Simi O’Neill. Mae Helen Amor, arweinydd ymarfer effeithiol, wedi codi enghreifftiau o ymarfer effeithiol o’r arolygiad a gynhaliwyd yn y rhanbarth. Mae’r rhain yn cael eu cyflwyno yn y canllaw hwn er mwyn helpu i barhau i ddatblygu’r meysydd hyn yn y rhanbarth prawf. Hoffen ni ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd yn ystod yr arolygiad, ac yn enwedig y rheini sydd wedi cyfrannu at y canllaw hwn. Heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai hi wedi bod yn bosibl cynnal yr arolygiad na chreu’r cipolwg hwn ar ymarfer effeithiol.
Arolygiaeth Prawf EF (2023) Issues, Challenges and Opportunities for Trauma-Informed Practice. Academic Insights 2023/10. Ar gael yn: https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk (Cyrchwyd 5 Tachwedd 2025).
Bradley, A. a Petrillo, M. (2022) Embedding Trauma-Informed Approaches in Adult Probation. University of Greenwich. Ar gael yn: https://gala.gre.ac.uk/id/eprint/43321 (Cyrchwyd 5 Tachwedd 2025).
Phillips, J., Ainslie, S., Fowler, A., a Westaby, C. (2022). ‘“What Does Professional Curiosity Mean to You?”: An Exploration of Professional Curiosity in Probation’. British Journal of Social Work, 52 (1), tt. 554–572.
Pycroft, A. a Gough, D. (eds.), 2019. Multi-Agency Working in Criminal Justice: Theory, Policy and Practice. Ail argraffiad. Bryste: Policy Press.
- Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. (2024) Multi-Agency Public Protection Arrangements (MAPPA) Annual Report: 2023 to 2024. Llundain: Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Ar gael yn: https://www.gov.uk/government/statistics/multi-agency-public-protection-arrangements-mappa-annual-2023-to-2024 (Cyrchwyd 4 Tachwedd 2025).
Wainwright, J., Burke, L. a Collett, S. (2024) ‘A lack of cultural understanding and sometimes interest: Towards half a century of anti-racist policy, practice and strategy within probation’, Probation Journal, 71(2), tt. 116–138
Waring, S., Taylor, E., Giles, S., Almond, L. a Gidman, V. (2022) ‘Dare to Share’: Improving information sharing and risk assessment in multiteam systems managing offender probation. Frontiers in Psychology, 13, Erthygl 869673. Ar gael yn: https://doi.org/10.3389/fpsyg.2022.869673 (Cyrchwyd 4 Tachwedd 2025).
[1] Mae arolygiadau o waith achos Parth 2 yn cyfeirio at fframwaith arolygu Arolygiaeth Prawf EF, sy’n cael ei ddefnyddio i werthuso ansawdd y gwaith a wneir gydag unigolion sydd dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf. Mae’n canolbwyntio ar ymarfer ar lefel achosion yn ystod camau allweddol fel asesu, cynllunio, gweithredu ac adolygu. Bydd arolygwyr yn edrych i weld a yw gwaith yn bersonol, yn ddadansoddol ac yn gymesur, ac yn rhoi sylw i ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu, ymatal rhag troseddu, ac amddiffyn y cyhoedd, gan hybu ymwneud unigolion â’r gwasanaeth a chamau i’w hadsefydlu.
[2] Mae dull y sefydliad sy’n dysgu yn rhoi pwyslais ar greu amgylchedd lle bydd unigolion a thimau yn mynd ati’n barhaus i gael gafael ar wybodaeth, ei rhannu a’i defnyddio er mwyn gwella sut byddan nhw’n ymarfer. Mae’r dull hwn yn cydnabod bod llwyth gwybyddol, ergonomeg a diwylliant sefydliadol yn dylanwadu ar berfformiad. Drwy leihau tasgau gweinyddol diangen a defnyddio adnoddau sy’n dilyn greddf, gall sefydliadau leihau camgymeriadau, gwella’r broses o wneud penderfyniadau, a galluogi ymarferwyr i roi eu holl sylw i waith gwerth uchel sy’n canolbwyntio ar unigolion (https://infed.org/dir/welcome/the-learning-organization/).
[3] Arolygiaeth Prawf EF (2020). Supervision of service users – HM Inspectorate of Probation
[4] Mae CAS3 (Gwasanaeth Llety Cymunedol Haen 3) yn cynnig llety dros dro am hyd at 12 wythnos i bobl sy’n gadael y carchar ac sy’n wynebu risg o ddigartrefedd, gan helpu i’w hailintegreiddio o’r noson gyntaf y byddan nhw’n cael eu rhyddhau. Mae’r cynllun yn cael ei gydlynu gan asiantaethau niferus ac mae ar gael yn holl ranbarthau prawf Cymru a Lloegr. (Community Accommodation Service Tier 3 – guidance – GOV.UK).
[5] Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yng Nghymru yn grwpiau ethnig amrywiol sydd â gwahanol ddiwylliannau a hanes. Er bod ganddyn nhw wreiddiau ers tro byd yn y rhanbarth, maen nhw’n aml yn wynebu gwahaniaethu, anawsterau wrth ddefnyddio gwasanaethau, ac allgáu cymdeithasol. Mae cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn cael eu cydnabod o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Mae’n rhaid i awdurdodau lleol asesu eu hanghenion llety a diwallu’r rheini o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Gypsies and Travellers Wales).