Arolygu achosion prawf: Rheolau a chanllawiau asesu achosion (CARaG)
Fersiwn 1.0 Hydref 2026
Cyflwyniad (Back to top)
Mewn arolygiadau o unedau cyflawni’r gwasanaeth prawf (PDU), rydym yn arolygu ansawdd y gwaith yn unol â thair safon: asesu, cynllunio a darparu. Rydym yn defnyddio’r un disgwyliadau o ran ansawdd yn yr holl achosion rydym yn eu harolygu, ni waeth beth yw hyd a math yr oruchwyliaeth. Fodd bynnag, rydym yn mabwysiadu agwedd gymesur at faint o waith y gellir ei gyflawni, ar sail hyd a math yr oruchwyliaeth. Felly, er bod llai o waith mewn achosion lle mae cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal neu ei derfynu’n gynnar, rydym yn disgwyl i ansawdd yr asesu, y cynllunio a’r cyfnod darparu byr mewn achosion o’r fath fod yr un fath ag mewn achosion lle ceir cyfnod hirach o oruchwyliaeth. Mae ‘ansawdd’ yn cynnwys gwneud atgyfeiriadau amserol i’r gwasanaethau cywir a chwblhau cynlluniau ymadael cadarn i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf, sicrhau newid a chadw pobl yn ddiogel.
Ategir safonau, cwestiynau ac awgrymiadau arolygu achosion gan y rheolau a chanllawiau asesu achosion (CARaG). Dyma set gynhwysfawr o reolau a chanllawiau cyhoeddedig i’w dilyn gan arolygwyr ac aseswyr lleol pan fyddant yn asesu achosion. Mae’r rheolau a chanllawiau asesiadau achos yn hyrwyddo tryloywder a chysondeb wrth i ni arolygu achosion. Lle bo’n briodol, mae’n nodi lle mae disgwyliadau’n wahanol oherwydd effaith terfynu’n gynnar neu atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf. Dylai staff arolygu ac aseswyr lleol ddefnyddio’r rheolau a chanllawiau fel dogfen gyfeirio wrth asesu achos. Darperir canllawiau yn y rheolau a chanllawiau asesu achosion ar gyfer yr holl gwestiynau ac awgrymiadau allweddol yn y fframwaith safonau, ac ar gyfer cwestiynau a ofynnwn er mwyn casglu data ychwanegol (‘cwestiynau gwybodaeth’). Mae’r rheolau a chanllawiau yn cael eu diweddaru’n rheolaidd i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gyson ag unrhyw newidiadau a wnawn ar lefel safonau, cwestiynau ac awgrymiadau, ac i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn gysylltiedig â thystiolaeth.
Allwedd
| Enghraifft | Fformat y cwestiwn | Yn cynrychioli: |
| A yw’r asesu’n nodi ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu? | Testun plaen | Cwestiwn sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag awgrym yn y safonau arolygu. Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y dyfarniad cryno ar lefel cwestiynau allweddol. |
| A gynigiwyd adroddiad i’r llys pan ddedfrydwyd yr achos? | Llythrennau italig | Cwestiwn gwybodaeth a ofynnwyd er mwyn darparu gwybodaeth gefndir ychwanegol am yr achos. |
| A yw’r cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf? | Testun trwm | Cwestiwn dyfarniad cryno, yn ateb cwestiwn allweddol o’r safonau arolygu, ac sy’n dylanwadu’n uniongyrchol ar sgôr y safon berthnasol. |
Egwyddorion arolygu (Back to top)
Cymesuredd a blaenoriaethu
Dim ond am gyfnod byr y bydd rhai achosion a arolygwn yn cael eu goruchwylio gan y gwasanaeth prawf. Rydym yn cydnabod hyn ac yn gwneud ein penderfyniadau ar sail yr hyn sy’n rhesymol i’w gyflawni yn ystod y cyfnod goruchwylio. Rydym yn rhoi sylw i gyfeirio, atgyfeirio a chynllunio ar gyfer ymadael pan fydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn dod i ben. Rydym yn disgwyl gweld gwaith sy’n mynd i’r afael â risgiau, cryfderau ac anghenion yr unigolyn mewn achos ond sy’n gymesur â’r gorchymyn – cyswllt gweithredol a chynllunio ar gyfer y tu hwnt i hynny. Dyma’r egwyddor cymesuredd.
Ochr yn ochr â hyn, rydym yn disgwyl gweld ymarferwyr prawf yn blaenoriaethu eu gwaith gyda phob person ar brawf yn unol â chyfyngiadau cyswllt â’r gwasanaeth prawf. Er enghraifft, efallai y bydd angen gwneud gwaith i sefydlogi unigolyn ar brawf yn ddigonol yng nghamau cynnar gorchymyn er mwyn gallu gwneud gwaith ymddygiad troseddol yn ddiweddarach. Dyma’r egwyddor blaenoriaethu.
Cofnodi gwaith
Mae cofnodi priodol yn rhan bwysig o waith achos, a byddem fel arfer yn disgwyl gweld asesiad a chynllun ysgrifenedig ffurfiol. Fodd bynnag, nid dyma’r unig fan lle byddwn yn gweld cofnodion o weithgareddau asesu a chynllunio. Er enghraifft, gall tystiolaeth hefyd ddod o gofnodion cyswllt â’r gwasanaeth prawf neu drafodaeth gyda’r ymarferydd prawf. Lle nad oes asesiad na chynllun ysgrifenedig ffurfiol, nid ydym yn dweud yn awtomatig bod hyn yn annigonol. Yn hytrach, rydym yn ystyried effaith diffyg asesiad neu gynllun ysgrifenedig ffurfiol. Er enghraifft, lle nad oes asesiad ysgrifenedig ond bod tystiolaeth o weithgarwch asesu rhywle arall, gallai hyn fod yn ddigonol os oes digon o asesu effeithiol rhywle arall. Fodd bynnag, lle nad oes asesiad ysgrifenedig ac nad yw asesu’n cael ei gofnodi rhywle arall mewn cofnodion achos, byddai hyn yn annigonol. Rydym yn ystyried adolygu yn broses ddeinamig ar draws asesu, cynllunio a darparu, ac felly rydym yn chwilio am dystiolaeth o ymatebolrwydd i newid ac adolygu nid yn unig mewn adolygiadau ysgrifenedig ond ar draws tystiolaeth arall yn ffeil yr achos.
Cadw pobl yn ddiogel
Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu hystyried, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol.
Gwaith llys
Rydym yn arolygu achosion lle bu rhywfaint o waith llys. Lle bu gweithgarwch yn y llys mewn achos, dylai arolygwyr ymgyfarwyddo â hyn ond ni ddylent ei arolygu. Nid ydym yn gwneud dyfarniadau am waith llys yn ein harolygiadau PDU.
Achosion ar ôl rhyddhau
Rydym yn arolygu achosion o’r adeg rhyddhau. Dylai arolygwyr fod yn gyfarwydd â gweithgarwch cyn rhyddhau gan fod hyn yn rhoi cyd-destun i lywio asesu, cynllunio a darparu ar ôl rhyddhau. Fodd bynnag, nid ydym yn gwneud dyfarniadau am waith cyn rhyddhau.
Achosion ar ôl adalw
Rydym yn arolygu achosion o’r adeg rhyddhau. Dylai arolygwyr fod yn gyfarwydd â gweithgarwch cyn rhyddhau gan fod hyn yn rhoi cyd-destun i lywio asesu, cynllunio a darparu ar ôl rhyddhau. Fodd bynnag, nid ydym yn gwneud dyfarniadau am waith cyn rhyddhau.
Achosion a drosglwyddwyd i mewn neu allan o’r PDU
Rydym yn arolygu achosion sy’n cael eu trosglwyddo i’r PDU neu allan o’r PDU fel rhan o’n samplau achosion PDU. Mewn achosion sy’n cael eu trosglwyddo allan, rydym yn disgwyl i’r ymarferydd prawf yn y PDU gymryd cyfrifoldeb llawn dros asesu, cynllunio a darparu gwasanaethau nes bydd yr ardal sy’n derbyn yr unigolyn yn cytuno ar drosglwyddiad ffurfiol; bydd hyn yn cynnwys unrhyw waith sy’n cael ei wneud gan ardal arall o dan drefniadau gofalu dros dro. Mewn achosion sy’n cael eu trosglwyddo i mewn, byddwn yn arolygu gwaith yr ardal dderbyn o’r adeg y mae trosglwyddiad ffurfiol yn cael ei dderbyn ar y system rheoli achosion. Efallai y byddwn yn ystyried unrhyw asesiad sydd wedi cael ei gwblhau gan yr ardal sy’n trosglwyddo, ond yr ardal sy’n derbyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod digon o waith asesu a chynllunio ar waith i reoli’r achos o’r adeg y caiff ei drosglwyddo’n ffurfiol.
Achosion sydd wedi cael eu terfynu
Nid ydym yn arolygu achosion a derfynwyd o fewn saith diwrnod i ddechrau’r gorchymyn neu’r drwydded. Ar gyfer achosion sydd wedi cael eu terfynu, rydym yn arolygu’r rhai lle cafwyd parhad goruchwyliaeth, er enghraifft lle cafodd gorchymyn cymunedol ei ddiddymu a’i ddisodli’n syth gan orchymyn tebyg, neu lle cafodd achos trwydded ei adalw a’i ail-ryddhau wedyn.
Achosion gyda dedfrydau lluosog
Mewn achosion lle mae’r unigolyn ar brawf wedi bod yn destun dedfrydau cymunedol ychwanegol neu gyfnodau o oruchwyliaeth ar ôl rhyddhau ers dyddiad dechrau’r gorchymyn/goruchwyliaeth ar ôl rhyddhau, bydd arolygwyr yn ystyried y cyfnod cyfan o oruchwyliaeth barhaus ers y dyddiad hwnnw. Lle mae goruchwyliaeth wedi’i hatal, rydym o’r farn bod hynny’n doriad mewn goruchwyliaeth barhaus.
Os cafodd gorchymyn cymunedol ei ddiddymu a’i ddisodli gan orchymyn cymunedol cymwys arall, bydd y gwaith o’i gyflwyno a’i weithredu dan bob gorchymyn yn cael ei arolygu. Os cafodd dedfryd gymunedol ei diddymu ac nad oedd dedfryd gymunedol arall yn cymryd ei lle ar unwaith, dim ond gwaith hyd at y pwynt diddymu y bydd arolygwyr yn ei ystyried.
Os oedd trwydded wedi arwain at adalw, a bod yr unigolyn ar brawf wedyn wedi cael ei ail-ryddhau ar drwydded newydd neu gyfnod o oruchwyliaeth ar ôl dedfrydu, bydd y cyfnod cyfan o oruchwyliaeth barhaus (gan gynnwys unrhyw amser a dreuliwyd yn y ddalfa ar adalw) yn cael ei ystyried.
Diffiniadau (Back to top)
Cam-drin domestig
Rydym yn cydnabod y diffiniad trawslywodraethol o gam-drin domestig fel unrhyw ddigwyddiad o reoli, gorfodi neu ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng pobl dros 16 oed sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu, ni waeth beth yw eu rhyw neu eu rhywioldeb. Mae cam-drin domestig yn cynnwys y mathau canlynol o gam-drin, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt:
- seicolegol
- corfforol
- rhywiol
- ariannol
- emosiynol
Diogelu plant
Diogelu plant yw’r camau a gymerir i amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin, i hybu eu lles, ac i sicrhau gofal diogel. Mae diogelu yn disgrifio’r camau rhagweithiol cyffredinol i gadw pob plentyn yn ddiogel ac i hybu lles. Amddiffyn plant yw’r gwaith penodol, wedi’i dargedu, a wneir i helpu plentyn sy’n wynebu cam-drin gweithredol neu niwed difrifol.
Diogelwch yr unigolyn ar brawf
Ar draws pob un o’n tair safon arolygu achosion, mae dwy ffrwd waith: sicrhau newid a chadw pobl yn ddiogel. Mae dwy elfen i’r elfen cadw pobl yn ddiogel: sicrhau bod risg yn cael ei rheoli’n effeithiol a sicrhau bod yr unigolyn ar brawf yn ddiogel.
Mae sicrhau diogelwch i’r unigolyn ar brawf yn golygu, lle mae angen gweithgarwch ar yr unigolyn i’w gadw’n ddiogel, bod y gweithgaredd cywir wedi cael ei asesu, ei gynllunio a’i ddarparu i fodloni’r anghenion hynny.
Gwybodaeth am yr achos (Back to top)
2.0.09 A oes tystiolaeth bod yr unigolyn ar brawf wedi cael ei holi am ei nodweddion amrywiaeth ar ddechrau’r cyfnod goruchwylio presennol?
Mae’n bwysig bod pob cyfnod goruchwylio yn dechrau gyda thrafodaeth gyda’r unigolyn ar brawf am ei nodweddion amrywiaeth penodol. Bydd hyn yn galluogi’r ymarferydd prawf i ddatblygu dealltwriaeth o brofiad bywyd yr unigolyn ar brawf, ac effaith nodweddion amrywiaeth ar ei fywyd. Mae hynny’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer sefydlu perthynas waith gadarnhaol dros gyfnod yr oruchwyliaeth. Er y gall llenwi ffurflen monitro amrywiaeth fod yn rhan o’r broses honno, nid yw’n ddigonol ar ei phen ei hun.
Asesu gwybodaeth (Back to top)
Gofynnir y cwestiynau yn yr adran hon i gasglu tystiolaeth sy’n caniatáu i’r arolygydd arweiniol weld themâu sy’n ymwneud ag asesu ar gyfer sicrhau newid a chadw pobl yn ddiogel.
Nid ydynt yn cael effaith uniongyrchol ar y dyfarniad cryno ar gyfer asesu.
2.3.04 A gafwyd digon o wybodaeth am gam-drin domestig?
Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael digon o wybodaeth ynghylch a yw’r unigolyn ar brawf yn gyflawnwr neu’n ddarpar gyflawnwr cam-drin domestig, ym mhob achos pan fydd y llys yn gorchymyn adroddiad cyn dedfrydu. Os na chafwyd adroddiad llys, neu os na chafwyd gwybodaeth yn y llys, disgwyliwn i’r Gwasanaeth Prawf gael y wybodaeth hon fel rhan o’r gweithgarwch asesu unwaith y bydd yr achos wedi’i ddyrannu (neu wedi’i drosglwyddo i’r rheolwr troseddwyr yn y gymuned, mewn achosion o garchar). Yr unig sefyllfa lle nad oes angen gwneud ymholiadau newydd yw pan fydd digon o wybodaeth gyfredol am bryderon cam-drin domestig hysbys ar gael o ffynonellau eraill, megis cofnodion achos cyfredol sy’n cael ei oruchwylio, neu wybodaeth gan Wasanaeth Erlyn y Goron.
Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf fod yn gweithio gyda’r heddlu i hwyluso ymateb clir, manwl a chyflym i bob ymholiad ar draws y gweithgarwch asesu.
Rydym yn cydnabod bod sawl ffordd wahanol y gall y Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am gam-drin domestig, gan gynnwys ymholiadau uniongyrchol i’r heddlu, ymholiadau drwy’r ganolfan ddiogelu amlasiantaeth (MASH) a rhannu gwybodaeth yn rheolaidd gan yr heddlu.
I fod yn ddigonol, rhaid i’r wybodaeth gwmpasu cyfnod rhesymol o amser, a rhaid iddi ddarparu digon o fanylion i alluogi’r Gwasanaeth Prawf i ddeall yr ymddygiad sydd wedi dod i sylw’r heddlu. Nid yw rhestr syml o ddyddiadau galwadau’r heddlu yn debygol o fod yn ddigonol. Dylid adnewyddu archwiliadau cyn rhyddhau’r unigolyn os oes amser sylweddol wedi mynd heibio ers cynnal unrhyw archwiliadau yn y cam llys/dyrannu/trosglwyddo.
Mae gwybodaeth am yr unigolyn ar brawf yn dioddef cam-drin domestig yn cael ei hystyried fel rhan o gadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel.
2.3.05 A ddefnyddiwyd gwybodaeth am gam-drin domestig wrth asesu’r achos?
Rydym yn disgwyl i unrhyw wybodaeth berthnasol am yr unigolyn ar brawf yn cyflawni cam-drin domestig neu a allai gyflawni cam-drin domestig gael ei defnyddio i asesu’r achos. Felly, dylid ei thrafod â’r unigolyn ar brawf fel rhan o’r gweithgarwch asesu. Os yw’r wybodaeth a gafwyd yn cadarnhau nad oes unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, dylid cofnodi hyn yn glir. Os oes ffactorau’n gysylltiedig â cham-drin domestig, ni waeth a yw’r brif drosedd yn un o gam-drin domestig, dylid nodi’r wybodaeth hon yn glir fel rhan o’r asesiad, er mwyn canfod a dadansoddi unrhyw batrymau ymddygiad camdriniol sydd wedi cael eu dangos gan yr unigolyn ar brawf, y tu hwnt i’r rheini sydd wedi arwain at euogfarnau.
Os oes cyrffyw yn yr achos, mae’n hanfodol cyfeirio’n benodol at unrhyw wybodaeth am gam-drin domestig, er mwyn sicrhau diogelwch partneriaid neu aelodau eraill o’r teulu a allai fod yn byw yng nghyfeiriad arfaethedig y cyrffyw.
2.3.06 A gafwyd digon o wybodaeth am ddiogelu plant lle bo angen?
Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth glir yn cael ei chofnodi yn y gweithgarwch asesu sy’n dangos a ofynnwyd i’r unigolyn ar brawf a oes ganddo blant neu a yw mewn cysylltiad â phlant (er mwyn i ni wybod a oes angen gwybodaeth am amddiffyn plant neu ddiogelu plant). Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant ym mhob achos lle mae’r unigolyn ar brawf:
- â phlant, neu
- mewn cysylltiad â phlant, neu
- yn peri risg bosib o niwed i blant.
Rydym yn cydnabod bod sawl ffordd wahanol y gall y Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant, gan gynnwys ymholiadau uniongyrchol i ofal cymdeithasol plant, ac ymholiadau drwy MASH. Beth bynnag fo’r trefniadau lleol, disgwyliwn i’r Gwasanaeth Prawf gael digon o wybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant ym mhob achos perthnasol, ar yr adeg pan fydd adroddiad llys. Os na chafwyd adroddiad llys, neu os na chafwyd gwybodaeth yn y llys, disgwyliwn i’r Gwasanaeth Prawf gael y wybodaeth hon fel rhan o’r gweithgarwch asesu unwaith y bydd yr achos wedi’i ddyrannu (neu wedi’i drosglwyddo i’r rheolwr troseddwyr yn y gymuned, mewn achosion o garchar).
I fod yn ddigonol, rhaid i’r wybodaeth gwmpasu cyfnod rhesymol o amser, a rhaid iddi ddarparu digon o fanylion i alluogi’r Gwasanaeth Prawf ddeall ymddygiad yr unigolyn ar brawf a/neu bryderon ynghylch y plant maent mewn cysylltiad â nhw sydd wedi dod i sylw’r gwasanaethau plant. Dylid gwneud ymholiadau yn ardal awdurdod lleol cartref yr unigolyn ar brawf, ac yn ardal yr awdurdod lleol lle mae unrhyw blant perthnasol yn byw, os ydynt yn wahanol. Nid yw rhestr syml o ddyddiadau cyswllt y gwasanaeth prawf â gofal cymdeithasol plant yn debygol o fod yn ddigonol.
Disgwyliwn i’r wybodaeth hon gael ei chasglu, os bydd angen, fel rhan o broses adrodd y llys. Dylai ymholiadau nodi a oes unrhyw blant sydd mewn cysylltiad â’r unigolyn ar brawf erioed wedi gwneud y canlynol o’r blaen:
- wedi derbyn ymyriad cymorth cynnar, neu
- wedi’i ddynodi’n blentyn mewn angen, neu
- wedi bod yn destun cynllun amddiffyn plant.
Yr unig sefyllfa lle nad oes angen gwybodaeth newydd pan fydd gan yr unigolyn ar brawf blant, ei fod mewn cysylltiad â phlant neu’n peri risg bosib o niwed i blant yw pan fydd digon o wybodaeth bresennol am bryderon diogelu plant ar gael o ffynonellau eraill, fel cofnodion achos sy’n cael ei oruchwylio ar hyn o bryd neu wybodaeth gan Wasanaeth Erlyn y Goron. Dylid adnewyddu archwiliadau cyn rhyddhau’r unigolyn os oes amser sylweddol wedi mynd heibio ers cynnal unrhyw archwiliadau yn y cam llys/dyrannu/trosglwyddo.
Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf fod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hwyluso ymateb clir, manwl a chyflym i bob cais am wybodaeth.
2.3.07 A ddefnyddiwyd gwybodaeth am ddiogelu plant ei ddefnyddio, lle bo angen, wrth asesu’r achos?
Disgwyliwn i unrhyw wybodaeth berthnasol am amddiffyn plant a diogelu plant gael ei defnyddio wrth asesu’r achos. Felly, dylid ei thrafod â’r unigolyn ar brawf fel rhan o’r gweithgarwch asesu. Os yw’r wybodaeth a gafwyd yn cadarnhau nad oes unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn plant a diogelu plant, dylid cofnodi hyn yn glir. Os oes ffactorau sy’n gysylltiedig ag amddiffyn plant neu ddiogelu plant, dylid nodi’r wybodaeth hon yn glir, er mwyn nodi a dadansoddi unrhyw risgiau parhaus i blant.
Os oes cyrffyw yn yr achos, mae’n hanfodol cyfeirio’n benodol at unrhyw wybodaeth am ddiogelu plant, er mwyn sicrhau diogelwch plant a allai fod yn byw yng nghyfeiriad arfaethedig y cyrffyw.
2.3.10 Ym marn yr arolygydd, a oedd y pryder presennol ynghylch cam-drin domestig yn ffactor pwysig sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed?
Mae ‘presennol’ yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae’r unigolyn ar brawf wedi dangos ymddygiad sy’n ymwneud â cham-drin domestig o’r blaen, nad yw mor hanesyddol fel ei fod wedi dod yn amherthnasol, ac nad yw ymyriadau wedi mynd i’r afael ag ef i bwynt lle mae cam-drin domestig yn annhebygol yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw achosion lle mae’r unigolyn ar brawf yn cael ei asesu fel un sy’n peri risg o niwed i bartneriaid presennol, partneriaid blaenorol neu bartneriaid yn y dyfodol (canolig neu uwch), ni waeth a ydyw mewn perthynas ar hyn o bryd ai peidio.
2.3.11 Ym marn yr arolygydd, a oedd pryderon presennol ynghylch diogelu plant yn ffactor pwysig sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed?
Mae ‘presennol’ yn cynnwys sefyllfaoedd lle mae gan yr unigolyn ar brawf blant neu lle mae mewn cysylltiad â phlant sy’n destun trefniadau diogelu plant amlasiantaeth, neu lle mae’r unigolyn ar brawf yn cael ei asesu fel un sy’n peri risg o niwed i blant (canolig neu uwch), ni waeth a ydyw mewn cysylltiad â phlant ar hyn o bryd ai peidio.
2.3.13 Yn ôl yr ymarferydd prawf, beth yw dosbarthiad risg o niwed difrifol yr unigolyn ar brawf ar hyn o bryd?
Cofnodi’r dosbarthiad risg o niwed difrifol ar y pryd yn ôl yr ymarferydd prawf.
2.3.19 A gafwyd gwybodaeth ddigonol am gam-drin domestig a diogelu plant a’i defnyddio fel rhan o’r asesiad o addasrwydd ar gyfer cyrffyw?
Mewn achosion lle cynigir cyrffyw sy’n cael ei fonitro’n electronig, gan gynnwys cyrffyw cyfyngu i’r cartref, a bod cyrffyw yn un o ofynion dedfryd gymunedol, rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael a defnyddio gwybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant.
Dylid gofyn am wybodaeth am gam-drin domestig ym mhob achos. Dylai’r wybodaeth a geir fod yn ddigonol i nodi unrhyw ymddygiad hysbys neu risg o niwed mewn cysylltiad â chyfeiriad arfaethedig y cyrffyw ac unrhyw breswylwyr yno, a hefyd unrhyw ymddygiad sy’n gysylltiedig ag unigolion eraill ar brawf neu amgylchiadau a allai awgrymu risg barhaus o gam-drin domestig. Credwn na ddylid cynnig cyrffyw os oes unrhyw dystiolaeth o risg barhaus o gam-drin domestig.
Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth glir yn cael ei chofnodi sy’n dangos a ofynnwyd i’r unigolyn ar brawf a oes ganddo blant neu a yw mewn cysylltiad â phlant (er mwyn i ni wybod a oes angen gwybodaeth am amddiffyn plant neu ddiogelu plant).
Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant ym mhob achos lle ystyrir cyrffyw a bod yr unigolyn ar braef:
- â phlant, neu
- mewn cysylltiad â phlant, neu
- yn peri risg bosib o niwed i blant.
Dylai’r wybodaeth a geir fod yn ddigonol i ganfod a yw’r unigolyn ar brawf yn peri unrhyw risg barhaus o niwed i blant a allai fod yn byw yng nghyfeiriad arfaethedig y cyrffyw neu’n ymweld ag ef. Credwn na ddylid cynnig cyrffyw os oes unrhyw dystiolaeth o risg barhaus i blant yng nghyfeiriad arfaethedig y cyrffyw.
Asesu (Back to top)
2.1.1 A yw’r asesu’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i sicrhau newid?
Mae asesu’n cynnwys yr holl weithgarwch asesu, nid dim ond paratoi asesiad ysgrifenedig. Rydym yn chwilio am dystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys cofnodion achos, asesiadau ysgrifenedig, asesiadau penodol neu arbenigol, nodiadau o gyfarfodydd mewnol neu amlasiantaeth am yr unigolyn ar brawf, a’r drafodaeth achos gyda’r ymarferydd prawf. Rydym yn barnu ansawdd asesu yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag ar unrhyw adeg benodol. Nid oes angen defnyddio unrhyw adnodd asesu penodol ac rydym yn edrych ar asesu yn ei gyfanrwydd i sicrhau bod digon o wybodaeth am yr unigolyn ar brawf a’i amgylchiadau wedi cael ei chasglu a’i dadansoddi. Rydym yn disgwyl i’r asesu cychwynnol gael ei gwblhau’n ddigon cynnar yn y ddedfryd i gefnogi’r cynllunio a’r darparu. Dylai hyn ddod o’r asesu cyffredinol ar ddechrau’r ddedfryd gymunedol neu ar yr adeg y dylai rheolwr troseddwyr yn y gymuned fod wedi cael ei neilltuo i achos carchar sy’n cael ei arolygu.
Lle nad oes asesiad ysgrifenedig ffurfiol, nid ydym yn dweud yn awtomatig bod hyn yn annigonol. Yn hytrach, rydym yn ystyried effaith diffyg asesiad ysgrifenedig ffurfiol. Er enghraifft, lle nad oes asesiad ysgrifenedig ond bod tystiolaeth o weithgarwch asesu rhywle arall, gallai hyn fod yn ddigonol. Lle nad oes asesiad ysgrifenedig ac nad yw asesu’n cael ei gofnodi rhywle arall mewn cofnodion achos, gallai hyn fod yn annigonol. Rydym yn ystyried adolygu yn broses ddeinamig ar draws asesu ac felly rydym yn chwilio am dystiolaeth o ymatebolrwydd i newid ac adolygu, nid yn unig mewn adolygiadau ysgrifenedig ond ar draws tystiolaeth arall yn ffeil yr achos.
Os bydd hunanasesiad ysgrifenedig wedi’i gwblhau (megis holiadur hunanasesu OASys), gall hwn gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol. Rydym yn disgwyl i’r ymarferydd ystyried gwybodaeth o gyfnodau blaenorol o oruchwyliaeth prawf a nodi unrhyw rwystrau posib i ymgysylltu, y gellir eu nodi gan wybodaeth am achosion blaenorol o dorri amodau neu ddiffyg cydymffurfio.
Dylai’r asesu fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf, natur ei droseddu, ei amgylchiadau personol, hyd y ddedfryd ac unrhyw atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf.
Rydym yn arolygu yn erbyn y safonau rydym wedi’u cyhoeddi, nid yn erbyn cydymffurfedd y Gwasanaeth Prawf ag unrhyw bolisi penodol ar asesu.
Amserlenni
Nid ydym yn pennu’r amserlen ar gyfer cwblhau’r asesu cychwynnol. Fodd bynnag, os oes oedi cyn cwblhau elfennau sylweddol o’r asesu cychwynnol, gall hyn arwain at ddyfarniad negyddol, hyd yn oed pan fydd unrhyw asesiad terfynol yn ddigonol fel arall. Os yw’r unigolyn ar brawf wedi bod yn destun dedfrydau eraill ar yr adeg y dechreuodd y ddedfryd sy’n cael ei harolygu, gellir ystyried asesiadau blaenorol, ond byddem yn disgwyl iddynt gael eu hadolygu a’u diweddaru ar gyfer y ddedfryd. Mewn rhai achosion, bydd yr unigolyn ar brawf wedi cael dedfrydau cymunedol/goruchwyliaeth ar ôl rhyddhau ychwanegol gan ddechrau ar ôl dyddiad y ddedfryd sy’n cael ei harolygu. Byddem yn disgwyl gweld adolygiad yn yr amgylchiadau hynny.
a) A yw’r asesu’n nodi’r ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu sy’n effeithio ar ymddygiad?
Dylai fod dadansoddiad o’r ymddygiad troseddol sy’n egluro pam roedd yr unigolyn ar brawf wedi troseddu, nid dim ond sut. Lle bu troseddu blaenorol, disgwyliwn i’r asesiad nodi ac ymgorffori gwybodaeth sy’n berthnasol i’r drosedd gyfredol yn ogystal ag unrhyw hanes blaenorol o droseddu. Dylid defnyddio gwybodaeth o ddogfennau’r erlyniad, a dylid egluro unrhyw anghysondebau rhwng cyfrif yr erlyniad a’r hyn a roddir gan yr unigolyn ar brawf.
Dylai fod archwiliad o beth ddigwyddodd a beth oedd barn yr unigolyn ar brawf amdano, ar y pryd ac ar ôl hynny. Dylai hyn gynnwys dadansoddiad ynghylch a yw’r unigolyn ar brawf wedi derbyn cyfrifoldeb, a’i agwedd at y drosedd, neu ei gymhelliant ar gyfer y drosedd.
Dylai’r asesu nodi a dadansoddi’r ffactorau penodol a gyfrannodd at y brif drosedd a throseddau eraill. Yn ddelfrydol, bydd y dystiolaeth ar gyfer hyn mewn dogfennau unigol, ond bydd arolygwyr hefyd yn edrych ar hunanasesiad, nodiadau cyfweliadau, a dogfennau eraill sydd ar gael. Ar gyfer achosion mwy cymhleth, efallai y bydd angen asesiadau arbenigol ychwanegol.
b) A yw’r asesu’n dadansoddi cryfderau a ffactorau amddiffynnol yr unigolyn ar brawf?
Dylai ymarferwyr gofal gymryd gofal i osgoi asesu ar sail diffygion sy’n canolbwyntio ar risgiau neu bryderon yr unigolyn ar brawf yn unig. Dylent sicrhau bod yr asesu’n gytbwys, gan gynnwys cryfderau a ffactorau amddiffynnol yr unigolyn ar brawf fel sail ar gyfer sicrhau newid.
Dylid nodi cryfderau’r unigolyn ar brawf yn glir. Mae ymchwil yn dangos bod cryfderau unigolyn ar brawf yn cael eu siapio gan nodweddion, profiadau ac amgylchiadau personol. Gall yr unigolyn ar brawf, aelodau o’i deulu, y darparwr addysg neu unrhyw weithiwr proffesiynol cysylltiedig arall nodi cryfderau. Gellir eu nodi hefyd drwy weithio gyda’r unigolyn ar brawf ac ymgysylltu ag ef, yn ogystal ag unrhyw hunanasesiad. Dylid dadansoddi’r wybodaeth hon yn nhermau effaith pob un ar yr unigolyn ar brawf.
Dylid nodi ffactorau amddiffynnol ar lefel yr unigolyn ar brawf, ei deulu, y gymuned a chymdeithas, gan gydnabod pwysigrwydd ystyried yr unigolyn ar brawf yng nghyd-destun ei fywyd. Gall ffactorau amddiffynnol gynnwys y rheini sy’n ymwneud â’r unigolyn ar brawf, fel defnydd cadarnhaol o amser hamdden ac ymgysylltu ag addysg, a ffactorau sy’n ymwneud â’r teulu ehangach, cyfoedion a rhwydweithiau cymunedol. Bydd arolygwyr yn chwilio am dystiolaeth bod y gwasanaeth wedi nodi unrhyw gryfderau a ffactorau amddiffynnol gwirioneddol, ac unrhyw ffactorau y gellid eu gwella.
c) A yw’r asesu’n cydnabod ac yn dadansoddi ffactorau amrywiaeth?
Mae arolygwyr yn disgwyl gweld archwiliad ystyrlon o unrhyw ffactorau amrywiaeth sy’n berthnasol i’r unigolyn ar brawf, gan gynnwys tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rydym yn cydnabod y naw nodwedd warchodedig (rhyw, oedran, hil, crefydd a chred, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth, hunaniaeth rywiol, ailbennu rhywedd a phriodas neu bartneriaeth sifil) ac yn disgwyl gweld y rhain yn cael eu cydnabod a’u dadansoddi ar gyfer yr unigolyn ar brawf.
Dylai asesu ystyried yr holl feysydd allweddol o groestoriadedd, hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol sy’n effeithio ar brofiad bywyd yr unigolyn ar brawf. Dylai asesu ddadansoddi a chydnabod anghydraddoldebau, allgáu a gwahaniaethu y gallai’r unigolyn ar brawf eu profi.
Dylai’r dadansoddiad gynnwys disgrifiad o unrhyw amgylchiadau sy’n berthnasol i fywyd yr unigolyn ar brawf, a sut mae’r rhain wedi effeithio ar ei fywyd neu wedi effeithio ar ei fywyd. Fel rhan o ddull personol, dylai’r asesu ystyried profiad bywyd yr unigolyn ar brawf, gan gynnwys ei deulu a’i gyd-destun amgylcheddol a chymdeithasol. Gall hyn gynnwys materion ymarferol fel byw mewn ardal wledig neu allu’r unigolyn ar brawf i fynychu apwyntiadau. Dylai ymarferwyr prawf ystyried ffactorau personol, fel problemau gydag ymlyniad, anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, ac anawsterau neu anableddau dysgu, gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, ac anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth. Dylent hefyd ystyried a yw’r unigolyn ar brawf wedi profi trawma, a pha effaith y gallai hyn ei chael ar ddeall yr unigolyn, ei ymddygiad a’i allu i gymryd rhan mewn ymyriad.
Ar ôl nodi a chydnabod anghenion amrywiol yr unigolyn ar brawf, rydym yn disgwyl gweld dadansoddiad priodol ohonynt. Mae angen i hyn fynd y tu hwnt i restru unrhyw ffactorau sy’n berthnasol i’r unigolyn ar brawf yn unig; dylai gynnwys dadansoddiad o’u heffaith ar yr unigolyn ar brawf. Gellir dangos tystiolaeth o hyn mewn asesiadau ysgrifenedig, cofnodion achos neu drafodaethau achos gyda’r ymarferydd. Lle nad oes llawer o gyswllt rhwng y gwasanaeth prawf a’r unigolyn ar brawf, dylai ymarferwyr prawf dal ystyried ffactorau amrywiaeth yn llawn ac unrhyw rwystrau posib i ymgysylltu, fel y man cychwyn ar gyfer gallu rhoi trefniadau priodol a phersonol ar waith ar gyfer unrhyw ddarparu uniongyrchol cyn atal, ac ar gyfer cymorth ar ôl goruchwyliaeth.
d) A yw’r asesu’n dadansoddi’r gallu ar gyfer newid, cyfranogiad, ac integreiddio cymunedol?
Rydym yn disgwyl i’r ymarferydd prawf ddadansoddi gallu’r unigolyn ar brawf i newid, a’i allu i gymryd rhan ac ymgysylltu â’r gymuned y mae’n byw ynddi. Dylai’r asesu ystyried hunaniaeth, cymhelliant a gallu’r unigolyn ar brawf i newid. Dylid canolbwyntio’n glir ar gryfderau er mwyn sicrhau newid. Dylai’r asesu ddadansoddi teimlad yr unigolyn ar brawf o berthyn, integreiddiad, cyfranogiad a chysylltedd â’r gymuned y mae’n byw ynddi. Dylai ystyried sut gallai ffactorau ym mywyd yr unigolyn ar brawf effeithio ar y rhain.
e) A yw’r asesu’n dadansoddi cymhelliant, parodrwydd a gallu’r unigolyn ar brawf i ymgysylltu a chydymffurfio â’r ddedfryd?
Dylid dadansoddi parodrwydd yr unigolyn ar brawf i ymgysylltu a chydymffurfio â’r ddedfryd, gan gydnabod y gwahanol gamau yn y cylch newid. Dylai ymarferwyr prawf gydnabod lefel cymhelliant yr unigolyn ar brawf i gydymffurfio, ac unrhyw ffactorau ategol neu wrthwynebol. Dylai fod mwy na datganiad syml am hyn. Lle bo’n berthnasol, dylai fod dadansoddiad o unrhyw gyswllt blaenorol â gwasanaethau, gan gynnwys dealltwriaeth ynghylch a oedd yr unigolyn ar brawf wedi mynychu apwyntiadau, wedi ymgysylltu’n weithredol â’r gwasanaeth neu wedi ymddieithrio oddi wrtho, a’r rhesymau dros hynny.
f) A yw’r asesu’n rhoi cyfle am gyfranogiad gweithredol a chydgynhyrchu â’r unigolyn ar brawf?
Dylid rhoi cyfle i unigolion ar brawf gydweithio a chymryd rhan ystyrlon mewn gweithgarwch asesu. Rydym yn disgwyl i’r ymarferydd prawf ddefnyddio iaith neu adnoddau sy’n hwyluso dealltwriaeth yr unigolyn ar brawf. Ar gyfer cydgynhyrchu, rydym yn disgwyl i’r unigolyn ar brawf fod wedi cael cyfle i deimlo bod rhywun yn gwrando arno, i gael ei gynnwys yn ystyrlon, ac i gael ei gefnogi i ymgysylltu â’r gweithgarwch asesu. Rydym yn chwilio am dystiolaeth glir o ddealltwriaeth o safbwynt yr unigolyn ar brawf ar ei ymddygiad, ac rydym yn disgwyl gweld llais, barn ac anghenion yr unigolyn ar brawf yn cael eu hymgorffori a’u dadansoddi drwy gydol y broses asesu. Disgwyliwn weld defnydd o gyfieithydd lle nad yw’r unigolyn ar brawf yn siarad Saesneg fel iaith gyntaf.
g) A yw’r asesu’n defnyddio’r ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael ac yn cynnwys asiantaethau eraill lle bo’n briodol?
Lle bo’n briodol, rydym yn disgwyl gweld dull amlasiantaeth o asesu er mwyn cael darlun cyflawn o fywyd yr unigolyn ar brawf. Dylai’r asesu fod yn seiliedig ar yr holl wybodaeth a nodwyd. Os yw’r unigolyn ar brawf yn ymwneud ag asiantaethau eraill, dylai staff gael gwybodaeth am ba mor dda mae’n ymgysylltu â’r asiantaeth honno, pa waith sydd wedi’i gwblhau neu sy’n mynd rhagddo, ac unrhyw beth sy’n hwyluso neu’n llesteirio ymgysylltiad yr unigolyn ar brawf. Dylid cyfeirio at wybodaeth hanesyddol gan asiantaethau eraill, ei dadansoddi a’i gwerthuso yn yr amgylchiadau presennol.
h) A yw’r asesu’n ymateb i newidiadau er mwyn sicrhau ymgysylltiad a chydymffurfedd parhaus?
Dylai’r broses asesu fod yn ddeinamig, gan ystyried, dadansoddi ac ymateb i newidiadau yn amgylchiadau’r unigolyn ar brawf er mwyn sicrhau ymgysylltiad a chydymffurfedd parhaus. Mae hyn yn cynnwys newidiadau yng nghyd-destun ac amgylchedd cymdeithasol yr unigolyn ar brawf, cryfderau a ffactorau amddiffynnol, y gallu i newid, integreiddio cymunedol a chydgynhyrchu, amrywiaeth ac agweddau, cymhelliant ac ymddygiad.
Dylai’r asesu hefyd gydnabod yr hyn y gallai fod ei angen i gefnogi gwaith cynllunio ar gyfer ymadael, yn enwedig ar gyfer achosion sy’n cael eu terfynu’n gynnar neu lle gellir atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf. Dylid cael gwybodaeth lle mae eraill yn gweithio gyda’r unigolyn ar brawf i sicrhau bod yr holl wybodaeth berthnasol a chyfredol yn hysbys. Mae bod yn ymatebol i newid yn cynnwys asesu ymgysylltiad yr unigolyn ar brawf hyd yma, a’i ymateb i’r ymyriadau sydd wedi cael eu darparu. Dylid ymgysylltu’n weithredol â’r unigolyn ar brawf fel rhan o weithgarwch asesu parhaus a thrafodaethau ynghylch newid a chynnydd. Byddai modd dangos tystiolaeth o hyn mewn adolygiadau o asesiadau ysgrifenedig, cofnodion achos a’r drafodaeth achos gyda’r ymarferydd.
Dyfarniad cryno: A yw’r asesu’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i sicrhau newid?
Bydd arolygwyr yn barnu a yw ansawdd cyffredinol yr asesu yn ddigon i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid. Dylai hyn fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf a natur y ddedfryd, a dylai fod yn ddigon personol, gan nodi’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid ar ei gyfer. Er enghraifft, gall asesiad digonol o unigolyn ar brawf sydd â hanes cyfyngedig o droseddu fod yn llai manwl nag asesiad o rywun sydd â mwy o euogfarnau.
Dylai’r asesu gydnabod a dadansoddi anghenion amrywiol unigolyn ar brawf. Dylai’r asesu cychwynnol fod yn brydlon ac yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf, a dylid ei gynnal yn ddigon cynnar yn ystod y cyfnod o weithio gyda’r unigolyn ar brawf i lywio’r cynllunio a’r darparu.
Dylai asesu parhaus fod yn ddeinamig, yn ymatebol ac yn amserol. Dylai llais yr unigolyn ar brawf fod yn amlwg drwy gydol y broses, ac rydym yn disgwyl i’r asesu ddangos bod yr ymarferydd prawf yn deall yr unigolyn ar brawf yng nghyd-destun ei fywyd.
Mae angen i arolygwyr ystyried eu hatebion i’r holl gwestiynau yn yr adran hon a phenderfynu a yw’r cryfderau’n gorbwyso unrhyw ddiffygion. Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond rydym eisiau asesiad digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid ar ei gyfer. Os oes bylchau yn y gweithgarwch asesu, bydd arolygwyr yn ystyried eu heffaith yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf. Mewn rhai amgylchiadau, gall hepgoriad penodol fod yn ddigon i arwain at ddyfarniad annigonol. Er enghraifft, efallai y bernir bod asesu a fethodd ystyried anabledd dysgu unigolyn ar brawf yn annigonol, hyd yn oed os oedd yn cynnwys yr holl ffactorau eraill a oedd yn berthnasol i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid ar ei gyfer.
2.1.2 A yw’r asesu’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i gadw pobl yn ddiogel?
Cofiwch: Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu nodi a’u dadansoddi, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol.
a) A yw’r asesu’n nodi ac yn dadansoddi’n glir pob risg o niwed i eraill?
Mewn unrhyw asesiad risg o niwed, rydym yn disgwyl i’r holl ffactorau, neu unrhyw un ohonynt sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu nodi a’u dadansoddi, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Rydym yn disgwyl gweld dadansoddiad clir o unrhyw risgiau i blant (sy’n hysbys i’r unigolyn ar brawf neu i blant yn gyffredinol), ac o unrhyw risgiau cam-drin domestig (i bartneriaid agos a/neu aelodau eraill o’r teulu). Mae niwed yn cynnwys niwed corfforol, niwed rhywiol a niwed seicolegol. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf nodi’r potensial ar gyfer niwed seicolegol tymor hir sy’n deillio o droseddau di-drais, fel esgeuluso neu gam-drin domestig gan yr unigolyn ar brawf.
Dylai asesu ar gyfer risg o niwed ystyried:
- asesiadau risg actiwaraidd (gan gynnwys y Rhagfynegydd Aildroseddu Difrifol Cyfun (CSRP) a rhagfynegyddion ARNS ar gyfer troseddu rhywiol a threisgar (OVP, OSP/DC, OSP/IIC)
- ffactorau risg sefydlog, gan gynnwys oedran a rhywedd, a natur, nifer ac amgylchiadau euogfarnau blaenorol
- ffactorau risg deinamig (a all fod yn acíwt neu’n sefydlog)
- ffactorau risg deinamig acíwt yw’r rheini sydd â’r potensial i newid yn gyflym, fel camddefnyddio sylweddau
- ffactorau risg deinamig sefydlog yw’r rheini a allai newid dros gyfnod hirach, fel y gallu i ddatrys problemau neu ymateb i drawma
- cryfderau’r unigolyn ar brawf, gan gynnwys ffactorau amddiffynnol mewnol (fel teimlo’n rhan o’r gymuned neu fod yn obeithiol am y dyfodol)
- adnoddau sydd ar gael i’r unigolyn ar brawf, neu ffactorau amddiffynnol allanol (gan gynnwys perthnasoedd personol cadarnhaol a mynediad at ymyriadau adsefydlu)
- gallu a’r cymhelliant i newid (gan gynnwys i ba raddau y mae’r unigolyn ar brawf yn gallu ac yn barod i ymwneud â rheoli risg).
Dylai gwybodaeth gael ei dilysu lle bo hynny’n bosib, a hygrededd a pherthnasedd y wybodaeth yn cael ei hystyried.
b) A yw’r asesu’n dadansoddi unrhyw risgiau a phryderon penodol sy’n gysylltiedig â dioddefwyr gwirioneddol a phosib?
Dylai’r asesu nodi, lle bo’n bosib, unrhyw ddioddefwyr gwirioneddol neu bosib, gan ddefnyddio’r categorïau canlynol: y cyhoedd, oedolion hysbys, plant, staff a charcharorion. O fewn y penawdau eang hyn, dylai’r asesu nodi’n glir unrhyw is-grwpiau sy’n fwy tebygol o fod mewn perygl, fel ‘y cyhoedd – cyfoedion mewn tafarndai/clybiau’, ‘oedolion hysbys – neiniau a theidiau’, ‘plant – o fewn cylchoedd teulu a chyfeillgarwch’ neu ‘staff – swyddogion heddlu a diogelwch’.
Wrth asesu pwy allai fod yn ddioddefwyr posib yn y dyfodol, rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf chwilio am batrymau ymddygiad sy’n cael eu hailadrodd ac felly sy’n debygol o ddigwydd eto. Dylid rhoi sylw i unrhyw nodweddion amrywiaeth penodol sydd gan y dioddefwr a allai naill ai ei wneud yn fwy tebygol o gael ei dargedu, neu ei gwneud yn anoddach iddo roi gwybod am droseddau.
Rydym yn disgwyl i’r asesu fod yn glir ynghylch a oes risg barhaus i unrhyw ddioddefwyr troseddau presennol neu flaenorol. Dylai’r asesu nodi natur a lefel unrhyw risgiau parhaus i ddioddefwyr presennol neu flaenorol, ac i unrhyw ddioddefwyr posib y gellir eu hadnabod.
c) A yw’r asesu’n ymgorffori anghenion y dioddefwr/dioddefwyr?
Mae arolygwyr yn disgwyl y bydd anghenion unrhyw ddioddefwyr a nodwyd yn cael eu cynnwys wrth asesu.
Pan fydd anghenion a dymuniadau dioddefwr yn hysbys, dylid cofnodi’r rhain yn glir a’u hystyried wrth asesu’r unigolyn ar brawf. Gall hyn gynnwys unrhyw anghenion neu ddymuniadau a nodwyd gan ddioddefwr ynglŷn â’i gadw’n ddiogel rhag niwed gan yr unigolyn ar brawf yn y dyfodol. Dylid ystyried gwybodaeth o bapurau’r erlyniad, datganiadau o effaith ar ddioddefwyr neu unrhyw ffynonellau gwybodaeth eraill sy’n ymwneud ag anghenion y dioddefwr, a’i chynnwys yn y gweithgarwch asesu. Mae hyn yn arbennig o bwysig os yw dioddefwr yn gymwys ar gyfer y cynllun cyswllt â dioddefwyr ond wedi dewis peidio ag ymgysylltu.
Lle mae’n amlwg nad oes gwybodaeth am anghenion/dymuniadau’r dioddefwr, ac nad ydynt yn rhan o’r cynllun cyswllt â dioddefwyr, ni ddylid rhoi sgôr negyddol i hyn.
b) A yw’r asesu’n defnyddio ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys ymddygiad ac euogfarnau blaenorol, ac yn cynnwys asiantaethau eraill lle bo’n briodol?
Rydym yn disgwyl i’r asesu ar gyfer cadw pobl yn ddiogel fod yn seiliedig ar yr holl ffynonellau gwybodaeth ar brawf gael. Gallai hyn gynnwys cofnodion presennol a blaenorol o oruchwylio neu asesu’r gwasanaeth prawf gan asiantaethau eraill. Dylid hefyd ystyried gwybodaeth gan yr unigolyn ar brawf (ac aelodau ei deulu, os ydynt ar gael). Dylai’r asesu ystyried euogfarnau blaenorol ac ymddygiad blaenorol hysbys neu a amheuir, gan gynnwys gwybodaeth am droseddu dramor.
Rydym yn disgwyl i’r ymarferydd prawf geisio cymaint o wybodaeth berthnasol â phosib. Os oes angen, dylent hefyd ddefnyddio prosesau uwchgyfeirio i gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth allweddol sy’n cael eu cadw gan asiantaethau eraill. Fodd bynnag, ni ddylid oedi cyn asesu heb fod angen os nad oes rhywfaint o wybodaeth ar gael. Dylai dyfarniadau fod yn seiliedig ar y ffynonellau gwybodaeth y byddai’n rhesymol i’r ymarferydd prawf fod wedi gallu cael gafael arnynt adeg yr asesu.
Rydym yn disgwyl i ymarferwyr ystyried effaith unrhyw drawma a brofir gan yr unigolyn ar brawf ar y risg i eraill. Mewn rhai achosion, ni fydd unrhyw euogfarnau blaenorol na gwybodaeth am ymddygiad yn y gorffennol. Dylai ymarferwyr prawf fod yn gyson wrth geisio cael gwybodaeth gan sefydliadau eraill. Dylent ddadansoddi a yw ymddygiad yn y gorffennol yn dal yn berthnasol, ac o dan ba amgylchiadau y gallai’r ymddygiad ddod i’r amlwg. Enghraifft o hyn fyddai ailddechrau yfed ar ôl cyfnod o ymatal.
Os yw’r unigolyn ar brawf yn wladolyn tramor, mae canllawiau mewnol y Gwasanaeth Prawf yn nodi sut y gellir cael gafael ar wybodaeth berthnasol, gan gynnwys gan y Swyddfa Gartref, archwiliad ACRO a’r Hyb Troseddwyr sy’n Wladolion Tramor (FNO).
e) A yw’r asesu’n dadansoddi a fyddai modd gwneud gwaith i gyfrannu at ddiogelwch cymunedol ar y cyd ag asiantaethau eraill?
Gall asiantaethau eraill fod yn dal gwybodaeth werthfawr am yr unigolyn ar brawf a chyd-destun ei fywyd, a gallant fod mewn sefyllfa dda i ddeall risg yr unigolyn ar brawf o niwed i eraill. Gall asiantaethau eraill hefyd chwarae rhan gydweithredol bwysig ochr yn ochr ag ymyriadau prawf i gadw pobl eraill yn ddiogel. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig lle mae mewnbwn y gwasanaeth prawf yn fyr, lle mae risgiau penodol/arbenigol neu lle bydd y risgiau a gyflwynir gan unigolyn ar brawf yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod goruchwylio. Gall cydweithio mewn achosion o’r fath sicrhau goruchwyliaeth ac ymyrraeth barhaus hanfodol.
Dylai ymarferwyr prawf ystyried rôl asiantaethau eraill o ran cadw’r gymuned yn ddiogel. Dylent sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu hymgorffori ac ystyried a oes modd gwneud gwaith ar y cyd â nhw i gefnogi diogelwch pobl eraill. Er enghraifft, dylent gael barn gwasanaethau plant a’r heddlu sy’n rheoli pobl ag euogfarnau rhywiol am y risg, a’u rôl mewn diogelwch cymunedol.
f) A yw’r asesu’n ymateb i newid, gan gynnal trefniadau effeithiol sy’n cefnogi diogelwch cymunedol?
Dylai’r asesu ystyried, dadansoddi a bod yn ymatebol i newidiadau yn amgylchiadau’r unigolyn ar brawf sydd wedi effeithio ar ddiogelwch cymunedol, neu a allai effeithio arno (yn gadarnhaol ac yn negyddol).
Dylai’r asesu ymateb i wybodaeth newydd a gwybodaeth sy’n newid yn brydlon, a sicrhau bod hyn yn cefnogi trefniadau effeithiol sy’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol. Mae angen i’r asesu fod yn ddeinamig ac yn amserol, ac ystyried yn weithredol unrhyw newidiadau i gyd-destun yr unigolyn ar brawf a’i amgylchedd teuluol a chymdeithasol ehangach, ei gryfderau, ei ffactorau amddiffynnol a strwythurol. Gall troseddu pellach neu ymddygiad sy’n peri pryder, newidiadau mewn meddyginiaeth, ymgysylltu, iechyd meddwl, neu lety, er enghraifft, leihau neu gynyddu pryderon mewn perthynas â chadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel.
Dylai’r asesu hefyd ystyried a yw dedfryd yn dod i ben, gan gynnwys drwy derfynu’n gynnar, neu a fydd cyswllt yn cael ei atal, a dadansoddi cynlluniau ymadael yn briodol a’r adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen i gyfrannu at ddiogelwch cymunedol. Dylai hyn gael ei wneud mewn modd amserol ac ymatebol pan fydd newid neu pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.
Mae bod yn ymatebol i newid yn cynnwys asesu ymgysylltiad yr unigolyn ar brawf hyd yma, ei ymatebion i’r gweithgarwch a’r ymyriadau sydd wedi cael eu darparu; a sut gallai hyn effeithio ar ddiogelwch cymunedol. Dylai’r unigolyn ar brawf gymryd rhan weithredol mewn gweithgarwch asesu parhaus a thrafodaethau ynghylch newid, yn ogystal â’i gynnydd.
g) A yw’r asesu’n nodi ac yn dadansoddi diogelwch yr unigolyn ar brawf?
Mae amrywiaeth o ffactorau a all wneud unigolyn ar brawf yn agored i niwed, neu mewn perygl o gael ei erlid neu ei ecsbloetio. Gall y rhain gynnwys anawsterau dysgu, profiad o ofal, camddefnyddio sylweddau neu anghenion iechyd meddwl. Efallai y bydd adegau allweddol o risg benodol i’r unigolyn ar brawf, fel perthynas yn dod i ben neu golli llety.
Dylai’r ymarferydd prawf fod yn ymwybodol o’r hyn sydd ei angen i gadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel – gan nodi a dadansoddi lle mae’r anghenion hyn yn bodoli ym mywyd unigolyn ar brawf. Wrth asesu, dylai ymarferwyr prawf ddangos chwilfrydedd proffesiynol am yr hyn sy’n digwydd ym mywyd yr unigolyn ar brawf. Dylent fod yn wyliadwrus o’r ystod o fathau o ecsbloetio posib, a all gynnwys y canlynol:
- ecsbloetio troseddol a rhywiol, gan gynnwys llinellau cyffuriau
- caethwasiaeth fodern a masnachu pobl
- radicaleiddio
- trais difrifol, gan gynnwys trais sy’n gysylltiedig â grŵp neu gyfoedion
- ecsbloetio ar-lein ar y rhyngrwyd (troseddau cyswllt â’r gwasanaeth prawf a di-gyswllt)
- priodas dan orfod, cam-drin ar sail anrhydedd ac anffurfio organau cenhedlu benywod.
Dylai ymarferwyr prawf ddefnyddio iaith briodol wrth nodi a dadansoddi risgiau i’r unigolyn ar brawf. Dylid cynnwys llais a barn yr unigolyn ar brawf mewn perthynas â’r hyn sydd ei angen i’w gadw’n ddiogel yn yr asesu.
h) A yw’r asesu’n dadansoddi a fyddai modd gwneud gwaith a fyddai’n cadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel ar y cyd ag asiantaethau eraill?
Gall asiantaethau eraill fod yn dal gwybodaeth werthfawr am yr unigolyn ar brawf a chyd-destun ei fywyd, a gallant fod mewn sefyllfa dda i ddeall sut gellir cadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel. Gall asiantaethau eraill hefyd chwarae rhan gydweithredol bwysig ochr yn ochr ag ymyriadau prawf i gadw unigolion ar brawf yn ddiogel. Gall hyn fod yn arbennig o bwysig lle mae mewnbwn y gwasanaeth prawf yn fyr neu lle mae risgiau penodol/arbenigol i unigolyn ar brawf a fydd yn parhau y tu hwnt i’r cyfnod goruchwylio. Gall cydweithio mewn achosion o’r fath sicrhau cymorth parhaus hanfodol.
Dylai ymarferwyr prawf ystyried rôl asiantaethau eraill o ran cadw unigolion ar brawf yn ddiogel. Lle bo’n berthnasol, dylai ymarferwyr prawf sicrhau bod safbwyntiau asiantaethau partner yn cael eu hymgorffori, ac ystyried a oes modd gwneud gwaith ar y cyd â nhw i gefnogi diogelwch unigolyn ar brawf. Er enghraifft, dylent ymgysylltu â gwasanaethau cam-drin domestig i ddeall rôl y gwasanaeth hwn os ydynt yn cefnogi unigolyn ar brawf.
i) A yw’r asesu’n ymateb i newid, gan gynnal trefniadau effeithiol i gadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel?
Dylai’r asesu ystyried, dadansoddi a bod yn ymatebol i newidiadau yn amgylchiadau’r unigolyn ar brawf sydd wedi effeithio ar ei ddiogelwch, neu a allai effeithio arno (yn gadarnhaol ac yn negyddol).
Dylai’r asesu ymateb i wybodaeth newydd a gwybodaeth sy’n newid yn brydlon a sicrhau bod hyn yn cefnogi trefniadau effeithiol i gadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel. Gall troseddu pellach neu ymddygiad sy’n peri pryder, newidiadau mewn meddyginiaeth, ymgysylltu, iechyd meddwl, neu lety, er enghraifft, leihau neu gynyddu pryderon mewn perthynas â chadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel. Dylai’r asesu ymateb i newidiadau mewn amgylchiadau neu i wybodaeth newydd.
Dylai’r asesu hefyd ystyried a yw dedfryd yn dod i ben neu a fydd cyswllt yn cael ei atal, a dadansoddi cynlluniau ymadael yn briodol a’r adnoddau neu’r cymorth sydd eu hangen i ddiogelu’r unigolyn ar brawf.
Lle bo’n briodol, dylai hyn gynnwys cael gwybodaeth gan bobl eraill sy’n gweithio gyda’r unigolyn ar brawf i sicrhau bod dealltwriaeth gyfredol a rennir o’r unigolyn ar brawf, a bod gwybodaeth berthnasol a chyfredol yn hysbys, a bod ei heffaith yn cael ei dadansoddi a’i deall. Dylai hyn gael ei wneud mewn modd amserol ac ymatebol pan fydd newid neu pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.
Mae bod yn ymatebol i newid yn cynnwys asesu ymgysylltiad yr unigolyn ar brawf hyd yma, ei ymatebion i’r gweithgarwch a’r ymyriadau sydd wedi cael eu darparu; a sut gallai hyn effeithio ar ei ddiogelwch. Dylai’r unigolyn ar brawf gymryd rhan weithredol mewn gweithgarwch asesu parhaus a thrafodaethau ynghylch newid, yn ogystal â’i gynnydd.
2.1.3 Dyfarniad cryno: A yw’r asesu’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i gadw pobl yn ddiogel?
Mae dwy elfen i ‘gadw pobl yn ddiogel’ – mae un yn cyfrannu at ddiogelwch cymunedol a’r llall yn hybu diogelwch yr unigolyn ar brawf.
Bydd arolygwyr yn barnu a yw ansawdd cyffredinol yr asesu yn ddigon i gadw pobl yn ddiogel. Dylai’r asesu fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf a natur y ddedfryd, a dylai fod yn ddigon personol, gan nodi’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig â chadw pobl yn ddiogel. Er enghraifft, gall asesiad digonol o unigolyn ar brawf sydd â hanes cyfyngedig o droseddu fod yn llai manwl nag asesiad o rywun sydd â mwy o euogfarnau.
Bydd arolygwyr yn barnu a yw’r asesu cyffredinol yn dadansoddi’n ddigonol sut i gyfrannu at ddiogelwch cymunedol a chadw’r person ar brawf yn ddiogel. Dylai’r asesu ddadansoddi a chydnabod anghenion amrywiol yr unigolyn ar brawf a sut mae’r rhain yn berthnasol i gadw pobl yn ddiogel. Dylai’r asesu cychwynnol fod yn brydlon ac yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf, a dylid ei gynnal yn ddigon cynnar yn ystod y cyfnod o weithio gyda’r unigolyn ar brawf i lywio’r cynllunio a’r darparu. Dylai’r asesu parhaus fod yn ddeinamig, yn ymatebol ac yn amserol. Dylai llais yr unigolyn ar brawf fod yn amlwg drwy gydol y broses, ac rydym yn disgwyl i’r asesu ddangos bod yr ymarferydd prawf yn deall yr unigolyn ar brawf yng nghyd-destun ei fywyd. Mae angen i arolygwyr ystyried eu hatebion i’r holl gwestiynau yn yr adran hon a phenderfynu a yw’r cryfderau’n gorbwyso unrhyw ddiffygion. Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond am asesiad digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig â chadw pobl yn ddiogel. Os oes bylchau yn y gweithgarwch asesu, bydd arolygwyr yn ystyried eu heffaith yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf. Mewn rhai amgylchiadau, gall hepgoriad penodol fod yn ddigon i arwain at ddyfarniad annigonol. Mewn achosion eraill, gall meysydd ymarfer eraill orbwyso nifer o hepgoriadau bach, gan wneud yr achos yn ddigonol yn gyffredinol.
Cynllunio (Back to top)
2.2.1 A yw’r cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i sicrhau newid?
Cynllunio
Mae cynllunio yn cynnwys yr holl weithgarwch cynllunio, nid dim ond paratoi cynllun ysgrifenedig. Rydym yn barnu’r cynllunio yn ei gyfanrwydd yn hytrach nag ar unrhyw adeg benodol. Gall tystiolaeth ar gyfer y safon hon ddod o’r drafodaeth achos gyda’r ymarferydd prawf a chofnodion achos parhaus, ac o gynllun ysgrifenedig. Dylai’r cynllunio fod yn gymesur â risg ac anghenion yr unigolyn ar brawf, â natur a gofynion y ddedfryd, ac â hyd y cyfnod cyswllt. Rhaid i’r cynllun fod yn ddealladwy i’r unigolyn ar brawf ac i asiantaethau eraill. Dylai’r unigolyn ar brawf ddeall ei rôl yn y cynllunio, a’r camau gweithredu a ddisgwylir ganddo. Pan fydd pobl ar brawf yn destun amrywiaeth o gynlluniau (fel cynllun dedfrydu, trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA), neu gynllun amddiffyn plant), dylid cydlynu’r rhain, gan gynnwys cytuno ar drefn y camau gweithredu. Dylai’r cynllunio gynnwys camau gweithredu i gefnogi ymgysylltu ac ymatal (sicrhau newid) yn ogystal â rheoli’r risg o niwed a darparu diogelwch a chymorth i’r unigolyn ar brawf (cadw pobl yn ddiogel).
Lle nad oes cynllun ysgrifenedig ffurfiol, nid ydym yn dweud yn awtomatig bod hyn yn annigonol. Yn hytrach, rydym yn ystyried effaith diffyg cynllun ysgrifenedig ffurfiol. Er enghraifft, lle nad oes cynllun ysgrifenedig ond bod tystiolaeth o weithgarwch cynllunio rhywle arall, gallai hyn fod yn ddigonol. Lle nad oes cynllun ysgrifenedig ac nad yw cynllunio’n cael ei gofnodi rhywle arall mewn cofnodion achos, gallai hyn fod yn annigonol. Rydym yn ystyried adolygu yn broses ddeinamig ar draws cynllunio ac felly rydym yn chwilio am dystiolaeth o ymatebolrwydd i newid ac adolygu, nid yn unig mewn adolygiadau ysgrifenedig ond ar draws tystiolaeth arall yn ffeil yr achos.
Achosion lle mae cyswllt gweithredol â’r gwasanaeth prawf yn fyr
Rydym ni’n disgwyl cynllunio mewn achosion lle mae cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn fyr i ddarparu ar gyfer gweithgareddau a gyflawnir yn ystod cyswllt gweithredol â’r gwasanaeth prawf a gwasanaethau y gellir eu cynnig ar ôl i’r cyswllt gael ei atal neu ar ôl terfynu cynnar, fel rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer ymadael. Mewn achosion lle mae cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn fyr iawn, neu nid oes cyswllt o gwbl, dylai’r cynllunio fod yn gymesur er mwyn mynd i’r afael â beth, os o gwbl, y gellir ei ddarparu yn ystod y cyfnod o gyswllt gweithredol â’r gwasanaeth prawf, a beth fydd yn cael ei gynnig fel rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer ymadael. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth mewn dogfennau cynllunio ffurfiol a chyswllt y gwasanaeth prawf â’r unigolyn ar brawf.
a) A yw’r cynllunio’n nodi’r hyn sydd ei angen i sicrhau newid a blaenoriaethu’r meysydd hynny sydd fwyaf hanfodol?
Dylai’r cynllunio adlewyrchu’r ffactorau perthnasol yn yr achos, a dylai fod yn gymesur â natur y ddedfryd. Dylai’r cynllunio fod yn briodol i’r cam y mae’r unigolyn ar brawf arno yn y cylch newid. Os yw’r asesiad wedi methu nodi ffactorau sydd eu hangen i sicrhau newid, dylai’r cynllunio fynd i’r afael â nhw o hyd.
Rydym yn disgwyl gweld rhywfaint o dystiolaeth o drefnu a blaenoriaethu gwaith. Lle nad yw hyn wedi digwydd, dylid cael esboniad clir, fel yr angen am waith cychwynnol i wella ymgysylltiad neu gynyddu cymhelliant. Er enghraifft, efallai y bydd angen rhoi sylw i ddigartrefedd cyn gwneud unrhyw waith penodol ar ffactorau eraill sy’n gysylltiedig â throseddu. Dylai cynlluniau fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf. Dylid cymryd gofal hefyd i sicrhau nad yw’r cynllunio’n gorlwytho’r unigolyn ar brawf. Dylid rhoi unrhyw gymorth sydd ei angen ar yr unigolyn ar brawf i ddatblygu strwythur a threfn, ac i sicrhau newid cadarnhaol. Efallai y bydd angen rhannu gweithgarwch ac ymyriadau yn nifer fach o ‘ddarnau’ neu ‘gamau’ gydag amcanion realistig, tymor byr.
Dylid integreiddio cynllunio ag unrhyw gynlluniau eraill sy’n ymwneud â’r unigolyn ar brawf, fel cydweithio â’r heddlu mewn achosion lle mae unigolion ar brawf wedi’u cael yn euog o droseddau rhywiol.
Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl i’r cynllunio ar gyfer y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a throsglwyddo neu gynllun ymadael ddarparu ymyriadau ymlaen llaw yn ystod y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth. Rydym hefyd yn disgwyl gweld cynllunio realistig ar gyfer gwasanaethau y gellir cael gafael arnynt ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal (lle bo angen).
b) A yw’r cynllunio’n ystyried cryfderau a ffactorau amddiffynnol yr unigolyn ar brawf, ac yn ceisio atgyfnerthu neu ddatblygu’r rhain er mwyn meithrin gwydnwch?
Fel rhan o ddull unigol, dylai’r cynllunio ystyried profiad bywyd yr unigolyn ar brawf, gan gynnwys ei gyd-destun teuluol, amgylcheddol a chymdeithasol, a chynllunio ar gyfer sut y gallai hyn effeithio ar allu’r unigolyn ar brawf i ymgysylltu ag ymyriadau ac adlewyrchu hynny. Mae’n allweddol bod cynllunio’n trosi’r asesiad o anghenion a chryfderau’r unigolyn ar brawf yn bethau sydd angen eu gwneud, a’i fod yn cydnabod natur unigryw’r unigolyn ar brawf a’r ffactorau a nodwyd yn ei asesiad.
Dylai’r cynllunio nodi lle bydd gweithgarwch ac ymyriadau’n cael eu darparu a dylai sicrhau bod hyn yn gyraeddadwy i’r unigolyn ar brawf. Gallai hyn gynnwys ystyried lefel y gefnogaeth i deuluoedd, cysylltiadau trafnidiaeth lleol ac effaith byw mewn ardal wledig. Dylai’r cynllunio ystyried y cyd-destun y mae’r unigolyn ar brawf yn byw ynddo, adeiladu ar gymorth personol, teuluol a strwythurol, a nodi sut i gefnogi a datblygu cryfderau a ffactorau amddiffynnol yr unigolyn ar brawf.
Dylai ymarferwyr prawf ddefnyddio’r wybodaeth sydd ar gael ynghylch a yw’r unigolyn ar brawf wedi profi trawma, cynllunio ar gyfer yr effaith y gallai hyn ei chael ar allu’r unigolyn ar brawf i ymgysylltu ag ymyriad, a chynllunio’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau a fydd yn bodloni anghenion yr unigolyn ar brawf.
c) A yw’r cynllunio’n mynd i’r afael â holl ffactorau amrywiaeth yr unigolyn ar brawf, gan gynnwys sut gallent effeithio ar ymgysylltu a chydymffurfio?
Dylid cael cynllunio ystyrlon sy’n darparu ar gyfer yr holl ffactorau amrywiaeth sy’n berthnasol i’r unigolyn ar brawf. Dylai’r cynllunio ddefnyddio dull personol sy’n ystyried anghenion penodol yr unigolyn ar brawf, gan gynnwys nodweddion gwarchodedig yr unigolyn. Rydym yn cydnabod y naw nodwedd warchodedig (rhyw, oedran, hil, crefydd a chred, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth, hunaniaeth rywiol, ailbennu rhywedd a phriodas neu bartneriaeth sifil) ac yn disgwyl gweld cynllunio sy’n cydnabod ac yn ystyried pob un o’r rhain lle maent yn berthnasol i’r unigolyn ar brawf.
Os oes gan yr unigolyn ar brawf anghenion dysgu neu niwroamrywiaeth penodol neu anhwylder personoliaeth, efallai y bydd angen dulliau pwrpasol. Lle ceir cydweithio ag asiantaethau eraill, fel yr heddlu mewn achosion sy’n cynnwys troseddau rhywiol, dylid cytuno ar ddull cynllunio priodol gyda’r staff eraill dan sylw.
Lle nad yw’r asesu wedi nodi’r holl ffactorau perthnasol, rydym yn dal i ddisgwyl i’r cynllunio fod yn seiliedig ar yr holl ffactorau perthnasol, yn hytrach na dim ond y rheini sydd wedi cael eu nodi.
Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl i’r cynllunio ar gyfer y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a throsglwyddo neu gynllun ymadael ystyried amgylchiadau personol yr unigolyn ar brawf yn ddigonol. Mae hyn er mwyn sicrhau bod gwasanaethau sy’n cael eu darparu’n uniongyrchol neu atgyfeiriadau sy’n cael eu gwneud ar gyfer cyswllt â’r gwasanaeth prawf ar ôl goruchwyliaeth yn briodol ac yn hygyrch, gan gynnwys atgyfeirio at wasanaethau sy’n briodol ar gyfer ffactorau amrywiaeth penodol. Dylai ymarferwyr ystyried pa mor hygyrch yw cymorth priodol i’r unigolyn ar brawf ar ôl terfynu’n gynnar neu ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal.
d) A yw’r cynllunio’n creu cyfleoedd ar gyfer newid, cyfranogiad ac integreiddio cymunedol?
Dylai’r cynllunio greu cyfleoedd ar gyfer newid, gan nodi gwasanaethau a/neu weithgarwch a fydd yn helpu’r unigolyn ar brawf i sicrhau newid ac i gymryd rhan ac integreiddio yn y gymuned.
Dylai’r cynllunio ystyried y gymuned y mae’r unigolyn ar brawf yn byw ynddi, a’i ymdeimlad o gymryd rhan, integreiddio, perthyn a chysylltiad â’r gymuned honno, a sut gellir adeiladu ar y rhain neu eu datblygu. Dylai’r cynllunio ystyried hobïau a diddordebau’r unigolyn ar brawf, ei grwpiau cyfoedion a’i gysylltiadau, a’r gymuned y mae’n byw ynddi, ac edrych ar sut i weithio gyda’r unigolyn ar brawf i hwyluso a chreu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad ac integreiddio cymunedol.
e) A yw’r cynllunio’n ystyried cymhelliant, parodrwydd a gallu’r unigolyn ar brawf i ymgysylltu a chydymffurfio â’r ddedfryd?
Dylai lefel, patrwm a’r math o gyswllt â’r gwasanaeth prawf sy’n cael ei gynllunio fod yn briodol o fewn gofynion y ddedfryd, yn gymesur â’r achos, ac wedi’i osod ar lefel sy’n bodloni anghenion yr unigolyn ar brawf. Dylid cael cofnod penodol yn nodi pa gyswllt â’r gwasanaeth prawf fydd yn digwydd a phryd/ble. Dylai cyswllt â’r gwasanaeth prawf ddigwydd mewn man addas a diogel sy’n caniatáu preifatrwydd a rheoli achosion yn effeithiol.
Rydym yn cydnabod bod y Gwasanaeth Prawf yn gosod disgwyliadau ar gyfer pa mor aml y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf; mae arolygwyr yn ymwybodol o’r rhain ond byddant yn dal i wneud dyfarniadau ar sail a yw’r lefel benodol o gyswllt yn bodloni anghenion yr achos ac yn gyraeddadwy, yn hytrach nag a yw’n cydymffurfio â threfniadau gweithredol. Lle mae’r achos yn terfynu’n gynnar neu fod cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn debygol o gael ei atal, rydym yn disgwyl i’r cynllunio flaenoriaethu gwaith i’w wneud gan y Gwasanaeth Prawf cyn atal, ac i adlewyrchu gwasanaethau y gallai fod eu hangen y tu hwnt i’r pwynt atal.
Pan fydd trefniadau ar gyfer mathau hyblyg o gyswllt â’r gwasanaeth prawf, bydd arolygwyr yn defnyddio eu crebwyll ynghylch pa mor briodol yw trefniadau o’r fath.
f) A yw’r cynllunio’n creu cyfleoedd ar gyfer cyfranogiad gweithredol a chydgynhyrchu â’r unigolyn ar brawf?
Dylid cael tystiolaeth bod yr unigolyn ar brawf wedi cymryd rhan weithredol ac ystyrlon yn y gwaith o gynllunio gweithgarwch. Mae cynllun nad yw’r unigolyn ar brawf yn ei ddeall yn ddigonol, nad yw wedi cyfrannu ato, neu nad yw’n cytuno ag ef, yn llai tebygol o fod yn llwyddiannus.
Yn ystod y cynllunio, mae meithrin perthynas, gofyn cwestiynau agored, a sicrhau bod yr unigolyn ar brawf yn deall yn hanfodol. Mae’r pwyslais ar gyfranogiad ystyrlon, lle gall yr unigolyn ar brawf ddweud ei ddweud a rhoi ei farn am bob mater sy’n effeithio arno, gyda’i farn yn cael ei hystyried o ddifrif a’i pharchu’n briodol. Dylid helpu’r unigolyn ar brawf i fuddsoddi yn y broses gynllunio a chael llais yn y gwaith o ddatblygu cynlluniau.
Dylai cynllunio fod yn broses ddysgu sy’n galluogi’r unigolyn ar brawf i feddwl sut y byddai’n hoffi bod yn y dyfodol, a sut y gall ddatblygu ac ennill y sgiliau sydd eu hangen i gyflawni hyn.
Dylai’r iaith a ddefnyddir gydag unigolion ar brawf wrth ddatblygu gweithgarwch cynllunio fod yn gadarnhaol, yn ddifyr, yn ddi-stigma ac yn rymusol ac yn cyd-fynd â datblygiad a dealltwriaeth yr unigolyn ar brawf.
Ar ddiwedd y broses gynllunio, dylid cael cyd-ddealltwriaeth o ddisgwyliadau’r cynllun, gyda gweithgarwch ac ymyriadau wedi’u cynllunio yn cael eu nodi’n glir ac yn fanwl.
g) A oes cynllunio effeithiol ar gyfer darpariaeth gyda gwasanaethau eraill, gan gynnwys cynllunio ar gyfer gadael ac atgyfeiriad at wasanaethau prif ffrwd?
Dylai’r cynllunio nodi gwasanaethau a/neu weithgarwch a fydd yn helpu’r unigolyn ar brawf i ymgysylltu a sicrhau newid. Dylai fod yn glir beth y disgwylir i’r unigolyn ar brawf ei wneud, a phryd y mae wedi sicrhau’r canlyniad a ddymunir. Dylai’r cynllunio fod yn briodol i’r cam y mae’r unigolyn ar brawf arno yn y cylch newid.
Bydd arolygwyr yn disgwyl gweld dull gweithredu personol wrth ddewis ymyriadau i fynd i’r afael ag anghenion yr achos.
Gallai enghreifftiau o weithgareddau gynnwys:
- dyraniad i brosiect gwaith di-dâl penodol i wella sgiliau cyflogadwyedd
- rhaglenni sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â materion penodol fel rheolaeth emosiynol
- penodiadau gorfodadwy gyda sefydliad arbenigol i helpu i gyflawni canlyniadau penodol sy’n ymwneud ag anghenion tai neu ariannol
- gweithio gyda mentor – er enghraifft mynd i goleg, mynd i’r llyfrgell neu helpu i baratoi CV
- sesiynau strwythuredig gyda’r ymarferydd prawf, darparwr trydydd sector neu arbenigwr mewnol, i helpu i wella gallu unigolyn ar brawf i ddatrys problemau neu i gael gafael ar wasanaethau eraill a pharhau i ymgysylltu â nhw.
Dylai’r cynllunio bob amser ystyried gwaith asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r unigolyn ar brawf er mwyn cydlynu, cysoni ac ategu cynlluniau a darpariaeth yn well. Mae angen i’r cynllunio nodi llinellau cyfrifoldeb clir i’r gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â’r unigolyn ar brawf, gydag eglurder ynghylch pwy fydd yn gwneud beth a phryd. Dylai’r cynllunio ystyried sut bydd gwybodaeth yn cael ei rhannu a’i chasglu i sicrhau bod gan yr holl sefydliadau partner ddealltwriaeth gyfannol a rennir o’r unigolyn ar brawf.
Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl i’r cynllunio fod yn glir ynghylch y gwasanaethau a fydd yn cael eu darparu, ar gyfer y cyfnod goruchwylio gweithredol a throsglwyddo neu gynllun ymadael, er mwyn parhau i fynd i’r afael ag anghenion hanfodol yr unigolyn ar brawf (lle bo angen), sy’n gysylltiedig ag ymatal, ar ôl i’r oruchwyliaeth ddod i ben.
h) A yw’r cynllunio’n ymateb i newidiadau er mwyn sicrhau ymgysylltiad a chydymffurfedd parhaus?
Dylai’r cynllunio ymateb i newidiadau sydd wedi effeithio ar ymgysylltiad a chydymffurfedd parhaus, neu a allai effeithio ar hynny. Dylid addasu cynlluniau yn unol â hynny i gefnogi trefniadau effeithiol i gynnal ymgysylltiad a chydymffurfedd.
Er mwyn sicrhau bod y cynllunio’n dal i fod yn gyfredol ac yn berthnasol, dylai’r ymarferydd prawf ystyried unrhyw newidiadau yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf a’i amgylchedd teuluol a chymdeithasol ehangach, ei gryfderau, a’i ffactorau amddiffynnol a strwythurol. Er enghraifft, pe bai’r unigolyn ar brawf yn colli cyflogaeth neu’n gadael addysg/hyfforddiant, yn dod yn ddigartref, neu’n dechrau neu ailddechrau defnyddio sylweddau, byddai angen i’r cynllunio ddangos ymateb i’r newidiadau hyn a hynny’n brydlon. Lle bo’n briodol, dylai ymarferwyr prawf gael gwybodaeth gan bobl eraill sy’n gweithio gyda’r unigolyn ar brawf i sicrhau bod dealltwriaeth gyfredol a rennir o’r unigolyn ar brawf, i lywio’r cynllunio.
Dylid adolygu’r cynllunio’n barhaus i wneud yn siŵr bod ymyriadau’n dal yn briodol a bod gwasanaethau’n hybu ymgysylltiad a chydymffurfedd. Wrth adolygu’r cynllunio, dylid nodi beth sydd wedi bod yn effeithiol a beth sydd wedi cael ei gyflawni, yn ogystal â gwaith sy’n dal heb ei wneud neu y mae angen ei ailystyried neu ei ailgynllunio. Dylid datrys unrhyw broblemau gyda darparu gwasanaethau a gynlluniwyd ar unwaith, ac ni ddylent aros am adolygiad ysgrifenedig, ffurfiol. Mae angen i’r cynllunio fod yn hyblyg er mwyn cynnal dull gweithredu personol, wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn ar brawf.
Nid ydym bob amser yn gorfod gweld adolygiad ysgrifenedig ffurfiol o gynllun, ond rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth sy’n dangos bod y cynllunio wedi ymateb yn briodol i newid. Gall tystiolaeth ddod o adolygiadau ysgrifenedig, cofnodion achos parhaus, nodiadau o banel neu gyfarfod risg, neu drafodaeth gyda’r rheolwr achos.
Dyfarniad cryno: A yw’r cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i sicrhau newid?
Bydd arolygwyr yn barnu a yw ansawdd cyffredinol y cynllunio yn ddigon i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid. Dylai hyn fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf a natur y ddedfryd, a dylai fod yn ddigon personol, gan flaenoriaethu’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid ar ei gyfer.
Bydd arolygwyr yn barnu a yw’r cynllunio cyffredinol wedi ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf ac yn nodi sut i sicrhau newid. Dylai’r cynllunio fod yn brydlon, yn cydnabod ac yn dadansoddi anghenion amrywiol unigolyn ar brawf, a bod yn gymesur â’r anghenion hyn. Dylai llais yr unigolyn ar brawf fod yn amlwg drwy gydol y broses, ac rydym yn disgwyl i’r cynllunio ddangos bod yr ymarferydd prawf yn deall yr unigolyn ar brawf yng nghyd-destun ei fywyd.
Mae angen i arolygwyr ystyried eu hatebion i’r holl gwestiynau yn yr adran hon a phenderfynu a yw’r cryfderau’n gorbwyso unrhyw ddiffygion. Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond rydym eisiau cynllunio digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n ymwneud ag ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid ar ei gyfer. Os oes bylchau yn y cynllunio, bydd arolygwyr yn ystyried eu heffaith yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf. Mewn rhai amgylchiadau, gall hepgoriad penodol fod yn ddigon i arwain at ddyfarniad annigonol. Er enghraifft, efallai y bernir bod cynllunio a fethodd ystyried anabledd dysgu unigolyn ar brawf yn annigonol, hyd yn oed os oedd yn cynnwys yr holl ffactorau eraill a oedd yn berthnasol i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid ar ei gyfer.
Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl gweld cynllunio digonol ar gyfer y cyfnod goruchwylio gweithredol a chynllunio ar gyfer trosglwyddo clir i asiantaethau eraill ar yr adeg y caiff goruchwyliaeth ei hatal (lle bo angen).
2.2.2 A yw’r cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i gadw pobl yn ddiogel?
Cofiwch: Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed fod yn destun cynllunio, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Felly, bydd rhai achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg isel o niwed difrifol yn galw am gynllunio i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â niwed.
a) A yw’r cynllunio’n nodi’r hyn sydd ei angen i gadw pobl eraill yn ddiogel, gan fynd i’r afael â risgiau a blaenoriaethu’r rhai sydd fwyaf hanfodol?
Dylai’r cynllunio nodi gweithgareddau ac ymyriadau sy’n lleihau unrhyw risg adnabyddadwy o niwed i eraill (nid risg o niwed difrifol yn unig), a mynd i’r afael â’r holl ffactorau sy’n berthnasol i gadw pobl eraill yn ddiogel. Dylai’r unigolyn ar brawf fod yn rhan o’r cynllunio i fynd i’r afael â diogelwch pobl eraill.
Dylai’r cynllunio nodi’r gweithgarwch, y gwasanaethau a’r ymyriadau sy’n cryfhau’r ffactorau amddiffynnol presennol ar gyfer cadw pobl eraill yn ddiogel, hyrwyddo’r cymorth a’r ymyriadau presennol a/neu’r dulliau rheoli allanol sydd ar waith, a nodi unrhyw ddulliau rheoli a/neu ymyriadau newydd sydd eu hangen. Dylai’r cynllunio nodi pwy sydd i gwblhau’r gweithgareddau, a sut mae’r unigolyn ar brawf yn gwybod pan fydd y canlyniad wedi’i gyflawni. Dylai roi sylw i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i gadw pobl eraill yn ddiogel, ni waeth a gawsant eu nodi yn y cam asesu ai peidio.
Dylai’r cynllunio flaenoriaethu’r ffactorau mwyaf critigol, sef y rhai sydd â’r cysylltiad cryfaf â’r tebygolrwydd o niwed yn cael ei achosi. Dylai hefyd ystyried pa gamau y mae angen eu cymryd os bydd y ffactorau hyn yn newid a bod y risg i eraill yn cynyddu neu’n lleihau.
Dylai’r cynllunio fod yn gymesur â natur y ddedfryd, a lefel a natur y risg o niwed. Mewn achosion a fydd yn terfynu’n gynnar neu ragwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer y cyfnod goruchwylio gweithredol a hefyd trefniadau clir ynghylch sut bydd y ffactorau risg o niwed yn cael eu holrhain gan asiantaethau eraill, ar ôl i’r oruchwyliaeth ddod i ben neu gael ei hatal.
b) A yw’r cynllunio’n rhoi sylw i’r amserlenni sydd ar gael, gan gydlynu â chynllunio unrhyw asiantaethau eraill a’r angen am ddilyniant?
Dylai’r cynllunio adlewyrchu’r ffactorau perthnasol yn yr achos, a dylai fod yn gymesur â natur y ddedfryd. Dylai’r cynllunio fod yn realistig ynghylch yr hyn y gellir ei gyflawni o fewn yr amserlenni sydd ar gael, gan gydnabod efallai na fydd yn bosib gweithio ar yr holl anghenion risg o niwed a nodwyd gan yr unigolyn ar brawf o fewn yr amserlenni sydd ar gael. Dylai’r cynllunio wedyn ystyried beth arall sydd ei angen i gefnogi’r unigolyn ar brawf a bodloni’r anghenion hyn yn y tymor hirach. Dylai’r cynllunio sicrhau bod asiantaethau eraill yn cael eu cynnwys yn barhaus a bod atgyfeiriadau priodol yn cael eu gwneud fel rhan o’r cynllunio ar gyfer ymadael, lle bo angen. Dylai cynlluniau ymadael ystyried sut gellir cynnal cynnydd, yn ogystal â nodi pa waith parhaus y gallai fod ei angen a phwy fydd yn ei wneud.
Os yw’r asesu wedi methu nodi ffactorau ar gyfer sut mae cadw pobl yn ddiogel, dylai’r cynllunio fynd i’r afael â nhw o hyd. Dylai fod tystiolaeth o drefnu a blaenoriaethu gwaith. Lle nad yw hyn wedi digwydd, dylid cael esboniad clir, fel yr angen am waith cychwynnol i reoli’r risgiau uniongyrchol o niwed i bobl eraill.
Mewn achosion ar ôl rhyddhau, dylai cynllunio cychwynnol tra bo’r unigolyn ar brawf yn dal yn y ddalfa roi blaenoriaeth i ffactorau ailsefydlu hollbwysig, ond dylai hefyd nodi cynllunio tymor hirach i gyfrannu at ddiogelwch cymunedol ar ôl rhyddhau. Dylid integreiddio’r cynllunio ag unrhyw gynlluniau eraill sy’n ymwneud â’r unigolyn ar brawf, fel cydweithio â’r heddlu mewn achosion lle mae unigolion ar brawf wedi’u cael yn euog o droseddau rhywiol.
Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl i’r cynllunio ar gyfer y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a throsglwyddo neu gynllun ymadael ddarparu ymyriadau ymlaen llaw yn ystod y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth. Rydym hefyd yn disgwyl gweld cynllunio realistig ar gyfer gwasanaethau y gellir cael gafael arnynt ar ôl terfynu’n gynnar neu oruchwyliaeth yn cael ei hatal.
c) A yw’r cynllunio’n nodi’r ymyriadau adeiladol a/neu gyfyngol angenrheidiol i reoli’r risg o niwed?
Yn dibynnu ar lefel a natur y risg o niwed gan yr unigolyn ar brawf, nid yw’r holl elfennau hyn yn angenrheidiol ym mhob achos.
Gall cynllunio ar gyfer ymyriadau adeiladol gynnwys:
- goruchwyliaeth fel rhan o’r gorchymyn neu’r drwydded, a goruchwyliaeth y gall sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda’r unigolyn ar brawf ei chynnig
- ymyriadau penodol â ffocws, gan gynnwys rhaglenni achrededig neu ymyriadau un-i-un sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed
- cynllunio sy’n ystyriol o drawma, lle bo angen.
- Gall cynllunio ar gyfer ymyriadau cyfyngol gynnwys:
- mesurau rheoli fel cyrffyw neu lety mewn adeilad cymeradwy, sy’n ceisio cyfyngu ar allu’r unigolyn ar brawf i achosi niwed
- dod o hyd i leoliad gwaith di-dâl priodol i osgoi cyswllt â dioddefwyr posib
- monitro gweithgareddau gan yr ymarferydd prawf, yr heddlu neu eraill, i sicrhau cydymffurfedd a nodi newidiadau mewn ffactorau risg
- cynllunio i gadw dioddefwyr gwirioneddol a phosib yn ddiogel, gan gynnwys amodau trwydded penodol a rhannu gwybodaeth.
Byddwn yn barnu a ddefnyddiwyd pob ymyriad adeiladol a chyfyngol rhesymol, yn dibynnu ar anghenion yr achos. Mewn rhai achosion, efallai mai ychydig iawn o ymyriadau cyfyngol fydd eu hangen, os o gwbl. Dylai pob achos lle mae ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed gael o leiaf rhai ymyriadau adeiladol.
Mewn achosion a fydd yn terfynu’n gynnar neu ragwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl gweld cynllunio ar gyfer y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a chynllunio ar gyfer rhannu gwybodaeth yn glir pan fydd goruchwyliaeth yn cael ei hatal, lle na fydd y Gwasanaeth Prawf yn darparu ymyriadau mwyach.
d) A yw’r cynllunio’n gwneud cysylltiadau priodol â gwaith asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r unigolyn ar brawf i reoli’r risg o niwed ac unrhyw gynlluniau amlasiantaeth?
Dylai cynnwys a rhesymeg cynlluniau asiantaethau eraill fod yn hysbys i’r ymarferydd prawf. Dylai copïau o’r cynlluniau fod ar gael yng nghofnod yr achos. Dylid integreiddio rhwng gwahanol gynlluniau, a dylent gefnogi ei gilydd.
Pan fydd mwy nag un asiantaeth yn ymwneud â’r unigolyn ar brawf, dylai’r cynllunio fod yn glir ynghylch pa asiantaeth fydd yn arwain ar bob gweithgarwch, sut y bydd gweithgarwch yn cael ei gydlynu, a sut y bydd asiantaethau’n cyfathrebu â’i gilydd i sicrhau bod y gwaith gyda’r unigolyn ar brawf yn gydlynol. Os yw’r unigolyn ar brawf yn destun cynlluniau sy’n cael eu rheoli gan asiantaethau eraill, fel cynlluniau amddiffyn plant neu MAPPA, dylai cynllunio’r gwasanaeth prawf gael ei gydlynu â’r cynlluniau hyn a chyfeirio atynt er mwyn sicrhau bod y gwaith yn gydlynol ac yn gydgysylltiedig. Dylai cynlluniau fod yn integredig a dylent gefnogi ei gilydd.
Pan fydd achos yn cael ei asesu fel risg uchel/uchel iawn o niwed, a bod angen rheoli risg amlasiantaeth sylweddol, mae’n hanfodol bod cynlluniau fel y rhai yn nodiadau MAPPA ac mewn cofnodion diogelu plant yn cyd-fynd â’i gilydd, a’u bod yn cyfeirio’n glir at ei gilydd, er mwyn hwyluso cydweithio a sicrhau bod modd cymryd camau brys yn ddiogel os oes angen.
Mewn achosion a fydd yn terfynu’n gynnar neu ragwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl gweld cynllunio ar gyfer y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a chynllunio ar gyfer rhannu gwybodaeth yn glir pan fydd goruchwyliaeth yn cael ei hatal, lle na fydd y Gwasanaeth Prawf yn darparu ymyriadau mwyach.
e) A yw’r cynllunio’n mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a phryderon penodol sy’n gysylltiedig â dioddefwyr gwirioneddol a phosib?
Dim ond os oes dioddefwyr gwirioneddol neu ddioddefwyr posib y gellir eu hadnabod y mae’r cwestiwn hwn yn berthnasol.
Bydd archwilwyr yn chwilio am waith cynllunio sy’n mynd i’r afael ag unrhyw risgiau a phryderon penodol sy’n gysylltiedig â dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posib. Rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir i gadw dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posib yn ddiogel. Dylai ymarferwyr prawf gael dealltwriaeth glir o’r effaith y mae troseddau wedi’i chael ar ddioddefwyr a dylent fod wedi defnyddio’r holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael i gael y ddealltwriaeth hon. Dylai’r cynllunio ganolbwyntio ar nodi gweithgarwch priodol i leihau’r risg i ddioddefwyr posib neu ddioddefwyr y gellir eu hadnabod a lleihau’r tebygolrwydd y bydd dioddefwyr yn dioddef eto neu ragor o droseddu yn eu herbyn. Gallai hyn fod drwy ofynion ffurfiol fel gweithgarwch cyfyngedig, ardaloedd dan waharddiad, amodau, gorchmynion atal, neu weithgarwch anffurfiol sy’n cefnogi diogelwch dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posib.
Dylid cyfathrebu’n glir ac yn rheolaidd â’r sawl sy’n gweithio gyda dioddefwr neu unrhyw berson sy’n gwneud gwaith perthnasol, er mwyn sicrhau bod barn dioddefwyr am eu diogelwch yn hysbys ac yn cael ei hystyried. Dylai’r cynllunio nodi camau gweithredu ac ymyriadau i fynd i’r afael â risgiau i ddioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posib. Dylai gynnwys beth sydd angen ei wneud, pwy sydd angen ei wneud a phryd y dylai pryderon a risgiau gynyddu.
f) A yw’r cynllunio’n ymateb i newid, gan gynnal trefniadau effeithiol sy’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol?
Dylai’r cynllunio ymateb i newidiadau sydd wedi effeithio ar gadw pobl yn ddiogel, neu a allai effeithio ar hynny. Dylid addasu cynlluniau yn unol â hynny i gefnogi trefniadau effeithiol i gadw pobl yn ddiogel.
Er mwyn sicrhau bod y cynllunio’n dal i fod yn gyfredol ac yn berthnasol, dylai’r ymarferydd prawf ystyried unrhyw newidiadau yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf a’i amgylchedd teuluol a chymdeithasol ehangach, ei gryfderau, a’i ffactorau amddiffynnol a strwythurol. Er enghraifft, pe bai’r unigolyn ar brawf yn dechrau perthynas newydd neu’n dechrau neu ailddechrau defnyddio sylweddau, byddai angen i’r cynllunio ddangos ymateb i’r newidiadau hyn a hynny’n brydlon. Lle bo’n briodol, dylai ymarferwyr prawf gael gwybodaeth gan bobl eraill sy’n gweithio gyda’r unigolyn ar brawf i sicrhau bod dealltwriaeth gyfredol a rennir o’r unigolyn ar brawf, i lywio’r cynllunio sy’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol.
Dylid adolygu’r cynllunio’n barhaus i wneud yn siŵr bod ymyriadau’n dal yn briodol a bod gwasanaethau’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol. Dylai adolygiadau o’r cynllunio nodi beth sydd wedi bod yn effeithiol a beth sydd wedi cael ei gyflawni, yn ogystal â gwaith sy’n dal heb ei wneud neu y mae angen ei ailystyried neu ei ailgynllunio. Dylid datrys unrhyw broblemau gyda darparu gwasanaethau a gynlluniwyd ar unwaith, ac ni ddylent aros am adolygiad ysgrifenedig, ffurfiol. Mae angen i’r cynllunio fod yn hyblyg er mwyn cynnal dull gweithredu personol, wedi’i deilwra ar gyfer yr unigolyn ar brawf.
Nid ydym o reidrwydd yn disgwyl gweld adolygiad ysgrifenedig ffurfiol o gynllun, ond rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth sy’n dangos bod cynllunio wedi ymateb yn briodol i newid. Gall tystiolaeth ddod o adolygiadau ysgrifenedig, cofnodion achos parhaus, nodiadau o banel neu gyfarfod risg, neu drafodaeth gyda’r rheolwr achos.
g) A yw’r cynllunio’n hybu diogelwch yr unigolyn ar brawf fel sylfeini ar gyfer newid?
Gall amrywiaeth o ffactorau cadarnhaol a negyddol ddylanwadu ar ddiogelwch unigolyn ar brawf. Dylai ymarferwyr prawf ystyried yr holl ffactorau perthnasol yn y gweithgarwch cynllunio, a chydnabod y berthynas gymhleth rhyngddynt. Dylai’r cynllunio ar gyfer diogelwch unigolyn ar brawf gynnwys gwaith i’w wneud yn uniongyrchol gyda’r unigolyn ar brawf, a gwaith i’w wneud gan y gwasanaeth prawf, o bosib ar sail amlasiantaeth neu bartneriaeth.
Dylai’r cynllunio nodi gweithgareddau, gwasanaethau ac ymyriadau sy’n cefnogi diogelwch yr unigolyn ar brawf. Dylai’r cynllunio gynnwys yn glir barn yr unigolyn ar brawf am ei ddiogelwch, a’r hyn sydd ei angen o’i safbwynt ef er mwyn bod yn ddiogel. Dylai’r unigolyn ar brawf fod yn rhan o’r gwaith o ddatblygu cynlluniau diogelwch mewn ffordd gydweithredol, yn hytrach na chynllunio’n cael ei ‘wneud i’r’ unigolyn ar brawf.
Dylai’r cynllunio hefyd hybu unrhyw fesurau rheoli ac ymyriadau sydd eisoes ar gael, cefnogaeth fewnol a/neu allanol ac ymyriadau sy’n angenrheidiol i hybu diogelwch yr unigolyn ar brawf. Dylai’r cynllunio nodi’n glir sut y bydd y rhain yn cael eu monitro.
h) A yw’r cynllunio’n cynnwys camau perthnasol i’w cymryd ar y cyd ag asiantaethau eraill i gadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel?
Dylai ymarferwyr prawf ymgorffori gwybodaeth am ddiogelwch yr unigolyn ar brawf gan asiantaethau eraill perthnasol a defnyddio hyn yn briodol fel rhan o’u gweithgarwch cynllunio. Mae asiantaethau eraill yn gallu dal gwybodaeth amhrisiadwy am yr unigolyn ar brawf ac am gyd-destun ei fywyd. Dylai asiantaethau eraill gael cyfle i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gynllunio diogelwch, ac mewn ymyriadau ac adolygiadau, a chael cynnig ffyrdd o gyfrannu fel partneriaid yn y gwaith sy’n cael ei wneud.
Os oes gan yr unigolyn ar brawf anghenion cymhleth, dylai’r cynllunio gydnabod y gall fod angen cymorth hirdymor helaeth arno ar lefel yr unigolyn, y teulu a’r gymuned. Dylai’r ymarferydd prawf ystyried sut bydd hyn yn cael ei hwyluso, ei gydlynu a’i barhau ar ôl i’r cyswllt ddod i ben.
Ar gyfer unigolyn ar brawf sydd â phrofiad o ofal, dylid cynnwys barn gweithiwr cymdeithasol perthnasol ac unrhyw weithiwr proffesiynol arall sy’n gweithio gyda’r unigolyn ar brawf yn y cynllunio hefyd. Gallai fod yn berson proffesiynol fel gweithiwr cymorth, aelod o’r teulu estynedig neu ffrind i’r teulu.
i) A yw’r cynllunio’n ymateb i newid, gan gynnal trefniadau effeithiol i gadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel?
Dylai’r cynllunio ymateb i newidiadau sydd wedi effeithio ar ddiogelwch unigolyn ar brawf, neu a allai effeithio ar hynny.
Er mwyn sicrhau bod y cynllunio’n gyfredol ac yn berthnasol, dylai’r ymarferydd prawf ystyried unrhyw newidiadau yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf a’i amgylchedd teuluol a chymdeithasol ehangach, ei gryfderau, a’i ffactorau amddiffynnol a strwythurol. Mae bod yn ymatebol i newid yn golygu y gall cynllunio newid yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn ar brawf. Er enghraifft, pe bai’r unigolyn ar brawf yn dod yn ddigartref neu’n dechrau neu ailddechrau defnyddio sylweddau, byddai angen i’r cynllunio ddangos ymateb i’r newidiadau hyn a hynny’n brydlon. Lle bo’n briodol, dylai ymarferwyr prawf gael gwybodaeth gan bobl eraill sy’n gweithio gyda’r unigolyn ar brawf i sicrhau bod dealltwriaeth gyfredol a rennir o’r unigolyn ar brawf, i lywio’r cynllunio i’w cadw’n ddiogel.
Nid ydym bob amser yn gorfod gweld adolygiad ysgrifenedig ffurfiol o gynllun, ond rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth sy’n dangos bod y cynllunio wedi ymateb yn briodol i newid. Gall tystiolaeth ddod o adolygiadau ysgrifenedig, cofnodion achos parhaus, nodiadau o banel neu gyfarfod risg, neu drafodaeth gyda’r ymarferydd prawf.
Dyfarniad cryno: A yw’r cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn bersonol ac yn ymgysylltu, gan ganolbwyntio ar sut i gadw pobl yn ddiogel?
Mae dwy elfen i ‘gadw pobl yn ddiogel’ – un yw cyfrannu at ddiogelwch cymunedol a’r llall yw diogelwch yr unigolyn ar brawf.
Bydd arolygwyr yn barnu a yw ansawdd cyffredinol y cynllunio yn ddigon i gadw pobl yn ddiogel. Dylai hyn fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf a natur y ddedfryd, a dylai fod yn ddigon personol, gan flaenoriaethu’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig â diogelwch cymunedol a diogelwch yr unigolyn ar brawf.
Bydd arolygwyr yn barnu a yw’r cynllunio cyffredinol wedi canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl yn ddiogel. Dylai’r cynllunio gydnabod a dadansoddi anghenion amrywiol unigolyn ar brawf mewn cysylltiad â chadw pobl yn ddiogel. Dylai’r cynllunio fod yn brydlon ac yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf. Dylai cynllunio parhaus fod yn ddeinamig, yn ymatebol ac yn amserol. Dylai llais yr unigolyn ar brawf fod yn amlwg drwy gydol y broses, ac rydym yn disgwyl i’r cynllunio ddangos bod yr ymarferydd prawf yn deall yr unigolyn ar brawf yng nghyd-destun ei fywyd.
Mae angen i arolygwyr ystyried eu hatebion i’r holl gwestiynau yn yr adran hon a phenderfynu a yw’r cryfderau’n gorbwyso unrhyw ddiffygion. Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond rydym eisiau cynllunio digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n cyfrannu at ddiogelwch cymunedol a hybu diogelwch yr unigolyn ar brawf. Os oes bylchau yn y cynllunio, bydd arolygwyr yn ystyried eu heffaith yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf. Mewn rhai amgylchiadau, gall hepgoriad penodol fod yn ddigon i arwain at ddyfarniad annigonol. Er enghraifft, efallai y bernir bod cynllunio a fethodd ystyried anabledd dysgu unigolyn ar brawf yn annigonol, hyd yn oed os oedd yn cynnwys yr holl ffactorau eraill a oedd yn berthnasol i gadw pobl yn ddiogel.
Mewn achosion a fydd yn terfynu’n gynnar neu ragwelir y bydd cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal, rydym yn disgwyl gweld cynllunio digonol ar gyfer y cyfnod goruchwylio gweithredol a chynllunio ar gyfer trosglwyddo clir i asiantaethau eraill ar yr adeg y caiff yr achos ei derfynu neu’r oruchwyliaeth ei hatal.
Gwybodaeth am ddarparu (Back to top)
Gofynnir y cwestiynau yn yr adran hon i gasglu tystiolaeth sy’n caniatáu i’r arolygydd arweiniol weld themâu sy’n ymwneud â darparu ar gyfer sicrhau newid a chadw pobl yn ddiogel o’r achosion sy’n cael eu harolygu.
Nid ydynt yn cael effaith uniongyrchol ar y dyfarniad cryno ar gyfer asesu.
Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i waith gael ei wneud i fynd i’r afael â’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Felly, bydd rhai achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg isel o niwed difrifol yn galw am waith i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â niwed.
2.5.15 A oedd gwaith amlasiantaeth effeithiol, gan gynnwys rhannu gwybodaeth, mewn perthynas â diogelu plant?
Mae achosion lle mae cynllun amddiffyn plant gweithredol yn cael eu heithrio o atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf. Mewn achosion eraill lle mae pryderon gweithredol ar hyn o bryd ynghylch diogelu plant, rydym yn disgwyl gweld ymarferwyr prawf yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos, hyd at yr adeg y caiff yr achos ei derfynu’n gynnar neu’r oruchwyliaeth ei hatal. Mae hyn yn berthnasol mewn achosion lle mae pryderon am blant yn codi gan yr unigolyn ar brawf, a phan fydd plant sydd mewn cysylltiad â’r unigolyn ar brawf mewn perygl oddi wrth eraill. Rydym yn disgwyl gweld gwybodaeth yn cael ei rhannu, o ran adroddiadau ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd amlasiantaeth, a diweddariadau anffurfiol i asiantaethau eraill, fel gofal cymdeithasol plant, am newidiadau yn yr achos.
2.5.16 A oedd gwaith amlasiantaeth effeithiol, gan gynnwys rhannu gwybodaeth, mewn perthynas â cham-drin domestig?
Mewn achosion lle mae pryderon ar hyn o bryd am gam-drin domestig, p’un ai’r sawl ar brawf yw’r cyflawnwr, y dioddefwr, neu’r ddau, rydym yn disgwyl gweld ymarferwyr prawf yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos, hyd at yr adeg y caiff yr achos ei derfynu’n gynnar neu’r oruchwyliaeth ei hatal. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth yn cael ei rhannu, o ran adroddiadau ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd amlasiantaeth, fel cynadleddau asesu risg amlasiantaeth (MARAC), a diweddariadau anffurfiol i asiantaethau eraill, fel yr heddlu a gweithwyr cam-drin domestig, am newidiadau yn yr achos.
Cyn atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol.
Dylai’r Gwasanaeth Prawf fonitro’n weithredol unrhyw wybodaeth a dderbynnir mewn perthynas â cham-drin domestig, gan gynnwys gwybodaeth am gyfeiriadau newydd neu bartneriaid newydd, ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal; dylid ymchwilio i wybodaeth newydd a ddaw i law a’i rhannu ag asiantaethau perthnasol eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau ymateb parhaus i’r posibilrwydd o gam-drin domestig yn ystod y cyfnod atal. Gallai hyn gynnwys atgyfeirio at wasanaethau cam-drin domestig penodol.
Dylai’r Gwasanaeth Prawf hefyd ymateb i unrhyw geisiadau am rannu gwybodaeth gan asiantaethau eraill y gellir eu derbyn ar ôl i’r cyswllt â’r gwasanaeth gael ei atal. Dylai hynny gynnwys parhau i fod yn bresennol yn MARAC mewn achosion perthnasol.
2.5.18 Mewn achosion MAPPA, a oes tystiolaeth o oruchwyliaeth amlasiantaeth gydlynol, gan gynnwys cydweithio â’r heddlu?
Ym mhob achos MAPPA, beth bynnag fo’r categori a’r lefel, rydym yn disgwyl gweld dull gweithredu amlasiantaeth cydlynol. Rydym yn disgwyl gweld cydweithio â’r heddlu, yn enwedig mewn achosion lle mae’r unigolyn ar brawf wedi cyflawni troseddau rhywiol. Ym mhob achos MAPPA, rydym yn disgwyl gweld goruchwyliaeth glir gan reolwyr ar waith yr ymarferydd prawf.
Pan fydd unigolyn ar brawf yn cael ei asesu fel risg ganolig o niwed i blant neu uwch, ond nad oes unrhyw bryderon gweithredol (nid oes ganddo blant ei hun ac nid yw’n hysbys ei fod mewn cysylltiad ag unrhyw blant) yna efallai na fydd angen rhagor o gyswllt amlasiantaeth, y tu hwnt i ymholiadau cychwynnol i gadarnhau hyn, nac ymholiadau ychwanegol i gadarnhau nad oes unrhyw newidiadau. Yn y sefyllfa hon, bydd arolygwyr yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol. Dylai’r Gwasanaeth Prawf fonitro’n weithredol unrhyw wybodaeth a dderbynnir mewn perthynas â diogelu plant ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal; dylid ymchwilio i wybodaeth newydd a ddaw i law a’i rhannu ag asiantaethau perthnasol eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau bod plant yn parhau i gael eu diogelu yn ystod y cyfnod atal.
2.3.1 A yw gwasanaethau personol, cydlynol a difyr yn cael eu darparu i sicrhau newid?
Cofiwch: Mae darparu yn cynnwys apwyntiadau goruchwylio ac ymyriadau.
Darparu (Back to top)
Darparu
Mae ‘darparu’ yn cyfeirio at ddarparu ymyriad, yn hytrach na darparu canlyniad. Mae hyn yn golygu, lle bu diffyg cydymffurfio, y gall darparu fod yn ddigonol hyd yn oed os nad yw’r canlyniad a fwriadwyd wedi’i gyflawni oherwydd y diffyg cydymffurfio hwnnw.
Terfynu’n gynnar ac achosion lle mae cyswllt wedi’i atal
Mae rhai achosion yn cael eu terfynu’n gynnar neu mae cyswllt y gwasanaeth prawf â’r unigolyn ar brawf yn cael ei atal cyn diwedd y gorchymyn neu’r drwydded. Yn yr achosion hyn, rydym yn disgwyl gweld rhywfaint o ddarpariaeth gan y Gwasanaeth Prawf yn ystod y cyfnod o gyswllt gweithredol â’r gwasanaeth; ym mhob achos rydym yn disgwyl tystiolaeth o ddarparu drwy atgyfeirio ymlaen ac adeiladu cynlluniau ymadael ar gyfer yr unigolyn ar brawf. Nid ydym yn arolygu’r ddarpariaeth gan asiantaethau eraill y tu hwnt i’r pwynt lle mae cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal neu fod achos yn cael ei derfynu. Mewn achosion a fydd yn terfynu’n gynnar neu fod cyswllt yn cael ei atal, rydym yn disgwyl gweld darpariaeth ymlaen llaw i fodloni anghenion yr unigolyn ar brawf yn ystod y cyfnod o gyswllt â’r gwasanaeth prawf cyn atal.
a) A yw’r gwasanaethau cywir yn cael eu darparu i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid?
Mae cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cynnwys apwyntiadau goruchwylio ac ymyriadau. Wrth ystyried ansawdd y cyswllt â’r gwasanaeth prawf, rydym yn cynnwys natur y cyswllt a lefel (maint) y cyswllt hwnnw. Dylai’r ddwy elfen fod yn gydnaws ag ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid.
Bydd arolygwyr yn ystyried natur, hyd a gofynion y gorchymyn neu oruchwyliaeth ar ôl rhyddhau. Mewn achosion a fydd yn terfynu’n gynnar neu lle bydd goruchwyliaeth yn cael ei hatal, rydym yn disgwyl gweld darpariaeth ymlaen llaw yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Dylid cyfeirio’n brydlon at wasanaethau sy’n gallu bodloni angen parhaus ar ôl i’r oruchwyliaeth ddod i ben, lle bo hynny’n berthnasol.
Yn ogystal â sicrhau bod ymyriadau penodol yn cael eu darparu, mae gan yr ymarferydd prawf weithgareddau rheoli troseddwyr ychwanegol, gan gynnwys annog cymhelliant, hybu a chynnal gobaith, a goruchwylio cyfeiriad cyffredinol a threfn gweithgareddau. Dylid cynnig apwyntiadau goruchwylio ar sail anghenion ac efallai y bydd trafodaethau distrwythur eraill hefyd rhwng yr ymarferydd neu eraill a’r unigolyn ar brawf, i’w helpu i fynd i’r afael â’i anghenion a nodwyd.
Pan fydd unigolyn ar brawf yn cael ei fonitro’n electronig, dylid defnyddio hyn fel rhan o’r dull o sicrhau newid, lle bo hynny’n berthnasol. Pan fydd unigolyn ar brawf yn cymryd rhan mewn rhaglen achrededig, dylai darpariaeth effeithiol gynnwys apwyntiadau rheolaidd gyda’r ymarferydd prawf tra bo’r rhaglen neu waith arall yn cael ei wneud. Lle roedd ansawdd y cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn annigonol, bydd arolygwyr yn nodi a oedd hynny oherwydd natur y cyswllt a lefel (maint) y cyswllt hwnnw, neu oherwydd diffyg cydymffurfio.
b) A yw’r darparu’n ystyried cryfderau a ffactorau amddiffynnol yr unigolyn ar brawf, ac yn ceisio atgyfnerthu neu ddatblygu’r rhain er mwyn meithrin gwydnwch?
Fel rhan o ddull personol, dylai’r ymarferydd prawf ystyried profiad bywyd yr unigolyn ar brawf, gan gynnwys ei gyd-destun teuluol, amgylcheddol a chymdeithasol. Dylai cynnwys y ddarpariaeth, yr ymyriadau a’r gweithgarwch fod yn berthnasol i fywyd yr unigolyn ar brawf. Dylai’r tasgau a gweithgarwch fod yn bethau y mae’r unigolyn ar brawf yn gallu eu cyflawni. Dylai’r darparu fod yn briodol i’r cam y mae’r unigolyn ar brawf arno yn y cylch newid.
Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ymgysylltu ag unigolion allweddol ym mywyd yr unigolyn ar brawf lle bo hynny’n briodol, i gefnogi ymgysylltiad a sicrhau newid. O ystyried y dystiolaeth o’r rôl ganolog mae partneriaid a rhai aelodau o’r teulu yn gallu ei chwarae, dylai staff y gwasanaeth prawf ystyried sut i gefnogi a chynnal y perthnasoedd hanfodol hyn, lle gellir gwneud hynny’n ddiogel. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gan weithwyr proffesiynol eraill rôl allweddol ym mywyd yr unigolyn ar brawf.
Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal, rydym yn disgwyl darpariaeth yn ystod unrhyw gyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a throsglwyddo neu gynllun ymadael i gefnogi ymgysylltiad â darpariaeth uniongyrchol gan y Gwasanaeth Prawf, a gan wasanaethau eraill ar ôl i gyswllt gael ei atal. Pan fydd amodau neu ofynion parhaus, fel profi am gyffuriau neu raglenni achrededig, rydym yn disgwyl i ddarparwyr fod yn eglur ynghylch cyfathrebu parhaus am gydymffurfio. Yn ystod y cyfnod o atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf, rydym yn dal i ddisgwyl gweld ymateb i wybodaeth newydd neu bryderon a godir gan eraill sy’n gweithio gyda’r unigolyn ar brawf.
c) A yw’r gwasanaethau a ddarperir yn mynd i’r afael â holl ffactorau amrywiaeth yr unigolyn ar brawf, gan eu gwneud y mwyaf tebygol o ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid?
Dylai’r darparu ystyried yr holl ffactorau amrywiaeth sy’n berthnasol i’r unigolyn ar brawf. Mae hyn yn cynnwys anghenion sy’n gysylltiedig â thegwch, amrywiaeth a chynhwysiant.
Rydym yn cydnabod y naw nodwedd warchodedig (rhyw, oedran, hil, crefydd a chred, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth, hunaniaeth rywiol, ailbennu rhywedd a phriodas neu bartneriaeth sifil) ac yn disgwyl gweld darpariaeth sy’n cydnabod ac yn ystyried effaith pob un o’r rhain ar gyfer yr unigolyn ar brawf.
Er enghraifft, dylai’r darparu:
- ystyried hil neu gefndir ethnig yr unigolyn ar brawf yn benodol yng nghyd-destun ei gymuned a’r effaith y gallai hyn ei chael ar yr unigolyn ar brawf
- nodi’n glir sut bydd unrhyw anableddau, anawsterau dysgu ac anghenion iechyd meddwl neu niwroamrywiaeth yn cael eu bodloni a’u hystyried
- ystyried sut y gall anghenion lleferydd, iaith neu gyfathrebu’r unigolyn ar brawf effeithio ar ei ddealltwriaeth a’i ymgysylltiad, a sicrhau y bydd gwaith yn cael ei bersonoli’n briodol
- ystyried effaith rhyw, cyfeiriadedd rhywiol neu hunaniaeth rhywedd ar yr unigolyn ar brawf
- darparu ar gyfer unrhyw ymrwymiadau crefyddol neu gyfrifoldebau gofal yr unigolyn ar brawf
- ystyried yr holl feysydd allweddol o groestoriadedd, hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol sy’n effeithio ar brofiad bywyd yr unigolyn ar brawf.
Fel rhan o unrhyw ddarpariaeth uniongyrchol o wasanaethau gan y Gwasanaeth Prawf cyn terfynu’n gynnar neu atal, rydym yn disgwyl ystyried ffactorau sy’n ymwneud ag amrywiaeth ac ymgysylltu, er mwyn annog cydymffurfio. Byddai hynny’n cynnwys darparu gwasanaethau’n bersonol, sy’n briodol i’r unigolyn ar brawf, cyn atal; a dealltwriaeth o’r ffactorau perthnasol fel y gellir trosglwyddo i asiantaethau priodol i gael cymorth parhaus ar ôl atal. Byddem yn disgwyl gweld atgyfeiriadau gweithredol, brocera a rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill i annog ymgysylltu parhaus, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael ag amrywiaeth a chynhwysiant.
d) A oes ffocws ar gynnal perthynas effeithiol â’r unigolyn ar brawf, gan annog a galluogi ymgysylltu?
Dylai’r ymarferydd prawf ganolbwyntio ar ddatblygu perthynas â’r unigolyn ar brawf a sefydlu teimlad o ymddiriedaeth o’r cychwyn cyntaf. Dylid defnyddio dulliau sy’n ennyn diddordeb yr unigolyn ar brawf ac sy’n ei ysgogi, sy’n ystyrlon iddo ac sy’n ei alluogi i gymryd rhan lawn. Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth bod yr ymarferydd prawf wedi creu’r lle a’r cyfle i feithrin perthynas waith gefnogol a llawn ymddiriedaeth gyda’r unigolyn ar brawf, ac wedi blaenoriaethu cydweithio ystyrlon â’r unigolyn.
Dylai ymarferwyr prawf ymateb i achosion o ddiffyg ymgysylltu gan ddefnyddio dull clir, pwyllog a chymhellol i annog cyfranogiad. Dylai gwaith rhagweithiol barhau gydag unigolion ar brawf sydd wedi bod yn destun rhybuddion, achosion tor-amod neu adalw. Lle bo’n berthnasol, dylid defnyddio monitro electronig yn briodol i gefnogi ymgysylltu.
Pan fydd unigolyn ar brawf wedi cael ei alw’n ôl i’r carchar, dylai’r gwaith ddechrau ar unwaith i baratoi ar gyfer cynllunio dedfryd yn y ddalfa, neu ei ryddhau lle bo hynny’n briodol. Ar gyfer y rheini sy’n torri amodau gorchmynion cymunedol, byddwn yn chwilio am dystiolaeth o gamau a gymerwyd i ailgysylltu â’r unigolyn ar brawf, gan gynnwys trafodaeth am y rhesymau dros orfodi, a sut i osgoi diffyg cydymffurfio yn y dyfodol. Gall gweithio drwy heriau fel hyn gryfhau’r berthynas waith rhwng yr unigolyn ar brawf a’r ymarferydd prawf, a gall fod yn rhan hanfodol o sicrhau newid.
Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt yn cael ei atal, rydym yn disgwyl y bydd unrhyw faterion sy’n ymwneud â diffyg cydymffurfio yn cael sylw’n gyflym yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol, er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i ddarparu gwasanaethau.
e) A yw’r darparu yn cyd-fynd ac wedi’i gydlynu’n ddigonol â darpariaeth gwasanaethau eraill, gan gynnwys cynllunio ar gyfer ymadael ac atgyfeirio at wasanaethau cyffredinol lle bo hynny’n berthnasol?
Dylid helpu unigolion ar brawf i gael gafael ar wasanaethau wedi’u targedu, arbenigol a phrif ffrwd, sy’n cynnwys ymarferwyr prawf yn cefnogi unrhyw ymgysylltiad presennol â gwasanaethau yn y gymuned a sicrhau nad yw ei ymyriadau ei hun yn tynnu sylw oddi wrth hyn.
Pan fydd asiantaethau neu sefydliadau eraill yn darparu gwasanaethau i’r unigolyn ar brawf, rydym yn disgwyl gweld yr ymarferydd prawf yn cydlynu’r gweithgaredd hwnnw. Gallai hyn gynnwys cefnogi’r unigolyn ar brawf mewn apwyntiad neu sesiwn/sesiynau cyntaf gydag asiantaethau eraill fel rhan o waith trosglwyddo neu ymadael. Dylai llinellau cyfrifoldeb clir fod yn eu lle ar gyfer y gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â’r unigolyn ar brawf neu sy’n gweithio gyda’r unigolyn, gydag eglurder ynghylch pwy sy’n gwneud beth a phryd, er mwyn sicrhau’r effaith fwyaf bosib ar gydweithio er budd yr unigolyn. Dylai ymarferwyr prawf sicrhau eu bod yn cael gwybodaeth gan asiantaethau eraill ac yn rhannu gwybodaeth â nhw hefyd, er mwyn cysoni a chydlynu darpariaeth gwasanaethau, gan gynnwys cyfathrebu rheolaidd ynghylch presenoldeb a chynnydd.
Mae angen i’r ymarferydd prawf atgyfeirio’r unigolyn ar brawf at wasanaethau prif ffrwd, os oes angen, er mwyn sicrhau parhad y cymorth pan ddaw’r cyfnod o oruchwyliaeth weithredol i ben. Mae hyn er mwyn i’r unigolyn ar brawf allu parhau i sicrhau newid cadarnhaol ar ôl i’r cyfnod goruchwylio ddod i ben. Efallai na fydd atgyfeirio ar ei ben ei hun yn ddigonol; yn hytrach, ac yn dibynnu ar amgylchiadau’r unigolyn ar brawf, efallai y bydd angen atgyfeiriad gweithredol, trefnu cyflwyniadau a chymorth i fynychu.
f) A yw ansawdd ac effaith y gwaith gyda’r unigolyn ar brawf i sicrhau newid yn cael eu hadolygu a’u haddasu lle bo angen?
Mae adolygu’n broses barhaus; dylai gydnabod ac ymateb i unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r unigolyn ar brawf. Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth bod yr ymarferydd prawf yn mynd ati’n rhagweithiol i adolygu ansawdd y gwaith sy’n cael ei ddarparu ac yn ystyried a yw’r gwaith yn cael yr effaith a fwriedir iddo ei gael, gan gynnwys mewn ymateb i unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau. Wrth ystyried ansawdd y cyswllt â’r gwasanaeth prawf, rydym yn cynnwys natur y cyswllt a lefel (maint) y cyswllt hwnnw. Dylai’r ddwy elfen fod yn gydnaws ag ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid.
Gall adolygiadau ysgrifenedig fod yn rhan o’r broses adolygu; dylai amseriad adolygiadau ysgrifenedig ddibynnu ar anghenion yr achos, ac, ar wahân i adolygu yn syth ar ôl rhyddhau, nid ydym yn gosod unrhyw amserlen benodol ar gyfer hyn.
Dylai’r gwaith adolygu ystyried ymgysylltiad yr unigolyn ar brawf hyd yma, ei ymatebion i’r gweithgarwch a’r ymyriadau sydd wedi cael eu darparu, ac a yw’n cyflawni’r newidiadau a ddymunir neu a oes cynnydd yn cael ei wneud. Gall newid cadarnhaol i unigolyn ar brawf fod yn broses raddol, aflinol ac amlddimensiwn. Os bydd yr ymarferydd prawf yn nodi unrhyw beth nad yw’n gweithio i sicrhau newid i’r unigolyn ar brawf, dylai addasu’r ddarpariaeth i sicrhau ei bod yn cyd-fynd â’r sefyllfa bresennol.
g) A yw camau gorfodi’n cael eu cymryd pan fo hynny’n briodol?
Mae’r cwestiwn hwn yn cyfeirio at gamau gorfodi cynnar, gan gynnwys cyhoeddi llythyrau rhybuddio neu geisiadau i amrywio amodau trwydded, yn ogystal â chamau ffurfiol fel torri amodau neu adalw. Dylid cymryd camau gorfodi ffurfiol yn brydlon pan fo angen a phan fo hynny’n briodol.
Rydym yn disgwyl y bydd ymdrechion rhesymol yn cael eu gwneud i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf cyn gynted â phosib os bydd unrhyw ddiffyg cydymffurfio, cyn cymryd unrhyw gamau gorfodi ffurfiol (torri amod neu adalw). Dylid defnyddio amrywiaeth o ffyrdd o ymgysylltu, er enghraifft galwadau ffôn neu ymweliad cartref. Os bu sawl achos o ddiffyg cydymffurfio, byddem yn disgwyl gweld camau gorfodi ffurfiol oni bai fod rhesymeg glir wedi’i nodi dros beidio â gwneud hyn. Ar gyfer pob penderfyniad am orfodi ffurfiol, rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ystyried lefel gyffredinol y cydymffurfio, unrhyw ffactorau sy’n ymwneud â’r risg o niwed neu’r tebygolrwydd o aildroseddu, a ‘budd y cyhoedd’ mewn gorfodi. Dylid gwneud penderfyniadau clir ynghylch sut i fynd ar drywydd materion gorfodi ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal.
Mae hwn yn ddyfarniad cytbwys, a rhaid iddo fod yn glir pan ddefnyddir dyfarniad proffesiynol, bod hyn yn briodol, ac nad yw’r unigolyn ar brawf yn pennu rheolaeth yr achos yn amhriodol.
Os oedd diffyg cydymffurfio yn rhwystr i ddarparu gwasanaethau wedi’u cynllunio, ni fydd hyn o reidrwydd yn arwain at ateb negyddol. Bydd dyfarniad yn cael ei wneud ar lefel yr ymdrech, y sgiliau a’r dycnwch a ddefnyddir i geisio cynnwys yr unigolyn ar brawf yn yr ymyriadau.
Dyfarniad cryno: A yw gwasanaethau personol, cydlynol a difyr yn cael eu darparu i sicrhau newid?
Bydd arolygwyr yn barnu a yw ansawdd cyffredinol y darparu yn ddigon i ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid. Dylai hyn fod yn gymesur ag anghenion yr unigolyn ar brawf a natur y ddedfryd, a dylai fod yn ddigon personol, gan flaenoriaethu’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig ag ymgysylltu â’r unigolyn ar brawf a sicrhau newid ar ei gyfer.
Bydd arolygwyr yn ystyried eu hatebion i’r holl gwestiynau yn yr adran hon a phenderfynu a yw’r cryfderau’n gorbwyso unrhyw ddiffygion. Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond am gynllunio digonol yn amgylchiadau’r achos. Os oes diffygion, bydd arolygwyr yn ystyried eu heffaith yng nghyd-destun yr achos. Felly, mewn rhai amgylchiadau, gall cynllunio annigonol ar gyfer un ffactor critigol, fel methu cyfathrebu’n ddigonol â charcharor cyn rhyddhau o’r ddalfa, fod yn ddigon i arwain at ddyfarniad annigonol.
Mae darpariaeth sydd â ffocws da yn bersonol, yn cael ei chyflwyno’n briodol heb lithro, ac yn canolbwyntio’n glir ar yr hyn yr oedd yn ceisio cael ei gyflawni.
Dylai’r ddarpariaeth fod yn gymesur ag anghenion, nodweddion ac amgylchiadau’r unigolyn ar brawf ac yn gymesur â natur y drosedd, a hyd a chyd-destun cyswllt yr unigolyn â’r gwasanaeth prawf. Mae darpariaeth bersonol yn golygu bod cyd-destun yr unigolyn ar brawf yn cael ei ddeall, bod y ddarpariaeth yn cael ei phersonoli, ei threfnu a’i theilwra yn unol â hynny, a bod yr unigolyn ar brawf yn deall beth sy’n cael ei ddarparu a pham. Gall darpariaeth ddigonol ar gyfer unigolyn ar brawf sydd â hanes cyfyngedig o droseddu a dim llawer o anghenion fod yn llai aml a bod â llai o gynnwys nag ar gyfer unigolyn ar brawf sydd wedi ymwneud mwy â chyfiawnder troseddol neu sydd â lefel uwch o angen. Mewn achosion sydd wedi cael eu terfynu’n gynnar neu fod goruchwyliaeth wedi cael ei hatal, rydym yn disgwyl gweld darpariaeth yn ystod unrhyw gyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a throsglwyddo neu gynllun ymadael i gefnogi’r unigolyn ar brawf i ymgysylltu â darpariaeth uniongyrchol gan y Gwasanaeth Prawf, ac i dderbyn gwasanaethau gan asiantaethau eraill ar ôl terfynu’n gynnar neu ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal.
2.3.2 A yw gwasanaethau personol, cydlynol a difyr yn cael eu darparu i gadw pobl yn ddiogel?
Cofiwch: Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu hystyried, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Mae darparu yn cynnwys apwyntiadau goruchwylio ac ymyriadau.
Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i waith gael ei wneud i fynd i’r afael â’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Felly, bydd rhai achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg isel o niwed difrifol yn galw am waith i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â niwed.
a) A yw’r gwasanaethau cywir yn cael eu darparu i gadw pobl eraill yn ddiogel, gan gyfrannu at reoli risgiau’n effeithiol?
Byddwn yn ystyried hyd cyfnod ymgysylltu’r unigolyn ar brawf ac yn edrych ar y gwaith y byddai modd ei ddarparu’n rhesymol yn ystod yr amserlen honno. Dylid darparu’r gwasanaethau cywir i gyfrannu at reoli risg yn effeithiol a dylid ystyried trefn ymyriadau, er mwyn sicrhau bod ffactorau hanfodol i gadw pobl eraill yn ddiogel yn cael sylw fel blaenoriaeth.
Pan fydd unigolyn ar brawf yn cael ei fonitro’n electronig, dylid defnyddio hyn, lle bo’n berthnasol, i gyfrannu at reoli risg yn effeithiol.
Rydym yn cydnabod y gallai ymyriadau fod angen cael eu gwasgaru, eu rhoi mewn trefn a’u torri’n ‘ddarnau’ ystyrlon llai ar gyfer yr unigolyn ar brawf. Dylid canolbwyntio ar sefydlu perthynas broffesiynol effeithiol â’r unigolyn ar brawf o’r cychwyn cyntaf, er mwyn manteisio i’r eithaf ar ymyriad a chymorth. Dylai’r ymarferydd prawf fod yn ymwybodol o’r amserlenni sydd ar gael i weithio gyda’r unigolyn ar brawf a sicrhau ei fod yn defnyddio’r amser hwn yn effeithiol.
b) A roddir sylw i amddiffyn dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posib wrth ddarparu gwasanaethau?
Ym mhob achos, ni waeth a yw’r cynllun cyswllt â dioddefwyr statudol yn berthnasol ai peidio, dylai ymarferwyr prawf nodi a oes dioddefwr blaenorol neu ddioddefwyr posib eraill y gellir eu hadnabod a allai fod mewn perygl o niwed. Dyma’r sefyllfa’n aml mewn achosion cam-drin domestig. Dylid cael rheolaeth weithredol ar yr achos sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch dioddefwyr. Gallai tystiolaeth gynnwys sicrhau nad yw man preswylio neu gyflogaeth yr unigolyn ar brawf yn cynyddu’r risg i unrhyw ddioddefwyr neu ddioddefwyr posib; cyswllt gweithredol â’r heddlu, gwasanaethau plant neu asiantaethau eraill; trafodaeth â chyflogwyr neu asiantaethau cyflogaeth am gyfyngiadau ar gyflogaeth; defnyddio MAPPA a ViSOR i gael gafael ar wybodaeth a’i rhannu; a lleihau’r cyswllt â’r gwasanaeth prawf drwy roi ystyriaeth briodol i leoliadau gwaith di-dâl, amseroedd adrodd neu ddyrannu rhaglenni. Bwriad y rhan fwyaf o’r gofynion a’r amodau cyfyngol sydd ar gael mewn gorchmynion a thrwyddedau yw amddiffyn dioddefwyr hysbys neu bosib. Gellir amrywio’r amodau hyn, os oes angen, ar ôl dechrau’r gorchymyn neu’r drwydded.
Dylid cyfathrebu’n glir ac yn rheolaidd â’r sawl sy’n gweithio gyda dioddefwr neu unrhyw un arall sy’n gwneud gwaith perthnasol, er mwyn sicrhau bod barn dioddefwyr am eu diogelwch yn hysbys ac yn cael ei hystyried. Dylai’r darparu gynnwys ymateb i unrhyw ddymuniadau rhesymol gan ddioddefwyr.
Mewn achosion sy’n cael eu terfynu’n gynnar neu lle bydd goruchwyliaeth wedi’i hatal, rydym yn disgwyl gweld gwaith uniongyrchol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Cyn atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol gan y Gwasanaeth Prawf.
Rydym yn disgwyl gweld cyswllt rheolaidd rhwng y gwasanaeth prawf ac unigolion ar brawf nad oes ganddynt gyfeiriad sefydlog. Dylid defnyddio’r cyswllt hwnnw i wirio a mynd ar drywydd unrhyw ffactorau sy’n berthnasol i amddiffyn dioddefwyr posib a gwirioneddol.
c) A yw cyfranogiad asiantaethau eraill o ran rheoli a lleihau’r risg o niwed wedi’i gyd-drefnu’n dda?
Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth o gyfathrebu rheolaidd ac effeithiol rhwng yr holl asiantaethau sy’n ymwneud â’r achos, er mwyn rheoli a lleihau’r risg o niwed. Rhaid i fforymau amlasiantaethol, fel MAPPA a MARAC, fod yn rhagweithiol a chynnwys y bobl iawn er mwyn gallu cymryd camau effeithiol. Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth o herio ac uwchgyfeirio priodol, gan gynnwys gan uwch reolwyr, os na ellir datrys anawsterau. Mewn rhai achosion, ni fydd angen gwneud gwaith amlasiantaeth.
Mewn achosion sy’n cael eu terfynu’n gynnar neu lle bydd cyswllt wedi’i atal, rydym yn disgwyl gweld gweithgarwch yn cael ei gyd-drefnu’n glir yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Cyn atal cyswllt â’r gwasanaeth prawf, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol.
d) A gynhelir ymweliadau cartref lle byddent yn cefnogi’r gwaith o reoli’r risg o niwed yn effeithiol?
Rydym yn disgwyl gweld ymweliadau cartref yn cael eu defnyddio ym mhob achos lle mae materion yn ymwneud â diogelu plant neu oedolion neu gam-drin domestig, oni bai fod rheswm penodol dros beidio â gwneud hyn (er enghraifft, bod yr unigolyn ar brawf yn byw mewn adeilad cymeradwy). Mewn achosion eraill, mae’n arfer da ymweld â chartrefi, deall yr amgylchiadau y mae’r unigolyn ar brawf yn byw ynddynt, a chwrdd â phartneriaid ac aelodau eraill o’r teulu.
e) A yw’r gwasanaethau cywir yn cael eu darparu i hybu diogelwch i’r unigolyn ar brawf?
Dylai darpariaeth adeiladu ar gymorth, strwythurau amddiffynnol ac ymyriadau presennol sydd ar waith i hybu diogelwch yr unigolyn ar brawf. Dylai hefyd nodi strwythurau a chymorth newydd, lle bo hynny’n briodol.
Pan fydd risgiau i’r unigolyn ar brawf y tu allan i’r cartref, dylai ymarferwyr prawf ddefnyddio dull diogelu cyd-destunol o weithio gyda’r unigolyn ar brawf. Dylent ddilyn gweithdrefnau diogelu y cytunwyd arnynt yn lleol ac, mewn achosion lle mae’r unigolyn ar brawf yn cael ei ecsbloetio, atgyfeirio at y Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol.
Dylai’r darparu roi cyfle i’r unigolyn ar brawf fynegi ei farn am ei ddiogelwch a’r hyn sydd ei angen o’i safbwynt ef er mwyn bod yn ddiogel. Dylai’r unigolyn ar brawf gymryd rhan weithredol yn y darparu er mwyn sicrhau diogelwch mewn modd cydweithredol. Dylai’r gwaith fod gyda’r unigolyn ar brawf, yn hytrach na rhywbeth sy’n cael ei wneud i’r unigolyn ar brawf.
Dylai’r ddarpariaeth ymateb i’r hyn sy’n digwydd ym mywyd unigolyn ar brawf. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr fod yn effro i unrhyw newidiadau sy’n dangos bod unigolyn ar brawf yn dod yn agored i niwed neu fod elfennau sy’n ei wneud yn agored i niwed yn cynyddu, neu ei fod mewn perygl o brofi erledigaeth neu ecsbloetiaeth, yn enwedig os bydd newidiadau’n awgrymu bod y pryderon yn newydd neu’n cynyddu. Dylai ymarferwyr prawf ddangos chwilfrydedd proffesiynol parhaus ynghylch yr hyn sy’n digwydd ym mywyd yr unigolyn ar brawf, bod yn wyliadwrus o’r amrywiaeth o fathau posib o ecsbloetiaeth, ac ymateb yn briodol pan fydd pryderon.
f) A yw gwasanaethau’n cael eu darparu ar y cyd ag asiantaethau eraill i hybu diogelwch i’r unigolyn ar brawf?
Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ymgysylltu ag unigolion allweddol ym mywyd yr unigolyn ar brawf, i gefnogi’r gwaith o reoli’r risg o niwed yn effeithiol. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gweithwyr proffesiynol eraill sydd â rôl allweddol ym mywyd yr unigolyn ar brawf a, drwy rannu gwybodaeth yn briodol, efallai y byddant hefyd yn cael eu defnyddio i gefnogi’r gwaith o reoli risg. Dylai’r ddarpariaeth ystyried rôl pobl eraill o ran cadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel. Gallai hyn gynnwys dulliau amlasiantaeth neu bartneriaeth, gweithio gydag asiantaethau iechyd, gofal cymdeithasol a’r heddlu, a gwaith uniongyrchol gyda’r unigolyn ar brawf i nodi a gweithredu ffyrdd i’w helpu i’w gadw’n ddiogel, fel cryfderau a gweithgarwch sy’n seiliedig ar berthynas. Gallai’r ddarpariaeth gynnwys amrywiaeth o weithgarwch i fynd i’r afael ag erledigaeth, bod yn agored i niwed ac ecsbloetiaeth.
Mewn achosion sy’n cael eu terfynu’n gynnar neu lle mae goruchwyliaeth wedi’i hatal, rydym yn disgwyl gweld cyfathrebu clir ag asiantaethau eraill i sicrhau eu bod wedi cael gwybod am effaith terfynu’n gynnar neu atal ar ddiogelu’r unigolyn ar brawf.
f) A yw ansawdd ac effaith y gwaith i ddiogelu’r unigolyn ar brawf yn cael eu hadolygu a’u haddasu lle bo angen?
Mae adolygu’n broses barhaus; dylai gydnabod ac ymateb i unrhyw newidiadau yn amgylchiadau’r unigolyn ar brawf. Gall adolygiadau ysgrifenedig fod yn rhan o’r broses adolygu; dylai amseriad adolygiadau ysgrifenedig ddibynnu ar anghenion yr achos, ac, ar wahân i adolygu yn syth ar ôl rhyddhau, nid ydym yn gosod unrhyw amserlen benodol ar gyfer hyn. Dylai’r gwaith adolygu ystyried ymgysylltiad yr unigolyn ar brawf hyd yma, ei ymatebion i’r gweithgarwch a’r ymyriadau sydd wedi cael eu darparu, ac a ydynt yn cadw pobl yn ddiogel. Mae hyblygrwydd yn bwysig i sicrhau bod dull personol yn cael ei gynnal.
Dylai’r ymarferydd prawf fynd ati’n rhagweithiol i adolygu ansawdd y gwaith sy’n cael ei wneud ac ystyried a yw’r gwaith yn cael effaith gadarnhaol ar sicrhau diogelwch yr unigolyn ar brawf.
Dylai’r darparu barhau i fod yn gyfredol ac yn berthnasol i’r unigolyn ar brawf, ac ystyried unrhyw newidiadau yng nghyd-destun yr unigolyn a’i amgylchedd teuluol a chymdeithasol ehangach, ei gryfderau, a’i ffactorau amddiffynnol a strwythurol. Gall troseddu pellach neu ymddygiad sy’n peri pryder, newidiadau mewn meddyginiaeth, ymgysylltu, iechyd meddwl, neu lety, er enghraifft, effeithio ar ba weithgarwch sydd ei angen. Dylai’r ymarferydd prawf wedyn adolygu darpariaeth gwasanaethau i wneud yn siŵr eu bod yn cael yr effaith y bwriedir iddynt ei chael.
Pan fydd goruchwyliaeth y gwasanaeth prawf yn dod i ben, dylid cael strategaethau ymadael clir sy’n cydnabod gwaith y mae angen iddo barhau er mwyn diogelu’r unigolyn ar brawf.
Dyfarniad cryno: A yw gwasanaethau personol, cydlynol a difyr yn cael eu darparu i gadw pobl yn ddiogel?
Mae dwy elfen i ‘gadw pobl yn ddiogel’ – un yw cyfrannu at ddiogelwch cymunedol a’r llall yw diogelwch yr unigolyn ar brawf. Bydd arolygwyr yn barnu a yw darpariaeth gyffredinol y ddedfryd yn bodloni anghenion yr achos. Mewn achosion ar ôl rhyddhau, mae’r cwestiwn hwn yn cyfeirio at waith a gyflawnir ar ôl rhyddhau yn unig.
Mae angen i arolygwyr ystyried eu hatebion i’r holl gwestiynau yn yr adran hon a phenderfynu a yw’r cryfderau’n gorbwyso unrhyw ddiffygion. Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond am ddarpariaeth a gweithgarwch digonol sy’n canolbwyntio ar sut i sicrhau diogelwch i’r unigolyn ar brawf ac i’r gymuned, o ystyried bod y ddwy elfen yn hanfodol ac yn aml yn gysylltiedig. Darparu digonol yw pan fydd y mesurau cywir ar waith i gadw’r unigolyn ar brawf a’r gymuned yn ddiogel. Os oes diffygion, bydd arolygwyr yn ystyried eu heffaith yng nghyd-destun yr unigolyn ar brawf.
Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal, rydym yn disgwyl darpariaeth ddigonol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol; trosglwyddo digonol i asiantaethau perthnasol eraill pan fydd goruchwyliaeth yn cael ei hatal; a monitro ac ymateb gweithredol parhaus i wybodaeth newydd a dderbynnir, i gyfrannu at ddiogelwch cymunedol ac i gadw’r unigolyn ar brawf yn ddiogel. Gallai hynny gynnwys gwneud atgyfeiriad diogelu plant neu ddechrau gwiriadau cam-drin domestig yr heddlu.
P’un a yw’r unigolyn ar brawf wedi ymgysylltu ai peidio, bydd arolygwyr yn disgwyl i’r ymarferydd prawf gydnabod ei gyfrifoldeb cyffredinol dros ddiogelwch yr unigolyn ar brawf a’r gymuned, a sicrhau bod y risgiau i’r unigolyn ar brawf a’r gymuned yn cael eu lleihau. Mewn achosion lle nad oedd unrhyw ffactorau’n gysylltiedig â’r risg o niwed na diogelwch yr unigolyn ar brawf, bydd yr arolygwyr yn ateb ‘ydi’.
Dylai’r ddarpariaeth fod wedi’i theilwra i nodweddion ac amgylchiadau’r unigolyn ar brawf. Dylai ddibynnu ar anghenion diogelwch, nodweddion ac amgylchiadau’r unigolyn ar brawf, pryderon o ran diogelwch eraill yn y gymuned, a chyd-destun cysylltiad y plentyn â’r ymarferydd prawf.
Mae angen i ddarpariaeth ddigonol ar gyfer yr unigolyn ar brawf gael ei theilwra, gael ffocws da a chael ei phersonoli yn unol â’r anghenion a’r pryderon a nodwyd. Os yw’r cyfnod y cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn fyr, gellir canolbwyntio ar y ddarpariaeth neu roi mwy o ystyriaeth i atgyfeiriadau, trefniadau ymadael, a throsglwyddo i wasanaethau prif ffrwd i sicrhau bod cymorth parhaus ar gael i’r unigolyn ar brawf.
Os nad oes unrhyw ffactorau’n gysylltiedig â chadw’r unigolyn ar brawf neu’r gymuned yn ddiogel, bydd y cwestiwn hwn yn cael ei ateb gydag ‘amherthnasol’.
Crynodeb o’r achos (Back to top)
Goruchwyliaeth gan reolwyr.
Rydym yn ystyried ansawdd goruchwyliaeth rheolwyr yn yr achosion rydym yn eu harolygu.
Sut y byddech chi’n disgrifio goruchwyliaeth y rheolwyr yn yr achos?
Mae datganiad sefyllfa Arolygiaeth Prawf EF ar oruchwyliaeth rheolwyr wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan1.
Mae goruchwyliaeth effeithiol rheolwyr yn llawer mwy na chydlofnodi. Mae’n cynnwys elfennau o sicrhau ansawdd, goruchwylio staff, delio â meysydd sy’n peri pryder mewn achosion prawf unigol a hwyluso gwelliannau mewn ymarfer. Dylai ganolbwyntio ar sicrhau bod dioddefwyr gwirioneddol neu bosib a phobl ar brawf eu hunain, yn cael eu hamddiffyn yn ddigonol rhag niwed. Dylai goruchwyliaeth rheolwyr ganolbwyntio’n bennaf ar achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg uchel neu uchel iawn o niwed i eraill, achosion MAPPA neu’r rheini sydd â phroblemau cam-drin domestig neu ddiogelu plant gweithredol. Mae goruchwyliaeth yn arbennig o bwysig ar yr adeg pan allai unrhyw achosion o’r fath gael eu terfynu’n gynnar neu fod eu cyswllt â’r gwasanaeth prawf yn cael ei atal er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol, a bod cynlluniau wrth gefn ar gyfer newidiadau a allai ddigwydd ar ôl terfynu/atal. Rydym hefyd yn disgwyl i reolwyr fod yn ymwybodol o achosion nad ydynt yn cael eu hasesu ar hyn o bryd ar y lefelau risg hyn o niwed, ond lle mae potensial i’r risg o niwed gynyddu, a dylent eu monitro’n weithredol. Nid mater i reolwyr yn unig yw sicrhau eu bod yn ymwybodol o achosion y mae angen eu goruchwylio. Mae gan ymarferwyr prawf gyfrifoldeb hefyd i dynnu sylw rheolwyr at yr achosion hynny y mae angen eu goruchwylio.