Arolygiad Dynamig o Waith Diogelu’r Cyhoedd yng Nghymru
Dyfarniad y Prif Arolygydd (Back to top)
Canfu ein harolygiad o waith diogelu’r cyhoedd yng Nghymru ranbarth ag uchelgais glir, arweinyddiaeth gref, a gweledigaeth gydlynol ar gyfer gwelliant. Yn y cyfnod cymharol fyr ers ein harolygiad diwethaf, roedd yr arweinwyr wedi gweithredu â phwrpas a chyflymder, gan gyflwyno rhaglen eang o newid wedi’i chynllunio er mwyn cryfhau ansawdd gwaith i gadw pobl yn ddiogel. Roedd arwyddion cynnar bod hyn yn dechrau cael effaith gadarnhaol.
Gwelsom welliant pendant mewn cynllunio, a oedd yn gryfder amlwg. Roedd yr ymarferwyr yn cynhyrchu cynlluniau rheoli risg mwy strwythuredig, â ffocws mwy penodol, yn cael eu cefnogi gan gynlluniau wedi’u targedu megis ‘Dechrau’n Iawn, Gorffen yn Iawn’ a gwelliannau i systemau a chanllawiau. Roedd mynediad at wybodaeth wedi gwella, yn enwedig gwybodaeth gan bartneriaid yn yr heddlu, er bod gwaith i’w wneud eto.
Hyd yn hyn, fodd bynnag, nid oedd y gwelliannau hyn yn amlygu eu hunain fel ymarfer effeithiol. Roedd asesu’n parhau’n rhy amrywiol, ac mewn gormod o achosion, nid oedd ymarferwyr yn dadansoddi gwybodaeth yn ddigon dwfn neu’n ei defnyddio fel sail i benderfyniadau rheoli risg cadarn. Roedd y gwendid hwn yn tanseilio ansawdd gwaith ar draws y ddedfryd. Yn rhy aml, collid cyfleoedd i nodi patrymau ymddygiad a dioddefwyr gwasgaredig.
Er bod llawer o weithgareddau gwella wedi’u cyflwyno, roedd y rhan fwyaf o’r newidiadau yn eu camau cynnar o hyd. Roedd yr arweinwyr wedi bod yn rhagweithiol wrth gyflwyno fframweithiau, trefniadau llywodraethu, a chyfleoedd dysgu newydd, ond nid oedd y rhain wedi’u hymwreiddio eto ac roedd angen eu trosi’n fwy cyson i weithredu ar y rheng flaen.
Roedd yr arweinyddiaeth yn weledol, yn gydweithredol, ac yn canolbwyntio ar wella, ac roedd diwylliant cryf o adfyfyrio, adborth, a dysgu. Roedd y staff yn deall y cyfeiriad teithio ac yn siarad yn gadarnhaol am ymwneud â newid, yn hytrach na bod yn destun newid. Er hyn, dywedodd llawer o ymarferwyr eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu llethu, a bod hyn yn effeithio ar eu gallu i reoli gwaith cymhleth yn gyson. Er bod y lefelau staffio yn gymharol sefydlog, o gymharu â rhai rhanbarthau, nid oeddent yn ddigonol eto i liniaru’r pwysau hwn yn llawn.
Roedd perthnasoedd strategol, yn enwedig gyda’r heddlu a gwasanaethau plant, wedi’u datblygu’n dda ac yn gwella. Er hyn, roedd cyflawniad gweithredol yn llai cyson, ac roedd amrywioldeb o hyd o ran ansawdd ac amseroldeb rhannu gwybodaeth, a diffyg hyder ymhlith rhai ymarferwyr wrth herio partneriaid yn adeiladol. Roedd angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod bwriad strategol cryf yn cael ei droi’n rhannu gwybodaeth effeithiol ac ymarfer ar y cyd.
Yn gyffredinol, er bod Cymru yn symud i’r cyfeiriad cywir, nid oedd ansawdd gwaith diogelu’r cyhoedd yn ddigon da yn gyson eto. Mae angen digon o amser a phwyslais yn awr ar ymwreiddio newidiadau, cryfhau ymarfer dadansoddol, a gwella rhannu gwybodaeth. Bydd pwyslais parhaus ar y meysydd hyn yn hanfodol er mwyn i’r rhanbarth allu gwireddu ei uchelgais o gyflawni gwaith o safon uchel yn gyson i gadw pobl yn ddiogel.
Cyd-destun (Back to top)
Roedd yr arolygiad yn edrych ar waith diogelu’r cyhoedd yn rhanbarth prawf Cymru, gan ganolbwyntio ar y gwaith i gadw pobl yn ddiogel. Adolygwyd 55 o achosion, gan edrych ar asesu, cynllunio, gweithredu a darparu, ac adolygu, a chanolbwyntio ar weithgaredd diogelu’r cyhoedd. Ar adeg cyhoeddi’r arolygiad, roedd Cymru yn goruchwylio 10,686 o bobl, naill ai yn y gymuned neu yn y ddalfa.
Ar adeg yr arolygiad, roedd rhanbarth prawf Cymru yn gymhleth, ac yn cynnwys chwe uned gyflawni prawf: Cwm Taf Morgannwg, Dyfed Powys, Abertawe Castell-nedd Port Talbot, Caerdydd a Bro Morgannwg, Gwent, a Gogledd Cymru. Roedd yn cynnwys pedair mangre a gymeradwywyd (AP) a chwe charchar, yn gweithredu mewn 22 awdurdod lleol a phedwar heddlu. Roedd daearyddiaeth y rhanbarth yn amrywiol, ac yn cynnwys llawer o gymunedau gwledig ynghyd ag ardaloedd trefol mwy poblog. Ychwanegid at y cymhlethdod gan gyd-destun datganoledig Cymru, lle’r oedd y cyfrifoldeb yn cael ei rannu rhwng Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi (HMPPS) a Llywodraeth Cymru. Roedd hyn yn creu cyfleoedd a heriau wrth geisio gweithio mewn partneriaeth, yn enwedig gan fod gwasanaethau allweddol megis iechyd, tai, a gofal cymdeithasol wedi’u datganoli.
Roedd gan Gymru hefyd nodweddion economaidd-gymdeithasol a diwylliannol gwahanol, gan gynnwys ardaloedd a oedd wedi’u heffeithio gan ddirywiad ôl-ddiwydiannol, a seilwaith amrywiol, yn enwedig mewn rhanbarthau mwy gwledig, ac roedd hyn yn dylanwadu ar gyflawni gwasanaeth a deilliannau. Roedd Cymru hefyd yn elwa o hunaniaeth gymunedol gref a rhai partneriaethau wedi’u sefydlu’n dda, a oedd yn cefnogi dulliau cydweithredol o gyflawni gwasanaeth.
Dangosodd data sefydliadol sefydlogrwydd cymharol o ran staffio, er nad oedd y timau yn gweithio i gapasiti llawn, ag 89 y cant o’r swyddi swyddogion prawf ac 84 y cant o’r swyddi uwch swyddogion prawf wedi’u llenwi. Roedd Cymru wedi profi rhagor o bwysau wrth weithredu’r newidiadau polisi cenedlaethol a gynlluniwyd er mwyn mynd i’r afael â llwythi gwaith yn y gwasanaeth prawf a’r gwasanaeth carchardai. Roedd y rhain yn cynnwys Ailosod y Gwasanaeth Prawf, cynlluniau rhyddhau o’r carchar yn gynnar, Effaith, a newid parhaus o ganlyniad i’r Adolygiad Annibynnol o Ddedfrydu.
Cynhaliwyd yr arolygiad diwethaf o ranbarth Cymru yn 2025, a chyhoeddwyd yr adroddiad ar 21 Ionawr 2026. Bryd hynny, canfu’r arolygwyr fod gan wasanaethau prawf yng Nghymru arweinyddiaeth gref, rhywfaint o waith partneriaeth cadarnhaol, ac ymrwymiad clir i wella, ynghyd â pherthnasoedd wedi’u datblygu’n dda ar draws partneriaid statudol a thrydydd sector. Er hyn, nid oedd ansawdd gwaith i gadw pobl yn ddiogel yn ddigon da yn gyson, ac roedd gwendid o hyd o ran rhannu a defnyddio gwybodaeth i asesu a rheoli risg. Canfu’r arolygwyr fod trefniadau rhannu gwybodaeth gyda’r heddlu ac awdurdodau lleol hefyd yn gymhleth ac yn aneffeithlon. Gwnaethpwyd pedwar argymhelliad rhanbarthol.
Sylwadau ar yr arolygiad (Back to top)
Canfu’r arolygiad hwn yng Nghymru dystiolaeth o weithgaredd gwella ar draws meysydd allweddol, â rhai arwyddion cynnar o effaith, ond roedd hen broblemau yn ymwneud ag asesu a dadansoddi yn dal i gyfyngu ar gysondeb ac effeithiolrwydd ymarfer.
Roedd yr arweinwyr wedi ymateb i’w gweithgaredd sicrwydd eu hunain drwy gyflwyno cynlluniau megis gweithdai casglu gwybodaeth a’r dull ‘Dechrau’n Iawn, Gorffen yn Iawn’1, a oedd yn dechrau gwella ansawdd gwybodaeth a sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael. Er hyn, roedd prosesau asesu’n parhau’n amrywiol ac roedd yr arweinwyr yn cydnabod y dylai ymarferwyr roi blaenoriaeth i ddefnyddio dull trefnus o gael gwybodaeth o ansawdd da ac yna newid y pwyslais i ddadansoddi. Er bod y rhan fwyaf o achosion yn dangos dosbarthiad priodol ar y cyfan o risg, roedd gwendidau o hyd o ran dyfnder dadansoddol. Nid oedd hanes o gam-drin domestig yn cael ei archwilio’n llawn bob amser, yn enwedig lle’r oedd cymhlethdodau gwaethygol megis gorfodaeth a rheolaeth, ac nid oedd ymarferwyr yn cysylltu ymddygiad yn gyson â’r effaith ar blant nac yn cydnabod patrymau ar draws achosion. Roedd hyn yn cael ei ategu gan heriau wrth geisio datblygu sgiliau dadansoddol creiddiol. Gwelodd yr arolygwyr yr un problemau gydag ymarferwyr nad oeddent yn gweithredu ar ‘ddigwyddiadau adroddadwy’ amser real gan yr heddlu bob amser, ynghyd â rhywfaint o laesu dwylo ynglŷn â pha mor rhagweithiol roedd angen iddynt chwilio am wybodaeth o ganlyniad i hynny. Yn galonogol, roedd hyn ar raddfa lai nag a welsom yn yr arolygiad blaenorol ac roedd arwyddion o welliant o ran mynediad at wybodaeth yn gyffredinol. Er hyn, nid oedd y wybodaeth a dderbyniwyd wedi’i hymwreiddio’n ddigonol i fod yn sail i ddiogelu dioddefwyr.
Roedd cynllunio wedi gwella’n sylweddol ac roedd yn gryfder amlwg o ran ymarfer, gan adlewyrchu gweithgaredd parhaus ac wedi’i dargedu a oedd wedi dechrau cyn yr arolygiad blaenorol. Roedd newidiadau i swyddogaeth CORRE2, a briffiau diwygiedig ar gyfer y system asesu troseddwyr (OASys) wedi cynorthwyo ymarferwyr i gynhyrchu cynlluniau rheoli risg strategol â ffocws mwy penodol. Er hyn, nid oedd y gwelliant hwn o ran cynllunio yn cael ei gyfateb yn llawn gan weithredu ac adolygu. Roedd bylchau o hyd o ran cydlynu gweithgaredd gydag asiantaethau eraill, integreiddio cynlluniau, a defnyddio prosesau adolygu i ailasesu risg yn ddynamig. Er bod datblygiadau megis y model CORRE esblygol a gwelliannau mewn prosesau Lefel 1 trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) yn darparu sylfaen gref, roedd angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod cynlluniau effeithiol yn troi’n gyflawni a rheoli risg amlasiantaethol cadarn yn gyson.
Roedd cryn dipyn o weithgareddau gwella wedi’u gwneud cyn yr arolygiad diwethaf; fodd bynnag, gan fod y ffrâm amser hon yn fyr, roedd hyn wedi arwain yn ddealladwy at welliannau cynnar a chynyddrannol yn unig mewn ymarfer hyd yn hyn.
Ers yr arolygiad blaenorol, roedd arweinwyr rhanbarthol wedi gweithredu rhaglen strwythuredig o welliant yn canolbwyntio ar gryfhau gwaith diogelu’r cyhoedd. Roedd hyn yn cynnwys sefydlu’r dull gweithredu Dechrau’n Iawn, Gorffen yn Iawn, â chanllawiau a byrddau gweithredu penodedig, ochr yn ochr ag ymyriadau llys, dalfa, a chymunedol wedi’u targedu er mwyn sicrhau bod sylw’n cael ei roi yn gynnar i risgiau. Roedd gwaith wedi’i gwblhau hefyd er mwyn tynhau polisïau cam-drin domestig, diogelu, a gwirio cyfeiriadau, yn cael ei gefnogi gan well prosesau ar gyfer rhannu gwybodaeth gyda’r heddlu ac awdurdodau lleol, gweithdai newydd, a phwyslais cryfach ar ddefnyddio gwybodaeth yn effeithiol mewn asesiadau risg a chynlluniau rheoli. Yn rhanbarthol, roedd llywodraethiant a sicrwydd yn cael eu cryfhau drwy fframwaith diogelu’r cyhoedd cymunedol mwy cydlynol. Roedd y datblygiadau hyn yn cael eu cydgrynhoi yn strategaeth diogelu’r cyhoedd Cymru 2026–2029, a oedd yn ymwreiddio safonau cyson ar gyfer asesu risg, ymarfer MAPPA, diogelu, a goruchwyliaeth yn seiliedig ar ddata, â phwyslais clir ar wneud penderfyniadau y gellir eu hamddiffyn, chwilfrydedd proffesiynol, a dysgu parhaus.
Roedd arweinyddiaeth ar draws y rhanbarth yn rymusol, ac yn dangos bwriad clir a thystiolaeth gynnar o effaith. Roedd arddull yr arweinyddiaeth a welsom yn amlwg, yn gydweithredol, ac wedi’i hymwreiddio’n glir, ac roedd tystiolaeth ei bod yn cael ei mabwysiadu ar fwy nag un lefel o’r sefydliad. Nid oedd yr arweinwyr yn cyfeirio at bwysau systemig megis tanstaffio neu gyflymder newid, ac roeddent yn derbyn cyfrifoldeb clir am gyflawni a gwella.
Roedd cydlynu yn nodwedd a oedd i’w gweld ym mhob rhan o’n gwaith maes, yn cael ei ategu gan ymrwymiad i weithredu fel un gwasanaeth integredig. Roedd hyn yn amlwg ar draws llysoedd, carchardai, mangreoedd a gymeradwywyd, a phartneriaid ehangach, yn ogystal â’r model carchar-prawf ar y cyd sydd wedi’i sefydlu’n dda ac sy’n cael ei gefnogi gan fforymau gweithredol a rennir. Roedd yr un cryfder i’w weld yn y dull gweithredu ar gyfer gwasanaethau menywod, lle roedd y ddarpariaeth wedi’i chydlynu o’r arestiad i’r cyfnod ar ôl dedfrydu, gan adlewyrchu model gwirioneddol o un pen i’r llall.
Roedd y diwylliant sefydliadol yn fwriadol ac yn alluogol. Wrth reoli newid parhaus mewn gwasanaethau prawf, roedd y rhanbarth wedi adfyfyrio a mireinio ei ddull gweithredu, gan gyflwyno mecanweithiau strwythuredig megis byrddau parodrwydd gweithredol a rhestrau gwirio newid, a oedd yn cynorthwyo staff i ragweld ac ymgysylltu â newid. Fodd bynnag, roedd newid parhaus yn arwain at flinder, ac roedd canfyddiadau ein harolygon staff a chyfweliadau yn dangos bod llawer o staff yn teimlo eu bod yn cael eu llethu, a bod hynny’n effeithio ar eu gallu i ddarparu gwaith o ansawdd da yn gyson.
Roedd diwylliant cryf o adfyfyrio ac adborth yn amlwg, yn cael ei gadarnhau gan ddefnydd wedi’i ymwreiddio yn y rhanbarth o ddull gweithredu yn seiliedig ar ffactorau dynol, gan gynnwys trafodaethau adfyfyriol dyddiol ar wneud penderfyniadau, ystyried tuedd wybyddol, a dysgu o adolygiadau o Droseddau Pellach Difrifol (SFO) er mwyn cryfhau diogelwch seicolegol a gwneud penderfyniadau y gellir eu hamddiffyn mewn gwaith diogelu’r cyhoedd.
Roedd dulliau gweithredu uniongyrchol yn cael eu mabwysiadu er mwyn cryfhau prosesau ar gyfer atgyfnerthu hyfforddiant – pwnc rydym wedi’i nodi fel rhwystr mewn llawer o ranbarthau. Cynhelid diwrnodau wedi’u neilltuo ar gyfer dysgu yn fisol ym mhob uned gyflawni prawf. Yng Ngwent, roedd yr uned gyflawni prawf yn treialu cylch tri mis ar un pwnc, â’r sesiwn olaf yn canolbwyntio ar atgyfnerthu drwy setiau dysgu gweithredol ‘Dysgu Cymru’. Ochr yn ochr â hyn, roedd diwylliant cryf o ddysgu anffurfiol i’w weld ac roedd yn ymddangos ei fod yn gwella effeithiolrwydd cyffredinol yr hyfforddiant ffurfiol a gynigid drwy atgyfnerthu. Er enghraifft, roedd defnyddio swyddogion datblygu ansawdd (QDO) a oedd yn gydnaws ag unedau cyflawni prawf wedi golygu cymryd cam beiddgar oddi wrth ddull archwilio fesul achos unigol a oedd yn cymryd llawer o amser. Roedd gwaith y swyddogion datblygu ansawdd yn canolbwyntio ar ymwreiddio dysgu ac ymarfer o safon uchel a galluogi staff drwy sesiynau rhyngweithiol a setiau dysgu gweithredol.
Roedd y gwaith hwn yn seiliedig ar ehangder ac uchelgais gweithgaredd archwilio a sicrwydd yn y rhanbarth, ynghyd â dysgu o adolygiadau o droseddau pellach difrifol. Er bod lefel y craffu yn drawiadol, roedd yr arweinwyr yn awyddus iddo ymestyn y tu hwnt i oruchwylio. Roedd y tîm cynllunio prawf, sicrwydd, a gweithredu yn hybu gwelliant drwy ddefnyddio mewnwelediadau o ffynonellau adborth ac archwiliadau mewnol ac allanol. Roedd gweithredu systemau, negeseuon, briffiau, a blaenoriaethau ymarfer effeithiol yn cefnogi gweithrediadau i wella. Roedd hyn wedi creu cysylltiad clir a chydlynol rhwng dysgu, sicrwydd, a gweithredu. Roedd staff yn cael eu hysbysu ynglŷn â manteision y gwaith hwn – y ‘pam’, y cyfeirid ato’n gyson.
Er bod lefelau staffio yn gymharol sefydlog at ei gilydd, roedd swyddi gweigion yn dal i gael effaith ar lwyth gwaith. Roedd y sefyllfa hon yn waeth oherwydd heriau parhaus yn deillio o’r ffaith fod prosesau recriwtio’n cael eu rheoli’n ganolog, ac oherwydd yr oedi y cyfeiriwyd ato’n aml mewn prosesau fetio, a oedd yn golygu bod rhai staff a oedd newydd gael eu recriwtio yn methu aros i’r fetio gael ei gwblhau, ac yn chwilio am gyfleoedd eraill ar gyfer gwaith.
Roedd lefelau salwch yn effeithio ar dimau, ac roedd arweinwyr eisoes yn gyfarwydd â ‘mannau problemus’ mewn rhanbarthau, gan nodi bod salwch hirdymor yn sail i ddata salwch cyffredinol. Roedd staff yn y rhanbarth yn cydymffurfio â’r gyfarwyddeb genedlaethol sy’n cyfeirio at dreulio isafswm o 60 y cant o’u hamser gwaith yn y swyddfa. Fodd bynnag, roedd arweinwyr rhanbarthol wedi cydnabod bod gofynion gweithredol yn galw am bresenoldeb digonol ar safleoedd unedau cyflawni prawf, a bod hynny’n golygu bod angen i fwy o ymarferwyr prawf fod yn bresennol. Gan ystyried addasiadau rhesymol pwrpasol, roedd unedau cyflawni prawf ar hyn o bryd yn gweithredu ar bresenoldeb staff o 80 y cant, ac roedd angen i ymarferwyr gael cytundeb rheolwr llinell i weithio i ffwrdd o’r swyddfa ar gyfer tasgau penodol, gan gynnwys gweithgaredd ysgrifennu adroddiadau ac asesu.
Bwriadwyd i’r dull gweithredu hwn hybu mwy o gydlyniant mewn timau, cynyddu cyfleoedd ar gyfer dysgu anffurfiol, a lliniaru diffygiad sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu dwys â phobl ar brawf o fewn fframiau amser cywasgedig. Yn fwyaf arbennig, yng Nghwm Taf Morgannwg, roedd yr arweinwyr yn dweud bod ychydig o welliant cynnar mewn lefelau salwch, ac roeddent yn teimlo y gallai hynny fod yn gysylltiedig â’r penderfyniad hwn. Er bod ymateb cychwynnol y staff yn gymysg, roedd yr arweinwyr rhanbarthol yn cadw cyfeiriad cyson, ac yn dod â’r staff gyda nhw drwy bwysleisio’r ‘pam’, a oedd yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu anffurfiol gan gymheiriaid, a oedd yn digwydd yn naturiol mewn ymarfer bob dydd. Roedd y neges hon yn cael ei chyfleu hefyd mewn prosesau sefydlu staff a sesiynau ymarfer adfyfyriol, er mwyn sicrhau bod staff yn deall pwysigrwydd ymarfer mewn swyddfa. Dros gyfnod, roedd y staff yn dechrau cydnabod manteision y model. Roedd ein harolygiad o achosion yn cadarnhau bod y rhan fwyaf o’r achosion y gwnaethom eu harolygu yn rhai lle’r oedd yr unigolyn ar brawf yn cael ei weld ar yr amlder priodol a bod natur yr apwyntiad yn briodol hefyd. Roedd hyn i’w weld ar ffurf mwy o adroddiadau wyneb yn wyneb a llai o apwyntiadau yn cael eu gwneud gan gydweithwyr.
Roedd ansawdd gwaith swyddogion gwasanaethau prawf wedi cael ei nodi gan y rhanbarth fel maes i ganolbwyntio arno drwy ei weithgaredd archwilio mewnol. Roedd ein sampl o achosion yn adlewyrchu themâu tebyg, gan gynnwys bylchau mewn gwaith yn ymwneud ag achosion â dioddefwyr posibl niferus neu wasgaredig ac wrth asesu ymddygiadau heb eu collfarnu. Cawsom ein calonogi gan ymarfer arloesol sy’n datblygu, gan gynnwys treialu paneli cynnydd swyddogion gwasanaethau prawf yn Nyfed Powys, a oedd yn cyfuno pwyslais ar atebolrwydd â datblygiad proffesiynol. Roedd Cwm Taf Morgannwg wedi treialu hyfforddiant penodol a sesiynau dysgu adfyfyriol cymar-i-gymar ar gyfer swyddogion gwasanaethau prawf. Ar lefel strategol, roedd pwyslais clir a chyson ar ymarfer swyddogion gwasanaethau prawf mewn cyfarfodydd atebolrwydd.
Roedd mynediad at wybodaeth, yn enwedig gan bartneriaid yn yr heddlu, wedi gwella ers yr arolygiad diwethaf. Yn y rhan fwyaf o’r achosion a arolygwyd, roedd digon o wybodaeth wedi’i chael gan yr heddlu i gefnogi asesiad o’r risgiau a oedd yn gysylltiedig â cham-drin domestig. Roedd tystiolaeth o ymgysylltu ar lefel fwy strategol â’r heddlu drwy gyfarfodydd a hyfforddiant ar y cyd, ynghyd â chydnabyddiaeth gyffredin o’r heriau. Fodd bynnag, roedd amrywioldeb o hyd ar draws lluoedd, yn cael ei ddylanwadu’n aml gan wahaniaethau mewn cefndir proffesiynol a dehongliad o ofynion diogelu data. Roedd partneriaid yn yr heddlu’n gadarnhaol ynglŷn â pherthnasoedd gwaith ac yn disgrifio’r cynnydd mewn digwyddiadau ar y cyd fel trawsnewidiol. Er bod arwyddion calonogol o gynnydd, gan gynnwys y ffaith fod partneriaid yn yr heddlu’n agored i leihau nifer y golygiadau yn y wybodaeth y maent yn ei rhannu, mewn rhai meysydd roedd angen rhagor o waith er mwyn sicrhau bod gwasanaethau wedi’u paratoi’n ddigonol i reoli swm a sensitifrwydd y wybodaeth a oedd yn cael ei rhannu.
Roedd canfyddiadau arolygon staff yn dangos bod cyfran fach ond nodedig o staff nad oeddent yn teimlo’n ddigon hyderus i fynd ar ôl partneriaid neu eu herio’n adeiladol. Roedd yr arweinwyr wedi cymryd camau priodol i fynd i’r afael â hyn. Roedd offer megis SBAR (sefyllfa, cefndir, asesiad, argymhelliad) wedi’u hymwreiddio mewn ymarfer rheolaidd, ac roedd defnyddio gweinyddwr achosion i helpu Uwch Swyddogion Prawf i drefnu goruchwyliaeth adfyfyriol yn dangos ymrwymiad sefydliadol clir i gryfhau chwilfrydedd proffesiynol a hyder. Er hyn, roedd y gallu i herio partneriaid yn briodol yn parhau’n un o’r prif ffactorau a oedd yn cyfyngu ar gysondeb ansawdd mewn ymarfer. Roedd y camau a roddwyd ar waith yn gredadwy ac wedi’u hystyried yn dda; fodd bynnag, gan fod y cyfnod ers yr arolygiad diwethaf yn gymharol fyr, roedd yn rhy gynnar i asesu effaith y newidiadau sylweddol hyn yn llawn.
Ers yr arolygiad diwethaf, roedd arweinwyr rhanbarthol wedi nodi blaenoriaethau allweddol yn eu strategaeth diogelu’r cyhoedd ar gyfer 2026–2029. Roedd hyn yn cynnwys safoni templedi ymholiadau ac ymatebion, a chwblhau ymarfer mapio. Pwrpas hyn oedd ceisio deall yr amrywiaeth o ran ansawdd ac amser ymatebion awdurdodau lleol ar draws y rhanbarth. Roedd pob uned gyflawni prawf yn ffurfio gweithgor a oedd yn canolbwyntio ar adnabod ac uwchgyfeirio rhwystrau yn gyflymach, â sicrwydd wedi’i ymwreiddio.
Nid oedd perthnasoedd gyda gwasanaethau plant mor ddatblygedig â pherthnasoedd gyda’r heddlu, er bod ymrwymiad clir ar bob ochr. Roedd partneriaethau strategol yn uchel eu parch, ac roedd ymarferwyr prawf yn cael eu gweld fel rhai a oedd yn cydweithio ac yn ymgysylltu ag archwiliadau, adolygiadau achos, a byrddau llywodraethu. Fodd bynnag, roedd rhwystrau’n fwy amlwg ar lefel weithredol, gan gynnwys bylchau yn nealltwriaeth y ddwy ochr o rolau, cyfrifoldebau, a phrosesau asesu. Er bod y ddwy ochr yn cydnabod yr heriau hyn ac yn rhannu’r cyfrifoldeb, roedd angen rhagor o waith er mwyn troi perthnasoedd strategol cryf yn ymarfer gweithredol cyson ac effeithiol. Ar yr ochr gadarnhaol, roedd trefniadau ar gyfer cynnwys ymarferwyr prawf mewn cyfarfodydd strategaeth wedi’u sefydlu’n dda ledled Cymru, ac roedd hynny’n golygu bod cyfnewid gwybodaeth yn digwydd ar y cyfle cynharaf.
Roedd trefniadau MAPPA yn gweithio’n effeithiol at ei gilydd. Roedd cydlynwyr, ynghyd â’r pennaeth diogelu’r cyhoedd cymunedol, i gyd yn gyson o ran eu dull o ystyried trothwyon a gosod lefelau. Roedd enw da a hygrededd a enillwyd drwy berthnasoedd sefydledig yn golygu bod partneriaid yn ymwneud heb broblemau, ac roedd y maes gwaith hwn hefyd wedi’i gryfhau gan y diwylliant dysgu ac ymrwymiad i welliant parhaus. Roedd y rhan fwyaf o’r achosion a oedd yn cael eu rheoli ar Lefel 1 yn cael eu hadolygu’n ddigonol, ac roedd hyn yn cael ei gynorthwyo drwy gynnwys cydlynwyr mewn adolygiadau. Roedd y prif faes ar gyfer datblygu yn cael ei amlygu drwy ddata arolygu achosion, a oedd yn awgrymu nad oedd MAPPA bob amser yn gwella gwaith amlasiantaeth. Roedd hyn yn ymwneud ag achosion yn cael eu rheoli ar Lefel 1 a’r un problemau â gwybodaeth wedi’i golygu gan yr heddlu ag a welwyd yn y llwyth achosion creiddiol.
Roedd trefniadau pendant i reoli troseddau difrifol a chyfundrefnol. Roedd defnydd effeithiol yn cael ei wneud o wybodaeth gan yr uned troseddau cyfundrefnol ranbarthol a phrosesau’r rhaglen cuddwybodaeth ar y cyd (JIP), ac roedd yr arweinwyr yn dangos dealltwriaeth glir o nifer yr achosion a mannau problemus a nodwyd. Roedd ein harolygiadau o achosion yn adlewyrchu hyn, ac roedd defnyddio’r JIP yn ychwanegu gwerth clir at reoli risg a goruchwyliaeth yn yr achosion a adolygwyd.
Roedd gofynion triniaeth dedfryd gymunedol a threfniadau rheoli contractau cysylltiedig yn gryfder. Roedd defnyddio gofynion deuol i fynd i’r afael ag anghenion iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau a oedd yn cyd-ddigwydd yn gadarnhaol iawn. Mewn achosion lle’r oedd y ddau angen yn bresennol, roedd eu croestoriadedd yn ychwanegu at y cymhlethdod a’r risg. Roedd y dull gorchymyn deuol yn darparu ymateb hyblyg a oedd yn mynd i’r afael â chyfyngiadau mewn darpariaeth un llwybr. Roedd 101 o bobl ar brawf wedi’u dedfrydu i’r gorchmynion deuol hyn dros gyfnod o 12 mis, gan ddangos yr angen am y gwaith hwn a’i effaith. Roedd tystiolaeth hefyd o wasanaethau’n addasu i newid mewn patrymau angen, gan gynnwys newid yn y defnydd o gyffuriau a chomisiynu darpariaeth ar gyfer diwylliannau penodol er mwyn mynd i’r afael â llai o ymgysylltu gan grwpiau Du, Asiaidd, a lleiafrifoedd ethnig.
Roedd arolygiadau achosion a oedd yn ymwneud â phobl ar brawf a oedd wedi cael eu rhyddhau o’r ddalfa yn cael eu rheoli’n dda gan mwyaf. Roedd llawer o’r themâu a nodwyd gydag achosion cymunedol, megis dadansoddi a gwaith rhyngasiantaethol gwael, yn llai o nodwedd mewn achosion yn y ddalfa. Roedd ‘Dechrau’n Iawn, Gorffen yn Iawn’ ar gyfer achosion yn y ddalfa wedi hybu ymgysylltiad cynharach, cydweithio rhwng y ddalfa a’r gymuned, ac atebolrwydd cliriach – yn cael ei gefnogi gan fwy o bwyslais ar MAPPA a lefelau uwch o oruchwyliaeth ar gyfer achosion cyn rhyddhau. Roedd perthnasoedd rhanbarthol cryf, yn enwedig gyda mangreoedd a gymeradwywyd a thimau llety, yn galluogi cyfathrebu a dyrannu gwelyau effeithiol. Roedd defnyddio hyfforddiant mangreoedd a gymeradwywyd a gweithwyr allweddol cyn rhyddhau yn gwella trefniadau paratoi a sefydlogrwydd, tra oedd llwybrau llety integredig (gan gynnwys gwasanaethau llety cymunedol haen 3 (CAS3) a phartneriaethau gydag awdurdodau lleol) yn sicrhau ymateb cyfannol. Yng nghanol pryder ehangach ynglŷn â nifer anghymesur o adalwadau a dedfrydau amhenodol ‘disymud’ i garcharorion diogelu’r cyhoedd (IPP), roedd y rhanbarth wedi llwyddo i sicrhau gostyngiad o draean fwy neu lai yn nifer yr adalwadau, gan helpu i leihau achosion diangen o ddychwelyd i’r ddalfa a chefnogi cynnydd. Gwnaethpwyd hyn drwy sesiynau briffio staff, mwy o ddiogelwch a thrafodaeth well am adalw.
Argymhellion rhanbarthol (Back to top)
1. Ymwreiddio a gwerthuso’r gweithgareddau gwella presennol er mwyn sicrhau ymarfer cyson.
2. Datblygu hyder a sgiliau ymarferwyr i ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol a herio sgyrsiau er mwyn nodi, dadansoddi, asesu, cynllunio, ac ymateb i ddangosyddion risg yn effeithiol.
3. Gwella cysondeb gwaith amlasiantaethol ar lefel weithredol er mwyn rheoli cam-drin domestig a diogelu plant, er enghraifft gyda’r heddlu a gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, er mwyn sicrhau bod gwir ddioddefwyr a dioddefwyr posibl yn cael eu diogelu’n ddigonol.
4. Gweithredu trefniadau ar gyfer monitro a gwella ansawdd gwaith rheoli dedfrydau sy’n cael ei gyflawni gan ymarferwyr er mwyn cadw pobl yn ddiogel.
Argymhellion i HMPPS (Back to top)
5. Datblygu dull strategol cenedlaethol o rannu gwybodaeth gyda’r heddlu a gwasanaethau plant, â’r bwriad o gynorthwyo’r rhanbarthau i sicrhau cysondeb a chydymffurfiad â deddfwriaeth er mwyn cael a defnyddio gwybodaeth i ddiogelu’r cyhoedd.
6. Lleihau oedi â’r broses fetio a mynd i’r afael ag ansefydlogrwydd y gweithlu drwy weithredu prosesau recriwtio wedi’u symleiddio.
Sgorio (Back to top)
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
| A yw’r broses asesu yn canolbwyntio digon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 40% |
| A yw’r broses gynllunio yn canolbwyntio digon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 64% |
| A yw’r broses o weithredu a darparu gwasanaethau’n effeithiol yn cefnogi diogelwch pobl eraill? | 44% |
| A yw’r broses adolygu yn canolbwyntio digon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 47% |
Gweithgaredd dilynol (Back to top)
Yn unol â’r argymhellion a nodwyd, cynhelir ystod o weithgareddau dilynol. Bydd Arolygiaeth Prawf EF yn gweithio gyda’r rhanbarth er mwyn nodi beth y gellir ei wneud er mwyn llywio a chefnogi eu gwaith, cynyddu gwybodaeth a hyder, a darparu sylfaen gadarn ar gyfer gwelliant pellach. Bydd yr Arolygiaeth hefyd yn ceisio rhannu sut mae ymarfer effeithiol yn edrych drwy ddefnyddio canfyddiadau arolygiadau, nodi ffactorau sy’n atal cynnydd, a thynnu sylw at gyfleoedd i wella atebolrwydd.
Ffeithiau cyd-destunol allweddol (Back to top)
| Nifer y bobl yn cael eu goruchwylio (ar 31 Rhagfyr 2025)3 | 15,144 |
| Troseddwyr sy’n gymwys ar gyfer MAPPA (ar 31 Mawrth 2025)4 | 6,110 |
| Perfformiad bodlonrwydd dioddefwyr SL021 (Ebrill 2024 – Mawrth 2025)5 | 79.4% |
| Lefel staffio (staff mewn swyddi cyfwerth ag amser llawn (FTE))6 | ||
| Uwch swyddog prawf | Swyddog prawf | Swyddog gwasanaethau prawf (gan gynnwys Cymhwyster Proffesiynol mewn Prawf (PQiP)) |
| 84% | 89% | 110% |
| Cyfartaledd llwyth achosion ar adeg yr arolygiad (FTE) | ||
| Swyddog prawf | Uwch swyddog prawf (heb gynnwys PQiP) | PQiP |
| 31.61 | 41.14 | 26.67 |
| Cyfraddau adalw (yn y 12 mis cyn yr arolygiad) | 25.71% |
| Cyfartaledd amser aros gofyniad gweithgaredd adsefydlu (RAR) (yn y 12 mis cyn yr arolygiad) | Ddim ar gael |
| Canran y diwrnodau RAR a gwblhawyd (yn y 12 mis cyn yr arolygiad) | 68% |
| Canran y gofynion rhaglen achrededig a gwblhawyd ar gyfer unigolion a brofwyd yn euog o drosedd rywiol (yn y 12 mis cyn yr arolygiad) | 61.19% |
| Canran y gofynion rhaglen achrededig a gwblhawyd ar gyfer unigolion nad ydynt wedi’u profi’n euog o drosedd rywiol (yn y 12 mis cyn yr arolygiad) | 35.54% |
| Dosbarthiad Risg o Niwed Difrifol achosion a arolygwyd | ||
| Isel | Canolig | Uchel/uchel iawn |
| 2% | 55% | 44% |
Rhagor o wybodaeth (Back to top)
Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Donna Waters, â chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob rhan o’r Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a helpodd i gynllunio’r arolygiad ac a gymerodd ran ynddo; heb eu cymorth a’u cydweithrediad nhw, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosibl.
- Mewn ymateb i Ailosod y Gwasanaeth Prawf, roedd Gwasanaeth Prawf Cymru wedi cychwyn ar daith i sicrhau bod pobl ar brawf yn derbyn yr ymyriadau iawn yn gynharach. Cafodd Dechrau’n Iawn, Gorffen yn Iawn ei greu a’i lansio ym mis Medi 2024. Er mwyn sicrhau eu bod yn cael pethau’n iawn y tro cyntaf, crëwyd llawlyfrau canllawiau ar gyfer timau’r llys, y ddalfa, gwaith cymunedol, a gwaith di-dâl, a chrëwyd timau ‘traean olaf’ ar draws unedau cyflawni prawf lle’r oedd achosion Ailosod y Gwasanaeth Prawf ac Effaith yn cael eu rheoli. ↩︎
- Mae timau CORRE (Ailsefydlu, Atgyfeirio a Gwerthuso Gweithredol Canolog) penodedig yn gyfrifol am gwblhau atgyfeiriadau a chydlynu elfennau allweddol o gynlluniau dedfrydu. Mae’r tîm yn sicrhau bod atgyfeiriadau at wasanaethau ac ymyriadau yn briodol, yn amserol, ac yn gydnaws ag amgylchiadau, risgiau, ac anghenion adsefydlu asesedig yr unigolyn. ↩︎
- https://www.gov.uk/government/collections/offender-management-statistics-quarterly. ↩︎
- https://www.gov.uk/government/collections/multi-agency-public-protection-arrangements-mappa-annual-reports. ↩︎
- https://www.gov.uk/government/statistics/community-performance-annual-update-to-march-2025. ↩︎
- Mae’r data gweithlu sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad hwn yn dod o wybodaeth rheoli fewnol ac mae rhywfaint o’r data hyn yn dod o ffynhonnell ddata wahanol i’r bwletin Ystadegau Gweithlu a gyhoeddwyd gan HMPPS a’r Atodiad Recriwtio Swyddogion Prawf cysylltiedig. Mae ar yr Arolygiaeth angen mynediad at y data diweddaraf sydd ar gael, a bernir mai gwybodaeth rheoli fewnol yw’r ffynhonnell orau er mwyn caniatáu hyn. O ganlyniad, mae’n bosibl y bydd anghysondebau rhwng y data sydd yn yr adroddiad hwn a’r data sydd yn y cyhoeddiad. ↩︎