Skip to content

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk.

­Arolygiad o wasanaethau prawf yn Cwm Taf Morgannwg

Published:

Rhagair (Back to top)

Mae’r arolygiad o Uned Gyflawni Gwasanaeth Prawf Cwm Taf Morgannwg yn cyflwyno darlun cymhleth o wasanaeth sy’n gweithredu mewn amgylchedd heriol ac ystyried yr anghydraddoldebau cymdeithasol yn yr ardal, ond eto’n dangos cryfderau clir o ran arweinyddiaeth, diwylliant a bwriad strategol.

Roedd y tîm arwain yn weladwy, yn dosturiol ac yn wybodus, gyda dealltwriaeth gref o’r pwysau gweithredol ac anghenion ei staff a’i gymunedau. Roedd ei ymrwymiad i wella yn amlwg wrth ddatblygu cynllun gwella ansawdd cadarn, gwreiddio dull gweithredu ffactorau dynol, ac ymgysylltu’n rhagweithiol â phartneriaid a rhanddeiliaid.

Dywedodd staff ar draws pob gradd eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu gwerthfawrogi, ac roedd ymdeimlad clir o optimistiaeth ynghylch y cyfeiriad. Fodd bynnag, er gwaethaf y cryfderau hyn, canfu’r arolygiad fod ansawdd y gwasanaeth a ddarperir, yn enwedig o ran cadw pobl yn ddiogel, yn annigonol. Roedd asesiadau risg yn aml yn wael, roedd gwaith amlasiantaeth yn gyfyngedig, ac roedd goruchwyliaeth y rheolwyr yn anghyson.   Gwaethygwyd y diffygion hyn gan ffactorau fel gwybodaeth wedi’i golygu gan yr heddlu a oedd yn llesteirio dealltwriaeth swyddogion prawf o risg, a bylchau staffio oherwydd salwch ac absenoldeb mamolaeth. Ar ben hynny, roedd angen datblygu’r prosesau ymgysylltu â phobl ar brawf i lywio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.

Er bod rhai meysydd gwaith achos, fel ymgysylltu ac adolygu, yn dangos arwyddion o welliant, roedd y ddarpariaeth oruchwylio gyffredinol yn dal yn annigonol. Roedd y tîm arolygu yn cydnabod ffocws strategol yr arweinyddiaeth, y cynnydd a wnaethpwyd hyd yma, a’r gwelliannau sy’n dod i’r amlwg yn erbyn ein safonau ac felly dyfarnwyd sgôr ‘Da’ ar gyfer arweinyddiaeth.

Y sgôr gyffredinol yw ‘Angen gwella’, ac mae angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod y cryfderau mewn arweinyddiaeth yn trosi’n ganlyniadau o ansawdd uchel yn gyson i bobl ar brawf a’r cymunedau y mae’r arweinyddiaeth yn eu gwasanaethu.

Er bod angen gwneud rhagor o waith i wella ansawdd ymarfer, ac yn benodol i ganolbwyntio ar wella gwaith i gadw pobl yn ddiogel (y mae angen iddo fod yn flaenoriaeth ar draws y gwasanaeth), mae gan yr Uned y sylfeini cywir i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel. Rwy’n annog yr Uned i adeiladu ar ei gwaith presennol, ac rwy’n ffyddiog y gall ein hargymhellion gefnogi a llywio ei chynlluniau gwella perfformiad ei hun.

Martin Jones CBE 

Prif Arolygydd Prawf EF


Sgoriau (Back to top)

Dechreuodd y gwaith maes ym mis Awst 2025Sgôr 4/21
Sgôr gyffredinolAngen gwella

1. Trefniadau a gweithgareddau’r sefydliad

P 1.1 ArweinyddiaethDa
P 1.2 StaffioAngen gwella
P 1.3 GwasanaethauAngen gwella

2. Darparu gwasanaethau

P 2.1 AsesuAnnigonol
P 2.2 CynllunioAnnigonol
P 2.3 Gweithredu a darparuAnnigonol
P 2.4 AdolyguAnnigonol

Argymhellion (Back to top)

O ganlyniad i ganfyddiadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion y credwn, os cânt eu gweithredu, y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd gwasanaethau prawf.

Dylai Uned Gyflawni Gwasanaeth Prawf Cwm Taf Morgannwg sicrhau’r canlynol:

  1. bod gwaith yn cael ei wneud gydag asiantaethau eraill i reoli ceisiadau am wybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant, er mwyn sicrhau bod dioddefwyr gwirioneddol a phosibl yn cael eu diogelu’n ddigonol
  2. datblygu hyder a sgiliau ymarferwyr o ran defnyddio chwilfrydedd proffesiynol a sgyrsiau heriol i nodi, dadansoddi, asesu, cynllunio ac ymateb i ddangosyddion risg yn effeithiol
  3. sicrhau bod goruchwyliaeth effeithiol gan reolwyr yn cael ei darparu’n ddigon aml a’i bod yn cael ei chofnodi’n briodol mewn cofnodion achos.
  4. sicrhau bod ymarferwyr yn defnyddio’r holl wasanaethau a darpariaeth berthnasol sydd ar gael i fynd i’r afael â’r materion sy’n sail i’r risg o niwed i bobl ar brawf
  5. ystyried barn pobl ar brawf yn llawn er mwyn llywio’r gwaith o ddatblygu gwasanaethau.

Cefndir (Back to top)

Fe wnaethom y gwaith maes yn Uned Gyflawni Gwasanaeth Prawf Cwm Taf Morgannwg dros gyfnod o bythefnos, gan ddechrau ar 04 Awst 2025. Fe wnaethom arolygu 26 o orchmynion cymunedol a 18 o achosion o ryddhau ar drwydded o’r ddalfa lle’r oedd dedfrydau a thrwyddedau wedi dechrau yn ystod pythefnos ar wahân, rhwng 23 Rhagfyr a 29 Rhagfyr 2024 ac 13 Ionawr a 19 Ionawr 2025. Rydym hefyd wedi cynnal 26 o gyfweliadau gydag ymarferwyr prawf.

Mae Uned Gyflawni Gwasanaeth Prawf (yr Uned) Cwm Taf Morgannwg yn cynnwys ardaloedd awdurdodau lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf. Mae gan y rhanbarth boblogaeth o tua 450,000, gydag anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol nodedig. Mae gan yr ardal gyfran uwch o bobl hŷn o’i gymharu â chyfartaledd Cymru, a lefelau sylweddol o anabledd, problemau iechyd meddwl ac anweithgarwch economaidd.

Mae cyflogaeth yn y rhanbarth wedi wynebu heriau parhaus. Er bod cyfradd diweithdra’r DU yn 4.8 y cant ar gyfer Ebrill-Mehefin 2025, dangosodd data lleol o’r asesiad o anghenion y boblogaeth fod gan Gwm Taf Morgannwg gyfradd uwch o aelwydydd heb waith ac anweithgarwch economaidd na’r cyfartaledd cenedlaethol. Roedd lefelau uwch hefyd o hawlwyr budd-daliadau ac oedolion heb unrhyw gymwysterau ffurfiol, a gyfrannodd at rwystrau o ran cael gafael ar gyflogaeth a gwasanaethau cymorth. Roedd lefelau cam-drin domestig a thrais arall ymysg yr uchaf yng Nghymru, gyda throseddau treisgar yn cynrychioli dros draean o lwyth achosion y gwasanaeth prawf.

Roedd cyfraddau aildroseddu ar draws y tri awdurdod lleol yn adlewyrchu tueddiadau cenedlaethol ehangach Cymru i raddau helaeth ac yn dangos cynnydd dros y pum mlynedd diwethaf. Y gyfradd aildroseddu gyffredinol a brofwyd ar gyfer troseddwyr sy’n oedolion yng Nghymru a Lloegr oedd 25.1 y cant ar gyfer carfan Hydref i Ragfyr 2021, gyda’r rhai a ryddhawyd o ddedfrydau o lai na 12 mis o aildroseddu ar gyfradd o 55.3 y cant.

Darparwyd gwasanaethau adsefydlu wedi’u comisiynu (CRS) gan y Forward Trust ar gyfer cymorth llety a Phartneriaeth St Giles Wise ar gyfer cyllid, budd-daliadau a chymorth dyledion a gwasanaethau llesiant personol. Roedd Ymddiriedolaeth Nelson yn darparu gwasanaethau i fenywod, ac roedd Dyfodol yn darparu gwasanaethau dibyniaeth ac adferiad i ddynion a oedd yn defnyddio gwasanaethau trin cyffuriau ac alcohol. Ar y cyd ag Unedau eraill yn Ne Cymru, roedd yr Uned wedi comisiynu gwasanaethau ychwanegol gan BrainKind, sy’n cefnogi unigolion sydd wedi profi anaf trawmatig i’r ymennydd.  

Roedd polisi Ailosod y Gwasanaeth Prawf yn weithredol adeg yr arolygiad. Roedd chwech o’r 42 achos a arolygwyd gennym yn destun Ailosod y Gwasanaeth Prawf, gyda dau ohonynt yn defnyddio safonau’r Uned wedi’u haddasu.[1]


1. Trefniadau a gweithgareddau’r sefydliad (Back to top)

P 1.1. ArweinyddiaethSgôr
Mae arweinyddiaeth yr Uned yn golygu bod modd darparu gwasanaeth ymatebol, personol, o safon uchel i bawb sydd ar brawf. Da

Cryfderau:

  • Roedd yr Uned yn cael ei harwain gan uwch dîm arwain a oedd yn uchel ei barch. Disgrifiodd y staff nhw fel pobl weladwy, agos-atoch a thosturiol. Roedd yr uwch reolwyr hyn yn dangos dealltwriaeth realistig o’r pwysau allweddol a’r meysydd y mae angen eu gwella yn yr Uned, yn ogystal ag effeithiau newid cyflym ar staff a rheolwyr canol. Roedd ganddynt ddealltwriaeth dda o’r grŵp staff ac roeddent yn wybodus am y cryfderau a’r heriau unigol ar draws pob gradd. Roedd rolau a chyfrifoldebau uwch arweinwyr wedi’u diffinio’n glir ac yn cael eu deall yn eang.
  • Roedd gan Uned Cwm Taf Morgannwg gynllun cyflawni a oedd yn cyd-fynd â chynllun busnes Cyfarwyddwr Gweithredol yr Ardal ar gyfer Cymru ac roedd yn canolbwyntio ar bedair blaenoriaeth y cyfarwyddwr cyffredinol a’r prif swyddog prawf. Roedd yr Uned hefyd wedi datblygu cynllun gwella ansawdd cynhwysfawr i gyflawni meysydd gwella allweddol a nodwyd gan archwiliadau mewnol ac allanol. Cafodd hyn ei adolygu’n weithredol, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau, a chafodd ei bersonoli ar gyfer pob swyddfa.
  • Roedd arweinyddiaeth yr Uned yn dadansoddi ac yn mynd i’r afael â risgiau allweddol o ran darparu gwasanaethau. Cafodd y rhai sy’n gysylltiedig â heriau effaith newidiadau sefydliadol cenedlaethol a chasglu gwybodaeth gan bartneriaid am gam-drin domestig a diogelu plant eu cydnabod a’u deall.
  • Roedd gan staff ar bob lefel ddealltwriaeth glir o’r blaenoriaethau ar gyfer ansawdd a pherfformiad. Roeddent yn ymwybodol o’r angen i wella ansawdd y gwaith a gyflawnir, yn enwedig o ran cadw pobl yn ddiogel. O ganlyniad i ganfyddiadau gweithgarwch archwilio achosion rhanbarthol, gan ddefnyddio adnodd archwilio Cymru (WAT), roedd yr Uned wedi canolbwyntio mwy ar wella ymarfer. Roedd cynllun gwella ansawdd clir, wedi’i sbarduno gan arweinwyr a swyddogion datblygu ansawdd, ac wedi’i arwain gan ddirprwy bennaeth yr Uned.
  • Roedd yr Uned wedi gwreiddio’r dull ‘ffactorau dynol’ yn llawn, elfen ganolog o fodel sefydliad sy’n dysgu, a oedd wedi cael ei fabwysiadu gan y rhanbarth. Roedd cyfarfodydd gwirio bob bore ar draws pob gradd, gan gynnwys timau llys, ac awr warchodedig ddyddiol pan oedd uwch swyddogion prawf ac uwch reolwyr ar gael, yn ganolog i’r ddarpariaeth weithredol. Roedd staff yn gwerthfawrogi’r dull ffactorau dynol i raddau helaeth, a oedd yn gwneud iddynt deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn cefnogi eu llesiant.
  • Roedd diwylliant yr Uned yn gynnes ac yn hyrwyddo bod yn agored. Roedd staff ar draws pob gradd yn gadarnhaol ynghylch eu gallu i gyfrannu syniadau am newid i reolwyr ac uwch arweinwyr a hefyd darparu her adeiladol pan nad oedd pethau’n gweithio’n dda. Yn ein harolwg, roedd 26 o’r 38 ymatebydd o’r farn bod diwylliant yr Uned yn hyrwyddo bod yn agored a herio’n adeiladol. Roedd gan uwch arweinwyr bresenoldeb cryf ar draws y tair swyddfa yn yr Uned, a oedd yn werthfawr i staff oherwydd ei fod yn gwella dulliau cyfathrebu ac yn darparu ymdeimlad o gefnogaeth. Roedd digwyddiadau ‘coffi a chacen’ rheolaidd yn rhoi cyfle pellach i staff deimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, a soniodd llawer am sut yr aethpwyd i’r afael â materion a godwyd yn y fforwm hwn.
  • Roedd y tîm arwain yn gryf o blaid cydleoli a gweithio mewn partneriaeth ar y cyd. Roedd hyn wedi arwain at fwy o atgyfeiriadau, darpariaeth a chanlyniadau cadarnhaol i bobl ar brawf. Er bod bylchau yn y defnydd o wasanaethau i fynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â niwed, ymgysylltwyd â gwasanaethau lleol i gefnogi ymataliad mewn bron i hanner yr achosion a arolygwyd. Roedd hyn yn cael ei gefnogi’n dda gan ofod swyddfa priodol. 
  • Roedd cysylltiadau cyflawni strategol a gweithredol cryf gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol ar draws yr Uned. Roedd pennaeth a dirprwy bennaeth yr Uned yn eistedd ar sawl bwrdd i sbarduno gwelliannau o ran darparu gwasanaethau i bobl ar brawf. Roedd hyder yn yr arweinyddiaeth a’r cyfraniadau a wnaethpwyd gan yr Uned o dan y trefniadau hyn. 
  • Yn yr un modd â holl unedau cyflawni’r gwasanaeth prawf, bu newid sylweddol dros y 12 mis blaenorol. Gwelwyd bod y gwaith o reoli’r newidiadau hyn yn feddylgar ac yn ystyriol, ac roedd negeseuon yn cael eu rhannu â staff drwy amrywiaeth o sianeli. Er gwaethaf maint y newid a rhywfaint o flinder o ran newid, roedd staff yn ymddangos yn wydn wrth ddelio â nhw ac yn cael eu cefnogi gan reolwyr. Roedd y tîm arwain wedi cyfleu polisïau, canllawiau a newidiadau a oedd yn effeithio ar unrhyw fath o ddarpariaeth prawf mewn gwahanol ffyrdd. Roedd hyn yn cynnwys cyfarfodydd rheoli, cyfarfodydd tîm, a galwadau gan yr holl staff.

Meysydd i’w gwella:

  • Nid oedd goruchwyliaeth rheolwyr yn ein harolygiadau achos yn cefnogi ymarferwyr yn eu gwaith fel mater o drefn, nac yn canolbwyntio’n ddigon da ar anghenion a risgiau’r achos. Mewn 26 o’r 42 achos a arolygwyd gennym lle’r oedd angen goruchwyliaeth gan reolwyr, canfuwyd ei fod yn annigonol, yn aneffeithiol neu’n absennol. Roedd hyn er gwaethaf cyflwyno cyfarfodydd cyswllt cychwynnol rheolwyr ar ddechrau cyfnodau goruchwylio. Er i ni weld tystiolaeth o reoli salwch a pherfformiad yn gadarn ac yn rheolaidd, nid oedd hyn yn amlwg yn yr achosion a arolygwyd. Lle’r oedd rhywfaint o dystiolaeth o oruchwyliaeth gan reolwyr, nid oedd camau gweithredu a osodwyd yn cael eu dilyn fel mater o drefn, ac felly nid oeddent yn cael eu gweithredu gan ymarferwyr prawf.  
  • Er bod dealltwriaeth dda o’r risgiau i ddarparu gwasanaethau rhannu gwybodaeth, nid oedd y camau a gymerwyd i liniaru risgiau wedi arwain at y gwelliannau angenrheidiol mewn achosion adeg yr arolygiad.

P 1.2 StaffioSgôr
Galluogir staff i ddarparu gwasanaeth ymatebol, personol o ansawdd uchel i bawb sydd ar brawfAngen gwella

Cryfderau:

  • Roedd tystiolaeth glir bod staff yn cael eu cefnogi yn eu datblygiad proffesiynol. Cawsant eu hannog a’u cefnogi i fynd ar hyfforddiant mewn meysydd o ddiddordeb personol ac i ymgymryd â chyfrifoldebau y tu hwnt i’w cylch gwaith arferol, yn aml drwy rolau arweiniol, i ehangu eu profiad a’u sgiliau. Roedd ethos cryf o fewn y tîm arweinyddiaeth o faethu a datblygu staff gyda photensial i ddatblygu o fewn y sefydliad, hyd yn oed pan oedd yn hysbys y byddai hyn yn gadael bylchau o fewn y grŵp staff.
  • Gwelsom broses wedi’i gwreiddio ar gyfer gwella ymarfer a dysgu a oedd yn cynnwys dysgu o droseddau difrifol pellach ac adolygiadau eraill. Roedd staff yn gallu cyfrannu at waith yr Uned ac roedd llawer yn teimlo eu bod yn cael eu clywed a’u cefnogi gan reolwyr. Cynhaliwyd pob diwrnod datblygu staff bob mis ac roeddent yn cynnwys mewnbwn gan amrywiaeth o siaradwyr mewnol ac allanol. Gwelsom arferion arbennig o gryf lle’r oedd yr hyn a ddysgwyd o adolygiad Trosedd Difrifol Pellach proffil uchel yn cael ei ddefnyddio’n dda i hysbysu staff, rhannu’r hyn a ddysgwyd, a chynnwys asiantaethau eraill.
  • Roedd arweinwyr yr Uned wedi gweithio’n galed i gynyddu presenoldeb mewn swyddfeydd. Roedd hyn wedi cynnwys cyfres o gyfarfodydd heriol gyda staff lle’r oedd arweinwyr wedi bod yn dryloyw ynghylch effaith salwch ac absenoldeb ar gydweithwyr. Roedd hyn hefyd wedi cynnwys trafodaethau am weithio gartref ac roedd yn ofynnol i’r holl staff fod yn y swyddfa, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol neu amrywiaeth unigol. Roedd hyn yn amlwg wedi talu ar ei ganfed gan fod staff yn gweithio yn y swyddfa fel mater o drefn dros yr wythnos gyfan ac mae salwch wedi gostwng yn ystod y misoedd diwethaf.
  • Roedd arweinwyr yn gadarn o ran sicrhau y glynir wrth brosesau Ailosod ac roeddent yn awyddus i hyrwyddo hyn fel ffordd o reoli llwyth gwaith. Roedd y prosesau ailosod wedi arwain at leihau llwyth gwaith ymarferwyr ar yr adnodd mesur llwyth gwaith, ond nid oedd hyn bob amser yn rhywbeth cadarnhaol i staff. Roedd rhywfaint o hyn oherwydd heriau salwch a mamolaeth ar draws yr Uned.
  • Yn yr un modd â llawer o Unedau, roedd y pwysau a’r llwyth gwaith ar Uwch Swyddogion Prawf yn sylweddol, yn enwedig yr amser a dreuliwyd ar weithgarwch adnoddau dynol. Fodd bynnag, roedd defnyddio’r oriau gwarchodedig, fel rhan o’r model ‘ffactorau dynol’, yn rhoi amser i staff ymgynghori, a hefyd yn galluogi ymarferwyr prawf llai profiadol i ddysgu bod yn annibynnol a datblygu eu hymarfer eu hunain. Cafodd hyn ei wella ymhellach gan ddefnyddio’r model ‘SBAR’ (Sefyllfa, Cefndir, Asesu ac Argymhelliad) a oedd yn annog hunanfyfyrio cyn mynd â materion at arweinwyr, a chefnogi dulliau dysgu a datblygu staff.
  • Roedd cyfraddau gadael cyn gorffen ar gyfer swyddogion prawf yn yr Uned yn isel ar 1.3 y cant, a oedd yn is na’r cyfartaledd rhanbarthol o 6.3 y cant. Roedd hyn yn adlewyrchu ein canfyddiadau bod staff yn hoffi gweithio yn yr Uned ac nad oedd ganddynt unrhyw awydd i weithio yn rhywle arall. Roedd cymysgedd go iawn o brofiad mewn timau, a gwelsom staff mwy profiadol yn cefnogi cydweithwyr mwy newydd yn dda. Lle’r oedd staff wedi gadael, dywedwyd wrthym yn anecdotaidd bod hyn yn aml oherwydd dyrchafiad neu symud i swyddi rhanbarthol neu swyddi eraill yn y Gwasanaeth Prawf, yn hytrach na gadael y sefydliad.

Meysydd i’w gwella:

  • Roedd y ffigurau staffio adeg cyhoeddi’r arolygiad yn ddigon i fodloni gofynion y sefydliad, ni theimlwyd hyn gan fod bylchau o ganlyniad i absenoldeb oherwydd salwch a mamolaeth. Adeg yr arolygiad, roedd naw aelod o’r tîm yn absennol oherwydd absenoldeb mamolaeth ac roedd chwech arall ar absenoldeb oherwydd salwch tymor hir. Adeg cyhoeddi’r arolygiad, roedd gan yr Uned 20.4 diwrnod salwch y pen y flwyddyn ar gyfartaledd ar draws pob gradd, a oedd yn llawer uwch na’r rhanbarth yn gyffredinol. Roedd hyn wedi gwella’n fwy diweddar. Fodd bynnag, effeithiwyd yn benodol ar y ffigurau hyn gan nifer o absenoldebau tymor hir ac roeddent hefyd yn cynnwys cyfnodau byrrach o salwch, a disgrifiwyd rhai ohonynt fel rhai oedd yn gysylltiedig â gwaith. Roedd hyn yn her wirioneddol i’r Uned o ran ei gallu i gyflawni’r gwaith hwn pan nad oedd y swyddi’n cael eu hôl-lenwi.

P 1.3 GwasanaethauSgôr
Mae ystod gynhwysfawr o wasanaethau o ansawdd uchel ar gael, sy’n cefnogi gwasanaeth ymatebol ac wedi’i deilwra ar gyfer pawb sydd ar brawf.Angen gwella

Cryfderau

  • Roedd y llwybrau atgyfeirio ar gyfer gwasanaethau adsefydlu wedi’u comisiynu (CRS) yn glir. Roedd ymarferwyr yn defnyddio CRS fel mater o drefn i gefnogi anghenion y rhai a oedd dan oruchwyliaeth. Mewn 20 o’r 33 achos yr aseswyd bod angen gwasanaethau o’r fath arnynt, roeddent wedi cael eu cyfeirio ac wedi dechrau gweithio. Soniodd y staff am brofiad cadarnhaol gyda’r rhan fwyaf o ddarparwyr CRS. Roedd staff CRS wedi’u gwreiddio yn yr Uned ac yn darparu gwasanaethau ym mhob un o’r tair swyddfa.
  • Yn yr un modd â holl Unedau Cyflawni Cymru, cafodd y tîm gweithredol, adsefydlu, atgyfeirio a gwerthuso canolog rhanbarthol (CORRE) ei wreiddio yn yr Uned. Roedd y tîm yn cefnogi ymarferwyr gyda gweithgareddau cynllunio dedfrydau ar gyfer pobl ar brawf. Adolygodd staff CORRE risg ac anghenion pobl ar brawf gydag ymarferwyr, gan nodi ymyriadau addas, a chwblhau atgyfeiriadau. 
  • Roedd y berthynas â darparwyr gwasanaethau camddefnyddio sylweddau wedi datblygu’n dda. Roedd rheolwyr a staff gweithredol yn cysylltu’n rheolaidd â darparwyr gwasanaethau cyffuriau. Fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser wedi cael ei drosi’n weithredoedd rheoli achosion, ac yn cefnogi anghenion y rheini ar brawf; gwelsom fod angen heb ei ddiwallu yng nghyswllt defnyddio cyffuriau mewn 17 o’r 27 achos a arolygwyd.
  • Yn yr achosion MAPPA yn ein sampl achosion, gwelsom dystiolaeth o Drefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) priodol. Cadeiriwyd cyfarfodydd Lefel 2 a 3 gan bennaeth yr Uned ac roedd gweithio mewn partneriaeth rhwng yr Uned a chydweithwyr WISDOM yr Heddlu a MOSOVO yn gydweithredol ac yn effeithiol.
  • Yn ogystal â’r gwasanaethau a ddarperir o dri safle swyddfa brawf yn yr Uned, roedd presenoldeb gwasanaeth prawf amser llawn mewn canolfan gymunedol ym Maesteg hefyd yn cefnogi anghenion pobl ar brawf o’r ardal honno ac yn darparu gwasanaethau ar draws amrywiaeth eang o asiantaethau partner.
  • Roedd yr Uned wedi arwain ymateb strategol cydweithredol i SDS40, gydag asiantaethau partner craidd yn nodi eu bod wedi cael digon o wybodaeth, a oedd wedi cefnogi’r gwaith o baratoi pobl sy’n cael eu rhyddhau’n gynnar o’r ddalfa. Roedd hyn yn arbennig o wir wrth gynllunio ar gyfer rhyddhau’r niferoedd sylweddol o CEF Y Parc.
  • Rhoddwyd gwybodaeth reolaidd a chyfoes i ddedfrydwyr am yr opsiynau dedfrydu a’r gwasanaethau sydd ar gael. Roedd yr Uned yn gweithredu fforwm cyswllt dedfrydwyr strategol hirsefydlog, a oedd yn cyfarfod bob chwarter ac yn darparu hyfforddiant ynadon ddwywaith y flwyddyn drwy dîm ymgysylltu â rhanddeiliaid Cymru. I gefnogi effeithiolrwydd y fforymau hyn, roedd yr Uned wedi meincnodi bodlonrwydd dedfrydwyr gan ddefnyddio adnoddau fel arolwg barnwrol.

Meysydd i’w gwella:

  • Nid oedd gan ymarferwyr ddigon o hyder i ddarparu pecynnau cymorth ac ymyriadau strwythuredig. Ychydig o dystiolaeth a ddarparwyd yn ein harchwiliadau achos bod ymyriadau ystyrlon i gadw pobl yn ddiogel yn cael eu darparu.
  • Roedd gan yr Uned nifer o adnoddau a ddatblygwyd yn lleol a oedd yn ceisio gwella’r gwaith o gofnodi achosion a sicrhau bod nodweddion gwarchodedig yn cael eu hystyried yn llawn. Fodd bynnag, nid oedd yr adnoddau hyn wedi’u gwreiddio’n llawn yn yr ymarfer eto gan fod ansawdd cofnodion achosion yn cael ei amlygu fel mater o drefn fel rhywbeth annigonol yn ein harolygiadau achos.
  • Er i ni weld tystiolaeth gref o ddefnyddio CORRE yng nghamau cychwynnol dedfryd, pan oedd angen atgyfeiriadau ac adolygiadau pellach drwy gydol y cyfnod goruchwylio, roedd y defnydd o CORRE gan ymarferwyr prawf yn llai cyson.
  • Roedd gweithredu a chyflawni dedfrydau yn annigonol yn y rhan fwyaf o’r achosion a arolygwyd gennym. Yn bryderus, gwelwyd bod darparu gwasanaethau i gadw pobl yn ddiogel a lleihau’r risg o niwed a achosir gan bobl ar brawf yn annigonol yn y rhan fwyaf o achosion. Roedd diffyg chwilfrydedd proffesiynol ac nid oedd ymarferwyr yn ymateb i wybodaeth newydd nac yn ei gwerthuso pan gafwyd gwybodaeth o’r fath. Ar ben hynny, roedd diffyg cysylltiad ag asiantaethau eraill a oedd yn gweithio gyda’r rheini a oedd dan oruchwyliaeth. 
  • Roedd gwelliannau yn nhrefniadau adolygu MAPPA lefel un wedi bod yn ffocws i’r Uned ond nid oeddent wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn eto. Roedd angen gwneud mwy i leihau’r ôl-groniad o’r adolygiadau hyn, a sicrhau bod ansawdd yr adolygiad a’r broses gofnodi yn gwella.
  • Mae angen gwella cyfraddau rhaglenni achrededig. Dim ond naw y cant o raglenni achrededig ar gyfer unigolion a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol oedd wedi dechrau yn ystod y 12 mis blaenorol.  Dim ond 26 y cant o raglenni achrededig, ac eithrio ar gyfer unigolion a gafwyd yn euog o drosedd rhywiol, oedd wedi dechrau. Yn ein sampl achosion ni, nid oedd chwe achos a ddylai fod wedi dechrau rhaglen achrededig wedi gwneud hynny. Fodd bynnag, bu cyfnod lle nad oedd unrhyw raglenni achrededig wedi cael eu darparu oherwydd newid cenedlaethol yn y rhaglenni a oedd yn cael eu darparu, a oedd yn cyfrif am rywfaint o’r oedi hwn o leiaf.

Amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)

  • Roedd arweinwyr yn dangos dilysrwydd ac ymrwymiad cryf i amrywiaeth, a oedd wedi’i wreiddio’n glir ar draws yr Uned, ar gyfer pobl ar brawf, mewn trefniadau partneriaeth, ac ymysg staff. Gwnaethpwyd addasiadau rhesymol ym mhob achos bron lle gofynnodd staff amdanynt, gan adlewyrchu amgylchedd gwaith ymatebol a chynhwysol.
  • Roedd gan yr Uned ddealltwriaeth ddatblygedig o anghenion ei llwyth achosion, wedi’i hategu gan gyfeiriadur o wasanaethau wedi’u teilwra i’r rheini sydd dan oruchwyliaeth. Mewn dros ddwy ran o dair o’r achosion a arolygwyd gennym, roedd ymarferwyr wrthi’n adeiladu ar gryfderau unigolion ac yn gwella ffactorau amddiffynnol. Roedd hyn yn cynnwys bod yn ymatebol i drawma yn y gorffennol, niwroamrywiaeth, a nodweddion personol eraill.
  • Roedd gwaith cydweithredol gyda’r timau amrywiaeth a chynhwysiant rhanbarthol, ochr yn ochr â defnyddio dadansoddiadau integreiddio cymunedol, yn cefnogi dealltwriaeth gynnil o broffil demograffig llwyth achosion yr Uned.
  • Roedd uwch arweinwyr yn ymgysylltu’n weithredol â fforwm amrywiaeth Cymru, gan helpu i wreiddio data, polisi a dysgu sefydliadol yn ymarferol drwy strwythurau llywodraethu sefydledig. Pennaeth yr Uned hefyd oedd arweinydd strategol Cymru ar gyfer ffydd.
  • Er mwyn cefnogi anghenion niwroamrywiaeth ar gyfer y nifer cymharol uchel o unigolion yn y llwyth achosion, defnyddiodd yr Uned ddarpariaeth CRS 3SC, a oedd yn cynnig ymyriadau wedi’u targedu. Roedd uchelgais glir i ddatblygu’r gwasanaeth a gynigir ymhellach ar gyfer staff a phobl ar brawf.
  • Bu swyddog prawf ar secondiad yn gweithio ar draws y ddau wasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn yr ardal, wedi’i ategu gan swyddogion yn yr Uned a oedd yn canolbwyntio ar unigolion rhwng 18 a 24 oed. Roedd hyn yn cefnogi prosesau pontio llyfnach rhwng gwasanaethau ieuenctid ac oedolion.
  • Sicrhaodd yr Uned fod pobl ar brawf sy’n siarad Cymraeg yn cael eu cefnogi drwy roi pecynnau cynefino Cymraeg iddynt a’r cyfle i siarad â gweithiwr prawf sy’n siarad Cymraeg, lle’r oedd angen gwneud hynny.

Meysydd i’w gwella:

  • Nid oedd anghenion menywod ar brawf yn cael eu diwallu fel mater o drefn. Yn flaenorol, roedd swyddogion penodol wedi gweithio gyda menywod mewn rhai swyddfeydd, er nad oedd hyn wedi cael ei gynnal oherwydd heriau staffio. Roedd bwriad i ddod â’r rolau arbenigol hyn yn ôl. Gwelwyd menywod mewn adeiladau prawf, yn ystod slotiau amser dynodedig, nad oedd yn ddelfrydol, ac nid oedd llawer o gyfleoedd i’w gweld mewn mannau eraill.
  • Roedd y CRS wedi cael problemau diweddar hefyd gyda staffio o ran cynnig gwasanaethau i fenywod, a oedd wedi golygu rhywfaint o oedi o ran yr hyn a oedd yn cael ei ddarparu. Er mai dim ond saith menyw oedd yn ein sampl achosion, gwelsom nad oedd pob menyw ar brawf yn cael ei hatgyfeirio at ddarparwr CRS. Roedd hwn yn gyfle a gollwyd i ymgysylltu â menywod a’u cefnogi gyda gwasanaethau i wella ymataliad a lleihau risg. Er gwaethaf y gwaith rhwng staff prawf a darparwyr gwasanaethau i fenywod, gwelsom yr un diffygion yn y gwaith i fynd i’r afael â’r risg o niwed difrifol. Nid oedd ymarferwyr bob amser yn deall cymhlethdodau menywod fel dioddefwyr a chyflawnwyr, yn aml ar yr un pryd.
  • Er bod cynlluniau i ymgysylltu â phobl ar brawf a defnyddio eu barn i lywio ymarfer, nid oedd y rhain wedi cael eu rhoi ar waith yn llawn na’u gwreiddio’n llawn mewn ymarfer eto. Roedd yr Uned yn cydnabod nad yw hyn wedi bod yn faes blaenoriaeth iddynt. Roedd ymrwymiad o hyd i fynd i’r afael â’r maes gwaith pwysig hwn. Cyflwynwyd adnodd archwilio newydd i ymarferwyr ei gwblhau mewn sesiynau goruchwylio er mwyn galluogi dolen adborth i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a mwy o ymgysylltu â phobl ar brawf.

Darparu gwasanaethau (Back to top)

P 2.1 AsesuSgôr
Mae’r gwaith asesu yn seiliedig ar wybodaeth, yn ddadansoddol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[2] ar gyfer asesu yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf?66%
A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymatal rhag troseddu?66%
A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?27%

Roedd yr ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf yn ystod y cam asesu yn gadarnhaol ar y cyfan, gyda dros ddwy ran o dair o’r asesiadau perthnasol yn dangos digon o bwyslais ar ymgysylltu â’r unigolyn. Dadansoddwyd cymhelliant a pharodrwydd i gydymffurfio yn y rhan fwyaf o achosion. Ystyriwyd amgylchiadau personol yn briodol yn y rhan fwyaf o achosion, gan ddangos sylfaen gref ar gyfer deall cyd-destun yr unigolyn. Fodd bynnag, methodd bron i hanner yr asesiadau ag ystyried nodweddion gwarchodedig, gan awgrymu nad oedd rhwystrau i ymgysylltu sy’n gysylltiedig ag amrywiaeth yn cael eu deall yn gyson.

Roedd yr asesiad o ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymatal yn gadarn yn y rhan fwyaf o achosion, gyda dros dri chwarter yr asesiadau’n nodi ac yn dadansoddi elfennau allweddol. Rhoddwyd sylw i ffactorau sy’n ymwneud â throseddu mewn nifer tebyg o achosion, a nodwyd cryfderau a ffactorau amddiffynnol yn y rhan fwyaf, gan ddangos lefel dda o ddealltwriaeth o anghenion troseddegol a photensial yr unigolyn ar gyfer newid cadarnhaol. Roedd y canfyddiadau hyn yn awgrymu bod prosesau’r ymarferwyr prawf yn effeithiol ar y cyfan o ran cydnabod yr hyn sy’n sbarduno troseddu a’r ffactorau sy’n angenrheidiol i gefnogi ymatal, er bod lle o hyd i gryfhau’r defnydd o wasanaethau lleol a gwybodaeth gyd-destunol ehangach.

Nid oedd ystyriaethau diogelwch yn cael sylw mor gyson, gyda dim ond tua thraean o’r asesiadau perthnasol yn nodi ac yn dadansoddi risgiau o niwed i eraill yn ddigonol. Er bod 18 asesiad yn nodi’n glir yr holl ffactorau risg perthnasol, nid oedd 26 yn gwneud hynny, sy’n peri pryder. Ar ben hynny, dim ond traean o’r asesiadau a oedd yn defnyddio digon ar y ffynonellau a oedd ar gael ac yn cynnwys asiantaethau eraill lle bo hynny’n briodol. Roedd hyn yn tynnu sylw at fwlch sylweddol mewn gwaith amlasiantaeth, a’r defnydd o wybodaeth hanesyddol a chyd-destunol sy’n ymwneud â throseddu ac ymddygiad.

Roedd ymarferwyr wedi methu dangos lefelau priodol o chwilfrydedd proffesiynol. Roedd hyn yn arbennig o amlwg wrth iddynt ystyried ymddygiad unigolyn yn y gorffennol a gwybodaeth gan asiantaethau eraill wrth gwblhau eu hasesiadau, a oedd yn hanfodol ar gyfer rheoli risg ac amddiffyn dioddefwyr posibl. Gwelsom fod hyn wedi cael ei wneud yn dda mewn dim ond 27 o 44 achos yn gyffredinol, ac roedd yn arbennig o wan mewn achosion a oedd yn cael eu rheoli gan swyddogion y gwasanaeth prawf lle mai dim ond tri o’r 16 achos a oedd yn cael eu hystyried yn ddigonol. Roedd gwelliannau yn y meysydd hyn yn hanfodol i sicrhau bod asesiadau’n cefnogi amcanion diogelu’r cyhoedd yn llawn.

Fe wnaethom arolygu 17 o achosion lle’r oedd y risg o niwed a aseswyd yn uchel neu’n uchel iawn. Ar draws pob un o’r 12 mesur, aseswyd bod yr achosion hyn yn ddigonol yn amlach nag ar gyfer achosion risg is. Fodd bynnag, nid oedd yr holl ddioddefwyr posibl wedi cael eu hystyried yn glir mewn asesiadau lle dylent fod wedi bod. Nid oedd anghenion dioddefwyr yn cael eu hystyried yn ddigonol mewn 27 o’r 42 achos a arolygwyd, ni waeth beth oedd lefel risg a graddfa’r ymarferydd prawf.


P 2.2 CynllunioSgôr
Mae’r gwaith cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn gyfannol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[3] ar gyfer cynllunio’n seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf?61%
A yw’r cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar leihau aildroseddu a chefnogi ymataliad?77%
A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?39%

Nid oedd y canfyddiadau sy’n ymwneud ag achosion a oruchwyliwyd gan swyddogion y gwasanaeth prawf yn destun dadansoddiad mynegai cyfraddau cymharol, sy’n brawf a ddefnyddir i gymharu cyfraddau achosion; rydym yn adrodd ar ein canfyddiadau gyda’r cafeat hwnnw.

Roedd cynllunio i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf yn ddigonol mewn bron i ddwy ran o dair o’r achosion, gan ddangos lefel gymedrol o effeithiolrwydd. Roedd y rhan fwyaf o gynlluniau’n ystyried amgylchiadau personol a pharodrwydd i newid, a oedd yn allweddol i feithrin cydymffurfiaeth. Fodd bynnag, methodd bron i hanner y cynlluniau ystyried nodweddion gwarchodedig. Roedd y gwaith cynllunio ar gyfer dod â chyswllt i ben yn arbennig o wan, sy’n awgrymu, er bod ffactorau ymgysylltu craidd yn cael sylw da, bod angen gwella cynhwysiant a chynllunio diwedd cyswllt.

Roedd cynllunio dedfrydau i leihau aildroseddu a chefnogi ymataliad yn ddigonol mewn dros dri chwarter yr achosion a arolygwyd, gan adlewyrchu ffocws cryf ar adsefydlu. Roedd cynlluniau’n blaenoriaethu ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu’n effeithiol ac yn nodi gwasanaethau sy’n debygol o gefnogi ymataliad. Roedd mwy na dwy ran o dair o’r cynlluniau’n adeiladu ar gryfderau unigol a ffactorau amddiffynnol, gan ddangos dull cadarn o ysgogi dylanwadau cadarnhaol. Yn gyffredinol, roedd y gwaith cynllunio yn y maes hwn yn dangos dealltwriaeth gadarn o anghenion unigol a llwybrau at newid.

Dim ond mewn ychydig dros draean o’r achosion yr oedd cynllunio i gadw pobl eraill yn ddiogel yn ddigonol, gan dynnu sylw at faes sy’n peri pryder sylweddol. Er bod ychydig dros hanner y cynlluniau’n cynnwys ymyriadau angenrheidiol i reoli risg, roedd llai na hanner yn mynd i’r afael â ffactorau risg critigol, a gwnaethpwyd cysylltiadau amlasiantaeth mewn hyd yn oed llai o achosion. Roedd trefniadau wrth gefn yn bresennol mewn bron i ddwy ran o dair o’r cynlluniau, ond roedd y darlun cyffredinol yn awgrymu dulliau anghyson o reoli risg. Roedd angen integreiddio’n well ag asiantaethau eraill a blaenoriaethu ffactorau risg yn gliriach er mwyn gwella diogelwch y cyhoedd.


P 2.3. Gweithredu a darparuSgôr
Mae gwasanaethau cydlynol, personol o ansawdd uchel, gyda ffocws da yn cael eu darparu, gan ymgysylltu â’r sawl sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[4] ar gyfer gweithredu a chyflawni yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r ddedfryd neu’r cyfnod ar ôl carcharu yn cael ei weithredu’n effeithiol gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf?64%
A yw gweithredu a darparu gwasanaethau yn cefnogi ymataliad yn effeithiol?41%
A yw gweithredu a darparu gwasanaethau yn cefnogi diogelwch pobl eraill yn effeithiol?23%

Roedd gweithredu’r ddedfryd neu’r cyfnod ar ôl carchar gan ganolbwyntio ar ymgysylltu yn ddigonol mewn bron i ddwy ran o dair o’r achosion. Roedd dros hanner yr unigolion wedi gweld gofynion dedfrydau’n cychwyn yn brydlon, a dangoswyd ffocws cryf ar gynnal perthnasoedd gwaith effeithiol, gan gynnwys ystyried anghenion amrywiaeth, ym mhob achos a arolygwyd bron. Roedd ymdrechion i alluogi cwblhau dedfryd yn amlwg yn y rhan fwyaf o achosion, gan adlewyrchu lefel ganmoladwy o hyblygrwydd ac ymatebolrwydd i amgylchiadau personol. Fodd bynnag, ar gyfer achosion lle’r oedd Ailosod yn briodol, roedd diffyg ymgysylltu amlwg yn y cyfnod cyn y cyfnod atal dros dro. Methwyd â rhoi gwybod i unigolion am eu gofynion nac ystyried ffactorau amrywiaeth yn y cyfnod cyn atal goruchwyliaeth ym mhob achos Ailosod a arolygwyd. Roedd hyn yn dangos bod angen gwell cyfathrebu a chynwysoldeb i baratoi ar gyfer atal goruchwyliaeth.

Roedd gweithredu a darparu gwasanaethau i gefnogi ymataliad yn ddigonol mewn llai na hanner yr achosion a arolygwyd, gan dynnu sylw at faes sylweddol i’w wella. Roedd dros ddwy ran o dair o’r achosion a arolygwyd yn dangos bod gwasanaethau’n cael eu darparu a oedd yn adeiladu ar gryfderau unigol a ffactorau amddiffynnol, ac roedd gan nifer fwy lefelau digonol o gyswllt. Fodd bynnag, roedd llai na hanner yr achosion a arolygwyd yn darparu gwasanaethau yr ystyriwyd eu bod fwyaf tebygol o leihau aildroseddu. Roedd cydgysylltu â sefydliadau eraill yn ddigonol mewn hanner yr achosion, ond roedd darparu gwasanaethau mewn meysydd allweddol fel llety, addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, a chyllid, budd-daliadau a dyled yn gyfyngedig. Ar ben hynny, roedd gwasanaethau a oedd yn mynd i’r afael â theulu a pherthnasoedd, ffordd o fyw a chamddefnyddio sylweddau yn cael eu darparu’n anghyson.

Roedd y canfyddiadau hyn yn awgrymu, er bod rhai ymdrechion yn cael eu gwneud i gefnogi ymataliad, bod angen dull gweithredu mwy cynhwysfawr a phenodol. Roedd llai na hanner yr achosion wedi derbyn gwasanaethau a oedd yn rhoi sylw i feddwl ac ymddygiad neu agweddau at droseddu, y naill a’r llall yn hanfodol i leihau aildroseddu a rheoli risg. Dim ond mewn 19 y cant o’r achosion yr ymgysylltwyd ag unigolion allweddol ym mywyd yr unigolyn ar brawf, a dangosodd llai na hanner yr achosion fod gwasanaethau lleol yn cael eu defnyddio i gynnal ymataliad. Roedd rhaglenni achrededig yn amlwg yn absennol, heb unrhyw achosion yn defnyddio ymyriadau craidd, fel Creu Dewisiadau neu Greu Perthnasoedd Gwell.

Roedd bylchau yn y ddarpariaeth gwasanaethau a gweithio mewn partneriaeth yn codi pryderon ynghylch effeithiolrwydd rheoli risg a diogelu eraill yn ystod cyfnod y ddedfryd. Canfuwyd bod gweithredu a darparu gwasanaethau i gefnogi diogelwch pobl eraill yn annigonol yn y rhan fwyaf o achosion, gyda llai na chwarter yn cael eu hasesu fel rhai effeithiol yn gyffredinol. Er bod lefel a natur y cyswllt yn ddigonol yn y rhan fwyaf o achosion, roedd diffyg sylw i amddiffyn dioddefwyr gwirioneddol a phosibl, gyda dim ond 41 y cant o achosion yn cyrraedd y safon ofynnol. Roedd gwaith amlasiantaeth ym maes diogelu plant a cham-drin domestig hefyd yn anghyson, gyda dim ond 31 y cant a 36 y cant yn y drefn honno yn dangos prosesau rhannu gwybodaeth effeithiol. Roedd y dulliau cydlynu yn y naw achos MAPPA a arolygwyd hefyd yn gyfyngedig, gyda dim ond tri yn dangos tystiolaeth o gydweithio â’r heddlu. Roedd y canfyddiadau hyn yn tynnu sylw at fylchau sylweddol mewn ymdrechion cydweithredol i reoli risg ac amddiffyn dioddefwyr. Roedd hyn yn arbennig o siomedig ac ystyried y gwaith a’r cysylltiadau amlasiantaeth cryf a welwyd mewn rhannau eraill o’r arolygiad hwn.

Roedd y gwasanaeth oedd yn cael ei ddarparu o ran risg o waith sy’n canolbwyntio ar niwed yn anghyson. Cynhaliwyd ymweliadau cartref lle bo angen mewn ychydig dros hanner yr achosion, sy’n dangos rhywfaint o fesurau rheoli risg rhagweithiol. Fodd bynnag, nid oedd gwasanaethau a oedd yn mynd i’r afael â meysydd allweddol fel meddwl ac ymddygiad, agwedd at droseddu, a chamddefnyddio sylweddau yn cael eu darparu’n ddigonol. Roedd y gefnogaeth i deuluoedd a pherthnasoedd yn arbennig o wael, gyda dim ond 17 y cant o achosion yn cael gwasanaethau digonol. Ar ben hynny, dim ond mewn traean o’r achosion yr oedd cydlynu ag asiantaethau eraill i reoli risg yn ddigonol, ac anaml y byddai unigolion allweddol yn ymgysylltu. Roedd y canlyniadau hyn yn awgrymu, er bod rhai ymdrechion yn cael eu gwneud i reoli risg, bod angen dull mwy cynhwysfawr ac integredig i sicrhau diogelwch eraill.


P 2.4. AdolyguSgôr
Mae’r gwaith o adolygu cynnydd yn seiliedig ar wybodaeth, yn ddadansoddol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[5] ar gyfer adolygu’n seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gefnogi cydymffurfedd ac ymgysylltiad y person sydd ar brawf?88%
A yw’r gwaith adolygu yn canolbwyntio’n ddigonol ar gefnogi ymataliad?60%
A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?42%

Roedd gweithgareddau adolygu fel arfer yn ymateb i newidiadau mewn risg, ymgysylltu ac amgylchiadau personol, gydag adolygiadau ffurfiol ac anffurfiol yn cael eu defnyddio i ddiweddaru cynlluniau ac atgyfnerthu cydymffurfiaeth. Roedd ein canfyddiadau’n awgrymu bod prosesau adolygu’n cael eu defnyddio’n effeithiol i gynnal ymgysylltiad, er bod lle o hyd i wella cysondeb cynnwys unigolion yn y broses adolygu. Roedd y canfyddiadau hefyd yn awgrymu bod gwaith mwy diweddar yn dangos arwyddion o welliant, o bosibl oherwydd y ffocws ar y gwaith gwella ansawdd sy’n cael ei wneud gan yr Uned.

Dangosodd arferion adolygu ffocws cryf ar gefnogi cydymffurfiaeth ac ymgysylltu, gyda’r rhan fwyaf o achosion yn cael eu hasesu fel rhai digonol. Roedd adolygiadau’n aml yn ystyried rhwystrau rhag ymgysylltu ac yn gwneud addasiadau angenrheidiol i gynlluniau, ac roedd dros ddwy ran o dair o unigolion yn cymryd rhan ystyrlon yn y gwaith o adolygu eu cynnydd. Cwblhawyd adolygiadau ysgrifenedig yn briodol yn y rhan fwyaf o achosion, gan ddarparu cofnod ffurfiol o weithredu dedfrydau. Roedd hyn er gwaethaf terfynau’r gwaith a gyflawnwyd o fewn y cyfnod goruchwylio a nodir uchod.

Roedd adolygu i gefnogi ymataliad yn ddigonol mewn bron i ddwy ran o dair o’r achosion. Nododd adolygiadau newidiadau mewn ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu mewn cyfran debyg o achosion ac addaswyd cynlluniau yn unol â hynny. Fodd bynnag, roedd llai na dwy ran o dair o’r adolygiadau’n canolbwyntio ar feithrin cryfderau a ffactorau amddiffynnol, ac ystyriwyd mewnbwn gan asiantaethau eraill mewn llai na hanner yr achosion. Er bod adolygiadau ysgrifenedig wedi cael eu cwblhau mewn dros ddwy ran o dair o’r achosion, roedd y darlun cyffredinol yn dangos nad oedd adolygu’n cael ei ddefnyddio’n gyson i atgyfnerthu ymatal, ac roedd angen mwy o bwyslais ar gydweithio amlasiantaeth a dulliau gweithredu sy’n seiliedig ar gryfderau.

Yn yr un modd â meysydd gwaith achos eraill, siomedig oedd adolygu i gefnogi diogelwch pobl eraill. Nid oedd newidiadau mewn ffactorau sy’n gysylltiedig â risg yn cael eu nodi a’u trin yn ddigon aml, ac nid oedd mewnbwn gan asiantaethau eraill yn cael ei ystyried yn briodol mewn dros hanner yr achosion. Dim ond mewn 43 y cant o’r achosion yr oedd yr unigolyn a’r bobl allweddol wedi cael eu cynnwys yn ystyrlon wrth adolygu risg. Aseswyd adolygiadau ysgrifenedig o gynlluniau rheoli risg yn fwy cadarnhaol a’u cwblhau mewn dros ddwy ran o dair o’r achosion. Roedd y canfyddiadau hyn yn awgrymu nad oedd prosesau adolygu’n cael ei ddefnyddio’n gyson i reoli risg yn effeithiol, a bod angen gwelliannau o ran cydlynu asiantaethau ac ymgysylltu ag unigolion i sicrhau diogelwch y cyhoedd – thema gyffredin drwy gydol pob cam o’r gwaith rheoli risg.


Rhagor o wybodaeth (Back to top)

Mae data llawn o’r arolygiad hwn a rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynnal yr arolygiad hwn ar gael yn yr atodiad data.

Mae’r eirfa a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.

Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Wendy Martin, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob rhan o’r Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd yn yr arolygiad hwn. Heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosib.

[1] Mewn achosion lle’r oedd cyswllt wedi cael ei atal dros dro ar ôl mwy nag wyth wythnos o oruchwyliaeth, fe wnaethom ddefnyddio ein safonau craidd, a gwneud penderfyniadau arolygu mewn ffordd gymesur. Defnyddiwyd set o safonau wedi’u haddasu gennym lle’r oedd cyswllt wedi’i atal o fewn wyth wythnos o oruchwyliaeth neu lai.

[2] Mae’r sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei roi mewn band sgorio, yn dylanwadu ar y sgôr ar gyfer y safon. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad data.

[3] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei gyrru gan y sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei roi mewn band sgorio. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad data.

[4] Mae’r sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei roi mewn band sgorio, yn dylanwadu ar y sgôr ar gyfer y safon. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad data.

[5] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei gyrru gan y sgôr isaf ar gyfer pob un o’r cwestiynau allweddol, a roddwyd mewn band sgorio, a nodir mewn print trwm yn y tabl.