Arolygu Adeiladau Cymeradwy: Rheolau a chanllawiau
Fersiwn 1.9 – Ionawr 2026
Cyflwyniad (Back to top)
Mae pum safon ar gyfer ein harolygiadau o adeiladau cymeradwy. Mae’r safonau hyn yn canolbwyntio ar y pethau sy’n gwneud gwahaniaeth i ansawdd gwaith mewn Adeiladau Cymeradwy, gan gysoni gweithgarwch strategol â darpariaeth rheng flaen i breswylwyr. Rydym wedi canolbwyntio ein safonau ar fewnbwn a gweithgareddau. Rydym am sicrhau bod Adeiladau Cymeradwy yn darparu gweithgareddau i ddiogelu’r cyhoedd ac i hyrwyddo adsefydlu a hynny mewn amgylchedd diogel a gweddus. Mae’r gweithgareddau hyn yn arwain ein safonau a rhaid eu galluogi drwy fewnbynnau cywir arweinyddiaeth, partneriaethau a threfniadau staffio effeithiol o safon.
Mae’r dyfarniadau a wnawn yn seiliedig ar gyfuniad o ddata ansoddol, gan gynnwys cyfweliadau â staff, preswylwyr a rhanddeiliaid perthnasol eraill, arsylwi ymarfer yn uniongyrchol, archwilio polisïau, gweithdrefnau, data a gwybodaeth, ac archwilio gwaith achos. Mae casglu amrywiaeth o wahanol fathau o dystiolaeth yn y gwahanol ffyrdd hyn yn ein galluogi i driongli ein canfyddiadau, gan sicrhau bod ein dyfarniadau’n deg ac yn ddilys. Y rheolau a’r canllawiau yw’r sail ar gyfer gwneud ein dyfarniadau yn erbyn pob elfen o bob safon.
Sut i ddefnyddio’r rheolau a’r canllawiau
Pwrpas y rheolau a’r canllawiau yw rhoi cyngor, eglurder a dealltwriaeth gyson o’r disgwyliadau gofynnol. Maen nhw’n amlinellu dulliau gweithredu sy’n gosod safonau uchel i asesu ansawdd. Mae’r rheolau a’r canllawiau’n egluro sut mae tystiolaeth yn cael ei hasesu a sut mae’r dyfarniadau’n cael eu gwneud yn erbyn y cwestiynau allweddol a’r awgrymiadau ar gyfer pob safon. Dylai arolygwyr ddarllen y canllawiau, y dystiolaeth a’r dyfarniad ar gyfer pob awgrym.
Mae’r canllawiau yn disgrifio’n fanwl yr hyn y mae arolygwyr yn chwilio amdano ym mhob awgrym.
Mae’r ffynonellau tystiolaeth yn nodi ble i ddod o hyd i dystiolaeth i wneud dyfarniadau ar gyfer pob awgrym. Nid yw’r rhestrau tystiolaeth yn gynhwysfawr nac yn rhagnodol; gellir defnyddio tystiolaeth nad yw wedi’i rhestru hefyd ac nid ydym yn disgwyl y bydd yr holl dystiolaeth a restrir bob amser yn ddefnyddiol nac yn ofynnol. Mae’r rhestrau tystiolaeth yno i dywys arolygwyr, ond nid i gyfyngu arnynt. Lle mae’r rhestr dystiolaeth yn cynnwys ‘trafodaethau gyda staff’, mae hyn yn cyfeirio at yr holl staff, gan gynnwys rheolwr yr Adeilad Cymeradwy.
Mae’r adran dyfarniad yn rhoi arweiniad i’r arolygydd wrth farnu a yw’r dystiolaeth ar gyfer yr awgrym hwnnw’n ddigonol neu’n annigonol.
Sgoriau, naratif ac argymhellion
Mae’r safonau’n cael eu gosod yn y fath fodd fel ein bod yn gwneud dyfarniadau ar y lefel y gwelwn berfformiad arni. Nid yw hyn bob amser yr un fath â’r lefel atebolrwydd. Mae ein dyfarniadau a’n sgoriau yn seiliedig ar berfformiad, gyda’n naratif yn disgrifio’r llinell atebolrwydd a’n hargymhellion yn cael eu gwneud i’r lefel briodol o atebolrwydd. Y rheswm dros hyn yw ein bod yn cydnabod y gall materion cyd-destunol, cenedlaethol, rhanbarthol, lleol a systemig effeithio ar ddarpariaeth, fel strategaeth genedlaethol, cyfarwyddeb ardal neu ranbarthol, neu gyfraniad asiantaethau partner wrth ddarparu gwasanaethau. Rydym yn rhoi sylw i’r materion hyn ac yn nodi’r rhesymau dros ddiffygion yn ein hadroddiadau arolygu, ac yn teilwra argymhellion yn unol â hynny. Fodd bynnag, bydd ein dyfarniadau a’n sgoriau bob amser yn adlewyrchu ansawdd y ddarpariaeth ar y lefel yr ydym yn ei harolygu, ni waeth beth yw’r rhesymau a’r rhesymeg sylfaenol.
Archwilio tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
Rydym yn disgwyl i Adeiladau Cymeradwy ddefnyddio dull personol o weithio gyda phreswylwyr a’u staff. Rydym yn adlewyrchu hyn drwy gydol ein fframwaith safonau. Dylai arweinyddiaeth a staffio gefnogi a galluogi’r dull hwn o weithredu.
Fe wnaethom rannu ein diffiniad o ddull gweithredu wedi’i bersonoli yn ddwy ran. Yn gyntaf, rydym yn ystyried ffactorau amrywiaeth, yr ydym yn eu diffinio fel y nodweddion gwarchodedig hynny a nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Y rhain yw hil, oed, anabledd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil, a chrefydd neu gred. Ar wahân i hyn, rydym yn ystyried amgylchiadau personol unigolyn a pha mor dda mae’r Adeilad Cymeradwy yn diwallu’r anghenion sy’n deillio o’r rhain.
Rydym yn disgwyl i ddull wedi’i bersonoli gynnwys ffactorau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant perthnasol ac ystyried amgylchiadau personol perthnasol. Rydym yn diffinio dull wedi’i bersonoli fel un lle mae gwasanaethau’n cael eu teilwra i ddiwallu anghenion yr unigolyn, gan roi cymaint o ddewis a rheolaeth â phosibl i bobl dros y gefnogaeth a gânt. Rhaid i’r dull hwn sydd wedi’i bersonoli gynnwys materion tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n ymwneud â nodweddion gwarchodedig unigolyn. Wrth arolygu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn rhoi sylw i natur gydgysylltiedig categorïau cymdeithasol, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau personol fel hil, dosbarth, rhywedd a threftadaeth ddiwylliannol, a sut gallant greu profiadau sy’n gorgyffwrdd o wahaniaethu neu anfantais. Pan fyddwn yn siarad â staff a phreswylwyr ac yn archwilio gwaith achos, rydym yn cydnabod bod gan bawb eu profiadau unigryw eu hunain o wahaniaethu.
Dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus (Deddf Cydraddoldeb 2010)
Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus fynd i’r afael â materion amrywiaeth a chydraddoldeb drwy ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan gov.uk Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus: canllawiau i awdurdodau cyhoeddus.
Pwrpas cyffredinol y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yw integreiddio ystyriaeth o gydraddoldeb a chysylltiadau da ym musnes bob dydd awdurdodau cyhoeddus. Mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn mynnu bod sefydliadau’n ystyried sut gallent gyfrannu’n gadarnhaol at hyrwyddo cydraddoldeb a chysylltiadau da. Mae hefyd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt adlewyrchu ystyriaethau cydraddoldeb wrth ddylunio polisïau a darparu gwasanaethau, gan gynnwys polisïau mewnol, ac i’r materion hyn gael eu hadolygu’n gyson. Ei nod yw symud y cyfrifoldeb o fod yn unigolion i fod yn sefydliadau, gan osod rhwymedigaeth am y tro cyntaf ar awdurdodau cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb yn gadarnhaol, nid dim ond er mwyn osgoi gwahaniaethu. Fe’i datblygwyd er mwyn cysoni’r dyletswyddau cydraddoldeb a chynnwys yr holl nodweddion gwarchodedig. I grynhoi, rhaid i’r rheini sy’n ddarostyngedig i’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol, wrth arfer eu swyddogaethau, roi sylw dyledus i’r angen i sicrhau’r canlynol:
- dileu gwahaniaethu, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad anghyfreithlon arall sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf
- datblygu cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a’r rheini nad ydynt yn ei rhannu
- meithrin perthnasoedd da rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig a phobl nad ydynt yn rhannu nodwedd o’r fath.
Cyfeirir at y rhain weithiau fel tri nod y ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol. Er mwyn cyflawni’r rhain, dylai’r weledigaeth a’r strategaeth nodi sut bydd y sefydliad yn:
- dileu neu leihau’r anfanteision y mae pobl ar brawf yn eu hwynebu oherwydd eu nodweddion gwarchodedig
- cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl ar brawf o grwpiau gwarchodedig lle mae’r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill sydd ar brawf
- annog pobl ar brawf o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion.
Arwain a llywodraethu (Back to top)
1. Mae arwain a llywodraethu yn sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon.
Mae’r safon arwain a llywodraethu yn seiliedig ar Primary Colours Model of Leadership (Pendleton, 2012) a Future-Engage-Deliver: The Essential Guide to your Leadership (Steve Radcliffe, 2008). Mae’r model hwn yn grwpio trefniadau a gweithgarwch arwain yn dair set wahanol: arweinyddiaeth strategol, weithredol a rhyngbersonol. Rydym wedi adlewyrchu’r meysydd hyn yn ein cwestiynau a’n hawgrymiadau allweddol ac rydym hefyd yn cynnwys pa mor effeithiol mae arweinwyr yn defnyddio tystiolaeth a dysgu i wella.
1.1 A yw arweinwyr yn sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaethau o safon yn effeithiol i’r holl breswylwyr?
a) A oes gweledigaeth briodol sy’n nodi sut bydd gwasanaethau o safon yn cael eu darparu i breswylwyr?
Canllawiau:
Dylai fod gan bob Adeilad Cymeradwy weledigaeth wedi’i dogfennu sy’n disgrifio sut bydd yn darparu gwasanaethau o safon i breswylwyr. Dylid cael tystiolaeth o sut mae’r weledigaeth yn galluogi darparu gwasanaethau o safon, a’r camau allweddol y mae arweinwyr a rheolwyr wedi’u cymryd i sicrhau bod y rhain yn cael eu darparu. Dylai’r strategaeth fod yn glir ynghylch y sylfaen dystiolaeth sy’n sail i’r weledigaeth strategol.
Efallai fod gweledigaeth gyffredinol ar gyfer rhannu Adeiladau Cymeradwy. Mae’n bosibl y bydd y weledigaeth ar gyfer grwpiau o Adeiladau Cymeradwy yn cael ei nodi ar gyfer pob adran ond dylai barhau i gyfleu blaenoriaethau unigol o ran darparu gwasanaethau o safon. Dylai’r weledigaeth adlewyrchu’r math o Adeilad Cymeradwy a’r blaenoriaethau unigol. Dylai’r weledigaeth gynnwys nodau, amcanion ac ethos yr Adeilad Cymeradwy wrth ddarparu’r gwasanaeth a bod yn glir sut mae’r rhain yn cyd-fynd â darpariaeth o safon. Lle ceir Adeilad Cymeradwy arbenigol, dylai’r weledigaeth adlewyrchu hynny. Dylai’r weledigaeth wneud y canlynol:
- nodi sut bydd yr Adeilad Cymeradwy yn dileu neu’n lleihau’r anfanteision y mae pobl ar brawf yn eu hwynebu oherwydd eu nodweddion gwarchodedig
- cymryd camau i ddiwallu anghenion pobl ar brawf o grwpiau gwarchodedig lle mae’r rhain yn wahanol i anghenion pobl eraill sydd ar brawf
- annog pobl ar brawf o grwpiau gwarchodedig i gymryd rhan mewn ffyrdd sy’n diwallu eu hanghenion.
Tystiolaeth:
- dogfen weledigaeth yr Adeilad Cymeradwy
- trafodaethau gyda rheolwr yr Adeilad Cymeradwy
- trafodaethau gyda phennaeth diogelu’r cyhoedd a/neu’r rheolwr ardal
Dyfarniad:
Os oes gweledigaeth ar gyfer yr Adeilad Cymeradwy sy’n disgrifio sut bydd gwasanaethau o safon yn cael eu darparu, sy’n cynnwys nodau, amcanion ac ethos y gwasanaeth, ac sy’n benodol i’r gwasanaeth hwnnw, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad oes gweledigaeth ar gyfer yr Adeilad Cymeradwy neu os nad yw’r weledigaeth yn disgrifio sut bydd gwasanaethau o safon yn cael eu darparu, gan gynnwys nodau, amcanion ac ethos y gwasanaeth, a/neu nad yw’n bersonol i’r gwasanaeth hwnnw, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A yw arweinwyr yn hyrwyddo diwylliant cadarnhaol?
Canllawiau:
Mae diwylliant yn cyfeirio at ‘y ffyrdd y mae pethau’n cael eu gwneud yma’, ac mae’n ymgorffori credoau, ymddygiadau a gwerthoedd sy’n dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn gweithio. Dylai arweinwyr fodelu ymddygiad gyda staff a phreswylwyr sy’n gydnaws â diwylliant cadarnhaol. Dylid dangos a disgwyl perthnasoedd parchus. Dylai arweinwyr fod yn rhagweithiol wrth gymryd mesurau i hyrwyddo diwylliant cadarnhaol yn yr Adeilad Cymeradwy. Dylai fod cyfleoedd i breswylwyr gymryd rhan mewn tasgau o ddydd i ddydd yn yr Adeilad Cymeradwy lle bo hynny’n briodol.
Mae diwylliant cadarnhaol yn un lle bydd ymgynghori’n digwydd yn rheolaidd â staff ynghylch materion sy’n effeithio arnyn nhw a’u gwaith, a lle bydd staff yn cael esboniadau clir ynghylch sut gwneir penderfyniadau pwysig. Dylai staff gael cyfleoedd i herio’n adeiladol (hynny yw, cwestiynu) cynlluniau a phenderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u gwaith – er enghraifft, drwy gyfarfodydd tîm, sy’n cael eu gwerthfawrogi gan y ddwy ochr.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phennaeth diogelu’r cyhoedd a/neu’r rheolwr ardal
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- cyfarfodydd preswylwyr
- trosglwyddo rhwng staff
- cyfarfodydd tîm
Dyfarniad:
Pan fydd arweinwyr yn gosod diwylliant cadarnhaol, gan hyrwyddo bod yn agored a herio’n adeiladol, a phan ofynnir i staff am syniadau er mwyn eu dadansoddi a’u defnyddio, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw arweinwyr yn gosod diwylliant cadarnhaol a/neu os oes diffyg gonestrwydd a her adeiladol, os na ofynnir am syniadau staff er mwyn eu dadansoddi a’u defnyddio, dylid cael dyfarniad negyddol.
a) A ofynnir am farn preswylwyr ac a gaiff ei dadansoddi a’i defnyddio i adolygu a gwella’r gwasanaeth a ddarperir?
Canllawiau:
Dylai’r Adeilad Cymeradwy fod ag agwedd effeithiol a rhagweithiol at ymgysylltu â phreswylwyr. Dylid ceisio barn preswylwyr, ei dadansoddi a’i defnyddio i wella’r gwasanaeth a ddarperir. Dylai preswylwyr allu cyflwyno eu barn a’u hawgrymiadau mewn amrywiaeth o ffyrdd a dylid eu cefnogi i gyfathrebu’n effeithiol.
Gellir ceisio barn mewn amrywiaeth o ffyrdd, gan gynnwys drwy arolygon a holiaduron. Dylai staff Adeiladau Cymeradwy gynnwys dulliau mwy soffistigedig, fel grwpiau ffocws, a dulliau llai ffurfiol, fel sgyrsiau ystyrlon. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth fanylach o anghenion preswylwyr. Bydd yn dangos lle mae unrhyw fylchau a beth y gellir ei wneud i fynd i’r afael â nhw.
Ar ôl i arweinwyr ystyried barn preswylwyr, dylent roi adborth ar ganlyniadau’r awgrymiadau a wnaed. Dylent roi enghreifftiau o newidiadau a wnaed o ganlyniad i adborth gan breswylwyr a thynnu sylw at y rhain er mwyn gwella hyder preswylwyr yn y broses.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- cyfarfodydd preswylwyr
- enghreifftiau o newidiadau a wnaed mewn ymateb i farn preswylwyr
Dyfarniad:
Pan fydd barn preswylwyr yn cael ei cheisio, ei dadansoddi a’i defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd, a bod adborth yn cael ei roi i breswylwyr, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw barn preswylwyr yn cael ei cheisio, ei dadansoddi a’i defnyddio mewn amrywiaeth o ffyrdd, a/neu lle nad yw adborth yn cael ei roi i breswylwyr, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A yw arweinwyr yn cydweithio’n effeithiol â chymunedau lleol i ddefnyddio cyfleoedd i breswylwyr ac i reoli risgiau?
Canllawiau:
Dylai Adeiladau Cymeradwy wybod beth yw cyfansoddiad eu cymdogaeth leol. Dylent wybod, er enghraifft, a oes ysgolion, cartrefi nyrsio neu dafarndai. Dylai’r Adeilad Cymeradwy fod yn rhagweithiol o ran meithrin perthynas gadarnhaol â’r rheini yn yr ardal leol a dylai’r ymgysylltu hwn fod yn briodol i’r math o Adeilad Cymeradwy, y math o gymuned y mae’r Adeilad hwnnw’n rhan ohoni ac unrhyw gyfleoedd neu risgiau penodol y mae hyn yn eu cyflwyno. Mae sefydlu a chynnal sianeli cyfathrebu gydag arweinwyr allweddol yn y gymuned yn hanfodol.
Dyma rai enghreifftiau:
- sefydlu cyfarfodydd rheolaidd gyda phenaethiaid ysgolion fel grŵp
- cyfarfodydd gyda’r feddygfa leol a thimau iechyd meddwl cymunedol lleol – mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer amgylcheddau cynlluniedig sy’n ystyriol o gyflwr seicolegol (PIPEs)
- cyfarfodydd rheolaidd gyda swyddogion heddlu/arweinwyr heddlu lleol – mae hyn yn bwysig ar gyfer rheoli risg yn gyffredinol ond hefyd i hwyluso’r broses o alw’n ôl i’r ddalfa mewn ffordd ddiogel
- sefydlu perthynas ag arweinwyr fferylliaeth i helpu i weinyddu meddyginiaeth yn ddiogel
- trefnu i sefydliadau allweddol ddod i mewn i’r Adeilad Cymeradwy i ddarparu gwasanaethau o’r fan honno, er enghraifft y tîm iechyd meddwl cymunedol, gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a’r Ganolfan Byd Gwaith.
- sefydlu cysylltiadau â chymdeithasau preswylwyr lleol.
Gall Adeiladau Cymeradwy ymgynghori’n allanol â rhanddeiliaid allweddol fel rhan o waith cynllunio strategol, i annog ymgysylltu lleol. Pan fydd hyn yn digwydd, dylai’r Adeilad Cymeradwy daro cydbwysedd priodol rhwng hyrwyddo’r ffaith bod yr Adeilad Cymeradwy yno, a pheidio â chael unrhyw ddatgeliad/cyswllt.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- cofnodion/nodiadau o gyfarfodydd gydag arweinwyr o sefydliadau allweddol
- tystiolaeth o waith a wnaed gyda sefydliadau cymunedol
Dyfarniad:
Os oes cydweithio effeithiol â chymunedau lleol sy’n darparu cyfleoedd ac yn rheoli risgiau, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad oes cydweithio â chymunedau lleol, neu os nad yw hyn yn darparu cyfleoedd a/neu’n rheoli risgiau, dylid cael dyfarniad negyddol.
e) A yw pobl yn deall risgiau darparu, ac a oes mesurau lliniaru a rheolaethau priodol ar waith?
Canllawiau:
Dylai pob Adeilad Cymeradwy fod yn ymwybodol o’r risgiau penodol i ddarparu ar gyfer yr Adeilad hwnnw.Gall y risgiau gynnwys risgiau posibl adnabyddadwy ar draws categorïau fel darparu gwasanaethau, staffio, diogelwch a risg i enw da. Er enghraifft, gall unrhyw Adeilad Cymeradwy penodol fod yn agored i ffactorau amgylcheddol fel llifogydd. Efallai y bydd angen i Adeiladau Cymeradwy eraill reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â lletya person proffil uchel ar brawf.
Dylid canfod a manylu ar bob risg, gan nodi mesurau lliniaru priodol a chynllun parhad busnes ar gyfer pob risg. Dylid nodi mesurau rheoli, a ddylai roi rhybudd os yw risg yn cynyddu. Dylai fod tystiolaeth o adolygiadau rheolaidd i nodi unrhyw risgiau newydd a’r rhai nad oes angen rhoi sylw iddynt mwyach. Dylai staff allu mynegi eu rôl o ran rheoli risgiau penodol a sut bydd risgiau penodol yn cael eu rheoli mewn argyfwng.
Tystiolaeth:
- cofrestr risg a chynllun rheoli risg
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- trosglwyddo rhwng staff
- cyfarfodydd tîm
- tystiolaeth o risgiau’n cael eu rheoli’n ymarferol
Dyfarniad:
Pan fydd risgiau i ddarparu yn cael eu cydnabod, eu deall, eu hadolygu a chynllunnir ar eu cyfer, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd risgiau i ddarparu yn cael eu cydnabod, eu deall na’u hadolygu a phan na chynllunnir ar eu cyfer, dylid cael dyfarniad negyddol.
1.2 A yw arweinwyr yn defnyddio dadansoddiadau, tystiolaeth a dysgu i sbarduno’r gwaith o ddarparu gwasanaethau o safon yn effeithiol i’r holl breswylwyr?
a) Lle bo angen, a yw camau’n cael eu cymryd yn brydlon ac yn briodol mewn ymateb i fonitro perfformiad, archwiliad, neu arolygiad?
Canllawiau:
Dylai’r Adeilad Cymeradwy gael cynlluniau gweithredu amserol i fynd i’r afael â materion perfformiad, ni waeth sut mae’r materion wedi cael eu nodi. Gall y rhain gynnwys metrigau allweddol canolfannau perfformiad, ymweliadau sicrwydd, samplo ar hap, archwiliadau ac arolygiadau. Dylid llunio’r rhain yn brydlon, yn unol â chanllawiau perthnasol, gan gynnwys cymryd camau ar unwaith i fynd i’r afael â diffygion critigol. Rhaid i gynlluniau gweithredu a gwella gynnwys trefniadau monitro a dylid eu hadolygu ar adegau priodol. Dylent fod yn destun trefniadau llywodraethu addas, er mwyn sicrhau bod camau gweithredu penodol yn cael eu cwblhau a bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu cyflawni.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phennaeth diogelu’r cyhoedd a/neu’r rheolwr ardal
- cynlluniau gweithredu, gan gynnwys trefniadau monitro ac adolygiadau dilynol
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
Dyfarniad:
Pan fydd y camau angenrheidiol yn cael eu cymryd yn brydlon mewn ymateb i fonitro perfformiad, archwilio neu arolygu, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw’r camau angenrheidiol yn cael eu cymryd yn brydlon mewn ymateb i fonitro perfformiad, archwilio a/neu arolygu, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A yw diwylliant o ddysgu a gwelliant parhaus yn cael ei hyrwyddo’n weithredol?
Canllawiau:
Dylai arweinwyr Adeiladau Cymeradwy werthfawrogi a hyrwyddo diwylliant o ddysgu a gwelliant parhaus. Dylai staff gael mynediad at amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu a datblygu, a chael eu galluogi a’u cefnogi i gymryd rhan ynddynt. Dylai staff yr Adeilad Cymeradwy sicrhau eu bod yn manteisio ar gyfleoedd dysgu a datblygu i wella gwasanaethau ac fe ddylent ymdrechu i wella cyfleoedd ar gyfer dysgu, a allai ddod drwy:
- arfarnu prosesau hyfforddi a datblygu staff
- darparu cymorth ar gyfer astudio allanol
- cymorth i ennill cymwysterau perthnasol.
Dylai staff fanteisio ar y cyfleoedd hyn. Dylai arweinwyr yr Adeiladau Cymeradwy egluro sut maent wedi cefnogi dysgu a gwelliant parhaus staff, er enghraifft drwy rannu dysgu allweddol o gwrs hyfforddi. Dylent sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu darparu i staff atgyfnerthu dysgu a datblygu.
Tystiolaeth:
- cynlluniau datblygu a dysgu
- trafodaethau gyda staff
- tystiolaeth o rannu dysgu, fel drwy gyfarfodydd tîm a digwyddiadau datblygu staff
Dyfarniad:
Pan fydd staff yn cael eu galluogi i ymgymryd ag amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu a datblygu i gyfrannu at welliant parhaus, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw staff yn cael eu galluogi i ymgymryd ag amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu a datblygu a/neu os nad yw’r rhain yn cyfrannu at welliant parhaus, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A yw arweinwyr yn deall, yn ymateb ac yn defnyddio gwybodaeth am degwch, amrywiaeth a chynhwysiant mewn trefniadau darparu?
Canllawiau:
Dylai Adeiladau Cymeradwy ddeall yr angen i addasu’r gwasanaeth a ddarperir i ddiwallu’r holl anghenion, rheoli risgiau a meithrin cryfderau, gan gynnwys y rheini sy’n deillio o nodweddion gwarchodedig. Ar lefel unigol, dylai’r Adeilad Cymeradwy ymateb i anghenion unigol, ac ar lefel sefydliadol dylid ei sefydlu i’w alluogi i wneud hynny. Er enghraifft, efallai y bydd angen darparu ystafell wely yn agos at staff i breswylydd ag anghenion meddygol penodol. Dylai’r Adeilad Cymeradwy gydnabod hyn a gallu darparu ar ei gyfer.
Mae hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r Adeilad gasglu, dadansoddi a defnyddio gwybodaeth am nodweddion gwarchodedig er mwyn gallu darparu gwasanaeth o safon. Os nad oes gan Adeilad Cymeradwy wybodaeth am nodweddion gwarchodedig y preswylwyr, dylai fod yn gweithio i lenwi’r bylchau mewn gwybodaeth. Gallai hyn olygu cynnal arolygon byr, neu wneud rhywfaint o waith ymgysylltu.
Dylai’r Adeilad Cymeradwy ddefnyddio’r wybodaeth am amrywiaeth y mae’n ei chasglu nid yn unig i nodi, lliniaru neu ddileu arferion gwael, ond hefyd i nodi ffyrdd o annog cyfle cyfartal. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar ddysgu, dylid rhannu unrhyw gamau a gymerir drwy strwythurau priodol, fel cyfarfodydd tîm, fforymau gwella ansawdd, a goruchwyliaeth gan staff unigol.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phennaeth diogelu’r cyhoedd a/neu’r rheolwr ardal
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- tystiolaeth o rannu dysgu, fel drwy gyfarfodydd tîm
- archwilio achosion
Dyfarniad:
Pan fydd gwybodaeth am gynhwysiant, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei deall, yn cynhyrchu ymatebion rhagweithiol i unigolion ac yn cael ei defnyddio i hyrwyddo dysgu ar draws y sefydliad, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw gwybodaeth am gynhwysiant, amrywiaeth a chynhwysiant yn cael ei deall, a/neu nad yw’n cynhyrchu ymatebion rhagweithiol ar gyfer unigolion a/neu nad yw’n cael ei defnyddio i hyrwyddo dysgu ar draws y sefydliad, dylid cael dyfarniad negyddol.
Staffio (Back to top)
2. Caiff staff eu galluogi i ddarparu gwasanaeth o safon.
2.1 A yw staffio’n cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon i’r holl breswylwyr?
a) A oes nifer ddigonol o staff ar ddyletswydd bob amser?
Canllawiau:
Dylai fod nifer ddigonol o staff ar ddyletswydd bob amser. Mae digonol yn golygu bod digon o staff i sicrhau bod yr holl staff a phreswylwyr yn ddiogel, bod modd diwallu’r holl anghenion, bod modd rheoli’r holl risgiau, a bod modd cwblhau’r holl dasgau gofynnol i safon dda. Mae staffio digonol yn golygu bod gan staff y gallu a’r adnoddau i gyflawni’r holl bethau hyn.
Fel safon ofynnol yn ystod y dydd a gyda’r nos, dylai fod dau weithiwr preswyl ar ddyletswydd bob amser, ynghyd â digon o weithwyr allweddol i gyflawni’r dyletswyddau gofynnol ar gyfer nifer y preswylwyr.
Fel safon ofynnol dros nos, dylai fod dau aelod o staff ar ddyletswydd. Dylai staff bob amser allu cael cymorth gan reolwr ar-alwad.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- cyfarfodydd trosglwyddo
- rotâu staff
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
Dyfarniad:
Os oes digon o staff ar ddyletswydd i sicrhau bod yr holl staff a phreswylwyr yn ddiogel, bod modd diwallu’r holl anghenion, bod modd rheoli’r holl risgiau a bod modd cwblhau’r holl dasgau gofynnol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad oes digon o staff i sicrhau bod yr holl staff a phreswylwyr yn ddiogel, bod modd diwallu’r holl anghenion, bod modd rheoli’r holl risgiau a bod modd cwblhau’r holl dasgau gofynnol, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A yw’r staff yn gymwys yn eu rolau?
Canllawiau:
Dylai staff o bob gradd sy’n gweithio yn yr Adeilad Cymeradwy fod yn gymwys i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n ofynnol gan eu rolau.Dylai staff sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phreswylwyr, gan gynnwys rheolwr yr Adeilad Cymeradwy, gweithwyr preswyl a gweithwyr allweddol, fod wedi’u hyfforddi a meddu ar y sgiliau canlynol o leiaf:
- gweithdrefnau ac arferion diogelwch a chymorth
- cadw a gweinyddu meddyginiaeth yn ddiogel
- rheoli ymddygiad a thawelu
- asesu a rheoli risg
- ymarfer sy’n ystyriol o drawma
- diogelu plant ac oedolion
- tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
- meithrin perthynas effeithiol
- cadw cofnodion
Dylai rheolwyr Adeiladau Cymeradwy hefyd fod wedi’u hyfforddi ac yn fedrus wrth reoli staff yn effeithiol ac yn unol â pholisïau a gweithdrefnau’r Adeilad Cymeradwy.
Dylai staff mewn Adeiladau Cymeradwy arbenigol gael hyfforddiant a sgiliau ychwanegol i sicrhau eu bod yn gallu diwallu anghenion preswylwyr.
Tystiolaeth:
- cofnodion dysgu a datblygu staff
- arsylwi shifftiau
- trosglwyddo rhwng staff
- trafodaethau gyda rheolwr yr Adeilad Cymeradwy
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
Dyfarniad:
Pan fydd yr holl staff sy’n gweithio yn yr Adeilad Cymeradwy yn gymwys i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n ofynnol gan eu rolau, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw’r holl staff sy’n gweithio yn yr Adeilad Cymeradwy yn gymwys i gyflawni’r holl ddyletswyddau sy’n ofynnol gan eu rolau, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A yw’r staff yn deall ac yn diwallu anghenion unigol y preswylwyr?
Canllawiau:
Dylai staff ddeall anghenion unigol preswylwyr. Mae’r rhain yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, anghenion cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n deillio o nodweddion gwarchodedig. Dylai staff fod yn hyderus wrth adnabod anghenion unigol, a chael eu galluogi a’u cefnogi i addasu gwasanaethau i ddiwallu’r anghenion hynny cyn belled ag y bo’n ymarferol. Dylai staff fod yn gyfforddus yn eirioli ar ran preswylwyr i sicrhau bod gwasanaeth unigol yn cael ei ddarparu. Mae enghreifftiau o ddull gweithredu unigol yn cynnwys darparu bwydlen briodol ar gyfer y rheini sydd ag anghenion deietegol penodol, gosod preswylwyr mewn ystafelloedd penodol ac addasu i ddeinameg gwahanol grwpiau o breswylwyr.
Rhaid cael cydbwysedd bob amser rhwng deall a diwallu anghenion unigol a sicrhau diogelwch a lles yr holl staff a phreswylwyr.
Tystiolaeth:
- arsylwi ymarfer
- trosglwyddo
- sesiynau gweithwyr allweddol
- archwilio achosion
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
Dyfarniad:
Pan fydd staff yn deall ac yn diwallu anghenion unigolion drwy ddull personol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw staff yn deall a/neu ddim yn diwallu anghenion unigolion drwy ddull personol, dylid cael dyfarniad negyddol.
d) A oes perthynas gadarnhaol rhwng y staff a’r preswylwyr?
Mae perthnasoedd cadarnhaol rhwng staff ar bob graddfa a phreswylwyr yn bwysig i adsefydlu. Mae lleoliad preswyl yn cynnig llu o gyfleoedd i feithrin y cysylltiadau hyn mewn ffyrdd ffurfiol ac anffurfiol. Dylai staff Adeiladau Cymeradwy fynd ati i greu a defnyddio cyfleoedd i ffurfio perthnasoedd cadarnhaol. Dylai hyn fod nid yn unig drwy sesiynau gwaith allweddol ffurfiol ond drwy sgyrsiau a rhyngweithio bob dydd rhwng staff a phreswylwyr a thrwy staff yn dangos parch. Dylai fod cyfleoedd i breswylwyr a staff ddod i adnabod ei gilydd. Dylai staff gefnogi preswylwyr i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol. Mae hyn i gyd yn helpu i feithrin perthnasoedd cadarnhaol.
Dylai polisïau ac arferion hefyd hyrwyddo perthynas gadarnhaol rhwng staff a phreswylwyr gan gynnal eu diogelwch ar yr un pryd. Bydd y ffordd y mae’r gwasanaeth yn creu ac yn gweithredu polisïau yn dylanwadu ar ansawdd y drefn adsefydlu. Gall helpu staff i ddatblygu perthnasoedd goruchwylio adeiladol, neu eu hatal rhag gwneud hynny. Er enghraifft, gall defnyddio polisi drws agored diogel, sy’n dileu’r ffin rhwng ardaloedd staff a phreswylwyr, ganiatáu ar gyfer rhyngweithio anffurfiol a gall wella ymddiriedaeth. Pan fydd ffin fwy pendant rhwng ardaloedd y staff a’r preswylwyr, gallai hyn niweidio’r berthynas, gan greu awyrgylch ‘ni yn erbyn nhw’ ym marn y preswylwyr. Dylai Adeiladau Cymeradwy geisio sicrhau cydbwysedd rhwng hwyluso perthnasoedd da a chadw staff a phreswylwyr yn ddiogel.
Tystiolaeth:
- arsylwi ymarfer
- trosglwyddo
- sesiynau gweithwyr allweddol
- archwilio achosion
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
Dyfarniad:
Pan fydd perthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a phreswylwyr yn cael eu hyrwyddo’n ddiogel ac yn weithredol mewn amrywiaeth o ffyrdd, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd perthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a phreswylwyr yn cael eu hyrwyddo’n ddiogel ac yn weithredol neu lle nad yw hyn yn cael ei wneud mewn amrywiaeth o ffyrdd, dylid cael dyfarniad negyddol.
e) A yw’r staff yn ymgysylltu, yn llawn cymhelliant ac yn falch o weithio i’r Adeilad Cymeradwy?
Canllawiau:
Bydd cymhelliant staff yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau. Dylai fod staff yn ymfalchïo yn eu gwaith, ac eisiau dod i’r gwaith i wneud gwaith da a gwneud gwahaniaeth. Dylai rheolwyr fod yn ymwybodol o gymhellion gwahanol staff gwahanol a grwpiau amrywiol; dylent fonitro lefelau cymhelliant a chael dulliau gweithredu ar waith i gynnal lefelau uchel o gymhelliant. Wrth siarad â staff a rheolwyr, bydd yr arolygydd yn cael ‘teimlad’ o sut beth yw gweithio yn yr Adeilad Cymeradwy ac a oes ganddo ethos cadarnhaol a diwylliant cefnogol.
Dylai rheolwyr gynnal cymhelliant staff o ddydd i ddydd a phan fydd newidiadau’n cael eu cynnig a’u rhoi ar waith, er mwyn galluogi staff i ymateb yn gadarnhaol. Gall lefelau salwch ac absenoldeb fod yn arwydd o gymhelliant isel a dylid eu rheoli’n dda ac o fewn terfynau priodol. Dylid ymchwilio i gyfraddau trosiant uchel ymysg staff i weld a ydynt yn gysylltiedig â lefelau cymhelliant isel. Gall lefelau salwch ac absenoldeb uchel a chyfraddau trosiant uchel ymysg staff fod yn ddangosyddion cryf o anfodlonrwydd a diffyg cymhelliant.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr: bydd preswylwyr yn gallu mynegi eu barn o ran faint o gymhelliant/diddordeb sydd gan staff
- tystiolaeth o sut cesglir barn staff
- lefelau absenoldeb staff
Dyfarniad:
Pan fydd staff yn dangos diddordeb, yn llawn cymhelliant ac yn falch o weithio i’r Adeilad Cymeradwy, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd staff yn dangos diddordeb ac ni fyddant yn llawn cymhelliant a/neu yn falch o’u gwaith, dylid cael dyfarniad negyddol.
2.2 A yw’r trefniadau ar gyfer rheoli a chefnogi staff yn ysgogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth o safon i breswylwyr?
a) A gyflwynir rhaglen gynefino effeithiol i staff newydd?
Canllawiau:
Dylai’r holl staff gael sesiwn gynefino gynhwysfawr a hygyrch sy’n berthnasol i’w rôl a’u swyddogaeth yn yr Adeilad Cymeradwy. Dylai hyn gynnwys sesiwn gynefino leol yn ogystal ag unrhyw gynefino a ddarperir fel rhan o raglen ranbarthol neu genedlaethol.
Dylai rhaglenni cynefino alluogi staff i weithredu’n effeithiol o fewn cyfnod byr ar ôl iddynt ddechrau ar eu dyletswyddau. Yn ogystal â galluogi staff yr Adeilad Cymeradwy i ddeall eu rôl, dylai’r broses gynefino hefyd gynnwys nodau cyffredinol y sefydliad, a’i ddull o fynd i’r afael â materion amrywiaeth ar gyfer staff a phobl ar brawf a’r holl bolisïau ac arferion perthnasol. Dylid cael cyfleoedd i gysgodi staff eraill ac arsylwi arferion allweddol, fel gweinyddu meddyginiaeth. Dylai’r broses gynefino nodi’n glir sut mae rolau unigol yn cyd-fynd â rolau eraill, er mwyn cefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau cydgysylltiedig i bobl sydd ar brawf a rhanddeiliaid eraill.
Tystiolaeth:
- arsylwi ymarfer
- dogfennau cynefino
- trafodaethau gyda staff
- rotâu staff ar gyfer staff newydd
Dyfarniad:
Pan fydd sesiwn gynefino gynhwysfawr a hygyrch sydd wedi’i theilwra i’r rôl benodol ac sy’n cynnwys cyfleoedd i gysgodi cydweithwyr ac arsylwi arferion, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw’r cynefino’n gynhwysfawr a/neu nad yw’n hygyrch a/neu nad yw wedi’i deilwra i’r rôl benodol a/neu nad yw’n cynnwys cyfleoedd i gysgodi cydweithwyr ac arsylwi arferion, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A yw staff yn cael eu goruchwylio a’u harfarnu’n effeithiol er mwyn gwella ansawdd y gwaith gyda phreswylwyr?
Canllawiau:
Dylai pob rôl yn yr Adeilad Cymeradwy gael ei goruchwylio’n effeithiol. Dylai goruchwyliaeth gael ei theilwra i natur gwaith yr unigolyn, ei gam datblygu, a’i anghenion dysgu unigol. Dylai fod gan yr Adeilad Cymeradwy bolisi goruchwylio gan staff sy’n nodi sut dylid cynnal goruchwyliaeth, ei nodau, beth i’w ddisgwyl os ydych yn cael eich goruchwylio, a pha mor aml y dylai ddigwydd. Gall gynnwys goruchwyliaeth grŵp, ac arsylwadau gweithredol i roi adborth i staff ar ansawdd eu gwaith gyda phreswylwyr, y sgiliau y maent wedi’u dangos, ac unrhyw feysydd i’w gwella. Dylai unrhyw gysylltiad â pholisïau arfarnu fod yn glir.
Dylai goruchwyliaeth effeithiol roi sylw i gefnogaeth a datblygiad personol, yn ogystal ag atebolrwydd am waith o fewn rôl neu ddisgrifiad swydd yr unigolyn. Ni ddylid cyfyngu’r ffocws i sicrhau bod tasgau’n cael eu cwblhau, ond dylai ymestyn i sut mae staff yn dysgu, yn datblygu ac yn defnyddio sgiliau a fydd yn gwella ansawdd y gwaith gyda phobl ar brawf.
Ar gyfer y rheini sy’n ymwneud â’r unigolion mwyaf trawmatig neu ofidus, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u heuogfarnu o droseddau rhywiol difrifol, cam-drin domestig, trais rhywiol neu lofruddiaeth, gall goruchwyliaeth gynnwys trefniadau ar gyfer goruchwyliaeth glinigol, er mwyn i staff allu mynd i’r afael ag effaith eu gwaith arnynt eu hunain, mewn lleoliad cyfrinachol. Dylid cydnabod bod gweithio gyda phobl sydd ar brawf yn gallu bod yn anodd yn emosiynol a bod angen darparu cymorth priodol er mwyn i staff barhau i wneud gwaith da heb orflino.
Tystiolaeth:
- polisi goruchwylio staff
- arferion goruchwylio staff
- trafodaethau gyda staff
Dyfarniad:
Pan fydd ymarfer a pholisi goruchwylio yn cefnogi staff i ddarparu gwaith o safon gyda phreswylwyr, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd ymarfer a pholisi goruchwylio yn cefnogi staff i ddarparu gwaith o safon gyda phreswylwyr, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A yw adnoddau’n cael eu rheoli i gynnal y gwasanaethau a ddarperir?
Canllawiau:
Dylai trefniadau’r Adeilad Cymeradwy ar gyfer rheoli adnoddau fod yn ddigon hyblyg i sicrhau bod yr holl wasanaethau’n cael eu darparu’n effeithiol. Dylai fod yn glir sut gwneir penderfyniadau ar staffio rhanbarthol a phwy sy’n gyfrifol am eu gwneud.
Dylai trefniadau priodol fod ar waith i nodi a chynllunio ar gyfer swyddi gwag, cyfraddau gadael cyn gorffen uchel, a salwch. Dylid cynnwys hyblygrwydd i ymateb i ofynion sy’n newid, a allai gynnwys ymgymryd â ffyrdd newydd neu dros dro o weithio, i gyflawni swyddogaethau’r Adeilad Cymeradwy yn effeithiol. Pan fydd Adeiladau Cymeradwy yn wynebu pwysau o ran adnoddau, dylid rhoi’r lefelau priodol o gymorth ac awdurdod i reolwyr i’w galluogi i reoli’r pwysau hwn. Dylid rhoi digon o ryddid a hyblygrwydd iddynt wneud newidiadau a fydd yn eu helpu i ddod o hyd i atebion.
Tystiolaeth:
- polisi rheoli llwyth gwaith
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arsylwi ymarfer
- Trosglwyddo
Dyfarniad:
Pan fydd adnoddau’n cael eu rheoli’n weithredol, gyda digon o hyblygrwydd, cefnogaeth ac awdurdod i alluogi’r Adeilad Cymeradwy i wneud penderfyniadau effeithiol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw adnoddau’n cael eu rheoli’n weithredol, heb ddigon o hyblygrwydd, cefnogaeth a/neu awdurdod i alluogi’r Adeilad Cymeradwy i wneud penderfyniadau effeithiol, dylid cael dyfarniad negyddol.
d) A oes trefniadau goruchwylio effeithiol ar waith gan reolwyr sy’n gwella ac yn cynnal ansawdd y gwaith gyda phreswylwyr?
Canllawiau:
Mae goruchwylio effeithiol gan reolwyr yn cynnwys elfennau o sicrhau ansawdd, goruchwylio gan staff, delio â meysydd sy’n peri pryder mewn achosion unigol a hwyluso gwelliannau mewn ymarfer. Mae goruchwylio’r risg o niwed a diogelwch a lles yn wahanol i oruchwylio rheolaidd gan staff, er y gellir ei wneud ar yr un pryd weithiau. Gall goruchwyliaeth gyffredinol o ymarfer a thrafodaethau mewn goruchwyliaeth helpu rheolwyr i nodi’r angen am oruchwyliaeth.
Dylai trefniadau goruchwylio rheolwyr gefnogi staff a rheolwyr, gan ganiatáu iddynt ffurfio perthnasoedd cadarnhaol mewn amgylchedd diogel a chynhyrchiol. Dylai trefniadau ar gyfer dyrannu gweithwyr allweddol i breswylwyr unigol alluogi gweithwyr allweddol i fabwysiadu dull gweithredu unigol, a sicrhau, cyn belled ag y bo modd, bod y gweithiwr allweddol sy’n cael ei baru â’r preswylydd yn addas. Mae hyn yn gosod y cyd-destun o ran sicrhau bod perthnasoedd yn effeithiol. Dylai’r trefniadau ar gyfer staff cyflenwi pan fydd gweithwyr allweddol yn absennol fod yn glir a, lle bo hynny’n briodol, dylid ystyried trefniadau cydweithio.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phennaeth diogelu’r cyhoedd a/neu’r rheolwr ardal
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- polisi/polisïau goruchwyliaeth gan reolwyr
- arsylwi ymarfer
- archwilio achosion
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau goruchwylio rheolwyr yn hyrwyddo dull gweithredu unigol ar gyfer preswylwyr, staff cymorth ac yn galluogi rheoli risg yn effeithiol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw trefniadau goruchwylio rheolwyr yn hyrwyddo dull gweithredu unigol ar gyfer preswylwyr, a/neu nad ydynt yn cefnogi staff a/neu nad ydynt yn galluogi rheoli risg yn effeithiol, dylid cael dyfarniad negyddol.
e) A oes trefniadau ar waith i sicrhau bod diogelwch a lles staff yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer darparu gwasanaethau’n effeithiol?
Canllawiau:
Gall gweithio mewn Adeilad Cymeradwy fod yn anodd ac yn beryglus ar adegau, ac mae dyletswydd gyfreithiol i sicrhau bod diogelwch a lles staff yn cael eu hyrwyddo.
Mae llesiant staff yn golygu mwy na dim ond iechyd a diogelwch. Mae’n cynnwys darparu cyfleusterau lles; cymorth ar ôl digwyddiadau critigol; gwasanaethau iechyd galwedigaethol (imiwneiddiadau, clinigau lles, ac ati); a chymorth i staff sy’n profi straen a phroblemau personol sy’n effeithio ar eu gwaith. Dylai fod gan yr Adeilad Cymeradwy strategaethau a chyfleusterau sydd wedi’u dylunio i gefnogi gweithlu iach, er mwyn iddynt allu darparu gwasanaethau o safon yn well.
Dylid nodi’r trefniadau mewn polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau perthnasol a ddylai ymdrin â’r canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- sesiynau cynefino iechyd a diogelwch ar gyfer yr holl staff newydd sy’n defnyddio’r safle
- trefniadau ar gyfer diogelwch corfforol, gan gynnwys cofnodi a monitro presenoldeb ymwelwyr a staff
- trefniadau ar alwad
- trefniadau diogelwch sy’n seiliedig ar lefelau risg
- polisïau ymwelwyr
- system o larymau digwyddiadau a gweithdrefnau clir ar gyfer ymateb
- cyfleusterau cymorth cyntaf a lles sydd wedi’u llofnodi’n glir ac sydd ar gael yn rhwydd
- polisi a gweithdrefn gweithio ar eich pen eich hun, ynghyd â chanllawiau ar ymweld â chartrefi
- asesiadau o offer sgrin arddangos wedi’u llenwi a’u cofnodi’n rheolaidd
- pwyllgor iechyd a diogelwch
- aelod o staff sydd wedi’i gymhwyso a’i hyfforddi’n briodol i gyflawni rôl iechyd a diogelwch arweiniol
- adroddiadau iechyd a diogelwch sy’n cael eu cynnwys mewn cyfarfodydd llywodraethu ac uwch reolwyr.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- amgylchedd ffisegol
- polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau perthnasol (gweler y rhestr uchod)
- arsylwi ymarfer
- trefniadau ar gyfer egwyliau staff, gan gynnwys amser a lle ar gyfer y rhain
Dylai’r staff ddeall a dilyn y trefniadau ar gyfer diogelwch a lles staff.
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau effeithiol ar gyfer diogelwch a lles staff wedi’u nodi mewn polisïau sy’n cael eu rhoi ar waith, eu deall a’u dilyn gan staff, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw trefniadau effeithiol ar gyfer diogelwch a lles staff wedi’u nodi mewn polisïau, a/neu nad ydynt yn cael eu rhoi ar waith, eu deall a’u dilyn gan staff, dylid cael dyfarniad negyddol.
f) A yw perfformiad staff gwael yn cael ei nodi ac yn cael sylw?
Canllawiau:
Dylai gweithdrefnau ffurfiol fod ar waith i fynd i’r afael â materion cymhwysedd staff. Pan fydd rheolwyr yn canfod perfformiad gwael, dylent nodi ei achosion, fel llwyth gwaith trwm, diffyg hyfforddiant perthnasol, prosesau aneffeithlon, diffyg adnoddau neu staff anghymwys. Dylai rheolwyr fod yn dryloyw gyda staff am y materion a dilyn ymateb cymesur a fesul cam lle bo hynny’n briodol. Dylai’r ymateb fesul cam ddechrau drwy ganolbwyntio ar gefnogaeth i ddatblygu ymarfer ond gallai arwain at gynlluniau gwella ffurfiol os nad yw ymarfer yn gwella. Dylai gweithdrefnau hefyd ganiatáu i gamau gael eu cymryd yn brydlon ac ar unwaith lle bo angen.
Dylai prosesau rheoli perfformiad fod yn effeithiol. Dylent gynnwys trefniadau ar gyfer datblygu materion yn ymwneud â pherfformiad ar gyfer staff nad ydynt yn cael eu rheoli’n uniongyrchol gan yr Adeilad Cymeradwy, fel staff arlwyo. Gall enghreifftiau o brosesau aneffeithiol gynnwys rheolwr yn nodi perfformiad gwael ac yna’n peidio ag ymateb yn briodol os nad yw’r aelod o staff yn gwella, neu lle defnyddir prosesau gwella perfformiad yn anghyson neu lle nad oes ffocws datblygiadol.
Dylai rheolwyr fod wedi’u hyfforddi ac yn gymwys i weithredu cynlluniau datblygu a gwella, gyda chefnogaeth gan uwch reolwyr lle bo angen. Dylai uwch reolwyr fonitro’r defnydd o hysbysiadau a chynlluniau gwella perfformiad, er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu defnyddio’n deg ac yn briodol ar draws yr Adeilad Cymeradwy. Dylai gwaith monitro nodi unrhyw ddefnydd anghymesur o brosesau o’r fath ar gyfer grwpiau amrywiol.
Tystiolaeth:
- prosesau rheoli perfformiad
- trafodaethau gyda phennaeth diogelu’r cyhoedd a/neu’r rheolwr ardal
- trafodaethau gyda staff
Dyfarniad:
Pan mae gweithdrefnau ffurfiol ar waith i ganfod a rhoi sylw i berfformiad gwael staff, sy’n cynnwys trefniadau ar gyfer yr holl staff, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad oes gweithdrefnau ffurfiol ar waith i ganfod a rhoi sylw i berfformiad gwael staff a/neu os nad yw’r rhain yn cynnwys trefniadau ar gyfer yr holl staff, dylid cael dyfarniad negyddol.
Diogelwch (Back to top)
3. Mae’r Adeilad Cymeradwy yn darparu amgylchedd diogel, iach ac urddasol i staff a phreswylwyr.
3.1 A yw systemau ac arferion yr Adeilad Cymeradwy yn darparu amgylchedd diogel, iach ac urddasol i staff a phreswylwyr?
a) A oes trefniadau effeithiol ar waith i nodi a chefnogi preswylwyr sydd mewn perygl o hunanladdiad neu hunan-niweidio?
Canllawiau:
Dylai trefniadau fod ar waith cyn gynted â phosibl i nodi’n ddibynadwy y preswylwyr hynny sydd mewn perygl o hunanladdiad neu hunan-niweidio ac i nodi, cyn belled ag y bo modd, natur y risgiau hynny, gan gynnwys sbardunau. Dylid cwblhau asesiadau o’r risg o hunanladdiad a hunan-niwed fel rhan o sesiwn gynefino preswylydd a’u hadolygu mewn ymateb i unrhyw newidiadau fel rhan o waith allweddol rheolaidd. Pan fydd risgiau’n cael eu nodi, dylid cymryd camau i’w lliniaru ac fe ddylai fod cynllun gweithredu clir os bydd y risg yn cael ei gwireddu a threfniadau ar gyfer adolygu’r rhain yn rheolaidd. Dylai staff fod yn hyderus ac yn gymwys i gymryd unrhyw gamau ar unwaith a allai fod yn angenrheidiol.
Er mwyn canfod yn effeithiol y preswylwyr sydd mewn perygl o hunanladdiad a hunan-niweidio, ac i nodi natur y risgiau hynny, rhaid cael cyswllt effeithiol a rhannu gwybodaeth rhwng staff dynodedig yr Adeilad Cymeradwy a’r ymarferydd prawf. Dylai unrhyw benderfyniadau ynghylch sut i reoli risgiau hunanladdiad a hunan-niweidio fod yn seiliedig ar nifer o safbwyntiau. Dylai hyn gynnwys mewnbwn gan unigolion sy’n deall risg yr unigolyn, y gofal presennol a/neu ymyriadau a allai helpu i gefnogi eu problemau.
Dylai’r holl staff fod yn ymwybodol o risg pob preswylydd o hunanladdiad a hunan-niweidio a dylai cynlluniau fod ar waith i reoli risgiau unigol. Dylai’r cynlluniau hyn gynnwys yr ymatebion priodol i’w cymryd a allai gynnwys ymateb brwd, monitro amlach a/neu afreolaidd ac agosrwydd at y swyddfa. Dylai’r trefniadau fod yn rhai unigol, gyda phrosesau sy’n caniatáu i staff gymryd agwedd ragweithiol. Dylai’r cofnodi fod yn glir ac yn gyfredol, mewn cofnodion achos ac mewn dogfennau perthnasol eraill, fel gwybodaeth drosglwyddo ac arsylwi newidiadau mewn ymddygiad.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- amgylchedd ffisegol
- polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau perthnasol
- arsylwi ymarfer
- asesiadau diogelwch a chymorth
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau’n galluogi staff i nodi a rheoli risgiau hunanladdiad a hunan-niweidio, ac i fabwysiadu dull gweithredu unigol, a bod staff yn gymwys ac yn hyderus i gefnogi preswylwyr a’u cadw’n ddiogel, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw trefniadau’n galluogi staff i nodi a rheoli risgiau hunanladdiad a hunan-niweidio, a/neu i fabwysiadu dull gweithredu unigol, a/neu os nad yw staff yn gymwys ac yn hyderus i gefnogi preswylwyr a’u cadw’n ddiogel, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A yw meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn cael ei storio’n ddiogel a’i gweinyddu’n effeithiol yn unol â system waith ddiogel?
Canllawiau:
Dylid cael system ddiogel ar gyfer storio a gweinyddu meddyginiaeth ar bresgripsiwn yn ddiogel, gan gynnwys cyffuriau rheoledig. Dylai hyn alluogi meddyginiaeth i gael ei storio ar y tymheredd cywir, gan gynnwys ei chadw mewn oergell lle bo angen.
Dylai’r feddyginiaeth gael ei gweinyddu gan ddau aelod o staff sydd wedi’u hyfforddi i roi meddyginiaeth yn ddiogel. Dylai’r ddau aelod o staff sy’n gweinyddu’r feddyginiaeth wirio a chofnodi bod y feddyginiaeth gywir yn cael ei rhoi i’r person cywir, yn y dos cywir, drwy’r llwybr a fwriadwyd ac yn y fformiwleiddiad cywir. Dylid cofnodi’r amser a’r dyddiad y gweinyddir y feddyginiaeth. Mae gan breswylwyr yr hawl i wrthod meddyginiaeth. Pan fydd hyn wedi digwydd, dylid ei gofnodi a’i lofnodi ddwywaith hefyd.
Dylai rheolwr wirio ansawdd yn rheolaidd ac archwilio’r prosesau storio a gweinyddu meddyginiaeth.
Lle bo’n briodol, ac yn seiliedig ar asesiad risg, efallai y bydd preswylwyr yn gallu rheoli eu meddyginiaethau dros y cownter neu ar bresgripsiwn eu hunain. Dylid cael canllawiau ysgrifenedig ar gyfer hyn a dylai staff fod yn hyderus ac yn gymwys i’w dilyn. Dylai fod yn ofynnol i breswylwyr lofnodi contract os yw’r trefniadau hyn yn berthnasol. Dylid monitro hyn, gan gynnwys mewn ymateb i unrhyw newid yn ymddygiad preswylydd neu unrhyw ddigwyddiadau sy’n peri pryder.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- amgylchedd ffisegol ar gyfer storio meddyginiaeth
- polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar feddyginiaeth
- arsylwi’r broses o weinyddu meddyginiaeth
- cofnodion sicrhau ansawdd ac archwiliadau o’r broses o weinyddu meddyginiaeth
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau diogel ar waith ar gyfer storio a gweinyddu meddyginiaeth, wedi’u cefnogi gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol ac sydd wedi bod yn destun prosesau archwilio a sicrhau ansawdd, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os oes trefniadau anniogel ar gyfer storio a gweinyddu meddyginiaeth, a/neu os nad yw trefniadau’n cael eu cefnogi gan staff sydd wedi’u hyfforddi’n briodol, sydd wedi bod yn destun prosesau archwilio a sicrhau ansawdd, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A yw staff yn cymryd camau priodol pan fydd pryderon diogelu am breswylwyr?
Canllawiau:
Dylai staff allu diffinio sut beth yw pryderon diogelu sy’n ymwneud â phreswylwyr a dylent fod yn hyderus ac yn gymwys i fynd i’r afael â’r rhain. Dylai staff fod yn ystyried ac yn cymryd camau perthnasol mewn perthynas â’r pryderon diogelu hyn o’r adeg pan fydd preswylydd yn cael ei ddyrannu i’r Adeilad Cymeradwy. Dylai diwylliant yr Adeilad Cymeradwy fod yn seiliedig ar hyrwyddo diogelu’n rhagweithiol a dylai pob Adeilad Cymeradwy ystyried ei allu ei hun i leihau risg yn ei amgylchedd. Dylid cefnogi staff i gymryd camau i fynd i’r afael â phryderon diogelu sy’n ymwneud â phreswylwyr.
Dyma rai enghreifftiau:
- helpu preswylwyr i gael sylw meddygol brys pan fyddant yn sâl neu wedi’u hanafu
- atgyfeirio preswylwyr at wasanaethau iechyd meddwl pan fyddant mewn argyfwng neu pan fydd gan staff bryderon am eu hiechyd meddwl a’u lles emosiynol
- gwneud apwyntiadau gyda meddyg teulu a chefnogi preswylwyr i fynd iddynt pan fyddant yn sâl/yn rhoi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau neu alcohol
- cymryd camau pan fernir bod y preswylydd yn oedolyn agored i niwed a bod tystiolaeth o gamfanteisio gan breswylwyr eraill neu aelodau o’r cyhoedd.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- amgylchedd ffisegol
- polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu
- arsylwi yn ystod gwaith maes yr arolygiad
- cofnodion trosglwyddo
- archwilio achosion
Dyfarniad:
Pan fydd staff yn hyderus ac yn gymwys ac yn cael cymorth i gymryd camau pan fydd pryderon diogelu sy’n ymwneud â phreswylwyr, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw staff yn hyderus ac yn gymwys a/neu os nad ydynt yn cael cymorth i gymryd camau pan fydd pryderon diogelu sy’n ymwneud â phreswylwyr, dylid cael dyfarniad negyddol.
d) A yw trefniadau priodol ar gyfer rheoli ymddygiad yn cael eu gweithredu ac a yw’r preswylwyr yn eu deall yn llawn?
Canllawiau:
Dylid nodi disgwyliadau clir a rhesymol o ran ymddygiad mewn polisi rheoli ymddygiad. Dylai hyn fod ar gael i’r holl breswylwyr a dylid rhoi cyhoeddusrwydd iddo. Dylai gynnwys llwybrau ar gyfer uwchgyfeirio, canlyniadau, rhybuddion a sancsiynau. Dylid rhoi’r polisi ar waith yn gyson o’r adeg y bydd preswylydd yn cyrraedd. Dylai cynlluniau rheoli ymddygiad preswylwyr fod ar waith lle bo angen a dylent fod yn unigol ac yn ymatebol i bob preswylydd. Dylai preswylwyr ddeall sut mae’r trefniadau rheoli ymddygiad yn berthnasol iddyn nhw.
Dylai perthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a phreswylwyr fod yn sail i drefniadau rheoli ymddygiad. Dylid annog preswylwyr i gyfrannu at bolisïau ar ymddygiad derbyniol a chymryd perchnogaeth dros y man lle maen nhw’n byw. Bydd hefyd yn eu helpu i ddeall beth i’w ddisgwyl. .
Dylai staff a phreswylwyr allu disgrifio’n llawn ac yn hawdd beth yw’r disgwyliadau o ran ymddygiad preswylwyr a sut mae’r disgwyliadau hynny’n cael eu cynnal. Dylid gweithredu ac adolygu polisïau ar ymddygiad yn gyson gyda mewnbwn gan breswylwyr.
Dylai trefniadau ar alwad gefnogi staff i roi trefniadau rheoli ymddygiad ar waith. Dylid cofnodi’n briodol sut mae trefniadau rheoli ymddygiad yn cael eu rhoi ar waith a’u cynnwys fel rhan o’r broses drosglwyddo.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arolygon/cyfarfodydd preswylwyr
- polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau rheoli ymddygiad
- arsylwi gweithredu trefniadau rheoli ymddygiad
- cofnodion gweithredu trefniadau rheoli ymddygiad
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau rheoli ymddygiad yn briodol, yn ddealladwy i breswylwyr, yn cael eu gweithredu’n gyson, a’u hadolygu’n rheolaidd, gan gynnwys gyda chyfraniadau gan breswylwyr, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan fydd trefniadau rheoli ymddygiad yn amhriodol, a/neu nad yw preswylwyr yn eu deall a/neu nad ydynt yn cael eu gweithredu’n gyson, ac nad ydynt yn cael eu hadolygu’n rheolaidd, gan gynnwys gyda chyfraniadau gan breswylwyr, dylid cael dyfarniad negyddol.
e) A yw ymddygiad preswylwyr yn cael ei arsylwi’n ddigonol ac yn briodol?
Canllawiau:
Ar unrhyw adeg yn ystod arhosiad mewn Adeilad Cymeradwy, gall preswylydd deimlo’n agored i niwed neu ddangos ymddygiad sy’n peri pryder. Felly, mae’n hanfodol arsylwi a chofnodi ymddygiad preswylwyr. Dylid teilwra arsylwadau i anghenion yr unigolyn. Beth bynnag fo’r math o arsylwi, dylid cofnodi hyn yn briodol er mwyn iddo fod yn ddigonol. Dylai cofnodion fod yn destun prosesau sicrhau ansawdd ac archwilio rheolaidd.
Mae The Approved Premises SaSP and CARE User Guide V.2.0 (Tachwedd 2024) yn nodi gofynion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi ar gyfer arsylwi ymddygiad preswylydd. Mae’n disgrifio dau fath o arsylwad: gwiriadau lles a sgyrsiau ystyrlon. Diffinnir gwiriadau lles fel gwiriadau y mae pob preswylydd wedi ymateb iddynt gydag ymateb llafar neu arwydd arall fel ‘bawd i fyny’. Rhaid i staff allu gweld y person a bod yn fodlon ar yr ymateb a dderbynnir. Gall sgyrsiau ystyrlon fod yn sgwrs anffurfiol am unrhyw bwnc, ac nid oes rhaid gofyn “sut wyt ti’n teimlo?”. Mae’n drafodaeth sy’n ddigon hir i asesu hwyliau’r unigolyn ac unrhyw newid yn ei gyflwyniad. Bydd y sgyrsiau hyn yn digwydd yn naturiol drwy gydol y dydd pan fydd pobl yn cael meddyginiaeth, yn arwyddo i mewn neu allan, neu yn ystod gweithgareddau adsefydlu. Pan fydd pryderon am breswylydd, gall fod yn briodol cael sgwrs fwy ffurfiol a manwl i ffwrdd o ardaloedd cymunedol a phobl eraill mewn Adeilad Cymeradwy.
Ystyr arsylwadau digonol a phriodol wedi’u cofnodi o ymddygiad preswylydd yw pan ddefnyddir dull unigol ar gyfer pob preswylydd, sy’n cynnwys o leiaf bedwar gwiriad lles bob dydd ar gyfer pob preswylydd ac o leiaf ddwy sgwrs ystyrlon gyda phob preswylydd.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arolygon/cyfarfodydd preswylwyr
- cofnodion trosglwyddo
- archwilio achosion
- polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau ar gyfer arsylwadau
Dyfarniad:
Pan fydd cofnodion arsylwi preswylwyr, a bod y rhain yn unigol ac yn bodloni’r gofynion sylfaenol penodedig, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd cofnodion arsylwi preswylwyr a/neu nad ydynt yn unigol a/neu nad ydynt yn bodloni’r gofynion sylfaenol penodedig, dylid cael dyfarniad negyddol.
3.2 A yw cyfleusterau’r Adeilad Cymeradwy yn darparu amgylchedd diogel, iach ac urddasol i staff a phreswylwyr?
a) A yw’r preswylwyr yn cael ystafell wely lân a gweddus sydd wedi’i chynnal a’i chadw’n dda?
Canllawiau:
Dylai pob preswylydd gael ystafell sy’n lân, yn weddus ac sydd wedi’i chynnal a’i chadw’n dda pan fyddant yn cyrraedd yr Adeilad Cymeradwy. Ni ddylai fod unrhyw waith atgyweirio heb ei wneud. Er mwyn gweithredu’n llawn, dylai’r ystafell gynnwys gwely gyda matres lân a dillad gwely, cwpwrdd dillad a sinc gyda dŵr poeth ac oer o leiaf. Mae’r ystafelloedd yn debygol o fod yn rhai sylfaenol ond dylent fod yn lân ac yn groesawgar, heb lwydni ac yn ddigon cynnes. Dylid annog preswylwyr i ofalu am eu hystafelloedd a dylent allu personoli eu gofod yn briodol.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arolygon/cyfarfodydd preswylwyr
- arsylwi ystafelloedd gwely yn uniongyrchol
- adroddiadau a chofnodion atgyweirio
Dyfarniad:
Pan fydd preswylwyr yn cael ystafell sy’n gwbl weithredol, yn lân ac yn groesawgar ar ôl cyrraedd, ac y gallant ei phersonoli’n briodol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan fydd preswylwyr yn cael ystafell nad yw’n gweithredu’n llawn ac nad yw’n lân nac yn groesawgar a/neu nad ydynt yn gallu ei phersonoli’n briodol, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A wneir addasiadau i ystafelloedd gwely i reoli risg lle bo hynny’n briodol?
Canllawiau:
Dylid cael polisi clir sy’n nodi pa fath o addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud i ystafelloedd gwely i reoli risg pan fo angen. Dylai hyn gynnwys camau i fynd i’r afael â’r risg uniongyrchol, yn ogystal ag addasiadau wedi’u cynllunio. Dylai staff ddeall y polisi. Lle bo’n briodol, dylai staff a’r preswylydd dan sylw drafod yn adeiladol yr opsiynau sydd ar gael a’r rhesymeg benodol dros addasiadau, a dylai’r preswylydd ddeall y rhain. Dylai’r polisi nodi bod deiliadaeth sengl yn cael ei blaenoriaethu ar gyfer preswylwyr ar sail risg ac angen, a dylai’r ymarfer ddilyn hyn.
Mae enghreifftiau o lle y gallai fod angen gwneud addasiadau yn cynnwys rheoli’r risgiau a berir gan breswylwyr sydd wedi cyflawni llosgi bwriadol neu lle mae’r amgylchedd yn peri risg i breswylydd, er enghraifft drwy ddarparu pwyntiau clymu. Efallai y bydd angen addasu rhai anghenion meddygol penodol hefyd; er enghraifft, dylid rhoi preswylydd sydd mewn perygl o ffitiau mewn ystafell sy’n agos at yr aelodau o staff ar ddyletswydd.
Dylai staff fod yn rhagweithiol wrth addasu ystafelloedd gwely’n gyson i reoli risg lle bo angen.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arolygon/cyfarfodydd preswylwyr
- polisi rheoli adeiladau/cyfleusterau
- arsylwi’n uniongyrchol ar yr amgylchedd ffisegol
Dyfarniad:
Os oes dull rhagweithiol a chyson, sy’n seiliedig ar bolisi ac sy’n cael ei ddeall gan staff, o wneud addasiadau i ystafelloedd gwely i reoli risg, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad oes dull rhagweithiol a chyson, sy’n seiliedig ar bolisi ac sy’n cael ei ddeall gan staff, o wneud addasiadau i ystafelloedd gwely i reoli risg, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A yw’r preswylwyr yn cael amgylchedd ehangach glân a gweddus wedi’i gynnal a’i gadw’n dda?
Canllawiau:
Dylai amgylchedd ffisegol y preswylwyr fod yn lân, yn weddus ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda o’r adeg y byddant yn cyrraedd yr Adeilad Cymeradwy. Ni ddylai fod unrhyw waith atgyweirio mawr heb ei wneud. Mae’r amgylchedd yn debygol o fod yn sylfaenol ond dylai fod yn groesawgar, heb lwydni ac yn ddigon cynnes.
Dylai fod digon o lefydd i alluogi preswylwyr i symud oddi wrth eraill os ydynt yn dymuno ond hefyd i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Dylai’r mannau bwyta fod yn ddigon mawr i’r amseroedd bwyd fod yn gymdeithasol ond dylent hefyd roi cyfle i breswylwyr fwyta ar eu pen eu hunain neu mewn grwpiau bach os dyna yw eu dewis. Dylid cael cyfleusterau asesu risg i alluogi preswylwyr i goginio eu prydau bwyd eu hunain lle bo hynny’n briodol. Dylid annog preswylwyr i ofalu am eu hamgylchedd.
Os oes mannau yn yr awyr agored, dylai’r rhain fod yn ddiogel ac wedi’u cynnal a’u cadw’n dda.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arolygon/cyfarfodydd preswylwyr
- arsylwi’n uniongyrchol ar yr amgylchedd ffisegol
- adroddiadau a chofnodion atgyweirio
Dyfarniad:
Pan fydd amgylchedd ffisegol yr Adeilad Cymeradwy yn lân, yn groesawgar, yn gynnes ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, ac yn rhoi hyblygrwydd i breswylwyr o ran sut maen nhw’n treulio eu hamser yn yr Adeilad Cymeradwy, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw amgylchedd ffisegol yr Adeilad Cymeradwy yn lân, yn groesawgar, yn gynnes ac wedi’i gynnal a’i gadw’n dda, a/neu os nad yw’n rhoi hyblygrwydd i breswylwyr o ran sut maen nhw’n treulio eu hamser yn yr Adeilad Cymeradwy, dylid cael dyfarniad negyddol.
d) A oes cyfleusterau cawod a thoiled glân a gweddus sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n dda?
Canllawiau:
Dylai cyfleusterau cawod a thoiledau fod yn lân, yn weddus ac wedi’u cynnal a’u cadw’n dda bob amser. Mae cawodydd a thoiledau yn debygol o fod yn sylfaenol ond dylent fod yn lân, heb lwydni ac yn ddigon cynnes, gyda systemau dŵr sy’n llifo’n rhydd heb unrhyw rwystrau a gyda dŵr poeth ac oer. Dylid cael cyfleusterau cawod a thoiled sy’n addas ar gyfer preswylwyr sydd ag amhariad corfforol (symudedd, deheurwydd) neu synhwyraidd.
Ni ddylai fod unrhyw waith atgyweirio mawr heb ei wneud. Pan fydd angen gwneud gwaith atgyweirio, dylid delio â’r rhain yn effeithlon. Dylid annog preswylwyr i ofalu am eu cyfleusterau.
Dylid cael digon o gyfleusterau cawod a thoiled i sicrhau nad yw preswylwyr yn gorfod aros am gyfnodau afresymol i’w defnyddio.
Dylid darparu cyfleusterau toiled ar wahân ar gyfer staff.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arolygon/cyfarfodydd preswylwyr
- arsylwi’n uniongyrchol ar yr amgylchedd ffisegol
- adroddiadau a chofnodion atgyweirio
Dyfarniad:
Pan fydd cyfleusterau cawod a thoiled yn lân, yn weddus ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, gyda’r cymarebau gofynnol yn cael eu bodloni a chyfleusterau staff ar wahân yn cael eu darparu, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd cyfleusterau cawod a thoiled yn lân, yn weddus ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, nid yw’r cymarebau gofynnol yn cael eu bodloni ac nid oes cyfleusterau staff ar wahân yn cael eu darparu, dylid cael dyfarniad negyddol.
e) A yw offer diogelwch yn cael ei ddefnyddio’n briodol, gan gynnwys i gofnodi ac adolygu digwyddiadau?
Canllawiau:
Dylid cael polisi a chanllawiau priodol ar waith sy’n ymdrin â defnyddio offer diogelwch. Dylid gosod teledu cylch cyfyng mewn mannau priodol i hyrwyddo diogelwch ar yr un pryd â chynnal preifatrwydd. Dylai teledu cylch cyfyng weithio’n ddibynadwy, a dylid dilyn protocolau clir o ran storio a defnyddio teledu cylch cyfyng i gofnodi ac adolygu digwyddiadau. O dan amgylchiadau arferol, dylai preswylwyr gael preifatrwydd llwyr yn eu hystafelloedd gwely ac wrth ddefnyddio’r toiled a’r cyfleusterau ymolchi. Efallai y bydd amgylchiadau pan fydd pryderon diogelu penodol yn cael eu nodi sy’n gofyn am drefniant gwahanol.
Dylai’r defnydd o larymau personol gael ei reoli gan bolisi a chanllawiau priodol. Dylai larymau personol weithio’n effeithiol a dylai staff fod yn hyderus ac yn gymwys wrth ymateb i larymau personol.
Dylid ymdrechu i sicrhau nad yw defnyddio offer diogelwch yn amharu’n ormodol ar allu staff i feithrin perthynas effeithiol â phreswylwyr.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arolygon/cyfarfodydd preswylwyr
- polisi a chanllawiau mewn perthynas â defnyddio offer diogelwch
- arsylwi’n uniongyrchol ar y defnydd o offer diogelwch
- cofnodion sy’n ymwneud â defnyddio offer diogelwch
Dyfarniad:
Pan fydd offer diogelwch yn cael ei osod a’i ddefnyddio’n briodol, a’r defnydd ohono’n cael ei adolygu’n rheolaidd, gan gynnwys yr effaith ar y berthynas â phreswylwyr, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan fydd cyfarpar diogelwch yn cael ei osod a/neu ei ddefnyddio’n amhriodol, a/neu nad yw’n cael ei adolygu’n rheolaidd, gan gynnwys yr effaith ar y berthynas â phreswylwyr, dylid cael dyfarniad negyddol.
Diogelu’r cyhoedd (Back to top)
4. Mae’r Adeilad Cymeradwy yn diogelu’r cyhoedd yn effeithiol.
4.1 A yw’r Adeilad Cymeradwy yn darparu trefniadau diogelu’r cyhoedd yn effeithiol?
a) A yw’r Adeilad Cymeradwy yn mynychu ac yn cyfrannu at fforymau rheoli risg amlasiantaethol allweddol gan gynnwys MAPPA?
Canllawiau:
Mae Adeiladau Cymeradwy yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o reoli risg. O’r herwydd, dylid eu hintegreiddio’n llawn â’r fforymau rheoli risg amlasiantaethol allweddol. Fel safon ofynnol, bydd hyn yn cynnwys Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA), lle mae’r gwasanaeth prawf, yr heddlu, y carchar ac asiantaethau eraill yn gweithio gyda’i gilydd yn lleol i reoli troseddwyr sy’n peri risg uwch o niwed i bobl eraill. Lefel 1 yw rheolaeth asiantaeth arferol, lle gall y risgiau a berir gan y troseddwr gael eu rheoli gan yr asiantaeth sy’n gyfrifol am oruchwylio neu reoli achos y troseddwr. Mae hyn yn cymharu â Lefelau 2 a 3, sy’n gofyn am reoli amlasiantaethol gweithredol.
Dylai staff yr Adeilad Cymeradwy fynychu a chymryd rhan ym mhob cyfarfod MAPPA. Dylent fod ar y lefel briodol o gyfrifoldeb, a ddylai gynnwys rheolwr yr Adeilad Cymeradwy ar gyfer Lefel 3. Gall fod yn ddefnyddiol i weithwyr allweddol fod yn bresennol hefyd, gan mai nhw sy’n debygol o fod â’r fwyaf o wybodaeth am breswylwyr unigol. Dylai camau gweithredu perthnasol a threfniadau rheoli risg gan MAPPA gael eu rhoi ar waith yn gyflym. Er enghraifft, efallai y bydd cyfyngiadau ychwanegol yn cael eu hychwanegu at amodau trwydded rhai preswylwyr, fel cyrffyw yn ystod y dydd ac amseroedd arwyddo i mewn ar wahanol adegau yn ystod y dydd. Dylai pob asiantaeth MAPPA ystyried rôl yr Adeilad Cymeradwy o ran rheoli risg fel rhan o’r gwaith o gynllunio rheoli risg. Bydd hyn yn helpu i fanteisio i’r eithaf ar yr hyn y gall Adeilad Cymeradwy ei gynnig.
Pan fydd troseddwr yn cael ei reoli y tu allan i’r ardal, dylid cyfnewid gwybodaeth yn llawn rhwng yr Adeilad Cymeradwy a’r MAPPA sy’n gyfrifol am reoli’r troseddwr. Yn benodol, dylai’r Adeilad Cymeradwy sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfnewid yn brydlon gyda’r MAPPA.
Y tu allan i gyfarfodydd MAPPA, dylid cael cysylltiadau lleol effeithiol â’r heddlu ar lefel strategol a gweithredol. Er enghraifft, dylai swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ymweld â’r Adeilad Cymeradwy.
Tystiolaeth:
- polisi mewn perthynas â threfniadau MAPPA
- polisi mewn perthynas â fforymau rheoli risg amlasiantaethol
- cofnodion MAPPA
- cofnodion fforymau rheoli risg amlasiantaethol
- gwybodaeth trosglwyddo
- archwilio achosion
Dyfarniad:
Pan fydd yr Adeilad Cymeradwy wedi’i integreiddio’n llawn â fforymau rheoli risg amlasiantaethol allweddol, gan gynnwys ymarfer MAPPA yn lleol, ac yn cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau ac yn gweithredu’n gyflym, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw’r Adeilad Cymeradwy wedi’i integreiddio’n llawn â fforymau rheoli risg amlasiantaethol allweddol, gan gynnwys ymarfer MAPPA yn lleol, a/neu os nad yw’n cymryd rhan weithredol mewn penderfyniadau ac yn gweithredu’n gyflym, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A oes gan yr Adeilad Cymeradwy oruchwyliaeth a dylanwad priodol o ran dyrannu preswylwyr i’r Adeilad Cymeradwy?
Canllawiau:
Mae uned atgyfeirio ganolog yr Adeilad Cymeradwy (CRU) yn dyrannu unigolion i’r Adeilad Cymeradwy. Dylai’r Adeilad adolygu’r wybodaeth y mae’n ei chael cyn cyrraedd a sicrhau bod staff yn ystyried hyn, lle bo hynny’n berthnasol, wrth baratoi cynllun unigol ar gyfer dyfodiad preswylydd newydd. Pan fydd Adeilad Cymeradwy yn adolygu’r wybodaeth cyn cyrraedd ac yn credu na all ddiwallu anghenion na rheoli risg y preswylydd, dylai roi gwybod i’r Uned Atgyfeirio Ganolog ar unwaith a cheisio apelio yn erbyn y penderfyniad i leoli’r preswylydd yn yr Adeilad Cymeradwy penodol hwnnw. Mae enghreifftiau’n cynnwys pan fydd gan breswylydd anabledd na all yr Adeilad Cymeradwy ddarparu ar ei gyfer, neu pan fydd unigolyn yn peri risg benodol sylweddol i unigolion penodol eraill sydd eisoes yn yr Adeilad Cymeradwy.
Tystiolaeth:
- archwilio achosion
- gwybodaeth cyn cyrraedd
- polisi a gweithdrefn yn ymwneud â dyrannu
- trafodaethau gyda staff
Dyfarniad:
Pan fydd yr Adeilad Cymeradwy yn ystyried gwybodaeth cyn cyrraedd ac yn cymryd camau priodol lle bo hynny’n berthnasol i ddylanwadu ar benderfyniadau lleoli, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd yr Adeilad Cymeradwy yn ystyried gwybodaeth cyn cyrraedd nac yn cymryd camau priodol lle bo hynny’n berthnasol i ddylanwadu ar benderfyniadau lleoli, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A oes penderfyniadau gorfodi priodol yn cael eu gwneud a’u cofnodi’n ddigonol?
Canllawiau:
Dylai’r Adeilad Cymeradwy reoli lleoliad pob preswylydd mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o aildroseddu a niwed i’r cyhoedd, yn ogystal â niwed i breswylwyr. Dylid ei gwneud yn glir i breswylwyr ar ôl cyrraedd pa ymddygiad neu sefyllfaoedd fyddai’n arwain at gymryd camau gorfodi. Dylai preswylwyr lofnodi i gadarnhau eu bod yn deall.
Dylai penderfyniadau gorfodi fod yn amserol, yn gymesur ac yn amddiffynadwy fel sail i reoli risg yn effeithiol ac adsefydlu unigolion. Dylai’r Adeilad Cymeradwy reoli eu system rhybuddio a chosbi fewnol mewn ffordd sy’n sicrhau bod y camau gorfodi’n briodol ac yn gyfiawn. Dylent sicrhau nad yw’r camau gorfodi’n cael eu cymryd yn rhy gynnar oherwydd cyfres o fân gamweddau’n ymwneud â disgwyliadau ymddygiadol. Er enghraifft, ni ddylai methiant i gyflawni tasgau penodedig yn yr Adeilad arwain at gamau gorfodi hyd nes ceir patrwm clir a pharhaus o fethiant i gydymffurfio a bod pob opsiwn wedi’i ddilyn i sicrhau cydymffurfiaeth. I gydbwyso hyn, mae’r gwaith o reoli’r grŵp preswylwyr yn ei gwneud yn ofynnol i breswylwyr gael eu trin yn deg a bod dull gweithredu cyson yn cael ei fabwysiadu bob amser.
Dylid gwneud penderfyniadau gorfodi a galw yn ôl lle bo hynny’n bosibl gyda mewnbwn yr ymarferydd prawf o uned gyflawni’r gwasanaeth prawf. Dylid cael trefniadau priodol a dibynadwy ar gyfer galw yn ôl y tu allan i oriau. Pan fydd camau gorfodi neu alw yn ôl yn digwydd, dylid cofnodi hyn yn unol â gofynion cenedlaethol a lleol.
Tystiolaeth:
- archwilio achosion
- polisi rheoli ymddygiad
- trefniadau y tu allan i oriau
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
Dyfarniad:
Pan fydd penderfyniadau gorfodi, gan gynnwys galw yn ôl, yn cael eu gwneud a’u cofnodi’n briodol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw penderfyniadau gorfodi, gan gynnwys galw yn ôl, yn cael eu gwneud a/neu eu cofnodi’n briodol, dylid cael dyfarniad negyddol.
d) A yw staff yn cymryd camau priodol pan fydd pryderon diogelu am blant ac oedolion agored i niwed?
Canllawiau:
Dylai staff allu diffinio sut beth yw pryderon diogelu mewn perthynas â phlant ac oedolion agored i niwed. Dylent fod yn hyderus ac yn gymwys i fynd i’r afael â’r rhain. Dylid cael diwylliant staff rhagweithiol o ymwybyddiaeth a gweithredu mewn perthynas â diogelu plant ac oedolion agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys atgyfeirio at ofal cymdeithasol i oedolion pan arsylwir sefyllfaoedd peryglus, er enghraifft os yw preswylydd yn cael cyswllt â phlant/pobl â phlant.
Dylid cefnogi staff i gymryd camau i fynd i’r afael â phryderon diogelu mewn perthynas a phlant ac oedolion agored i niwed.
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- polisïau, gweithdrefnau a chanllawiau diogelu
- arsylwi yn ystod gwaith maes yr arolygiad
- cofnodion trosglwyddo
- archwilio achosion
Dyfarniad:
Pan fydd staff yn hyderus ac yn gymwys, ac yn cael eu cefnogi i weithredu pan fydd pryderon diogelu mewn perthynas â phlant ac oedolion agored i niwed, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd staff yn hyderus ac yn gymwys a/neu os nad ydynt yn cael cymorth i weithredu pan fydd pryderon diogelu mewn perthynas â phlant ac oedolion agored i niwed, dylid cael dyfarniad negyddol.
e) A yw’r trefniadau gofynnol ar waith ar gyfer monitro a rhannu gwybodaeth â’r PDU i reoli risg yn ddigonol?
Canllawiau:
Dylai protocolau rhannu gwybodaeth a threfniadau cysylltu effeithiol fod ar waith gyda PDUs. Dylai fod cyfathrebu dwyffordd rhwng yr Adeilad Cymeradwy ac ymarferydd prawf pob preswylydd, a ddylai ymestyn i drefniadau gweithio ar y cyd, lle bo hynny’n briodol. Dylai hyn gynnwys rhannu gwybodaeth yn amserol, fel canlyniadau profion cyffuriau ac alcohol.
Mae cyfathrebu o safon rhwng yr Adeilad Cymeradwy a’r ymarferydd prawf yn hanfodol. Rhaid i wybodaeth a fyddai’n golygu bod angen newid asesiad risg preswylydd gael ei throsglwyddo i’r ymarferydd prawf ar unwaith. Yn ogystal, dylai staff yr Adeilad gofio bod staff y tu allan i’r Adeilad hwnnw yn gallu darllen a defnyddio cofnodion achos preswylwyr yn nDelius, felly mae’n hanfodol eu bod yn cael eu diweddaru. Dylai’r wybodaeth fod yn hawdd ei defnyddio a’i deall. Efallai na fydd amser a llwyth gwaith yn caniatáu mewnbynnu data cyn gynted ag y bydd digwyddiad yn digwydd, ond dylid diweddaru cofnodion cyn gynted â phosibl wedyn, tra bo’r digwyddiadau’n ffres yn y cof.
Tystiolaeth:
- archwilio achosion
- protocolau rhannu gwybodaeth
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
Dyfarniad:
Pan fydd cyfathrebu dwyffordd gweithredol rhwng yr Adeilad Cymeradwy ac ymarferwyr prawf, wedi’i ategu gan brotocol rhannu gwybodaeth clir a weithredir, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan na fydd cyfathrebu dwyffordd gweithredol rhwng yr Adeilad Cymeradwy ac ymarferwyr prawf a/neu nad yw hyn yn cael ei ategu gan brotocol rhannu gwybodaeth clir a weithredir, dylid cael dyfarniad negyddol.
f) A yw’r trefniadau gofynnol ar waith ar gyfer monitro a rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill i reoli risg yn ddigonol?
Canllawiau:
Er mwyn i Adeiladau Cymeradwy fod yn llwyddiannus o ran diogelu’r cyhoedd, mae’n hanfodol cydweithio â sefydliadau lleol. Dylai trefniadau rhannu gwybodaeth amlasiantaethol, wedi’u hategu gan brotocolau clir a weithredir, fod ar waith gyda’r heddlu, MAPPA, gwasanaethau llety, iechyd a chamddefnyddio sylweddau o leiaf. Gall gwybodaeth Adeiladau Cymeradwy am ymddygiad preswylwyr, chwilio am ystafelloedd, defnyddio alcohol a chyffuriau, ffurfio perthnasoedd newydd a chynnydd o ran gwneud newidiadau cadarnhaol i fywydau preswylwyr fod o werth mawr i unedau diogelu’r cyhoedd yr heddlu. Dylai protocolau a threfniadau rhannu gwybodaeth sicrhau bod modd rhannu hyn yn briodol.
Pan fydd asiantaethau lleol eraill, fel elusennau, grwpiau ffydd a grwpiau gwirfoddol, yn ymwneud â gweithio gyda phreswylwyr, nid yw’n debygol y bydd yr un protocolau rhannu gwybodaeth. Fodd bynnag, dylai gwaith gyda’r asiantaethau hyn gael ei gefnogi gan drefniadau rhannu gwybodaeth gyda’r Adeilad Cymeradwy sy’n sicrhau bod yr Adeilad hwnnw a’r asiantaethau eraill yn gallu rheoli risg yn effeithiol.
Tystiolaeth:
- protocolau rhannu gwybodaeth
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- cofnodion trosglwyddo
- archwilio achosion
Dyfarniad:
Os oes trefniadau monitro a rhannu gwybodaeth effeithiol ar waith gydag asiantaethau eraill i reoli risg yn effeithiol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad oes trefniadau monitro a rhannu gwybodaeth ar waith gydag asiantaethau eraill i reoli risg yn effeithiol, dylid cael dyfarniad negyddol.
g) A yw’r broses o drosglwyddo rhwng sifftiau yn gynhwysfawr ac yn cael ei chefnogi gan gofnodion ysgrifenedig sy’n cofnodi gwybodaeth am reoli risg a diogelu yn briodol?
Canllawiau:
Dylai trosglwyddo rhwng sifftiau gael ei wneud wyneb yn wyneb gan aelod o staff sy’n gorffen ei shifft i’r holl staff ar ddechrau eu shifft. Pan fydd rheolwr yr Adeilad Cymeradwy ar shifft, dylai fod yn bresennol adeg trosglwyddo. Dylai amser penodol fod ar gael i alluogi’r broses drosglwyddo i gwmpasu’r wybodaeth angenrheidiol. Dylid trafod pob preswylydd yn ystod y trosglwyddo ac, fel safon ofynnol, dylai’r trosglwyddo ymdrin â materion risg a diogelu ac unrhyw faterion sy’n ymwneud ag adeiladau a chyfleusterau. Pan fydd camau i’w cymryd gan y staff sy’n cychwyn ei shifft, dylid egluro’r rhain a’u trosglwyddo.
Fel safon ofynnol, dylai’r cofnodion trosglwyddo ysgrifenedig gynnwys materion risg neu ddiogelu a chamau gweithredu cysylltiedig ac unrhyw faterion sy’n ymwneud ag adeiladau a chyfleusterau, a chamau gweithredu cysylltiedig.
Tystiolaeth:
- cofnodion trosglwyddo
- trafodaethau gyda staff
- arsylwi trosglwyddiadau
Dyfarniad:
Pan fydd y broses o drosglwyddo rhwng shifftiau yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am risg a diogelu, yn cael ei mynychu’n briodol ac yn cael ei chefnogi gan gofnodion ysgrifenedig, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw’r broses o drosglwyddo rhwng shifftiau yn cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am risg a diogelu, a/neu nad yw’n cael ei mynychu’n briodol a/neu nad yw’n cael ei chefnogi gan gofnodion ysgrifenedig, dylid cael dyfarniad negyddol.
h) A yw profion cyffuriau ac alcohol yn cael eu cynnal yn briodol mewn perthynas â phryderon risg neu ddiogelu?
Canllawiau:
Gall Adeiladau Cymeradwy chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau canlyniad llwyddiannus o ran galluogi troseddwyr i roi’r gorau i ddefnyddio cyffuriau ac alcohol anghyfreithlon. Rhaid i Adeiladau Cymeradwy gael polisi ysgrifenedig clir sy’n cefnogi ymdrechion staff Adeiladau Cymeradwy ac ymarferwyr prawf i gynnal amgylchedd di-alcohol a chyffuriau. Dylai profion cyffuriau ac alcohol fod yn rhan o becyn o drefniadau rheoli risg sydd wedi’u teilwra’n benodol i unigolion.
Rhaid i Adeiladau Cymeradwy sicrhau’r canlynol:
- bod darpariaeth ar waith i gynnal profion, os nad yw hyn yn wir eisoes
- bod triniaeth ar gael ar gyfer y rheini sy’n cael canlyniad positif
- sancsiynau clir i’r rheini sy’n cael canlyniad positif ac sy’n gwrthod triniaeth, neu sy’n parhau i gael canlyniad positif dros amser.
Dylai trefniadau fod ar waith ar gyfer profion cadarnhau mewn labordy pan fydd anghydfod ynghylch canlyniadau.
Profion cyffuriau
Dylid dewis preswylwyr yn ofalus ar gyfer profion, ar sail hanes o gamddefnyddio sylweddau neu ar amheuaeth resymol. Rhaid i Adeiladau Cymeradwy cynnal profion am heroin a chocên/crac cocên o leiaf.
Mae profi defnyddwyr cyffuriau hysbys wrth iddynt gyrraedd neu pan amheuir eu bod yn defnyddio cyffuriau o’r newydd yn dderbyniol.
Mae profi troseddwyr sydd â hanes blaenorol o ddefnyddio cyffuriau ar hap yn dderbyniol. Gallai profi ar amheuaeth resymol gynnwys profi troseddwr lle canfuwyd offer cyffuriau yn ei ystafell. Nid yw profi’r holl breswylwyr fel mater o drefn yn gyson â rheoli risg a dylid ei osgoi.
Efallai y bydd adegau pan na fydd defnydd troseddwr o gyffuriau yn hysbys, pan fydd yn cael ei wadu, pan fydd y troseddwr newydd ddechrau eu defnyddio neu pan fydd amheuon o ddefnyddio cyffuriau na ellir eu cysylltu ag unigolion (er enghraifft pan geir offer cymryd cyffuriau yn yr eiddo). Mae’n bwysig felly bod rheolau’r Adeiladau Cymeradwy yn darparu ar gyfer profi unrhyw breswylydd, ar amheuaeth resymol ac yn ôl disgresiwn y staff, a bod hyn yn cael ei egluro i’r troseddwr pan fydd ef neu hi yn llofnodi’r rheolau. Mae derbyn y drefn hon yn amod preswylio mewn Adeilad Cymeradwy. Fodd bynnag, dylai Adeiladau Cymeradwy gofio, ar gyfer preswylwyr heb unrhyw hanes o ddefnyddio cyffuriau, a lle nad oes unrhyw amheuon rhesymol, y gallai hyn olygu torri Erthygl 8 o’r Confensiwn Ewropeaidd (yr hawl i ryddid rhag ymyrryd ag uniondeb corfforol ef/hi), hyd yn oed os yw’r preswylydd wedi llofnodi’r rheolau Adeilad Cymeradwy.
Profion alcohol
Bydd profion alcohol fel arfer yn berthnasol pan fydd trwydded preswylydd yn gwahardd yfed alcohol, pan fydd alcohol yn ffactor hysbys mewn troseddu blaenorol, neu pan fydd anhwylder yn debygol.
Rhaid i hyn fod ar amheuaeth resymol a lle mae pryder am ganlyniadau posibl fel anhrefn yn yr Adeilad Cymeradwy. Gellir profi preswylwyr sydd â hanes blaenorol o droseddu sy’n gysylltiedig ag alcohol ar hap.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- arsylwi ymarfer
- polisi profi am gyffuriau ac alcohol
- archwilio achosion
- cofnodion o brofion cyffuriau ac alcohol
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau ar gyfer profion cyffuriau ac alcohol yn cael eu gwneud yn briodol mewn perthynas â phryderon risg neu ddiogelu, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw trefniadau ar gyfer profion cyffuriau ac alcohol yn cael eu gwneud yn briodol mewn perthynas â phryderon risg neu ddiogelu, dylid cael dyfarniad negyddol.
Adsefydlu (Back to top)
5. Mae’r Adeilad Cymeradwy yn darparu gweithgarwch adsefydlu i leihau aildroseddu.
5.1 A yw’r Adeilad Cymeradwy yn darparu gweithgarwch adsefydlu i leihau aildroseddu?
a) A oes cysylltiadau a gweithgarwch effeithiol gyda gwasanaethau lleol i alluogi adsefydlu effeithiol?
Canllawiau:
Mae sicrhau bod cysylltiadau allweddol gydag asiantaethau eraill yn gweithio’n dda yn rhan hanfodol o ddarparu proses adsefydlu effeithiol. Dylai staff Adeiladau Cymeradwy gael cysylltiadau effeithiol gyda gwasanaethau lleol, a gweithio gyda nhw. Mae hyn yn cynnwys rheolwr yr Adeilad Cymeradwy yn ymgysylltu â’i swyddogion cyfatebol i sicrhau bod trefniadau gweithio, gan gynnwys cyfnewid gwybodaeth, yn effeithiol. Yn ymarferol, dylai gweithwyr allweddol ddilyn cytundebau allweddol, protocolau, a llwybrau atgyfeirio neu symud ymlaen i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei chyfnewid, a bod atgyfeiriadau’n cael eu trin yn briodol.
Dylai’r Adeilad Cymeradwy fod yn rhan o gynlluniau ar y cyd â phartneriaid allweddol i gryfhau arferion asiantaethau unigol ac ar y cyd er mwyn gwella’r broses adsefydlu. Er enghraifft, gall Adeiladau Cymeradwy fod yn rhan o drefniadau diogelu lleol ar gyfer pobl ar brawf, gydag ymgysylltu mewn is-grwpiau perthnasol, fel hyfforddiant ac effeithiolrwydd.
Dylai Adeiladau Cymeradwy feithrin perthnasoedd allweddol eraill, gan gynnwys gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys canolfannau diogelu amlasiantaethol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt; cynadleddau asesu risg amlasiantaethol; llywodraethwyr carchardai lleol; a gwasanaethau iechyd meddwl fforensig. Bydd yn bwysig cael perthynas waith dda gydag awdurdodau lleol a darparwyr tai annibynnol ynghylch llety diogel ac amserol. Gall cysylltiadau a gweithgareddau eraill fod gyda darparwyr addysg, hyfforddiant a chyflogaeth lleol, a allai helpu gydag adnoddau ar gyfer cyfweliadau neu ddarparu treialon gwaith a lleoliadau.
Tystiolaeth:
- archwilio achosion
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- cofnodion cyfarfodydd protocolau lleol
Dyfarniad:
Pan fydd cysylltiadau effeithiol ar waith ac yn cael eu cefnogi gan weithgarwch i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn galluogi adsefydlu effeithiol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Lle nad oes cysylltiadau effeithiol ar waith a/neu nad ydynt yn cael eu cefnogi gan weithgarwch i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn galluogi adsefydlu effeithiol, dylid cael dyfarniad negyddol.
b) A yw’r gweithgareddau adsefydlu’n ddigonol, yn cael eu cynllunio a’u darparu i gefnogi’r broses o ailintegreiddio preswylwyr â’r gymuned?
Canllawiau:
Dylai Adeiladau Cymeradwy ddarparu amrywiaeth o ymyriadau a gweithgareddau adeiladol i gefnogi preswylwyr i ailintegreiddio yn y gymuned. Dylid cael trefniadau i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cymryd rhan mewn ymyriadau a gweithgareddau adeiladol eraill i’r lefel sy’n ofynnol yn genedlaethol neu’n lleol. Dylid cefnogi anghenion Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant preswylwyr i’w galluogi i gymryd rhan yn llawn. Dylai gweithgareddau fod yn hygyrch, gan gynnwys o gwmpas oriau gwaith a chyrffyw. Dylid eu cynllunio ymlaen llaw a rhoi gwybod i’r preswylydd amdanynt. Dylid sicrhau bod y preswylydd wedi cytuno ar gynllun wythnosol o weithgareddau wedi’u trefnu.
Dylai gweithgareddau adsefydlu gael eu llywio gan anghenion preswylwyr. Dylai Adeiladau Cymeradwy gyhoeddi amserlen o weithgareddau ar gyfer yr wythnos. Efallai y bydd sesiynau ymarferol ar addysg, hyfforddiant a chyflogaeth; sesiynau ar ddod o hyd i lety wrth symud ymlaen, ar fynd i’r afael â materion cyffuriau ac alcohol neu sgiliau bywyd a sgiliau ymarferol, fel coginio, cyllidebu a chynnal tenantiaethau. Dylai gweithgareddau adsefydlu helpu preswylwyr i fagu hyder wrth weithio mewn amgylchedd dysgu gydag eraill.
Dylid darparu digon o adnoddau ar gyfer gweithgareddau. Mae hyn yn golygu y dylid eu staffio’n ddiogel ac na ddylid eu canslo oherwydd bod angen staff ar gyfer dyletswyddau eraill. Dylid darparu unrhyw ddeunyddiau sydd eu hangen. Mae enghreifftiau’n cynnwys dysgu sgiliau, gwaith ymddygiad gwybyddol a pharatoi ar gyfer symud ymlaen. Dylai staff Adeiladau Cymeradwy ddarparu gwybodaeth ysgogol a gwaith atgyfnerthu i gefnogi unrhyw breswylwyr sy’n cymryd rhan mewn rhaglenni achrededig.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
- amserlenni/rhestrau’r gweithgareddau a gynigir
Dyfarniad:
Pan fydd gweithgareddau adsefydlu yn hygyrch, yn cael digon o adnoddau ac yn diwallu anghenion unigol preswylwyr, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Lle nad yw gweithgareddau adsefydlu’n hygyrch a/neu lle nad oes digon o adnoddau a/neu nad ydynt yn diwallu anghenion unigol preswylwyr, dylid cael dyfarniad negyddol.
c) A yw’r gweithgareddau adsefydlu yn cyd-fynd â’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y PDU?
Canllawiau:
Dylai gweithiwr allweddol gael ei neilltuo i bob preswylydd yn yr Adeilad Cymeradwy. Elfen bwysig o rôl y gweithiwr allweddol yw cysylltu ag ymarferydd prawf PDU y preswylydd. Dylai hyn ddechrau cyn i’r preswylydd gyrraedd a chael ei atgyfnerthu yn ystod y cyfnod cynefino ar ddechrau arhosiad y preswylydd. Dylai gweithwyr allweddol fod yn gwbl ymwybodol o’r hyn a nodir yng nghynllun dedfrydu unigolyn a beth yw eu rôl fel gweithiwr allweddol o ran cyflawni gofynion y cynllun neu wrth gysylltu â’r ymarferydd prawf. Dylid adolygu’r holl weithgareddau adsefydlu ar y cyd â’r ymarferydd prawf. Dylai’r gwaith a gyflawnir gan y gweithiwr allweddol gyd-fynd â gwaith yr ymarferydd prawf – ni ddylai fod yn anghyson nac yn ailadroddus.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
Dyfarniad:
Pan fydd gweithgareddau adsefydlu’n cyd-fynd yn effeithiol â’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y PDU, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw gweithgareddau adsefydlu’n cyd-fynd yn effeithiol â’r gwaith sy’n cael ei gyflawni gan y PDU, dylid cael dyfarniad negyddol.
d) A yw’r preswylwyr yn cael sesiwn gynefino addas ac amserol yn yr Adeilad Cymeradwy?
Canllawiau:
Nod proses gynefino effeithiol yw sicrhau bod gan bawb sy’n cyrraedd o’r newydd wybodaeth lawn am yr hyn a ddisgwylir ganddynt, ac y dylent ddeall sut i gydymffurfio, sut i fanteisio i’r eithaf ar eu hamser yn yr Adeilad Cymeradwy a sut i ddatrys unrhyw bryderon sydd ganddynt. Dylai’r broses gynefino hyrwyddo cyfnod cadarnhaol o breswylio. Dylai deunyddiau cynefino ddiwallu anghenion yr holl breswylwyr a chael eu cyflwyno’n sensitif.
Dylai’r broses gynefino ddechrau cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl. Dylid cael proses gynefino a rhestr wirio a ddilynir gan yr holl staff sy’n cyflwyno’r rhaglen gynefino. Dylai’r sesiynau cynefino gynnwys y canlynol o leiaf:
- Rheolau’r Adeilad Cymeradwy – rhaid i’r preswylydd lofnodi i gadarnhau ei fod yn deall y rhain
- amseroedd cyrffyw, gofynion arwyddo i mewn a chanlyniadau torri’r rhain
- iechyd a diogelwch yn yr Adeilad Cymeradwy, gan gynnwys gweithdrefnau tân
- taith o amgylch yr Adeilad Cymeradwy
- asesiad o faterion hunan-niweidio, gan gynnwys rhoi gwybod am risgiau gorddos sy’n gysylltiedig â llai o oddefgarwch tuag at sylweddau
- asesiad o ffactorau eraill a allai wneud y preswylydd yn agored i niwed mewn unrhyw ffordd
- anghenion o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant a sut i’w diwallu
- lle bo’n berthnasol, esboniad o ofynion Deddf Troseddwyr Rhyw 1997
- esboniad o’r drefn, fel amseroedd bwyd ac ymyriadau
- trefniadau ariannol, gan gynnwys gwneud cais am fudd-daliadau, a thaliadau cynnal a chadw a sut cânt eu casglu
- y system gweithiwr allweddol ac enw’r gweithiwr allweddol dynodedig
- y drefn gwyno
- cadw eiddo personol yn ddiogel
- manylion perthynas agosaf y preswylydd.
Dylai prosesau cynefino gydnabod y gallai preswylwyr ei chael hi’n anodd ystyried yr holl fanylion a roddwyd iddynt yn y cyfarfod cyntaf hwn. Felly, mae’n ddefnyddiol rhoi copi o ddogfennau allweddol i breswylwyr. Dylai’r cyfarfod cynefino cychwynnol gael ei atgyfnerthu gan gyfarfod dilynol gyda gweithiwr allweddol enwebedig yn ystod wythnos gyntaf y mae’r preswylydd yn cael ei dderbyn i’r adeilad cymeradwy. Dylai’r cyfarfodydd hyn helpu preswylwyr i addasu ac ymgartrefu yn nhrefn yr Adeilad Cymeradwy a rhoi eglurder ynghylch yr hyn a ddisgwylir ganddynt.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
- polisi a phroses gynefino a dogfennau ategol
Dyfarniad:
Pan fydd y cynefino’n amserol, yn cwmpasu’r holl feysydd sylfaenol a restrir uchod ac yn hygyrch i’r holl breswylwyr, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Os nad yw’r cynefino’n amserol ac/neu os nad yw’n cynnwys yr holl feysydd sylfaenol a restrir uchod a/neu nad yw’n hygyrch i’r holl breswylwyr, dylid cael dyfarniad negyddol.
e) A oes trefniadau cynllunio digonol ar waith cyn i’r preswylwyr gyrraedd?
Canllawiau:
Ar gyfer yr holl breswylwyr sy’n cyrraedd yr Adeilad Cymeradwy, dylid cynllunio ymlaen llaw. Dylai hyn gynnwys cyswllt rhwng yr Adeilad Cymeradwy a’r preswylydd cyn iddynt gyrraedd, sy’n mynd i’r afael ag unrhyw anghenion neu ystyriaethau penodol. Dylai’r Adeilad Cymeradwy fynd ati i ystyried yr anghenion hyn a chymryd y camau angenrheidiol i’w diwallu o’r adeg y byddant yn cyrraedd. Dylid rhoi gwybodaeth am yr Adeilad Cymeradwy i bob preswylydd. Ar gyfer Adeiladau Cymeradwy sy’n Amgylcheddau Cynlluniedig sy’n Ystyriol o Gyflwr Seicolegol (PIPEs), dylai hyn alluogi darpar breswylwyr i gytuno i’r lleoliad.
Ar gyfer preswylwyr ar drwydded, dylai’r Adeilad Cymeradwy gael asesiad risg llawn, cynllun rheoli risg, cynllun goruchwylio ac unrhyw wybodaeth berthnasol arall. Dylai hwn nodi pwrpas y lleoliad, hyd tebygol yr arhosiad, y cynllun symud ymlaen arfaethedig, a’r rôl y bydd staff yr Adeilad Cymeradwy yn ei chwarae wrth gyflawni amcanion goruchwylio.
Ar gyfer preswylwyr ar fechnïaeth, dylai’r Adeilad Cymeradwy gael asesiad risg llawn, cynllun rheoli risg, arwydd gan y llys o bwrpas y lleoliad, hyd tebygol yr arhosiad, y cynllun symud ymlaen arfaethedig, a’r asesiadau/ymyriadau y disgwylir i staff yr Adeilad Cymeradwy ymgymryd â nhw yn ystod cyfnod y fechnïaeth.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda staff
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
- polisi a phroses cyn cyrraedd a dogfennau ategol
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau cynllunio’n amserol, wedi’u teilwra ar gyfer unigolyn ac yn cael eu cefnogi gan asesiad risg a rheolaeth briodol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Lle nad yw trefniadau cynllunio’n amserol, ddim wedi’u teilwra ar gyfer unigolyn nac yn cael eu cefnogi gan asesiad risg a rheolaeth briodol, dylid cael dyfarniad negyddol.
f) A yw’r berthynas rhwng staff a phreswylwyr yn cefnogi gwaith adsefydlu?
Canllawiau:
Dylai Adeiladau Cymeradwy gael rhaglen ffurfiol graidd sy’n galluogi preswylwyr i wella eu sgiliau a’u paratoi ar gyfer symud ymlaen. Er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwaith adsefydlu, dylid meithrin perthnasoedd cadarnhaol rhwng staff a phreswylwyr. Mae’r Adeilad Cymeradwy yn darparu llawer o gyfleoedd i feithrin y perthnasoedd hyn mewn ffyrdd ffurfiol drwy gynnal gwaith adsefydlu, fel sesiynau gwaith allweddol, ac mewn ffyrdd llai ffurfiol mewn lleoliadau preswyl. Dylai staff fanteisio ar bob cyfle, er enghraifft drwy ddangos diddordeb mewn preswylwyr, eu cymell ac annog eu cynnydd. Dylai staff gael eu hyfforddi i ddefnyddio a gweithredu arferion modelu rhag-gymdeithasol a thechnegau cymell er mwyn hyrwyddo ymgysylltiad preswylwyr.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- trafodaethau gyda staff
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
- polisi a phroses cyn cyrraedd a dogfennau ategol
Dyfarniad:
Pan fydd perthnasoedd rhwng preswylwyr a staff yn cefnogi gwaith adsefydlu effeithiol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw’r berthynas rhwng preswylwyr a staff yn cefnogi gwaith adsefydlu effeithiol, dylid cael dyfarniad negyddol.
g) A oes gwaith allweddol yn cael ei gyflawni’n effeithiol, gan atgyfeirio a chyfeirio preswylwyr yn briodol at wasanaethau perthnasol i gefnogi ailintegreiddio â’r gymuned?
Canllawiau:
Dylai sesiynau gwaith allweddol gael eu cynnal yn rheolaidd, dylid eu cynllunio ymlaen llaw, a dylai fod ganddynt nodau a phwrpas clir, y cytunwyd arnynt yn ddelfrydol gyda’r preswylydd. Dylai sesiynau gwaith allweddol ategu’r cynllun dedfrydu. Ni ddylai ailadrodd na gwrth-ddweud y cynllun dedfrydu nac unrhyw waith sy’n cael ei wneud gan yr ymarferydd prawf neu asiantaethau eraill. Fodd bynnag, gellir defnyddio sesiynau gwaith allweddol i atgyfnerthu neu fynd ar drywydd gwaith a ddarperir gan yr ymarferydd prawf lle mae’n briodol ac yn fuddiol gwneud hynny.
Dylai sesiynau gwaith allweddol gael eu llywio gan risgiau, anghenion a chryfderau a nodwyd a dylai gwaith a gyflwynir mewn sesiynau gwaith allweddol adeiladu ar y rhain. Dylai gwaith allweddol effeithiol arwain at atgyfeiriadau a chyfeirio, lle bo hynny’n briodol, at wasanaethau a fydd yn diwallu anghenion yr unigolyn, yn adeiladu ar ei gryfderau ac yn helpu i reoli ei risgiau. Gall y meysydd gynnwys llety, gwasanaethau iechyd, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, a gwasanaethau camddefnyddio alcohol a sylweddau.
Dylid cofnodi sesiynau gwaith allweddol, gan gynnwys y cynnydd a wneir a’r penderfyniadau a wneir.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- trafodaethau gyda staff
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
- polisi gwaith allweddol
Dyfarniad:
Pan fydd gwaith allweddol wedi’i gynllunio, wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn ac yn ategu gwaith y cynllun dedfrydu, a hynny’n unol â risgiau, anghenion a chryfderau’r preswylydd, gan gynnwys cyfeirio ac atgyfeirio, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan nad yw gwaith allweddol wedi’i gynllunio, wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn ac/neu nid yw’n ategu gwaith y cynllun dedfrydu, a hynny’n unol â risgiau, anghenion a chryfderau’r preswylydd, gan gynnwys cyfeirio ac atgyfeirio, dylid cael dyfarniad negyddol.
h) A oes trefniadau digonol ar waith i gefnogi preswylwyr i baratoi ar gyfer symud ymlaen o’r Adeilad Cymeradwy?
Canllawiau:
Mae Adeiladau Cymeradwy yn cynnig lefel sylweddol o gyswllt, goruchwyliaeth a chefnogaeth, gyda’r preswylwyr yn cael eu gweld bob dydd. Anogir preswylwyr i wneud defnydd llawn o’r cyngor, y gefnogaeth, y rheolaeth a’r oruchwyliaeth a gynigir yn ystod eu hamser yn yr Adeilad Cymeradwy. Fodd bynnag, pan fydd preswylwyr yn symud ymlaen o’r Adeilad Cymeradwy, gall colli’r cyswllt, yr oruchwyliaeth a’r gefnogaeth hon adael bwlch sylweddol.
Rhaid i drefniadau digonol i alluogi preswylwyr i baratoi ar gyfer symud gynnwys atgyfeiriadau amserol i’r asiantaethau cywir i ddiwallu eu hanghenion unigol. Gall y rhain fod yn wasanaethau cyfiawnder troseddol, yn asiantaethau neu’n ddarparwyr prif ffrwd neu arbenigol. Yn ddelfrydol, bydd digon o amser cyn i’r preswylydd symud ymlaen i’r asiantaethau hyn gysylltu a meithrin perthynas. Mae llety’n arbennig o bwysig ac yn flaenoriaeth uniongyrchol. Nid yw’n dderbyniol i unigolyn orfod cyflwyno’i hun yn ddigartref ar y diwrnod y mae’n symud ymlaen.
Dylai preswylwyr gael eu cynnwys yn llawn yn eu trefniadau symud ymlaen. Dylai’r holl waith a gyflawnir gan yr Adeilad Cymeradwy gyd-fynd â’r cynlluniau a’r gweithgareddau sy’n cael eu sbarduno gan yr ymarferydd prawf. Dylid ystyried symud ymlaen cyn gynted â phosibl, yn ddelfrydol o’r adeg pan fydd preswylydd yn dechrau aros mewn Adeilad Cymeradwy. Mae hyn yn arbennig o bwysig i breswylwyr sydd ag arosiadau byr, lle mae amser yn brin.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- trafodaethau gyda staff
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
- protocolau a threfniadau symud ymlaen gyda darparwyr
Dyfarniad:
Pan fydd trefniadau unigol, amserol sy’n cael eu cefnogi gan berthnasoedd effeithiol â darparwyr yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi preswylwyr sy’n symud ymlaen, dylid cael dyfarniad cadarnhaol.
Pan fydd trefniadau unigol, amserol sy’n cael eu cefnogi gan berthnasoedd effeithiol â darparwyr yn cael eu rhoi ar waith i gefnogi preswylwyr sy’n symud ymlaen, dylid cael dyfarniad negyddol.
i) A yw preswylwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau priodol i ddiwallu eu hanghenion ac adeiladu ar eu cryfderau?
Canllawiau:
Mae gweithgareddau priodol yn weithgareddau pwrpasol, strwythuredig sy’n rhan o fywyd bob dydd Adeiladau Cymeradwy. Mae enghreifftiau’n cynnwys arlwyo, tasgau cynnal a chadw bob dydd a glanhau. Mae cynnwys preswylwyr yn y tasgau hyn yn rhoi cyfleoedd iddynt deimlo’n rhan o’r drefn a datblygu sgiliau ymarferol a sgiliau bywyd. Mae gweithgareddau o’r fath hefyd yn cynnig cyfle i asesu parodrwydd preswylwyr ar gyfer byw’n annibynnol. Dylai’r holl breswylwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau sy’n briodol, o ran math a maint, i ddiwallu eu hanghenion unigol ac adeiladu ar eu cryfderau.
Dylid adolygu cynnydd preswylwyr drwy weithgareddau pwrpasol. Mae gofyn i breswylwyr gwblhau gweithgareddau nad ydynt yn debygol o fod o gymorth mwyach yn wrthgynhyrchiol; efallai y bydd angen i breswylwyr symud o un gweithgaredd i’r llall. Efallai y bydd angen i rai preswylwyr ailddechrau gweithgareddau penodol os nad ydynt wedi ymgysylltu’n effeithiol â nhw.
Tystiolaeth:
- trafodaethau gyda phreswylwyr
- trafodaethau gyda staff
- archwilio achosion
- arsylwi yn ystod yr arolygiad
- amserlenni gweithgareddau wythnosol
Dyfarniad:
Pan fydd preswylwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau pwrpasol, strwythuredig sy’n briodol i’w hanghenion a’u cryfderau unigol, dylid cael dyfarniad cadarnhaol. Os nad yw preswylwyr yn cymryd rhan mewn gweithgareddau pwrpasol, strwythuredig neu os nad yw’r rhain yn briodol i’w hanghenion a’u cryfderau unigol, dylid cael dyfarniad negyddol.