Cynllun Iaith Gymraeg – Adroddiad Monitro Blynyddol ar gyfer 2024/2025
Cyflwyniad
- Paratowyd yr adroddiad hwn gan yr Arolygydd sy’n gyfrifol am ein Cynllun Iaith Gymraeg ac mae’n ymdrin â’r cyfnod rhwng 01 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.
- Mae Arolygiaeth Prawf EF yn hyrwyddo rhagoriaeth mewn gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid yng Nghymru a Lloegr. Rydym yn gwneud hyn drwy arolygiadau annibynnol, argymhellion, ymchwil a chanllawiau ymarfer effeithiol.
- Yn ogystal â’n harolygiadau, rydym yn cyhoeddi adroddiadau arolygu thematig rheolaidd ar faterion allweddol yn y system cyfiawnder troseddol, yn sicrhau ansawdd adolygiadau pellach o droseddau difrifol, yn cynnal ein hadolygiadau pellach annibynnol ein hunain o droseddau difrifol, ac yn llunio adroddiadau blynyddol ar ein canfyddiadau bob blwyddyn.
- Mae ein hymchwil annibynnol yn cyfrannu’n fawr at ein gwaith ac yn darparu sylfaen dystiolaeth, ac rydym yn seilio ein safonau ar gyfer arolygiadau a sicrhau ansawdd adolygiadau Troseddau Difrifol Pellach arni. Rydym hefyd yn comisiynu academyddion blaenllaw i roi eu barn ar amrywiaeth o bynciau cysylltiedig.
- Rydym yn defnyddio ein llais i sbarduno newid yn y system, gan ganolbwyntio ar gynhwysiant ac amrywiaeth. Mae ein gwaith craffu yn arwain at ganlyniadau gwell i unigolion a chymunedau.
- Rydym yn cael cyllideb ddirprwyedig gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a oedd yn £7,205,000 ar gyfer y cyfnod rhwng 2024 a 2025.
- Cymeradwywyd ein Cynllun Iaith Gymraeg gan Gomisiynydd y Gymraeg ar 20 Chwefror 2024, ac fe’i cyhoeddwyd ar ein gwefan.
- Mae Arolygiaeth Prawf EF, dan arweiniad y Prif Arolygydd, wedi ymrwymo i gyflawni’r cyfrifoldebau a nodir yn ein Cynllun Iaith Gymraeg.
- Yn unol â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993, rydym wedi ymrwymo i sicrhau y byddwn yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal ein harolygiadau yng Nghymru.
Recriwtio a staffio
- Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, rydym wedi parhau i ganolbwyntio ar recriwtio rhagor o siaradwyr Cymraeg. Rydym yn sicrhau bod y geiriad yn ein hysbysebion swyddi yn nodi’n glir ein bod yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy’n siarad Cymraeg. Rydym hefyd yn parhau i wneud defnydd rheolaidd o’n cysylltiadau â rhanddeiliaid sefydledig yn y sector cyfiawnder yng Nghymru, i hyrwyddo ymwybyddiaeth o’n swyddi gwag. Rydym yn darparu’r hysbyseb recriwtio a’r disgrifiad swydd yn Gymraeg.
- Mae gennym gynllun mentora a chysgodi yn Gymraeg sy’n gallu cynnig cymorth un-i-un, arweiniad, a chysgodi i’r rhai sydd â diddordeb mewn ymuno â’r sefydliad a dysgu mwy amdano. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, fe wnaethom hwyluso dwy drafodaeth yn Gymraeg rhwng darpar ymgeiswyr ac aelodau o staff yr Arolygiaeth.
- Ar hyn o bryd mae’r Arolygiaeth yn cyflogi dau aelod o staff llawn amser sy’n siarad Cymraeg. Mae hyn yn ostyngiad ers y flwyddyn adrodd flaenorol oherwydd bod un aelod o staff wedi newid rôl. Mae recriwtio staff sy’n siarad Cymraeg yn parhau i fod yn flaenoriaeth.
- Rydym yn gweithio gydag un arolygydd sy’n siarad Cymraeg ac yn derbyn ffi, sydd wedi cael ei ddefnyddio ar arolygiadau a gynhaliwyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
- Rydym wedi ymrwymo i barhau i weithio gyda’r gwasanaeth prawf a thimau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru i hyfforddi rhai o’u staff sy’n siarad Cymraeg i fod yn ‘aseswyr lleol’. Bydd yr aseswyr lleol hyn yn cefnogi’r gwaith o ddarparu gweithgareddau arolygu yng Nghymru. Eleni, fe wnaethom gynnal digwyddiadau ymgysylltu ag aelodau o staff prawf a chyfiawnder ieuenctid a oedd â diddordeb mewn clywed mwy am y rôl, a darparwyd rhannau o’r digwyddiadau hyn yn ddwyieithog.
Cynllunio a darparu gwasanaethau
- Mae Arolygiaeth Prawf EF yn cynllunio ac yn gweithredu arolygiadau yng Nghymru o wasanaethau prawf i oedolion a chyfiawnder ieuenctid. Ar adegau, rydym yn gweithio ar y cyd ag arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru. Mae’r rhain yn cynnwys Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, ac Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub EF. Wrth gydweithio, rydym yn hyrwyddo ein Cynllun Iaith Gymraeg ac yn yr un modd yn ymwybodol o gynlluniau arolygiaeth eraill.
- Mae ein Cynllun Iaith Gymraeg yn nodi ein hymrwymiad y byddwn yn darparu o leiaf un Arolygydd sy’n siarad Cymraeg yn ein rhaglenni craidd ar arolygu ieuenctid ac oedolion yng Nghymru. Cyflawnwyd hyn yn ystod y flwyddyn adrodd hon.
- Er mwyn paratoi ar gyfer yr arolygiadau craidd a thematig yng Nghymru, rydym wedi ymgysylltu â Chyfarwyddwr Prawf Rhanbarthol Cymru a rheolwyr timau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru. Rhan allweddol o’r ymgysylltu hwn yw casglu gwybodaeth am ddewisiadau’r iaith Gymraeg y rhai sy’n defnyddio eu gwasanaethau, eu staff a’r asiantaethau partner perthnasol eraill y maent yn gweithio ar y cyd â nhw. Mae’r ymgysylltu cynnar hwn wedi ein galluogi i ddeall anghenion yr iaith Gymraeg y gwasanaethau rydym yn eu harolygu yng Nghymru, ac mae’n cefnogi ein gwaith cynllunio effeithiol i fodloni’r gofynion hyn wrth gyflawni ein harolygiadau. Bydd y dull ymgysylltu hwn yn parhau dros y flwyddyn adrodd nesaf.
- Gellir cyflwyno’r wybodaeth y mae Arolygiaeth Prawf EF yn gofyn amdani cyn yr arolygiad yn Gymraeg neu yn Saesneg. Yn ystod y cyfnod adrodd cawsom gyflwyniadau gan un o’r gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid a arolygwyd, a oedd yn cynnwys dogfennau yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- Lansiwyd ein rhaglen arolygu cyfiawnder ieuenctid newydd yng Nghaerdydd, a oedd yn cynnwys trafodaeth gyda’r rhai a oedd yn bresennol ar arolygu yng Nghymru ac yn gweithio yng nghyd-destun Cymru.
Arolygiadau a gynhaliwyd yng Nghymru
- Rydym wedi cwblhau a chyhoeddi’r arolygiadau canlynol o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd: Cwm Taf, Ceredigion, Sir Benfro
- Ar gyfer yr arolygiadau a nodwyd uchod, cynigwyd cyfweliadau yn Gymraeg gydag aelodau staff. Er na chawsom unrhyw geisiadau i gynnal cyfarfodydd yn Gymraeg, cynhaliwyd sgyrsiau amrywiol yn Gymraeg tra oedd ein Harolygwyr ar y safleoedd arolygu.
- Er nad ydym wedi cael ceisiadau i gynnal cyfarfodydd yn Gymraeg eleni, mae’r sgyrsiau Cymraeg eraill hyn yn hyrwyddo ac yn atgyfnerthu ymhellach y pwysigrwydd o gael staff sy’n siarad Cymraeg ar leoliad.
- Yn dilyn pob arolygiad, rydym yn casglu adborth i werthuso sut cafodd yr arolygiad ei gynnal, sy’n cynnwys ffocws penodol ar ddiwallu anghenion yr iaith Gymraeg. Mae adborth eleni wedi adlewyrchu’n gadarnhaol sut rydym wedi ymateb i’r iaith Gymraeg.
- Ar gyfer pob un o’r arolygiadau hyn, darparwyd y llythyr cyhoeddi, y daflen wybodaeth i blant a’r ffurflen ganiatâd, a’r daflen wybodaeth i staff yn Gymraeg ac yn Saesneg yn unol â’n hymrwymiad a nodir yn y Cynllun Iaith Gymraeg.
- Ni chynhaliwyd unrhyw arolygiadau craidd o’r gwasanaethau prawf yng Nghymru yn ystod y cyfnod adrodd.
- Rydym wedi cwblhau tri arolygiad thematig sy’n cynnwys ardaloedd yng Nghymru, a chyhoeddwyd dau ohonynt yn ystod y flwyddyn adrodd hon. Arolygiad thematig o gyflenwi gwaith di-dâl, Arolygiad thematig o recriwtio hyfforddi a chadw ymarferwyr prawf rheng flaen, Datrysiadau ieuenctid y tu allan i’r llys, a fydd yn cael eu cyhoeddi yn Hydref 2025.
- Cafodd ein harolygydd Cymraeg sy’n derbyn ffi ei ddefnyddio ar yr arolygiadau thematig o ddarparu gwaith di-dâl a datrysiadau ieuenctid y tu allan i’r llys. Ni chawsom unrhyw geisiadau i gyfarfodydd gael eu cynnal yn Gymraeg ar yr arolygiadau thematig hyn, ond cynhaliwyd nifer o sgyrsiau yn Gymraeg yn ystod yr arolygiad.
- Cafodd yr arolygiad thematig ar recriwtio, hyfforddi a chadw ymarferwyr prawf rheng flaen ei gynnal o bell, ac roedd aelod o staff sy’n siarad Cymraeg ar gael.
- Ar gyfer yr arolygiad ar ddarparu gwaith di-dâl, darparwyd dwy daflen Gymraeg, un ar gyfer goruchwylwyr gwaith di-dâl ac un ar gyfer yr unigolion hynny sy’n cael eu goruchwylio gan y gwasanaeth prawf.
Canfyddiadau’r arolygiad mewn perthynas â’r iaith Gymraeg
- Mae ein gwaith arolygu craidd ar wasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid yng Nghymru yn cynnwys canolbwyntio ar ba mor dda mae’r sefydliad a arolygwyd wedi nodi ac ymateb i geisiadau i gael gafael ar eu gwasanaethau yn Gymraeg.
- Mae canfyddiadau ein harolygiad a’r trafodaethau sy’n cael eu cynnal gyda staff yn ystod arolygiad hefyd yn hyrwyddo pwysigrwydd cydnabod bod gan y rhai sy’n defnyddio gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid hawl i wneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Canfu’r arolygiad o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid yng Nghwm Taf fod gan y gwasanaeth nifer o ymarferwyr sy’n siarad Cymraeg, a bod pob plentyn yn gallu cael mynediad at wasanaethau yn Gymraeg neu yn Saesneg.
- Yng Ngheredigion, canfuwyd bod ymarferwyr yn y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid wedi cael eu hariannu i gymryd rhan mewn cyrsiau iaith Gymraeg. Canfuwyd ‘enghraifft drawiadol o ymarfer adferol’ yn ystod yr arolygiad hwn a oedd wedi’i gyflwyno yn Gymraeg. Fodd bynnag, nododd yr arolygiad hefyd nad oedd y gwasanaeth yn dadansoddi data fel mater o drefn i olrhain a ellid diwallu anghenion yr iaith Gymraeg yn gyson. Canfu hefyd nad oedd polisïau’n manylu ar sut y byddai’r trefniadau partneriaeth sy’n gweithio gyda’r gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid yn diwallu anghenion plant sy’n siarad Cymraeg ac sy’n cael eu lleoli mewn sefydliadau cadw y tu allan i Gymru.
- Canfyddiadau’r arolygiad cyfiawnder ieuenctid yn Sir Benfro oedd bod gan y gwasanaeth un siaradwr Cymraeg rhugl a sawl aelod arall o staff oedd â pheth dealltwriaeth o’r Gymraeg. Roedd yr adroddiad arolygu a gyhoeddwyd gennym ni yn pwysleisio bod angen i’r gwasanaeth fonitro nifer y plant, y rhieni neu’r gofalwyr, a’r dioddefwyr sy’n dewis gwasanaethau yn Gymraeg, er mwyn sicrhau bod modd parhau i ddiwallu anghenion y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth.
Delwedd gyhoeddus y sefydliad
- Rydym yn parhau i ddefnyddio ein brandio Cymraeg ar gyfer pob adroddiad a gohebiaeth yn Gymraeg.
- Mae ein staff sy’n siarad Cymraeg yn cael eu hadnabod yn glir drwy eu bathodynnau enw a’u laniardiau dwyieithog.
- Rydym wedi lansio tudalen we newydd wedi ei fformatio sy’n cynnwys adran benodol ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae’r dudalen yn cynnwys gwybodaeth am yr arolygiaeth, ein hadroddiadau, ymgynghoriadau, dogfennau corfforaethol, a chyfleoedd gyrfa yn Gymraeg.
- Mae adroddiadau ar ein harolygiadau sy’n cael eu cynnal yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi yn Gymraeg ac yn Saesneg. Yn ystod y flwyddyn adrodd hon, cyhoeddwyd adroddiadau a ysgrifennwyd yn Gymraeg cyn gynted â phosibl yn dilyn derbyn gohebiaeth gan gyfieithwyr allanol. Mae’r adroddiadau cyhoeddedig hyn hefyd yn cael eu hyrwyddo gyda theitl dwyieithog ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Cyfathrebu Ehangach
- Mae ceisiadau am gyfweliadau yn y cyfryngau yn yr iaith Gymraeg yn cael eu cyfeirio at ein huwch reolwr sy’n siarad Cymraeg. Gwnaed un cais o’r fath yn ystod y cyfnod adrodd hwn gyda’r uwch reolwr sy’n siarad Cymraeg yn cael ei gyfweld ar gyfer rhaglen Newyddion S4C.
- Nid ydym wedi derbyn unrhyw alwadau na gohebiaeth i’n swyddfeydd ym Manceinion na Llundain drwy gyfrwng y Gymraeg yn ystod y cyfnod adrodd.
- Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, rydym wedi cadw mewn cysylltiad ag Arolygiaethau partner, gan gynnwys cysylltu i hyrwyddo’r gwaith o ddatblygu trefniadau arolygu thematig ar y cyd yng Nghymru.
- Rydym yn parhau i ymgysylltu’n rhagweithiol â rhanddeiliaid sydd wedi cynnwys cyswllt parhaus ag arweinwyr cyfiawnder troseddol yng Nghymru, a rhanddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Comisiynwyr Heddlu a Throseddu, a Chanolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru.
- Rydym yn mynychu fforwm Rheolwyr Timau Troseddau Ieuenctid Cymru ac yn ymgysylltu’n rheolaidd â Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru.
- Rydym yn croesawu cyfleoedd i wella ein dealltwriaeth o’r trefniadau datganoledig ar gyfer gwasanaethau oedolion a phlant, fel y maent yn berthnasol i’n rôl yn arolygu gwasanaethau prawf a chyfiawnder ieuenctid.
Hyfforddiant a datblygiad staff
- Mae staff newydd sy’n ymuno â’r Arolygiaeth eleni wedi cael mewnbwn ar hanes ac arwyddocâd y Gymraeg, a’n Cynllun Iaith Gymraeg diwygiedig er mwyn iddynt ddeall yr ymrwymiadau y mae’n eu gosod a sut y gallant gefnogi eu darpariaeth.
- Fel rhan o’u cyfnod cynefino, mae’r holl staff newydd yn parhau i gael trosolwg cydraddoldeb ac amrywiaeth sy’n ymgorffori ein cyfrifoldebau a’n hymrwymiadau o ran arolygu yng Nghymru.
Trefniadau i’r dyfodol
- Hannah Williams, Arolygydd Prawf EF, fydd yn parhau i fod â’r prif gyfrifoldeb dros ein Cynllun Iaith Gymraeg, ar ran Prif Arolygydd Prawf EF.
Hannah Williams
Arolygydd Prawf EF
Ar ran
Martin Jones CBE
Prif Arolygydd Prawf EF