Skip to content

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk.

Arolygu Adeiladau Cymeradwy: Safonau

Published:

Version 6.8 - June 2025

Saesneg

Arwain a llywodraethu (Back to top)

1. Mae arwain a llywodraethu yn sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon.   

1.1 A yw arweinwyr yn sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaethau o safon yn effeithiol i’r holl breswylwyr?

  1. A oes gweledigaeth briodol sy’n nodi sut bydd gwasanaethau o safon yn cael eu darparu i breswylwyr?
  2. A yw arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol? 
  3. A ofynnir am farn preswylwyr ac a gaiff ei dadansoddi a’i defnyddio i adolygu a gwella’r gwasanaeth a ddarperir?
  4. A yw arweinwyr yn cydweithio’n effeithiol â chymunedau lleol i ddefnyddio cyfleoedd i breswylwyr ac i reoli risgiau?
  5. A yw pobl yn deall risgiau darparu’r gwasanaethau, ac a oes mesurau lliniaru a rheolaethau priodol ar waith?

1.2 A yw arweinwyr yn defnyddio dadansoddiadau, tystiolaeth a dysgu i sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaethau o safon yn effeithiol i’r holl breswylwyr?

  1. Lle bo angen, a yw camau’n cael eu cymryd yn brydlon ac yn briodol mewn ymateb i fonitro perfformiad, archwiliad, neu arolygiad?
  2. A yw diwylliant o ddysgu a gwelliant parhaus yn cael ei hyrwyddo’n weithredol?
  3. A yw arweinwyr yn deall, yn ymateb ac yn defnyddio gwybodaeth am degwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn trefniadau darparu?

Staffio (Back to top)

2. Caiff staff eu galluogi i ddarparu gwasanaeth o safon.

2.1 A yw staffio’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon i’r holl breswylwyr?

  1. A oes nifer ddigonol o staff ar ddyletswydd bob amser?
  2. A yw’r staff yn gymwys yn eu rolau?
  3. A yw’r staff yn deall ac yn diwallu anghenion unigol y preswylwyr?
  4. A oes perthynas gadarnhaol rhwng y staff a’r preswylwyr?
  5. A yw’r staff yn dangos diddordeb, yn llawn cymhelliant ac yn falch o weithio i’r Adeilad Cymeradwy?

2.2 A yw’r trefniadau ar gyfer rheoli a chefnogi staff yn ysgogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon i breswylwyr?

  1. A gyflwynir rhaglen gynefino effeithiol i staff newydd? 
  2. A yw staff yn cael eu goruchwylio a’u harfarnu’n effeithiol er mwyn gwella ansawdd y gwaith gyda phreswylwyr?
  3. A yw adnoddau’n cael eu rheoli i gynnal y gwasanaethau a ddarperir?
  4. A oes trefniadau goruchwylio effeithiol ar waith gan reolwyr sy’n gwella ac yn cynnal ansawdd y gwaith gyda phreswylwyr?
  5. A oes trefniadau ar waith i sicrhau bod diogelwch a lles staff yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer darparu gwasanaethau’n effeithiol?
  6. A yw perfformiad staff gwael yn cael ei nodi ac yn cael sylw?

Diogelwch (Back to top)

3. Mae’r Adeilad Cymeradwy yn darparu amgylchedd diogel, iach ac urddasol i staff a phreswylwyr. 

3.1 A yw systemau ac arferion yr Adeilad Cymeradwy yn darparu amgylchedd diogel, iach ac urddasol i staff a phreswylwyr?

  1. A oes trefniadau effeithiol ar waith i nodi a chefnogi preswylwyr sydd mewn perygl o hunanladdiad neu hunan-niweidio?
  2. A yw meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn cael ei storio’n ddiogel a’i gweinyddu’n effeithiol yn unol â system waith ddiogel?
  3. A yw staff yn cymryd camau priodol pan fydd pryderon diogelu am breswylwyr?
  4. A oes trefniadau priodol ar gyfer rheoli ymddygiad yn cael eu gweithredu ac a yw’r preswylwyr yn eu deall yn llawn?
  5. A yw ymddygiad preswylwyr yn cael ei arsylwi’n ddigonol ac yn briodol?

3.2 A yw cyfleusterau’r Adeilad Cymeradwy yn darparu amgylchedd diogel, iach ac urddasol i staff a phreswylwyr?

  1. A yw’r preswylwyr yn cael ystafell wely lân a gweddus sydd wedi’i chynnal a’i chadw’n dda?
  2. A wneir addasiadau i ystafelloedd gwely i reoli risg lle bo hynny’n briodol?
  3. A yw’r preswylwyr yn cael amgylchedd ehangach glân a gweddus sydd wedi’i gynnal a’i gadw’n dda?
  4. A oes cyfleusterau cawod a thoiled glân a gweddus sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda?
  5. A yw’r cyfarpar diogelwch yn cael ei ddefnyddio’n briodol, gan gynnwys i gofnodi ac adolygu digwyddiadau?

Diogelu’r cyhoedd (Back to top)

4. Mae’r Adeilad Cymeradwy yn diogelu’r cyhoedd yn effeithiol.   

4.1 A yw’r Adeilad Cymeradwy yn darparu trefniadau diogelu’r cyhoedd yn effeithiol?

  1. A yw’r Adeilad Cymeradwy yn mynychu ac yn cyfrannu at fforymau rheoli risg amlasiantaethol allweddol gan gynnwys MAPPA? 
  2. A oes gan yr Adeilad Cymeradwy oruchwyliaeth a dylanwad priodol o ran dyrannu preswylwyr i’r Adeilad Cymeradwy?
  3. A oes penderfyniadau gorfodi priodol yn cael eu gwneud a’u cofnodi’n ddigonol?
  4. A yw staff yn cymryd camau priodol pan fydd pryderon diogelu am blant ac oedolion agored i niwed?
  5. A yw’r trefniadau gofynnol ar waith ar gyfer monitro a rhannu gwybodaeth â’r PDU i reoli risg yn ddigonol?
  6. A yw’r trefniadau gofynnol ar waith ar gyfer monitro a rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill i reoli risg yn ddigonol?
  7. A yw’r broses o drosglwyddo rhwng sifftiau yn gynhwysfawr ac yn cael ei chefnogi gan gofnodion ysgrifenedig sy’n cofnodi gwybodaeth am reoli risg a diogelu yn briodol?
  8. A yw profion cyffuriau ac alcohol yn cael eu cynnal yn briodol mewn perthynas â phryderon risg neu ddiogelu?

Adsefydlu (Back to top)

5. Mae’r Adeilad Cymeradwy yn darparu gweithgarwch adsefydlu i leihau aildroseddu.

5.1 A yw’r Adeilad Cymeradwy yn darparu gweithgarwch adsefydlu i leihau aildroseddu?

  1. A oes cysylltiadau a gweithgarwch effeithiol gyda gwasanaethau lleol i alluogi adsefydlu effeithiol?
  2. A yw’r gweithgareddau adsefydlu’n ddigonol, yn cael eu cynllunio a’u darparu i gefnogi’r broses o ailintegreiddio preswylwyr â’r gymuned?
  3. A yw’r gweithgareddau adsefydlu yn cyd-fynd â’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y PDU?
  4. A yw’r preswylwyr yn cael sesiwn gynefino addas ac amserol yn yr Adeilad Cymeradwy?
  5. A oes trefniadau cynllunio digonol ar waith cyn i’r preswylwyr gyrraedd?
  6. A yw’r berthynas rhwng staff a phreswylwyr yn cefnogi gwaith adsefydlu?  
  7. A oes gwaith allweddol yn cael ei gyflawni’n effeithiol, gan atgyfeirio a chyfeirio preswylwyr yn briodol at wasanaethau perthnasol i gefnogi ailintegreiddio â’r gymuned?
  8. A oes trefniadau digonol ar waith i gefnogi preswylwyr i baratoi ar gyfer symud ymlaen o’r Adeilad Cymeradwy?
  9. A yw preswylwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau priodol i ddiwallu eu hanghenion ac adeiladu ar eu cryfderau?