Arolygiad o Safle Cymeradwy Quay House
Rhagair (Back to top)
Roedd ein harolygiad o safle cymeradwy (SC) Quay House yn Abertawe yn dynodi ein hail arolygiad o SC yng Nghymru.
Derbyniodd Quay House sgôr ‘Rhagorol’ yn gyffredinol – canlyniad sy’n adlewyrchu tîm ymroddedig, medrus a brwdfrydig sy’n cyflawni gwaith o ansawdd uchel.
Mae staff yn Quay House wedi creu amgylchedd diogel, cefnogol a pharchus. Dywedodd y preswylwyr wrthym bod y staff ar gael “bob amser” pan oedd angen, ac roedd yn amlwg bod perthnasoedd cryf rhwng y staff a’r preswylwyr. Roedd y diwylliant cadarnhaol hwn yn gyflawniad gwirioneddol ac roedd yn ffurfio’r sail i waith adsefydlu a rheoli risg effeithiol.
Roedd yr arweinyddiaeth yn Quay House yn eithriadol. Roedd y rheolwr yn gosod disgwyliadau clir, yn hyrwyddo diwylliant o ddysgu, ac yn sicrhau bod y staff yn derbyn cefnogaeth ac arweiniad rheolaidd. Roedd model Ffactorau Dynol Cymru wedi’i ymgorffori’n dda ac roedd yn helpu’r staff i fyfyrio ar heriau, rhannu dysgu, a gwneud penderfyniadau cadarn. Roedd y broses o oruchwylio gwaith achosion yn gryf ym mron pob achos a arolygwyd gennym.
Roedd Quay House yn elwa’n fawr ar bartneriaethau agos gyda gwasanaethau eraill. Roedd integreiddio cydweithwyr o’r llwybr anhwylder personoliaeth troseddwyr (OPD), plismona yn y gymdogaeth a darparwyr iechyd lleol wedi ychwanegu arbenigedd a oedd yn atgyfnerthu mesurau diogelu’r cyhoedd ac adsefydlu. Roedd gan breswylwyr fynediad at ystod eang o weithgareddau ystyrlon, ochr yn ochr â chymorth gydag iechyd, llesiant, hyfforddiant, cyflogaeth a llety. Roedd yn siomedig, ar adeg ein gwaith maes, nad oedd gan y safle cymeradwy weithiwr camddefnyddio sylweddau yn gwasanaethu o’r safle cymeradwy ac roedd hyn yn gofyn am rywfaint o sylw.
Roedd yr adeilad yn ddiogel ac addas ar y cyfan, er bod angen gwelliannau. Roedd angen adnewyddu’r ystafelloedd gwely ar y llawr cyntaf, roedd angen carpedi newydd, ac roedd angen mynd i’r afael â’r tymereddau uchel yn ystod misoedd yr haf.
Ar y cyfan, roedd Quay House yn safle cymeradwy perfformiad uchel, sy’n darparu gwasanaeth cadarn ac effeithiol i’r cyhoedd ac i’r preswylwyr a oedd yn byw yno. Dylai’r staff ymfalchïo yn y gwahaniaeth gwirioneddol maent yn ei wneud i fywydau pobl. Rydym yn gobeithio y bydd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn yn helpu i atgyfnerthu’r gwasanaeth ymhellach.
Martin Jones CBE
Prif Arolygydd Prawf EF
Gwybodaeth gefndir (Back to top)
| Cyfanswm y safleoedd cymeradwy yn genedlaethol | 104 |
| Hyd yr amser ar y safle, gan gynnwys gweithgarwch y tu allan i oriau arferol | Dau ddiwrnod |
| Cyfanswm yr ystafelloedd gwely yn Quay House Roedd pob ystafell wely yn rhai meddiannaeth unigol | 27 |
| Hyd arhosiad preswylwyr ar gyfartaledd yn Quay House | 35 diwrnod |
Yn genedlaethol
Mae safleoedd cymeradwy yn darparu gwasanaeth monitro a goruchwylio 24 awr y dydd i’w preswylwyr a disgwylir iddynt eu hymgysylltu mewn ymyriadau i leihau’r tebygolrwydd o droseddu pellach. Mae yna 104 o safleoedd cymeradwy yng Nghymru a Lloegr. Mae’r rhan fwyaf ohonynt ar gyfer dynion yn unig, gyda dim ond wyth ohonynt ar gyfer menywod yn unig. Mae deuddeg ohonynt yn amgylcheddau wedi’u cynllunio’n seicolegol wybodus (PIPE), sydd wedi’u cyd-gomisiynu gyda GIG Lloegr. Mae pedwar ar ddeg ohonynt yn annibynnol, gan gynnwys pump o’r wyth safle cymeradwy ar gyfer menywod. Mae’r rhain yn cael eu harwain gan ddarparwyr y trydydd sector yn bennaf. Mae safleoedd cymeradwy annibynnol yn cael eu harwain o dan gontract ac mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF (HMPPS).
Roedd pedwar safle cymeradwy yng Nghymru yn rhan o’r isadran diogelu’r cyhoedd preswyl (RPP), sy’n cael ei harwain gan bennaeth diogelu’r cyhoedd preswyl. Roedd yr isadran hon wedi’i lleoli yn rhanbarth prawf Cymru ac roedd wedi’i hintegreiddio gyda’r gwasanaeth rheoli dedfrydau prif ffrwd. Roedd y strwythur hwn yn wahanol i’r model yn Lloegr, lle mae safleoedd cymeradwy yn gweithredu fel endid ar wahân.
Yn lleol
Roedd gan safle cymeradwy Quay House yn Abertawe, Cymru uchafswm meddiannaeth o 27 o ddynion, 18 oed a hŷn. Roedd pob ystafell wely yn rhai meddiannaeth unigol, ac roedd y safle cymeradwy yn gyfleuster wedi’i arlwyo. Ar ddiwedd ein gwaith maes roedd 25 preswylydd ar leoliad.
Ein methodoleg arolygu
Fe wnaethom arolygu Quay House yn ystod yr wythnos yn dechrau 23 Chwefror 2026. Roedd hyn yn cynnwys arolygiad oddi ar y safle o wyth achos a oedd yn ymwneud ag unigolion a oedd naill ai’n parhau i fyw ar y safle cymeradwy neu a oedd wedi gadael yn ddiweddar. Wrth gynnal ein gwaith maes ar y safle, fe wnaethom arsylwi ymarfer a chyfweld â’r rheolwyr a staff, yn unigol ac mewn grwpiau. Fe wnaethom hefyd dderbyn adborth gan naw o’r preswylwyr presennol ynglŷn â’u profiadau. Yn ogystal, roedd ein gwaith maes yn cynnwys gweithgareddau ‘y tu allan i oriau arferol’ y safle cymeradwy – yn benodol, y prosesau trosglwyddo rhwng y shifft yn gynnar yn y bore a’r shifft gyda’r nos – a dadansoddiad manwl o benderfyniadau gorfodi ac adalw diweddar.
Graddfeydd (Back to top)
| Gwaith maes a ddechreuodd yn Chwefror 2026 | Graddfa 13/15 |
| Dosbarthiad cyffredinol | Rhagorol |
| Safonol | Sgôr | Graddfa |
| Arweinyddiaeth a llywodraethiant | Rhagorol | 3 |
| Staffio | Rhagorol | 3 |
| Diogelwch | Da | 2 |
| Diogelu’r cyhoedd | Rhagorol | 3 |
| Adsefydlu | Da | 2 |
Argymhellion (Back to top)
O ganlyniad i ganlyniadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud yr argymhellion canlynol a chredwn y byddant, os cânt eu gweithredu, yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gwasanaethau a ddarperir yn Quay House.
Dylai tîm arweinyddiaeth Quay House:
- atgyfnerthu’r dull o gofnodi gweithgareddau adsefydlu, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu darparu gan asiantaethau partner, er mwyn sicrhau bod ymgysylltiad, cynnydd a chanlyniadau unigol yn cael eu cofnodi’n fwy cyson
- sicrhau mwy o gysondeb wrth ymarfer a chofnodi gwaith allweddol, yn arbennig mewn achosion lle mae cysylltiadau a gollwyd neu gamau dilynol yn gofyn am waith monitro manylach
- sicrhau parhad y ddarpariaeth ar gyfer camddefnyddio sylweddau, er mwyn sicrhau bod gan drigolion fynediad dibynadwy ac amserol at gymorth arbenigol.
Dylai Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi:
- gwella’r amgylchedd ffisegol yn Quay House, yn benodol ar y llawr cyntaf, drwy osod carpedi newydd, ail-baentio’r ystafelloedd gwely a’r coridorau, a mynd i’r afael â’r gorboethi yn yr haf er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn byw mewn amodau glân, gweddus a chyfforddus
- datrys oediadau gyda chanlyniadau profion cyffuriau, ac archwilio i opsiynau profi cyflymach neu yn y fan a’r lle i gefnogi penderfyniadau rheoli risg cyflym ac effeithiol
- adolygu diogelwch yr ystafell wely ddynodedig lle mae risg o gynau tân yn fwriadol, gan gynnwys gosod system chwistrellu briodol.
Arweinyddiaeth a llywodraethiant (Back to top)
| Graddfa | |
| Rhagorol |
Cryfderau:
- Roedd gan Quay House weledigaeth glir wedi’i dogfennu, a oedd wedi’i chysylltu â’r weledigaeth gyffredinol ar gyfer safleoedd cymeradwy yng Nghymru, a oedd yn cael ei harddangos yn y safle cymeradwy.
- Roedd diwylliant cefnogol, sy’n canolbwyntio ar ddysgu, ac sy’n ddiogel yn seicolegol wedi’i ymgorffori yn Quay House. Roedd y staff yn disgrifio’r safle cymeradwy fel lle cadarnhaol i weithio ynddo, lle’r oedd cydweithwyr yn cefnogi ei gilydd ac yn cynnal perthnasoedd proffesiynol cryf.
- Roedd model Ffactorau Dynol Cymru wedi’i ymgorffori’n llwyr yn Quay House, gan gynnwys ei fformat cyfarfodydd strwythuredig a’r amser wedi’i ddiogelu ar gyfer ymgynghoriad â rheolwyr. Cyflwynwyd y model i hyrwyddo diwylliant o ddysgu, atgyfnerthu diogelwch seicolegol ymhlith y staff a gwella prosesau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau. Fe arsylwodd yr arolygwyr bod y model yn atgyfnerthu diogelwch seicolegol, yn annog myfyrdod ac yn gwella prosesau cyfathrebu a gwneud penderfyniadau.
- Roedd arweinwyr ar bob lefel yn dathlu llwyddiant ac yn cydnabod arferion da, gan gynnwys drwy ddigwyddiadau adrannol, cyfarfodydd tîm, dyddiau cwrdd i ffwrdd a thrafodaethau Ffactorau Dynol dyddiol. Dywedodd y staff eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u cydnabod am eu cyfraniadau. Roedd y rheolwr yn defnyddio enwebiadau gwobrwyo staff a gwobrau gwobrwyo a chydnabod rheolaidd i gydnabod gwaith caled a chyflawniadau aelodau o staff.
- Roedd rheolwr y safle cymeradwy yn cynnal dull gweithredu adeiladol, di-fai, sy’n galluogi’r staff i drafod heriau yn agored a chefnogi diwylliant o welliannau parhaus.
- Roedd adborth y preswylwyr i’r arolygwyr yn gyson gadarnhaol ynglŷn â Quay House, gan bwysleisio natur groesawgar, gefnogol a hawdd mynd atynt y staff. Dywedodd preswylwyr a gyfwelwyd eu bod yn teimlo’n ddiogel, a gwelsom lawer iawn o dystlythyrau ysgrifenedig gan gyn-breswylwyr yn disgrifio effaith gadarnhaol y safle cymeradwy ar eu hadsefydliad. Roedd y tystlythyrau hyn wedi’u harddangos yn ardal staff y safle cymeradwy fel dull i gymell ac atgoffa’r tîm o’u heffaith ar fywydau cyn-breswylwyr.
- Dywedodd pob preswylydd a gyfwelwyd gan yr arolygwyr bod y staff yn Quay House ar gael “bob amser” pan oeddynt angen cymorth. Roedd yr adborth cyson hwn yn adlewyrchu diwylliant cadarnhaol a chefnogol yn y safle cymeradwy, lle’r oedd y staff yn hawdd mynd atynt, yn ymatebol, ac yn meithrin amgylchedd lle’r oedd preswylwyr yn teimlo’n ddiogel, wedi’u gwerthfawrogi, ac yn hyderus i geisio cymorth.
- Casglwyd adborth gan breswylwyr drwy gyfarfodydd preswylwyr wythnosol, wedi’u cadeirio gan reolwr y safle cymeradwy. Roedd arolwg ymadael preswylwyr wedi gwella’r cyfraddau cwblhau yn dilyn newidiadau a wnaed o ran pryd a sut y byddent yn cael eu gweinyddu. Roedd y rheolwr wedi cynnwys yr arolwg ymadael yn ddiweddar fel rhan o’r ‘llyfryn symud ymlaen’ – ymyrraeth a gynigiwyd ar gyfer preswylwyr Quay House yng nghamau olaf eu lleoliad ar y safle cymeradwy.
- Roedd yr arweinwyr yn cydweithio’n effeithiol gydag ystod o bartneriaid cymunedol lleol i gefnogi cyfleoedd i breswylwyr a rheoli risg. Roedd tystiolaeth gref o bartneriaethau aml-asiantaeth sefydledig, a ddefnyddiwyd yn rheolaidd i wella canlyniadau i breswylwyr a gwella dulliau diogelu’r cyhoedd.
- Quay House oedd y safle cymeradwy â’r perfformiad gorau cyson yng Nghymru yn nhermau cyflawni mesurau lefel gwasanaeth cenedlaethol. Roedd gan y rheolwr safonau a disgwyliadau uchel, ac roedd ffocws clir ar lefel yr ansawdd a oedd yn sail i’r data perfformiad.
- Roedd goruchwyliaeth reoli effeithiol yn amlwg mewn saith o’r wyth achos a arolygwyd. Roedd hyn yn adlewyrchu gwaith caled a diwydrwydd rheolwr y safle cymeradwy. Ers ein harolygiad diwethaf o safle cymeradwy yng Nghymru, dri mis yn ôl, roedd y fframwaith sicrhau ansawdd newydd wedi’i sefydlu ac yn dechrau cael ei ddefnyddio ledled Cymru. Roedd offeryn archwilio achosion safleoedd cymeradwy Cymru (WAPCAT) ar waith yn awr, ochr yn ochr â grŵp arfer gorau Cymru – er mwyn mynd i’r afael â chanfyddiadau ansawdd thematig – a chymorth swyddog datblygu ansawdd ymroddedig, gyda phob un o’r rhain yn adlewyrchu’r ymrwymiad i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl.
- Ers dechrau yn y swydd yn Rhagfyr 2024, roedd y rheolwr wedi cynnal pedwar diwrnod cwrdd i ffwrdd, gyda ffocws cryf ar wella ansawdd ym mhob un. Cafwyd cynrychiolaeth dda o staff ym mhob un o’r rhain, ac roedd canfyddiadau ein harolygiad ar ansawdd gwaith achos yn adlewyrchu effaith gadarnhaol y dull gweithredu hwn. Roedd y dyddiau cwrdd i ffwrdd wedi’u defnyddio’n effeithiol i fynd i’r afael â themâu ansawdd a pherfformiad allweddol, gan gynnwys datblygu cynllun preswyliad, arferion trosglwyddo, a dysgu o ganfyddiadau archwiliad safleoedd cymeradwy cenedlaethol.
- Roedd Quay House yn gweithredu o fewn fframwaith cyfarfod clir ledled Cymru, ac roedd y safle cymeradwy yn gwneud defnydd effeithiol o’r strwythur hwn. Roedd cyfarfodydd tîm rheolaidd, trafodaethau Ffactorau Dynol dyddiol a sesiynau dyddiau cwrdd i ffwrdd yn sicrhau bod staff yn cael eu hysbysu ynglŷn â disgwyliadau ymarfer, blaenoriaethau sy’n datblygu a newidiadau i weithdrefnau gweithredol. Roedd y fforymau hyn yn darparu gofod i staff rannu myfyrdodau, trafod heriau a chyfrannu at welliannau i ymarfer o ddydd i ddydd.
- Roedd yr arweinwyr yn ymateb i ddigwyddiadau difrifol a materion sy’n dod i’r amlwg drwy sicrhau bod gwybodaeth a ddysgwyd yn cael ei rhannu’n brydlon ar draws y tîm. Disgrifiodd staff enghreifftiau o reolwyr yn tynnu sylw at ymarfer lle’r oedd angen sicrhau mwy o gysondeb, er enghraifft ansawdd trosglwyddiadau, prosesau gwirio llesiant, gweinyddu meddyginiaeth a threfniadau profion cyffuriau.
- Roedd swyddog datblygu ansawdd dynodedig ar gyfer safleoedd cymeradwy yng Nghymru er mwyn cefnogi dysgu parhaus a helpu rheolwyr i lywio a chyflawni’r agenda gwella ansawdd.
- Roedd cyfarfod tasgau swyddogion gwasanaethau prawf wythnosol, wedi’i gadeirio gan y rheolwr, yn ffordd o fynd i’r afael ag ansawdd a pherfformiad, gan atgoffa’r staff o dasgau allweddol i’w cwblhau a rhoi cyfle i edrych ymlaen a pharatoi ar gyfer derbyniadau newydd. Roedd y cyfarfod hwn wedi bod yn ffactor allweddol i Quay House gynnal ei berfformiad cryf.
- Roedd y rheolwr yn annog staff i ystyried anghenion unigol preswylwyr, gan gynnwys crefydd, cyflyrau iechyd, hanes trawma a gofynion cyfathrebu, yn ystod gwaith sefydlu a gwaith o ddydd i ddydd. Roedd addasiadau’n cael eu gwneud i breswylwyr â nodweddion gwarchodedig neu anghenion ychwanegol, er enghraifft addasu dulliau sefydlu, ystafelloedd adleoli ar gyfer diogelwch neu gyfforddusrwydd, a chefnogi mynediad at ofal iechyd. Gwnaed addasiadau rhesymol ar gyfer cydweithwyr a phreswylwyr niwroamrywiol, gan gynnwys newidiadau i rolau a chymorth wedi’i deilwra.
- Ar lefel strategol, roedd arweinwyr yn defnyddio data am boblogaeth y safle cymeradwy gyda dadansoddiad rhanbarthol blynyddol o’r boblogaeth ehangach o bobl ar gyfnod prawf, a gynhaliwyd gan dîm integreiddio cymuned Cymru. Roedd hyn yn galluogi i unrhyw fylchau gael eu nodi yn y gwasanaeth. Yn y dadansoddiad diweddaraf, dangoswyd bod angen sylw ac adnoddau ychwanegol ar bobl ag anableddau a niwroamrywiaeth. Mewn ymateb i hyn, trefnwyd ystafell synhwyraidd, dyfeisiau ffidlan a hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl.
- Roedd y mwyafrif o’r arwyddion yn ac o amgylch Quay House wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg. Fe wnaethom arsylwi hefyd bod y staff yn defnyddio’r Gymraeg yn eu cysylltiadau dyddiol, er enghraifft ateb galwadau ffôn ac wrth gyfarch pobl. Roedd yr arfer hwn yn cyd-fynd â chyflawni’r gofynion yng nghynllun iaith Gymraeg HMPPS (2025).
Meysydd i’w gwella:
- Er bod rhai aelodau o staff yn amwys ynglŷn â gweledigaeth y safle cymeradwy, o ystyried ei gyflwyniad diweddar, roeddynt yn glir ynghylch eu blaenoriaethau a nodau cyffredinol Quay House i ddiogelu’r cyhoedd, cefnogi adsefydliad a helpu preswylwyr i ail-gartrefu yn y gymuned.
- Dywedodd rhai aelodau o staff eu bod ond wedi derbyn hyfforddiant ffurfiol cyfyngedig ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer y safle cymeradwy penodol, gan ddibynnu mwy ar brofiad a goruchwyliaeth rheolwyr llinell na chanllawiau strwythuredig. Roedd y staff yn cydnabod y gellid gwella dulliau cofnodi a darparu tystiolaeth o waith cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn cofnodion achosion.
Staffio (Back to top)
| Mae’r staff yn cael eu galluogi i ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i breswylwyr. | Graddfa |
| Rhagorol |
Cryfderau:
- Mae Quay House yn cynnal lefelau staffio sefydlog ar y cyfan, wedi’u cefnogi gan dîm craidd hirsefydlog a phrofiadol. Roedd system i ddod o hyd i staff llanw sesiynol i weithio yn ystod absenoldebau, yn enwedig ar gyfer shifftiau penwythnos a nos.
- Roedd y dull o integreiddio cydweithwyr y llwybr anhwylder personoliaeth troseddwyr (OPD) a phresenoldeb arferol yr heddlu wedi creu argraff ar yr arolygwyr, gyda phresenoldeb y ddau yn darparu gwytnwch ychwanegol ac yn gwella gallu’r safle cymeradwy yn arwyddocaol i reoli risgiau cymhleth yn ddiogel.
- Nodwyd cymhelliant, tosturi, diwydrwydd a lefel o chwilfrydedd proffesiynol y staff a’r camau a gymerwyd i ymgysylltu â phreswylwyr, rheoli eu risgiau a hybu adsefydliad.
- Roedd rheolwr y safle cymeradwy yn cynnal gweithgarwch sicrhau ansawdd helaeth ar draws y llwyth achosion, gyda’r rhan fwyaf o fylchau ymarfer wedi’u nodi eisoes, adborth wedi’i roi a chanllawiau clir wedi’u darparu i’r staff ar sut y dylid gwneud gwelliannau. Roedd hyn yn adlewyrchu lefel uchel o oruchwyliaeth a sylw at fanylder gan y rheolwr. Roedd goruchwyliaeth reoli effeithiol yn amlwg yn saith o’r wyth achos a arolygwyd – adlewyrchiad o waith caled a diwydrwydd rheolwr y safle cymeradwy. Roedd y gwaith goruchwylio hwn yn cynnwys cyfeirio staff pan oedd risgiau yn dod i’r amlwg mewn achosion, cydlofnodi cynlluniau diogelwch a chymorth, gwirio amlder ac ansawdd gwaith allweddol, cynghori ar gamau gorfodi, a gwirio ansawdd cofnodi gwaith achos cyffredinol yn aml.
- Roedd y rheolwr yn cefnogi datblygiad proffesiynol y tîm yn weithredol, ac roedd dau aelod o staff wedi llwyddo i sicrhau lleoedd yn ddiweddar ar y rhaglen Cymhwyster Proffesiynol mewn Gwaith Prawf ac roeddynt ar fin dechrau eu hyfforddiant fel swyddogion prawf dan hyfforddiant.
- Archwiliwyd anghenion unigol preswylwyr yn ystod gwaith sefydlu a gwaith allweddol, gyda’r staff yn addasu’r sesiynau er mwyn darparu ar gyfer gorbryder, hwyliau isel, anghenion dysgu neu bryderon llesiant emosiynol. Gwelsom sawl enghraifft o breswylwyr ag anghenion cymhleth, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), anhwylder herfeiddiol gwrthwynebol (ODD), niwroamrywiaeth neu bryderon camddefnyddio sylweddau, yn derbyn gwaith monitro a gwaith wedi’i deilwra ychwanegol er mwyn cyflawni eu hanghenion. Mewn un enghraifft, nododd y staff yn briodol pan oedd cyflwyniad preswylydd yn adlewyrchu trallod emosiynol yn hytrach na diffyg cydymffurfiaeth, a’u bod wedi addasu disgwyliadau a’u cefnogi’n briodol.
- Dywedodd pob un o’r naw preswylydd a gyfwelwyd wrthym bod y staff “bob amser” ar gael i ddarparu cefnogaeth pan oeddynt ei hangen. Dywedodd wyth o’r naw preswylydd a gyfwelwyd eu bod “bob amser” yn cael eu trin gydag urddas a pharch, a dywedodd un preswylydd bod hyn yn digwydd “y rhan fwyaf o’r amser”. Arsylwodd yr arolygwyr ryngweithiadau ffurfiol ac anffurfiol rhwng y staff a’r preswylwyr, ac roedd y rhain i gyd yn broffesiynol, parchus a phriodol.
- Disgrifiodd y staff Quay House fel gweithle cefnogol, cadarnhaol a sefydlog, gyda chydlyniant tîm cryf a pharch at ei gilydd. Dywedwyd eu bod yn teimlo bod rheolwr y safle cymeradwy yn eu gwerthfawrogi ac yn gwrando arnynt, a bod y rheolwr yn rhagweithiol, ar gael ac yn ymrwymedig i welliannau. Dywedodd y staff eu bod yn cael eu hannog i gyfrannu syniadau a dylanwadu ar welliannau, er enghraifft addasu prosesau trosglwyddo a mireinio deunyddiau sefydlu. Dywedodd nifer o’r staff y byddent yn argymell y safle cymeradwy fel lle i weithio, gan gyfeirio at yr amgylchedd cefnogol a’r arweinyddiaeth gref. Disgrifiwyd diwydiant ganddynt lle’r oeddynt yn teimlo bod pobl yn ymddiried ynddynt, eu bod yn teimlo’n seicolegol ddiogel ac wedi’u cymell i ddarparu cymorth o ansawdd uchel i breswylwyr. Yn anochel roedd rhywfaint o bwysau – er enghraifft llwyth gwaith a gofynion gweinyddol uchel – ond nid oedd y rhain wedi lleihau ymgysylltiad neu ymrwymiad cyffredinol y staff.
- Roedd y staff yn derbyn goruchwyliaeth reolaidd, bob saith wythnos fel arfer, gyda ffocws ar ansawdd ymarfer, datblygiad proffesiynol a llesiant. Roedd y rheolwr yn darparu goruchwyliaeth a chefnogaeth anffurfiol ychwanegol, gan gynnig arweiniad a sicrwydd amserol pan fyddai pryderon yn codi i’r tîm neu aelodau staff unigol. Roedd hyn yn helpu i gynnal cysondeb ymarferol ac roedd yn cyfrannu at amgylchedd gwaith cefnogol. Dywedodd y staff eu bod yn teimlo wedi’u cefnogi a’u bod yn gallu codi materion naill ai’n ffurfiol neu’n anffurfiol, gan gyfrannu at eu dysgu a’u hyder. Roedd y rheolwr, a oedd hyn hyfforddi mewn sgiliau ar gyfer ymgysylltiad, datblygiad a goruchwyliaeth effeithiol (SEEDS) hefyd yn cynnal arsylwadau strwythuredig o ymarfer y staff, ac roedd yn defnyddio’r dull hwn i ddarparu adborth adeiladol a chymorth i staff ddatblygu eu sgiliau a’u hyder.
- Roedd y gweinyddwr yn rheoli’r rota yn effeithiol, gyda llwybr uwchgyfeirio at reolwyr pan na fyddai’n bosibl canfod staff llanw. Dywedodd staff mai anaml iawn yr oedd angen uwchgyfeirio, sy’n dangos bod shifftiau arferol yn cael eu llenwi oherwydd gwaith tîm effeithiol.
- Roedd dyddiau cwrdd i ffwrdd chwarterol i’r tîm wedi datblygu i fod yn arfer sefydledig yn Quay House. Roedd y digwyddiadau hyn yn darparu amser i ffwrdd dynodedig o’r safle cymeradwy i fyfyrio, datblygu cydlyniant a chanolbwyntio ar wella ymarfer. Roedd y rheolwr a’r gweinyddwr yn sicrhau bod staff priodol yn gweithio yn ystod pob diwrnod cwrdd i ffwrdd, er mwyn i’r safle cymeradwy barhau i weithredu’n ddiogel ac effeithiol.
- Er bod y gwaith o reoli adnoddau yn gymhleth, roedd gwytnwch amlwg yn strwythur safleoedd cymeradwy Cymru, ac roedd y tebygolrwydd y byddai angen i safle cymeradwy yng Nghymru gau yn annhebygol iawn. Pan fyddai angen, gallai uwch arweinwyr gyfeirio staff i fod yn staff llanw mewn safleoedd eraill, gan sicrhau parhad y gweithrediadau. Yn ogystal, oherwydd bod isadran y safle cymeradwy wedi’i lleoli yn rhanbarth brawf ehangach Cymru, roedd yn bosibl cyfeirio staff o unedau cyflawni prawf (PDU) hefyd i gefnogi safleoedd cymeradwy. Roedd hyn yn darparu haen ychwanegol o hyblygrwydd a gwytnwch nad oedd bob amser ar gael mewn rhanbarthau eraill.
Meysydd i’w gwella:
- Roedd rhai anghysondebau yn ansawdd y gwaith achos mewn nifer fach o achosion, gydag amrywiadau yn ansawdd y gwaith cofnodi ac olrhain cysylltiadau a fethwyd. Er gwaethaf y bylchau hyn, roedd staff yn gyffredinol yn ymddangos fel rhai abl, ymroddedig, a hyderus yn eu dyletswyddau gweithredol.
- Cyfeiriodd rhai aelodau o staff at ddarpariaeth anghyson o nodiadau goruchwylio ysgrifenedig, a oedd yn cyfyngu ar ddogfennu cynnydd a chamau dilynol. Serch hynny, ailadroddodd yr holl staff eu bod yn cael yr hyn yr oeddynt yn teimlo oedd ei angen arnynt o’r broses oruchwylio.
Diogelwch (Back to top)
| Mae’r safle cymeradwy yn darparu amgylchedd diogel, iach ac urddasol i’r staff a’r preswylwyr. | Graddfa |
| Da |
Cryfderau:
- Roedd y risgiau o hunan-niwed a hunanladdiad yn cael eu rheoli’n briodol. Ym mhob un o’r wyth achos a arolygwyd, roedd cynlluniau diogelwch a chymorth cychwynnol ac adolygu yn cael eu cwblhau, yn ôl yr angen. Roedd y rheolwr wedi llofnodi pob un o’r rhain, a gwelsom enghreifftiau o adborth adeiladol a roddwyd i staff er mwyn mireinio neu dynhau cynlluniau cymorth pan oedd angen.
- Roedd cyfarfodydd Ffactorau Dynol Dyddiol yn darparu trafodaeth amser real o ddigwyddiadau dros nos, cyflwyniad preswylwyr, canlyniadau profion cyffuriau a mesurau diogelu gofynnol. Roedd gwiriadau llesiant yn cael eu trefnu’n rheolaidd ac yn cael eu cofnodi’n gadarn mewn nodiadau achos – gan gynnwys ymatebion deffro ar adegau penodedig yn ystod y nos. Roedd gweithdrefnau gwirio llesiant wedi’u hatgyfnerthu yn dilyn archwiliadau cenedlaethol.
- Roedd y staff yn cydnabod ac yn ymateb i ddangosyddion llesiant emosiynol (e.e. hwyliau isel, gorbryder, synio am hunanladdiad), gan addasu disgwyliadau a chymorth i breswylwyr yn unol â hynny. Roedd cydweithwyr y llwybr anhwylder personoliaeth troseddwyr wedi’u hymgorffori’n llawn ym model gweithredu’r safle cymeradwy. Roedd nyrs seiciatrig gymunedol ar y safle ddau ddiwrnod yr wythnos a seicolegydd un diwrnod yr wythnos. Yn ogystal â darparu ymgynghoriad i staff Quay House ynghylch eu gwaith o reoli achosion cymhleth, roeddynt hefyd yn darparu cymorth un i un i breswylwyr – gan ychwanegu at wytnwch a gallu cyffredinol y safle cymeradwy i ymateb i breswylwyr mewn argyfwng.
- Roedd y dulliau o storio a gweinyddu meddyginiaeth yn gyffredinol gyson â pholisïau ac yn alinio ag arfer gorau. Roedd y rheolwr wedi mandadu pob aelod o staff yn Quay House i fynychu hyfforddiant ychwanegol ar feddyginiaeth a oedd yn cael ei ddarparu gan y tîm safleoedd cymeradwy cenedlaethol (NAPT) yn y 12 mis diwethaf ac roedd y staff wedi datgan hyder yn y broses. Roedd rheolwr y safle cymeradwy yn hyderus yng nghydymffurfiaeth y grŵp staff â’r polisi, ac roedd archwiliadau mewnol dyddiol ac wythnosol yn cynnal sicrwydd bod y preswylwyr wedi derbyn eu meddyginiaethau cywir. Roedd y broses feddyginiaeth yn cael ei harchwilio yn ei chyfanrwydd gan y rheolwr ardal bob blwyddyn.
- Dangosodd staff sylw gweithredol i ddiogelu preswylwyr yn ystod trosglwyddiadau bore a nos. Gwelsom hwy’n ymateb yn briodol i bryderon drwy gynnal gwiriadau lles gwell, cynyddu gwaith monitro pan oedd preswylwyr yn ymddangos yn sâl, a throsglwyddo materion yn gyflym i reolwyr am gyngor ac arweiniad pellach. Bu’r tîm hefyd yn cydweithio â chydweithwyr anhwylder personoliaeth troseddwyr, gan wirio cynlluniau a strategaethau diogelu mewn amser real i sicrhau bod preswylwyr yn derbyn cefnogaeth briodol.
- Roedd y staff yn arddangos chwilfrydedd proffesiynol, gan nodi pryderon fel cysylltiadau peryglus, dirywiad emosiynol, amheuon o ddefnyddio cyffuriau a phwysau gan breswylwyr eraill. Defnyddiwyd chwiliadau o ystafelloedd, profion cyffuriau a gwaith monitro manylach yn briodol pan oedd pryderon diogelu yn codi. Roedd cysylltiadau aml-asiantaeth yn amlwg yn yr ymatebion diogelu, gan gynnwys cysylltu â gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gofal iechyd pan oedd angen.
- Roedd y gwaith o reoli ymddygiad preswylwyr yn dilyn dull strwythuredig a graddedig, gan gynnwys rhybuddion llafar, rhybuddion ysgrifenedig gan y rheolwr, cynlluniau gwella a thynnu’r ddarpariaeth gwely yn ôl pan fydd angen.
- Rhoddwyd gwybodaeth glir i breswylwyr yn ystod y cam sefydlu ynglŷn â rheolau, disgwyliadau, eitemau gwaharddedig, gofynion cyrffyw /llofnodi, a phrosesau gorfodi. Roedd y rheolwr hefyd yn arwain cyfarfod penodol ar gyfer preswylwyr newydd bob wythnos, a oedd yn darparu cyfle pellach i ailadrodd rheolau allweddol a disgwyliadau, atgyfnerthu negeseuon cyson, a sicrhau bod preswylwyr newydd yn deall yr hyn sy’n ofynnol ganddynt yn llwyr. Roedd cyfarfodydd trosglwyddo a Ffactorau Dynol yn helpu’r staff i gynnal ymwybyddiaeth o bryderon ymddygiad ymhlith y grŵp preswylwyr a chytuno ar ddulliau cyson mewn achosion o ddiffyg cydymffurfiaeth. Roedd y preswylwyr yn deall bod yr heddlu cymunedol a swyddogion rheoli troseddwyr rhyw a throseddwyr treisgar (MOSOVO) yn mynychu’r safle cymeradwy yn rheolaidd, gan gefnogi disgwyliadau ynghylch cydymffurfiaeth ac ymddygiad.
- Cynhaliwyd gwiriadau llesiant yn unol â pholisïau cenedlaethol ar y cyfan, ac roeddynt yn cael eu cofnodi’n glir a chyson yn nDelius (system rheoli achosion prawf). Fe welsom staff hefyd yn cyfleu gwybodaeth i’w gilydd ynglŷn ag arsylwadau am breswylwyr unigol mewn trosglwyddiadau ffurfiol ac yn anffurfiol. Roedd trosglwyddiadau ffurfiol yn cynnwys adolygiadau manwl ystafell wrth ystafell, rhannu gwybodaeth am ymddygiad a sicrhau parhad dealltwriaeth rhwng shifftiau. Pan oedd ymddygiad pryderus yn dod i’r amlwg (e.e. bod yn hwyr, methu cyrffyw, defnyddio cyffuriau) roedd y staff yn cymryd camau gweithredu ymatebol, gan gynnwys mwy o waith monitro neu orfodi. Roedd trosglwyddiadau’n cael eu cofnodi yn unol â disgwyliadau cenedlaethol. Roedd arsylwadau ynghylch ymddygiad y preswylwyr yn cael eu cyfleu hefyd i ymarferwyr prawf a’u cofnodi yn nDelius, yn ôl yr angen.
- Roedd yn gadarnhaol bod pob ystafell yn Quay House yn rhai meddiannaeth unigol, oherwydd roedd hyn yn rhoi preifatrwydd a gofod personol i breswylwyr, roedd llai o gyfleoedd i wrthdaro ac yn helpu i greu amgylchedd byw digynnwrf a mwy diogel. Roedd un ystafell ddynodedig ar gyfer preswylwyr a oedd yn cyflwyno risgiau hanesyddol o achosi tanau bwriadol. Roedd dyraniadau i’r ystafell hon yn cael eu cefnogi drwy asesiadau risg priodol. Roedd gan bob ystafell wely ddodrefn gwrth-glymu er mwyn lleihau’r posibilrwydd o hunan-niwed a hunanladdiad. Roedd un ystafell ar y llawr daear yn un gydag ystafell ymolchi, ac yn addas ar gyfer pobl â symudedd cyfyngedig, ac roedd ystafell ymolchi arall ar y llawr cyntaf yn darparu hyblygrwydd i letya preswylwyr a allai elwa ar breifatrwydd ychwanegol neu sydd ag anghenion iechyd, llesiant neu amrywiol y gellid eu cefnogi y tu hwnt i’r amgylchedd llawr daear.
- Roedd gan y gampfa ystod eang o offer ymarfer corff o ansawdd da. Roedd preswylwyr yn defnyddio’r gampfa’n aml ac roedd yn rhan sylfaenol o ffocws cadarnhaol y safle cymeradwy ar iechyd a lles.
- Roedd gardd ddeniadol a oedd yn cael ei chynnal a’i chadw yn dda yn cynnig gofod heddychlon i’r preswylwyr yn yr awyr agored, er gwaethaf lleoliad canol dinas y safle cymeradwy. Roedd yr ardal hon yn darparu cyfle i dreulio amser yn yr awyr agored, a chael seibiant o’r amgylchedd cymunol prysur, gan gefnogi llesiant cyffredinol y preswylwyr. Roedd tŷ haf deniadol wedi’i greu yn yr ardd, gan gynnig gofod tawel ar gyfer seibiant. Roedd hefyd yn darparu ardal ychwanegol ddefnyddiol ar gyfer cyfarfodydd neu gyfweliadau.
- Roedd cyfleusterau toiled ac ymolchi cymunol digonol, ac roedd y rhain i gyd yn lân ac yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda. Ni welsom unrhyw waith atgyweirio i’w wneud. Siaradodd y preswylwyr yn gadarnhaol am y cyfleusterau toiled a chawod, gan nodi eu bod yn lân a bod nifer digonol ohonynt ar gael.
- Roedd darpariaeth camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) derbyniol drwy’r safle cymeradwy cyfan. Roedd ansawdd y teledu cylch cyfyng yn dda. Roedd larymau panig wedi’u lleoli ac roeddynt yn cael eu profi’n aml, yn yr un modd â’r larymau tân. Roedd staff ac ymwelwyr yn derbyn larymau ymosodiad personol, yn ôl yr angen.
Meysydd i’w gwella:
- Er bod y preswylwyr wedi dweud wrth yr arolygwyr eu bod yn fodlon â’u hystafelloedd gwely ar y cyfan, roeddynt yn feirniadol o’r carpedi wedi staenio.
- Er bod llawr daear Quay House yn lân, gweddus ac yn cael ei gynnal a’i gadw’n dda, fe wnaethom nodi nad oedd y llawr cyntaf, lle’r oedd ystafelloedd gwely’r preswylwyr wedi’u lleoli, yn cyflawni’r un safon. Er bod y staff yn gwneud ymdrechion i wella amodau drwy lanhau carpedi a chael gwared ar eitemau treuliedig yn yr ystafelloedd gwely, roedd angen ail-baentio’r ardal ac roedd angen carpedi newydd i gyd. Roedd y llawr cyntaf yn boeth iawn hefyd ac yn arbennig o fyglyd yn ystod misoedd yr haf. Pwysleisiodd y tîm yn Quay House yr angen am system aerdymheru, ac roedd yr arolygwyr yn cytuno y byddai hyn yn fuddiol.
- Nid oedd gan yr ystafell ddynodedig ar gyfer y rhai â risgiau hanesyddol o gynau tanau’n fwriadol system chwistrellu.
Diogelu’r cyhoedd (Back to top)
| Mae’r safle cymeradwy yn diogelu’r cyhoedd yn effeithiol | Graddfa |
| Rhagorol |
Cryfderau:
- Roedd Quay House yn gweithio’n agos gyda thimau plismona lleol, gan gynnwys MOSOVO a thimau plismona yn y gymdogaeth, a oedd yn ymweld yn rheolaidd, yn darparu cudd-wybodaeth, cefnogi penderfyniadau risg, ac yn helpu i fonitro unigolion risg uchel. Roedd y safle cymeradwy yn rhannu gwybodaeth yn rhagweithiol, gyda rhestrau wythnosol o breswylwyr yn cael eu hanfon at bartneriaid yn yr heddlu. Roedd y bartneriaeth hon yn cyfrannu’n uniongyrchol at reoli risg yn y gymuned leol.
- Roedd y safle cymeradwy yn cael ei gynrychioli ym mhob cyfarfod trefniadau aml-asiantaeth ar gyfer amddiffyn y cyhoedd (MAPPA) gyda’r dirprwy bennaeth diogelu’r cyhoedd, y rheolwr ardal a rheolwr y safle cymeradwy yn rhannu cyfrifoldebau mynychu yn unol â’u gradd, lefel o gyfrifoldeb, a lefel MAPPA pob achos. Anogwyd gweithwyr allweddol hefyd i fynychu cyfarfodydd MAPPA ar gyfer eu hachosion eu hunain, pan oeddynt ar gael. Pe na allent eu mynychu, roedd y staff yn darparu diweddariadau ysgrifenedig ar gyfer cyfarfodydd yn ôl yr angen.
- Roedd y rheolwr yn adolygu pob dyraniad i Quay House, a gwelsom dystiolaeth o oruchwyliaeth reoli effeithiol ar y pwynt dyrannu mewn saith o wyth achos a arolygwyd. Roedd yn ymddangos bod yr un achos heb oruchwyliaeth yn eithriad ac nad oedd yn gyson ag arfer safonol.
- Roedd model cydweithredu a chyfathrebu dyddiol Cymru gyda’r uned atgyfeirio ganolog (CRU) yn amlwg yn Quay House, a oedd yn galluogi dyraniadau esmwyth a’r gallu i ddatrys problemau mewn amser real. Pwysleisiodd y rheolwr allu ac amgylchedd y safle cymeradwy wrth drafod dyraniadau gyda’r uned atgyfeirio ganolog, a oedd yn cefnogi prosesau lleoli preswylwyr risg uwch neu fwy cymhleth wedi’u cefnogi’n dda. Dywedodd y staff bod ansawdd yr atgyfeiriadau o’r uned atgyfeirio ganolog yn dda ar y cyfan ac yn gwella, ac roedd yr ymgysylltiad uniongyrchol rhwng timau’r safle cymeradwy a’r uned cyflawni gwasanaeth prawf wedi helpu hyn.
- Roedd ein hadolygiad o benderfyniadau gorfodi, adalwadau y tu allan i oriau arferol, ac ymateb y safle cymeradwy i brofion cyffuriau ac alcohol positif yn y tri mis yn arwain at ein gwaith maes yn dangos arfer cadarn yn y maes hwn.
- Dangosodd y staff chwilfrydedd proffesiynol pan fyddai pryderon diogelu yn codi. Darparodd y rheolwr enghreifftiau o gamau gweithredu a gymeradwywyd gan y safle cymeradwy pan oedd preswylwyr wedi’u gweld gydag oedolion neu blant anhysbys, er enghraifft. Roedd presenoldeb rheolaidd MOSOVO a thimau plismona yn y gymdogaeth yn darparu lefel o wytnwch ar gyfer ymateb yn briodol a chyflym pan oedd angen gweithredu ar bryderon diogelu plant neu oedolion.
- Roedd y sampl o achosion a arolygwyd yn pwysleisio rhai arferion cadarn o rannu gwybodaeth a chydweithio gydag ymarferwyr prawf. Roedd y staff yn cyfathrebu’n rhagweithiol gyda staff mewn unedau cyflawni gwasanaeth prawf a gwelsom rywfaint o ddefnydd rheolaidd o gyfarfodydd tair ffordd i gymell preswylwyr a rheoli’r risgiau a gyflwynwyd ganddynt ar y cyd. Roedd staff yn rhannu gwybodaeth allweddol am risgiau gyda’r ymarferwyr prawf, gan gynnwys diweddariadau ar ymddygiad, cysylltiadau, canlyniadau profion cyffuriau, a newidiadau mewn cyflwyniad. Roedd cofnodion trosglwyddo, cyfathrebiadau mewnol a chyfarfodydd Ffactorau Dynol dyddiol yn cefnogi gwaith monitro cyson ac yn galluogi staff i nodi beth oedd angen ei gyfathrebu’n allanol gydag ymarferwyr prawf. Disgrifiodd y staff berthnasoedd gweithio da gyda llawer o ymarferwyr, gyda chyfathrebu gwell yn digwydd yn awr o gymharu â’r gorffennol. Roedd llwybr uwchgyfeirio drwy reolwr y safle cymeradwy ar gael pan nad oedd ymarferwyr prawf yn ymateb neu’n rhannu gwybodaeth yn briodol. Roedd y broses ar gyfer cofnodi a monitro cydymffurfiaeth ag amodau trwydded yn y brif swyddfa, gan gynnwys llofnodi a chyrffyw, ar gael yn gyfleus ac yn gadarn.
- Roedd acronym trosglwyddo, symudiadau, gweithgareddau/apwyntiadau, cyflwyniad, risg, ceisiadau (MAPRR) a chanllawiau cysylltiedig wedi’u datblygu a’u gweithredu. Darparodd hyn fframwaith strwythuredig a ddefnyddiwyd gan y tîm i sicrhau bod trafodaethau trosglwyddo yn drylwyr, yn gyson, ac yn cynnwys yr holl wybodaeth a’r camau dilynol perthnasol.
- Cynhaliwyd profion cyffuriau ac alcohol yn rheolaidd, a rhoddwyd ystod eang o achosion enghreifftiol i ni o’r tri mis cyn ein harolygiad pan oedd profion cyffuriau ac alcohol wedi’u cynnal a phenderfyniadau priodol wedi’u gwneud mewn ymateb i brofion positif a risg gynyddol. I atgyfnerthu ymateb a phenderfyniadau’r tîm ar brofion cyffuriau, roedd y rheolwr wedi cyflwyno canllawiau un tudalen yn amlinellu sut y dylid rheoli canlyniadau positif, gan atgoffa’r staff o bwysigrwydd ystyried amgylchiadau pob unigolyn a’r risgiau cysylltiedig. Dywedodd y rheolwr bod yr ymarfer wedi gwella ers i’r canllawiau gael eu gweithredu.
Meysydd i’w gwella:
- Canfu’r arolygwyr bod oedi gyda’r broses profion cyffuriau, gyda’r staff yn datgan ei bod yn cymryd nifer o ddyddiau neu fwy i gael canlyniadau’r profion, gan lesteirio penderfyniadau rheoli risg cyflym. Fe wnaethant hefyd nodi achosion diweddar o ganlyniadau ‘positif anghywir’, a bu’n rhaid gofyn am eglurhad pellach gan ddarparwyr allanol. Mynegodd staff bod yn well ganddynt opsiynau profi cyflymach neu yn y fan a’r lle er mwyn gallu cefnogi penderfyniadau diogelu a gorfodi mwy amserol.
- Nid yw gwybodaeth ddiogelu bob amser yn cael ei chofnodi mewn digon o fanylder ym mhob cofnod achos i ddangos y camau gweithredu a gymerwyd a’u canlyniadau.
Adsefydlu (Back to top)
| Mae’r safle cymeradwy yn darparu gweithgareddau i leihau aildroseddu | Graddfa |
| Da |
Cryfderau:
- Drwy ein holl waith maes, arsylwodd arolygwyr ryngweithiadau ffurfiol ac anffurfiol rhwng staff a phreswylwyr, ac roeddynt i gyd yn broffesiynol, yn barchus, ac yn briodol – sylfaen bwysig ar gyfer gwaith adsefydlu.
- Dangosodd sesiynau gwaith allweddol a sefydlu rhyngweithiadau parchus, cefnogol, a oedd yn canolbwyntio ar y preswylydd, gan alluogi trafodaeth ac ymgysylltiad agored. Adroddodd preswylwyr eu bod yn teimlo’n gyfforddus bod y staff yn gwrando arnynt ac yn eu cefnogi, a oedd yn annog cyfranogiad mewn gweithgareddau adsefydlu.
- Roedd arweinwyr yn cydweithio’n effeithiol ag amrywiaeth o bartneriaid cymunedol lleol i gefnogi cyfleoedd i breswylwyr a rheoli risg. Roedd tystiolaeth gref o bartneriaethau aml-asiantaeth sefydledig, a ddefnyddiwyd yn rheolaidd i wella canlyniadau i breswylwyr a gwella diogelwch y cyhoedd.
- Roedd ymgysylltiad cryf gyda’r gwasanaethau iechyd lleol. Roedd y feddygfa meddygon teulu, lle’r oedd pob un o’r preswylwyr wedi’u cofrestru, a fferylliaeth leol, yn gweithio’n agos gyda’r safle cymeradwy i gefnogi rhagnodi a darparu meddyginiaeth yn ddiogel. Roedd integreiddio cydweithwyr y llwybr anhwylder personoliaeth troseddwyr yn Quay House wedi atgyfnerthu’r cynnig adsefydlu yn sylweddol, gan ychwanegu arbenigedd a oedd o fudd uniongyrchol i’r preswylwyr.
- Roedd y rheolwr yn cynnal cysylltiadau cryf gydag ystod eang o wasanaethau lleol yn y gymuned, gan gynnwys Gyrfa Cymru, Cyfle Cymru (addysg, hyfforddiant a chyflogaeth), Forward Trust, Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, a gwasanaethau iechyd rhywiol. Yn ogystal, roedd y safle cymeradwy hefyd yn cynnal clinig well-man, gydag aelod o staff hyfforddedig. Roedd y partneriaethau hyn yn ehangu’r gefnogaeth sydd ar gael i breswylwyr a sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at ymyriadau arbenigol yn uniongyrchol yn Quay House. Roedd rhywfaint o gydweithredu gyda chydweithwyr yn y carchardai hefyd, a oedd yn darparu cŵn canfod cyffuriau (i atal defnyddio a meddu ar sylweddau anghyfreithlon yn y safle cymeradwy) a dillad wrth gefn ar gyfer preswylwyr mewn argyfyngau.
- Roedd llu o weithgareddau adsefydlu yn cael eu cynnal yn Quay House, a oedd yn cynnwys:
– cyfarfod gorfodol i breswylwyr
– cyfarfod penodol ar gyfer preswylwyr newydd
– celf a chrefft
– coginio a maeth
– grŵp llesiant
– gweithdy iechyd meddwl
– sesiynau un i un gyda nyrs seiciatrig gymunedol anhwylder personoliaeth troseddwyr
– caplaniaeth
– brwydro digartrefedd
– cŵn therapi
– clinig iechyd rhywiol
– clinig well-man
– gweithgarwch symud ymlaen
– garddio. - Siaradodd y preswylwyr yn gadarnhaol ynglŷn â’r ystod o weithgareddau a oedd ar gael yn Quay House. Dywedodd dau ohonynt wrth yr arolygwyr eu bod yn “rhagorol”, dywedodd chwech eu bod yn “dda”, ac un eu bod yn “weddol”.
- Roedd yr arolygwyr o’r farn bod y preswylwyr wedi derbyn rhaglen sefydlu addas ac amserol i’r safle cymeradwy ym mhob achos a arolygwyd. Darparwyd rhaglen sefydlu cam cyntaf yn brydlon wrth gyrraedd, yna dod i adnabod yr adeilad, chwilio am eiddo a gweithdrefnau ymgartrefu cychwynnol. Roedd y staff yn esbonio’r rheolau, yr arferion, gofynion cyrffyw a llofnodi, a sicrhau bod y preswylwyr yn deall y disgwyliadau o’r dechrau. Dywedodd pedwar o’r preswylwyr bod eu cam sefydlu i Quay House wedi bod yn “rhagorol” a dywedodd pump wrthym ei fod yn “dda”.
- Roedd gan y rheolwr ddisgwyliadau clir ynglŷn â chyswllt gyda phreswylwyr cyn iddynt gyrraedd, wedi’i gynnal wyneb yn wyneb yn ddelfrydol, ac roedd hyn yn orfodol pan oedd amser yn caniatáu. Bu’r arolygwyr yn arsylwi cyfarfod cyn rhyddhau gyda darpar breswylydd drwy Microsoft Teams rhwng gweithiwr allweddol ac ymarferydd prawf, a oedd yn dangos gwaith paratoi da a chydweithio effeithiol. Roedd y cyfarfod cyntaf hwn yn un adeiladol a chadarnhaol rhwng y preswylydd ac aelod o staff o Quay House.
- Cwblhawyd cynlluniau preswylio cyn i’r preswylwyr gyrraedd ym mhob un o’r achosion a arolygwyd. Bu rhywfaint o gysylltiad cyn i breswylwyr gyrraedd mewn pump o’r wyth achos a arolygwyd. Roedd y cyswllt hwn ar ffurf gwybodaeth am y safle cymeradwy a anfonwyd at y darpar breswylwyr yn y ddalfa. Yn drawiadol, roedd saith o’r naw preswylydd a gyfwelwyd wedi derbyn cysylltiad gan staff y safle cymeradwy cyn iddynt gyrraedd Quay House.
- Roedd gwaith achos rheolaidd yn amlwg yn saith o’r wyth achos a arolygwyd, ac roedd yr arolygwyr o’r farn bod hyn wedi bod yn ystyrlon a’u bod wedi’u darparu i safon ddigonol ym mhump ohonynt. Roedd y rheolwr yn ymwybodol bod ansawdd y broses o gofnodi gwaith allweddol yn y tîm yn gymysg, ac roedd cynlluniau i ddatrys y diffygion hynny. Dywedodd y mwyafrif o’r preswylwyr a gyfwelwyd gan arolygwyr bod eu sesiynau gwaith allweddol wedi bod yn “rhagorol” neu’n “dda”.
- Roedd gweithwyr allweddol wedi gwneud atgyfeiriadau priodol at wasanaethau allanol i gefnogi adsefydliad preswylwyr. Gwelsom hefyd, drwy arolygu achosion ac arsylwadau byw, bod y gweithwyr allweddol yn hyrwyddo ac yn annog cyfranogiad y preswylwyr mewn gweithgareddau adsefydlol a ddarparwyd yn fewnol, gan gynnwys y grŵp llesiant, sesiynau celf a chrefft a’r gweithdai coginio a thai. Defnyddiodd y gweithwyr allweddol y cyfleoedd hyn i gymell y preswylwyr, atgyfnerthu buddion gweithgareddau strwythuredig, a’u cefnogi i greu arferion cadarnhaol yn ystod eu lleoliad.
- Mewn sawl achos, roedd y gwaith allweddol wedi mynd i’r afael yn effeithiol â llesiant emosiynol, helpu i sefydlogi preswylwyr ac annog ymgysylltiad gyda chymorth pellach.
- Roedd gan Quay House ddull gweithredu rhagweithiol ar gyfer helpu preswylwyr i symud ymlaen yn llwyddiannus ar ddiwedd eu lleoliad. Roedd disgwyliad i bob preswylydd gwblhau’r llyfryn ‘symud ymlaen’ gyda gweithiwr preswyl, a oedd wedi’i strwythuro o amgylch egwyddorion cefnogaeth a chydymffurfiaeth tenantiaeth effeithiol. Yn ogystal, mynychodd Forward Trust – un o ddarparwyr gwasanaethau adsefydlu cymunedol y rhanbarth – y safle cymeradwy i roi cyngor ac arweiniad i drigolion ar dai.
- Roedd bwrdd pontio misol, dan gadeiryddiaeth dirprwy bennaeth yr adran diogelu’r cyhoedd preswyl, yn ystyried atgyfeiriadau gan staff, rheolwyr ac ymarferwyr prawf y safle cymeradwy, lle’r oedd symud ymlaen yn arbennig o anodd neu’n gymhleth. Rôl y panel oedd helpu i ddatrys problemau a chael gwared ar rwystrau i symud ymlaen yn llwyddiannus, lle y gallai. Estynnodd y rheolwyr hyd lleoliadau’r safle cymeradwy, pan oedd hynny’n bosibl, er mwyn atal preswylwyr rhag dod yn ddigartref.
Meysydd i’w gwella:
- Er bod yr ystod o weithgareddau adsefydlu a’u hargaeledd yn Quay House yn drawiadol, roedd diffyg personoli wrth gofnodi’r sesiynau hyn – yn arbennig y rhai a ddarparwyd gan asiantaethau partner. Gallai’r rheolwyr atgyfnerthu ymarfer adsefydlu ymhellach drwy ddatblygu trefniadau rhannu a chofnodi gwybodaeth mwy ffurfiol gyda darparwyr allanol, gan sicrhau bod cynnydd a chanlyniadau unigol yn cael eu cofnodi’n fwy effeithiol.
- O ystyried yr heriau o ran defnyddio cyffuriau a wynebir gan breswylwyr, roedd yn siomedig nad oedd gweithiwr camddefnyddio sylweddau yn gweithredu yn y safle cymeradwy ar adeg ein gwaith maes oherwydd newidiadau arfaethedig i gontract y darparwr. Roedd y rheolwr yn gwneud ymdrechion i ddatrys hyn.
- Dangosodd nifer fach o achosion ddarpariaeth gwaith allweddol gyfyngedig neu anghyson, lle’r oedd sesiynau’n tueddu i ganolbwyntio ar wiriadau byr, ni chafodd apwyntiadau a fethwyd eu dilyn yn rheolaidd, ac ni chafodd rhai atgyfeiriadau eu holrhain yn llawn. Yn yr un achosion hyn, roedd ansawdd y cofnodi hefyd yn wannach, ac nid oedd y cofnodion bob amser yn cofnodi nodau, ymyriadau na chanlyniadau adsefydlu.
- Er bod ffocws ar gefnogi preswylwyr i symud ymlaen yn llwyddiannus o’r safle cymeradwy, roedd y manylion am y gweithgarwch symud ymlaen ond yn weladwy mewn tri o’r wyth achos a arolygwyd.
Rhagor o wybodaeth (Back to top)
Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Stuart Tasker, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob cwr o’r Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a helpodd i gynllunio ac a gymerodd ran yn yr arolygiad; heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosibl.