Arolygiad o wasanaethau prawf yn Gogledd Cymru
Rhagair (Back to top)
Câi Uned Gyflawni Prawf Gogledd Cymru (yr Uned Gyflawni) ei harwain gan arweinyddion cryf a medrus, oedd â pherthynas strategol oedd wedi hen ennill ei phlwyf gydag asiantaethau eraill a ymwna â bywydau pobl ar brawf. Roedd hynny wedi arwain at waith effeithiol gan fwyaf ar y llinell flaen i ymgysylltu â phobl ar brawf a’u cynorthwyo i newid.
Fodd bynnag, nid oedd gwaith asesu a rheoli risg o anaf, at ei gilydd, yn ddigon effeithiol ac, yn sgil hynny, graddiwyd yr Uned Gyflawni fel “angen ei gwella”.
Roedd y Pennaeth Gwasanaeth wedi sefydlu ôl-troed cadarnhaol ar draws yr Uned Gyflawni a châi ei gydnabod ar draws pob lleoliad prawf a chyda phob asiantaeth bartner yn arweinydd dylanwadol ac uchel ei barch yng Ngogledd Cymru. Roedd aelodau’r uwch-dîm arweinyddiaeth i gyd yn bobl y gellid troi atynt, roeddynt yn weledol ac yn ofalgar. Roedd staff wrth galon dull gweithredu’r Uned Gyflawni ac yn hynod ymatebol i anghenion unigol ac amrywiaeth pobl ar brawf.
Mae’r Uned Gyflawni’n ymestyn dros ardal ddaearyddol eang, gan cynnwys tirwedd gymhleth o ardaloedd trefol a gwledig. Fodd bynnag, roedd arweinyddion wedi gallu hyrwyddo a sefydlu’n weithredol un hunaniaeth ar draws yr Uned Gyflawni, gan wneud i staff deimlo’n rhan o deulu lle roedd gan bawb eu rhan i’w chwarae.Nid oedd amheuaeth fod yr hunaniaeth a’r cyfrifoldeb torfol hyn wedu helpu gallu’r Uned Gyflawni i ymateb i heriau, megis symud staff Wrecsam a Sir y Fflint i Garchar HMP y Berwyn i gefnogi gwaith cyflwyno i garcharorion oedd wedi’u galw’n ôl am gyfnod penodol wedi iddynt gael eu rhyddhau.
Roedd yr Uned Gyflawni wedi gweithredu’n fwriadol, strategol ac yn gytbwys gydag amrywiaeth. Roedd cynllun gweithredu anghyfranoldeb Gogledd Cymru, darpariaeth yr Iaith Gymraeg a chynllun strategaeth cymunedau gwledig i gyd yn nodi camau gweithredu allweddol yr oedd yr Uned Gyflawni wedi’u gweithredu i gwrdd ag amrywiol anghenion ei chymunedau. Tîm dwyieithog yw’r Uned Gyflawni ac mae’n cyflawni’r holl wasanaethau prawf trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Roedd yn mynd y tu draw i’w ddyletswyddau statudol a sicrhau y câi’r Gymraeg ei hyrwyddo a’i dathlu.
Roedd cydnabyddiaeth fod safon y gwaith rhannu gwybodaeth er diogelu plant a merched oedd mewn perygl o gamdriniaeth ddomestig yn faes yr oedd angen gwella mwy arno. Roedd angen rhagor o waith i sicrhau fod staff prawf bob amser yn gofyn am y wybodaeth gywir, yn y ffordd gywir, i ddeall a rheoli risg yn gywir. Roedd yna waith ystyrlon yn mynd rhagddo i wella hynny a chafwyd rhai gwelliannau. Roedd angen i arweinyddion prawf edrych ar bob opsiwn gyda’u swyddogion cyfatebol yn yr heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol i wella llif y gwaith rhannu gwybodaeth.
Roedd arweinyddion yn realistig ac yn wybodus am y meysydd pwysig yr oedd angen eu gwella ac yn derbyn bod mwy i’w wneud. Roeddynt wedi gwneud yn dda i greu dealltwriaeth gyffredin ar draws yr holl raddau fod cadw pobl yn ddiogel yn flaenoriaeth. Roedd honno’n sylfaen dda i weithio ohoni ac mae dyfodol yr Uned Gyflawni’n argoeli’n dda yn sgil ei llwyddiant yn rhoi cefnogaeth effeithiol i bobl ar brawf mewn ffyrdd eraill. Gall yr Uned Gyflawni fod yn ffyddiog fod ganddi pob cyfle i wneud y gwelliannau a nodwyd yn angenrheidiol yn yr adroddiad hwn trwy barhau i ganolbwyntio ar warchod pobl rhag niwed a gwella cysondeb gwaith o safon uchel .
Martin Jones CBE
Prif Arolygydd Prawf EiFawrhydi
Sgorau (Back to top)
| Dechreuodd gwaith maes mis Medi 2025 | Sgôr 10/21 |
| Sgôr gyffredinol | Angen ei wella |
1. Trefniadau a gweithgarwch Sefydliadol
| P 1.1 Arweinyddiaeth | Da |
| P 1.2 Staffio | Da |
| P 1.3 Gwasanaethau | Da |
2. Cyflawni gwasanaeth
| P 2.1 Asesu | Angen ei wella |
| P 2.2 Cynllunio | Angen ei wella |
| P 2.3 Gweithredu a chyflawni | Angen ei wella |
| P 2.4 Adolygu | Angen ei wella |
Argymhellion (Back to top)
Yn sgil canfyddiadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion y credwn a gaiff effaith gadarnhaol ar safon y gwasanaethau prawf, os gweithredir arnynt.
Dylai’r Uned Gyflawni:
- sicrhau fod prosesau ar gyfer cael gwybodaeth am gamdriniaeth ddomestig a diogelu plant yn glir a bod digon o fanylion mewn ymatebion i gynorthwyo gyda gwaith asesu, cynllunio a rheoli risg o niwed i eraill
- cysylltu gyda’r heddlu a thimau gofal cymdeithasol plant i ddatrys y broblem gyda safon a phrydlondeb ymatebion i ymholiadau ynghylch camdriniaeth ddomestig a diogelu plant
- Gwella effeithiolrwydd gwaith gyda phobl ar brawf cyn iddynt adael y ddalfa ac unwaith y cânt eu rhyddhau, gan gynnwys sicrhau fod gwasanaethau ar gael iddynt
- datblygu hyder a sgiliau ymarferwyr wrth fod yn broffesiynol chwilfrydig i nodi, dadansoddi, asesu, cynllunio ac ymateb i ddangosyddion risg yn effeithiol
- rhoi i ymarferwyr y wybodaeth a’r profiad sy’n angenrheidiol i sicrhau bod digon o ddadansoddi i wella safon gwaith i gadw pobl yn ddiogel.
Cefndir (Back to top)
Bui ni gynnal gwaith maes yn yr Uned Gyflawni dros gyfnod o bythefnos, yn dechrau 01 Medi 2025. Bu i ni arolygu 56 gorchymyn cymunedol a 21 achos o ryddhau ar drwydded o’r ddalfa rhwng 20 a 26 Ionawr 2025 a 03 a 09 Mawrth 2025. Bu i ni, hefyd, gynnal 67 o gyfweliadau gydag ymarferwyr.
Yn ystod yr archwiliad hwn, câi polisi Ailosod y Gwasanaeth Prawf ei ddefnyddio. O’r achosion a arolygwyd gennym, roedd 11 allan o 77 yn amodol ar Ailosod Polisiau’r Gwasanaeth Prawf; roedd y safonau a addaswyd yn berthnasol i wyth ohonynt, a olygai bod eu goruchwyliaeth wedi’i ohirio am draean olaf eu cyfnod goruchwylio.
Mae Gogledd Cymru yn un o’r chwe Uned Gyflawni yn rhanbarth prawf Cymru. Mae gan yr Uned Gyflawni swyddfeydd yng Nghaernarfon, Bae Colwyn, Wrecsam, a’r Fflint a swyddfa loeren ym Mhwllheli, gyda threfniadau adrodd ychwanegol ar draws yr Uned Gyflawni, gan ddefnyddio gorsafoedd heddlu lleol yn Llangefni, Caergybi, Bangor, Dolgellau, Blaenau Ffestiniog, y Rhyl a Llandudno. Amcangyfrifiwyd fod poblogaeth Gogledd Cymru yn 697,115 adeg cyhoeddi’r arolygiad. Roedd gan Ogledd Cymru lwyth gwaith o 2,660 dyddiad cyhoeddi’r arolygiad. Y math mwyf cyffredin o drosedd oedd trais, yn cyfrif am 31.55 y cant o lwyth gwaith cyfan yr Uned Gyflawni, fymryn yn uwch na’r cyfartaledd rhanbarthol.
Mae’r Uned Gyflawni’n ymestyn dros ardal fawr, gan ffurfio cymunedau trefol a gwledig ar wasgar. Gwasanaethir yr Uned Gyflawni gan heddlu Gogledd Cymru ac mae’n ymestyn dros chwe ardal awdurdod lleol: Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, y Fflint a Wrecsam. Ceir dau eiddo cydnabyddedig yng Ngogledd Cymru ac un carchar, HMP y Berwyn yn Wrecsam. Ni chaiff yr un eu harwain na’u rheoli gan yr Uned Gyflawni. Ceir llysoedd y Goron yng Nghaernarfon a’r Wyddgrug a llysoedd ynadon yn Wrecsam, yr Wyddgrug, Caernarfon a Llandudno. Roedd gan yr Uned Gyflawni 108 y cant o staff mewn swyddi ar draws pob graddfa adeg ein harolygiad ac roedd bron yn llawn o ran graddfeydd uwch-swyddogion prawf a swyddogion prawf.
Mae yn rhanbarth Gogledd Cymru ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig ac mae ganddi fwy o siaradwyr Cymraeg (gan gynnwys Cymraeg yn famiaith) nag unrhyw ardal arall yng Nghymru. Tîm dwyieithog yw’r Uned Gyflawni ac mae’n cyflawni gwasanaethau prawf craidd drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Darparai Nacro wasanaethau adsefydliadol wedi’u comisiynu ar gyfer cefnogaeth llety.Darparai partneriaeth St Giles Wise wasanaethau llesiant a chyllid, budd-daliadau a dyled personol. Darparai Nelson Trust wasanaethau i ferched. Yn ddiweddar, roedd Bwrdd Iechyd Prifygol Betsi Cadwaladr wedi cymryd ddrosodd waith darparu gwasanaethau i gefnogi’r rhai hynny ag anghenion alcohol a chyffuriau. Roedd yr Uned Gyflawni hefyd wedi datblygu trefniadau gyda gwasanaethau lleol i i gynyddu gwasanaethau a gomisiynir yn rhanbarthol. Ymhlith y rhain roedd BrainKind, yn cefnogi unigolion sydd wedi profi anaf trawmatig i’r ymennydd a Chonsortiwm y Trydydd Sector, sy’n cefnogi pobl gydag anghenion niwroamrywiaeth.
1. Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol (Back to top)
| P 1.1. Arweinyddiaeth | Sgôr |
| Mae arweinyddiaeth yr Uned Gyflawni’n galluogi cyflawni gwasanaeth safon uchel, wedi’i bersonoli ac ymatebol i’r holl bobl ar brawf. | Da |
Cryfderau:
- Arweiniai Uwch-dim arweinyddiaeth gryf, cadarn a chydlynol yr Uned Gyflawni.. Roedd ganddynt rolau a chyfrifoldebau wedi’u diffinio’n glir, roeddynt yn gefnogol o’i gilydd, yn adeiladol wrth herio’n broffesiynol ac yn canolbwyntio ar ddatrys problemau wrth iddynt godi. Roedd arweinyddion yn cynnal ac yn hyrwyddo gweledigaeth glir, strategol. Roeddynt yn deall anghenion ei grŵp staff a’r heriau yr oeddynt yn eu hwynebu ac yn ymateb iddynt.
- Yn ddieithriad, roedd gan staff, partneriaid a phobl ar brawf barch mawr at Bennaeth y Gwasanaeth. Roedd yn arweinydd dylanwadol ac uchel ei barch oedd â dylanwad cadarnhaol, gan gynnwys cyfarwyddo’r ffordd yr oedd asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd. Roedd hyn yn arbennig o amlwg mewn perthynas â chyflogi staff, gyrru dysgu a hyrwyddo datblygiad o fewn prawf ac, yn allanol, gydag asiantaethau eraill oedd yn ymwneud â chyfiawnder troseddol.
- Gyda strwythurau rheoli effeithiol, bu modd i’r tîm arweinyddiaeth reoli’n gadarn y rhan fwyaf o’r gwaith a anfonwyd gan yr Uned Gyflawni. Roedd yr uwch-arweinyddion wedi gweithio’n effeithiol gydag Uwch-swyddogion prawf a’r partner busnes adnoddau dynol i ostwng absenoldeb salwch staff yn sylweddol. Rhoddodd uwch-swyddogion ddiwrnod llawn bob mis i’r rheolwyr canol fel y gallent basio ymlaen negeseuon gweithredol pwysig a gwrando ar eu profiadau ynghylch gweithredu polisiau’n weithredol.
- Roedd dull gweithredu arweinyddiaeth trwy egwyddorion ‘ffactorau dynol’ wedi hen ennill ei blwyf. Defnyddiai arweinyddion ac ymarferwyr restr wirio tîm dyddiol strwythuredig a gynorthwyai waith datrys problemau’n weithredol ac ymatebion amserol i faterion gweithredol critigol. Roedd uwch-swyddogion prawf yn gallu cymryd rhan mewn amser dysgu penodedig, oedd yn eu helpu i gefnogi staff i oresgyn heriau, hyrwyddo diogelwch seicolegol a gwella cyfathrebu. Roedd staff yn llwyr gefnogol o ddull gweithredu’r ffactorau dynol oherwydd ei fod yn eu helpu i deimlo fod rhywun yn gwrando arnynt, yn cefnogi eu llesiant ac yn gwneud iddynt deimlo y cânt eu gwerthfawrogi. Wrth fabwysiadu dull gweithredu ffactorau dynol, bu modd i’r Uned Gyflawni fynd i’r afael â’r straenachoswyr dyddiol yr oedd staff yn eu hwynebu a’u gostwng, rhoi gofod i sicrhau y neilltuwyd tasgau’n briodol a chaniatáu i broblemau a phryderon parhaus gael eu monitro. Cafodd hyn effaith gadarnhaol ar yr Uned Gyflawni , gan wella safon yr arfer yn gyffredinol trwy ostwng amlder y camgymeriadau.
- Roedd arweinyddion wedi llwyddo i greu un hunaniaeth ar draws yr Uned Gyflawni, oedd yn gyflawniad sylweddol o gofio ei hardal fawr o gymunedau gwledig a threfol. Roeddynt wedi creu hunaniaeth dorfol ar draws swyddfeydd yn yr Uned Gyflawni, oedd yn eu galluogi i oresgyn heriau, yn cynnwys symud ymarferwyr o Wrecsam a Sir y Fflint i HMP y Berwyn i gefnogi nifer gynyddol o bobl a gâi eu rhyddhau wedi iddynt gael eu galw’n ôl am gyfnod penodol.
- Roedd yr Uned Gyflawni wedi gweithredu ar y canfyddiadau o sicrwydd safon mewnol ac roedd ganddi gynllun gwella ar waith. Wrth gyfathrebu, roedd arweinyddion wedi canolbwyntio’n gyson ar bwysigrwydd rheoli’r risg yr oedd pobl ar brawf yn ei harddangos ac roedd gan bron i’r holl staff ddealtwriaeth glir o’u blaenoriaethau . Roedd swyddogion datblygu ansawdd hefyd yn cefnogi gweithgarwch gwella yn yr Uned Gyflawni. Er bod llawer i’w wneud eto, roedd gwelliannau wedi’u gwneud i ansawdd gwaith gwarchod y cyhoedd.
- Roedd pennaeth yr Uned Gyflawni ei hun yn cymryd diddordeb gweithredol ac ystyrlon ym marn y bobl ar brawf. Cadeiriai fforwm misol, yn dwyn i mewn pobl ar brawf, oedd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r holl swyddfeydd ar draws yr Uned Gyflawni. Mewn ymateb i adborth gan bobl ar brawf, roedd staff yr Uned Gyflawni wedi cynhyrchu taflenni hawdd eu deall i helpu pobl oedd wedi”u dedfrydu i ddeall yr hyn yr oedd gofyn iddynt ei wneud.
Meysydd i’w gwella
- Roedd angen i arweinyddion wneud mwy i wella safon y trefniadau rhannu gwybodaeth gyda’r gwasanaethau cymdeithasol a’r heddlu fel y gallai ymarferwyr ddeall yn gywir y risg yr oedd dynion ar brawf i ferched a phlant. Nid oedd cynlluniau i alluogi ymarferwyr prawf gael mynediad at systemau’r heddlu wedi’u cwblhau eto. Er gwneud cynnydd yn Sir Ddinbych wrth wella mynediad at wybodaeth a gedwir gan y gwasanaethau plant, roedd angen gwneud mwy yn y pum awdurdod lleol arall ar draws Gogledd Cymru.
- Nid oedd arweinyddion canol ac uwch bob amser yn sicrhau fod ymarferwyr yn asesu’n llwyr risgiau i’r holl ddioddefwyr ym mhob asesiad . Nid oedd ymarferwyr bob amser yn broffesiynol chwilfrydig, rhywbeth a gâi effaith ar safon y gwaith i adnabod a gwarchod yr holl ddioddefwyr.
- Cododd rhai staff bryderon ynghylch teimlo’n anniogel, oedd ym ymwneud â safon rhai adeiladau yn yr Uned Gyflawni. Gan nad oedd digon o le i gyfweld yn Sir y Fflint, weithiau roedd pobl ar brawf yn disgwyl am gyfnodau hir i gael eu gweld ac, o’r herwydd, roedd risg trais ac ymosodiad yn codi. Yn y swyddfa yng Nghaernarfon, nid oedd sgrîn na llen yn yr ystafell i weld pobl oedd yn risg i staff. Roedd arweinyddion wedi codi’r materion hynny gyda thim ystadau’r HMPPS ond nid oeddynt wedi’u datrys eto
- Roedd arweinyddiaeth yr Uned Gyflawni wedi dewis peidio â secondio ymarferwyr i wasanaethau cyfiawnder ieuenctid lleol, oherwydd cyfyngiadau staffio hir sefydlog ar raddfa Swyddog Prawf. Er bod arweinyddion cyfiawnder ieuenctid yn cydnabod bod yna gysylltu a chydweithio adeiladol ar gyfer achosion pontio pan oedd pobl ifanc yn troi 18 ac yn symud i’r gwasanaethau oedolion, nid oedd hyn yn golygu nad oedd staff prawf yn ymwneud yn weithredol â gwaith rheoli plant yn y system cyfiawnder troseddol.
| P 1.2 Staffio | Sgôr |
| Mae arweinyddiaeth yr Uned Gyflawni yn galluogi gwaith cyflawni gwasanaeth ymatebol, wedi’i bersonoli, o safon uchel i’r holl bobl ar brawf. | Da |
Cryfderau:
- Roedd y sefyllfa staffio’n gwella yng Ngogledd Cymru, gan cynnwys ar raddfeydd oedd â swyddi gwag. Adeg ein harolygiad, roedd 108 y cant o staff mewn swydd ar draws y graddfeydd yn yr Uned Gyflawni ac roedd bron pob swydd ar raddfeydd Uwch-swyddog Prawf a Swyddog Prawf yn llawn. Nid oedd yna’r un swydd wag ar raddfa swyddog gwasanaeth prawf a nifer fechan o swyddi gweinyddwyr achos oedd â neb ynddynt. Galluogai’r sefyllfa yma i staff ar draws yr holl swyddfeydd yn yr Uned Gyflawni gynnal llwythi achos yr oedd modd eu rheoli.
- Roedd yr Uned Gyflawni yn rhagweld y byddai recriwtio swyddogion prawf ar hyddorddiant ac ymarferwyr yn dychwelyd o’r tu allan i’r Uned Gyflawni yn sicrhau y cedwid pob swydd yn llawn. Roedd disgwyl i wyth swyddog prawf ar hyfforddiant gymhwyso yn Rhagfyr 2025 ac roedd un Swyddog Prawf i fod i ddychwelyd ym Medi 2025.
- Gyda phroses yr Uned Gyflawni o neilltuo llwythi gwaith a chynnal cyfarfodydd gwirio dyddiol byr, roedd modd i reolwyr reoli llwythi achos yn weithredol a bod yn ymatebol ar adegau o bwysau enbyd ar ymarferwyr. Golygai’r arferion hyn hefyd fod ymarferwyr yn medru diweddaru tasgau yr oeddynt wedi’u neilltuo iddynt ac ymateb iddynt. Nododd bron i bawb oedd wedi ymateb i’n harolwg staff y neilltuwyd achosion iddynt yr oedd ganddynt y sgiliau a’r wybodaeth briodol ar eu cyfer.
- Roedd yr Uned Gyflawni wedi ymgymryd â gwaith allgymorth er mwyn annog ceisiadau o rannau amrywiol o’r gymuned. Roedd hyn wedi arwain at gynnydd mewn staff oedd yn uniaethu fel Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig gyda’r nifer wedi mynd y tu draw i gynrychiolaeth llwythi gwaith y demograffeg hwn. Roedd cydweithrediad yr Uned Gyflawni gydag S4C i gynhyrchu‘Ar Brawf’ hefyd wedi annog yn weithredol waith y gwasanaeth prawf ledled cymunedau lleol oedd, yn bennaf, Gymraeg eu hiaith .
- Cefnogwyd staff gan arweinyddion i ddatblygu’n broffesiynol ar draws yr holl raddfeydd. Roedd yr Uned Gyflawni wedi cefnogi datblygiad gyrfa mewnol pedwar Swyddog Prawf i Uwch-swyddog Prawf ac un uwch-swyddog gweinyddol i reolwr busnes. At hyn, adroddodd yr Uned Gyflawni am sawl aelod o staff yn mynd ymlaen i swyddi rhanbarthol arbenigol. Adroddodd mwyafrif sylweddol o staff a ymatebodd i’n harolwg fod yr Uned Gyflawni’n annog diwylliant o ddysgu a datblygu parhaus.
- Roedd cyfleoedd i ddysgu a datblygu ar gael i’r holl raddfeydd o staff trwy amrywiol ffyrdd, megis amser dysgu a warchodir, fforymau grŵp a chefnogaeth un-i-un.Câi staff eu hannog gan arweinyddion yr Uned Gyflawni i fynd i sesiynau myfyrio a ddarparwyd gan Datrys a chydweithio gyda chydweithwyr o’r heddlu ar ddysgu cyfoedion. Roedd arweinyddion hefyd wedi comisiynu hyfforddiant penodedig ychwanegol i staff y dderbynfa i gefnogi eu rôl allweddol fel y man cyswllt cyntaf wrth reoli sgyrsiau anodd a gostwng trais gyda phobl ar brawf. O ganlyniad, roedd gan staff y dderbynfa fwy o hyder i ymwneud â phobl ar brawf. Cynigiai arweinyddion, hefyd,gyfleoedd cysgodi helaeth fel y gallai staff ddatblygu a deall mwy am yr amrywiol rolau yn yr Uned Gyflawni.
- Yn dilyn arbrawf llwyddiannus, câi defnydd da ei wneud o’r model cyflawni gweithredol prawf. Ymgorfforai glystyrau bychain yn cynnwys gweinyddwr, Uwch-swyddogion prawf a Swyddogion Prawf. Roedd hyn wedi creu strwythur effeithiol a hyrwyddai gydweithrediad rhwng ymarferwyr a staff gweinyddol, gan sicrhau llif gwybodaeth cyson a pherchenogaeth gyffredin ar weithgarwch.
- Roedd arweinyddion wedi gweithio’n effeithiol fel bod modd i ymarferwyr ganolbwyntio eu hamser ar achosion blaenoriaeth. Roeddynt wedi gweithredu’r trydydd tîm rheoli olaf’, a reolai’r holl achosion Ailosod y Gwasanaeth Prawf mewn ymateb i newid polisiau’r rhaglen. Hyrwyddai’r Uned Gyflawni yn weithredol waith dechrau ar ymyraethau’n fuan, yn unol â’r cynllun ‘Dechrau’n Gywir, Gorffen yn Gywir’. Ategwyd hyn gan dystiolaeth yn ein data arolwg achos lle roedd 64 y cant o achosion a arolygwyd yn cyflawni gwasanaethau oedd fwyaf tebygol o ostwng achosion o aildroseddu a chefnogi ymataliadau, gyda digon o sylw’n cael ei roi i ddilyniant a’r amserlenni oedd ar gael.
- Roedd yr Uned Gyflawni wedi dynodi cefnogaeth swyddog datblygu ansawdd, yn cynnal archwiliadau mewnol, samplo ar hap a chyflawni sesiynau misol â themau a gweithdai seiliedig ar dimau i fynd i’r afael ag anghenion o safbwynt lleol a rhanbarthol. Roedd sesiynau’r Swyddog Datblygu Ansawdd hefyd ar gael i staff ac roeddynt yn ofod myfyriol ychwanegol i ymarferwyr drafod achosion. Roedd cefnogaeth y Swyddog Datblygu Ansawdd wedi arwain at welliannau yn ansawdd y gwaith i gadw pobl yn ddiogel.
Meysydd i’w gwella
- Yn yr achosion y bu i ni eu harolygu, ni chofnofwyd yn glir bob amser waith trosolwg y rheolwyr, ac eithrio wrth neilltuo a gwrthlofnodi asesiadau risg. Dewisiai ymarferwyr achosion i’w trafod a myfyrio drostynt gyda’u rheolwyr llinell ond golygai hynny na nodwyd bob amser bethau a gâi eu gadael allan o arferion diogelu a gwarchod y cyhoedd. At hyn, ni châi trafodaethau rhwng rheolwyr llinell ac ymarferwyr am risg y tu allan i oruchwyliaeth bob amser eu cofnodi.
- Cydnabu arweinyddion, rheolwyr canol a rhai partneriaid nad oedd gan rhai ymarferwyr hyder a gwybodaeth oherwydd nad oedd ganddynt brofiad. Roedd hyn yn cyfrif am rai o’r bylchau i gadw pobl yn ddiogel, yn enwedig wrth reoli risgiau pobl ar brawf a dilyn i fyny wybodaeth newydd yn gyson a amlygai bryder. Roedd angen llwyr ddeall anghenion staff yn yr Uned Gyflawni er mwyn nodi bylchau mewn gwybodaeth i gefnogi gwaith uwchsgilio staff a chyfeirio adnoddau dysgu’n effeithiol.
- Ychydig iawn o ddefnydd a wnaed o wirfoddolwyr a mentoriaid cymhreiriaid yn yr Uned Gyflawni ond roedd gan arweinyddion gynlluniau credadwy i intigreiddio pobl ar brawf i’r ffordd y cyflawnai ei fusnes.
| P 1.3 Gwasanaethau | Sgôr |
| Mae ystod gynhwysfawr o wasanaethau o safon uchel ar waith, yn cefnogi gwasanaeth penodedig ac ymatebol i’r holl bobl ar brawf. | Da |
Cryfderau:
- Roedd Trefniadau Gwarchod y Cyhoedd Amlasiantaethol (MAPPA) yn gweithio’n dda ar Lefelau 2 a 3. Roedd yr Uned Gyflawni wedi cyflwyno cynllun gweithredu Lefel 1 MAPPA yn cynnwys canllawiau, yn dilyn argymhellion yr arolwg thematig dan arweiniad Arolygiaeth Prawf EF. Roedd y bartneriaeth weithio rhwng yr Uned Gyflawni a chydweithwyr MOSOVO (Rheoli Troseddwyr Rhyw a Throseddwyr Treisiol) yr heddlu yn gydweithrediadol ac effeithiol;
- Roedd arweinyddion wedi defnyddio data amrywiaeth i gefnogi canlyniadau gwell i bobl ar brawf. Ystyriai Uwch-swyddogion Prawf amrywiaeth wrth neilltuo achosion i ymarferwyr, rhywbeth a sicrhai, gan fwyaf, fod y gwasanaeth yn fodlon gwrando ar anghenion unigolion. Roedd hyn yn amlwg yng nghynllun natur wledig yr Uned Gyflawni, cynigion o oruchwyliaeth yn y Gymraeg neu’r Saesneg a chyflawni canolfannau adrodd i ferched yn unig ar draws y rhan fwyaf o’r Uned Gyflawni. Mewn 94 o achosion a arolygwyd, rhoddwyd digon o sylw i gynnal perthynas weithio effeithiol gyda’r person ar brawf, gan ystyried ei anghenion amrywiaeth.
- Roedd y rhan fwyaf o’r dedfrydwyr yn fodlon gyda’r gwasanaeth a gyflawnwyd gan yr Uned Gyflawni. Roedd gan y dedfrydwyr berthynas gref gyda phennaeth y gwasanaeth ac Uwch-swyddog Prawf tîm y llys trwy fforwm cysylltu dedfrydwyr oedd wedi hen ennill ei blwyf Trefnwyd cyfarfodydd rheolaidd trwy gydol y flwyddyn i roi cyfleoedd i rannu newidiadau mewn polisiau, ceisio adborth a galluogi datrys unrhyw bryderon yn gyflym.
- Roedd arweinyddion yn deall fod gan y rhan fwyaf o bobl ar brawf yng Ngogledd Cymru anabledd yn gysylltiedig ag iechyd meddwl ac wedi comisiynu gwasanaethau i’w cefnogi. Roedd clinigau iechyd meddwl ar gael yn yr holl swyddfeydd. Roedd yr Uned Gyflawni wedi comisiynu gwasanaeth i bobl oedd wedi profi anaf trawmatig i’r ymennydd. Roedd gan yr Uned Gyflawni, hefyd, fynediad i wasanaethau adsefydliadol a gomisiynwyd ac a roddai sylw i niwroamrywiaeth, wedi’u darparu gan Gonsortiwm Trydydd Sector, a gynigiaisesiynau hyfforddi un-i-un a chefnogi gwaith effeithiol o ddwyn i mewn bobl ar brawf.
- Roedd y rhan fwyaf o ferched ar brawf yn derbyn digon o gefnogaeth i roi’r gorau i droseddu. Roeddynt yn gallu adrodd i fannau lle nad oedd dynion yn bresennol a chael cefnogaeth gyfannol, oedd yn wybodus o drawma ac yn rhywedd-ymatebol. Rhoddwyd i ferched a gâi eu rhyddhau o HMP Styal gymorth cyn eu rhyddhau i’w cynorthwyo i drosglwyddo’n llyfn o’r carchar i’r gymuned.
- Cyflawnwyd gwaith rheoli troseddwyr integredig yn effeithiol. Gweithiai’r heddlu a staff prawf gyda’i gilydd yn yr un swyddfa ac, fel hyn, roedd modd iddynt gydweithio’n effeithiol a rhannu gwybodaeth yn gyflym. Roedd asiantaethau eraill, megis gwasanaethau merched a darparwyr cam-drin sylweddau hefyd yn gweithio yn yr un lle, rhywbeth a hyrwyddai weithio ar y cyd wrth ddatrys problemau i bobl ar brawf.
- Roedd gan y rhan fwyaf o staff berthynas gref gyda’r tîm rhanbarthol canoledig, gweithredol, adsefydlu, cyfeirio a gwerthuso (CORRE). Roedd staf yn cydnabod fod CORRE yn eu cefnogi i adolygu risgiau ac anghenion a nodwyd pobl ar brawf i gynorthwyo i nodi ymyraethau addas a chwbhau cyfeiriadau. Roedd gwaith CORRE hefyd yn cefnogi’r agenda ‘Dechrau’n Gywir’, Gorffen yn Gywir’. Rhoddwyd gwerth arbennig ar drafodaethau cydweithrediadol rhwng CORRE ac Uwch-swyddogion Prawf oedd yn sefyll y Cymhwyster Proffesiynol mewn Prawf (PQIP), gan helpu staff i ddeall yr hyn oedd ar gael yn lleol. Trodd hyn yn waith achos i ni lle dechreuodd y rhan fwyaf o ofynion (71 y cant) y ddedfryd yn brydlon neu ar amser priodol. Teimlai darparwyr gwasanaethau adsefydliadol a gomisiynwyd fod CORRE yn cefnogi cyflwyno cysondeb a chyfeiriadau o safon.
- Cyflawnai darparwyr ymyraethau strwythurol, yn cynnwys sesiynau pecynnau cymorth yn gyson. Data defnyddio CORRE yn Ebrill a Mai 2025 oedd yr uchaf yn y rhanbarth o nifer sylweddol. Roedd hyn yn gyson â chanfyddiadau yn ein rhesymegau arolygu achosion.
Meysydd i’w gwella
- Roedd llai na hanner y bobl ar brawf oedd wedi dechrau ymyrraeth gyda llety, llesiant personol a gwasanaethau merched y gwasanaethau adsefydliadol a gomisiynwyd wedi cwblhau’r ymyrraeth, un ai oherwydd eu bod wedi newid eu meddwl am gymryd rhan neu oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau. Nid oedd ymarferwyr bob amser yn creu dilyniant wrth ddarparu ymyraethau, rhywbeth oedd yn arwain i bobl ar brawf fod wedi cofrestru am wasanaethau pan nad oeddynt bob amser yn fodlon gwneud hynny.
- Nid oedd digon o bobl â phroblemau cam-drin sylweddau yn cael triniaeth yn yr achosion y bu i ni eu harolygu, yn rhannol oherwydd bod newid mewn darparwr a gomisiynwyd wedi cael effaith ar wasanaethau cam-drin sylweddau ym Mawrth 2025. Cydnebu arweinyddiaeth yr Uned Gyflawni y bu’n rhaid monitro ac adolygu’r broses gyfeirio a’r mesurau sicrwydd yn barhaus i wneud hyn a’i fod wedi cael effaith ar ddata cyfeirio a chwblhau.
- Mae llawer mwy o alw am ofynion triniaeth iechyd meddwl na’r hyn a gyflenwir, rhywbeth oedd yn arwain at ohirio mewn gwasanaethau oedd yn dechrau i bobl ar brawf. Gyda gwaith maes arolygu, roedd nifer sylweddol o bobl yn disgwyl am y dechrau ac, felly, nid oeddynt yn mynd am y cymorth yr oedd eu hangen arnynt.
Amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)
Cryfderau:
- Hyrwyddai a dathlai arweinyddion y defnydd a wnaed o’r Gymraeg yn falch yn holl fusnes yr Uned Gyflawni, i’r graddau mai hon oedd y ffordd naturiol o gyfathrebu rhwng staff a phobl ar brawf. Roedd gan yr holl dimau ymarferwyr dwyieithog. Roedd arweinyddion yn deall lle’r oedd y niferoedd siaradwyr Cymraeg ar brawf, ac yn annog dysgu Cymraeg trwy’r Cynllun Iaith.
- Defnyddiai’r Uned Gyflawni ddata perthnasol i ddeall proffil ac anghenion staff a phobl ar brawf yng Ngogledd Cymru.
- Gwelodd yr Uned Gyflawni ymrwymiad cryf i gynhwysiant a chydnabuwyd yn eang fod arweinyddion yn bartneriaid cywir a strategol bwysig, yn gyrru gwelliannau i gymunedau yng Ngogledd Cymru. Roedd bron i bawb a ymatebodd i’n harolwg staff, ac yr oedd angen addasiadau rhesymol arnynt, yn eu derbyn. Dangosodd reolwyr canol hefyd wybodaeth ac ymrwymiad i ddeall yr hyn yr oedd ei angen ar staff iddynt fod yn eu gwaith yn ddiogel a chael eu cynnwys.
- Mewn 51 allan o 69 o achosion perthnasol a arolygwyd, roedd ymarferwyr yn ychwanegu at gryfderau’r person ar brawf ac yn gwella ffactorau gwarchodol. Roedd ymarferwyr yn aml yn ymatebol i drawma’r gorffennol, niwroamrywiaeth a nodweddion personol eraill.
- Cynhaliai rhanbarth Gogledd Cymru ymdeimlad cryf o hunaniaeth Gymreig ac roedd yno fwy o siaradwyr Cymraeg (yn cynnwys Cymraeg fel mamiaith) nag unrhyw ardal arall o Gymru. Roedd gan yr Uned Gyflawni dîm dwyieithog a chyflawnai wasanaethau prawf craidd mewn unrhyw bwynt yn ystod y ddedfryd, trwy’r Gymraeg neu’r Saesneg. Nid yn unig oedd hyn yn bodloni dyletswyddau statudol ond roedd, hefyd, yn sicrhau y câi’r Gymraeg ei darparu, ei hannog a’i dathlu.
- Roedd gan yr Uned Gyflawni bartneriaeth oedd wedi hen ennill ei phlwyf gyda’r Nelson Trust, a roddai gefnogaeth gyfannol, oedd yn wybodus o drawma ac yn rhywedd-ymatebol mewn canolfan leol i ferched. Yno roedd lle i gael gofod diogel, iechyd emosiynol a sesiynau llesiant a chlinig iechyd rhywiol. Darparai The Nelson Trust hefyd yr One Women’s Centre yn HMP Styal, lle roeddynt yn adnabod merched a ddychwelai i Ogledd Cymru, gan sicrhau bod pecyn yn ei le yn brydlon i gefnogi trosglwyddiad llyfn o’r carchar i’r gymuned .
Meysydd i’w gwella
- Er bod gofynion triniaeth iechyd meddwl wedi’u gweithredu yn yr Uned Gyflawni, roedd yr ymateb cadarnhaol llethol wedi tyfu’n fwy nag oedd lle, gan arwain at oedi mewn dechrau gwasanaethau a’i gwneud yn angenrheidiol cael cyfnod o ddal cyfeiriadau newydd yn eu hôl er mwyn lleihau rhestrau aros i’r eithaf. Gyda gwaith maes arolygu, roedd nifer sylweddol o bobl yn disgwyl am y dechrau ac, felly, nid oeddynt yn mynd am y cymorth yr oedd eu hangen arnynt.
- Roedd gwasanaethau llesiant personol y gwasanaethau adsefydliadol a gomisiynwyd ar gael yn gyson ledled yr Uned Gyflawni ond cynigiwyd i bobl ar brawf mewn lleoliadau gwledig ar wasgar apwyntiadau dros y ffôn yn hytrach na rhai wyneb yn wyneb. O gofio bod dros ddau draean o bobl ar lwyth gwaith yr Uned Gyflawni, ac oedd ag anabledd, yn dioddef o gyflwr iechyd meddwl, roedd gofyn gweithredu ar hyn ymhellach.
2. Cyflawni gwasanaeth (Back to top)
| P 2.1 Asesu | Sgôr |
| Mae gwaith asesu’n gytbwys, dadansoddol ac wedi’i bersonoli, ac yn ymwneud yn weithredol â’r person ar brawf. | Angen ei wella |
Seilir ein1 sgôr am asesiad ar ganran yr achosion y bu i ni eu harolygu a’u barnu’n foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, a chaiff ei gyrru gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydyw’ |
| Ydyw’r asesu’n canolbwyntio ddigon ar ddwyn i mewn y person ar brawf? | 82% |
| Ydyw’r asesu’n canolbwyntio ddigon ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymatal? | 73% |
| Ydyw’r asesu’n canolbwyntio ddigon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 53% |
- Roedd gwaith dwyn i mewn bobl ar brawf yn y cyfnod asesu’n cael ei wneud yn dda bron iawn bob amser gan ymarferwyr – dangosodd 82 y cant o’r asesiadau perthnasol bod digon o ganolbwyntio ar ddwyn yr unigolyn i mewn ac, yn y mwyafrif o achosion, ystyriwyd bod amgylchiadau personol yr unigolyn ac effaith y rhain yn briodol.
- Dadansoddodd wyth deg y cant o’r achosion a arolygwyd nodweddion gwarchodedig y person ar prawf ac ystyried effaith y rhain ar gydymffurfiaeth ac ar eu dwyn i mewn. Roedd y person ar brawf yn cymryd rhan ystyrlon yn ei asesiad mewn dros dri chwarter o’r holl achosion a arolygwyd.
- Nodai a dadansoddai ymarferwyr ffactorau allweddol oedd yn ymwneud a throsedd unigolyn yn rheolaidd. Nodai a dadansoddai dros dri chwarter o achosion a arolygwyd ffactorau pwysig yn briodol. Roedd hwn yn faes gwaith cryf arall, lle roedd 75 y cant o’r achosion yr oeddym wedi’u harolygu wedi nodi a dadansoddi cryfderau a ffactorau gwarchodedig y person ar brawf. Roedd ymarferwyr prawf yn yr Uned Gyflawni’n gallu adnabod y ffactorau sylfaenol a yrrai anghenion sy’n achosi troseddu, yn ogystal â gosod yr hyn oedd yn angenrheidiol i gefnogi ymataliad yr unigolyn.
- Roedd asesiadau’n canolbwyntio ar gadw pobl eraill yn ddiogel mewn mymryn dros hanner yr achosion yn unig. Roedd cael gafael ar wybodaeth diogelu o safon dda ac amserol yn broblem gyffredin. O ganlyniad, mewn 29 allan o 61 o achosion perthnasol, ni ddefnyddiai ymarferwyr wybodaeth yn ddigonol i asesu risg. Golygai hyn nad oedd yr holl asesiadau’n nodi ac yn dadansoddi’r holl risgiau diogelu i blant.
- Roedd angen gwelliannau i sicrhau fod asesiadau’n tynnu’n briodol ac yn ddigonol o’r holl ffynonellau oedd ar gael. Roedd angen i ymarferwyr fod yn fwy proffesiynol chwilfrydig ynghylch ymddygiad pobl ar brawf yn y gorffennol a’i ddadansoddi, ynghyd â gwybodaeth gan asiantaethau eraill. Barnwyd i hyn gael ei gwblhau’n ddigonol mewn 44 allan o 77 achos.
| P 2.2 Cynllunio | Sgôr |
| Mae gwaith cynllunio yn gytbwys, yn gyfannol, wedi’i bersonoli ac yn ymwneud yn weithredol â’r person ar brawf | Angen ei wella |
Mae ein sgôr2 ar gyfer cynllunio wedi’i seilio ar ganran yr achosion y bu i ni eu harolygu a’u barnu’n foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, a chaiff ei gyrru gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydyw’ |
| Ydyw cynllunio’n canolbwyntio ddigon ar ddwyn i mewn y person ar brawf? | 83% |
| Ydyw cynllunio’n canolbwyntio ddigon ar ostwng aildroseddu a chefnogi ymatal? | 79% |
| Ydyw cynllunio’n canolbwyntio’n ddigon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 52% |
- Roedd dwyn i mewn pobl ar brawf yn ystod y cyfnodau cynllunio’n hynod gryf ac yn adlewyrchu medr yr ymarferydd mewn creu perthnasoedd effeithiol. Yn 81 y cant o’r achosion y bu i ni eu harolygu, gosodai gwaith cynllunio’n glir lefel, patrwma math o gontract i ddwyn i mewn yr unigolyn a chefnogi effeithiolrwydd yr ymyraethau. Ystyriai ymarferwyr nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau personol yr unigolyn a allai gael effaith ar eu hymgysylltiad a’u cydymffurfiaeth. Roedd hyn yn cynnwys trefnu apwyntiadau prawf i gefnogi niwroamrywiaeth, cyflogaeth a chyfrifolebau gofal plant.
- Mewn dros dri chwarter o achosion a arolygwyd, roedd cynllunio dedfrydau i ostwng aildroseddu a chefnogi ymataliad yn ddigon. Câi ymarferwyr drafodaethau cydweithredol â’r tîm CORRE yn aml. Fel hyn, roedd modd iddynt nodi a chynllunio ymyraethau addas i fynd i’r afael â’r ffactorau mwyaf critigol sy’n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol yr unigolyn mewn 83 y cant o’r achosion a arolygwyd. At hyn, ym mron i dri chwarter o’r achosion perthnasol, adeiladai cynlluniau ar gryfderau a ffactorau gwarchodedig yr unigolyn, gan ddangos dull cadarnhaol i ddeall anghenion unigol a dangos canolbwyntio cryf ar adsefydlu.
- Roedd yna brosesau oedd wedi hen ennill eu plwyf i gael gwybodaeth am ddiogelu a chamdriniaeth ddomestig. Fodd bynnag, roedd dyfnder y manylion a roddwyd yn amrywio, nid oedd prosesau’n gyson ar draws pob un o’r chwe awdurdod a châi hyn effaith ar effeithiolrwydd y cydweithredu rhwng asiantaethau. O ganlyniad, nid oedd 26 allan o 68 o achosion perthnasol yn cynnwys cysylltiadau priodol ag asiantaethau eraill, gan gyfyngu ar y gallu i lwyr ddeall a chydlynu ymatebion amlasiantaethol.
- Roedd gwahaniaeth nodedig yn y canolbwyntio ar ostwng aildroseddu a chefnogi ymatal rhwng gwahanol fathau o achosion. Mewn achosion cymunedol, dangosodd86 y cant eu bod yn canolbwyntio’n glir ar ymatal rhag troseddu, o’i gymharu â 62 y cant yn unig o achosion adsefydlu. Dangosai hyn bod angen cryfhau cysondeb arfer a ganolbwyntia ar ymatal ar draws yr holl fathau o achosion.
| P 2.3. Gweithredu a chyflawni | Sgôr |
| Cyflawnir gwasanaethau clir, wedi’u personoli a’u cydlynu, gan ddwyn i mewn y person ar brawf. | Angen gwella |
Mae ein sgôr3 ar gyfer gweithredu a chyflawni wedi’i seilio ar ganran yr achosion y bu i ni eu harolygu a’u barnu’n foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, a chaiff ei gyrru gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydyw’ |
| A weithredir y ddedfryd neu’r cyfnod ôl-ddalfa yn effeithiol gan ganolbwyntio ar ddwyn i mewn y person ar brawf? | 88% |
| Ydyw gweithredu a chyflawni gwasanaethau’n effeithiol yn cefnogi ymatal? | 62% |
| Ydyw gweithredu a chyflawni gwasanaethau’n effeithiol yn cefnogi diogelwch pobl eraill? | 55% |
- Câi ymarferwyr ymlaen yn dda gyda phobl ar brawf yn yr Uned Gyflawni bron iawn bob amser. Dechreuai’r mwyafrif o ofynion dedfrydau yn brydlon, gydag ymarferwyr yn rhoi pwyslais cryf ar greu a chynnal perthnasoedd gweithio effeithiol. Ystyriwyd bod anghenion amrywiaeth yn briodol yn 94 y cant o’r achosion a arolygwyd. Dangosodd ymarferwyr lefelau uchel o ymrwymiad, gan gefnogi unigolion i gwblhau eu dedfrydau. Mewn 97 y cant o achosion, roeddynt yn dangos hyblygrwydd ac ymatebolrwydd i amgylchiadau personol.
- Defnyddiai ymarferwyr berthnasoedd gwaith cadarnhaol yn adeiladol i fynd i’r afael a diffyg cydymffurfiaeth. Ym mron iawn i’r holl achosion perthnasol, rheolwyd diffyg cydymffurfiaeth yn brydlon, gan ostwng yr angen am gamau gorfodi ffurfiol. Pan oedd gorfodi’n angenrheidiol, cymerwyd camau digonol mewn 34 allan o 41 o achosion perthnasol. Ar ben hyn, mewn 29 allan o 35 achos perthnasol, cymerodd ymarferwyr gamau effeithiol i ailddwyn unigolion i mewn yn dilyn eu gorfodi, fel bod modd iddynt barhau gyda’u dedfryd a’i chwblhau. Roedd y canolbwyntio cryf hwn ar ddwyn i mewn hefyd yn amlwg mewn achosion lle roedd rhaid ailosod Polisïau’r Gwasanaeth Prawf. Mewn saith allan o wyth achos perthnasol, nodwyd digon o achosion i roi cefnogaeth briodol y tu draw i’r cyfnod o gyswllt dan oruchwyliaeth.
- Roedd yna weithgarwch cadarnhaol i gefnogi ymatal rhag troseddu, gyda 52 allan o 62 o achosion perthnasol yn cael cynnig gwasanaethau adsefydliadol a gomisiynwyd. Roedd natur a lefel y cyswllt yn ddigon i ostwng aildroseddu a chefnogi ymatal mewn 71 y cant o achosion. Unwaith eto, dangosodd ymarferwyr ymwybyddiaeth y tu draw i’r cyfnod goruchwylio dedfrydau, gyda gwasanaethau lleol yn cymryd rhan i gefnogi a chynnal ymatal mewn 40 allan o 63 o achosion perthnasol. Adroddodd arolygwyr y defnyddid yn gyson ymyraethau strwythuredig gyda phecynnau cymorthyn cael eu cyflawni gan ymarferwyr. Data defnyddio CORRE yn Ebrill a Mai 2025 oedd yr uchaf yn y rhanbarth o nifer sylweddol.Cynhaliwyd cysondeb i bobl ar brawf gyda 91 y cant o achosion yn cael eu neilltuo i ddim mwy na dau ymarferydd am gyfnod eu gorchymyn.
- Nid oedd ymarferwyr yn gwneud cyswllt ag unigolion pwysig ym mywydau pobl ar brawf ddigon aml. Dangosodd llai na hanner o achosion perthnasol ddigon o gyswllt gyda’r rhai hynny a chwaraeai ran sylweddol ym mywyd yr unigolyn, megis aelodau’r teulu neu rwydweithiau cefnogi eraill.
- 10 allan o 12 achos o risg canolog perthnasol a 12 allan o 20 achos risg uchel neu uchel iawn oedd yn ymwneud â gwaith amlasiantaethol effeithiol ar gyfer diogelu plant.4 Roedd gan arweinyddion gynllun gweithredu ac yn defnyddio Swyddog Datblygu Ansawdd i helpu ymarferwyr i weithio’n fwy effeithiol gydag asiantaethau eraill. Nododd data archwilio mewnol y bu rhyw gymaint o welliannau ond roedd yn dal yn angenrheidiol cael sylweddol mwy.Gwelsom waith rhannu gwybodaeth effeithiol ar gyfer achosion risg uchel ac uchel iawn, yn nodweddiadol wedi’i neilltuo i ymarferwyr profiadol. Yn ystod ein harolygiad gwaith maes D2, myfyriodd arweinyddion, rheolwyr canol a rhai partneriaid ar hyder a gwybodaeth ymarferwyr llai priodol, a allaifod wedi cyfrannu at fylchau mewn arfer diogelwch. Dyma’n benodol oedd yr achos wrth reoli’r risgiau’n gysylltiedig a’r ddedfryd yn hytrach nag â’r unigolyn ac yn nilyniant anghyson pryderon diogelu newydd.
- Roedd y diffyg profiad hwn yn cael effaith ar neilltuo achosion, gyda mwy o achosion cymhleth yn cael eu neilltuo’n aml i staff profiadol, gan roi pwysau ychwanegol arnynt a’i gwneud yn ofynnol cael mwy o oruchwyliaeth gan reolwyr. Roedd angen deall yn glir anghenion dysgu a datblygu staff yn yr Uned Gyflawni. Roedd nodi bylchau mewn gwybodaeth yn angenrheidiol i gefnogi staff oedd yn uwchsgilio a sicrhau y câi adnoddau dysgu eu targedu’n effeithiol.
| P 2.4. Adolygu | Sgôr |
| Mae’r gwaith adolygu cynnydd yn gytbwys, dadansoddol ac wedi’i bersonoli, gan ymwneud yn weithredol â’r person ar brawf. | Angen gwella |
Mae ein sgôr5 ar gyfer adolygu’n seiliedig ar ganran yr achosion y bu i ni eu harolygu a’u barnu’n foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, a chaiff ei gyrru gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydyw’ |
| Ydyw adolygu’n canolbwyntio ddigon ar gefnogi cydymffurfiaeth a chyswllt y person ar brawf? | 85% |
| Ydyw adolygu’n canolbwyntio ddigon ar gefnogi ymatal? | 76% |
| Ydyw adolygu’n canolbwyntio ddigon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 51% |
- Yn nodweddiadol, roedd gweithgarwch adolygu yn yr Uned Gyflawni yn ymatebol i newidiadau mewn cysylltiad â chydymffurfiaeth. Roedd pobl ar brawf yn ymwneud yn ystyrlon â gwaith adolygu eu cynnydd a’u cysylltiad, gydag adolygiadau ysgrifenedig wedi’u cwblhau mewn 50 allan o 61 o achosion perthnasol a arolygwyd. Roedd hyn yn hynod amlwg yn yr achosion risg uchel ac uchel iawn a arolygwyd, lle canfu bod 25 allan o 29 o achosion perthnasol wed nodi newidiadau mewn ffactorau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol ac wedi mynd i’r afael â nhw, gyda’r addasiadau angenrheidiol wedi’u gwneud i’r cynllun gwaith parhaus. Fodd bynnag, roedd hyn yn sylweddol wahanol i’r achosion risg canolig a adolygwyd, lle canfuwyd fod 22 allan o 32 o achosion perthnasol wedi nodi’r un ffactorau hynny a mynd i’r afael â nhw.
- Cynhaliai’r Uned Gyflawni feddygfa amrywiaeth arbrofol i gynyddu ei gwybodaeth a’u syniadau wrth fynd i’r afael â materion amrywiaeth mewn ffordd oedd yn seiliedig ar dystiolaeth trwy gyngor llunio achosion. Roedd yr arbrawf hwn wedi cynorthwyo ymarferwyr gyda materion amrywiaeth cymhleth a gwneud eu dealltwriaeth eu hunain yn gydnaws â chyngor llunio achosion o safon dda. Cydweithrediad uniongyrchol rhwng yr Uned Gyflawni a thîm amrywiaeth Cymru oedd hwn. Tystiodd ein gwaith arolygu achosion fod staff yn yr Uned Gyflawni yn deall i raddau helaeth anghenion y bobl ar brawf yr oeddynt yn eu goruchwylio a defnyddiwyd y wybodaeth hon i lywio cynlluniau ac ymyraethau i fynd i’r afael â’r anghenion hynny trwy gydol y ddedfryd. Roedd gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar ychwanegu cryfder a gwella ffactorau gwarchodedig y person ar brawf mewn 59 allan o 71 o achosion perthnasol a arolygwyd.
- Fel gyda holl gyfnodau eraill gwaith achos, roedd angen gwella gwaith adolygu i gynorthwyo gyda diogelwch pobl eraill. Nododd ychydig dan hanner yr achosion perthnasol newidiadau mewn ffactorau oedd yn gysylltiedig â risg o niwed a mynd i’r afael â nhw. Roedd angen mwy o gyswllt a chydweithio parhaol gydag asiantaethau eraill, gan mai 37 yn unig allan o 69 o achosion perthnasol a arolygwyd ddangosodd waith adolygu a gâi ei lywio gan asiantaethau eraill oedd yn ymwneud â rheoli’r risg niwed. Roeddangen mwy o ymgysylltu ystyrlon rhwng yr unigolion â phobl allweddol yn ei fywyd wrth adolygu risg o niwed, gan fod hyn wedi digwydd mewn 33 allan o 63 achos perthnasol y bu i ni eu harolygu. Gellir dadlau y dangosai’r canfyddiadau hyn nad oedd gwaith adolygu’n cael ei ddefnyddio i reoli risg yn gyson ac roedd angen rhagor o welliannau i gynyddu cydlyniant amlasiantaethau a dwyn i mewn pobl ar brawf yn ystyrlon wrth adolygu eu risg o niwed er mwyn cadw pobl yn ddiogel.
Rhagor o wybodaeth (Back to top)
Mae rhagor o ddata o’r arolygiad hwn a rhagor o wybodeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynnal yr arolygiad hwn ar gael yn yr atodiad ar ddata.
Mae’r eirfa a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.
Arweinwyd yr arolygiad hwn gan Arolygwr Ei Fawrhydi Joy Wilson, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr ar draws yr Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd yn yr arolwg hwn. Heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosibl.
- Caiff y sgôr am y safon ei gyrru gan y sgôr am y cwestiwn allweddol a roddir mewn band sgorio.Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad ar ddata. ↩︎
- Caiff y sgôr am y safon ei gyrru gan y sgôr am y cwestiwn allweddol a roddir mewn band sgorio. Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad ar ddata. ↩︎
- Caiff y sgôr am y safon ei gyrru gan y sgôr am y cwestiwn allweddol a roddir mewn band sgorio.Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad ar ddata. ↩︎
- Nid yw’r canfyddiadau sy’n ymwneud ag achosion o risg canolig i uchel (iawn) o niwed wedi’u dadansoddi o ran mynegai gyfradd perthnasol; prawf a ddefnyddir i gymharu cyfraddau digwyddiadau; adroddwn ar ein canfyddiadau gan ddefnyddio’r cafeat hwnnw. ↩︎
- Gyrrir y sgôr ar gyfer y safon gan y sgôr isaf ar bob un o’r cwestiynau allweddol, a roddir mewn band sgorio ac a nodir mewn print du yn y tabl. ↩︎