Arolygiad Cenedlaethol – Ebrill 2025
Rhagair gan Brif Arolygydd EF (Back to top)

Roedd yr arolygiad hwn yn barnu pa mor foddhaol oedd y trefniadau cenedlaethol ar draws Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS) o ran cefnogi, cynorthwyo a hybu gwasanaethau prawf effeithiol yn y rhanbarthau ac mewn unedau prawf (PDU).
Mae gan y trefniadau cenedlaethol hyn rôl hollbwysig mewn sicrhau canlyniadau llwyddiannus mewn gwaith prawf rheng flaen, ac er bod rhai cryfderau yn y gwaith a arolygwyd, gwelsom hefyd le sylweddol i wella.
Mae’r System Cyfiawnder Troseddol yn wynebu heriau parhaus ac, yn anffodus, nid yw ein canfyddiadau’n dangos bod y Gwasanaeth yn gwbl barod i ymateb yn effeithiol.
O ganlyniad, rydym wedi barnu bod y trefniadau hyn ar y cyfan yn rhai sydd ‘Angen Gwella’.
Mae angen cryfhau’r arweinyddiaeth, o ran cyflwyno negeseuon cyson a sicrhau gweithredu yng nghyswllt yr amcanion allweddol ar gyfer goruchwyliaeth prawf: sef diogelu’r cyhoedd a lleihau aildroseddu. Ni ddylid darparu’r ddau amcan craidd hwn ar eu pen eu hunain, dylid eu gwreiddio ar draws yr holl ganlyniadau darparu ac ni welsom y cydlyniant hwn ar lefel genedlaethol.
Roedd yr arolygiad wedi adnabod rhai cryfderau gyda thechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh) a gwasanaethau digidol a gwelsom waith rhagorol iawn yn cael ei wneud i wella darparu yn y rheng flaen.
Fodd bynnag, gwelsom ganlyniadau pryderus o ran gwasanaethau, gyda nifer o ddiffygion sylweddol yn effeithio’n uniongyrchol ar y darparu. Roedd y bwlch rhwng y trefniadau cenedlaethol a’r angen gweithredol yn y rheng flaen yn destun pryder, gan adlewyrchu’r sgoriau darparu a gweithredu isel a welwn yn rhy aml mewn arolygiadau craidd ac yn y gwaith achos sy’n ategu’r arolygiad hwn.
Bydd angen i ni weld newid sylweddol i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Prawf ddigon o gapasiti i gwrdd â’r galw gweithredol a bod ansawdd gwasanaethau’n gwella. Bydd hyn yn golygu penderfyniadau anodd o ran beth fydd yn cael ei wneud, a gyda phwy, i sicrhau bod y rhai gyda’r risg fwyaf o aildroseddu ac achosi niwed difrifol yn cael eu rheoli’n iawn.
Mae uwch-arweinwyr ar draws HMPPS wedi dod yn fwyfwy ymwybodol o’r angen yma ac nad yw recriwtio swyddogion newydd, ynddo’i hun, yn ddigon o wella ansawdd y darparu.
Nid oes angen prosesau ychwanegol i reoli pobl ar brawf yn well; yr hyn sydd ei angen yw sefydlogrwydd gweithredol ar gyfer swyddogion rheng flaen hyfforddedig, mynediad at yr adnoddau iawn, ac arweinyddiaeth gefnogol ond cadarn.
Mae HMPPS wedi ‘baneru’ 2025 fel y flwyddyn ‘Pobl a Pherfformiad’. Ar lefel genedlaethol mae blociau adeiladu calonogol yn eu lle er mwyn gwireddu’r uchelgais yma ond, hyd yma, ni welsom unrhyw dystiolaeth bod polisi a strategaeth yn cael eu troi’n ddarparu gweithredol ystyrlon.
O ystyried cyhoeddiadau diweddar yr Arglwydd Ganghellor ar ddyfodol prawf, credwn y dylai’r arolygiad hwn roi barn ddefnyddiol, amserol ac annibynnol am yr heriau sy’n wynebu’r gwasanaeth, a beth allai fod angen canolbwyntio arno.
Os am lwyddo, mae angen trefniadau cenedlaethol arnom sy’n gwneud eu gorau i gefnogi, grymuso a chynorthwyo gwaith rheng flaen hollbwysig, ac mae ein hargymhellion yn disgrifio beth sydd angen ei wneud i ddarparu’r canlyniadau gorau posib i’r cyhoedd.
Sgoriau (Back to top)
Arweinyddiaeth | Angen Gwella |
Staffio | Angen Gwella |
Gwasanaethau | Anfoddhaol |
Seilwaith a TGCh | Angen Gwella |
Cefndir (Back to top)
Un o Asiantaethau Gweithredol y Weinyddiaeth Gyfiawnder (MoJ) yw HMPPS. Mae’n gyfrifol am weithredu dedfrydau’r llysoedd, yn y carchar ac yn y gymuned. Ei amcanion craidd yw diogelu’r cyhoedd a lleihau’r risg y bydd pobl yn aildroseddu. Mae’r MoJ yn disgwyl gweld canlyniadau cyffredinol yn erbyn y ddau amcan hwn.
Mae gwasanaethau prawf yn cael eu darparu mewn 12 rhanbarth drwy Gymru a Lloegr. Daw’r rhain o dan saith Ardal HMPPS, pob un wedi’i goruchwylio gan Gyfarwyddwr Gweithredol Ardal (AED). Ar 31 Mawrth 2024,1 roedd 238,993 o bobl yn cael eu goruchwylio gan y Gwasanaeth Prawf, gan gynnwys tua 60,000 dan oruchwyliaeth trwydded ar ôl eu rhyddhau, a 106,000 oedd yn destun gorchymyn gan y llys.
Roedd y gweddill yn cael eu goruchwylio yn y carchar cyn eu rhyddhau.
Sefydlwyd y Gwasanaeth Prawf, a weithredir gan HMPPS, yn 2021 ar ôl uno’r Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a’r Cwmnïau Ailsefydlu Cymunedol oedd yn cael eu rhedeg yn breifat. Dros y 18 mis diwethaf mae’r gwasanaeth wedi bod yn symud at fodel arweinyddiaeth ‘Un HMPPS’ er mwyn dod ag ochr y carchardai a’r ochr brawf yn nes at ei gilydd i roi canlyniadau gwell i ddioddefwyr, cymunedau a phobl sydd wedi troseddu. Drwy gysoni’r gwasanaethau carchardai a phrawf ag Ardaloedd HMPPS, y nod oedd gwella rheoli perfformiad drwy ddatganoli penderfyniadau gweithredol i Gyfarwyddwyr AED. Roedd arweinwyr yn rhagweld y byddai’r model hefyd yn cynorthwyo’r carchardai a phrawf i weithio’n fwy cydlynus, ac yn allanol gyda chyrff partner pwysig.
Roedd symud at Ardaloedd o dan Un HMPPS hefyd wedi’i ddylunio i gysoni blaenoriaethau cenedlaethol ac Ardal. Y nod oedd grymuso arweinwyr rhanbarthol drwy fframwaith a elwir yn ‘fixed and flex’ gan roi mwy o ryddid iddynt wrth wneud penderfyniadau am ddarparu yn y rheng flaen. Roedd gan hyn botensial i wella’r canlyniadau; fodd bynnag, nid oes tystiolaeth hyd yma bod gwasanaethau wedi gwella’n ddigonol.
Fel rhan o ddylunio Un HMPPS, cafodd bencadlys HMMPS ei ailstrwythuro a daeth yr holl gyfarwyddiaethau newydd yn weithredol o fis Medi 2025. Mae gan y Prif Swyddog Prawf bellach gyfarwyddiaeth weithredol i gefnogi’r gwaith o droi polisi’n ymarfer, gyda gwaith canolog yn cael ei wneud i gynyddu capasiti prawf, gwneud gwaith rheng flaen yn fwy effeithlon ynghyd â’i effaith ar y blaenoriaethau o ailsefydlu troseddwyr a diogelu’r cyhoedd.
Methodoleg (Back to top)
Cynhaliwyd yr arolygiad rhwng Rhagfyr 2024 a Chwefror 2025. Arolygwyd achosion ar draws y 12 rhanbarth prawf gan ddewis nifer gymesur o achosion o bob rhanbarth. Arolygwyd yr achosion i gyd o bell drwy adolygu cofnodion ysgrifenedig y gwaith achos. Arolygwyd cyfanswm o 165 o achosion, 157 yn erbyn safonau craidd ac wyth yn erbyn safonau a addaswyd. Wrth arolygu’r achosion, defnyddiwyd rheolau a chanllawiau asesu achosion ynghyd â safonau wedi eu haddasu ar gyfer achosion Ailosod Prawf2 lle’r oedd goruchwyliaeth wedi’i derfynu yn ystod wyth wythnos gyntaf gorchymyn neu drwydded y person.
Ynghyd ag arolygu achosion ar draws y rhanbarthau, cynhaliwyd 66 o gyfarfodydd a grwpiau ffocws gydag arweinwyr cenedlaethol, ardal a rhanbarthol HMPPS i gasglu tystiolaeth yn erbyn ein pedair safon arolygu genedlaethol: Arweinyddiaeth, Staffio, Gwasanaethau a Seilwaith.
Mae ein safonau arolygu cenedlaethol wedi eu dylunio i’n cynorthwyo i farnu pa mor foddhaol yw’r trefniadau cenedlaethol ar gyfer cefnogi, cynorthwyo neu hybu rhanbarthau ac unedau prawf (PDU) i ddarparu gwasanaethau prawf effeithiol. Mae gennym ddiddordeb yn y berthynas rhwng beth sy’n digwydd ar lefel genedlaethol a sut y mae hyn yn cysylltu i wasanaethau prawf effeithiol.
Mae pob un o’r safonau arolygu cenedlaethol yn derbyn sgôr ar raddfa pedwar pwynt sydd naill ai’n ‘Rhagorol’, ‘Da’, ‘Angen Gwella’ neu’n ‘Anfoddhaol’. Mae’r sgoriau’n seiliedig ar gyfuniad o ddata ansoddol sy’n cynnwys cyfweliadau gyda staff a rhanddeiliaid perthnasol eraill, archwilio polisïau a gweithdrefnau ynghyd â gwybodaeth a data meintiol. Mae arolygu’r achosion wedi goleuo ein barn ond heb gyfrannu’n uniongyrchol at y sgoriau. Cwblhawyd yr arolygiad cenedlaethol yn unol â’n Rheolau a Chanllawiau yr oeddem wedi ymgynghori arnynt cyn yr arolygiad hwn.3
Casgliadau’r adroddiad (Back to top)
Arweinyddiaeth – ‘Angen Gwella’
Er yn deall y pwysau gwaith trwm ar y gwasanaeth prawf, ac er y camau a gymerwyd i fynd i’r afael â hyn, nid oedd uwch-arweinwyr yn gwneud digon i sicrhau gwasanaethau o ansawdd. Nid oedd cofrestri risg busnes yr ardaloedd yn cyd-fynd â’r gofrestr risg genedlaethol ac nid oeddent yn ystyried yr holl risgiau i ddarparu. O ganlyniad roedd y gweithredu cenedlaethol i ddatrys problemau lleol yn llai effeithiol.
Nid oedd gweledigaeth gyffredinol y gwasanaeth prawf wedi’i hategu gan gynllun busnes cyfredol, a’r strategaeth – Model Gweithredu Targed ar gyfer Gwasanaethau Prawf – heb ei diweddaru ers uno’r gwasanaethau yn 2021. Mae Cyfarwyddwyr AED yn gyfrifol am goladu a gweithredu cynlluniau Ardal sy’n cyd-fynd â chanlyniadau darparu’r MoJ. Fodd bynnag, roedd diffyg cydlynu blaenoriaethau’n achosi amwysedd ar draws y prif amcanion.
Wrth gyfathrebu blaenoriaethau gwasanaeth, nid oedd arweinwyr yn pwysleisio lleihau aildroseddu fel ffactor greiddiol, er ei phwysigrwydd. Roedd bylchau yn y cydweithredu rhwng y Gyfarwyddiaeth Gweithredu Prawf a’r Gyfarwyddiaeth Ailsefydlu’n gwanhau ffocws y mesurau ailsefydlu gan danseilio ansawdd gwasanaethau ac adnoddau i bobl ar brawf a staff gweithredol sy’n darparu goruchwyliaeth brawf.
Roedd atebolrwydd am berfformiad ac ansawdd y darparu’n aneglur ac nid oedd y strwythurau llywodraethu cenedlaethol yn llwyddo i wella ansawdd rheoli dedfrydau, yn enwedig o ran diogelu’r cyhoedd.
Roedd gwaith dygn wedi’i wneud dros y 18 mis diwethaf i geisio cael nifer y boblogaeth garchardai i lawr ac mewn ymateb i ymdrechion i reoli’r galw ar draws y Gwasanaeth Prawf.
Wrth weithredu newidiadau polisi fel Dedfryd Benodol Safonol 40 (SDS40)4, roedd arweinwyr yn ymgysylltu â’r asiantaethau cenedlaethol i reoli rhyddhau carcharorion yn effeithiol. Roedd y trefniadau lleol yn allweddol i ddarparu polisi’n ddi-oed, wedi eu cynorthwyo gan berthnasoedd ar draws y strwythurau cenedlaethol hyn. Fodd bynnag, roedd angen i arweinwyr ymgysylltu’n well â rhanddeiliaid allweddol i gyflwyno newid effeithiol yn gynt a mwy rheolaidd, yn lle’n ymatebol.
Roedd cyfathrebu a chyflwyno newidiadau i bolisi ac ymarfer wedi gwella drwy weithredu System Reoli’r Porth, oedd yn hwyluso gallu rheoli newidiadau’n well. Roedd nifer o gyfarwyddiaethau HMPPS yn cysylltu’n rheolaidd â’r timau darparu rhanbarthol gan roi cyfle i gydweithredu a helpu i ddylanwadu ar newid.
Roedd casglu data a gwybodaeth reoli oedd ar gael i gynorthwyo creu polisi’n gryfder ar y cyfan er bod rhai bylchau o hyd mewn dadansoddi amrywiaeth.
Roedd diwylliant gweithredu agored a herio beirniadol ar draws y timau cenedlaethol. Roedd ymrwymiad wedi’i wneud i wreiddio safonau proffesiynol a datrys anghysondebau ar draws y sefydliad. Roedd mynd i’r afael ag ymddygiad annerbyniol, gwahaniaethu, harasio, bwlio a fictimeiddio i gyd yn flaenoriaethau er mwyn gwella profiadau staff a phobl ar brawf.
Staffio – ‘Angen Gwella’
Roedd llawer o’r prosiectau a gyflwynwyd yn ganolog i wella lefelau staffio a llwythi gwaith ar y trywydd iawn, ond nid oedd eu heffaith yn cael ei deimlo’n gyson eto ar lefel PDU a rhanbarth.
Roedd uwch-arweinwyr cenedlaethol yn hyddysg mewn llawer o’r materion yr oeddem wedi eu codi’n ddiweddar yn yr arolygiadau PDU a rhanbarthol, ac yn gweithredu mesurau i hybu gwelliannau staffio. Roedd cysylltiadau effeithiol rhwng y bobl oedd yn arwain y gwaith hwn a chyswllt cryf ag arweinwyr rhanbarthol i roi cymorth mwy effeithiol.
Gwelsom rywfaint o welliant mewn lefelau recriwtio a staffio ac roedd arweinwyr yn gweithredu rhai mesurau i leihau llwythi gwaith a rhoi mwy o gyfle i ymarferwyr gael datblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau a gwella eu hymarfer. Cawsom hefyd ein calonogi gan y pwyslais yr oedd arweinwyr cenedlaethol yn ei roi ar wella amodau gwaith uwch swyddogion prawf (SPO).
Er hynny mae’r cynnydd yn parhau i fod yn araf. Roedd prinder sylweddol o hyd o swyddogion prawf mewn rhai rhanbarthau a llwythi gwaith cyfartalog y grŵp hwn yn drwm o hyd. Adroddwyd yn gyson yn y gorffennol bod goruchwyliaeth rheolwyr yn brin ac aneffeithiol ar lefel PDU a rhanbarth a nodwn hyn eto yn yr arolygiad hwn. Mae cyfle i staff newydd gymhwyso a staff hyfforddedig gael gweithredu’r hyn a ddysgir yn parhau i gael ei danseilio’n aml gan lwythi gwaith trwm a phrinder staff profiadol i’w cefnogi.
Gwasanaethau – ‘Anfoddhaol’
Mae’r arolygiad hwn wedi nodi nifer o ddiffygion mawr ar lefel genedlaethol, oedd yn effeithio’n uniongyrchol ar y darparu.
Yn 2023 cyhoeddodd HMPPS ei Strategaeth Ailsefydlu oedd yn cyflwyno ei weledigaeth ar gyfer dull asiantaeth-gyfan, person-ganolog o ‘greu’ y systemau iawn, hyrwyddo’r diwylliant a’r amgylchedd iawn, a darparu’r gwasanaethau ailsefydlu iawn i’r person iawn ar yr amser iawn, ac yn y ffordd iawn’. Yn ystod ein harolygiad, roedd HMPPS wedi gwneud peth cynnydd gyda chyflawni’r amcanion hyn. Adlewyrchwyd hyn yng nghanfyddiadau ein gwaith arolygu achosion a farnodd fod gweithredu a darparu gwasanaethau ond yn cefnogi ymatal yn foddhaol mewn 32% o’r achosion a chyfrannu’n effeithiol at gadw pobl yn ddiogel dim ond mewn 18% o achosion.
Nid oedd y trefniadau cenedlaethol ar gyfer darparu gwasanaethau’n cwrdd ag anghenion y rhanbarthau na’r bobl oedd ar brawf. Ni welsom ddigon o dystiolaeth fod y partneriaethau iawn yn eu lle na’n gweithredu’n effeithiol ar lefel genedlaethol i gefnogi darparu gwasanaeth ac ni chawsom ein sicrhau bod diogelu’r cyhoedd na lleihau aildroseddu’n ganolog i gomisiynu a darparu gwasanaethau ar lefel genedlaethol.
Roedd diffygion hefyd yn y data ac yn y defnydd o ddata a dadansoddi i oleuo a chynorthwyo gyda darparu gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys bylchau mewn dadansoddi ffactorau amrywiaeth ac anghymesuredd, oedd yn cael ei briodoli i broblemau ansawdd data a diffyg adnoddau. Roedd diffyg hefyd wedi bod mewn gwerthuso effeithiolrwydd gwasanaethau a gomisiynwyd. Roedd gan hyn botensial i danseilio ansawdd penderfyniadau uwch-arweinwyr ar wasanaethau a rheoli’r galw am wasanaethau yn y dyfodol.
Seilwaith a TGCh – ‘Angen Gwella’
Roedd gan TGCh a gwasanaethau digidol rai cryfderau ar lefel genedlaethol ond nid oeddent wedi arwain at welliant digonol i’r systemau digidol a ddefnyddir gan staff rheng flaen ar draws y rhanbarthau prawf, ac roedd llawer o le i wella o hyd.
Roedd tanfuddsoddi sylweddol a pharhaus yn yr ystâd brawf a TGCh yn cyflwyno cyd-destun cymhleth a heriol i arweinwyr cenedlaethol a’u timau. Roedd yr ystâd brawf yn cynnwys cyfran uchel o adeiladau ar brydles, oedd yn cyflwyno cymhlethdodau ychwanegol. Roedd hyn yn cynnwys cynnal a chadw rheolaidd ac adeiladau oedd angen eu hadnewyddu’n sylweddol i fod yn hygyrch a modern i safon addas. Mewn rhai achosion roedd yr adeiladau’n gwbl anaddas ac angen dod o hyd i rai eraill. Roedd systemau TGCh wedi dyddio ac yn llafurus i’w defnyddio gan gyflwyno heriau technegol i dimau cenedlaethol oedd yn gweithio i’w moderneiddio.
Roedd arweinwyr cenedlaethol yn llwyr ddeall y cymhlethdod a heriau seilwaith a TGCh oedd yn atal darparu gwasanaethau prawf effeithiol. Roeddent yn cydnabod effaith yr amgylchedd gweithio gwael oedd yn gwneud i staff deimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd y cynnydd oedd wedi’i wneud pan gynhaliwyd ein harolygiad yn dangos y flaenoriaeth y mae uwch-arweinwyr wedi’i roi i greu amgylchedd modern sy’n cwrdd ag anghenion staff, rhanddeiliaid a phobl ar brawf. Yr ymrwymiad, y cynllun a’r gyllideb am y flwyddyn ariannol nesaf oedd parhau i symud ymlaen gyda’r gwaith sydd ei angen. Er bod hyn yn gadarnhaol, os yw’r gwasanaeth i lwyddo i wneud yr holl welliannau angenrheidiol, bydd mynediad parhaus at gyllid yn hollbwysig.
Roedd y trefniadau TGCh cenedlaethol wedi eu hategu gan gynllun cynhwysfawr a chyfeiriad strategol clir. Roedd llawer wedi’i gyflawno o ran gwella systemau, gan wneud ymarfer rheng flaen gyda chyflawni rhai tasgau’n fwy cyson ac effeithlon. Roedd gan bob adeilad prawf Wi-Fi, oedd yn cefnogi’r ymarferwyr prawf a’r cyfathrebu. Roedd gwaith yn cael ei wneud i ddylunio a datblygu system asesu risg newydd ar sail y dechnoleg ddiweddaraf a’r dystiolaeth ddiweddaraf. Roedd cymorth canolog yn cael ei roi i ranbarthau ar reoli anghenion TGCh y nifer fawr o swyddogion prawf newydd dan hyfforddiant. Roedd ymgysylltu gan staff ac ymgynghori ar ddatblygu systemau newydd wedi’i wreiddio’n dda gan olygu bod profiad ymarferwyr rheng flaen yn cael ei ddefnyddio.
Roedd gormod o adeiladau’n anhygyrch, oedd yn annerbyniol. Nid oedd digon o flaenoriaeth wedi’i roi i wella cyfleusterau gwaith di-dâl (UPW). Roedd trefniadau ar gyfer y tîm ystadau cenedlaethol newydd yn cymryd amser i wreiddio gan ei gwneud yn anodd i rai rhanbarthau ac unedau PDU dderbyn cymorth. Hefyd, nid oedd trefniadau i reoli a lliniaru rhai risgiau diogelwch allweddol yn y gwaith, gan gynnwys straen yn y gwaith, yn foddhaol.
Argymhellion (Back to top)
Dylai HMPPS:
- Cynhyrchu cynllun busnes cydlynus ac adolygu’r Model Gweithredu Targed i sicrhau ei fod yn cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau prawf effeithiol.
- Sicrhau bod risgiau sylweddol i wasanaethau prawf yn cael eu hadnabod a mesurau effeithiol yn cael eu cymryd.
- Cydweithredu’n effeithiol ag uwch-arweinwyr yn yr heddlu a llywodraeth leol i weithredu gwaith digonol ar gam-drin domestig a diogelu plant ar draws yr asiantaethau perthnasol.
- Datblygu systemau digidol sy’n cefnogi ymarferwyr i asesu, cynllunio, darparu a chofnodi eu gwaith yn amserol ac sy’n cynorthwyo i rannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill sy’n rhan o warchod dioddefwyr rhag cael niwed.
- Rhoi mwy o ddisgresiwn i arweinwyr rhanbarthol gomisiynu a rheoli contractau gyda chwmnïau sy’n cwrdd ag anghenion pobl ar brawf.
- Sicrhau bod gwaith comisiynu’n derbyn mewnbwn priodol o ddadansoddiadau cywir a chynhwysfawr o’r anghenion, risgiau a’r nodweddion a warchodir sydd gan bobl ar brawf.
- Buddsoddi mewn a rhoi blaenoriaeth i adnewyddu adeiladau ac ystadau anaddas, gan gynnwys safleoedd gwaith di-dâl, i sicrhau eu bod i gyd yn ddiogel a hygyrch.
- Sicrhau bod peryglon iechyd a diogelwch yn cael eu hadnabod a’u rheoli, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, gan gynnwys straen yn y gwaith.
Arweinyddiaeth (Back to top)
Cryfderau:
- Roedd Cyfarwyddwyr AED yn atebol mewn egwyddor am ddarparu cynlluniau Ardal sy’n egluro sut y byddent yn cyflawni gweledigaeth a chanlyniadau strategol hirdymor y gwasanaeth. Roeddent yn cynhyrchu cynlluniau busnes blynyddol gydag amcanion ar gyfer diogelu’r cyhoedd a lleihau aildroseddu. Roedd yr amcanion hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau darparu’r MoJ ac yn cynnwys amcanion trosfwaol. Roeddent yn hyrwyddo gwasanaeth cydlynus ac yn darparu fframwaith i ddal ardaloedd i gyfrif.
- Roedd y trefniadau cyfathrebu cenedlaethol gydag asiantaethau partner weithiau’n effeithiol. Pan ddaeth SDS40 yn weithredol er enghraifft, roedd arweinwyr cenedlaethol yn ymgysylltu gyda’r heddlu, darparwyr tai a thriniaeth ar lefel genedlaethol i fyddino cymorth rhanbarthol ar gyfer rhyddhau troseddwyr o’r carchar. Roedd arweinwyr yn cyfeirio’n briodol at hyn fel llwyddiant ac roedd cyfle heb os i adeiladu ar hyn yn y dyfodol. Gwelsom yn rhanbarthol fod trefniadau lleol yn hollbwysig i gyflwyno’r newid polisi hwn yn ddi-oed. Roedd hyn yn cael ei gefnogi drwy i arweinwyr yn strwythur cenedlaethol HMPPS annog cymorth gan wahanol asiantaethau.
- Roedd arweinwyr wedi gwneud gwelliannau cymeradwy i sut oedd y gwasanaeth wedi ymdopi â newid polisi ac ymarfer. Roedd System Reoli’r Porth wedi’i gweithredu i gefnogi a chynllunio’r galw am newid. Gan ymgorffori rhaglenni newid cenedlaethol a phrosiectau Ardal, roedd yn helpu i gyflwyno newid yn raddol ac mewn dilyniant ac felly’n fwy effeithiol, gyda llai o risg o orlwytho staff rheng flaen. Roedd Cyfarwyddwyr AED a thimau rhanbarthol hefyd yn gallu rheoli newid, cynnig adborth adeiladol i dimau cenedlaethol, a herio pan oedd angen. Roedd hyn yn arwain at gysylltiadau gwell rhwng timau cenedlaethol a rhanbarthol.
- Roedd coladu data i oleuo polisi a darparu gwasanaeth ar y cyfan yn gryfder. Roedd hyn yn cynnwys data ar amrywiaeth a nodweddion a warchodir er bod rhai bylchau wrth ddadansoddi’r data hwn yn gyffredinol. Roedd gwybodaeth reoli ar gael yn ganolog ynghyd â buddsoddi i sicrhau bod gwybodaeth gywir a dibynadwy am sicrwydd a pherfformiad ar gael i gynorthwyo i wneud penderfyniadau lleol.
- Roedd timau’r cyfarwyddiaethau strategaeth, perfformiad a chorfforaethol i’w hedmygu, a gwaith yn cynnwys ail-lansio safonau proffesiynol. Roedd ymrwymiad clir i wella ansawdd gwasanaethau a chynnal safonau proffesiynol. Ochr yn ochr â hyn, roedd yr uned gwahaniaethau’n lledaenu gwybodaeth a data oedd yn cyfrannu at benderfyniadau polisi a gwella cymhwysedd diwylliannol ar draws y sefydliad. Blaenoriaethau cynhwysiant hil cenedlaethol wedi eu hadnabod ar draws staffio, carchardai a phrawf. Roedd y ffocws yn ddarbodus, gydag un amcan i bob maes gwaith, ond yn gymesur â’r adnoddau oedd ar gael.
- Roedd ymrwymiad cenedlaethol i adnabod a rhoi sylw i wahaniaethu, harasio, bwlio a fictimeiddio ar draws y gwasanaeth. Wrth ailstrwythuro swyddogaethau HMPPS yn ddiweddar, roedd yr Uned Delio ag Ymddygiad Annerbyniol (TUBU) wedi’i chlustnodi, gan anfon neges gadarnhaol bwerus. Roedd arweinwyr yn monitro mynediad at wasanaethau llinell gymorth, cyfryngu ac ymchwiliadau. Roedd y llinell gymorth yn derbyn ychydig yn fwy o alwadau gan gydweithwyr prawf fel cyfran o’r grŵp gweithwyr na sectorau eraill ar draws y sefydliad. Roedd gwasanaethau i’r dyfodol yn cynnwys symud at ymyriadau ffocws ar ymddygiad a chymorth ymarferol, lle’r oedd angen, ar draws prawf.
Meysydd i’w gwella:
- Y weledigaeth drosfwaol ar gyfer y gwasanaeth prawf, drwy ddarparu ochr yn ochr â’r gwasanaeth carchardai fel rhan o HMPPS, oedd ‘diogelu’r cyhoedd, cynnal carchardai diogel a di-risg, lleihau’r risg o aildroseddu a helpu pobl i fyw bywydau cyfreithlon a chadarnhaol’. Roedd y weledigaeth hon wedi’i hategu gan ddau ganlyniad strategol hirdymor: diogelu’r cyhoedd rhag troseddwyr difrifol, a lleihau ailadroseddu. Er bod cyfraddau aildroseddu (wedi eu profi) wedi gostwng yn gyson yn y 10 mlynedd hyd at Fawrth 2020, maen nhw wedi cynyddu eto yn y pedair blynedd diwethaf, yn rhannol oherwydd oedi gyda phrosesu euogfarnau drwy’r llysoedd ar ôl Covid-19. Mae’r cyfraddau uwch yn ein gwaith arolygu craidd yn aml i’w gweld gydag asesu a chynllunio ar gyfer ymatal er bod gweithredu a darparu, ar y cyfan, yn annigonol ar gyfer cynorthwyo ymatal. Mae cadw pobl yn ddiogel yn parhau i fod yn destun pryder sylweddol.
- Ni ellir byth dileu risg yn llwyr, ond wrth arolygu’r gwaith achos, a ddefnyddiwyd i oleuo’r adroddiad hwn, gwelsom fylchau cyson yn y llwythi gwaith cyffredinol o ran asesu, cynllunio a rheoli risgiau oedd wedi eu hadnabod ynghyd â mesurau annigonol i gadw pobl yn ddiogel.
- Mae cyhuddiadau o droseddau pellach difrifol (SFO) ymhlith troseddwyr a reolir o dan y Trefniadau Amddiffyn y Cyhoedd Amlasiantaethol (MAPPA) wedi codi o 33% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i’w lefel uchaf ers 2018, gydag euogfarnau SFO yn codi o 15% yn y grŵp hwn. Mae hysbysiadau SFO ar gyfer pob math o droseddwr, p’un ai’n destun MAPPA neu beidio, hefyd i fyny o 33% yn 2023/2024 o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Roedd hyn yn destun pryder ac roedd angen ymchwilio ymhellach iddo er mwyn deall a oedd yn gysylltiedig ag ansawdd asesu a rheoli risg.
- O ystyried ein canfyddiadau arolygu cyson a’r cynnydd mewn troseddu a throseddu pellach difrifol, nid yw’r weledigaeth ar gyfer gwasanaethau prawf yn cael ei gwireddu eto.
- Nid oedd cynllun busnes clir ar gyfer darparu ar draws HMPPS. Ni allai cynllun 2024/2025 gael ei gyhoeddi oherwydd y newid llywodraeth, ac roedd cynllun 2025/2026 yn cael ei ddrafftio. Mae’r Model Gweithredu Targed ar gyfer Gwasanaethau Prawf yn dyddio’n ôl i uno yn 2021 a heb gael ei adolygu ers hynny. Roedd y Map Ffordd Prawf yn cael ei ddrafftio i ddangos y pellter a deithiwyd ers uno, gan amlinellu blaenoriaethau i’r dyfodol, ond nid oedd wedi’i gyhoeddi pan gynhaliwyd yr arolygiad hwn. Roedd Cyfarwyddwyr AED wedi creu eu blaenoriaethau darparu eu hunain ar sail canlyniadau’r MOJ ond oherwydd na chyhoeddwyd cynllun ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf, nid oedd cydlyniant cenedlaethol.
- Nid oedd y Gyfarwyddiaeth Ailsefydlu a’r Gyfarwyddiaeth Gweithredu Prawf yn ddigon cydlynol. Roedd arweinwyr oedd yn gyfrifol am sicrhau ansawdd gwaith ailsefydlu yn teimlo bod diogelu’r cyhoedd yn cael mwy o bwyslais yn y rheng flaen, er bod arolygiadau’n barnu’n gyson bod ymatal yn cael ei reoli’n well na diogelu’r cyhoedd.
- Nid oedd atebolrwydd am ddarparu gweithredol a pherfformiad rhwng Cyfarwyddwyr AED ac uwch-arweinwyr yn glir. Ychwaith, nid oedd y rhyddid oedd gan Gyfarwyddwyr AED drwy ddull o’r enw ‘fixed and flex’ bob amser yn ddealladwy i bawb, gydag uwch-arweinwyr weithiau’n rhoi negeseuon cymysg.
- Nid oedd y trefniadau llywodraethu cenedlaethol yn arwain at wella ansawdd y gwaith rheoli dedfrydau ar draws y Gwasanaeth Prawf. Roedd cyfarwyddwyr anweithredol ar fwrdd asiantaethau HMPPS wedi comisiynu, yn bur briodol, cyfarfodydd ychwanegol o’r pwyllgor archwilio a sicrhau risg i geisio ateb eu pryderon am ansawdd y gwaith diogelu’r cyhoedd. Fodd bynnag, dim ond rhai gwelliannau oedd yn cael eu hadrodd drwy waith sicrwydd. Roedd gan dîm arweinyddiaeth HMPPS ddealltwriaeth dda o’r prif broblemau darparu a dylai, mewn egwyddor, fod wedi bod yn cyfarwyddo gwelliannau drwy’r Cyfarwyddwyr AED ac uwch-dîm arweinyddiaeth gweithredol. Fodd bynnag, nid oedd yr un o’r ddau strwythur arweinyddol yn rhoi cyfarwyddyd na rheolaeth well o risgiau sefydliadol yn y Gwasanaeth Prawf, ac roedd gwaith diogelu’r cyhoedd yn enwedig yn bryder.
- Nid oedd arweinwyr cenedlaethol yn cydweithredu’n ddigonol â’r holl bartneriaid strategol perthnasol gan gynnwys y Bwrdd Parôl a Chymdeithas Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu. Yn fwy cadarnhaol, roedd y bwrdd ailsefydlu cenedlaethol yn cynnwys cynrychiolwyr ar draws llywodraeth, gan gynnwys yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Tai ac NHS England. Roedd hyn wedi cefnogi rhaglenni cenedlaethol i ddarparu gwasanaethau ar lefel ranbarthol, gan gynnwys cynrychiolwyr y DWP mewn swyddfeydd prawf, cyllid ar gyfer gwasanaethau llety cymunedol, a chysylltiadau drwy’r llwybr Anhwylderau Personoliaeth Troseddwyr (OPD).
- Fel arolygiaeth, rydym wedi codi pryderon dro ar ôl tro am y galwadau llwyth gwaith amhosib sy’n disgyn ar staff prawf ers uno ac effaith hyn ar ansawdd y gwaith sy’n cael ei ddarparu, gan gynnwys mesurau annigonol i gadw pobl yn ddiogel. Er clod i uwch-arweinwyr cenedlaethol, maen nhw wedi cydnabod nad yw recriwtio ar ei ben ei hun yn ddigon i gynnal y llwyth gwaith y disgwylir i’r gwasanaeth prawf ei ysgwyddo a bod yn rhaid gwneud mwy, er bod y newid ffocws hwn ond wedi digwydd yn y 12 mis diwethaf. Mae mesurau ychwanegol i reoli’r pwysau ar adnoddau prawf yn parhau.
- Nid oedd y cofrestri risg ardal yn ystyried y risgiau i ddarparu gwasanaethau ac amodau gwaith staff yn llawn. O ran cysoni â chofrestri risg Tîm Arweinyddiaeth HMPPS, dim ond ychydig dros hanner y risgiau oedd wedi eu hadnabod ar lefel ardal oedd yn gyson â’r rhai cenedlaethol. Roedd hyn yn creu bylchau yn yr oruchwyliaeth strategol ac o ran rheoli risgiau sefydliadol ehangach
Staffio (Back to top)
Cryfderau:
- Cafodd y ffocws ar recriwtio a chadw staff, a gwella a chryfhau’r gefnogaeth i swyddogion SPO, ei adnabod fel blaenoriaethau gan y Prif Swyddog Prawf.
- Roedd nifer o fesurau wedi helpu arweinwyr cenedlaethol i greu darlun mwy manwl o gapasiti a rhagweld anghenion gwasanaethau, ar lefel ranbarthol a PDU, yn well. O ganlyniad, roedd uwch-arweinwyr cenedlaethol wedi cytuno i gynyddu lefelau staffio targed rhwng Mawrth 2022 a Mawrth 2024 o bron i 2,000 o swyddogion prawf.
- Roedd cynnydd graddol wedi bod yn nifer y swyddogion prawf cymwysedig dros y tair blynedd flaenorol, gyda chynnydd net o 11% rhwng Medi 2023 a Medi 2024. Roedd uwch-arweinwyr wedi gwthio ymgyrch recriwtio galed ar gyfer y rhaglen swyddogion prawf dan hyfforddiant, y Cymhwyster Proffesiynol mewn Gwaith Prawf (PQiP), oedd hefyd wedi rhagori’n gyson ar ei darged dros yr un cyfnod.
- Roedd uwch-arweinwyr wedi rhoi pwyslais cryf a phriodol ar recriwtio a chadw staff, gyda ffocws priodol gan fwrdd Pobl HMPPS a chysylltiadau i’r Panel Sefydlogrwydd Gweithrediadau Cenedlaethol. Roedd hyn yn cynnwys nifer o fesurau er mwyn gwella dealltwriaeth, fel ymchwil i’r prif resymau pam oedd staff yn gadael, dadansoddiad o ranbarthau ac unedau PDU lle’r oedd lefelau uchel ac isel o gadw staff, a dadansoddi mwy ar brofiadau ôl-gymhwyso. Roedd cyflwyno’r pecyn cadw staff yn gam cychwynnol defnyddiol i helpu rhanbarthau i reoli trosiant.
- Roedd cyflwyno dulliau recriwtio mwy hyblyg wedi gweithio’n dda a’r gobaith oedd y byddai lansio’r rhaglen prentisiaethau swyddogion gwasanaethau prawf eleni’n cynyddu gallu’r grŵp staff hwn ymhellach. Roedd recriwtio hefyd wedi’i gefnogi gan adolygiad o brosesau a gwelliannau i ymgyrchoedd, gan gynnwys y rhaglen hysbysebu ‘swyddi anhygoel’ a symud at weithredu ymgyrch recriwtio parhaus o’r enw ‘Drwy’r Amser’ ar ddiwedd Mawrth 2025.
- Mae rhai rhanbarthau wedi croesawu’r cymorth recriwtio canolog a gyflwynwyd yn Nhachwedd 2024, a helpodd i ysgafnu’r baich arnynt ond gan hefyd gynorthwyo peth dylanwad a rheolaeth leol.
- Cyflwynwyd Ailosod Prawf yn ffurfiol ym mis Gorffennaf 2024 ar ôl cyfnod cyflwyno o chwe wythnos. Mae’n bolisi sefydliadol gorfodol er mwyn ysgafnu pwysau gwaith ar ymarferwyr prawf yn wynebu pwysau cynyddol arnynt. Ei nod hefyd yw canolbwyntio gwaith prawf ar y cyfnod pryd y gall gael yr effaith fwyaf ar bobl ar brawf. Mae gwaith modelu i fesur effaith y polisi wedi’i wneud ymlaen llaw gan amcangyfrif bod y polisi wedi effeithio ar tua 40,000 o achosion hyd yma. Mae’r polisi wedi cael ei weithredu’n ddioed a bellach yn cael ei ymgorffori mewn busnes fel arfer.
- Mae defnyddio fframwaith blaenoriaethu ac Ailosod Prawf wedi helpu i leihau llwythi gwaith nifer o staff. Dangosodd yr offeryn mesur llwythi gwaith fod lefelau llwythi gwaith cenedlaethol cyfartalog swyddogion prawf i lawr o 120% i 106% yn y 12 mis cyn yr arolygiad hwn.
- Roedd ystod dda o hyfforddiant a rhaglenni cymorth a datblygiad staff, yn enwedig drwy’r gyfadran ddylunio. Roedd mesurau da yn eu lle i integreiddio a gwerthuso’r rhain, ynghyd â chysylltiadau priodol i’r timau rhanbarthol.
- Gwelsom bwyslais cryf ar ddatblygu rheolwyr canol, yn enwedig staff graddfa SPO. Roedd y ffaith bod 76% o swyddogion SPO cymwys wedi cwblhau’r hyfforddiant dysgu a rheolaeth yn gychwyn addawol ac mae datblygu fframwaith i gefnogi gwrthlofnodi a goruchwylio gan reolwyr, gyda chymorth system reoli newydd yn y dyfodol, i’w groesawu.
- Roedd gwaith cymorth prawf y grŵp cefnogi gwelliannau’n bositif ac, er bod angen dadansoddi ei effeithlonrwydd yn fwy hirdymor, cafwyd adborth da gan y swyddogion SPO a effeithiwyd yn uniongyrchol, er mai nifer gymharol fach o unedau PDU a gefnogwyd hyd yma.
- Mae’r gwaith o sefydlu cofrestr broffesiynol orfodol ar gyfer swyddogion prawf yn dod yn ei flaen, gyda dros 4,000 wedi cofrestru pan gynhaliwyd yr arolygiad. Mae diffinio safonau cofrestru proffesiynol ac annog cyfrifoldeb personol am ddatblygiad proffesiynol yn ganlyniadau positif tebygol a gallai’r prosiect helpu i gadw staff yn y tymor hir.
Meysydd i’w gwella:
- Er y cynnydd i’w groesawu yn nifer y staff rheng flaen, roedd prinder sylweddol o hyd yn y lefelau targed o swyddogion prawf cymwysedig. Roedd staffio targed wedi cynyddu yn y tair blynedd flaenorol wrth i arweinwyr ddod i ddeall anghenion gwasanaeth yn well. Fodd bynnag, pan wnaed yr arolygiad, roedd prinder o 25% o swyddogion prawf er bod cynnydd o 11% wedi bod yn y 12 mis hyd at fis Medi 2024.
- Ar y cyfan, y gyfradd adael genedlaethol ar gyfer staff prawf oedd 10%. Roedd y gyfradd ar gyfer swyddogion prawf yn is ar 8% (gyda chyfradd ddiswyddo o 4.5%), ond er hynny roedd hyn yn bryder mawr.
- Roedd lefelau salwch yn parhau i fod yn uchel ar bron i 13 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd, gan godi i 15.5 diwrnod ar gyfer swyddogion prawf, ac yn arwydd o wasanaeth dan gryn bwysau.
- Er bod llwythi gwaith swyddogion prawf a swyddogion gwasanaethau prawf wedi ysgafnu rhywfaint ar draws ein harolygiadau craidd y llynedd (Caint, Surrey a Sussex, Dwyrain Lloegr, Sir Efrog a’r Humber), dywedodd tua hanner yr holl staff fod eu llwythi gwaith yn ormod iddynt. Roedd llwythi gwaith swyddogion prawf, yn enwedig, yn parhau i fod yn rhy uchel.
- Er y ffocws presennol ar wella cymorth i swyddogion SPO, roedd goruchwyliaeth rheolwyr a rôl ehangach swyddogion SPO yn ddiffyg parhaus. Ar draws y tri rhanbarth a arolygwyd yn y 12 mis diwethaf, roedd goruchwyliaeth gan reolwyr yn foddhaol dim ond mewn 20% o achosion ar gyfartaledd. Roedd yn foddhaol dim ond mewn 13% o’r achosion a welsom yn yr arolygiad hwn.Roedd peth tensiwn yn parhau rhwng recriwtio cenedlaethol a’r rhanbarthau. Er y dywedodd rai arweinwyr rhanbarthol fod y dull hybrid wedi gweithio’n dda ers Tachwedd 2024, dywedodd eraill gyda mwy o heriau recriwtio nad oeddent yn gallu recriwtio’n hyblyg i ateb anghenion unigryw eu rhanbarth. Roedd hyn hefyd yn digwydd gyda recriwtio PQiP.
- Roedd cwestiynau o hyd am ba mor effeithiol oedd hyfforddiant ar ymarfer rheng flaen. Ar draws ein harolygiadau hyd yma, mae ymarferwyr yn ymateb i’n harolwg staff yn honni’n gyson bod ganddynt y sgiliau, gwybodaeth a’r profiad i reoli eu gwaith achos (o leiaf 88% yn dweud ‘gan amlaf’ neu ‘bob amser’ ym mhob rhanbarth). Fodd bynnag, roedd ein dadansoddiad o waith achos yn awgrymu, yn rhy aml, nad oedd hyn yn wir.
- Roedd sicrhau bod ymarferwyr yn derbyn hyfforddiant a hynny’n cael ei droi’n ymarfer effeithiol yn her barhaus. Yn rhy aml, roedd yr angen i gynyddu hyfforddiant ymarfer ac wyneb yn wyneb yn cael ei rwystro gan lwythi gwaith trwm a phwysau cysylltiedig.
Gwasanaethau (Back to top)
Cryfderau:
- Roedd y tîm Gwasanaethau Llety Cymunedol (CAS) cenedlaethol yn arwain gwaith effeithiol i letya pobl yn dod allan o’r carchar, drwy dair haen o lety dros dro. Roedd arweinwyr cenedlaethol yn cael cyswllt rheolaidd ac ymgysylltu’n dda â thimau rhanbarthol ar sawl lefel, o staff rheng flaen i Gyfarwyddwyr AED. Roeddent wedi cyflwyno dulliau digidol i symleiddio a chyflymu’r broses atgyfeirio ar gyfer ymarferwyr prawf. Roeddent yn ymatebol i anghenion amrywiol y bobl oedd angen llety, gyda ffocws penodol ar fynd i’r afael â darpariaeth anghymesur i ferched, oedd yn aml yn cael eu lleoli mewn carchardai a hosteli prawf oedd ymhell o’u cartrefi.
- Roedd rhaglen ar y gweill i ail-gomisiynu contractau Comisiynu Gwasanaethau Ailsefydlu (CRS) gan ystyried yn briodol y gwersi a ddysgwyd o redeg y contractau blaenorol. Fodd bynnag, ni fyddai’r contractau newydd yn dechrau tan 2027 ar y cynharaf. Roedd y bwriad i ail-gomisiynu’n seiliedig ar ddull ‘person-cyfan’ gyda’r nod o gynorthwyo darparwyr y dyfodol i ddarparu gwasanaethau’n fwy holistig ar draws gwahanol feysydd. Roedd penderfyniadau’n cael eu goleuo gan fewnbwn gan dimau rhanbarthol, cyrff trydydd sector a grŵp cyfeiriol arbenigol, oedd yn cynnwys cynrychiolwyr ar draws y llywodraeth a phobl gyda phrofiad byw.
- Roedd arweinwyr cenedlaethol yn y tîm Addysg, Sgiliau a Chyflogaeth wedi gwella eu perthynas weithio â’r DWP, oedd yn helpu pobl ar brawf i dderbyn budd-daliadau ac yn eiriol dros eu cyflogaeth. Roedd HMPPS hefyd wedi comisiynu’r rhaglen Creu Cyfleoedd i’r Dyfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cyflogaeth da i unigolion gyda’r anghenion mwyaf cymhleth. Roedd Prawf wedi’i gynrychioli ar y Cynghorau Cynghori Cyflogaeth a lansiwyd yn ddiweddar, gan ddod â charchardai, prawf, y DWP a chyflogwyr lleol at ei gilydd i ddarparu cyfleoedd gwaith i gyn-droseddwyr.
- Yn Nhachwedd 2024, lansiwyd rhaglen achrededig newydd i wneud rhaglenni cymunedol yn llai cymhleth a mwy effeithiol. Mae Gwella Dewisiadau yn seiliedig ar dystiolaeth genedlaethol a rhyngwladol ac wedi’i thargedu at bobl ag ystod o ymddygiad troseddol gan gynnwys cam-drin domestig a throseddau rhyw. Nod y rhaglen yw helpu’r cyfranogwyr gyda hunanreolaeth emosiynol, datrys problemau a sgiliau perthynas, drwy ddefnyddio dull person-ganolog ar sail cryfderau. Roedd y fethodoleg yn cynnwys ystyried cyfranogwyr gydg anableddau a heriau dysgu gan fwriadu gwneud mwy o waith diogelwch gyda dioddefwyr cam-drin domestig. Roedd yr adborth cychwynnol da gan staff yn yr ardaloedd peilot yn galonogol.
- Roedd y llwybr OPD cenedlaethol yn un enghraifft o weithio’n effeithiol mewn partneriaeth gyda grwpiau targed o bobl ar brawf. Roedd yn cael ei gyd-reoli, ei gyd-ariannu a’i gyd-gomisiynu gan HMPPS ac NHS England i ddarparu ymyriadau a gwasanaeth ymgynghori ar sail seicoleg a thystiolaeth i gohort risg uchel, niwed uchel oedd yn cwrdd â’r trothwy clinigol ar gyfer diagnosis anhwylder personoliaeth. I ategu’r ddarpariaeth yma, roedd rhai hosteli prawf wedi eu comisiynu i weithredu fel amgylcheddau sy’n ystyriol o gyflyrau seicolegol (PIPE). Mae’r tîm OPD cenedlaethol yn rhan o’r isadran Iechyd a Lles gan ddarparu hyfforddiant ac arweiniad i helpu ymarferwyr prawf i atgyfeirio’n briodol.
- Arôl llwyddiant rhai o brosiectau peilot y Gofyniad Triniaeth Iechyd Meddwl a gafodd eu comisiynu a’u hariannu’n rhanbarthol, roedd cyllid GIG wedi’i sicrhau i ehangu ar ddarparu’r ymyriad hwn er mwyn cyrraedd mwy o bobl ar brawf oedd yn adrodd cyflwr iechyd meddwl, er bod rhai rhanbarthau’n parhau i weld rhestri aros hir oherwydd galw uchel.
Meysydd i’w gwella:
- Roedd yn bryder mawr nad oedd gan HMPPS strategaeth genedlaethol i ddiogelu’r cyhoedd i gyfleu gweledigaeth glir ar gyfer yr agwedd hynod bwysig yma ar y gwasanaeth prawf.
- Roedd angen hyfforddiant fel bod gweithwyr rheng flaen yn deall a gwneud defnydd mwy effeithiol o ddulliau actiwaraidd i ragweld troseddau niwed difrifol yn y dyfodol a goleuo asesiadau risg o niwed. Fodd bynnag, roedd gwaith yn parhau ar ddarparu’r dulliau digidol i gefnogi hyn.
- Roedd tystiolaeth o berthynas gref a chefnogol rhwng penaethiaid rhanbarthol diogelu’r cyhoedd a thimau cenedlaethol y Gyfarwyddiaeth Diogelu’r Cyhoedd, gyda goruchwyliaeth o’r Gyfarwyddiaeth wedi’i ddyrannu i AED er mwyn rhoi persbectif carchardai a phrawf. Fodd bynnag, roedd rhai rhanbarthau’n parhau i brofi rhwystrau gyda rhannu gwybodaeth yn llawn ac amserol gyda’r heddlu a thimau gwasanaethau plant i oleuo asesiadau diogelu a gwaith rheoli risg. Roedd ein harolygiadau achos yn adlewyrchu hyn gan ddangos bod llai na chwarter yr achosion perthnasol yn cynnwys tystiolaeth o waith amlasiantaethol effeithiol, gan gynnwys rhannu gwybodaeth am ddiogelu plant, a llai na thraean o’r achosion perthnasol yn cynnwys tystiolaeth o rannu gwybodaeth a chydweithio effeithiol ar gam-drin domestig.
- Nid oedd uwch-arweinwyr HMPPS yn cwrdd â disgwyliadau aml-asiantaethol ac atebolrwydd arweinwyr strategol y canllawiau cenedlaethol Gweithio Gyda’n Gilydd, oedd yn bryder. Roeddent yn teimlo mai drwy drefniadau partneriaeth lleol y byddai’r pethau hyn yn cael eu datrys orau.
- Y nod cyntaf ar gyfer contractau CRS yw bod angen i wasanaethau ‘ymateb i amrywiaeth o anghenion yn ogystal â thystiolaeth o ddiffyg cymesuredd yn y CJS’. Fodd bynnag, nid oedd y tîm MoJ sy’n gyfrifol am yr Offeryn Monitro Cydraddoldeb wedi’i gomisiynu i werthuso unrhyw un o’r gwasanaethau CRS presennol nac i wneud gwaith dadansoddi er mwyn goleuo penderfyniadau gan raglen ail-gomisiynu CRS am ddarpariaeth ar gyfer y dyfodol.
- Nid oedd y gwasanaethau CRS presennol yn cwrdd ag anghenion pobl ar brawf. Roedd y mesurau lefel gwasanaeth yn y contractau CRS cyntaf gan dimau cenedlaethol ond yn mesur prydlondeb apwyntiadau cychwynnol, asesiadau a dyddiadau dechrau. Nid oedd mesurau i orfodi na chymell bod yr ymyriadau’n cael eu darparu wedyn. O ganlyniad, roedd ffocws adnoddau’r darparwyr ar sicrhau nifer uchel yn dechrau, ond gan ddarparu ond nifer isel yn cwblhau.
- Roedd mesurau ansawdd ond wedi eu cynnwys mewn 28 o’r 140 contract gwreiddiol ac felly nid oedd ansawdd y rhan fwyaf o ddarparwyr yn cael ei sicrhau’n ffurfiol na’n annibynnol. Ar ôl i’r contractau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ddod i ben yn 2023, roedd hyn i lawr i 22 o gontractau. Gallai cynllun gwella ond cael ei gyflwyno os oedd darparwr yn methu cwrdd â’i fesurau lefel gwasanaeth a / neu ansawdd ac felly roedd yn anodd i’r Tîm Strategaeth Gomisiynu genedlaethol neu Dimau Integreiddio Cymunedol rhanbarthol gywiro diffygion gwasanaeth. Roedd diffyg hyblygrwydd y contractau CRS cyntaf hefyd yn atal diwygio neu ychwanegu at y contractau i adlewyrchu newidiadau mewn angen busnes.
- Roedd cyfarfodydd misol Bwrdd Strategaeth a Darparu Cenedlaethol y CRS yn rhoi cyfle rheolaidd i benaethiaid integreiddio cymunedol rhanbarthol gael ymgysylltu â’r tîm comisiynu CRS cenedlaethol. Fodd bynnag, roedd yn ymddangos bod anghysondeb rhwng y lefel dybiedig a’r lefel wirioneddol o awdurdod dirprwyedig sydd gan ranbarthau gyda rheoli a chomisiynu contractau.
- Cylch gwaith y tîm Tystiolaeth a Mewnwelediad cenedlaethol oedd ‘goleuo darparu gweithredol, gwella perfformiad a goleuo penderfyniadau strategol’ ar draws timau pencadlys a gweithredol HMPSS. Fodd bynnag, mewn carchardai oedd eu prif gyswllt â’r timau gweithredol. Roedd y cymorth yr oeddent yn ei gynnig i weithwyr prawf rheng flaen wedi’i gyfyngu i offeryn segmentu ‘hunanwasanaeth’, ambell i weithdy, a chatalog ar-lein o adnoddau’n ymwneud â phrosiectau ymchwil gynradd ac ymarfer ar sail tystiolaeth.
- Defnyddiwyd yr offeryn segmentu cenedlaethol i hidlo data ar achosion carchardai a phrawf yn ôl lleoliad. Roedd yn cynnwys modd i gymharu rhwng gwahanol fathau o drosedd, hyd troseddau a rhai ffactorau amrywiaeth. Fodd bynnag roedd ganddo gyfyngiadau – ni allai gyflwyno data byw gan felly roi ciplun ar y llwyth achosion, oedd yn cael ei ddiweddaru pob chwe mis. Roedd yn adnabod faint o unigolion oedd wedi datgan bod ganddynt anableddau a heriau dysgu ond nid faint o bobl oedd wedi datgan cyflwr niwrowahanol.
- Roedd yr Offeryn Monitro Cydraddoldeb wedi’i greu i adnabod canlyniadau anghymesur i bobl ar brawf gyda nodweddion a warchodir. Fodd bynnag roedd ei ddata ar anabledd yn annibynadwy ac nid oedd data ar niwroamrywiaeth ar gael i’w ddadansoddi. Nid oedd yr offeryn yn dadansoddi anghymesuredd mewn cwblhau dedfrydau, na mewn penderfyniadau gorfodi. Nid oedd gan arweinwyr cenedlaethol a rhanbarthol felly’r wybodaeth angenrheidiol i ddeall a cheisio datrys anghydraddoldeb a brofir gan bobl ar brawf sydd â nodweddion a warchodir.
- Roedd timau rhanbarthol yn dibynnu ar eu timau Perfformiad ac Ansawdd i drin, gwella a dadansoddi unrhyw ddata gan y timau cenedlaethol i fod yn ddefnyddiol ar gyfer eu dibenion, ond roedd ansawdd y data a’r dadansoddi lleol hwn yn dibynnu ar sgiliau’r staff yn nhîm Perfformiad ac Ansawdd pob rhanbarth.
- Yn genedlaethol, roedd y rhaglenni achrededig yn cael eu rhwystro gan restri hir o bobl ar brawf yn aros i ddechrau gwaith grŵp. Roedd y sefyllfa wedi bod felly ers blynyddoedd. Roedd y ffactorau’n cyfrannu at hyn yn cynnwys: cyfyngiadau pandemig Covid-19, targedu aneffeithiol a lefel uchel o beidio â mynychu, nifer lai o hwyluswyr ar gyfer y rhaglenni, a llai o gapasiti ystafelloedd grŵp ers i’r gwasanaethau prawf uno. Daeth y mater gerbron y bwrdd ailsefydlu cenedlaethol yn 2023 a benderfynodd flaenoriaethu rhaglenni achrededig ar gyfer achosion newydd eu dedfrydu ac achosion a aseswyd i fod yn cyflwyno’r risg fwyaf o niwed. Roedd y bwrdd hefyd wedi penderfynu bod yn rhaid i raglenni achrededig gael blaenoriaeth ar ymyriadau ffurfiol. Mae’r ymyriadau hyn wedi cael eu terfynu bellach mewn ymdrechion i reoli’r galw mewn nifer o ranbarthau ac er eu bod yn opsiwn darparu o dan y Gofyniad Gwaith Ailsefydlu (RAR).
- Nid oedd arweinwyr cenedlaethol yn rhoi digon o gyfeiriad i staff rheng flaen ar wneud gwaith ffurfiol gyda phobl ar brawf. Nid oedd yr ymyriadau ffurfiol presennol a phecynnau i ymarferwyr prawf yn seiliedig ar dystiolaeth gadarn eu bod yn effeithiol. Nid oedd cynlluniau pendant ar gyfer ymyriadau eraill y gellid eu defnyddio i ddangos bod RAR yn digwydd. Mewn bron i hanner (54 allan o 109) o’r achosion a arolygwyd oedd yn cynnwys RAR, nid oedd unrhyw ymyriad wedi’i ddarparu o gwbl.
- Roedd gwaith arloesi gyda thechnoleg monitro electronig wedi ehangu i gynnwys monitro alcohol a thracio GPS. Fodd bynnag, hyd yma roedd cyfres o ddarparwyr trydydd parti wedi methu â darparu gwasanaeth derbyniol a dibynadwy gyda gosod cyfarpar tagio neu ddarparu data perthnasol ac amserol ar fonitro a thorri gofynion monitro. Am gyfnod byr bu’n rhaid cyfyngu ar bwy a ddylai dderbyn cyfarpar monitro alcohol, gan amcangyfrif y byddai’n cymryd chwe mis arall i weithredu systemau’r darparwr newydd yn llawn.
- Ac eithrio’r llwybr OPD, sydd wedi gweithio gyda’r gwasanaeth prawf am dros 15 mlynedd, mae’r is-adran Iechyd a Lles wedi gweithio’n bennaf gyda charchardai a hosteli prawf a dim ond yn ddiweddar wedi sefydlu tîm cymunedol i ddarparu cymorth i ranbarthau prawf. Roeddent hefyd yn ddiweddar wedi ymgorffori’r Grŵp Cyffuriau ac Alcohol, oedd wedi sefydlu perthynas strategol gadarnhaol gyda darparwyr a phartneriaid camddefnyddio sylweddol yn y GIG a’r Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Roedd cydlynwyr iechyd a chyfiawnder wedi eu recriwtio ym mhob rhanbarth i hyrwyddo parhad gofal rhwng y carchar a’r gymuned. Fodd bynnag roedd y rôl yma’n gymharol newydd ac ni welsom ei heffaith wrth arolygu achosion ond yn hytrach gyfraddau isel o ddarparu ymyriadau i fynd i’r afael â chyffuriau ac alcohol i leihau risg o niwed ac aildroseddu.
Seilwaith a TGCh (Back to top)
Cryfderau:
- Dechreuodd y gwaith o wella cyfleusterau sy’n cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau prawf effeithiol o dan y Rhaglen Diwygio Prawf. Roedd y rhan fwyaf o’r ystâd brawf, heblaw am rai adeiladau a ddefnyddiwyd ar gyfer UPW, wedi’i hasesu i benderfynu a oedd yn addas i ddarparu gwasanaethau prawf modern. Roedd arweinwyr cenedlaethol wedi dyfeisio cynllun i foderneiddio rhywfaint o’r ystâd drwy gyfuniad o waith adeiladu, cynnal a chadw ac adeiladau newydd. Roedd peth cynnydd wedi’i wneud. Dros gyfnod o bedair blynedd, roedd gwaith ailwampio wedi’i wneud ar tua 64 o adeiladau a 65 arall wedi eu hailaddurno neu ailddodrefnu.
- Roedd arweinwyr cenedlaethol wedi cynhyrchu canllaw dylunio ystâd. Roedd yn nodi’r safonau gofynnol lleiaf ar gyfer gwaith ailwampio. I gyd-fynd â’r canllaw, roedd asesiad effaith ar gydraddoldeb wedi’i wneud yn cyfeirio at ofynion hygyrchedd ar gyfer pobl gyda nodweddion a warchodir.
- Roedd trefniadau effeithiol i lywodraethu’r gwaith o ddarparu contractau rheoli cyfleusterau. Roedd y prosesau strwythurau a chraffu’n sicrhau bod archwiliadau cydymffurfio’n cael eu gwneud gan adnabod unrhyw broblemau cyflenwyr, ac ymateb yn ddiymdroi iddynt.
- Roedd gan arweinwyr cenedlaethol drosolwg effeithiol ar rai materion diogelwch staff. Roedd dangosfyrddau a systemau adrodd eraill yn rhoi gwybodaeth glir am gyfarpar cymorth cyntaf, y staff a hyfforddwyd mewn cymorth cyntaf, ac am brofion larymau tân a phanig mewn swyddfeydd prawf.
- Roedd staff y timau Digidol, Technoleg a Data cenedlaethol a holwyd gennym yn teimlo’n gryf am gefnogi staff rheng flaen. Roeddent yn gweithio ar sail cynllun busnes trawsnewid gwasanaeth cynhwysfawr. Ers uno roeddent wedi trefnu i Wi-Fi gael ei osod ym mhob swyddfa brawf, oedd yn helpu i ddarparu gwasanaethau’n hyblyg. Roedd timau cenedlaethol bellach yn gyfrifol am ddarparu cyfarpar TGCh i nifer fawr o swyddogion prawf ar hyfforddiant. Roedd hyn wedi gwneud y sefyllfa’n llawer mwy dibynadwy a lleihau’r baich ar arweinwyr rheng flaen.
- Roedd systemau’n cynnwys y seilwaith TG angenrheidiol i gynllunio, darparu a chofnodi gwaith yn iawn, ac roedd systemau cyfathrebu’n hwyluso mynediad a rhannu gwybodaeth. Roedd llywodraethu cadarn o fynediad at gyfarpar TG ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf roedd gwelliannau mawr wedi bod yn y gwasanaeth i ranbarthau ac unedau PDU. Drwy wneud gwelliannau i’r systemau teleffoni, roedd gan staff fynediad at uwch-gyfleusterau Microsoft Teams mewn 60% o adeiladau prawf gyda chynllun i fudo’r gweddill at Teams erbyn diwedd 2025. Roedd y gwelliannau teleffoni wedi helpu staff i gyfathrebu’n fwy effeithlon, gyda’r galwadau ffôn i gyd yn digwydd drwy Teams.
- Roedd hyfforddiant TGCh ar gael i’r holl staff gan dimau cenedlaethol. Roedd cannoedd o weithwyr wedi cwblhau hyfforddiant byr ar Teams a Power-BI. Roedd hyn wedi eu helpu i ddysgu sut i ddefnyddio’r gwahanol systemau yn eu gwaith. Drwy dderbyn adborth ôl-ddysgu, roedd gan staff fwy o hyder i ddefnyddio’r systemau ar ôl cwblhau’r hyfforddiant.
- Roedd ystod o atebion technoleg gynorthwyol ar gael a allai gael eu defnyddio o bell. Roedd tîm Hygyrchedd Digidol yr MoJ yn cynnig cyngor a hyfforddiant i holl adrannau HMPPS.
- Wrth ddatblygu systemau, roedd ymgynghori a chydweithredu rheolaidd gyda staff rheng flaen a phobl ar brawf. Yn y 12 mis cyn ein harolygiad, roedd timau digidol prawf wedi cynnwys 911 o staff a 55 o bobl ar brawf mewn ymchwil, yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau. Roedd ganddynt hefyd brosesau adolygu a gwerthuso effeithiol.
- Roedd integreiddio cyfres o systemau lloeren wedi creu arbedion mesuradwy o ran amser ymarferwyr. Cawsant eu datblygu gyda chyfraniadau gan staff a gyfrannodd yn uniongyrchol at y gwaith hwn. Roedd enghreifftiau’n cynnwys defnyddio’r ‘asesiad UPW’, ‘ystyried galw’n ôl’, dyrannu person’, a ‘creu ac amrywio trwydded’.
- Er i rai staff ddweud bod y systemau lloeren hyn yn drwsgl, roedd gan y timau digidol gynllun busnes yn egluro sut yr oeddent am ddatblygu meicro-wasanaethau. Yn y tymor byr, roedd hyn yn golygu gwella systemau digidol mewn ffordd oedd yn cyd-fynd â gallu technegol y system bresennol o reoli achosion (nDelius); yn y tymor hirach, byddent yn cysylltu’r systemau hyn i system newydd o’r enw ‘Rheoli Person ar Brawf’. Byddai hyn yn creu un dudalen lansio i staff wrth ddefnyddio systemau rheoli achosion prawf ac asesiadau risg.
- Roedd uwch-arweinwyr cenedlaethol yn gyrru’r gwaith o ddatblygu ARNS yn lle OASys ar gyfer creu asesiadau risg, cynlluniau rheoli risg, a chynlluniau dedfrydu. Pwrpas y system newydd oedd helpu i greu asesiadau risg mwy cywir, ar sail data actiwaraidd ar aildroseddu. Y gobaith hefyd oedd y gallai ARNS helpu ymarferwyr i gynllunio, darparu a chofnodi gwaith yn fwy amserol. Y bwriad oedd gallu cyflwyno ARNS yn llawn erbyn yr hydref 2026.
- Roedd prosiect bach wedi’i ddarparu gan y prosiect Canlyniadau Gwell Drwy Ddata Cysylltiol ar y gweill, oedd â’r potensial i wella sut y gallai staff gael mynediad at a rhannu gwybodaeth ar draws asiantaethau.
- Roedd polisïau a chanllawiau ymarfer ar gael i staff rheng flaen drwy system o’r enw EQuiP. Roedd cywirdeb cynnwys y system yn cael ei lywodraethu’n drylwyr a thimau cenedlaethol yn monitro a chyflwyno data ar ei defnydd i’r rhanbarthau er mwyn dangos ei phwysigrwydd fel ffynhonnell wybodaeth ar gyfer ymarfer. Roedd 9,000 yn ei defnyddio pob mis ar gyfartaledd. Roedd arweinwyr cenedlaethol yn gweithredu ar adborth gan staff ar sut y gallai’r system fod yn anodd ei defnyddio, ac yn datblygu injan chwilio AI i gywiro hyn.
Meysydd i’w gwella:
- Roedd tanfuddsoddi sylweddol wedi bod yn yr ystâd ers tro byd. O’r herwydd roedd yr ystâd yn cynnwys nifer o adeiladau anaddas oedd heb eu cynnal a’u cadw’n iawn ac roedd nifer yr adeiladau anhygyrch yn annerbyniol. Roedd angen gwaith ailwampio sylweddol ar nifer o adeiladau drwy Gymru a Lloegr. Roedd arweinwyr wedi blaenoriaethu’r adeiladau oedd angen eu hailwampio ond byddai’r amserlen yn un hir ac yn dibynnu ar gyllid ychwanegol sylweddol gan lywodraeth ganolog.
- Roedd uwch-arweinwyr yn monitro risgiau i iechyd a diogelwch ond nid oedd asesiadau risg o rai peryglon, fel clefyd y llengfilwyr a straen yn y gweithle, yn addas na’n ddigonol. I bob golwg, nid oedd risgiau bob tro’n cael eu rheoli drwy’r gofrestr risg genedlaethol cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol.
- Roedd rhai rhannau o’r ystâd wedi bod yn aros ers tro am waith trwsio nwy, trydan, dŵr a gwresogyddion dŵr poeth. Yn ôl uwch-arweinwyr roedd hyn oherwydd trafferthion gyda chael darnau ar gyfer systemau hen iawn mewn rhai adeiladau.
- Yn ôl adborth gan staff, roedd ailwampio sylweddol i rai adeiladau ond nid eraill yn creu sefyllfa annheg, yn aml yn yr un rhanbarth neu PDU, gan wneud i rai staff deimlo nad oeddent yn cael eu gwerthfawrogi. Mae angen i’r bobl sy’n gyfrifol am gynnal a chadw ac uwchraddio adeiladau gyfathrebu’n well.
- Nid oedd pob rhanbarth yn deall gyda phwy i gysylltu a sut i gael cymorth gan y tîm ystadau cenedlaethol, oedd wedi’i ailstrwythuro yn Ebrill 2024 a’i symud i’r Gyfarwyddiaeth Ystadau, Diogelwch ac Ymgyfreitha newydd, gan greu gwaith ychwanegol i rai yn y rhanbarthau a’r unedau PDU oedd yn ceisio deall y system.
- Nid oedd uwch-arweinwyr wedi rhoi’r un flaenoriaeth i ystâd, diogelwch ac iechyd UPW ag i rannau eraill o’r ystâd gymunedol (Hosteli Prawf neu Ganolfannau Cyswllt Prawf). Roedd angen rhoi mwy o sylw i safleoedd UPW i sicrhau bod y trefniadau’n ddiogel a hygyrch i bawb, gyda mynediad digonol at les.
- Roedd polisi gweithiwr unigol ac asesiad risg a chanllawiau ar ymweliadau cartref ar gael i staff. Roedd gwaith ar y gweill i ddigideiddio’r broses asesiadau risg ymweliadau cartref er mwyn monitro cydymffurfio â’r polisi a gwneud pethau’n fwy effeithlon i staff oedd angen gwneud asesiad risg. Roedd staff wedi derbyn dyfeisiau diogelwch personol ar gyfer gweithio o bell; fodd bynnag roedd angen gwneud mwy i orfodi eu defnyddio yn y rhanbarthau a’r unedau PDU.
- Nid oedd systemau cenedlaethol ar gyfer monitro effaith straen yn y gwaith yn arwain at ei reoli’n ddigon effeithiol na’n ddigon buan. Roedd absenoldeb am resymau salwch meddwl yn cyfrif am 50% o’r holl salwch, ac yn cael effaith amlwg ar y rhanbarthau a’r unedau PDU. Roedd arweinwyr lles rhanbarthol wedi cael eu penodi a fframwaith diwygiedig ar gyfer straen yn y gweithle wedi’i greu.
- Roedd tanfuddsoddi sylweddol ers tro byd wedi bod mewn systemau technoleg a digidol. Roedd OASys yn tua 25 oed ac nDelius yn tua 12 oed. Roedd oed y systemau hyn yn cyflwyno rhwystrau technegol i ddatblygiadau posib.
- Roedd rhai gwelliannau wedi eu gwneud i system rheoli achosion nDelius i wneud tasgau’n fwy effeithlon ac i gymryd llai o amser. Ond er hynny roedd taer angen parhau i fuddsoddi mewn moderneiddio seilwaith digidol y Gwasanaeth Prawf er mwyn cefnogi ymarferwyr yn well. Roedd hyn yn arbennig o bwysig er mwyn lleihau cymhlethdod, gwella sut yr oedd gwybodaeth am risg yn cael ei rhannu rhwng carchardai, prawf ac asiantaethau eraill, ac i gefnogi adnoddau gweithlu a phwysau capasiti ar ymarferwyr rheng flaen.
- Roedd angen gwella mynediad at dechnoleg a systemau i gynorthwyo staff UPW i weithio o bell yn ddiogel. Nid oedd cynlluniau i beilota a gwella systemau a hygyrchedd i staff UPW wedi dechrau eto ac yn dibynnu ar sicrhau cyllid.
- Ni allai pawb oedd angen mynediad at y Gofrestr Troseddwyr Rhyw a Threisgar (ViSOR) wneud hynny. Roedd y gwasanaeth wedi wynebu heriau sylweddol gyda sicrhau’r holl fetio heddlu oedd angen ei wneud fel y gallai’r holl staff perthnasol ddefnyddio’r system. Oherwydd y rhwystrau i wreiddio’r system ViSOR yn llawn wrth ymarfer, roedd cyfle wedi’i golli i rannu gwybodaeth yn well am bobl ar brawf a gyflwynai’r risg fwyaf ac i wella gwaith i gadw pobl yn ddiogel.
- Roedd yr Offeryn Mesur Llwyth Gwaith yn rhoi data ar lwythi gwaith swyddogion prawf, swyddogion gwasanaethau prawf a swyddogion PQiP yn unig. Nid oedd system yn ei lle fel y gallai rhanbarthau ac unedau PDU wneud penderfyniadau am sut i ddefnyddio adnoddau a rheoli llwythi gwaith staff gweithredol eraill.
- Roedd angen mynediad at hyfforddiant Power-BI uwch a buddsoddi yn natblygiad staff perfformiad ac ansawdd rhanbarthol. Roedd angen i dimau Perfformiad ac Ansawdd rhanbarthol ddod o hyd i’w cyllid allanol eu hunain ar gyfer hyfforddiant Power-BI i ddatblygu sgiliau eu timau a chefnogi staff rhanbarthol i wneud y defnydd gorau o ddata gwybodaeth reoli cenedlaethol. Roedd hyn er gwaetha’r tanwariant yn y gyllideb ddysgu a datblygu ar lefel genedlaethol.
Atodiad Un: Crynodeb o ganfyddiadau arolygu gwaith achos (Back to top)
Gwaith llys
Mae’r wybodaeth a’r cyngor cyn-dedfrydu a roddir i’r llys yn cynorthwyo ei benderfyniadau.
Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
Ydy’r wybodaeth a’r cyngor cyn-dedfrydu a roddir i’r llys yn ddigon dadansoddol ac wedi’i bersonoli i’r unigolyn, gan gynorthwyo penderfyniadau’r llys? | 36% |
- Roedd awduron yr adroddiadau i’r llys ar y cyfan yn dadansoddi ac ystyried ffactorau’n ymwneud ag ymatal a risg yn ogystal ag effaith yr ymddygiad troseddol ar ddioddefwyr. Roedd llais y person ar brawf wedi’i gofnodi mewn 86% o’r adroddiadau a arolygwyd ac awduron yr adroddiadau’n ymatebol i anghenion amrywiaeth ac amgylchiadau personol yr unigolyn mewn mwyafrif rhesymol o achosion (76%). Roedd awduron yr adroddiadau weithiau’n trafod ag asiantaethau eraill gan gynnwys timau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Roedd 78% o’r adroddiadau’n gwneud cynigion dedfrydu priodol.
- Fodd bynnag, roedd ansawdd y cyngor i’r llys wedi’i danseilio gan anghysondebau mewn argaeledd a defnyddio gwybodaeth amserol a chynhwysfawr am gam-drin domestig a diogelu plant. Roedd cam-drin plant yn bresennol mewn 62% o’r adroddiadau llys a arolygwyd, a phryderon diogelu plant mewn dau o bob tri o’r achosion. Er hynny roedd yn siomedig bod gwybodaeth ddigonol am gam-drin domestig ond wedi’i chasglu mewn ychydig dros hanner (54%) o’r adroddiadau. Casglwyd gwybodaeth am ddiogelu plant mewn tua hanner yr achosion perthnasol (49%). Mae hyn yn wall allweddol wrth gynhyrchu cyngor da ar gyfer y llys ac asesu risg yn gywir. Roedd nifer o bethau’n gysylltiedig â’r canfyddiadau hyn gan amrywio o fethiant awduron yr adroddiadau i wneud unrhyw ymholiad, i rwystrau ac oedi gyda chael ymateb gan asiantaethau partner. Hyd yn oed mewn achosion lle’r oedd ar gael, roedd diffygion mewn sut y defnyddiwyd y wybodaeth i oleuo gwaith y llys.
- Er y gwelodd arolygwyr sawl enghraifft o adroddiadau fformat byr o ansawdd da, roedd rhai achosion cymhleth wedi cael eu dedfrydu ar sail adroddiadau llai cynhwysfawr. Roedd y rhain wedi eu cwblhau ar garlam ac yn aml heb fanylion allweddol am risg a nodweddion a warchodir. Gwelsom hefyd nifer o adroddiadau tor-gorchymyn ac ymatebion i ddiweddariadau goruchwyliaeth gan ymarferwyr heb unrhyw ymholiad diweddar. Nid oedd y dogfennau hyn yn dadansoddi newid mewn amgylchiadau na risgiau newydd yn iawn a heb eu goleuo’n gyson gan wybodaeth gan gyrff trydydd parti.
- Dim ond 36% o’r gwaith llys a arolygwyd yn genedlaethol oedd yn dadansoddi’n ddigonol ac wedi’i bersonoli i’r unigolyn, oedd yn bryder. I wella hyn, roedd angen i randdeiliaid allweddol rannu gwybodaeth yn fwy amserol. Hefyd, roedd angen i staff llys ddefnyddio a dadansoddi gwybodaeth trydydd partïon yn well er mwyn goleuo eu hasesiadau risg ac ystyried nodweddion a warchodir yn fwy effeithiol.
Ailsefydlu
Mae’r gwaith ailsefydlu’n amserol, wedi’i bersonoli a’i gydlynu, gan roi sylw i anghenion ailsefydlu’r unigolyn a’u cefnogi i integreiddio’n ôl yn y gymuned.
Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
Ydy’r gwaith ailsefydlu’n amserol, wedi’i bersonoli a’i gydlynu gan roi sylw i’r prif anghenion ailsefydlu a chefnogi’r unigolyn i integreiddio’n ôl yn y gymuned? | 42% |
- Roedd gwaith ailsefydlu da yn y sampl a arolygwyd wedi’i ategu gan gyfathrebu effeithiol cyn-rhyddhau rhwng yr ymarferydd, yr unigolyn dan glo a gweithwyr proffesiynol eraill. Roedd rhannu gwybodaeth amserol a chlir am risgiau ac anghenion perthnasol yn helpu rhai ymarferwyr yn y gymuned i greu amodau trwydded a chynlluniau rhyddhau effeithiol.
- Roedd rhy ychydig o’r achosion a arolygwyd (42%) yn cynnwys gwaith ailsefydlu i gefnogi’r unigolyn i integreiddio’n ôl yn y gymuned. Roedd rhannu gwybodaeth rhwng staff carchardai a’r COM yn ddigonol dim ond mewn 60% o’r achosion. Roedd amryw o ffactorau’n gyfrifol am hyn gan gynnwys llwybrau cyfathrebu aneffeithiol a throsiant staff.
- Mewn sawl achos yn y sampl, roedd y person ar brawf ar Drwydded Goruchwyliaeth Wedi Carchar (ECSL)5 a SDS40 ac felly wedi cael eu rhyddhau’n gynt na’r disgwyl. Roedd yn galonogol i’r arolygwyr bod gwaith da wedi’i wneud mewn rhai achosion o garchar tymor byr. Ond mewn achosion eraill roedd yr amser byr i wneud gwaith cyn-rhyddhau wedi cael effaith andwyol ar ansawdd y gwaith ailsefydlu. Dim ond yn hanner yr achosion oedd yr ymarferydd cymunedol wedi sicrhau lefel gymesur o gyswllt â’r carcharor cyn rhyddhau. Roedd yr ymarferydd wedi adnabod risg o niwed yn ddigonol dim ond mewn 22 allan o 49 achos perthnasol, ac anghenion ymatal cyn-rhyddhau dim ond mewn tua hanner yr achosion. Roedd hyn yn ei gwneud yn anoddach i’r unigolion hyn dderbyn gwasanaethau priodol yn y carchar a gwelodd yr arolygwyr enghreifftiau pryderus o bobl yn cael eu rhyddhau i fod yn ddigartref a heb unrhyw gymorth priodol yn y gymuned.
- Arolygwyd 19 o achosion Ailosod Prawf. Arolygwyd wyth o’r rhain yn erbyn safonau wedi eu haddasu. Gwelodd arolygwyr ddiffygion gyda pharatoi pobl ar brawf ar gyfer ailosod. Er enghraifft, ni chawsant fawr ddim gwybodaeth heblaw am lythyr sylfaenol, oedd yn aml ddim yn eu cyfeirio ymlaen at gymorth priodol. Mewn sawl achos, ni chynlluniwyd ar gyfer risgiau ac anghenion cymhleth, gan gynnwys mewn rhai a aseswyd i fod yn risg uchel gydag arwyddion o gam-drin domestig. Mewn achosion a arolygwyd yn erbyn safonau wedi eu haddasu, yn aml iawn nid oedd digon o amser i ymarferwyr ddarparu ymyriadau ystyrlon i ateb risgiau perthnasol ac asiantaethau heb eu cydlynu’n ddigonol i gefnogi’r darparu.
- Mae dysgu o adolygu troseddau pellach difrifol wedi cynnwys bod angen gwaith trosglwyddo trylwyr. Fodd bynnag yn yr achosion a welsom, roedd diffygion yn yr ymarfer trosglwyddo. Roeddent yn cynnwys cyfathrebu gwael rhwng ardaloedd, oedi gyda chwblhau gweithredu, a phrosesau uwchgyfeirio aneffeithiol. Gwelsom y diffygion hyn mewn nifer o’r achosion ailosod, oedd yn bryder. Mae’n hollbwysig bod y sefydliad yn adolygu goblygiadau gwaith trosglwyddo ar y pwynt y daw achos yn gymwys ar gyfer ailosod. Bydd hyn yn sicrhau bod camau rheoli ymatebol priodol yn cael eu cymryd gan y PDU cywir.
Asesu
Mae asesu’n seiliedig ar wybodaeth dda, yn ddadansoddol ac wedi’i bersonoli, gan gynnwys y person ar brawf yn weithredol.
Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
Ydy’r asesiad yn rhoi digon o ffocws ar gynnwys y person ar brawf? | 52% |
Ydy’r asesiad yn rhoi digon o ffocws ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymatal? | 69% |
Ydy’r asesiad yn rhoi digon o ffocws ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 25% |
- Yr asesiad o ffactorau ymatal oedd y maes gwaith cryfaf ar draws holl gamau’r gwaith achos. Roedd 69% o’r holl asesiadau’n ddigonol yn y maes gwaith hwn. Roedd ymarferwyr wedi adnabod, yn gyson, ffactorau’n gysylltiedig â throseddu ar draws mwyafrif rhesymol o’r achosion a arolygwyd o dan y safonau craidd (74%).
- Mewn chwech allan o wyth achos a arolygwyd yn erbyn safonau a addaswyd, roedd yr ymarferydd wedi adnabod y ffactorau’n gysylltiedig â throseddu lle’r oedd angen cymorth parhaus, gan ddangos bod yr asesu hwn wedi’i wneud yn ddi-oed pan fo angen.
- Ond ar y llaw arall, dim ond 25% o’r asesiadau a arolygwyd oedd yn rhoi digon o ffocws ar gadw pobl eraill yn ddiogel. Roedd gan ymarferwyr fynediad at ddigon o wybodaeth am gam-drin domestig mewn 66% o achosion ond roedd rhai enghreifftiau o wahaniaeth gydag ansawdd a mynediad at wybodaeth gan yr heddlu ar draws y wlad. Fodd bynnag, hyd yn oed lle’r oedd gwybodaeth cam-drin domestig ar gael, defnyddiwyd y wybodaeth i asesu risg yn effeithiol dim ond mewn 39% o achosion perthnasol.
- Roedd trin gwybodaeth diogelu plant hefyd yn destun pryder. Roedd gwybodaeth o ansawdd da ar gael i ymarferwyr mewn llai na hanner yr achosion perthnasol (47%) ac yn cael ei defnyddio i oleuo asesu dim ond mewn 28% o achosion. Er dysgu o droseddau pellach difrifol proffil uchel, roedd 13 o achosion heb ddefnyddio gwybodaeth berthnasol i asesu a fyddai cyrffyw’n addas, oedd yn bryder.
- Roedd un o bob pum asesiad yn anghywir neu’n aneglur, yn ôl arolygwyr. Roedd enghreifftiau’n cynnwys newid mewn risg heb dystiolaeth briodol, diffyg asesiad holistig o ymddygiad blaenorol, a methu ag asesu risg i’r holl ddioddefwyr perthnasol. Roedd arolygwyr hefyd yn bryderus o weld nifer o achosion oedd heb asesiad risg er y dangoswyd bod angen un.
Cynllunio
Mae cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth dda, yn holistig ac wedi’i bersonoli, gan gynnwys y person ar brawf yn weithredol.
Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
Ydy’r cynllunio’n rhoi digon o ffocws ar gynnwys y person ar brawf? | 44% |
Ydy’r cynllunio’n rhoi digon o ffocws ar leihau aildroseddu a chefnogi ymatal? | 64% |
Ydy’r cynllunio’n rhoi digon o ffocws ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 38% |
- Roedd cynllunio ar gyfer ymatal yn adlewyrchu ffactorau’n gysylltiedig â throseddu gan nodi’r gwasanaethau a fyddai fwyaf tebygol o leihau aildroseddu mewn 64% o achosion. Gallai hyn fod yn well mewn rhai achosion drwy ystyried cryfderau a ffynonellau cefnogaeth yr unigolyn yn well.
- Ni welsom gynllunio cydweithredol oedd yn cynnwys pobl ar brawf mewn digon o achosion (44%). Mewn tua hanner yr achosion, nid oedd cynllunio digonol ar gyfer effaith nodweddion a warchodir ac amgylchiadau personol yr unigolyn, a allai fod wedi cael eu hadnabod yn y cam asesu. O’r herwydd roedd ymarferwyr yn aml yn anghofio ystyried y dylai ffactorau pwysig fel anabledd, tarddiad ethnig, cyflogaeth a rhwystrau iaith arwain at addasu eu hymarfer i hyrwyddo ymgysylltu a chydymffurfio.
- Roedd pryderon am sut yr oedd pobl ar brawf yn cyfrannu at gynllunio yn yr achosion a arolygwyd yn erbyn safonau a addaswyd. Roedd arolygwyr yn disgwyl i ymarferwyr gael trafodaethau ystyrlon ag unigolion am oblygiadau Ailosod Prawf, gan ystyried ffactorau fel amrywiaeth a chymhelliad yr unigolyn i ymgysylltu’n wirfoddol â gwasanaethau ar ôl i’r cyswllt ddod i ben. Ni arolygwyd unrhyw achosion lle’r oedd y gwaith hwn yn ddigonol. Roedd cynllunio yn yr achosion hyn yn aml yn afrealistig o ystyried yr amser oedd ar gael a heb ystyried bod cyswllt yn gorffen tan yr oedd ailosod ar fin digwydd, gan adael pobl ar brawf heb baratoi.
- Nid oedd digon o ffocws ar gadw pobl yn ddiogel (39% o achosion) ac nid oedd 40% o gynlluniau’n rhoi sylw i ffactorau risg hysbys. Roedd diffygion yn y cysylltiadau i waith asiantaethau eraill. Mae hyn yn bryder o ystyried bod 17% o’r achosion a arolygwyd yn destun MAPPA, a 5 o’r rheini’n cael eu rheoli ar Lefel 2. Dim ond 67 allan o’r 162 o gynlluniau wrth gefn perthnasol oedd yn rhoi sylw digonol i ffactorau a allai waethygu risg, ac yn nodi ymateb priodol.
Gweithredu a darparu
Darperir gwasanaethau o ansawdd uchel, wedi eu cydlynu a’u personoli a gyda ffocws da, gan gynnwys y person ar brawf.
Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
Ydy’r ddedfryd neu’r cyfnod ôl-garchar yn cael ei weithredu’n effeithiol gyda ffocws ar gynnwys y person ar brawf? | 47% |
Ydy’r gwaith o weithredu a darparu gwasanaethau’n cefnogi ymatal yn effeithiol? | 32% |
Ydy’r gwaith o weithredu a darparu gwasanaethau’n effeithiol i gadw pobl eraill yn ddiogel? | 18% |
- Yn y rhan fwyaf o achosion (76%), roedd ymarferwyr yn gwneud ymdrech i gefnogi pobl ar brawf i gwblhau eu dedfryd.
- Nid oedd gwaith i gefnogi ymatal yn ddigonol mewn cyfran uchel o’r achosion (68%), oedd yn bryder. Gwelsom nifer o enghreifftiau o oedi cyn dechrau rhaglenni achrededig, a methu â gwneud profion cyffuriau. Mewn 43% o’r achosion perthnasol (65 allan o 133) lle’r oedd arolygwyr yn ystyried bod angen CRS, nid oedd tystiolaeth o atgyfeirio na darparu. Roedd yn bryder neilltuol na chyflwynwyd unrhyw ymyriad o gwbl mewn 54 allan o 109 achos perthnasol. O’r herwydd nid oedd anghenion allweddol fel camddefnyddio sylweddau a llety wedi cael sylw iawn.
- Roedd gwaith i gefnogi rheoli risg yn ddigonol dim ond mewn 18 y cant o achosion. Yn rhy aml roedd cydlynu a thrafod aneffeithiol ag asiantaethau rheoli risg eraill, gan gynnwys mewn 13 allan o 28 o achosion MAPPA. Fel gydag ymatal, roedd ymyriadau i ateb pryderon risg yn gysylltiedig â ffactorau fel cam-drin cyffuriau, cam-drin domestig a diogelu plant yn absennol mewn gormod o achosion. Roedd ‘sgyrsiau anffurfiol’ yn gyffredin gyda phobl ar brawf, oedd ddim yn cyfrannu at waith o ansawdd da gyda digon o ffocws ar risg.
- Yn y nifer fach o achosion a arolygwyd lle y defnyddiwyd Ailosod Prawf, roedd y bobl ar brawf wedi derbyn digon o wybodaeth am ofynion y cyfnod terfynu dim ond mewn tri allan o wyth o’r achosion perthnasol. Er ein bod wedi gweld rhai ymyriadau effeithiol yn ystod cyfnodau byr o oruchwyliaeth, nid oedd ymarferwyr yn gyson gydag adnabod cymorth priodol i gefnogi ymatal a ffactorau amrywiaeth dros y cyfnod terfynu goruchwyliaeth. Ar y cyfan roedd cydlynu cam-drin domestig a diogelu plant ar lefel amlasiantaethol yn annigonol yn yr achosion hyn, sy’n bryder o ystyried yr aseswyd bod nifer yn cyflwyno risg uchel o niwed difrifol.
Adolygu
Mae adolygu cynnydd yn seiliedig ar wybodaeth dda, yn ddadansoddol ac wedi’i bersonoli, gan gynnwys y person ar brawf yn weithredol.
Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
Ydy’r gwaith adolygu’n rhoi digon o ffocws ar gefnogi’r person ar brawf i ymgysylltu a chydymffurfio? | 48% |
Ydy’r adolygu’n rhoi digon o ffocws ar gefnogi’r person ar brawf i ymatal? | 36% |
Ydy’r adolygu’n rhoi digon o ffocws ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 18% |
- Yn y gwaith a arolygwyd o dan y safon hon, nid oedd ymarferwyr yn ddigon ymatebol o ran telerau ymgysylltu, ymatal a chadw pobl yn ddiogel.
- Yn rhy aml, roedd eu hymateb i faterion ymgysylltu fel diffyg cydymffurfio yn annigonol. Nid oedd ymarferwyr yn adolygu mewn ffordd gydweithredol yn ddigon cyson, ac felly ddim yn ymgynghori’n ddigon aml gyda’r bobl ar brawf a’r gweithwyr proffesiynol oedd yn gweithio gyda nhw wrth ystyried eu cynnydd.
- Roedd unigolion yn cael eu cynnwys yn ystyrlon mewn llai na hanner yr adolygiadau a dim ond tua 21% o’r adolygiadau oedd wedi cael mewnbwn digonol gan asiantaethau eraill. Yn aml iawn, roedd ymarferwyr wedi ysgrifennu adolygiadau i gwrdd â tharged ond heb ystyried y gwaith a gwblhawyd, y cynnydd a wnaed na goblygiadau ymyriad anorffen.
- Dim ond tua thraean o’r adolygiadau oedd yn rhoi digon o ffocws ar gefnogi ymatal a dim ond 31 allan o’r 118 o adolygiadau oedd wedi adnabod a rhoi sylw priodol i ffactorau’n gysylltiedig â throseddu.
- Mae ymateb i wybodaeth newydd am risg yn waith hanfodol i ddiogelu’r cyhoedd; fodd bynnag, adolygu diogelwch oedd y prif faes pryder o dan y safon hon. Dim ond 18% o’r adolygiadau oedd yn rhoi digon o ffocws ar gadw pobl yn ddiogel. Roedd tystiolaeth o ddiffyg chwilfrydedd proffesiynol pan oedd newid sylweddol yn digwydd, gan gynnwys wrth ddatgelu perthynas newydd, cyswllt gyda phlant a throseddu pellach. Mewn 73% o achosion, nid oedd ymarferwyr wedi sicrhau’n ddigonol bod mewnbwn gan asiantaethau rheoli risg eraill yn cyfrannu at waith adolygu.
Atodiad Dau: Llawlyfr data (Back to top)
Cyfeiriadau (Back to top)
1 Adroddiad a Chyfrifon Blynyddol HMPPS 2023-2024
2 Ailosod Prawf yw newid polisi gweithredol gorfodol ar lefel genedlaethol ac wedi’i weithredu i ysgafnu pwysau gwaith. Mae’r newid polisi’n gorfodi bod goruchwyliaeth o berson ar brawf, sy’n gymwys o dan feini prawf penodol, yn cael ei derfynu ar ôl cwblhau dwy ran o dair o’u dedfryd.
Nod y mesurau hyn yw targedu adnoddau at ddechrau goruchwyliaeth yn y gymuned.
3 https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk/document/national-probation-inspection-rules-and-guidance and-guidance/
4 Mae SDS40 wedi bod yn weithredol ers 10 Medi 2024. Mae’n golygu bod rhai carcharorion gyda dedfrydau penodol safonol (gyda phwynt rhyddhau amodol o 50%) yn gallu cael eu rhyddhau ar ôl treulio 40% o’u dedfryd, os ydynt yn gymwys. Ffynhonnell: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder (Tachwedd 2024). Data Dedfrydau Penodol Safonol (SDS40) – GOV.UK
5 Cyflwynwyd ECSL rhwng 17 Hydref 2023 a 30 Mehefin 2024 mewn ymateb i garchardai gorlawn. Roedd yn gadael i garcharorion gyda dedfrydau cyfnod penodol gael eu rhyddhau cyn eu dyddiad rhyddhau amodol. Dros y cyfnod hwn, rhyddhawyd 10,083 o garcharorion yn gynnar. Pan wnaed yr arolygiad hwn, gallai carcharorion gael eu rhyddhau hyd at 70 diwrnod yn gyntaf. Ffynhonnell: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder a HMPPS (Gorffennaf 2024). Data Trwydded Dan Oruchwyliaeth Wedi Carchar (ECSL) ar gyfer Lloegr a Chymru – GOV.UK