Skip to content

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk.

Arolygiad o wasanaethau prawf: rhanbarth Cymru

Published:

Rhagair (Back to top)

Gwelson ni fod llawer o bethau cadarnhaol am y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru. Roedd arweinyddiaeth gref i’w chanfod yn yr unedau cyflawni gwasanaeth prawf ac yn rhanbarthol, ac roedd nifer o strwythurau a systemau wedi’u cyflwyno i wella ymarfer ac i gefnogi pobl sydd ar brawf. Serch hynny, fel sy’n wir am yr holl ranbarthau yr ymwelwyd â nhw hyd yma o dan ein model arolygu presennol, roedd gwaith i gadw pobl yn ddiogel yn faes a oedd yn dal i danseilio llawer o’r elfennau cadarnhaol. Nid yn unig y gwelson ni hyn yn y gwaith achos yr edrychwyd arno yn yr unedau cyflawni, ond fe’i gwelwyd hefyd mewn meysydd gwaith eraill sy’n cael eu rheoli yn rhanbarthol, gan gynnwys gwaith yn y llysoedd, gwaith di-dâl a gwaith ailsefydlu. Nid oedd yr arweinwyr yn ddall i hyn, ac roedden nhw wedi gwneud llawer i geisio mynd i’r afael â’r mater, ond hyd yma, cyfyngedig fu effaith hynny.

O ganlyniad, o ran sgôr cyffredinol Cymru, mae ‘Angen gwella’.

Roedd uwch arweinwyr wedi gweithio’n galed, roedden nhw’n cael eu parchu, ac roedden nhw wedi meithrin perthynas gref â phartneriaid, a hynny yn y sector statudol a’r trydydd sector ill dau. Roedden nhw’n gweithio’n dda gyda Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a gyda llywodraeth Cymru. Roedd hyn wedi arwain at gynllunio ac at ymgysylltu â phobl mewn ffordd oedd wedi’i hintegreiddio’n dda, a hynny’n arwain at nifer o gynlluniau cadarnhaol. Serch hynny, fel y gwelwyd yn yr holl arolygiadau rhanbarthol diweddar a’r holl arolygiadau o unedau cyflawni, roedd angen gwneud mwy i fynd i’r afael â’r mater o gadw pobl yn ddiogel, gan sicrhau bod yr wybodaeth gywir yn dod i law gan bartneriaid a bod ymarferwyr yn defnyddio gwybodaeth yn ddigonol i gynllunio a rheoli risgiau’n effeithiol. Roedd angen gwneud mwy hefyd i wella’r modd y mae ymarferwyr yn cyfathrebu ag asiantaethau partner ac i sicrhau bod y gwasanaethau iawn ar gael yn gyson i bobl sydd ar brawf er mwyn eu helpu i ymatal rhag troseddu a pheidio ag aildroseddu.

Roedd creu’r tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu yn gam addawol fel model i hybu sicrwydd ansawdd, ac roedd arwyddion bod hyn eisoes yn cael rhywfaint o effaith ar ansawdd y gwaith. Roedden ni’n falch o weld arwyddion bod cylch gwaith y tîm, fel model, yn cael ei ymestyn, gan gynnwys drwy’r archwiliad o’r maes diogelu a gynhaliwyd yn ystod ein harolygiad.

Ymhlith cynlluniau cadarnhaol eraill i wella effeithiolrwydd roedd gwaith y tîm Ailsefydlu, Atgyfeirio a Gwerthuso Gweithredol Canolog (CORRE), sy’n ceisio helpu pobl i ymatal rhag troseddu. Byddai modd ehangu’r gwaith hwn hefyd. Roedd mabwysiadu model Ffactorau Dynol drwy’r rhanbarth hefyd yn helpu staff a thimau i ymroi’n well i’w gwaith ac i ganolbwyntio mwy ar eu hymarfer. Roedd y rhanbarth hefyd wedi bod yn arloeswr brwd wrth dreialu Justice Transcribe, system a chanddi botensial mawr i weddnewid gwaith prawf o ddydd i ddydd.

Er bod y cynlluniau a’r arloesi a gyflwynwyd gan arweinwyr yng Nghymru’n gadarnhaol, mae’n bwysig sicrhau bod y rhain yn cael yr effaith iawn ar weithgarwch rheng flaen a’u bod yn mynd i’r afael yn enwedig â’r materion hollbwysig sy’n gysylltiedig â chadw pobl yn ddiogel. Rwy’n dymuno pob llwyddiant i’r arweinwyr yn eu hymdrechion yn hyn o beth.

Martin Jones

Prif Arolygydd Prawf EF


Sgoriau (Back to top)

Gwaith maes a ddechreuwyd ym mis Gorffennaf 2025Sgôr 5/24
Sgôr cyffredinolAngen gwella

1. Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol

R 1.1 ArweinyddiaethAngen gwella
P 1.2 StaffioAngen gwella

2. Darparu gwasanaethau

R 2.1 Amddiffyn y cyhoeddAnnigonol
R 2.2 YmataliadAnnigonol
R 2.3 Gwaith llysAnnigonol
R 2.4 Gwaith di-dâlAnnigonol
R 2.5 AilsefydluAngen gwella
R 2.6 Gwaith gyda dioddefwyrDa

Crynodeb gweithredol (Back to top)

Cyflwyniad

Mae’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru yn un o 12 o wasanaethau o’r fath drwy Gymru a Lloegr. O’i gyfuno â phum carchar cyhoeddus ac un carchar sydd yng ngofal y sector preifat, mae’n rhan o ranbarth Cymru yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Mae gan y rhanbarth chwech o unedau cyflawni gwasanaeth prawf (‘unedau cyflawni’): Abertawe Castell-nedd Port Talbot, Cwm Taf Morgannwg, Dyfed Powys, Gogledd Cymru, Gwent a Chaerdydd a Bro Morgannwg.

Ar adeg yr arolygiad, roedd rhanbarth prawf Cymru’n rheoli 13,427 o bobl ar brawf, gan gynnwys 3,038 a oedd yn y carchar. O blith y rhain, roedd trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) yn berthnasol i 5,667 ohonyn nhw.

Pan gyhoeddwyd y byddai’r arolygiad yn cael ei gynnal (Mai 2025), roedd y rhanbarth yn cyflogi cyfanswm o 1,418 o staff cyfwerth ag amser llawn, ac roedd saith y cant o swyddi’n wag. Ar gyfartaledd drwy’r chwech uned gyflawni, roedd llwyth achosion swyddog prawf yn 33.28, llwyth achosion swyddog gwasanaethau prawf yn 39.46, a llwyth achosion hyfforddai Cymhwyster Proffesiynol mewn Gwaith Prawf yn 27.81. Yn ôl data’r system sy’n rheoli llwyth gwaith rhanbarthol, roedd llwythi gwaith ymarferwyr wedi lleihau ar gyfartaledd yn y 12 mis cyn ein harolygiad, o 102 i 97 y cant ymhlith swyddogion prawf, o 93 i 85 y cant ymhlith swyddogion gwasanaethau prawf, ac o 88 i 74 y cant ymhlith hyfforddeion Cymhwyster Proffesiynol mewn Gwaith Prawf.

Y fethodoleg

Aethon ni ati i gynnal gwaith maes ym mhob un o’r unedau cyflawni yng Nghymru, a hynny rhwng 28 Gorffennaf 2025 a 26 Medi 2025. Edrychwyd ar 338 o achosion, gyda dedfryd gymunedol yn berthnasol i 224 ohonyn nhw a rhyddhau ar drwydded yn berthnasol i 114. O bob un o’r achosion hyn, casglwyd data ar gyfer ein sgoriau ar gyfer amddiffyn y cyhoedd ac ymataliad. Cynhaliwyd 206 o gyfweliadau ag ymarferwyr prawf. Aethon ni ati hefyd i edrych ar 265 o adroddiadau llysoedd a 107 o achosion lle roedd darpariaeth ailsefydlu’n berthnasol. Arolygwyd 58 o achosion gwaith di-dâl a 28 o achosion drwy’r rhanbarth a oedd yn ymwneud â dioddefwyr statudol, lle roedd dedfrydau cymunedol a thrwyddedau wedi dechrau rhwng 24 Mawrth a 04 Ebrill 2025.


1. Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol

R1.1 Arweinyddiaeth

Roedd sawl agwedd ar arweinyddiaeth drwy’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru yn creu argraff, gyda phwyslais cryf ar arloesi wrth ddarparu gwasanaethau. Serch hynny, er bod cynlluniau’n bodoli ac iddyn nhw ffocws da, ac er bod yr arweinyddiaeth ar y cyfan yn glir, roedd y gwaith i gadw pobl yn ddiogel yn dal yn annigonol. Roedd y diffyg hwn yn treiddio drwy’r rhan fwyaf o’r agweddau ar y gwaith yn y rhanbarth ac yn y chwech uned gyflawni.

Roedd gan uwch arweinwyr weledigaeth glir ar gyfer dyfodol y gwasanaeth, ac mewn nifer o ffyrdd, gweledigaeth glir ar gyfer sut yr oedden nhw’n bwriadu bwrw ati yn hynny o beth. Yn briodol ddigon, roedd cysylltiad rhwng llawer o hyn â gwaith ehangach Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a gwaith llywodraeth Cymru. Roedd blaenoriaethau wedi’u diffinio’n glir, a’r rhain oedd prif ffocws gweithgarwch. Roedd cysylltiad uniongyrchol rhwng y rhain a gwaith yr unedau cyflawni hefyd. Gwelson ni enghreifftiau da o sut yr oedd arweinwyr yr unedau cyflawni yn gweithio’n dda gydag arweinwyr rhanbarthol a phenaethiaid adrannau i sicrhau bod y blaenoriaethau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn eu gwaith yn lleol.

Roedd yr arweinwyr wedi creu diwylliant cefnogol, a chadarnhawyd hyn yn gyson gan y bobl y siaradon ni â nhw. Roedd hyn wedi creu sylfaen gref ar gyfer datblygu ymarfer. Roedd nifer o gynlluniau cadarnhaol wedi’u cyflwyno i ddangos i’r gwasanaeth ble roedd y diffygion ac i ragweld pwysau yn y dyfodol. Roedd y bwrdd newid yn datblygu prosiectau peilot i helpu i ddatblygu gwasanaethau. Roedd system ddeallusrwydd artiffisial Justice Transcript yn enghraifft nodedig o hyn.

Roedd gwasanaethau’n cael eu comisiynu drwy’r fforwm cydweithio a chomisiynu er mwyn diwallu anghenion pobl sydd ar brawf. Roedd hyn yn dangos sut yr oedd uwch arweinwyr yn gweithio gydag asiantaethau partner a rhanddeiliaid i ddatblygu’r ddarpariaeth ar gyfer pobl sydd ar brawf.

Roedd yr arweinwyr wedi bwrw ati mewn ffordd gadarnhaol i fynd i’r afael â’r diffygion a ganfuwyd mewn rhai agweddau ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu. Penllanw hyn oedd datblygu’r tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu ers ein harolygiad diwethaf. Roedd creu adnodd sicrwydd Cymru yn canolbwyntio ar sicrwydd ansawdd ac ar ddatblygu ymarfer effeithiol, gyda chanfyddiadau’r adroddiad am rownd gyntaf y gweithgarwch (Mai 2025) yn debyg iawn i’r hyn y gwnaethon ni ei ganfod yn ein harolygiadau. Rydyn ni’n gobeithio y bydd y canfyddiadau hyn yn sbardun i wella.

Roedd amrywiaeth a chynhwysiant yn gryfder yng Nghymru. Roedd pwyslais cryf ar ddatblygu darpariaeth arbenigol i’r rheini sydd angen hynny. Roedd cyflwyno’r tasglu anghymesuredd hefyd yn dangos ymrwymiad i ganfod a mynd i’r afael â phryderon o bwys.

Roedd angen gwneud mwy o waith i ganolbwyntio ar gadw pobl yn ddiogel, oherwydd roedd y maes gwaith hwn yn tanseilio’n gyson pa mor effeithiol oedd y gwasanaethau a gâi eu darparu. Roedd angen i arweinwyr sicrhau bod gwybodaeth gyson a chywir yn dod i law gan asiantaethau partner, ac yn enwedig gan yr heddlu a gwasanaethau plant. Roedd angen iddyn nhw hefyd fagu hyder y staff a gwella’u gallu i ddadansoddi’r holl wybodaeth er mwyn roi sail i asesiadau a gwaith cynllunio.


R1.2 Staffio

Roedd y lefelau staffio drwy’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru ar y cyfan yn rhesymol, gyda thua saith y cant o swyddi’n wag. Nid oedd y llwythi gwaith yn ormodol, ac roedd mwyafrif y staff yn gallu dygymod. Roedd y rhanbarth yn cydnabod bod prinder mewn rhai meysydd staffio allweddol, ac roedd wedi recriwtio i nifer o swyddi newydd, gan gynnwys cyflwyno mwy o reolwyr ansawdd a chraffu yn y tîm troseddau difrifol pellach, ynghyd â swyddog camau cadarnhaol. Roedd cynllun strategol clir yn bodoli ar gyfer y gweithlu, a cheid arweinwyr gweithlu ym mhob uned gyflawni a llwybrau uwchgyfeirio at y tîm arwain rhanbarthol.

Roedd ffocws cryf ar ddysgu a datblygu, a’r cyfraddau cwblhau’n dda ar gyfer elfennau craidd yr hyfforddiant a oedd yn cael ei roi. Roedd cyflwyno swyddogion datblygu ansawdd a diwrnodau oedd wedi’u neilltuo i ddysgu yn ychwanegu at y dull gweithio hwn. Yn yr un modd, roedd lefelau’r goruchwylio ar y cyfan yn dda ac roedd mwyafrif y staff yn teimlo bod hyn yn fuddiol i ddatblygu eu hymarfer. Roedd y rhanbarth wedi blaenoriaethu cymorth i uwch swyddogion prawf, ac wedi creu hyb cydlynu ar gyfer rheolwyr, ynghyd â threfnu amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddiant penodol.

Roedd y model Ffactorau Dynol, a’r pwyslais ar greu diwylliant dysgu cefnogol yn y gwasanaeth, hefyd yn cael effaith gadarnhaol drwy’r rhanbarth. Roedd mwyafrif y staff y siaradwyd â nhw’n teimlo’n gadarnhaol am sut yr oedd y model hwnnw’n cael ei ddefnyddio. Roedden nhw’n teimlo’i fod yn eu helpu drwy roi gofod ac amser iddyn nhw ganolbwyntio ar eu hymarfer, yn ogystal â’u helpu wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau.

Serch hynny, roedd pwysau o hyd ar rai aelodau o staff yn y meysydd hynny lle roedd prinder staff sylweddol, ac roedd y lefelau salwch yn gyffredinol yn rhy uchel. Roedd angen canmol ymdrechion gan yr arweinwyr a phenaethiaid yr unedau cyflawni i liniaru effeithiau gwaethaf salwch, ond roedd gormod o staff drwy’r unedau’n teimlo nad oedd digon o sylw’n cael ei roi i’w lles, a theimlai’r mwyafrif nad oedd gan y gwasanaeth ddigon o staff.

Nid oedd rheolwyr yn goruchwylio gwaith yn ddigonol yn achos y rhan fwyaf o elfennau’r gwasanaethau yr edrychon ni arnyn nhw. Roedd hyn yn tanseilio llawer o’r gwaith da a oedd yn cael ei wneud gyda phobl sydd ar brawf.


2. Darparu gwasanaethau

2.1 Amddiffyn y cyhoedd

Gwaith i gadw pobl yn ddiogel oedd yr agwedd wannaf ar y gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu gan y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru. Ym mhob un o’r pedwar cwestiwn allweddol am ddiogelwch yn ein hadolygiad o waith achos, nid oedd dros hanner yr achosion yn cyrraedd ein safonau ar gyfer bod yn ddigonol. Roedd hyn yn wir ym mhump o’r chwech uned gyflawni yr ymwelon ni â nhw. Er bod uned gyflawni Gogledd Cymru’n gwneud yn well, gyda’r canlyniadau gorau cyffredinol yn ein rhaglen arolygu hyd yma, roedd angen gwneud mwy o waith yno hefyd.

Roedd hi’n ymddangos bod gan uwch arweinwyr berthynas dda â’r heddlu a gwasanaethau plant drwy Gymru, gyda phrotocolau’n bodoli a natur y cyfathrebu’n dda. Roedd yr ymdrechion dygn i greu trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda’r pedwar gwasanaeth heddlu a’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi dwyn ffrwyth ac yn gam cadarnhaol. Serch hynny, nid oedd y trefniadau hyn yn dal i weithio fel y dylen nhw, a gwelson ni amrywiadau wrth ymweld â’r gwahanol unedau cyflawni.

Er mai cymharol isel oedd nifer yr ymholiadau i’r heddlu a gwasanaethau plant na chafodd ymateb, mewn llawer gormod o achosion nid oedd yr wybodaeth a ddaeth i law’n ddigon manwl i roi sail lawn ar gyfer asesu neu gefnogi cynllun dedfrydu. Yn rhy aml pan fyddai hyn yn digwydd, roedd hi’n ymddangos nad oedd gan ymarferwyr ddigon o hyder i uwchgyfeirio’r pryder neu i ofyn am fwy o wybodaeth, neu nid oedden nhw’n gwybod sut i wneud hynny. Cyfyngedig hefyd oedd y gwaith i ymwneud ag asiantaethau partner er mwyn helpu i amddiffyn y cyhoedd, ac yn rhy aml, roedd hyn yn absennol wrth gynllunio a chyflawni gwaith gyda phobl sydd ar brawf. Roedd yr heddlu’n rhoi gwybodaeth ddyddiol am ddigwyddiadau adroddadwy drwy Gymru. Roedd hwn yn gynllun rhagorol, a gwelson ni sawl achos lle roedd hyn wedi gwella sut yr oedd unigolion yn cael eu rheoli. Serch hynny, mewn rhai achosion, roedd ymarferwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon yn lle gwneud ymholiadau uniongyrchol ar yr adeg berthnasol i roi sail i’w hymarfer.

Er i’n hadolygiad o achosion ddangos bod ymarferwyr ar y cyfan yn gweld pobl sydd ar brawf yn ddigon aml i reoli a lleihau’r risg o niwed, roedd hi’n amlwg nad oedd hyn yn arwain yn gyson at reoli risgiau’n effeithiol.


2.2 Ymataliad

Ym mhob un o’r chwech uned gyflawni, yn y rhan fwyaf o’r achosion roedd gwaith cyson ac effeithiol yn cael ei wneud wrth asesu a chynllunio i helpu pobl i ymatal rhag troseddu ac i leihau aildroseddu. Roedd ymarferwyr yn defnyddio’r holl wybodaeth a oedd ar gael yn sail i’r gwaith hwn ac roedden nhw’n canolbwyntio’n ddigonol ar anghenion unigolion.

Roedd gwaith tîm CORRE drwy Gymru yn ganolog i’r canfyddiadau cadarnhaol hyn. Byddai ymarferwyr y tîm yn gweithio gyda’r ymarferydd a oedd yn gyfrifol am yr achos, gan helpu i ganolbwyntio ar y prif faterion a oedd yn gysylltiedig ag ymatal rhag troseddu. Roedd hynny’n helpu hefyd i osod targedau addas, ac i sicrhau bod atgyfeiriadau’n cael eu gwneud i’r gwasanaethau perthnasol. Serch hynny, nid oedd pobl ar brawf yn rhan o’r trafodaethau hyn, ac felly nid oedd hi’n glir i ba raddau roedden nhw’n cytuno â’r targedau a oedd wedi’u gosod iddyn nhw ac wedi ymrwymo i’r rheini.

Er i ni weld rhywfaint o waith da iawn yn cael ei wneud i fynd i’r afael â phroblemau’n gysylltiedig ag aildroseddu – yn y maes tai, er enghraifft – nid oedd y gwaith da hwn yn ddigon cyson. Roedd gwasanaethau adsefydlu a gomisiynir yn cael eu darparu mewn tua thri chwarter yr holl achosion yr edrychon ni arnyn nhw. Serch hynny, yn ôl ein hasesiad ni, mewn bron i hanner yr achosion, nid dyma’r gwasanaethau a oedd yn fwyaf tebygol o helpu pobl i ymatal rhag troseddu.

Cynhaliwyd ein harolygiadau ar adeg pan oedd gwasanaethau, yn holl ranbarthau Cymru a Lloegr, yn pontio i’r gyfres newydd o raglenni achrededig. O ganlyniad, ni welson ni lawer o enghreifftiau o’r gwaith hwn yn yr achosion yr edrychwyd arnyn nhw. Serch hynny, gwelson ni nifer o achosion lle roedd ymyriadau strwythuredig yn cael eu darparu gan ymarferwyr yr unedau cyflawni, ac mewn nifer o’r achosion hyn, teimlai’r arolygwyr fod y gwaith hwn yn gadarnhaol.


2.3 Gwaith llys

Roedd yr arolygiad diweddaraf ymhlith dedfrydwyr yng Nghymru (2025) yn dangos bodlonrwydd cyffredinol. Serch hynny, mewn mwy na dau draean o’r achosion yr edrychon ni arnyn nhw drwy’r holl unedau cyflawni, nid oedd yr wybodaeth a ddarparwyd i’r llysoedd yn ddigon dadansoddol a phersonol.

Roedd nifer o ffactorau’n effeithio ar y gwaith hwn. Roedd prinder staff mewn rhai rhannau o Gymru wedi rhoi pwysau ar staff, ac roedd diffyg system wahanol i reoli gwaith achos yn gwaethygu hyn, er bod y system o’r fath ar gael i dimau rheoli troseddwyr eraill.

Roedd rhai elfennau o waith llys yn gadarnhaol, fel y pwyslais ar faterion sy’n ymwneud â’r tebygolrwydd o aildroseddu a chymhelliad yr unigolyn i newid. Serch hynny, roedd diffygion i’w gweld yn yr ymholiadau am gam-drin domestig a diogelu plant. Roedd hyn yn amrywio rhwng yr unedau cyflawni, ac roedd yn ymddangos ei fod yn adlewyrchu’n bennaf wahanol ddulliau gweithio heddluoedd a gwasanaethau plant, er bod trefniadau i rannu gwybodaeth wedi’u cyflwyno ledled Cymru gyda’r naill a’r llall. Gwelson ni’r un peth wrth edrych ar ddarlun ehangach amddiffyn y cyhoedd.

Nid oedd ymarferwyr yn mynd ati’n gyson i ddefnyddio’r llwybrau uwchgyfeirio a oedd ar gael. Mewn rhai achosion, nid oedd hi’n ymddangos eu bod yn ymwybodol o’r diffygion yn yr wybodaeth a oedd wedi dod i law. O edrych ar y darlun eang, mewn gormod o achosion, nid oedd ymarferwyr wedi defnyddio’r holl wybodaeth a oedd ar gael yn sail i’r adroddiadau a gyflwynwyd i’r llysoedd. Serch hynny, mewn mwyafrif go dda o’r achosion yr edrychon ni arnyn nhw, roedden ni’n falch o weld bod y cyngor i’r llysoedd yn cynnwys ffactorau’n gysylltiedig â’r risg o niwed.


2.4 Gwaith di-dâl

Yn gyffredinol, er ei bod hi’n galonogol bod gwaith di-dâl wedi cyflawni’n dda o dan y targedau perfformio, nid oedd rhai o elfennau’r ddarpariaeth yn gyson effeithiol. Roedd y diffygion hyn i’w gweld yng nghamau cynnar gwaith achos wrth asesu a chynllunio. Fel y gwelson ni yn achos nifer o agweddau ar y gwaith yr edrychon ni arno yn ystod ein harolygiadau, mewn gormod o achosion, nid oedd yr ymarferydd wedi canfod yr holl ffactorau a oedd yn gysylltiedig â’r risg o niwed, neu nid oedd wedi ymwneud yn ddigonol â’r bobl eraill a oedd yn gysylltiedig â’r achos (staff gwaith di-dâl yn bennaf).

Roedd arweinwyr wedi pwysleisio bod angen gwella gweithdrefnau torri amodau a chamau gorfodi, ac roedd hi’n galonogol gweld hyn wedi’i adlewyrchu yn yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw.

Roedd pwyslais cryf hefyd ar elfen adsefydlol gwaith di-dâl, a gwelson ni hyn wedi’i adlewyrchu yn nifer o’r achosion yr edrychon ni arnyn nhw. Cawson ni’n calonogi hefyd wrth weld nifer o gynlluniau gwaith i gefnogi’r rheini a oedd yn gwneud gwaith di-dâl ac a oedd â nodwedd warchodedig.


2.5 Ailsefydlu

Gwelson ni rywfaint o waith cadarnhaol yn cael ei wneud yn y maes ailsefydlu, yn enwedig wrth ganfod a mynd i’r afael â materion yn ymwneud ag ymatal rhag troseddu, a hynny wrth i ni edrych ar waith achos cymunedol ym mhob un o’r unedau cyflawni. Mewn mwyafrif go dda o’r achosion, roedd rheolwyr troseddwyr cymunedol yn canfod y materion pwysig yn gysylltiedig ag ailsefydlu ac ymatal rhag troseddu, ac ar y cyfan yn gweithio i’w datrys. Roedd cydweithwyr yn nhîm CORRE yn eu helpu gyda’r gwaith hwn.

Unwaith eto, fel y gwelson ni wrth adolygu gwaith achos yn ehangach, roedd y diffygion yn y ddarpariaeth ailsefydlu’n gysylltiedig â chadw pobl yn ddiogel. Mewn dros hanner yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw lle roedd hyn yn berthnasol, nid oedd y rheolwr troseddwyr cymunedol wedi canfod na mynd i’r afael â materion yn ymwneud â lles.

Gwelson ni rai amrywiadau rhwng y chwech uned gyflawni. Serch hynny, yn yr unedau cyflawni a oedd â’r gyfran uchaf o achosion yr aseswyd eu bod yn ddigonol, roedd y gwaith gosod tasgau (neilltuo gweithgarwch penodol i unigolion) wedi parhau o’r hen dimau dedfrydau byr, neu roedd y timau hynny wedi parhau i weithio. Nid oedd hyn wedi digwydd yn yr unedau cyflawni a gafodd y sgoriau isaf.


2.6 Gwaith gyda dioddefwyr

Roedd strwythur a threfniadaeth gwaith statudol gyda dioddefwyr yng Nghymru wedi’u haildrefnu ers ein harolygiad diwethaf yn 2021, a hynny er mwyn creu Uned Dioddefwyr Cymru. Yn yr uned hon bellach y mae’r holl staff sy’n gwneud gwaith gyda dioddefwyr ledled Cymru, a nod hynny yw rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer ansawdd y gwaith sy’n cael ei wneud. Ar adeg yr arolygiad, roedd yr uned yn rheoli dros 3,000 o achosion.

Roedd nifer o nodweddion cadarnhaol i’r gwaith hwn. Roedd y cyswllt cychwynnol yn gyson ac yn gefnogol, ac roedd swyddogion cyswllt dioddefwyr yn gwneud pob ymdrech i gefnogi ac annog dioddefwyr i fanteisio ar y cynllun. Yn yr achosion perthnasol, roedd dioddefwyr yn cael cefnogaeth i gyflwyno sylwadau i’r bwrdd parôl ac i awgrymu amodau a fyddai’n gwahardd cyswllt.

Mewn mwyafrif go dda o’r achosion, roedd y cyfathrebu a’r wybodaeth a gâi ei rhannu rhwng y swyddogion cyswllt troseddwyr a’r ymarferwyr prawf yn briodol. Serch hynny, roedd angen rhoi rhagor o sylw i sicrhau bod hyn yn ymestyn i adolygiadau a chyfarfodydd MAPPA.


Argymhellion (Back to top)

O ganlyniad i ganfyddiadau ein harolygiad, rydyn ni wedi gwneud nifer o argymhellion. Rydyn ni’n credu y bydd y rhain, o’u rhoi ar waith, yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd gwasanaethau prawf.

Dylai’r Gwasanaeth Prawf yng Nghymru wneud y canlynol:

  1. gwella’r trefniadau i gyfnewid gwybodaeth â’r heddlu a gwasanaethau plant ill dau, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a gaiff ei rhannu’n gyson, yn amserol ac yn ddigon manwl i roi sail i asesiadau a chynlluniau i gadw pobl yn ddiogel
  2. sicrhau bod y broses o osod lefelau MAPPA mewn achosion o garcharu ac achosion cymunedol yn amserol, gan ystyried y dyddiad rhyddhau cynharaf posibl ac unrhyw ryddhau dros dro, a defnyddio’r holl wybodaeth gan yr holl asiantaethau perthnasol ym mhob achos yn sail lawn i hynny
  3. gwella sut y bydd ymarferwyr yn rhannu gwybodaeth ac yn trafod ag asiantaethau partner er mwyn helpu i ddarparu gwasanaethau adsefydlu effeithiol a gwneud gwaith effeithiol i gadw pobl yn ddiogel
  4. gwella ansawdd adroddiadau llysoedd sy’n sail i ddedfrydu, gan sicrhau bod modd cael gafael yn effeithiol ar wybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant a bod yr wybodaeth honno’n cael ei defnyddio’n effeithiol
  5. adolygu sut y mae gwaith CORRE yn cael ei ddarparu, ac ystyried gwneud pobl sydd ar brawf yn rhan o’r broses o gynllunio gwaith achosion a gwneud hynny’n gyson wrth adolygu achosion
  6. gwerthuso pa mor effeithiol yw’r gwaith presennol i osod tasgau ailsefydlu, ac ystyried a fyddai model cyson drwy’r holl unedau cyflawni yn gwella’r ddarpariaeth.

Cefndir (Back to top)

Cymru yw un o 12 rhanbarth y Gwasanaeth Prawf yng Nghymru a Lloegr. Mae gan y rhanbarth chwech o unedau cyflawni: Abertawe Castell-nedd Port Talbot, Cwm Taf Morgannwg, Dyfed Powys, Gogledd Cymru, Gwent, a Chaerdydd a Bro Morgannwg. Mae’r gwasanaeth yn cyflogi 1,524 o staff. Cyfanswm poblogaeth Cymru yw 3,186,581.

Drwy Gymru, ceir pedwar adeilad cymeradwy (Tŷ Newydd, Plas Y Wern, Quay House a Mandeville House), pump o garchardai’r sector cyhoeddus (Carchardai Ei Fawrhydi Berwyn, Brynbuga, Prescoed, Caerdydd, ac Abertawe), ac un carchar preifat (Carchar Ei Fawrhydi Y Parc).

Mae gan Gymru bedwar o heddluoedd ar hyn o bryd (Gogledd Cymru, De Cymru, Gwent a Dyfed Powys), 22 o awdurdodau lleol ac 17 o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid. Ceir 10 o lysoedd ynadon a thri o Lysoedd y Goron.

Er nad yw gwasanaethau cyfiawnder troseddol wedi’u datganoli yng Nghymru, mae rhai gwasanaethau sy’n effeithio ar y gwasanaeth prawf wedi’u datganoli, gan gynnwys gwasanaethau iechyd a thai. Mae gwaith cyfiawnder troseddol yng Nghymru’n cael ei gydlynu’n bennaf gan Fwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru, gyda’r gwaith yn cael ei reoli drwy fyrddau cynllunio ardal, byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a Phartneriaethau Diogelwch Cymunedol.

Pan gyhoeddwyd y byddai’r arolygiad yn cael ei gynnal, roedd y rhanbarth yn gyfrifol am reoli llwyth achosion o 13,427. O blith y rhain, roedd gorchmynion cymunedol wedi’u rhoi mewn 6,669 o achosion, roedd trwyddedau ar ôl dedfrydu wedi’u rhoi mewn 3,720 o achosion, ac roedd 3,038 yn achosion lle rhoddwyd dedfryd o garchar.   

Mae MAPPA yn berthnasol i gyfanswm o 5,667 o droseddwyr drwy Gymru. O blith y rhain, mae 42 y cant yn y de.

Mae trefniadau rheoli rhanbarthol yn bodoli i reoli rhai elfennau o’r gwasanaethau, gan gynnwys gwaith di-dâl, rhaglenni achrededig, a gwasanaethau cyswllt â dioddefwyr.


1. Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol (Back to top)

R 1.1 ArweinyddiaethSgôr
Mae arweinyddiaeth ranbarthol yn ysgogi’r gwaith o ddarparu gwasanaeth ymatebol, personol o safon uchel i bawb sydd ar brawf.Angen gwella

Cryfderau

  • Roedd y modd mae gwaith prawf wedi’i integreiddio â gwaith Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi a gwaith llywodraeth Cymru ledled Cymru yn dal yn gryfder sylweddol. Roedd hyn yn rhoi cyfle o bwys i wella diffygion a ganfyddir yn y gwaith achosion ac i greu gwasanaeth cryf.
  • Roedd uwch arweinwyr yn cyfleu ac yn rheoli gweledigaeth strategol y gwasanaeth drwy amryw o fforymau a byrddau cyfiawnder troseddol. Roedden nhw’n hybu agenda glir, a honno wedi’i seilio ar flaenoriaethau penodol sy’n gysylltiedig â blaenoriaethau llywodraeth Cymru a Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF. Roedd y byrddau strategol rhanbarthol yn y gwasanaeth yn cynnwys arweinwyr rhanbarthol, penaethiaid adrannau ac arweinwyr unedau cyflawni. Roedd hyn yn sicrhau bod y gwaith a oedd yn cael ei arwain yn ganolog yn cael ei adlewyrchu’n gyson ar lefel yr unedau cyflawni ac ar lefel weithredol.
  • Drwy’r holl ranbarth, roedd diwylliant cryf a chefnogol i’w ganfod ymhlith y staff. Dywedodd 72 y cant o’r ymatebwyr i’n harolwg rhanbarthol a chyfartaledd o 61 y cant o’r ymatebwyr i’n harolygon ymhlith yr unedau cyflawni fod y diwylliant yn hybu agwedd agored, yn annog herio adeiladol, ac yn rhoi cyfleoedd i bobl gynnig syniadau, a hynny wastad neu’r rhan fwyaf o’r amser.
  • Roedd prosesau comisiynu gwasanaethau’n adlewyrchu’r gwaith i ymwneud ag asiantaethau partner a sefydliadau eraill a oedd yn gweithio gyda’r gwasanaeth. Roedd datblygu’r fforwm cydweithio a chomisiynu yn enghraifft ragorol o hyn ar waith yn ymarferol. Roedd adborth gan bobl sydd ar brawf, y llysoedd, sefydliadau’r trydydd sector a’r tasglu anghymesuredd yn cael ei ddwyn ynghyd i benderfynu ar y blaenoriaethau wrth gomisiynu. Roedd amrywiaeth eang o ddarpariaeth wedi’i chomisiynu yn y fath fodd, a hynny ar lefel unedau cyflawni ac ar lefel ranbarthol. Roedd hyn yn cynnwys rhaglen trais domestig DRIVE yng ngharchar Abertawe, cynllun i helpu gydag anafiadau i’r ymennydd (BrainKind), a rhaglen beilot ym maes iechyd yng Nghaerdydd.
  • Roedd y Glasbrintiau Cyfiawnder Menywod a Chyfiawnder Ieuenctid, sy’n rhoi strategaeth integredig ar gyfer gwasanaethau sydd wedi’u datganoli a heb eu datganoli drwy Gymru, yn dangos ymhellach bwysigrwydd datblygu gwasanaethau ar y cyd drwy’r rhanbarth, gyda chefnogaeth Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a llywodraeth Cymru.
  • Roedd pwyslais cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant drwy’r rhanbarth. Roedd hyn yn cynnwys gwaith gydag asiantaethau cyfiawnder troseddol fel rhan o’r tasglu gwrth-hiliaeth. Roedd y tasglu anghymesuredd rhanbarthol wedi bwrw ati’n rhagweithiol i ganfod, monitro a mynd i’r afael ag anghymesuredd yng nghanlyniadau’r gwasanaeth. Ymhlith yr enghreifftiau o hyn roedd gwaith ar ganlyniadau cyflogaeth i fenywod, a phobl anabl yn cwblhau gwaith di-dâl. Roedd y ffocws priodol hwn ar amrywiaeth, cydraddoldeb a chynhwysiant hefyd i’w ganfod yng ngwaith yr unedau cyflawni. Ym mwyafrif llethol yr achosion, gofynnwyd i bobl a oedd ar brawf am eu nodweddion gwarchodedig a materion amrywiaeth. Yn nau draean yr holl achosion, roedd ymarferwyr yn ystyried y rhain wrth asesu gallu’r unigolion i gydymffurfio â’u gorchmynion.
  • Roedd cyflwyno’r byrddau newid a thargedu ill dau’n dangos ymrwymiad cryf ar ran yr uwch arweinwyr i ragweld newid, i gynllunio adnoddau’n effeithiol, ac i hybu arloesi. Roedd yr olaf o’r rhain yn nodwedd amlwg ym mhob un o’r chwech uned gyflawni. Er enghraifft, roedd rhaglen ddeallusrwydd artiffisial Justice Transcribe yn cael ei defnyddio i gofnodi achosion yn gyflym ac yn effeithlon. Erbyn i ni gwblhau ein harolygiad rhanbarthol, clywson ni fod 90 y cant o’r holl ymarferwyr eisoes yn ei defnyddio.
  • Roedd uwch arweinwyr yn gwbl ymwybodol o’r pwysau ar staff, ac ystyried nifer y newidiadau i bolisïau cenedlaethol yn y ddwy flynedd flaenorol. Roedd mwyafrif y staff wedi croesawu cyflwyno’r model Ffactorau Dynol i greu diwylliant cefnogol drwy’r gwasanaeth.
  • Roedd datblygu’r tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu hefyd wedi bod yn gam cadarnhaol, ac unigryw, yng Nghymru. A hynny’n creu cylch o waith rhwng sicrwydd haen un ac adolygiadau atebolrwydd wedi’u seilio ar yr unedau cyflawni, ochr yn ochr ag ymrwymiad i wneud gwaith gwella, roedd y pwyslais yn bennaf ar ansawdd ac effeithiolrwydd, yn hytrach nag ar archwilio. Roedd cyflwyno adnodd asesu Cymru hefyd wedi bod yn gam cadarnhaol. Er bod hwn yn gynllun cymharol newydd ar adeg yr arolygiad, roedd arwyddion y gallai helpu i wella ansawdd gwaith achos.
  • Er nad oedd fforymau i bobl sydd ar brawf wedi’u cyflwyno’n gyson ym mhob un o’r unedau cyflawni, roedd yr arweinwyr yn canolbwyntio ar ymgysylltu â phobl sydd ar brawf ac ar glywed eu barn am y gwasanaeth roedd y rhanbarth yn ei ddarparu. Roedden nhw’n defnyddio’r wybodaeth hon i hybu datblygiad drwy’r unedau cyflawni.
  • Roedd tîm CORRE, sy’n ceisio gwella ansawdd cynllunio gwaith achos, yn amlwg yn effeithiol. Roedd y cynlluniau mewn 261 o’r 338 o achosion yr edrychon ni arnyn nhw (77 y cant) yn canolbwyntio’n ddigonol ar leihau aildroseddu ac ar helpu pobl i ymatal rhag troseddu. Mewn rhai unedau cyflawni, roedd lefel y digonolrwydd hwn yn uwch fyth.
  • Roedd y pedwar heddlu drwy Gymru yn rhannu gwybodaeth am ddigwyddiadau adroddadwy gyda staff gwaith prawf. Roedd hwn yn ddull cadarnhaol o reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â phobl sydd ar brawf, ac roedd yn arwydd o’r gwaith a wneir gan uwch arweinwyr i feithrin perthynas gadarnhaol â rhanddeiliaid ac i feithrin hyder ac ymddiriedaeth mewn prosesau o’r fath.
  • Roedd gwasanaethau prawf a’r heddlu drwy’r rhanbarth wedi trafod telerau cytundeb i rannu gwybodaeth er mwyn hwyluso ymholiadau am gam-drin domestig gan y gwasanaeth prawf. Roedd hyn yn dystiolaeth bellach o berthynas gadarnhaol ar lefel strategol. Roedd cytundeb tebyg wedi’i lunio â’r 22 o adrannau gwasanaethau plant yng Nghymru, er mwyn gallu cyfnewid gwybodaeth i gadw plant yn ddiogel. Serch hynny, er gwaethaf y cytundebau hyn, roedd yr arweinwyr yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod cysondeb yn y manylion a ddaw i law ac yn y modd y bydd ymarferwyr yn defnyddio’r wybodaeth drwy’r rhanbarth.

Meysydd i’w gwella:

  • Er bod rhai cynlluniau hynod o gadarnhaol ac arloesol yn bodoli i reoli gwasanaethau’n effeithiol, nid oedd y rhain wedi arwain yn gyson at ddarparu gwasanaethau o ansawdd da i bawb sydd ar brawf.
  • Er bod tîm CORRE yn helpu’n gyson i asesu a chynllunio’n effeithiol, ym mhob un o’r chwech uned gyflawni, roedd nifer yr achosion lle’r aseswyd bod y broses weithredu’n ddigonol yn is o lawer nag wrth asesu a chynllunio, er bod ymarferwyr yn cael digon o gyswllt â phobl sydd ar brawf.
  • Cafodd y gwaith i helpu pobl i ymatal rhag troseddu a’r gwaith i gadw pobl yn ddiogel sgoriau annigonol drwy’r rhanbarth. Cafodd gwaith llys a gwaith di-dâl hefyd sgoriau annigonol yn y rhanbarth yn gyffredinol.
  • Mewn pump o’r chwech uned gyflawni, roedd nifer yr achosion yr aseswyd eu bod yn ddigonol i gadw pobl yn ddiogel o dan bedair safon AsPIRE (Asesu, Cynllunio, Gweithredu ac Adolygu) yn annigonol. O roi cyfanswm sgôr drwy’r chwech uned gyflawni, roedd dros hanner yr achosion yn annigonol.
  • Mewn mwyafrif go dda o’r achosion craidd, roedd pobl sydd ar brawf yn cael eu gweld yn ddigon aml gan ymarferwyr fel bod potensial i reoli’r risgiau. Serch hynny, yn rhy aml, roedd hi’n ymddangos nad oedd ymarferwyr yn sicr pryd, ble na sut i fynd ati i gael rhagor o wybodaeth er mwyn rhoi sail i waith asesu a chynllunio effeithiol i gadw pobl yn ddiogel. Dim ond mewn lleiafrif yr achosion y gwelwyd gweithio amlasiantaethol digonol.
  • Er gwaethaf y model ar gyfer digwyddiadau adroddadwy, nid oedd y staff wastad yn gwybod pryd na sut i ddefnyddio’r wybodaeth a oedd wedi dod i law. Mewn rhai achosion, roedd y staff yn teimlo bod modd defnyddio’r wybodaeth hon yn lle gwneud ymholiadau penodol am gam-drin domestig.
  • Er bod trefniadau i rannu gwybodaeth yn bodoli gyda gwasanaethau plant ledled Cymru, mewn gormod o achosion o lawer, nid oedd yr wybodaeth a ddôi i law yn ddigonol i ymarferwyr ffurfio barn wybodus wrth asesu’r risgiau. Nid oedd gwaith i fynd i’r afael â rhai o’r diffygion wedi cael digon o effaith eto.
  • Roedd angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod trefniadau MAPPA yn cael eu rheoli’n effeithiol. Ar adeg yr arolygiad hwn, roedd angen gosod a/neu adolygu lefel reoli ar gyfer nifer sylweddol achosion a fyddai’n gymwys i gael trefniadau MAPPA. O ganlyniad, roedd potensial na fyddai’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â rhai pobl yn cael eu rheoli’n ddigonol.

R 1.2 StaffioSgôr
Galluogir staff i ddarparu gwasanaeth ymatebol, personol o ansawdd uchel i bawb sydd ar brawf.Angen gwella

Cryfderau

  • Nid oedd llwythi gwaith staff rhanbarthol yn ormodol, gyda 71 y cant o’r rheini a lenwodd ein harolwg rhanbarthol yn dweud eu bod yn gallu dygymod â’u llwythi gwaith. Yn y chwech uned gyflawni a oedd yn rhan o’n harolygiad, dim ond 46 o’r bobl a ymatebodd i’r arolwg a ddywedodd eu bod yn gallu dygymod a’u llwythi achosion, er i’r ffigur godi i 60 y cant ymhlith y rheini a gafodd eu cyfweld gennyn ni (206, a’r rheini i gyd yn ymarferwyr rheng flaen). O blith yr ymarferwyr a gwblhaodd arolwg yr unedau cyflawni, dywedodd 74 fod rhwng un a 40 o achosion yn eu llwyth achosion.
  • Nid oedd llwythi gwaith yn cael effaith negyddol ar lefel y cyswllt â phobl sydd ar brawf. O’r 316 o achosion craidd yr edrychon ni arnyn nhw, roedd y cyswllt gan yr ymarferydd prawf yn ddigonol i leihau aildroseddu ac i helpu pobl i ymatal rhag troseddu mewn 200 o’r 254 achos perthnasol. Roedd hefyd lefelau cyswllt digonol i reoli risg.
  • Roedd diwylliant cryf o gefnogi a goruchwylio i’w ganfod drwy’r holl ranbarth. Yn ein harolwg rhanbarthol, dywedodd 82 y cant o’r ymatebwyr eu bod yn cael eu goruchwylio’n ddigonol ac yn aml. Dywedodd 67 y cant o’r rheini a gwblhaodd yr arolwg yn yr unedau cyflawni yr un peth. At hynny, dywedodd 73 y cant o’r staff a lenwodd ein harolwg rhanbarthol a 65 y cant o staff yr unedau cyflawni fod y modd roedden nhw’n cael eu goruchwylio’n gwella ansawdd eu gwaith. Roedd swyddogion datblygu ansawdd wedi’u cyflwyno yn rhan o’r tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu ym mhob un o’r chwech uned gyflawni, a hynny wedi gwella’r gwaith goruchwylio ymhellach. Roedd y rôl hon gan amlaf yn canolbwyntio ar gefnogi ymarferwyr ac ar ddatblygu eu sgiliau.
  • Roedd yr arweinwyr yn gweithio’n galed i wreiddio diwylliant dysgu drwy’r holl wasanaeth. Roedd lefelau cwblhau’r hyfforddiant craidd (er enghraifft o ran diogelu a cham-drin domestig) yn uchel. Roedd cyfraddau cwblhau hyfforddiant SEEDS2 (sgiliau ar gyfer ymgysylltu, datblygu a goruchwylio’n effeithiol) hefyd yn uchel; roedd yr holl arweinwyr a 93 y cant o’r rheolwyr wedi cwblhau’r hyfforddiant hwn.
  • Yn ein harolwg rhanbarthol, dywedodd 106 o’r 128 o bobl a atebodd y cwestiwn fod y gwasanaeth yn mynd ati’n weithgar i hybu diwylliant o ddysgu a gwella parhaus. Roedd bron i dri chwarter yr holl staff yn yr unedau cyflawni hefyd o’r un farn.
  • Gwelson ni hefyd waith i wella a datblygu ymarfer yn yr holl unedau cyflawni, yn enwedig ar ffurf amser wedi’i neilltuo i ddysgu, briffiau dyddiol i dimau, a mabwysiadu’r model Ffactorau Dynol. Roedd arweinwyr wedi cyflwyno’r rhestr wirio ar gyfer sefyllfa, cefndir, asesu ac argymhellion, a honno’n helpu staff i ddysgu ond gan fod yn atebol fel unigolion a chael rhyddid yn eu gwaith ar yr un pryd.
  • Roedd uwch arweinwyr wedi mynd ati’n gadarnhaol i groesawu’r defnydd o fodel a oedd yn golygu, yn fras, fod penaethiaid unedau cyflawni ac arweinwyr adrannau yn cylchdroi bob tair blynedd. Roedd hyn yn sicrhau dull ffres o arwain yn lleol ac yn annog pobl i ddangos diddordeb yng ngweithgareddau amrywiol y gwasanaeth.
  • Roedd arweinwyr drwy’r gwasanaeth yn cydnabod bod y trosiant ymhlith y staff (9.4 y cant drwy’r rhanbarth) a’r cyfraddau salwch (13.2 o ddiwrnodau’n cael eu colli ar gyfartaledd bob blwyddyn) yn rhy uchel. Roedd gwaith i fynd i’r afael â hyn wedi’i ddynodi’n flaenoriaeth, ac roedd arweinwyr wrthi’n dadansoddi data am absenoldeb ac yn cyflwyno camau gweithredu clir. Roedd hyn yn cynnwys cynnull panel absenoldeb misol i adolygu’r achosion mwyaf cymhleth. Roedd arwyddion bod y dull hwn o weithio’n arwain at rai gwelliannau, hyd yn oed os oedd y rheini’n welliannau bach.
  • Bu cryn bwyslais yn y flwyddyn flaenorol ar roi cymorth i reolwyr canol, ac yn enwedig i uwch swyddogion prawf. Er enghraifft, roedd hyb cydlynu i reolwyr rhanbarthol wedi’i sefydlu i helpu gyda nifer o weithgareddau penodol. Roedd amrywiaeth o ddigwyddiadau hyfforddiant wedi’u cyflwyno o dan faner ‘hanfodion rheoli pobl’, gan gynnwys digwyddiadau’n ymwneud â hybu presenoldeb, cynnal ymchwiliadau, ac ymddygiad a disgyblaeth. Roedd y rhain ar y cyfan wedi rhoi cefnogaeth ac wedi grymuso pobl. Gwelson ni enghreifftiau o’r dulliau hyn yn cael eu defnyddio yn yr unedau cyflawni. Roedd hyn hefyd yn adlewyrchu’r egwyddor o ‘reoli heb ymddiheuro’ yr oedd uwch arweinwyr yn ei dilyn.
  • Yn y rhan fwyaf o’r unedau cyflawni, gwelson ni dystiolaeth bod rheolwyr yn mynd ati’n weithgar i reoli’r pwysau ar staff a fyddai’n cael ei greu’n bennaf gan lefelau salwch. Drwy’r rhanbarth, roedd 84 y cant o’r holl achosion o salwch yn perthyn i’r categori hirdymor.

Meysydd i’w gwella:

  • Roedd y lefelau salwch drwy Gymru’n rhy uchel. Ym mhob un o’r chwech uned gyflawni, roedd nifer cyfartalog y diwrnodau a gollwyd oherwydd salwch fymryn yn uwch yn y 12 mis cyn cyhoeddi’r arolygiad nag yn y flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn arbennig o wir yn achos uwch swyddogion prawf a gweinyddwyr achosion. Roedd y cyfraddau gadael wedi aros yn gyson yn yr un cyfnod.
  • Roedd y lefelau staffio yn rhesymol yn y rhan fwyaf o’r unedau cyflawni. Serch hynny, roedd lefelau salwch yn cael effaith sylweddol ar y staff, gydag 83 y cant o’r ymatebwyr i’n harolwg staff yn dweud nad oedd digon o staff yn y gwasanaeth. Roedd y farn hon hefyd yn cael ei hadlewyrchu yn ein harolwg rhanbarthol, er i ychydig llai o’r ymatebwyr, sef 60 y cant, ddweud hynny.
  • At hynny, er gwaethaf ymdrechion dygn gan arweinwyr yr unedau cyflawni i ymateb i anghenion staff drwy’r rhanbarth, dim ond 53 y cant o’r staff yn ein harolwg a deimlai fod digon o sylw’n cael ei roi i’w lles. Mae hyn yn aml yn arwydd o weithlu sydd o dan straen, ac roedd y lefelau salwch yn y gwasanaeth yn arwydd pellach o hyn.
  • Er bod yr arweinwyr wedi ceisio gwella’r gwaith goruchwylio, wedi rhoi cefnogaeth i reolwyr canol, ac wedi cyflwyno’r model Ffactorau Dynol, nid oedd y rheolwyr yn gyffredinol yn goruchwylio’n ddigonol yn yr holl waith achosion yr edrychon ni arno. Roedd hyn yn bryder arbennig ac ystyried nifer y staff dibrofiad yn y gweithlu, a’r diffyg goruchwylio a welson ni mewn achosion o droseddau difrifol pellach. Mae angen i arweinwyr roi mwy o sylw i’r elfen hollbwysig hon yn y gwaith o reoli achosion.

Amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)

  • Roedd pwyslais cryf ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn y rhanbarth. Roedd blaenoriaethau’n cael eu diffinio a’u rheoli’n glir drwy’r bwrdd cydraddoldeb ar gyfer gwaith prawf. Yn sail i hyn roedd gwaith y tîm amrywiaeth a chynhwysiant rhanbarthol, a oedd wedi’i integreiddio’n dda yng Ngwasanaeth Carchardai a Phrawf EF.
  • Yn y chwech uned gyflawni, roedd dealltwriaeth dda o anghenion amrywiol pobl sydd ar brawf. Roedd ymarferwyr wedi gofyn am amrywiaeth a nodweddion gwarchodedig ym mwyafrif sylweddol (82 y cant) yr achosion a welson ni. Mewn mwyafrif go dda o’r achosion craidd (66 y cant), roedd ymarferwyr wedi asesu effaith y rhain ar allu’r unigolyn ar brawf i gydymffurfio ac ymwneud â’r gwasanaeth a gâi ei ddarparu.
  • Roedd y Gymraeg yn ystyriaeth o bwys yn yr unedau cyflawni yr edrychon ni arnyn nhw. Cawson ni sicrwydd y byddai cyfweliadau a gwaith arall, pan wnaed cais am hynny, yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd ymrwymiad y gwasanaeth yn hyn o beth wedi’i gryfhau drwy gynllun gweithredu strategol penodol a fyddai’n cael ei adolygu’n chwarterol yn y sefydliad ac yn flynyddol gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Roedden ni’n falch o weld bod nifer o ddogfennau ar gael yn Gymraeg.
  • Roedd hi hefyd yn galonogol gweld bod tasglu gwrth-hiliaeth Cymru wedi’i integreiddio yn y gwasanaeth. Cynllun rhwng llywodraeth Cymru, partneriaethau cyfiawnder troseddol a’r gwasanaeth prawf yw hwn. Ar adeg yr arolygiad, roedd dros 250 o reolwyr llinell wedi cwblhau modiwl arweinyddiaeth y rhaglen ymddygiadau cynhwysol, ynghyd â chwblhau hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol, ac roedd 450 o staff wedi cwblhau’r modiwl i’r holl staff.
  • Roedd tasglu anghymesuredd Cymru hefyd yn gynllun cadarnhaol. Er bod hwn yn gynllun cymharol newydd (fe’i cyflwynwyd ddechrau 2024), roedd arwyddion eisoes ei fod yn arwain at gymryd camau gweithredu mewn rhai meysydd, er enghraifft, wrth wneud gwaith gyda menywod a phobl sydd ag anableddau. Roedd y tasglu hefyd yn ceisio gwella’r cyfleoedd cyflogaeth anghymesur o isel sydd ar gael i bobl rhwng 40 a 49 oed. Roedd y bwrdd yn ddiweddar wedi comisiynu astudiaeth i weld pam fod nifer anghymesur o fenywod a phobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol sydd ar brawf yn cael eu hadalw.
  • Gwelson ni fod hyrwyddwyr amrywiaeth ym mhob un o’r chwech uned gyflawni. Roedd hi’n galonogol bod Cymru’n cyflogi swyddog camau cadarnhaol, a oedd yn gweithio gyda chymunedau amrywiol i hybu recriwtio i’r gwasanaeth.
  • Roedd gwaith yn y maes amrywiaeth a chynhwysiant yn arwain at gomisiynu gwasanaethau i ddiwallu anghenion rhai grwpiau lleiafrifol yn yr unedau cyflawni.

Meysydd i’w gwella:

  • Er gwaethaf yr ymrwymiad a ddangoswyd i’r Gymraeg, nid oedden ni’n ddigon sicr a oedd yr holl ymwneud â phobl sydd ar brawf na’r ymwneud â’r cyhoedd yn hybu’r egwyddor o ‘gwrteisi iaith’, er enghraifft drwy ateb y ffôn yn Gymraeg yn gyntaf ac wedyn yn Saesneg. Roedd angen sicrhau cydbwysedd cyson rhwng anghenion busnes ac ymrwymiad i’r egwyddor o ddefnyddio’r Gymraeg.

2. Darparu gwasanaethau (Back to top)

R 2.1 Amddiffyn y cyhoeddSgôr
Mae gwasanaethau ymatebol, personol ac o ansawdd uchel yn cael eu darparu i amddiffyn y cyhoedd.Annigonol

Mae ein sgôr[1] ar gyfer amddiffyn y cyhoedd wedi’i seilio ar ganran yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw y barnwyd eu bod yn foddhaol o dan bedwar cwestiwn allweddol, gan ddefnyddio’r sgôr isaf fel y sgôr cyffredinol:

Cwestiwn allweddolCanran yr atebion ‘Ydy’
A yw’r gwaith asesu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?35%
A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?43%
A yw gweithredu a darparu gwasanaethau’n cefnogi diogelwch pobl eraill yn effeithiol?34%
A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?42%
  • Drwyddi draw, roedd lefel a natur y cyswllt a oedd rhwng ymarferwyr a phobl ar brawf i reoli a lleihau risgiau yn ddigonol mewn dros 70 y cant o achosion. Ble roedd hynny’n angenrheidiol, gwelson ni hefyd fod ymweliadau â’r cartref yn cael eu cynnal mewn 191 o’r 286 o achosion perthnasol i reoli’r risg o niwed. Serch hynny, nid oedd hyn yn arwain at reoli risgiau’n effeithiol mewn nifer digonol o achosion.
  • Yn ein harolygiadau o unedau cyflawni, mewn dros hanner yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw, aseswyd nad oedden nhw’n cyrraedd y safon ddigonol o dan bob un o’r pedwar cwestiwn allweddol am gadw pobl yn ddiogel. Roedd mymryn dros hanner yr achosion yn uned gyflawni Gogledd Cymru’n cyrraedd y safon ddigonol, ond aseswyd bod ‘angen gwella’ fan hyn hefyd.
  • Roedd trefniadau i rannu gwybodaeth yn bodoli gyda’r pedwar heddlu a’r 22 awdurdod lleol drwy Gymru. Serch hynny, nid oedd y rhain yn cael digon o effaith ar y gwaith i gadw pobl yn ddiogel. Gwelson ni amrywiadau yn y modd roedd y trefniadau hyn yn cael eu dehongli. Er enghraifft, gwelson ni fod y data a oedd yn cael ei ddarparu gan heddlu De Cymru wedi’u hadolygu’n drwm mewn nifer o achosion, tra nad oedd adolygu data’n ffactor o bwys yng Ngogledd Cymru. Roedd protocol ar gyfer rhannu gwybodaeth adroddadwy hefyd yn bodoli gyda’r pedwar heddlu. Mewn nifer o ffyrdd, roedd hwn yn gam cadarnhaol iawn, a gwelson ni’r wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn nifer o achosion. Serch hynny, mewn achosion eraill, roedd ymarferwyr yn defnyddio’r wybodaeth hon yn lle gwneud cais am wybodaeth benodol am gam-drin domestig.
  • Yn y rhan fwyaf o achosion lle gwnaed ymholiadau am gam-drin domestig neu ddiogelu plant ar ddechrau gorchymyn cymunedol neu pan fyddai rhywun yn cael ei ryddhau o’r carchar, byddai ymatebion yn dod i law. Serch hynny, mewn gormod o achosion, roedd yr wybodaeth a fyddai’n dod i law naill ai’n annigonol i roi sail lawn i’r asesiadau, neu ni fyddai’r ymholiadau’n cael eu gwneud o gwbl. Mewn 236 o 338 o achosion, cafodd ymarferwyr wybodaeth ddigonol am gam-drin domestig gan yr heddlu i roi sail i asesiadau. Serch hynny, mewn 40 o achosion, nid oedd yr wybodaeth a ddaeth i law’n ddigon manwl, ac mewn 48 achos arall, ni wnaed cais am wybodaeth o gwbl. Roedd y sefyllfa’n waeth o ran gwybodaeth am ddiogelu plant. Aseswyd bod angen hyn mewn 327 o achosion. Serch hynny, mewn 100 o achosion, nid oedd yr wybodaeth a ddaeth i law’n ddigon manwl, ac mewn 43 achos, ni wnaed cais am wybodaeth o gwbl.
  • Mewn gormod o achosion o lawer, ymddangosai nad oedd gan ymarferwyr ddigon o hyder i wneud ymholiadau, neu nid oedden nhw’n gwybod sut i uwchgyfeirio’r cais neu sut i wneud ymholiadau pellach. Gwaethygid hyn gan y ffaith nad oedd digon o ymarferwyr yn defnyddio mathau eraill o wybodaeth a fyddai’n cael eu cadw naill ai ar ffeil neu gan asiantaethau partner. Yn gyffredinol, roedd y diffyg chwilfrydedd proffesiynol hwn yn golygu nad oedd digon o wybodaeth yn cael ei defnyddio mewn digon o achosion i roi sail i asesiadau neu gynlluniau cysylltiedig i gadw pobl yn ddiogel.
  • Roedd gwaith gan ymarferwyr i gadw pobl yn ddiogel ac i weithio gydag asiantaethau eraill hefyd yn wael. Unwaith eto, roedd hyn yn arwydd o ddiffyg hyder a/neu wybodaeth am sut i weithio gydag asiantaethau eraill. Yn ystod gwaith cynllunio, dim ond mewn 147 o 299 o achosion perthnasol y gwnaeth ymarferwyr gynlluniau amlasiantaethol a chysylltiadau priodol â’r asiantaethau eraill a oedd yn ymwneud â’r unigolyn ar brawf. At hynny, dim ond mewn 84 o 235 o achosion perthnasol a oedd yn gysylltiedig â diogelu plant, a 101 o 241 o achosion perthnasol a oedd yn gysylltiedig â cham-drin domestig, y gwnaed gwaith amlasiantaethol effeithiol, gan gynnwys rhannu gwybodaeth.
  • Roedd angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod ceisiadau’n cael eu gwneud am wybodaeth gan yr heddlu a gwasanaethau diogelu plant, a bod yr wybodaeth honno’n ddigon manwl i roi sail i waith i gadw pobl yn ddiogel. Roedd angen gwneud rhagor o waith hefyd i sicrhau bod yr holl ymarferwyr yn gwybod pa wybodaeth oedd ei hangen i reoli pobl sydd ar brawf yn ddiogel, ac i sicrhau bod yr holl ymarferwyr yn dangos chwilfrydedd proffesiynol wrth wneud gwaith gyda phobl sydd ar brawf ac asiantaethau partner.

R 2.2 YmataliadSgôr
Mae gwasanaethau ymatebol, personol ac o ansawdd uchel yn cael eu darparu i hyrwyddo ymataliad.Annigonol

Mae ein sgôr[2] ar gyfer ymataliad wedi’i seilio ar ganran yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw y barnwyd eu bod yn foddhaol o dan bedwar cwestiwn allweddol, gan ddefnyddio’r sgôr isaf fel y sgôr cyffredinol:

Cwestiwn allweddolCanran yr atebion ‘Ydy’
A yw’r gwaith asesu yn canolbwyntio’n ddigonol ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymatal rhag troseddu?72%
A yw’r cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar leihau aildroseddu a chefnogi ymataliad?77%
A yw gweithredu a darparu gwasanaethau’n cefnogi ymataliad yn effeithiol?47%
A yw’r gwaith adolygu yn canolbwyntio’n ddigonol ar gefnogi ymataliad?59%
  • Roedd y gwaith asesu a chynllunio wrth helpu pobl i ymatal rhag troseddu ar y cyfan yn gryf yn y chwech uned gyflawni, er fymryn yn llai felly yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd asesiadau’n canfod ac yn dadansoddi’r ffactorau a oedd yn gysylltiedig â throseddu. Mewn 78 y cant o’r holl achosion, roedd asesiadau’n canfod ac yn dadansoddi cryfderau a ffactorau gwarchodol y sawl a oedd ar brawf. Yn wahanol i beth welson ni wrth gadw pobl yn ddiogel, roedd 62 y cant o’r asesiadau ynghylch ymatal rhag troseddu yn defnyddio’r ffynonellau gwybodaeth a oedd ar gael yn ddigonol.
  • Yn yr un modd, mewn 78 y cant o achosion, roedd y gwaith cynllunio’n pennu’r gwasanaethau a fyddai’n fwyaf tebygol o leihau aildroseddu a helpu pobl i ymatal. Mewn 243 o 319 o achosion perthnasol, roedd y gwaith cynllunio’n datblygu ar gryfderau’r unigolyn a’r ffactorau gwarchodol, gan ddefnyddio’r ffynonellau cymorth posibl.
  • I raddau helaeth, roedd hi’n ymddangos bod hyn oherwydd gwaith tîm CORRE. Roedd gan y rhan fwyaf o’r staff y siaradwyd â nhw drwy’r rhanbarth farn gadarnhaol am y model hwn. Roedden nhw’n credu ei fod yn ddull defnyddiol o ganolbwyntio ar anghenion pobl sydd ar brawf a hwyluso mynediad at y gwasanaethau mwyaf addas.
  • Serch hynny, nid oedd y cyfarfodydd rhwng ymarferwyr prawf a gweithwyr CORRE yn cynnwys pobl sydd ar brawf. O ganlyniad, nid oedd hi’n glir pa mor dda roedd pobl ar brawf yn ymwneud â’r cynlluniau a oedd yn cael eu creu ar eu cyfer, na pha mor barod oedden nhw i weithio gyda’r gwasanaethau roedden nhw’n cael eu cyfeirio atyn nhw. Roedd hyn i raddau helaeth yn adlewyrchu ein canfyddiadau ni. Er i ni ganfod bod gwasanaethau adsefydlu a gomisiynir wedi cael eu darparu mewn 203 o 276 o achosion perthnasol, nid oedd y rhain wastad yn ddigonol. Mewn nifer o achosion, er bod y cynllun dedfrydu’n mynd ati’n drylwyr i ganfod y gwasanaethau y mae eu hangen ar yr unigolyn sydd ar brawf, roedd llai o sylw wedi’i roi i’r gwaith o roi’r rheini yn y drefn iawn. Dim ond mewn 52 y cant o’r achosion perthnasol y rhoddwyd y gwasanaethau a oedd yn fwyaf tebygol o leihau aildroseddu a helpu pobl i ymatal rhag troseddu, gan roi sylw digonol i drefn y gwasanaethau hynny a’r amserlenni. Yn rhy aml, roedd diffygion yn y modd y byddai ymarferwyr ac asiantaethau partner yn ymwneud â’i gilydd yn gwaethygu’r sefyllfa hon. Dim ond mewn 140 o 284 o achosion perthnasol yr oedd y broses o ymwneud â’r sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau wedi’i chydlynu’n ddigonol, er bod nifer o ddarparwyr gwasanaethau wedi’u cyd-leoli mewn swyddfeydd prawf. Roedd hyn yn arbennig o siomedig ac ystyried, mewn 200 o’r 254 o achosion perthnasol yr edrychon ni arnyn nhw, fod lefel a natur y cyswllt yn ddigonol i leihau aildroseddu a helpu pobl i ymatal rhag troseddu.
  • Drwy’r unedau cyflawni y gwnaethon ni ymweld â nhw, gwelson ni rywfaint o waith da mewn perthynas â darparu llety. Roedd hyn yn adlewyrchu’r gwaith partneriaeth cadarnhaol a wnaed drwy fframwaith llety Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF a Bwrdd Llety Cymru. Roedd gwasanaethau digonol wedi’u darparu mewn 100 o’r 164 o achosion perthnasol yr edrychon ni arnyn nhw lle canfuwyd bod llety yn un o’r anghenion.
  • Ar adeg ein harolygiadau drwy Gymru, roedd rhaglenni achrededig newydd ddechrau mabwysiadu rhaglenni Building Choices (Mehefin 2025), yn dilyn y broses bontio genedlaethol a’r hyfforddiant a roddwyd i staff rhwng mis Mawrth a mis Mehefin. Er mai prin iawn oedd y bobl ar brawf a welson ni ar raglenni yn yr achosion yr edrychwyd arnyn nhw yn ein harolygiadau, gwelson ni rai oedd yn cael ymyriadau strwythuredig a’r rheini’n cael eu darparu gan ymarferwyr prawf. Dywedwyd wrthyn ni fod 176 o bobl ar brawf ar raglen ar y pryd (Hydref 2025). Roedd gan dîm y rhaglen darged i gwtogi’r rhestr aros bresennol i dri mis o fewn y flwyddyn nesaf.

R 2.3 Gwaith llysSgôr
Mae’r wybodaeth a’r cyngor cyn-dedfrydu a ddarperir i’r llys yn cefnogi ei broses o wneud penderfyniadau.Annigonol

Mae ein sgôr[3] ar gyfer gwaith llys wedi’i seilio ar ganran yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw y barnwyd eu bod yn foddhaol o dan un cwestiwn allweddol:

Cwestiwn allweddolCanran yr atebion ‘Ydy’
A yw’r cyngor a’r wybodaeth cyn dedfrydu a ddarperir i’r llys yn ddigon dadansoddol a phersonol i’r unigolyn, gan gefnogi proses gwneud penderfyniad y llys?32%
  • Roedd y modd yr oedd uwch arweinwyr yn ymwneud â dedfrydau drwy’r rhanbarth ar y cyfan yn gadarnhaol. Yn yr arolwg diweddaraf o ddedfrydwyr (2025), roedd y rhanbarth wedi cael sgôr bodlonrwydd o 77 y cant. Roedd y rhanbarth wedi creu fforwm strategol chwarterol i ddedfrydwyr ac roedd ganddo gylchlythyr rheolaidd.
  • Roedd arweinwyr rhanbarthol ac arweinydd y llys rhanbarthol wedi galw am ganolbwyntio’n gryf ar yr egwyddor o ‘ddechrau’n iawn – gorffen yn iawn’, gan bwysleisio pwysigrwydd adroddiadau llys ac ymgysylltu â phobl sydd ar brawf. Serch hynny, roedd rhai heriau. Drwy’r rhanbarth, dim ond 84 y cant o swyddi staff llysoedd a oedd wedi’u llenwi. Roedd rhai ardaloedd yn ei chael hi’n fwy anodd nag eraill o ran y sefyllfa staffio, er bod ymdrechion i wella hyn wedi cael rhywfaint o effaith yn ddiweddar. I wneud y sefyllfa’n waeth, roedd diffyg opsiwn arall yn lle’r adnodd rheoli llwyth gwaith a ddefnyddid i reoli troseddwyr. O ganlyniad, roedd hi’n anodd gwybod i ba raddau y mae staff llysoedd yn gallu dygymod â’u llwythi gwaith.
  • Roedd rhai elfennau cryf i’w gweld mewn gwaith llys. Mewn 86 y cant o’r achosion yr edrychon ni arnyn nhw, roedd yr unigolion yn ymwneud yn ystyrlon â’r broses o baratoi eu hadroddiadau ac roedd y rheini’n rhoi sylw i’w barn. Mewn 81 y cant o’r achosion, roedd y cyngor a roddwyd i’r llys yn ystyried ffactorau’n gysylltiedig â’r tebygolrwydd o aildroseddu, ac mewn 72 y cant o’r achosion, roedd y cyngor yn rhoi sylw i gymhelliad a pharodrwydd yr unigolyn i newid. Mewn 85 o achosion, roedd yr adroddiadau hefyd yn cynnwys cofnod digonol o’r cyngor a roddwyd a’r rhesymau dros hynny.
  • Serch hynny, roedd rhai pethau sylweddol wedi’u hepgor, a hynny’n gyson. Yn achos ymholiadau i’r heddlu am gam-drin domestig, gwelson ni mai dim ond mewn 48 y cant o’r achosion lle roedd hyn yn angenrheidiol roedd gwybodaeth ddigonol wedi dod i law mewn pryd i roi sail i adroddiadau. Serch hynny, roedd cryn amrywiadau i’w gweld yn hyn o beth drwy’r unedau cyflawni. Roedd gwybodaeth ddigonol wedi’i rhoi mewn 80 y cant o’r achosion yng Ngogledd Cymru, ond dim ond mewn 37 y cant o’r achosion yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg a 28 y cant o’r achosion yn Nyfed Powys. Gwelson ni fwy o amrywiadau o ran cyfran yr achosion lle roedd yr wybodaeth a ddaeth i law’n ddigon manwl a lle nad ymatebwyd i geisiadau am wybodaeth. Er enghraifft, yn Nyfed Powys, roedd yr wybodaeth a ddaeth i law’n ddigon manwl ym mhob achos. Serch hynny, mewn 17 o achosion (59 y cant), ni ddaeth yr wybodaeth y gwnaed cais amdani i law mewn pryd i roi sail i’r adroddiad. Roedd amrywiadau o’r fath yn adlewyrchu’r hyn a ganfuwyd wrth edrych ar ymholiadau i’r heddlu’n gyffredinol. Roedd dulliau’r heddluoedd o rannu gwybodaeth yn amrywio. Er enghraifft, byddai heddlu De Cymru yn aml yn golygu gwybodaeth, er bod protocol yn bodoli ar gyfer rhannu gwybodaeth drwy Gymru gyfan. Mewn 28 o’r 251 o achosion perthnasol drwy’r holl unedau cyflawni, nid oedd cais am wybodaeth wedi’i wneud pan ddylai hynny fod wedi digwydd.
  • Drwy’r holl unedau cyflawni, dim ond mewn 117 o 252 o achosion perthnasol yr oedd yr ymholiadau am ddiogelu plant yn ddigonol. Roedd yr amrywiadau rhwng yr unedau cyflawni yn llai amlwg yn hyn o beth nag yn achos ymholiadau am gam-drin domestig. Serch hynny, roedd yr amrywiadau hyn yn adlewyrchu i raddau helaeth y berthynas a ffurfiwyd â gwasanaethau ym mhob uned gyflawni, er bod protocol i rannu gwybodaeth yn bodoli gyda phob un o’r 22 gwasanaeth. Mewn 31 o’r 252 o achosion perthnasol yr edrychwyd arnyn nhw, nid oedd cais am wybodaeth wedi’i wneud pan ddylai hynny fod wedi digwydd.
  • Yn gyffredinol, mewn 14 y cant o’r ymholiadau perthnasol i’r heddlu a 21 y cant o’r ymholiadau perthnasol i wasanaethau plant, nid oedd yr wybodaeth a ddaeth i law’n ddigonol. Er bod llwybrau uwchgyfeirio yn bodoli ar gyfer achlysuron o’r fath, nid oedd y rhain yn cael eu defnyddio’n ddigonol. Gwelwyd diffyg chwilfrydedd proffesiynol ar ran awduron adroddiadau, a hynny’n arwain at golli cyfle i edrych ar bryderon posibl yn fanylach.
  • Roedd arweinwyr wedi ceisio mynd i’r afael ag oedi wrth rannu gwybodaeth gan wasanaethau diogelu a’r heddlu, a hynny wedi arwain at dreialu’r defnydd o swyddogion ymholiadau diogelu mewn rhai unedau cyflawni. Serch hynny, yn ôl ein canfyddiadau ni, dim ond effaith gyfyngedig roedd hyn wedi’i chael hyd yma.
  • Nid oedd archwiliadau a ddefnyddiai’r system i archwilio achosion llys yn llwyddo’n ddigonol i ganfod problemau sylfaenol fel diffygion wrth ddadansoddi’r wybodaeth a geir o ymholiadau am ddiogelu plant. Roedd camau wedi’u cymryd i ehangu’r gwaith hwn ac i gynnwys cymorth gan y tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu, ynghyd ag adroddiadau adnodd asesu Cymru. Y disgwyl oedd y byddai hyn yn helpu i wella ansawdd.
  • Er gwaethaf cyfyngiadau’r wybodaeth a gâi’r llys am ddiogelu a cham-drin domestig, roedd hi’n galonogol gweld bod y cyngor i’r llysoedd yn cynnwys ffactorau’n gysylltiedig â’r risg o niwed mewn 70 y cant o achosion.

R 2.4 Gwaith di-dâlSgôr
Mae gwaith di-dâl yn cael ei gyflawni’n ddiogel ac yn effeithiol, gan ymgysylltu â’r sawl sydd ar brawf yn unol â disgwyliadau’r llys.Annigonol

Mae ein sgôr[4] ar gyfer gwaith di-dâl wedi’i seilio ar ganran yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw y barnwyd eu bod yn foddhaol o dan bedwar cwestiwn allweddol, gan ddefnyddio’r sgôr isaf fel y sgôr cyffredinol:

Cwestiwn allweddolCanran yr atebion ‘Ydy’
A yw asesu a chynllunio gwaith di-dâl yn bersonol?45%
A yw’r trefniadau ar gyfer gwaith di-dâl yn gwneud y gorau o elfennau ailsefydlu ac yn cefnogi ymataliad?74%
A yw gwaith di-dâl yn cael ei gyflawni’n ddiogel?64%
A yw dedfryd y llys yn cael ei gweithredu’n briodol?76%
  • Roedd arweinwyr rhanbarthol, gan gynnwys arweinydd rhanbarthol gwaith di-dâl, wedi canolbwyntio ar wella perfformiad a gweithgareddau. Roedd wedi cyflwyno tasglu ar gyfer gwaith di-dâl i ganolbwyntio ar y materion hyn, a hynny wedi cael rhywfaint o lwyddiant. Ym mis Mai 2025, roedd gwaith di-dâl wedi rhagori ar bump o’i chwe phrif darged ar gyfer perfformiad, gan gynnwys y targed ar gyfer cwblhau gwaith di-dâl (92 y cant). Cyfradd yr achosion a gafodd eu dirwyn i ben oedd 1.25 y cant, gyda’r targed cenedlaethol yn 2.5 cant. Yn y 12 mis blaenorol, bu pwyslais cryf ar leihau nifer yr achosion segur. Pan gyhoeddon ni y bydden ni’n cynnal arolygiad, 5 y cant oedd canran yr achosion o waith di-dâl a oedd ag oriau’n weddill i’w cyflawni ers dros 12 mis, i lawr o 9 y cant flwyddyn ynghynt.
  • Roedd rheolwyr canol a staff gwaith di-dâl yn cwrdd yn rheolaidd drwy’r unedau cyflawni i gael gwared ar rwystrau ac i wella lefelau gorfodi. Roedd hyn yn cael rhywfaint o effaith, a gwelson ni fod camau gweithredu wedi’u cymryd pan oedd hynny’n angenrheidiol mewn 27 o’r 35 o achosion perthnasol. Roedd barn broffesiynol briodol wedi’i rhoi mewn perthynas ag apwyntiadau a gollwyd mewn 35 o’r 48 o achosion perthnasol.
  • Drwy’r rhanbarth, roedd pwyslais cryf ar gefnogi gweithgarwch adsefydlu ac ymatal rhag troseddu ymhlith y rheini a oedd yn gwneud gwaith di-dâl. Mewn 28 o’r 47 o achosion yr edrychwyd arnyn nhw, roedd gwaith di-dâl yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu yn y maes cyflogaeth. Gwelson ni enghreifftiau o gamau addas yn cael eu cymryd i gysylltu’r rheini a oedd yn gwneud gwaith di-dâl â lleoliadau a oedd yn addas i’w hanghenion a/neu eu diddordebau. Roedd nifer o gynlluniau’n bodoli i gefnogi anghenion yn ymwneud ag amrywiaeth, gan gynnwys gweithdy i gyfranogwyr anabl a phobl sydd ag anghenion yn gysylltiedig â niwroamrywiaeth. Ar adeg yr arolygiad rhanbarthol, roedd y gwasanaeth ar fin recriwtio goruchwyliwr benywaidd arall, a fyddai’n ei alluogi i ddarparu prosiectau i fenywod yn unig drwy’r holl unedau cyflawni.
  • Serch hynny, dim ond yn hanner yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw yr oedd yr asesiadau’n ystyried anghenion cyfranogwyr o ran amrywiaeth ac effaith debygol hynny ar sut y bydden nhw’n cydymffurfio ac yn ymwneud â gwaith di-dâl. Yn fwy arwyddocaol, ac fel y gwelson ni wrth edrych ar y rhan fwyaf o elfennau’r gwaith yng Nghymru, mewn dros hanner yr achosion perthnasol nid oedd y gwaith asesu a chynllunio yn canfod ffactorau a oedd yn gysylltiedig â’r risg o niwed. 
  • Mewn gormod o’r achosion yr edrychon ni arnyn nhw, nid oedd asesiadau’n ystyried yr holl ffactorau a oedd yn effeithio ar allu’r unigolyn i gwblhau ei orchymyn. Mewn rhai achosion, roedd teimlad bod yr adnodd asesu electronig yn rhy sylfaenol a’i fod yn cael ei gwblhau mewn ffordd ffwrdd-â-hi. Roedd rhai arwyddion bod y sesiwn waith cyn y lleoliad yn gyfle i edrych ymhellach ar risgiau. Serch hynny, nid oedd hyn yn briodol, gan fod y sesiwn yn cael ei darparu gan staff gwaith di-dâl sydd heb eu hyfforddi i gynnal asesiadau o’r fath. Mewn gormod o achosion, nid oedd digon o gyfathrebu rhwng yr ymarferwyr prawf a oedd yn cynnal asesiadau a staff gwaith di-dâl. Yn ôl ein gwaith gwerthuso ni, dim ond mewn 34 y cant o’r achosion yr edrychon ni arnyn nhw yr oedd gwaith partneriaeth effeithiol yn cael ei wneud rhwng yr holl staff a oedd yn ymwneud ag achos.
  • Lansiwyd proses newydd i rannu gwybodaeth am risgiau yng Nghymru (ac yn genedlaethol) ym mis Gorffennaf 2025 a gobaith arweinwyr oedd y byddai hyn yn gwella rhai o’r diffygion a nodwyd gennyn ni.

R 2.5 AilsefydluSgôr
Mae gwaith ailsefydlu’n amserol, yn bersonol ac wedi’i gyd-drefnu, gan fynd i’r afael ag anghenion ailsefydlu’r unigolyn a chefnogi’r gwaith o’i integreiddio i’r gymuned.Angen gwella

Mae ein sgôr[5] ar gyfer ailsefydlu wedi’i seilio ar ganran yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw y barnwyd eu bod yn foddhaol o dan un cwestiwn allweddol:

Cwestiwn allweddolCanran yr atebion ‘Ydy’
A yw ailsefydlu’n amserol, yn bersonol ac wedi’i gyd-drefnu, ac a yw’n mynd i’r afael ag anghenion ailsefydlu allweddol ac yn cefnogi’r broses o integreiddio’r unigolyn yn y gymuned?53%
  • Drwy Gymru, roedd pwyslais strategol cryf ar waith ailsefydlu. Roedd cyfarwyddwr y grŵp carchardai a’r cyfarwyddwr prawf rhanbarthol yn cadeirio fforwm misol yr uwch arweinwyr bob yn ail. Ymhlith mynychwyr y fforwm roedd penaethiaid yr unedau cyflawni a llywodraethwyr yr holl garchardai yng Nghymru, yn ogystal â’r ddau garchar i fenywod sy’n gwasanaethu Cymru, Styal ac Eastwood Park. Roedd nifer o gynlluniau wedi’u mabwysiadu drwy’r fforwm hwn, gan gynnwys defnyddio cyfweliadau dan arweiniad yn lle’r system sgrinio sylfaenol a gâi ei defnyddio mewn carchardai yn Lloegr, ynghyd â llwybr penodol i fenywod.
  • Roedd llawer o hyn wedi’i adlewyrchu yng nghanfyddiadau ein dadansoddiad o 107 o achosion drwy’r chwech uned gyflawni. Mewn 74 o’r 102 o achosion perthnasol, roedd gwasanaethau ailsefydlu’n cael eu darparu’n unol ag anghenion ailsefydlu, gan flaenoriaethu’r anghenion mwyaf hanfodol. Mewn 77 y cant o achosion, roedd y rheolwr troseddwyr cymunedol wedi canfod ac wedi mynd i’r afael â’r prif anghenion o ran ailsefydlu neu ymatal rhag troseddu cyn i’r unigolyn gael ei ryddhau.
  • Er gwaethaf hyn, roedd y prif ddiffyg a welson ni mewn gwaith achosion yn gysylltiedig â chadw pobl yn ddiogel. Dim ond mewn 52 o’r 101 o achosion perthnasol y gwnaeth y rheolwr troseddwyr cymunedol ganfod a mynd i’r afael â materion o bwys a oedd yn ymwneud â niwed cyn rhyddhau’r unigolyn. Ym mhob un o’r chwech uned gyflawni, roedd nifer yr achosion a oedd yn cyrraedd y safon hon yn ddigonol yn is na’r rheini a oedd yn ddigonol wrth ganolbwyntio ar ymatal rhag troseddu ac anghenion ailsefydlu. I raddau helaeth, roedd hyn yn adlewyrchu ein canfyddiadau yn yr holl waith achos a oedd yn gysylltiedig â chadw pobl yn ddiogel.
  • Rhwng y chwech uned gyflawni, gwelson ni gryn dipyn o amrywiad yn ansawdd y gwaith a gâi ei wneud i helpu pobl i ailsefydlu. Yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg, roedd 11 o’r 14 achos yr edrychon ni arnyn nhw yn cyrraedd ein safon ar gyfer ailsefydlu, ond dim ond pump o’r 16 achos yr edrychon ni arnyn nhw yn Abertawe Castell-nedd Port Talbot oedd yn gwneud hynny.
  • Yn yr arolygiadau diwethaf yn Abertawe Castell-nedd Port Talbot a Gwent (y ddau yn 2021), barnwyd bod cyflwyno timau dedfrydau byr yng Nghymru yn effeithiol wrth gefnogi unigolion a oedd yn dychwelyd i’r gymuned. Drwy Gymru, roedd timau dedfrydau byr wedi dod i ben mewn rhai unedau cyflawni, gan gynnwys yn Abertawe Castell-nedd Port Talbot a Gwent. Serch hynny, roedden nhw wedi parhau yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg. Yn y tair uned gyflawni a oedd yn perfformio orau wrth wneud gwaith ailsefydlu (Gogledd Cymru, Caerdydd a Bro Morgannwg, a Gwent), roedd y gwaith gosod tasgau y bu’r timau dedfrydau byr yn ei wneud wedi parhau.
  • Yn fras, roedd yr achosion o ddedfrydau byr yr edrychon ni arnyn nhw yn llai tebygol o gyrraedd ein safon gyffredinol ar gyfer digonolrwydd. Roedd gan Abertawe Castell-nedd Port Talbot gyfran uwch o achosion o’r fath.
  • Yn gyffredinol, er bod y broses o drosglwyddo rhwng rheolwyr troseddwyr yn y carchar a rheolwyr troseddwyr cymunedol wedi’i chwblhau mewn nifer go dda o achosion (84 y cant ym mis Mai 2025), nid oedd hyn wastad yn adlewyrchu ansawdd rhai o’r adolygiadau hyn. Er y gall adroddiadau’r tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu ac adnodd asesu Cymru ganfod rhai o’r problemau fel rhan o broses werthuso gyffredinol yr unedau cyflawni, roedd arweinwyr yn gobeithio y byddai gwaith y tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu yn cael ei ehangu i helpu’n fwy penodol gyda gwaith ailsefydlu.

R 2.6 Gwaith statudol gyda dioddefwyrSgôr
Mae gwybodaeth berthnasol ac amserol yn cael ei rhoi i ddioddefwyr trosedd difrifol, a rhoddir cyfle iddynt gyfrannu eu barn ar adegau allweddol yn y ddedfryd.Da

Mae ein sgôr[6] ar gyfer gwaith gyda dioddefwyr wedi’i seilio ar ganran yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw y barnwyd eu bod yn foddhaol o dan dri chwestiwn allweddol, gan ddefnyddio’r sgôr isaf fel y sgôr cyffredinol:

Cwestiwn allweddolCanran yr atebion ‘Ydy’/’Oes’
A yw cyswllt cychwynnol â dioddefwyr yn annog ymgysylltu â’r cynllun cyswllt â dioddefwyr ac yn darparu gwybodaeth am ffynonellau cymorth?92%
A oes cyfnewid gwybodaeth a chyfathrebu effeithiol i gefnogi diogelwch dioddefwyr?75%
A yw cyswllt â dioddefwyr cyn-rhyddhau yn caniatáu iddynt wneud cyfraniadau priodol i’r amodau rhyddhau?81%
  • Mae gwaith statudol gyda dioddefwyr yn golygu gwaith y rhanbarth drwy’r cynllun i gysylltu â dioddefwyr. Mae’r cynllun hwn yn rhoi hawl i ddioddefwyr gael cefnogaeth gan y Gwasanaeth Prawf drwy gydol cyfnod y ddedfryd os bydd y sawl a gyflawnodd drosedd dreisgar neu drosedd rhyw yn cael dedfryd o 12 mis neu ragor yn y carchar.
  • Yn 2023, lansiwyd Uned Dioddefwyr Cymru. Ym mis Ionawr 2024, daeth y cynllun hysbysu dioddefwyr o dan ofal yr uned. Cynllun yw hwn sy’n galluogi dioddefwyr troseddau stelcio ac aflonyddu, pan fydd y dedfrydau’n llai na 12 mis, i ofyn am amodau ar y drwydded a gwybodaeth am y ddedfryd. Roedd hwn yn gynllun cadarnhaol i sicrhau bod gwaith gyda dioddefwyr yn cael digon o sylw ac adnoddau.
  • Roedd dau uwch swyddog prawf yn rheolwyr llinell ar bob un o’r 21 o swyddogion cyswllt dioddefwyr drwy’r rhanbarth. Roedd y staff yn cael cyfarfodydd diweddaru â’u rheolwyr bob tair wythnos. Roedd cyfarfodydd gosod tasgau wythnosol yn cael eu cynnal, ynghyd â chyfarfodydd tîm misol, a sesiynau dysgu misol yn ystod amser oedd wedi’i neilltuo. Roedd yr uned yn rheoli cyfanswm o 3,620 o achosion ddiwedd mis Medi 2025. Roedd yr arweinydd rhanbarthol ar gyfer gwaith gyda dioddefwyr yn mynychu Bwrdd Cyfiawnder Troseddol Cymru i roi sicrwydd bod y system yn gweithio’n effeithiol.
  • Ym mwyafrif llethol yr achosion yr edrychon ni arnyn nhw, roedd dioddefwyr wedi cael llythyr a thaflen yn esbonio natur y cynllun. Yn yr holl achosion, pan na chafwyd ymateb cychwynnol, roedd y swyddogion cyswllt dioddefwyr wedi gwneud cyswllt dilynol, gan amlaf drwy e-bost neu alwad ffôn. Mewn sawl achos, roedd hyn yn cynyddu’r tebygolrwydd o allu ymgysylltu â’r dioddefwyr. Gwelson ni hefyd enghreifftiau o ddyfalbarhad ar ran y swyddogion cyswllt dioddefwyr pan na fydden nhw’n cael ymateb ar y cychwyn.
  • Roedden ni’n falch o weld bod y dioddefwr wedi cael cefnogaeth i wneud datganiad personol i’r bwrdd parôl yn y tri achos lle roedd hynny’n briodol. Ym mhob achos perthnasol, roedd amodau a oedd yn gwahardd cyswllt wedi’u cynnwys yn y trwyddedau.
  • Roedd yr arweinydd rhanbarthol ar gyfer gwaith gyda dioddefwyr hefyd yn cwrdd yn fisol â phenaethiaid yr unedau cyflawni i ganfod unrhyw broblemau wrth weithio gydag ymarferwyr prawf. Gwelson ni hyn mewn 12 o’r 16 o achosion perthnasol. Serch hynny, roedd hwn yn faes gwaith a oedd yn gofyn am fwy o sylw ac am fod yn fwy effro iddo, yn enwedig o ran sut yr oedd yn berthnasol i waith gyda phobl lle roedd trefniadau MAPPA wedi’u cyflwyno.

Dysgu o droseddau difrifol pellach (Back to top)

  • Roedd y tîm troseddau difrifol pellach yn gweithio o dan reolaeth gyffredinol pennaeth rhanbarthol amddiffyn y cyhoedd. Roedd dirprwy bennaeth ar gyfer amddiffyn y cyhoedd yn y gymuned, ynghyd â thri o reolwyr ansawdd a chraffu (rheolwyr adolygu yw enw’r rhain yn Lloegr). Roedd gan y tîm hefyd reolwr busnes a gweinyddwr i roi un pwynt cyswllt. Er mai targed y tîm oedd cael tri rheolwr ansawdd a chraffu, roedd dau reolwr arall o’r fath wedi’u recriwtio ac wedi ymuno â’r tîm yn ystod ein harolygiad. Roedd hyn yn adlewyrchu’r galw ar y tîm. Bwriad y gwasanaeth oedd cael un rheolwr ansawdd a chraffu arbenigol yn gysylltiedig â thîm anhwylder personoliaeth troseddwyr er mwyn cynnal adolygiadau o droseddau difrifol pellach, a hynny o safbwynt seicolegol.
  • Ar adeg ein harolygiad, roedd 15 o adolygiadau o droseddau difrifol pellach yn aros i gael eu cynnal, a’r rheini heb gael eu dechrau eto, ynghyd â saith arall nad oedd eto wedi’u cyflwyno. Roedd y data’n adlewyrchu cynnydd graddol yn yr hysbysiadau a oedd wedi cyrraedd y tîm dros y pum mlynedd ddiwethaf, ac roedd y cynnydd yn y staff yn ymateb cymesur i hyn.
  • O blith yr 11 o adolygiadau sicrwydd ansawdd o droseddau difrifol pellach a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn rhwng 13 Mai 2024 a 12 Mai 2025, roedd 73 y cant yn cyrraedd y safon ofynnol (‘Rhagorol’ neu ‘Dda’), er y nodwyd bod rhai cynlluniau gweithredu’n hir.
  • Ymhlith y prif ddiffygion a ganfuwyd gan yr adolygiadau o droseddau difrifol pellach, nid oedd ffactorau risg wedi’u hystyried yn ddigonol, nid oedd yr asesiad risg yn ystyried yr holl ffactorau perthnasol hysbys, nid oedd digon o oruchwyliaeth gan reolwyr, ac roedd diffyg chwilfrydedd proffesiynol. Roedd y rhain yn debyg i’n canfyddiadau yn ein hadolygiadau o achosion yn ystod yr arolygiad hwn.
  • Ymhlith y prif ffactorau a oedd yn sail i waith y tîm troseddau difrifol pellach roedd egwyddorion Ffactorau Dynol (a oedd yn berthnasol drwy holl waith Gwasanaeth Prawf Cymru), ac yn achos gwaith ym maes troseddau difrifol pellach yn benodol, dadansoddiadau o achosion ac effeithiau. Roedd y dadansoddiadau hyn yn cael eu cynnal chwech wythnos ar ôl cael hysbysiad. Bu’r rhain yn nodwedd o waith yng Nghymru ers mis Mai 2024, er nad oedd yn nodwedd yn yr adolygiadau llawn o droseddau difrifol pellach tan fis Hydref 2024. Teimlai’r holl dîm troseddau difrifol pellach fod manteision i ddadansoddiadau o achosion ac effeithiau, yn enwedig o ran yr hyn a ddysgir wrth gael golwg fanylach ar y ffactorau systemig a gweithdrefnol a oedd i’w gweld yn yr achos.
  • Ar ôl dadansoddi’r 11 o ddogfennau sicrwydd ansawdd ar gyfer troseddau difrifol pellach, penderfynwyd bod y tîm yn perfformio’n dda ar y cyfan o ran y safon a oedd yn gysylltiedig â ‘dadansoddi ymarfer a dysgu’. Roedd ei waith yn dangos dulliau gweithio archwiliol a dadansoddol effeithiol, negeseuon clir pan fyddai ymarfer yn is na’r safon ddisgwyliedig, a chynllunio camau gweithredu pan fyddai diffygion neu bethau’n cael eu hepgor wrth ymarfer.
  • Roedd y bwrdd adolygu achosion difrifol yn cefnogi’r hyn a ddysgir o droseddau difrifol pellach, a hynny wrth adolygu’r holl achosion golwg gynnar a’r cynlluniau gweithredu. Byddai pennaeth yr uned gyflawni berthnasol yn mynychu’r bwrdd i ystyried pa gamau gweithredu a oedd wedi’u cymryd o safbwynt yr uned, o safbwynt unigolion, neu o safbwynt rhanbarthol. Roedd y tîm hefyd yn creu bwletinau am faterion a oedd yn gysylltiedig ag ymarfer, a fyddai’n cael ei anfon at bob adran, ynghyd â ‘chroniclau’ o achosion. Roedd y rhain yn debyg i friffiau saith munud, ond yn fwy rhyngweithiol eu natur.
  • Byddai rheolwyr y tîm troseddau difrifol pellach yn helpu i rannu canfyddiadau adolygiadau o droseddau difrifol pellach gyda dioddefwyr/teuluoedd, ochr yn ochr â phenaethiaid yr unedau cyflawni, a bydden nhw hefyd yn cysylltu â’r swyddog cyswllt dioddefwyr perthnasol. Roedd hi’n ymddangos bod y ffaith bod y tîm troseddau difrifol pellach yn cyfrannu at y broses o rannu adolygiadau yn ddull unigryw a chadarnhaol o weithio yng Nghymru. Serch hynny, ar adeg yr arolygiad, nid oedd adborth wedi’i gasglu gan ddioddefwyr/teuluoedd am hyn.

Cynnydd yn dilyn argymhellion blaenorol (Back to top)

Yr argymhelliad blaenorolY camau a gymerwyd a’r effaithCategoriA oes angen gwella o hyd?
O’r arolygiad blaenorol o Wasanaeth Prawf Cymru 2021Disgrifio’n gryno y camau a gymerwyd a’r effaithCynnydd digonol/ Rhywfaint o gynnydd/ Dim cynnyddOes/nac oes Os oes, ystyriwch ailadrodd yr argymhelliad
Y Gwasanaeth Prawf – Dylai rhanbarth Cymru sicrhau bod y broses o fonitro perfformiad yn rhoi mwy o bwyslais ar effeithiolrwydd ac ansawdd y gwasanaethau a ddarperir.Datblygu’r tîm prawf ar gyfer cynllunio, sicrwydd a gweithredu ers yr arolygiad diwethaf (2021). Mae adnodd sicrwydd Cymru wedi’i ddatblygu drwy’r tîm hwn. Mae hwn yn gweithredu ar gylch pedwar mis ac yn canolbwyntio ar waith archwilio haen un, sy’n cyd-fynd â safonau Arolygiaeth Prawf EF. Mae’r canfyddiadau wedyn yn cael eu hadolygu drwy baneli atebolrwydd sy’n seiliedig ar yr unedau cyflawni ac mae targedau’n cael eu gosod i ddechrau’r cylch eto. Mae’r ffocws ar wella ansawdd yn hytrach nag ar archwilio. Mae hyn wedi’i integreiddio â model y swyddogion datblygu ansawdd ac egwyddorion Ffactorau Dynol.Cynnydd digonolNac oes
Dylai Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF   sicrhau bod lefelau staffio’n cael eu pennu’n chwim ar gyfer yr uned gyflawni a’r rhanbarth.Roedd y lefelau staffio drwy Gymru, ar y cyfan, yn ddigonol. Serch hynny, roedd rhai diffygion. Roedd ymdrech fawr i gefnogi recriwtio, a swyddogion prawf yn enwedig, ac adeg yr arolygiad roedd 87 o Gymwysterau Proffesiynol mewn Gwaith Prawf. Nac oes
Dylai Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF   ddatrys y diffyg presennol yn y modd y caiff rhaglenni achrededig eu darparu a gofalu bod camau effeithiol yn cael eu cymryd i sicrhau ansawdd yr ymyriadau sy’n cael eu cynnig fel dewis arall.Roedd diffyg o hyd yn y modd roedd rhaglenni achrededig yn cael eu darparu pan gynhaliwyd ein harolygiadau. Serch hynny, roedd hyn yn bennaf oherwydd y pontio i’r gyfres newydd o raglenni o dan ‘Building Choices’. Gwelson ni amryw o enghreifftiau o ymyriadau strwythuredig yn cael eu darparu gan ymarferwyr drwy’r unedau cyflawni. Nac oes
sicrhau bod camau y cytunwyd arnyn nhw gan y Bwrdd Rheoli Galw Cenedlaethol yn blaenoriaethu darparu gwasanaethau o ansawdd da ac yn adolygu’n rheolaidd effaith y camau hynny.Ar adeg yr arolygiad yn 2021, roedd strategaeth genedlaethol yn bodoli ar gyfer rheoli galw a honno’n effeithio’n uniongyrchol ar sut yr oedd y gwasanaethau a ddarperid yn cael eu blaenoriaethu yn uned gyflawni Gwent. Ers hynny, roedd y gwasanaeth cenedlaethol wedi cyflwyno model ar gyfer blaenoriaethu’r unedau cyflawni a oedd yn wynebu’r anawsterau mwyaf yn sgil prinder staff. Nid oedd hyn bellach yn wir yn achos Gwent, nac unrhyw un o’r pump uned gyflawni arall yng Nghymru.Cynnydd digonolNac oes

Rhagor o wybodaeth (Back to top)

Mae data llawn o’r arolygiad hwn a rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynnal yr arolygiad ar gael yn yr atodiad am ddata.

Mae geirfa Saesneg sy’n egluro rhai o’r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.

Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Keith McInnis, gyda chymorth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o sawl rhan o’r Arolygiaeth. Hoffen ni ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd yn yr arolygiad hwn. Heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai wedi bod yn bosibl ei gynnal.

[1] Mae’r sgôr ar gyfer y safon wedi’i seilio ar y sgoriau cyfanredol o’r unedau cyflawni o dan y cwestiynau allweddol, a chaiff y sgôr wedyn ei rhoi mewn band sgorio. Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg y gwaith arolygu i’w canfod yn yr atodiad am ddata.

[2] Mae’r sgôr ar gyfer y safon wedi’i seilio ar y sgoriau cyfanredol o’r unedau cyflawni o dan y cwestiynau allweddol, a chaiff y sgôr wedyn ei rhoi mewn band sgorio, sydd mewn print trwm yn y tabl. Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg y gwaith arolygu i’w canfod yn yr atodiad am ddata.

[3] Mae’r sgôr ar gyfer y safon wedi’i seilio ar y sgoriau cyfanredol o’r arolygiadau o’r unedau cyflawni a gwaith di-dâl o dan y cwestiynau allweddol, a chaiff y sgôr wedyn ei rhoi mewn band sgorio, sydd mewn print trwm yn y tabl. Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg y gwaith arolygu i’w canfod yn yr atodiad am ddata.

[4] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn seiliedig ar y sgôr isaf o dan bob un o’r cwestiynau allweddol, wrth edrych ar yr achosion o waith di-dâl a arolygwyd yn ystod y gwaith maes rhanbarthol, a chaiff y sgôr wedyn ei rhoi mewn band sgorio, sydd mewn print trwm yn y tabl. Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg y gwaith arolygu i’w canfod yn yr atodiad am ddata.

[5] Mae’r sgôr ar gyfer y safon wedi’i seilio ar y sgoriau cyfanredol ar gyfer ailsefydlu yn yr arolygiadau o’r unedau cyflawni, gan roi sgôr i’r cwestiwn allweddol, a chaiff y sgôr wedyn ei rhoi mewn band sgorio, sydd mewn print trwm yn y tabl. Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg y gwaith arolygu i’w canfod yn yr atodiad am ddata.

[6] Mae’r sgôr ar gyfer y safon wedi’i seilio ar y sgoriau cyfanredol o dan y cwestiynau allweddol, o’r achosion cymwys a arolygwyd fel rhan o’r gwaith maes rhanbarthol, a chaiff y sgôr wedyn ei rhoi mewn band sgorio, sydd mewn print trwm yn y tabl. Mae’r data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg y gwaith arolygu i’w canfod yn yr atodiad am ddata.