Arolygiad o waith cyfiawnder ieuenctid gyda phlant a dioddefwyr yng Nghastell-nedd Port Talbot
Rhagair (Back to top)
Mae’r arolygiad hwn yn rhan o’n rhaglen o arolygiadau ar draws gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid (GCI) yng Nghymru a Lloegr.[1] Yn yr arolygiad hwn, rydym wedi arolygu a sgorio gwaith gyda phlant a dioddefwyr yn GCI Castell-nedd Port Talbot ar draws dau faes eang: ansawdd y gwaith a wneir gyda phlant sy’n gweithio gyda’r GCI ac ansawdd y gwaith a wneir gyda dioddefwyr.
Yn gyffredinol, cafodd GCI Castell-nedd Port Talbot ei farnu fel ‘Angen gwella’.
Roedd ymarferwyr ac arweinwyr y GCI yn frwd ac wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i blant. Gwelsom ddiwylliant o fyfyrio a thryloywder a oedd yn croesawu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygiad parhaus. Roedd gan arweinwyr y GCI rhychwant helaeth o reolaeth a chyfrifoldebau ac roeddent yn gweithio’n galed i fodloni gofynion strategol a gweithredol. Wrth symud ymlaen, roedd gan y bwrdd rheoli rôl hollbwysig o ran sicrhau bod gan y GCI a’i dîm arwain ddigon o gapasiti i gyflawni eu dyletswyddau i safon uchel yn gyson.
Roedd cryfderau o ran asesu, cynllunio a darparu gwaith i sicrhau newid cadarnhaol. Roedd ymarferwyr yn fedrus o ran ennyn diddordeb plant a’u cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau a oedd yn meithrin hyder, hunan-barch a sgiliau cymdeithasol. Roedd adroddiadau sy’n hawdd eu darllen ar leferydd ac iaith yn gwella gweithgarwch asesu ac yn ar wain at addasiadau wrth gynllunio a darparu gwasanaethau i blant.
Fodd bynnag, gwelsom anghysondebau yn yr ymarfer a’r oruchwyliaeth o waith achos i hyrwyddo diogelwch y plentyn a’r gymuned. Nid oedd asesu bob amser yn ddadansoddol nac yn ddigon chwilfrydig. Ar adegau, nid oedd gwybodaeth allweddol a rannwyd gan y plentyn a’i rieni neu ofalwyr yn cael ei chadarnhau gan wasanaethau perthnasol, gan arwain at orddibyniaeth ar hunan-ddatgeliad. Mewn sawl achos, roedd diffygion o ran asesu wedi effeithio ar effeithiolrwydd cynllunio a darpariaeth.
Ar adeg cyhoeddi’r arolygiad, nid oedd yr un o’r plant a gefnogwyd gan y GCI mewn ysgol brif ffrwd yn llawn amser. Roedd y GCI yn cydnabod pwysigrwydd hanfodol addysg o ran cefnogi newid cadarnhaol a hyrwyddo diogelwch y plentyn a’r gymuned. Gwnaeth ymdrechion helaeth i gefnogi ailintegreiddio, fe eiriolodd ar ran plant a’u rhieni neu ofalwyr, ac uwchgyfeiriodd pryderon o fewn yr awdurdod lleol. Fodd bynnag, roedd angen gwneud llawer o waith o hyd ar lefel y bwrdd rheoli a’r uwch lefel strategol i sicrhau bod plant y GCI yn gallu manteisio ar eu hawl statudol i addysg.
Roedd angen cryn ddatblygu gweithredol a strategol wrth weithio gyda dioddefwyr. Gwelsom fod y trefniadau sefydliadol ar gyfer gwaith gyda dioddefwyr yn cael eu harwain gan arweinwyr y GCI, gyda chymhelliant cyfyngedig gan fwrdd rheoli’r GCI. Ar adeg yr arolygiad, nid oedd arweinydd strategol ar lefel bwrdd wedi’i nodi ar gyfer y ffrwd waith arfaethedig gyda dioddefwyr, a dim ond yn ddiweddar y cymerwyd camau i gryfhau gwydnwch a chapasiti o fewn y rôl o weithio gyda dioddefwyr.
Martin Jones CBE
Prif Arolygydd Prawf EF
Sgoriau (Back to top)
| Dechreuodd y gwaith maes ym mis Ionawr 2026 | Sgôr 5/12 |
| Sgôr gyffredinol | Angen gwella |
Gweithio gyda phlant
| 2.1 Asesu | Angen gwella |
| 2.2 Cynllunio | Angen gwella |
| 2.3. Darpariaeth | Da |
Gweithio gyda dioddefwyr
| V1 Gweithio gyda dioddefwyr | Angen gwella |
Argymhellion (Back to top)
O ganlyniad i ganfyddiadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud naw o argymhellion y credwn, os cânt eu gweithredu, y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd gwasanaethau troseddau ieuenctid yng Nghastell-nedd Port Talbot. Bydd hyn yn gwella bywydau’r plant a’r dioddefwyr sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ac yn diogelu’r cyhoedd yn well.
Dylai Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Castell-nedd Port Talbot:
- gwella asesu a chynllunio er mwyn sicrhau gwaith cyson o ansawdd uchel sy’n cadw plant a chymunedau’n ddiogel
- cryfhau cysondeb ac effaith goruchwyliaeth rheolwyr fel ei bod yn ysgogi gwelliannau yn ansawdd y gwaith i gadw plant a chymunedau’n ddiogel.
Dylai’r Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid:
- blaenoriaethu’r gwaith o ddatblygu ei ffrydiau gwaith i sicrhau bod y bwrdd, yn hytrach na’r GCI, yn bwrw ymlaen â meysydd allweddol o weithio mewn partneriaeth
- adolygu rhychwant cyfrifoldeb arweinwyr y GCI i sicrhau bod llwythi gwaith a disgwyliadau rheolwyr yn rhesymol, a bod gan y tîm arwain ddigon o gapasiti i gwblhau ei rôl i safon uchel yn gyson
- arwain a blaenoriaethu goruchwyliaeth strategol o waith gyda dioddefwyr, gan sicrhau bod dadansoddiad a gwerthusiad cywir ar waith
- parhau i adolygu gwydnwch gwaith gyda dioddefwyr yn y gwasanaeth a sicrhau bod ganddo ddigon o adnoddau i sbarduno gwelliannau a chyflawni gwaith o ansawdd uchel i ddioddefwyr
- sicrhau cynrychiolaeth gyson o ran addysg i arwain yr ymateb strategol i wella mynediad at addysg, presenoldeb a chanlyniadau i blant sy’n ymwneud â’r GCI
- parhau i weithio gyda Heddlu De Cymru i ddatblygu prosesau sy’n rhoi gwell dealltwriaeth o broffil ac anghenion amrywiaeth dioddefwyr.
Dylai Prif Weithredwr Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot:
- arwain dull cydweithredol, traws-bartneriaeth sy’n mynd i’r afael yn weithredol â’r rhwystrau sy’n atal plant y GCI rhag manteisio ar eu hawl statudol i addysg.
Cefndir (Back to top)
Fe wnaethom waith maes yn GCI Castell-nedd Port Talbot dros gyfnod o wythnos, gan ddechrau ar 26 Ionawr 2026. Fe wnaethom archwilio achosion lle’r oedd y GCI wedi dechrau gweithio gyda phlant sy’n destun fechnïaeth neu remand, datrysiadau yn y llys, neu ddatrysiadau y tu allan i’r llys rhwng 27 Ionawr 2025 a 28 Tachwedd 2025. Fe wnaethom hefyd gynnal 11 o gyfweliadau ag ymarferwyr, gan gynnwys rhai rheolwr gweithredol.
Fe wnaethom arolygu’r trefniadau sefydliadol ar gyfer y gwaith a wnaed gyda dioddefwyr ac edrych ar achosion lle’r oedd y GCI wedi bod mewn cysylltiad â dioddefwyr rhwng 28 Gorffennaf 2025 a 26 Medi 2025. Gwnaethom hefyd gynnal cyfweliadau â staff a rheolwyr sy’n gyfrifol am gyflawni’r gwaith hwn.
Mae Sir Castell-nedd Port Talbot wedi’i lleoli yn Ne Cymru. Mae’n rhannu ei ffiniau ag Abertawe, Pen-y-bont ar Ogwr, Powys, Sir Gaerfyrddin a Rhondda Cynon Taf. Mae’r sir yn amrywiol yn ddaearyddol ac mae’n cynnwys dwy brif dref, Castell-nedd a Phort Talbot, sy’n ddwys eu poblogaeth. I’r gwrthwyneb â hyn, mae pum dyffryn sy’n nodweddiadol o ardaloedd gwledig ac y gall mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth gyhoeddus effeithio arnynt.
Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Gastell-nedd Port Talbot boblogaeth o 143,249, gyda phlant 10 i 17 oed yn cyfrif am 9.5 y cant o’r boblogaeth hon. Roedd Cyfrifiad 2021 yn nodi bod 4.9 y cant o’r boblogaeth ieuenctid yn Ddu neu’n ethnig lleiafrifol. Roedd canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghastell-nedd Port Talbot wedi gostwng o 15.3 y cant yn 2011 i 13.5 y cant yn 2021.
Arolygwyd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae’r Gorllewin gan Arolygiaeth Prawf EF yn 2018. Roedd Castell-nedd Port Talbot yn rhan o’r gwasanaeth hwn, ochr yn ochr â Phen-y-bont ar Ogwr ac Abertawe. Cyhoeddwyd adroddiad yr arolygiad ym mis Mawrth 2019, gyda sgôr gyffredinol o ‘Annigonol’. Cafodd y gwasanaeth ei ddadgyfuno ym mis Ebrill 2019.
Ar adeg yr arolygiad hwn, roedd y GCI yn rhan o’r gyfarwyddiaeth plant a phobl ifanc, a oedd wedi cwblhau adolygiad helaeth yn ddiweddar o sut roedd yn darparu gwasanaethau. Cynhaliwyd yr adolygiad mewn ymateb i gymhlethdod cynyddol o ran anghenion a galw, ar adeg pan oedd yn ofynnol i’r adran a’r awdurdod lleol ehangach wneud arbedion ariannol sylweddol. O ganlyniad i’r adolygiad, y cynllun oedd i brif swyddog y GCI ddod yn arweinydd strategol ar gyfer pobl ifanc o 1 Ebrill 2026 ymlaen, gan gadw arweinyddiaeth y GCI. Roedd yr arweinydd strategol ar gyfer pobl ifanc yn adrodd yn ôl i bennaeth y gwasanaethau plant a phobl ifanc, a oedd hefyd yr unigolyn cyfrifol ar gyfer Cartref Diogel i Blant Hillside. Cadeiriwyd bwrdd rheoli’r GCI gan gyfarwyddwr gwasanaethau cymdeithasol, tai a diogelwch cymunedol.
Roedd tîm arwain y GCI yn cynnwys y prif swyddog/arweinydd strategol ar gyfer pobl ifanc; rheolwr gweithredol; dau uwch ymarferydd; gweithiwr cymdeithasol ymgynghorol; rheolwr polisi, perfformiad a gwybodaeth; a rheolwr busnes. Roedd rhychwantau rheolaeth a chyfrifoldebau yn helaeth, ac roedd arweinwyr yn gweithio’n galed i fodloni gofynion strategol a gweithredol.
Roedd tîm y GCI wedi elwa o secondiadau a rolau arbenigol a oedd yn cynnwys swyddog heddlu, swyddog prawf, gweithiwr addysg, nyrs arbenigol gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS), a gweithwyr camddefnyddio sylweddau. Roedd gweithiwr pontio penodol rhwng ieuenctid ac oedolion yn darparu cymorth cyfannol i unigolion a oedd yn symud o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, yn ogystal â’r rhai hynny yr oedd angen mewnbwn ychwanegol arnynt er mwyn osgoi uwchgyfeirio i wasanaethau oedolion statudol.
Roedd y nodi a’r gefnogaeth o anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn drawiadol. Roedd gan y GCI gytundeb ar y cyd â GCI Abertawe a Chartrefi Diogel i Blant Hillside i ariannu nifer o therapyddion lleferydd ac iaith a chynorthwyydd iaith a lleferydd. Roedd hyn yn golygu bod anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn cael eu sgrinio a’u hasesu’n rheolaidd, gyda’r adroddiadau sy’n hawdd eu darllen ac yn addas i blant yn cael eu rhannu â’r plentyn, ei rieni neu ei ofalwyr, ac eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn. Roedd rôl y cynorthwyydd lleferydd ac iaith yn cefnogi’r gwaith hanfodol o ddarparu ymyriadau i’r plentyn. Roedd y therapyddion lleferydd ac iaith hefyd wedi cyflwyno’r prosiect peilot EngageED, sef prosiect i gefnogi ysgolion i nodi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant fel ffordd o leihau gwaharddiadau.
Ar adeg cyhoeddi’r arolygiad, nid oedd yr un o’r plant a gefnogwyd gan y GCI mewn ysgol brif ffrwd yn llawn amser. Nid oedd llawer wedi bod yn mynd i’r ysgol, roeddent wedi cael eu gwahardd sawl gwaith, neu roeddent ar amserlenni rhan-amser. Dim ond un allan o bedwar cyfarfod o’r bwrdd rheoli a fynychwyd gan gynrychiolydd o adran addysg yr awdurdod lleol, ar lefel ddigon uchel, rhwng mis Ionawr a mis Hydref 2025, a gwelsom nad oedd anghenion addysgol plant sy’n agored i’r GCI yn cael eu diwallu gan yr awdurdod lleol.
Roedd y GCI yn gweithio ar y cyd â gwasanaethau plant ac roedd ganddynt fynediad at eu systemau cofnodi achosion. Roedd llwybrau ‘risg y tu allan i’r cartref’ wedi cael eu hadolygu ac yn cael eu gwreiddio ar draws y bartneriaeth.
Ar adeg cyhoeddi’r arolygiad, roedd data a ddarparwyd gan y GCI yn amlinellu bod y gwasanaeth yn gweithio gyda 64 o blant, a oedd yn cynnwys y rhai hynny a oedd yn cael eu cefnogi gan raglenni ataliol, dedfrydau cymunedol statudol, a datrysiadau y tu allan i’r llys. Cynhaliodd y GCI weithdai ataliol mewn ysgolion a gweithiodd ochr yn ochr â’r bartneriaeth i ddarparu gwaith allgymorth wedi’i dargedu. Roedd y panel ymyriadau cynnar yn hyrwyddo dull amlasiantaeth o nodi anghenion yn gynnar a sicrhau bod plant yn cael eu dyrannu i’r gwasanaeth mwyaf priodol. Roedd y GCI wedi gweld cynnydd yn ystod 2023/2024 yn nifer y rhai a oedd yn ymuno am y tro cyntaf, a arweiniodd hyn at ddadansoddiad a thrafodaeth ym mwrdd rheoli’r GCI. Ers hynny, roedd ffigurau ar gyfer y rhai oedd yn ymuno am y tro cyntaf wedi gostwng yn sylweddol i 107 fesul 100,000 o’r boblogaeth, o’i gymharu â chyfartaledd Cymru a Lloegr o 138 fesul 100,000 o’r boblogaeth.
Roedd y GCI wedi gweithio ochr yn ochr â chydweithwyr cyfiawnder ieuenctid a Heddlu De Cymru i gwblhau polisi a phroses ranbarthol o ran datrysiadau y tu allan i’r llys, ac i adolygu ffurflen atgyfeirio’r heddlu er mwyn sicrhau dull cyson o gofnodi a rhannu manylion cyswllt dioddefwyr.
Ar adeg yr arolygiad, nid oedd data a ddarparwyd gan y GCI yn nodi gorgynrychiolaeth o ferched. Fodd bynnag, roedd y GCI wedi ymateb i gynnydd blaenorol drwy greu llwybr merched sy’n ystyriol o drawma a datblygu ymyriadau sy’n seiliedig ar rywedd.
Yn ystod ein hymweliad â chyd-destun gwaith maes a’n cyfarfodydd arddangos, dangosodd y GCI yr ystod eang o wasanaethau ac ymyriadau sydd ar gael i blant, gan gynnwys sesiynau gwaith grŵp sy’n rhywedd-benodol, y grŵp cyflogadwyedd, dysgu gyda chymorth ceffylau, a gweithgareddau awyr agored. Gwelsom y defnydd effeithiol o BASE 15, lleoliad addas i blant sydd gan y GCI, a addaswyd mewn ymateb i adborth gan blant. Roedd gan blant fynediad at ystafell bwrpasol ar gyfer llesiant, cegin, ystafell gynadledda gyda bwrdd pŵl a gemau, stiwdio trin gwallt, ystafell gerddoriaeth, a mannau ar gyfer celf a chrefft. Roedd y GCI hefyd wedi addasu’r lle tu allan ar gyfer y ddarpariaeth fewnol o ysgolion coedwig.
Parth dau: Gweithio gyda phlant (Back to top)
Fe wnaethom edrych yn fanwl ar 15 achos lle’r oedd y GCI wedi gweithio gyda phlant a oedd yn destun mechnïaeth, remand, dedfrydau cymunedol, neu ddatrysiadau y tu allan i’r llys.
| 2.1. Asesu | Sgôr |
| Mae asesu yn seiliedig ar wybodaeth ac yn bersonol, gan ddadansoddi’n effeithiol sut i sicrhau newid cadarnhaol a chadw plant a’r gymuned yn ddiogel. | Angen gwella |
Mae ein sgôr[2] ar gyfer asesu yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
| A yw asesu yn dadansoddi’n ddigonol sut i wneud y canlynol: | % ‘Ydy’ |
| sicrhau newid cadarnhaol i’r plentyn? | 73% |
| cadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel? | 60% |
Yn y rhan fwyaf o’r achosion a arolygwyd, roedd gweithgarwch asesu i sicrhau newid cadarnhaol yn fanwl ac yn cyfleu llais y plentyn. Cefnogwyd ymgysylltiad plant gan hunanasesiadau ac offer sgrinio sy’n addas i blant. Roedd gweithgarwch asesu yn cael ei wella drwy ystyried adroddiadau arbenigol, yn enwedig y rhai hynny a oedd yn nodi anghenion plant o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu, a chanfyddiadau o ymgynghoriadau CAMHS.
Os oedd plant wedi cael cymorth gan y gwasanaeth o’r blaen drwy raglenni ataliol, datrysiadau y tu allan i’r llys, neu orchmynion cymunedol, gwnaed ymdrechion i gael yr un ymarferydd, er mwyn hyrwyddo cysondeb a pharhad. Mewn sawl achos, arweiniodd y dull hwn at ymgysylltiad cadarnhaol gan blant a’u rhieni neu ofalwyr a oedd wedi amau gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau yn y gorffennol.
Roedd ystyriaeth yn cael ei rhoi yn gyson i asesu cryfderau a ffactorau amddiffynnol plant. Gwelsom nifer o enghreifftiau trawiadol lle roedd asesiadau’n cael eu hysgrifennu’n uniongyrchol i’r plentyn, a, lle’r oedd hyn yn cael ei wneud yn dda, roedd yn dod â’i ddiddordebau, ei bersonoliaeth a’i hunaniaeth yn fyw. Fodd bynnag, roedd ymarferwyr ac arweinwyr y GCI yn cydnabod bod angen rhagor o hyfforddiant a chefnogaeth i wreiddio’r arfer o ysgrifennu i’r plentyn yn llawn.
Yn y mwyafrif helaeth o’r achosion a arolygwyd, cafodd anghenion amrywiol y plant eu nodi a’u dadansoddi. Lle’r oedd hyn yn cael ei wneud yn dda, gwelsom ddealltwriaeth sensitif o effaith profiadau bywyd ac amgylchiadau unigol plant. Mewn sawl achos, edrychwyd ar ddiwylliant a threftadaeth plant gyda nhw, a arweiniodd hyn at sgyrsiau ystyrlon am hunaniaeth ac ymdeimlad o berthyn. Fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser yn amlwg, ac roedd cyfleoedd wedi’u colli i ddatblygu dulliau mwy cyson o archwilio anghenion amrywiol ac unigol pob plentyn.
Ystyriwyd dymuniadau a theimladau dioddefwyr uniongyrchol ym mhob achos perthnasol ond un, a lle bo modd, ymgorfforwyd gwybodaeth a ddarparwyd gan y gweithiwr cyswllt dioddefwyr yn y gweithgaredd asesu.
Yn eu gweithgarwch sicrhau ansawdd a’u harchwiliadau o waith gyda phlant, roedd y GCI wedi nodi’r angen i wella dyfnder a chysondeb y dadansoddiad, a oedd yn cyd-fynd â chanfyddiadau’r arolygiad hwn. Ar adegau, roedd y dadansoddiad yn gyfyngedig, yn canolbwyntio’n llwyr ar y trosedd presennol, nid oedd yn ystyried yr ystod o ymddygiadau blaenorol, ac nid oedd yn cofnodi’r rhesymau sylfaenol dros droseddu’r plentyn. Gwelodd yr arolygwyr hefyd achosion lle’r oedd asesiadau’n cynnwys datganiadau megis “Yr oedd y plentyn wedi dangos ymddygiad amhriodol”, heb unrhyw archwilio pellach i ddeall natur, difrifoldeb, cyd-destun nac effaith yr ymddygiad. Roedd hyn wedi arwain at golli cyfleoedd i ddadansoddi gwybodaeth mewn ffordd a fyddai’n nodi pryderon i’r plentyn neu i ddioddefwyr posibl neu ddioddefwyr gwirioneddol.
Roedd y GCI wedi sefydlu llwybrau rhannu gwybodaeth gyda’r bartneriaeth, a oedd yn cefnogi mynediad at ddata a gedwir gan yr heddlu, gwasanaethau plant, a staff gofal iechyd, addysg a phrawf. Fodd bynnag, nid oedd yr wybodaeth hon yn cael ei defnyddio’n gyson, a phan oedd yn cael ei defnyddio, nid oedd bob amser yn cael ei dadansoddi i ddeall ei harwyddocâd i’r plentyn. Arweiniodd hyn at fylchau yn y gweithgarwch asesu a dealltwriaeth gyfyngedig o anghenion y plentyn, yn ogystal â’r goblygiadau ar gyfer ei ddiogelwch ei hun neu ddiogelwch pobl eraill. Er enghraifft, er bod plant a oedd wedi ymwneud â gwasanaethau gofal cymdeithasol plant yn flaenorol wedi cael eu nodi, prin oedd y chwilfrydedd i ddeall yr amgylchiadau a oedd wedi arwain at hyn, neu’r effaith ar y plentyn a’i deulu.
Nid oedd gwybodaeth hanfodol a rannwyd gan y plentyn a’i rieni neu ofalwyr bob amser yn cael ei hategu gan y gwasanaethau perthnasol, gan arwain at orddibyniaeth ar hunan-ddatgeliad am ffactorau megis iechyd meddwl plentyn, cysylltiadau â chyfoedion hŷn, ac ymddygiadau honedig o fewn darpariaethau gofal.
Roedd yr ymateb i amgylchiadau newidiol plant yn amrywiol. Roedd nifer o enghreifftiau’n dangos tystiolaeth o asesu amlasiantaeth amserol ac effeithiol mewn ymateb i bryderon a oedd yn dod i’r amlwg, megis mwy o gamddefnyddio sylweddau, trosedd arall, ymosodiad yn y cartref, neu ddangosyddion o gamfanteisio. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn gyson ac roedd achosion lle nad oedd yr ymateb i bryderon tebyg wedi cael ei flaenoriaethu na’i ddilysu’n briodol gydag asiantaethau eraill.
| 2.2 Cynllunio | Sgôr |
| Mae gwaith cynllunio yn seiliedig ar wybodaeth, yn holistaidd ac yn bersonol, gan ganolbwyntio ar sut i sicrhau newid cadarnhaol a chadw plant a chymunedau’n ddiogel. | Angen gwella |
Mae ein sgôr[3] ar gyfer cynllunio yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
| A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar sut i wneud y canlynol: | % ‘Ydy’ |
| sicrhau newid cadarnhaol i’r plentyn? | 80% |
| cadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel? | 60% |
Roedd ymarferwyr yn fedrus wrth gynnwys plant yn y gwaith o gynllunio gweithgareddau i bennu natur y gefnogaeth a’r ymyriadau i’w darparu. Gwelsom enghreifftiau lle’r oedd yr adroddiadau sy’n hawdd eu darllen ar leferydd ac iaith wedi arwain at addasiadau wrth gynllunio, gan gynnwys defnyddio cardiau lluniau a theganau ffidlan, yn ogystal ag ystyriaeth sensitif o iaith a defnyddio seibiannau i roi amser i blant brosesu gwybodaeth.
Roedd y gweithgarwch cynllunio yn ystyried anghenion niwroamrywiaeth, arddulliau dysgu a dewisiadau unigol plant. Roedd hefyd yn ystyried amgylchiadau personol y plentyn a’i rieni neu ofalwyr mewn modd sensitif, gan gynnwys cyfrifoldebau gofalu ac effaith digwyddiadau emosiynol bywyd megis colled a galar. Roedd y GCI yn cydnabod y byddai arfer yn cael ei gryfhau drwy ddulliau gweithredu mwy cyson o ran ystyried anghenion amrywiaeth, gan gynnwys defnyddio cyfieithwyr annibynnol pan fo angen.
Roedd yn galonogol gweld bod meithrin perthynas o ymddiriedaeth gyda phlant yn rhan annatod o weithgarwch cynllunio. Anogwyd rhieni a gofalwyr i gymryd rhan weithredol, a gwelsom sawl enghraifft lle’r oedd hyn wedi cyfrannu at gryfhau perthnasoedd teuluol.
Cynllunio gweithgareddau sydd wedi’u hadeiladu’n gyson ar gryfderau, nodau a dyheadau plant. Roedd y plant yn cael eu hannog a’u cefnogi i roi cynnig ar weithgareddau newydd, gan gynnwys cymryd rhan mewn chwaraeon, rhaglenni gwaith grŵp, cerddoriaeth, y celfyddydau, coginio a gweithgareddau awyr agored.
Cafodd anghenion addysg, hyfforddiant a chyflogaeth plant eu cynnwys yng ngweithgarwch cynllunio’r GCI. Roedd gweithiwr addysg y GCI yn rhagweithiol o ran cefnogi’r gwaith cynllunio gydag ysgolion a darparwyr addysg ôl-16. Gwelsom sawl enghraifft lle’r oedd asesiadau lleferydd ac iaith wedi cael eu rhannu ag ysgolion, gan arwain at addasiadau, megis mynediad at ystafell llesiant a defnyddio mannau a phobl ddiogel, roedd hyn yn cefnogi nifer o blant i ailintegreiddio’n llwyddiannus i ddarpariaeth addysg.
Ers yr arolygiad diwethaf, roedd y GCI wedi adolygu prosesau gwneud penderfyniadau o ran datrysiadau y tu allan i’r llys. Roedd y panel datrysiadau y tu allan i’r llys wedi esblygu i gynnwys cynrychiolwyr o’r GCI, yr heddlu, gwasanaethau plant, a darparwyr lleferydd ac iaith, gofal iechyd ac addysg. Roedd hyn wedi cael effaith gadarnhaol, gan arwain yn aml at gynllunio amlasiantaethol a oedd yn nodi’n effeithiol y datrysiadau y tu allan i’r llys mwyaf priodol i ddiwallu anghenion y plentyn. Trafododd y panel yr opsiynau cymorth sydd ar gael gan y bartneriaeth a nododd gyfleoedd ar gyfer cyfeirio a gweithgarwch cynllunio ymadael. Bu’r panel, gan gynnwys gweithiwr cyswllt dioddefwyr y GCI, trafod effaith y drosedd ar y dioddefwr yn gyson, a gwelsom fod y gwaith cynllunio’n ystyried dymuniadau a theimladau’r dioddefwr ym mhob achos perthnasol a arolygwyd.
Mewn sawl achos, roedd diffygion wrth asesu ar gyfer diogelwch y plentyn a’r gymuned wedi effeithio ar effeithiolrwydd cynllunio. Gwelodd arolygwyr enghreifftiau lle’r oedd dadansoddiad cyfyngedig o ymddygiad plant a’u hanghenion wedi arwain at hepgoriadau allweddol o’r cynllunio, yn enwedig o ran pryderon y tu allan i’r cartref a dangosyddion o gamfanteisio.
Lle’r oedd cynllunio i gadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel yn cael ei wneud yn dda, gwelsom waith amlasiantaeth effeithiol a oedd yn gydweithredol ac yn ymateb i bryderon a oedd yn dod i’r amlwg. Yn yr achosion hyn, roedd pob gweithiwr proffesiynol yn glir ynghylch eu cyfrifoldebau, ac roedd cyd-ddealltwriaeth o ba asiantaeth oedd yn arwain ar agweddau penodol ar y cynllun. Gwelodd yr arolygwyr enghreifftiau lle mai cynlluniau gofal a chymorth sy’n cael eu harwain gan wasanaethau plant oedd y fframwaith cyffredinol ar gyfer y plentyn, gan ymgorffori amcanion y GCI, a chafodd hyn ei gyfleu’n glir i’r plentyn a’i rieni neu ofalwyr, gan ddarparu gwybodaeth a negeseuon cyson am rolau a chyfrifoldebau.
I’r gwrthwyneb â hyn, gwelsom hefyd enghreifftiau lle nad oedd gan y GCI ddigon o oruchwyliaeth na dealltwriaeth o gynlluniau asiantaethau allweddol eraill. Roedd anawsterau o ran cydweithio a gweithio tuag at amcanion a rennir yn arbennig o nodedig lle nad oedd plant a aseswyd fel rhai sy’n peri pryderon diogelwch uchel yn cyrraedd y trothwy ar gyfer cynnwys gwasanaethau plant ac ni chawsant eu trafod chwaith yn fforymau rheoli diogelwch dan arweiniad y GCI. Roedd hyn yn aml yn golygu bod cydlynu gwasanaethau ar gyfer plant agored i niwed yn cael ei arwain gan ymarferydd GCI unigol, yn hytrach na thrwy’r dulliau cydweithredol a hyrwyddir mewn fforymau rheoli diogelwch aml-asiantaeth.
Roedd y cynllunio i gadw’r gymuned yn ddiogel yn amrywiol. Lle gwelsom ei fod yn gweithio’n dda, roedd cynllunio partneriaeth cydlynol ac amserol a oedd yn ymateb i bryderon a oedd yn dod i’r amlwg a nodwyd drwy draciwr dyddiol yr heddlu, gwybodaeth a rannwyd gan asiantaethau eraill, neu ddatgeliadau gan y plentyn neu ei rieni neu ei ofalwyr. Gwelsom enghreifftiau lle’r oedd troseddu pellach, cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau, a dirywiad mewn llesiant emosiynol wedi arwain at rannu gwybodaeth ac addasiadau i gynlluniau yn cael eu gwneud yn amserol, gan gynnwys ail-flaenoriaethu a threfnu ymyriadau. Byddai arfer yn cael ei gryfhau drwy ddatblygu mwy o gysondeb yn y maes gwaith hwn.
| 2.3. Darpariaeth | Sgôr |
| Mae gwasanaethau cydlynol, personol ac o ansawdd uchel sydd â ffocws da yn cael eu darparu, gan sicrhau newid cadarnhaol a chadw plant a chymunedau’n ddiogel. | Da |
Mae ein sgôr[4] ar gyfer darpariaeth yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
| A yw darparu gwasanaethau cydlynol, personol â ffocws da yn: | % ‘Ydy’ |
| sicrhau newid cadarnhaol i’r plentyn? | 87% |
| cadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel? | 67% |
Roedd y ddarpariaeth o wasanaethau i sicrhau newid cadarnhaol yn gryfder. Roedd ymarferwyr yn ymroddedig ac yn fedrus wrth feithrin perthynas waith ystyrlon gyda phlant a’u rhieni neu ofalwyr, gan ymgysylltu’n llwyddiannus â theuluoedd a oedd wedi bod yn amharod i weithio gyda gwasanaethau eraill yn y gorffennol. Roedd ymarferwyr ac arbenigwyr y GCI yn effeithiol o ran hyrwyddo diddordebau, nodau a dyheadau plant.
Roedd y GCI yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a gynlluniwyd i feithrin sgiliau, hyder a hunan-barch plant. Cefnogwyd y plant i gymryd rhan yn rhaglen gwaith grŵp gweithgareddau’r haf, ac roedd hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar eu hunaniaeth, eu gallu i weithio fel rhan o dîm, a’u gallu i uniaethu ag eraill. Yn unol â’r adborth a roddwyd gan blant, roedd y GCI wedi datblygu gweithgareddau haf sy’n rywedd-benodol, ac roedd hyn yn ategu’r ymyriadau a ddarparwyd fel rhan o’r grŵp merched ‘Perfectly Imperfect’[5].
Roedd darpariaeth i gefnogi anghenion amrywiol plant yn gryfder ac roedd hyn yn cynnwys ystyried niwroamrywiaeth, anableddau corfforol ac anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu. Roedd dulliau sy’n ystyriol o drawma yn sail i’r rhaglen dysgu gyda chymorth ceffylau, a oedd yn fath o ddysgu drwy brofiad a oedd yn cynnwys ceffylau a hwylusydd yn gweithio gyda phlentyn i gefnogi’r gwaith o brosesu emosiynau, ac i nodi nodau i hyrwyddo newid cadarnhaol.
Ystyriwyd gallu plant i weithio mewn grŵp bach ac ystyriwyd deinameg y grŵp yn ofalus. Roedd plant yn cael eu cludo i weithgareddau gan ymarferwyr y GCI ac roedd hyn yn sicrhau mynediad at gyfleoedd na fyddent ar gael fel arall oherwydd effaith natur wledig a thrafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig.
Roedd gan ymarferwyr ddealltwriaeth ddofn o’r gwasanaethau sydd ar gael i gefnogi plant, a daeth arolygwyr o hyd i enghreifftiau lle’r oedd plant wedi elwa’n gadarnhaol o gymorth arbenigol a oedd yn canolbwyntio ar iechyd emosiynol a meddyliol, camddefnyddio sylweddau, a darpariaeth lleferydd, iaith a chyfathrebu. Cafodd y GCI fynediad at ymgynghoriad a chymorth gan ‘Dyfodol Gwell Barnardo’s’, a oedd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddull y gwasanaeth o fynd i’r afael ag ymddygiad rhywiol niweidiol.
Roedd y GCI yn drawiadol yn ei ymdrechion i gefnogi plant gyda’u hanghenion addysg. Gwelsom achosion lle’r oedd y swyddog addysg, rheolwyr achos, rheolwyr gweithredol a rheolwyr strategol y GCI wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod plant yn cael eu hailintegreiddio i’w darpariaeth addysg. Ategwyd y broses hon yn aml gan asesiadau lleferydd, iaith a chyfathrebu, a oedd yn rhoi trosolwg clir i ysgolion o’r ffordd orau o gefnogi’r plentyn.
Hwylusodd y GCI grŵp cyflogadwyedd, a oedd wedi esblygu i fod yn rhaglen dreigl lle gallai cyfranogwyr barhau i fynychu nes iddynt sicrhau cyfle addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth ôl-16 yn llwyddiannus. Roedd plant a oedd â strwythur cyfyngedig i’w diwrnod yn cael eu cefnogi i fynychu gweithgareddau megis y gampfa, ac roedd y rhai hynny a oedd yn nesáu at ddiwedd eu hamser ffurfiol â’r GCI yn cael eu cyfeirio at wasanaethau cyffredinol neu’n cael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan yng nghefnogaeth ataliol y GCI, lle nodwyd bod hyn yn angen parhaus.
Roedd y ddarpariaeth o wasanaethau i gadw plant a’r gymuned yn ddiogel yn amrywiol. Gwelodd yr arolygwyr nifer o gryfderau o ran darparu ymyriadau camddefnyddio sylweddau, a oedd yn ymateb i anghenion newidiol plant ac yn cynnwys cymorth gan asiantaethau eraill, megis gwasanaethau plant, yn briodol pan oedd pryderon yn cynyddu. Fodd bynnag, gwelsom hefyd achosion lle nad oedd ymatebolrwydd yn amserol nac yn gymesur â’r pryderon a oedd yn dod i’r amlwg ac roedd hyn wedi arwain at golli cyfleoedd i ddarparu ymyriadau i liniaru yn erbyn cam-fanteisio. Bu’r GCI yn gweithio’n agos gyda thîm cam-fanteisio ‘Be Safe’ a’r heddlu i nodi lleoedd, mannau a phlant sydd mewn perygl o gael eu camfanteisio. Clywsom am enghreifftiau o weithgarwch tarfu effeithiol ac achosion o ymatebion amlasiantaeth trawiadol. Fodd bynnag, yn yr achosion a arolygwyd, gwelsom y gellid cryfhau’r maes ymarfer hwn drwy ddatblygu dull cyson o nodi ymddygiadau sy’n dod i’r amlwg sy’n arwydd o gamfanteisio.
Yn gadarnhaol, cafodd rhieni neu ofalwyr eu cefnogi i ymgysylltu â’r GCI i hyrwyddo diogelwch eu plentyn ynghyd â diogelwch eraill. Gwelsom sawl enghraifft lle’r oedd hyn wedi arwain at gyd-gynhyrchu cynlluniau diogelwch a oedd yn ystyried diogelwch ar-lein a nodi strategaethau i gefnogi rheolaeth emosiynol. Roedd cynlluniau diogelwch ac amodau mechnïaeth wedi cael eu haddasu gan y therapydd iaith a lleferydd a’u rhannu â’r plentyn a’i rieni neu ofalwyr er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth gyson o ddisgwyliadau.
Roedd ymarferwyr yn canmol ansawdd yr oruchwyliaeth a’r gefnogaeth a ddarperir gan reolwyr y GCI. Roedd goruchwyliaeth rheolwyr yn amlwg mewn gwaith achos gyda phlant, ond canfu’r arolygwyr nad oedd hyn yn arwain yn gyson at yr effaith angenrheidiol i gadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel. Nid oedd camau gweithredu a oedd yn deillio o oruchwyliaeth y rheolwyr bob amser yn cael sylw, a oedd hyn wedi arwain at adael i bethau lithro mewn nifer o’r achosion a arolygwyd.
Gweithio gyda dioddefwyr (Back to top)
Fe wnaethom edrych yn fanwl ar naw achos dioddefwyr lle’r oedd y GCI wedi cynnig gwasanaeth i ddioddefwyr a oedd wedi cydsynio i’w gwybodaeth gael ei rhannu.
| Gweithio gyda dioddefwyr | Sgôr |
| Mae’r gwaith gyda dioddefwyr o ansawdd uchel, yn unigol ac yn ymatebol, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol a diogelwch i ddioddefwyr. | Angen gwella |
Mae ein sgôr[6] ar gyfer gweithio gyda dioddefwyr yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
V 1.1 A yw gwaith gyda dioddefwyr yn unigol, ymatebol ac o ansawdd uchel?
V 1.2 A yw trefniadau a gweithgarwch sefydliadol yn ysgogi gwasanaeth unigol, ymatebol ac o ansawdd uchel i ddioddefwyr?
Cryfderau:
- Roedd tîm arwain y GCI yn graff, yn deall y camau angenrheidiol i fwrw ymlaen â’r gwaith gyda dioddefwyr, ac wedi cymryd camau i gryfhau prosesau.
- Nododd cynllun strategol y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid 2025/2026 fod datblygu gwaith gyda dioddefwyr yn flaenoriaeth gwasanaeth allweddol.
- Cyflwynodd y GCI adroddiad blynyddol am ddioddefwyr i fwrdd rheoli’r GCI, gan nodi nifer y dioddefwyr a oedd wedi cytuno i rannu gwybodaeth, y rhai hynny a oedd wedi optio i mewn i ddarpariaeth y GCI ar gyfer dioddefwyr, y berthynas rhwng dioddefwyr a’r plant a achosodd niwed, a’r cymorth a ddarparwyd. Ategwyd data meintiol gydag astudiaethau achos ac adborth gan ddioddefwyr.
- Roedd adolygiad o ffurflen atgyfeirio F11 yr heddlu wedi cael ei gynnal, gyda’r bwriad o wella gallu’r GCI i gael gafael ar wybodaeth am nodweddion gwarchodedig dioddefwyr ac anghenion amrywiol.
- Aeth cynrychiolwyr o Ffocws ar Ddioddefwyr, a ariannwyd gan y Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throsedd, i ddiwrnod datblygu bwrdd rheoli ac roeddent wedi ymrwymo i ddod yn aelodau sefydlog o’r bwrdd. Gwelodd yr arolygwyr fod y cynrychiolwyr hyn, y GCI, a’r heddlu wedi’u cymell i gryfhau gweithio mewn partneriaeth ac yn awyddus i ddatblygu arferion a rennir. Roedd nifer o ddigwyddiadau hyfforddi wedi’u cynllunio gyda’r heddlu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y ddarpariaeth ar gyfer dioddefwyr a sicrhau eu bod yn gallu gwahaniaethu rhwng y gwahanol wasanaethau a gynigir gan y GCI a Ffocws ar Ddioddefwyr.
- Roedd polisïau a gweithdrefnau yn cyd-fynd â’r cod ymarfer ar gyfer dioddefwyr troseddau, ac roedd map proses ymgysylltu â dioddefwyr yn darparu cyd-ddealltwriaeth o ddisgwyliadau.
- Roedd y GCI yn cynnig ystod lawn o ddulliau adferol, gan gynnwys cynadledda, cyfryngu, cyfryngu gwennol, llythyrau esboniadol, cefnogaeth barhaus, cyfeirio, a gwneud iawn yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. Roedd y daflen ar gyfer dioddefwyr wedi cael ei hadolygu gan y therapydd iaith a lleferydd ac roedd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Roedd amrywiaeth eang o brosiectau gwneud iawn ar gael, gyda phrosesau ar waith i ystyried dymuniadau dioddefwyr wrth ddyrannu gweithgareddau. Roedd gwneud iawn yn adferiad achrededig a chytbwys gyda chyfleoedd ystyrlon i blant.
- Roedd ymarferwyr a oedd yn gweithio gyda dioddefwyr yn gallu manteisio ar yr ystod o gyfleoedd hyfforddi a oedd ar gael i ymarferwyr a oedd yn gweithio gyda phlant. Roedd nifer o ymarferwyr wedi cael eu hyfforddi fel hwyluswyr rhaglen Ymwrthedd Di-drais, a oedd yn cefnogi cyfryngu ac adfer rhwng plant a’u rhieni neu ofalwyr.
- Roedd ymarferwyr a oedd yn gweithio gyda dioddefwyr yn cael mynediad at gyfarfodydd rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ymarfer ac i hyrwyddo cymorth gan gymheiriaid.
- Roedd gwaith dioddefwyr yn cael ei integreiddio i’r prosesau rheoli achosion. Bu’r sawl sy’n gweithio gyda dioddefwyr cymryd rhan yn baneli datrysiadau y tu allan i’r llys, paneli gorchmynion atgyfeirio, a chyfarfodydd rheoli diogelwch. Ym mhob achos a arolygwyd, ystyriwyd barn dioddefwyr mewn paneli gwneud penderfyniadau.
- Cafwyd enghreifftiau unigol o waith i fynd i’r afael â diogelwch dioddefwyr, gan gynnwys defnyddio trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) ac atgyfeiriadau i wasanaethau diogelu plant ac oedolion. Rhoddwyd ystyriaeth i reolaethau allanol megis amodau digyswllt a pharthau gwaharddedig.
- Roedd trefniadau sefydledig ar waith gyda swyddog cyswllt dioddefwyr y gwasanaeth prawf, ac, er eu bod yn digwydd yn anaml, rhannwyd enghreifftiau perthnasol o gydweithio ag arolygwyr.
- Roedd y GCI wedi addasu ei ddulliau i wella’r cyfleoedd i ddioddefwyr ddarparu adborth ystyrlon, ac roeddent yn datblygu QR. Roedd adborth yn cael ei gasglu, ei ddadansoddi a’i adrodd i’r bwrdd rheoli.
Meysydd i’w gwella:
- Roedd datblygu gwasanaethau i ddioddefwyr yn cael ei arwain gan reolwyr strategol a gweithredol y GCI, gyda pherchnogaeth neu arweiniad cyfyngedig gan fwrdd rheoli’r GCI. Ar adeg yr arolygiad, nid oedd arweinydd strategol ar lefel bwrdd wedi’i nodi ar gyfer y ffrwd waith arfaethedig gyda dioddefwyr.
- Roedd angen i’r bwrdd rheoli sicrhau bod gan y GCI ddigon o adnoddau, yn strategol ac yn weithredol, i ddarparu gwasanaethau unigol ac ymatebol o ansawdd uchel i ddioddefwyr. Tan yn ddiweddar, nid oedd y bwrdd rheoli wedi cymryd camau rhagweithiol i gryfhau gwydnwch a chapasiti o fewn rôl y sawl sy’n gweithio gyda dioddefwyr.
- Roedd angen gwella ansawdd cyffredinol y gwaith gyda dioddefwyr. Nid oedd y GCI yn cael nac yn cofnodi nodweddion gwarchodedig nac anghenion amrywiol y dioddefwyr fel mater o drefn. Roedd angen cryfhau’r broses o gofnodi a goruchwylio gwaith gyda dioddefwyr. Nid oedd cofnodion achos yn adlewyrchu ansawdd yr ymarfer, ac nid oedd digon o dystiolaeth o weithgarwch goruchwylio.
- Nid oedd gan ymarferwyr a oedd yn gweithio gyda dioddefwyr fynediad at oruchwyliaeth glinigol.
- Roedd cyfleoedd i ddatblygu prosesau cydweithredol mwy effeithiol gyda Ffocws ar Ddioddefwyr, er mwyn atal aildrawmateiddio dioddefwyr drwy nifer o gysylltiadau gan wahanol wasanaethau.
- Roedd y GCI yn awyddus i ddatblygu cymorth cyfartal i ddioddefwyr sy’n blant ond hyd yn hyn nid oedd wedi ymgymryd â dadansoddiad o’r adnoddau sydd eu hangen i roi’r cymorth ar waith.
- Roedd angen i’r polisi a’r weithdrefn cyfiawnder adferol a dulliau gweithredu adferol 2024-2027 gryfhau ei ffocws ar brosesau diogelwch dioddefwyr ac amlinellu dull y gwasanaeth o gefnogi anghenion amrywiol a nodweddion gwarchodedig pob dioddefwr.
- Roedd angen bod yn gyson wrth weithredu prosesau diogelwch dioddefwyr.
- Roedd angen ymrwymiad a chefnogaeth y bartneriaeth i sicrhau bod proffil a nodweddion dioddefwyr yn cael eu deall, gyda’r wybodaeth hon wedyn yn cael ei defnyddio i lywio a siapio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau.
- Roedd y gwaith o fonitro cyfraddau cydsyniad dioddefwyr yn gyfyngedig, ac nid oedd dadansoddiad wedi’i wneud i ddeall pam nad oedd rhai dioddefwyr yn cydsynio i’r GCI gysylltu â nhw.
Cyfranogiad plant a’u rhieni neu ofalwyr (Back to top)
Roedd polisi cyfranogiad y GCI ar gyfer plant a theuluoedd yn manylu ar ddull y gwasanaeth o gasglu a gweithredu ar safbwyntiau mewn ffordd dryloyw, gynhwysol a diogel. Roedd y GCI yn gwerthfawrogi lleisiau plant a’u rhieni neu ofalwyr ac roedd wedi datblygu amrywiaeth o fecanweithiau adborth i sicrhau bod y gwasanaeth yn esblygu’n barhaus.
Roedd timau gwasanaethau plant, gan gynnwys y GCI, wedi elwa o’r dull ‘newid mwyaf sylweddol’ (MSC), lle’r oedd plant yn cael eu cefnogi i rannu profiadau a oedd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol neu negyddol sylweddol yn eu bywydau, ac i egluro sut roedd hyn yn effeithio ar eu rhyngweithiadau â gweithwyr proffesiynol. Adolygodd gwasanaethau plant y straeon ynghylch y ‘newid mwyaf sylweddol’ i nodi cyfleoedd ar gyfer dysgu a gwella. Clywsom straeon pwerus ynghylch y ‘newid mwyaf sylweddol’, gan gynnwys profiadau plant a phobl ifanc a oedd wedi pontio o gyfiawnder ieuenctid i wasanaethau oedolion, a’r gwaith eithriadol a wnaed gan y GCI ac ymarferwyr prawf i gefnogi’r cyfnod hwn o newid.
Roedd plant y GCI yn cymryd rhan mewn gweithgarwch recriwtio ac yn cymryd rhan mewn paneli cyfweld. Roedd y gwasanaeth wedi llunio arweiniad hwylus a oedd yn cynnwys awgrymiadau defnyddiol ar gyfer paratoi plant a’u cynnwys yn y broses recriwtio.
Bu’r GCI yn gweithio ochr yn ochr â’r tîm cyfranogiad i ddatblygu cyfleoedd ystyrlon i glywed lleisiau plant. Clywsom am effaith gadarnhaol y Grŵp Gobaith, menter dan arweiniad pobl ifanc a oedd yn hyrwyddo hawliau merched ac yn grymuso lleisiau plant sydd â phrofiad o ofal.
Roedd plant wedi mynd o flaen bwrdd rheoli’r GCI i rannu eu profiadau o gymryd rhan yn y system gyfiawnder. Cafodd adborth gan blant a’u rhieni neu ofalwyr hefyd ei gofnodi yn adroddiad cyfranogiad y GCI, a drafodwyd hyn yn y bwrdd rheoli. Casglwyd adborth ar ôl i blant gymryd rhan mewn achosion llys, paneli datrysiadau y tu allan i’r llys, a gweithgareddau gwaith grŵp. Roedd hyn wedi arwain at nifer o gamau gweithredu ‘fe ddywedoch chi, fe wnaethon ni’, gan gynnwys newidiadau i gynllun a phreifatrwydd ystafelloedd y paneli, creu grŵp gweithgareddau haf i ferched yn unig, diwygiadau i bolisi trafnidiaeth y GCI, a chyflwyno cais ysgrifenedig i’r llys am fan aros sy’n benodol i blant.
Roedd adborth cadarnhaol gan blant a oedd wedi cymryd rhan mewn prosiect gweithgareddau awyr agored wedi arwain at y GCI yn hyfforddi dau aelod o staff mewn dulliau ysgol goedwig, ac roedd y gofod awyr agored o amgylch BASE 15 wedi cael ei ddatblygu i alluogi’r gweithgaredd hwn i ddigwydd ar y safle.
Cysylltodd y GCI, ar ein rhan, â phlant a oedd yn gweithio gyda’r GCI neu a oedd wedi bod yn gweithio gyda’r GCI, i gael eu caniatâd ac i’w galluogi nhw a’u rhieni neu ofalwyr i roi adborth ar eu profiad o’r GCI. Fe wnaethom ddarparu amrywiaeth o gyfleoedd i blant a’u rhieni neu ofalwyr gymryd rhan yn y broses arolygu (arolwg testun, cyfarfodydd un-i-un, grwpiau ffocws, a galwadau dros y ffôn neu drwy fideo). Fe wnaethom siarad â saith o blant, ac un rhiant neu ofalwr. Cawsom hefyd adborth testun gan bedwar o blant a’u rhieni neu ofalwyr.
Dywedodd y plant fod y staff yn garedig a bod hyn yn bwysig iawn gan ei fod yn eu helpu i siarad am faterion sensitif. Bu bob plentyn a’r rhieni neu ofalwyr y buom yn siarad â nhw ddweud eu bod wedi teimlo bod rhywun yn gwrando arnynt, yn eu parchu ac yn eu gwerthfawrogi. Roedd y GCI wedi cefnogi un plentyn drwy wneud y canlynol:
“siarad â mi, bod yn gyfeillgar a fy helpu i siarad am broblemau”.
Dywedodd y cyfranogwyr fod eu hunaniaeth a’u hanghenion wedi cael eu cydnabod. Rhannodd y plant sawl enghraifft o sut roedd hyn wedi arwain at addasiadau yn y ffordd y cyflwynwyd y sesiynau. Er enghraifft, roedd plant nad oeddent yn teimlo’n hyderus wrth ymuno â gweithgareddau gwaith grŵp yn cymryd rhan mewn sesiynau un-i-un i ddechrau, ac yna cefnogwyd llawer i ymuno â grŵp bach, gan arwain at ymgysylltu â gweithgareddau’r haf a sesiynau gwaith grŵp i ferched.
Siaradodd y plant yn gadarnhaol am BASE 15, gan ddweud bod y cyfleusterau’n rhagorol a’u bod bob amser yn teimlo eu bod yn cael croeso yno a’u bod yn ddiogel yno. Roeddent yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau, a chlywsom am effaith gadarnhaol y grŵp cyflogadwyedd a chyfleoedd i gael cerdyn cynllun ardystio sgiliau adeiladu. Dywedodd un plentyn:
“Maen nhw’n dîm anhygoel, yn groesawgar iawn ac maen nhw wedi fy helpu i dyfu ers bod gyda nhw.”
Dywedodd un arall:
“Maen nhw wedi cyfathrebu’n dda iawn â mi ac wedi dangos gwahanol ffyrdd i mi o ymdopi mewn gwahanol sefyllfaoedd.”
Yn ystod cyfarfod arddangos yr arolygiad, clywsom gan nifer o blant a oedd wedi elwa o gymorth y GCI. Gwnaethpwyd argraff arbennig arnom gan y grŵp o blant a oedd wedi meddwl am y syniad o godi arian i elusen drwy gwblhau her cerdded. Roedd y GCI wedi cefnogi eu syniadau ac wedi gweithio gydag asiantaethau partner i ddatblygu cynllun, ac arweiniodd hyn at nifer o blant yn cwblhau taith gerdded elusennol i fyny’r Wyddfa. Disgrifiodd y plant ymdeimlad cryf o gyflawniad ac eglurwyd sut roedd y rhaglen hyfforddi a oedd yn arwain at y daith cerdded wedi gwella eu hiechyd corfforol a’u llesiant emosiynol. Fe’u hysbrydolwyd i ddatblygu’r prosiect ymhellach ac i godi arian ychwanegol ar gyfer elusen, gan awgrymu mai taith gerdded deuddydd gydag elfen breswyl ddylai fod y cam nesaf. Rhoddodd y GCI ei gefnogaeth i’r cynllun ac roedd wedi sicrhau cyllid ychwanegol. Roedd plentyn oedd wedi cwblhau’r daith yn awyddus i ddychwelyd fel mentor ar gyfer y prosiect nesaf.
Cafodd ein dealltwriaeth o’r cyd-destun lleol ei wella gan glip fideo a gynhyrchwyd gan blentyn. Roedd y fideo’n tynnu sylw at leoliadau allweddol yng Nghastell-nedd Port Talbot, lleoliadau lle’r oedd plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau, a’r daith ar droed o’r safle bws i’r swyddfa. Roedd hyn yn helpu arolygwyr i ddeall rhai o’r heriau a achosir gan natur wledig a mynediad cyfyngedig at drafnidiaeth gyhoeddus. Dywedodd plant a’u rhieni neu ofalwyr wrthym eu bod yn gwerthfawrogi’r cymorth a roddwyd ar waith i liniaru natur wledig, gan gynnwys defnyddio ymweliadau cartref a dull y gwasanaeth o gludo plant yn ôl ac ymlaen o BASE 15.
Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)
Roedd polisi amrywiaeth a chynhwysiant y GCI 2025-2028 yn cydnabod y rhwystrau a wynebir gan grwpiau sy’n cael eu gorgynrychioli a grwpiau lleiafrifiedig megis plant Du a phlant ethnig lleiafrifol, cymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr, merched, plant sydd â phrofiad o ofal, a phlant ag anghenion niwroamrywiol. Roedd y polisi’n amlinellu sut y dylid addasu prosesau ac arferion y GCI i ddiwallu anghenion unigol ac amrywiol plant.
Roedd y GCI wedi llunio strategaeth a chynllun gweithredu gwrth-hiliaeth 2025-2028, a oedd yn seiliedig ar gynllun gweithredu gwrth-hiliaeth Cymru. Nid oedd Castell-nedd Port Talbot yn sir amrywiol o ran ethnigrwydd, ond roedd yr awdurdod lleol wedi cydnabod amrywiaeth gynyddol o fewn y boblogaeth oedran ysgol. Roedd data’n dangos bod 8.4 y cant o’r holl ddisgyblion oedran ysgol yng Nghastell-nedd Port Talbot yn Ddu neu’n ethnig lleiafrifol, sy’n gynnydd o 5.1 y cant ers 2015.
Fel rhan o’r arolygiad hwn, roeddem wedi ystyried sut roedd y gwasanaeth wedi ymateb i anghenion amrywiol a nodweddion gwarchodedig plant a dioddefwyr. Roedd cofnodi nodweddion gwarchodedig plant yn gyson yn cynnwys oedran, rhyw, hunaniaeth o ran rhywedd, hil, ethnigrwydd ac anabledd. Cafodd bwrdd rheoli’r GCI wybodaeth am nodweddion gwarchodedig ac anghenion amrywiol plant, ac fe wnaethant adolygu’r data perfformiad i ddadansoddi tueddiadau a fyddai’n nodi pryderon sy’n gysylltiedig ag anghymesuredd.
Nid oedd nodweddion gwarchodedig dioddefwyr wedi’u cofnodi’n glir yn unrhyw un o’r achosion a arolygwyd. Roedd hyn yn golygu nad oedd gan y GCI na’r bwrdd rheoli dealltwriaeth gyfannol o broffil dioddefwyr. Mewn ymateb, roedd y GCI a’r heddlu wedi diwygio ffurflen atgyfeirio’r heddlu i wella prosesau ar gyfer cofnodi nodweddion gwarchodedig dioddefwyr ac anghenion amrywiol.
Wrth arolygu gwaith gyda phlant, gwelsom fod asesu, cynllunio a darparu yn ystyried anghenion amrywiaeth plant yn ddigonol yn y rhan fwyaf o achosion. Roedd ymarferwyr yn hyderus yn sgwrsio â’r plant i ddeall eu profiadau bywyd ac roeddent yn ymateb i anghenion unigol. Roedd y GCI yn ystyried cyswllt blaenorol y plentyn a’i riant neu ofalwr â’r gwasanaeth ac yn sicrhau ei fod yn cael ei ailddyrannu i ymarferwyr gyda pherthnasoedd presennol fel ffordd o hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol.
Roedd y GCI yn sgrinio plant am anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu fel mater o drefn. Lle bo’n briodol, arweiniodd hyn at asesiad amserol a chefnogaeth gan y therapyddion iaith a lleferydd. Lluniodd yr ymarferwyr hyn adroddiadau hygyrch sy’n hawdd eu darllen a rannwyd â’r plentyn a’i riant neu ofalwr. Pan roddwyd caniatâd, rhannwyd yr adroddiad hefyd â darparwyr addysg a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda’r plentyn. Daeth arolygwyr o hyd i nifer o enghreifftiau lle’r oedd hyn wedi cael effaith gadarnhaol ar ganlyniadau i blant. Roedd y GCI wedi nodi bod 88 y cant o’r plant a oedd yn ymwneud â’r gwasanaeth yn 2024/2025 wedi nodi anghenion o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu. Fodd bynnag, roedd 96 y cant o’r garfan hon erioed wedi cael eu cyfeirio at therapydd iaith a lleferydd cyn iddynt ddod i gysylltiad â’r GCI. Roedd data a ddarparwyd gan y gwasanaeth yn amlinellu bod 36 y cant o’r plant hyn wedi profi tarfu ar eu hamser yn yr ysgol, gan gynnwys nifer o waharddiadau am gyfnod penodol a gwaharddiadau parhaol.
Fel ffordd o leihau gwaharddiadau a’r defnydd o amserlenni rhan-amser, roedd y GCI wedi datblygu prosiect peilot gydag ysgol uwchradd lle’r oedd disgyblion a oedd mewn perygl o gael eu gwahardd yn cael eu cyfeirio at y therapydd iaith a lleferydd. Cynhyrchodd y therapydd adroddiad gydag argymhellion wedi’u teilwra, a oedd wedi’u gwerthuso fel rhai a oedd yn cael effaith gadarnhaol ar reoleiddio emosiynol plant a’u gallu i ymdopi mewn lleoliad addysg.
Roedd y GCI yn deall yn iawn y gydberthynas rhwng y nifer uchel o waharddiadau a chysylltiad plant â’r system gyfiawnder. Roedd y GCI a thimau gwasanaethau plant ehangach yn awyddus i weithio ochr yn ochr â chydweithwyr addysg i ddatblygu dulliau gweithredu sy’n canolbwyntio ar y plentyn ac sy’n ystyriol o drawma er mwyn lleihau gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol.
Roedd y GCI wedi cydnabod cynnydd blaenorol yn y nifer ferched a oedd y cael eu hatgyfeirio i’r gwasanaeth. Mewn ymateb, roedd y GCI wedi datblygu ‘polisi llwybr merched yn y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid’, a oedd yn cydnabod profiadau, anghenion a gwendidau penodol merched sy’n ymwneud â’r system cyfiawnder ieuenctid, ac yn amlinellu dull gweithredu sy’n ymateb i rywedd ac sy’n ystyriol o drawma. Roedd y polisi’n pwysleisio pwysigrwydd strategaethau pontio a gadael sydd wedi’u cynllunio, yn gefnogol ac yn ddiogel yn seicolegol, gan gynnwys pontio o wasanaethau ieuenctid i wasanaethau oedolion. Mewn ymgynghoriad â merched, roedd y GCI wedi datblygu grŵp merched, a enwyd yn ‘Perfectly Imperfect’ gan y cyfranogwyr. Llywiodd merched gynnwys y sesiynau gwaith grŵp, a chyfrannodd eu hadborth at esblygiad parhaus y rhaglen.
Nodwyd lefelau uchel o anghenion plant, ac mae’r GCI a’r gwasanaethau plant yn casglu ac yn dadansoddi data fel mater o drefn am nifer y plant sydd â phrofiad o ofal yn y GCI a’r rhai hynny sy’n cael eu cefnogi gan gynlluniau diogelu plant, cynlluniau gofal a chymorth, a’r ‘tîm o amgylch y teulu’.
Gweithiodd y GCI yn unol â chanllawiau ehangach y cyngor o ran safonau’r Gymraeg ar gyfer gweithwyr. Ar adeg yr arolygiad, nid oedd unrhyw blant a oedd yn agored i’r GCI wedi dewis derbyn gwasanaethau yn Gymraeg. Ar ddiwrnod cyhoeddi’r arolygiad, roedd data a ddarparwyd gan y GCI yn dangos bod 25 y cant o’r gweithlu yn siarad Cymraeg.
Mewn ymateb i’r ddaearyddiaeth leol, natur wledig a thrafnidiaeth gyhoeddus gyfyngedig, roedd y GCI wedi addasu ei brosesau a’i arferion i sicrhau bod plant yn cael eu cludo i apwyntiadau neu’n cael eu gweld yn eu cymunedau lleol. Bu’r GCI hefyd yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid i staffio’r ‘hwb hamddena’, sef fan heddlu wedi’i addasu, a oedd yn cynnig cymorth i blant, gan gynnwys y rhai hynny mewn cymunedau ynysig, gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol.
Rhagor o wybodaeth (Back to top)
Mae rhestr o’r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.
Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Caren Jones, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob rhan o’r arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a helpodd i gynllunio a chymryd rhan yn yr arolygiad; ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosibl heb eu cymorth a’u cydweithrediad.
[1]Ceir dau fath o arolygiad fel rhan o’r rhaglen arolygu ieuenctid gyfredol ledled Cymru a Lloegr. Arolygiad o waith cyfiawnder ieuenctid gyda phlant a dioddefwyr (IYJWCV) ac arolygiad o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid (IYJS). Mae rhagor o wybodaeth am yr archwiliadau hyn ar gael ar ein gwefan Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid – Arolygiaeth Prawf EF
[2] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar gyfer y cwestiynau allweddol. Wedyn mae’n cael ei rhoi mewn band sgorio (mewn ffont trwm yn y tabl). Mae esboniad manylach ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF.
[3] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar gyfer y cwestiynau allweddol. Wedyn mae’n cael ei rhoi mewn band sgorio (mewn ffont trwm yn y tabl). Mae esboniad manylach ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF.
[4] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar gyfer y cwestiynau allweddol. Wedyn mae’n cael ei rhoi mewn band sgorio (mewn ffont trwm yn y tabl). Mae esboniad manylach ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF.
[5]Datblygwyd y grŵp gan y GCI ar y cyd â merched sy’n cael cymorth gan y gwasanaeth. Enwyd y grŵp gan y cyfranogwyr, ac roedd eu hadborth yn sail i ddatblygiad parhaus y rhaglen.
[6] Mae’r sgôr ar gyfer safon y dioddefwyr yn deillio o’r sgoriau o’r archwiliad achos ar gyfer V 1.1 a’r dystiolaeth ansoddol ar gyfer V 1.2. Mae sgoriau archwilio achosion ac esboniad manylach o’r broses sgorio ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF.