Skip to content

Table of contents

  1. A
  2. C
  3. D
  4. E
  5. F
  6. G
  7. H
  8. I
  9. M
  10. N
  11. O
  12. P
  13. Q
  14. R
  15. S
  16. T
  17. U
  18. V
  19. Y

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk.

Arolygiad prawf – Rhestr Termau

Published:

Mehefin 2025 v1.2

Mae’r geiriadur canlynol yn cynnwys termau a defnyddir yn ein hadroddiadau arolygu prawf.

A (Back to top)

Adolygiad Lammy

Mae Adolygiad Lammy, dan gadeiryddiaeth David Lammy AS, yn adolygiad annibynnol o’r driniaeth a’r canlyniadau i unigolion du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y system cyfiawnder troseddol.

Adroddiad cyn-dedfrydu

Mae hyn yn cyfeirio at unrhyw adroddiad a baratoir ar gyfer llys, boed wedi’i gyflwyno ar lafar neu ar ffurf ysgrifenedig.

Aildroseddu

Atchweliad unigolyn i droseddu ar ôl cael neu fynd trwy ymyrraeth i atal troseddu.

Amddiffyn plant

Gwaith i sicrhau bod pob cam rhesymol wedi’i gymryd i leihau’r risg o niwed i blentyn.

Amrywiaeth

Y graddau y mae pobl o fewn sefydliad yn adnabod, yn gwerthfawrogi ac yn defnyddio’r nodweddion sy’n gwneud sefydliad a’i ddefnyddwyr gwasanaeth yn unigryw. Mae amrywiaeth yn cynnwys, ond yn ehangach na, nodweddion gwarchodedig anabledd, oedran, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, a rhyw.

ARMS

System Rheoli Risg Weithredol: system a ddefnyddir gan y gwasanaeth prawf a’r heddlu, sy’n darparu fframwaith cymeradwy ar gyfer asesu a rheoli troseddwyr rhyw sy’n destun goruchwyliaeth statudol.

Asesu
Y broses ar gyfer asesu unigolyn i benderfynu: tebygolrwydd, difrifoldeb ac agosrwydd troseddu pellach; y ffactorau yn ei fywyd a allai wneud aildroseddu yn fwy tebygol; a’r ffactorau a allai ei helpu i beidio â throseddu nac achosi niwed.


C (Back to top)

Canolfan i fenywod
Canolfan sy’n ymroddedig i wasanaethau i fenywod. Gall hyn gynnwys addysg, hyfforddiant ac ymyriadau i helpu gyda hyder a hunan-barch.

CRC
Cwmni Adsefydlu Cymunedol: Sefydlwyd CRCs ym mis Mehefin 2014, i reoli’r rhan fwyaf o droseddwyr sy’n cyflwyno risg isel neu ganolig o niwed difrifol, a chawsant eu cyfuno â’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol fel rhan o’r uno yn 2021.

CRISSA
Dull safonol ar gyfer strwythuro a recordio cyfweliad gydag unigolyn: Gwirio, Adolygu, Gweithredu, Crynhoi, Gosod tasgau, gosod yr Apwyntiad nesaf.

CRS
Gwasanaethau Adsefydlu Cymunedol: Darparwyr sy’n darparu gwasanaeth neu fewnbwn a gomisiynwyd gan y Gwasanaeth Prawf ac a ddarperir o dan gontract iddo.

Cydraddoldeb
Sicrhau bod pawb yn cael eu trin ag urddas a pharch, waeth beth fo’u hoedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, a rhyw. Mae hefyd yn golygu cydnabod bod gan grwpiau amrywiol anghenion gwahanol, a sicrhau bod ganddynt fynediad cyfartal a theg at gyfleoedd priodol.


D (Back to top)

Deddf Adsefydlu Troseddwyr 2014
Wedi’i weithredu ym mis Chwefror 2015, yn berthnasol i droseddau a gyflawnwyd ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw, y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 2014 yw’r Ddeddf Seneddol sy’n cyd-fynd â’r rhaglen Trawsnewid Adsefydlu.

Diogelu plant
Y gallu i ddangos bod llesiant plentyn neu berson ifanc wedi’i ‘ddiogelu’. Mae hyn yn cynnwys – ond gall fod yn ehangach nag – amddiffyn plant. Defnyddir y term ‘diogelu’ hefyd mewn perthynas ag oedolion agored i niwed.

DRR
Gofyniad Adsefydlu Cyffuriau: gofyniad y gall llys ei atodi i orchymyn cymunedol neu orchymyn dedfryd ohiriedig sydd â’r nod o fynd i’r afael â chamddefnyddio cyffuriau.


E (Back to top)

Effaith
Targedu gwaith ar gyfer pobl ar brawf, yn amodol ar fodloni meini prawf penodol, sy’n peri llai o risg o niwed a throseddu. Mae hyn yn cwmpasu uchafswm o saith sesiwn wedi’u targedu sy’n seiliedig ar ymatal o fewn yr 16 wythnos gychwynnol o oruchwyliaeth, ac ar ôl hynny caiff cyswllt â’r ymarferydd prawf ei atal. Cyflwynwyd ym mis Ebrill 2025.

EQuiP
Excellence and Quality in Process: adnodd cenedlaethol ar y we gan y Gwasanaeth Prawf sy’n darparu gwybodaeth gyson am y prosesau i’w dilyn ym mhob agwedd ar waith. Mae mapio’r broses wedi’i ategu gan fesurau sicrhau ansawdd.

ETE
Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth: gwaith i wella dysgu unigolyn, ac i gynyddu eu rhagolygon cyflogaeth.


F (Back to top)

Fframwaith Blaenoriaethu Prawf
Offeryn ôl-bandemig i helpu rhanbarthau i addasu sut maen nhw’n darparu gwasanaethau prawf yn lleol yn ôl nifer y staff sydd ar gael.


G (Back to top)

Gofyniad triniaeth alcohol
Gofyniad y gall llys ei atodi i orchymyn cymunedol neu ddedfryd ohiriedig sydd â’r nod o fynd i’r afael â chamddefnyddio alcohol.

Gorfodaeth
Camau a gymerwyd gan ymarferydd prawf mewn ymateb i ddiffyg cydymffurfio unigolyn â dedfryd gymunedol neu drwydded.

Goruchwyliaeth ar ôl dedfrydu
Wedi’i gyflwyno gan y Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 2014, mae hwn yn gyfnod o oruchwyliaeth yn dilyn diwedd trwydded i’r rhai sy’n destun dedfryd o garchar o 12 mis neu lai. Mae toriadau yn cael eu gorfodi gan y llys ynadon.

Gwaith di-dâl
Gall llys gynnwys gofyniad am waith di-dâl fel rhan o orchymyn cymunedol. Gellir gofyn i droseddwyr weithio hyd at 300 awr ar brosiectau cymunedol dan oruchwyliaeth.


H (Back to top)

HMP/YOI
Carchar Ei Fawrhydi/Sefydliad Troseddwyr Ifanc.

HMPPS
Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi: ers 1 Ebrill 2017,  HMPPS yw’r unig asiantaeth sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau carchardai a phrawf ledled Cymru a Lloegr. Ar yr un pryd, cymerodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder gyfrifoldeb am gyfeiriad polisi cyffredinol, gosod safonau, craffu ar berfformiad carchardai a chomisiynu gwasanaethau.

Hyb diogelu amlasiantaeth (MASH)
Y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pryderon neu ymholiadau diogelu newydd. Maent fel arfer yn cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol (gwasanaethau gofal cymdeithasol plant ac oedolion), yr heddlu, cyrff iechyd, y gwasanaeth prawf ac asiantaethau eraill.


I (Back to top)

IOM
Rheoli troseddwyr integredig: ymateb trawsasiantaethol i flaenoriaethau troseddu ac aildroseddu lleol. Mae’r troseddwyr mwyaf parhaus a phroblematig yn cael eu hadnabod a’u rheoli ar y cyd gan asiantaethau partner sy’n gweithio gyda’i gilydd, yn enwedig yr heddlu a’r gwasanaeth prawf.


M (Back to top)

MAPPA
Trefniadau Amddiffyn y Cyhoedd Aml-Asiantaeth: lle mae’r gwasanaeth prawf, yr heddlu, y carchar ac asiantaethau eraill yn cydweithio’n lleol i reoli troseddwyr sy’n peri risg uwch o niwed i eraill. Lefel 1 yw rheolaeth asiantaeth gyffredin lle gall yr asiantaeth sy’n gyfrifol am oruchwylio neu reoli achos y troseddwr reoli’r risgiau a achosir gan y troseddwr. Mae hyn yn cymharu â Lefelau 2 a 3, sy’n gofyn am reolaeth amlasiantaeth weithredol.

Meithrin Dewisiadau
Ymyrraeth ymddygiadol-wybyddol a gynlluniwyd i helpu unigolion i ddatblygu sgiliau ar gyfer rheoli emosiynau, perthnasoedd a gwneud penderfyniadau.

Mentora
Y cyngor a’r arweiniad a gynigir gan berson mwy profiadol i ddatblygu potensial unigolyn.

MoJ
Y Weinyddiaeth Gyfiawnder: adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am y system cyfiawnder troseddol yn y Deyrnas Unedig.


N (Back to top)

nDelius
National Delius: y system rheoli achosion gymeradwy a ddefnyddir gan y Gwasanaeth Prawf.

NPS
Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol: gwasanaeth cenedlaethol sengl a ddaeth i fodolaeth ym mis Mehefin 2014. Ei rôl oedd darparu gwasanaethau i lysoedd a rheoli grwpiau penodol o droseddwyr, gan gynnwys y rhai sy’n cyflwyno risg uchel neu uchel iawn o niwed difrifol. Unwyd y gwasanaeth hwn â Chwmnïau Adsefydlu Cymunedol fel rhan o’r uno yn 2021.


O (Back to top)

OASys
System Asesu Troseddwyr: a ddefnyddir ar hyn o bryd gan y Gwasanaeth Prawf i fesur risgiau ac anghenion troseddwyr dan oruchwyliaeth.

Offeryn mesur llwyth gwaith (WMT)
Offeryn i gyfrifo llwyth gwaith cyffredinol swyddog cyfrifol unigol. Mae’n ystyried niferoedd a mathau o achosion.

OMiC
Mae hyn yn cyfeirio at y strwythurau a’r prosesau rheoli troseddwyr ar gyfer carcharorion dedfrydedig, a weithredwyd yn 2019.


P (Back to top)

PAR
Grŵp Perfformiad, Sicrwydd a Risg: Tîm mewnol HMPPS yw hwn sy’n archwilio darpariaeth weithredol ac yn adrodd i bwyllgor gweithredol HMPPS a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Partneriaid
Mae partneriaid yn cynnwys sefydliadau statudol ac anstatudol, sy’n gweithio gyda’r defnyddiwr gwasanaeth drwy gytundeb partneriaeth â’r Gwasanaeth Prawf.

PCC
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu.

PO
Swyddog prawf: dyma’r term am ymarferydd prawf sydd wedi cwblhau cymhwyster proffesiynol sy’n seiliedig ar addysg uwch. Mae enw’r cymhwyster a chynnwys yr hyfforddiant yn amrywio yn dibynnu ar pryd y cafodd ei wneud. Maent yn rheoli achosion mwy cymhleth a risg uchel o niwed difrifol.

PQiP
Cymhwyster Proffesiynol mewn Prawf.

PSO
Swyddog gwasanaethau prawf: dyma’r term am swyddog cyfrifol a gafodd ei recriwtio’n wreiddiol heb gymhwyster proffesiynol. Gallant gael mynediad at hyfforddiant a bennir yn lleol i gymhwyso fel swyddog gwasanaethau prawf neu i adeiladu ar hyn i gymhwyso fel swyddog prawf. Gallant reoli pob achos heblaw’r rhai mwyaf cymhleth yn dibynnu ar eu lefel hyfforddiant a phrofiad. Mae rhai PSOs yn gweithio o fewn y llys, lle mae eu dyletswyddau’n cynnwys ysgrifennu adroddiadau cyn-dedfrydu.


Q (Back to top)

QDO
Swyddogion datblygu ansawdd: rôl arbenigol o fewn yr NPS. Mae QDOs yn gweithio’n agos gyda rheolwyr lleol, tiwtoriaid ymarfer a staff gweithredol i hyrwyddo a gwella ansawdd y gwaith gyda throseddwyr a dioddefwyr. Mae rolau tebyg yn bodoli mewn llawer o CRCau.


R (Back to top)

RAR
Gofyniad Gweithgarwch Adsefydlu: o Chwefror 2015, pan gafodd Deddf Adsefydlu Troseddwyr 2014 ei gweithredu, gall llysoedd nodi nifer o ddiwrnodau RAR o fewn gorchymyn; mater i’r gwasanaethau prawf yw penderfynu ar y gwaith manwl i’w wneud yn ystod y diwrnodau RAR a ddyfernir.

Reset
Polisi cenedlaethol a weithredwyd ym mis Gorffennaf 2024 i ganiatáu i oruchwyliaeth person ar brawf, sy’n gymwys yn ôl meini prawf penodol, gael ei hatal ar ddwy ran o dair o’i ddedfryd.

Rhaglen achrededig
Rhaglen waith a gyflwynir i droseddwyr mewn grwpiau neu’n unigol drwy ofyniad mewn gorchymyn cymunedol neu orchymyn dedfryd ohiriedig, neu fel rhan o ddedfryd o garchar neu amod mewn trwydded carchar. Mae HMPPS yn achredu rhaglenni fel rhai effeithiol wrth leihau’r tebygolrwydd o aildroseddu.

Rhanddeiliad
Person, grŵp neu sefydliad sydd â buddiant uniongyrchol neu anuniongyrchol yn y sefydliad oherwydd gall naill ai effeithio ar y sefydliad, neu gael ei effeithio ganddo. Mae enghreifftiau o randdeiliaid allanol yn cynnwys perchnogion (cyfranddalwyr), cwsmeriaid, cyflenwyr, partneriaid, asiantaethau’r llywodraeth a chynrychiolwyr y gymuned. Enghreifftiau o randdeiliaid mewnol yw pobl neu grwpiau o bobl o fewn y sefydliad.

Rheoli troseddwyr
Un o egwyddorion craidd rheoli troseddwyr yw bod un ymarferydd yn cymryd cyfrifoldeb am reoli troseddwr drwy gydol ei ddedfryd, boed yn y ddalfa neu yn y gymuned.

Rhwystrau
Y pethau sy’n ei gwneud hi’n anodd i unigolyn newid.

Risg o niwed difrifol
Risg o Niwed Difrifol: term a ddefnyddir yn OASys. Mae pob achos wedi’i ddosbarthu fel un sy’n cyflwyno risg isel/canolig/uchel/uchel iawn o niwed difrifol i eraill. Mae Arolygiaeth Prawf EF yn defnyddio’r term hwn wrth gyfeirio at y system ddosbarthu, ond mae’n defnyddio’r term ehangach ‘risg o niwed’ wrth gyfeirio at y dadansoddiad y mae’n rhaid ei gynnal er mwyn pennu’r lefel dosbarthu. Mae hyn yn helpu i egluro’r gwahaniaeth rhwng tebygolrwydd digwyddiad ac effaith/difrifoldeb y digwyddiad. Dim ond effaith ‘ddifrifol’ y mae’r term Risg o Niwed Difrifol yn ei chynnwys, tra bod defnyddio ‘risg o niwed’ yn ei gwneud yn ofynnol rhoi’r sylw angenrheidiol i’r defnyddwyr gwasanaeth hynny y mae ymddygiad niweidiol o effaith/difrifoldeb is yn debygol mewn perthynas â hwy.


S (Back to top)

Safle cymeradwy
Hosteli a gymeradwywyd o dan Adran 13 o’r Deddf Rheoli Troseddwyr 2007, a reolir naill ai gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol neu gan sefydliadau annibynnol. Defnyddir safle cymeradwy fel preswylfa tymor byr i droseddwr sy’n cael ei ystyried yn risg uwch o niwed difrifol, sydd angen monitro a goruchwyliaeth agos, a chefnogaeth i ddechrau integreiddio’n ôl i’r gymuned.

SDS 40
Dedfrydau Penodol Safonol 40 y cant: Cyflwynwyd ym mis Medi 2024. Yn caniatáu i rai pobl sydd yn y ddalfa, sy’n cyflawni dedfryd safonol benodedig, gael eu rhyddhau ar bwynt 40 y cant o’u dedfryd, yn amodol ar feini prawf cymhwysedd.

SEEDS
Sgiliau ar gyfer Datblygu a Goruchwylio Ymgysylltu Effeithiol: fframwaith ymarfer seiliedig ar sgiliau ar gyfer gwella ymgysylltiad troseddwyr.

SFO
Trosedd Bellach Ddifrifol: lle mae unigolyn sy’n destun (neu a fu’n destun yn ddiweddar) prawf yn cyflawni un o nifer o droseddau difrifol (megis llofruddiaeth, dynladdiad neu drais). Rhaid i’r Gwasanaeth Prawf hysbysu HMPPS am unrhyw unigolyn o’r fath a gyhuddir o un o’r troseddau hyn. Yna cynhelir adolygiad gyda’r bwriad o nodi gwersi i’w dysgu.

SSO
Gorchymyn dedfryd ohiriedig: dedfryd o garchar sy’n cael ei gohirio a’i gweithredu yn y gymuned.

System cyfiawnder troseddol
Yn cynnwys unrhyw un neu bob un o’r asiantaethau sy’n ymwneud â chynnal a gweithredu’r gyfraith – yr heddlu, llysoedd, gwasanaeth erlyn y goron, gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, prawf a charchardai.


T (Back to top)

TGCh
Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu.

Torri (gorchymyn neu drwydded)
Pan fydd troseddwr yn methu â chydymffurfio ag amodau gorchymyn llys neu drwydded. Gellir cymryd camau gorfodi i ddychwelyd y troseddwr i’r llys am gamau ychwanegol neu ei alw’n ôl i’r carchar.

Trawsnewid Adsefydlu
Rhaglen y llywodraeth, a gyflwynwyd ym mis Mehefin 2014, lle byddai troseddwyr unigol yn cael eu rheoli naill ai gan y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol neu gan Gwmni Adsefydlu Cymunedol. Daeth hyn i ben gyda’r uno yn 2021.

Trwydded
Cyfnod o oruchwyliaeth yw hwn yn syth ar ôl rhyddhau o’r ddalfa, ac fel arfer caiff ei weithredu ar ôl i droseddwr dreulio hanner ei ddedfryd. Gall unrhyw achos o dorri amodau’r drwydded arwain at alw’r troseddwr yn ôl i’r carchar lle gallai aros yn y ddalfa am hyd ei ddedfryd wreiddiol.

Trydydd sector
Mae’r trydydd sector yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol a chymunedol (elusennau cofrestredig a sefydliadau eraill fel cymdeithasau, grwpiau hunangymorth a grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, cwmnïau cydfuddiannol a chydweithredol).


U (Back to top)

Uned cyflwyno prawf (PDU)
Uned weithredol sy’n cynnwys swyddfa neu swyddfeydd prawf, sy’n aml yn cyd-ffinio ag unedau gorchymyn sylfaenol yr heddlu a strwythurau awdurdodau lleol.

Uwch swyddog prawf
SPO: Uwch swyddog prawf: rheolwr rheng flaen o fewn y Gwasanaeth Prawf.


V (Back to top)

ViSOR
Mae ViSOR yn gronfa ddata gyfrinachol genedlaethol sy’n cefnogi MAPPA. Mae’n hwyluso cyfnewid gwybodaeth a deallusrwydd effeithiol am droseddwyr treisgar a throseddwyr rhywiol rhwng tair asiantaeth Awdurdod Cyfrifol MAPPA (yr heddlu, y gwasanaeth prawf a charchardai). Nid yw ViSOR yn acronym mwyach ond yn enw ffurfiol y gronfa ddata.


Y (Back to top)

YJS
Gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid: gwasanaeth partneriaeth awdurdod lleol yn gweithio gyda phlant hyd at 18 oed i atal a mynd i’r afael â throseddu. Maent yn gweithio gyda phlant sy’n destun gwarediadau y tu allan i’r llys, yn cyflawni dedfrydau cymunedol ac yn y ddalfa.

Ymarferydd prawf
Y term a ddefnyddir ar gyfer y swyddog (a elwid gynt yn ‘swyddog cyfrifol’) sydd â’r prif gyfrifoldeb am reoli achos. Gall yr ymarferydd prawf fod naill ai’n PO neu’n PSO.

Ymatal
Rhoi’r gorau i droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol arall.

Ymyrraeth
Gwaith gydag unigolyn sydd wedi’i gynllunio i newid ei ymddygiad troseddol a/neu i gefnogi diogelu’r cyhoedd. Ymyrraeth adeiladol yw lle mae’r prif bwrpas yw lleihau’r tebygolrwydd o aildroseddu. Ymyrraeth gyfyngol yw lle mae’r prif bwrpas yw lleihau risg yr unigolyn o niwed i eraill. Gyda throseddwr rhyw, er enghraifft, gallai ymyrraeth adeiladol olygu  ei roi trwy raglen driniaeth troseddwyr rhyw achrededig; gallai ymyrraeth gyfyngol (i leihau ei risg o niwed i eraill) olygu monitro’n rheolaidd ac yn fanwl ei lety, ei gyflogaeth a’r lleoedd y mae’n ymweld â hwy gan osod a gorfodi cyfyngiadau clir fel sy’n briodol i bob achos. Mae’r ddau fath o ymyrraeth yn bwysig.