Arolygiad dynamig o waith diogelu’r cyhoedd. Rheolau a chanllawiau asesiadau achos (CARaG).
Arolygiad dynamig o waith diogelu’r cyhoedd. Rheolau a chanllawiau asesiadau achos (CARaG).
V1.0 – Cyhoeddwyd 2 Hydref 2025
Cyflwyniad (Back to top)
Yn yr arolygiad dynamig o waith diogelu’r cyhoedd, rydym yn arolygu ansawdd y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu yn benodol i gadw pobl yn ddiogel. Mae rhai cwestiynau arolygu yn deillio’n uniongyrchol o safonau arolygu presennol Uned Gyflawni’r Gwasanaeth Prawf; mae eraill wedi’u dylunio i ddarparu dadansoddiad dyfnach o gryfderau a meysydd i’w gwella o ran diogelu’r cyhoedd.
Rydym yn cymhwyso set o gwestiynau wedi’u haddasu i achosion lle mae’r polisïau Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf yn cael eu defnyddio wyth wythnos neu lai o ddechrau’r gorchymyn neu ryddhau ar drwydded.
Mae’r cwestiynau arolygu yn cael eu hategu gan y rheolau a’r canllawiau asesu achosion (CARaG). Dyma set gynhwysfawr o reolau a chanllawiau cyhoeddedig i’w dilyn gan arolygwyr ac aseswyr lleol pan fyddant yn asesu achosion. Mae CARaG yn hybu tryloywder a chysondeb wrth i ni arolygu achosion. Mae wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu ein dull o arolygu achosion y mae atal cyswllt wedi effeithio arnynt. Ar gyfer rhai cwestiynau, mae CARaG yn nodi disgwyliadau gwahanol yn dibynnu ar effaith gohirio’r cyswllt. Ym mhob cwestiwn arall, mae CARaG yr un mor berthnasol, beth bynnag fo amseriad neu effaith atal. Dylai staff arolygu ac aseswyr lleol ddefnyddio CARaG fel dogfen gyfeirio wrth asesu achos.
Nid yw pob cwestiwn yn berthnasol i bob achos, ac eglurir hyn drwy gydol y CARaG.
Allwedd (Back to top)
| Enghraifft | Fformat y cwestiwn | Yn cynrychioli: |
| A yw’r gwaith asesu yn dadansoddi unrhyw risgiau a phryderon penodol sy’n gysylltiedig â dioddefwyr gwirioneddol a phosib? | Testun plaen | Cwestiwn sy’n uniongyrchol gysylltiedig ag awgrym yn y cwestiynau arolygu, gan adlewyrchu safonau arolygu Uned Gyflawni’r Gwasanaeth Prawf. Mae’r atebion i’r cwestiynau hyn yn dylanwadu’n uniongyrchol ar y dyfarniad cryno ar lefel cwestiynau allweddol. |
| A gafwyd gwybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant a’i defnyddio fel rhan o’r asesiad o addasrwydd ar gyfer cyrffyw? | Llythrennau italig | Cwestiwn gwybodaeth, y gofynnwyd er mwyn darparu gwybodaeth gefndir ychwanegol am yr achos, neu i gasglu tystiolaeth ar gyfer arolygu gwaith diogelu’r cyhoedd, ond heb gysylltiad uniongyrchol â chwestiynau dyfarniad cryno. |
| A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | Testun trwm | Cwestiwn dyfarniad cryno, yn ateb cwestiwn allweddol o’r cwestiynau arolygu. |
Egwyddorion arolygu (Back to top)
Achosion ailsefydlu
Ar gyfer asesu, cynllunio, gweithredu a darparu, ac adolygu cwestiynau, rydym yn arolygu gwaith ar ôl rhyddhau (lle mai’r rhanbarth a arolygwyd sydd wedi bod yn gyfrifol am hynny). Ceir nifer fach o gwestiynau ar wahân i werthuso gwaith diogelu’r cyhoedd cyn rhyddhau a gwblhawyd gan y rheolwr troseddwyr yn y gymuned, fel rhan o’r gwaith paratoi ar gyfer rhyddhau. Mewn achosion ag unigolion sy’n cyflawni cyfnodau byr iawn yn y ddalfa, rydym yn cymryd agwedd gymesur at ba waith fyddai wedi bod yn rhesymol yn yr amser sydd ar gael, ond rydym yn dal i ddisgwyl y dylid rhoi blaenoriaeth i faterion allweddol sy’n ymwneud â diogelu’r cyhoedd.
Achosion ar ôl adalw
Rydym yn arolygu achosion sydd wedi cael eu rhyddhau ar ôl adalw fel rhan o’n sampl. Yn yr un modd ag achosion ailsefydlu eraill, gellir ystyried tystiolaeth o gyfnod cynharach yn y ddedfryd, ond rydym yn disgwyl gweld rheolwr troseddwyr yn y gymuned yn asesu, yn cynllunio ac yn sicrhau bod gwaith priodol mewn cysylltiad â diogelu’r cyhoedd yn cael ei gyflawni yn ystod y cyfnod adalw, er mwyn paratoi ar gyfer ail-ryddhau.
Achosion wedi’u trosglwyddo i mewn neu allan o’r rhanbarth
Rydym yn arolygu achosion sy’n cael eu trosglwyddo i mewn i’r rhanbarth neu allan o’r rhanbarth fel rhan o’n sampl. Mewn achosion sy’n cael eu trosglwyddo allan, rydym yn disgwyl i’r ymarferydd prawf yn y rhanbarth gymryd cyfrifoldeb llawn dros asesu, cynllunio, darparu ac adolygu gwaith diogelu’r cyhoedd nes bydd yr ardal sy’n derbyn yr unigolyn yn cytuno ar drosglwyddiad ffurfiol; bydd hyn yn cynnwys unrhyw waith sy’n cael ei gyflawni gan ardal arall o dan drefniadau gofalu dros dro. Mewn achosion a drosglwyddir i mewn, byddwn yn arolygu gwaith yr ardal dderbyn o’r adeg y cytunir ar drosglwyddiad ffurfiol. Efallai y byddwn yn ystyried unrhyw asesiad sydd wedi cael ei gynnal gan yr ardal sy’n trosglwyddo, ond yr ymarferydd prawf yn yr ardal sy’n derbyn yr unigolyn sy’n gyfrifol am sicrhau bod digon o waith asesu a chynllunio ar waith i reoli’r elfennau diogelu’r cyhoedd o’r achos o’r adeg y caiff ei drosglwyddo’n ffurfiol.
Achosion sydd wedi cael eu terfynu
Nid ydym yn arolygu achosion sydd wedi’u terfynu o fewn saith diwrnod i ddechrau’r gorchymyn neu’r drwydded. Ar gyfer achosion a derfynwyd rhwng wyth a 28 diwrnod ar ôl dedfrydu/rhyddhau, rydym yn arolygu’r rhai lle cafwyd parhad goruchwyliaeth, er enghraifft lle cafodd gorchymyn cymunedol ei ddiddymu a’i ddisodli’n syth gan orchymyn tebyg, neu lle cafodd achos trwydded ei adalw a’i ail-ryddhau wedyn.
Ailosod y Gwasanaeth Prawf
Rydym yn cynnwys achosion y mae Ailosod y Gwasanaeth Prawf yn effeithio arnynt, lle maen nhw’n ymddangos yn ein samplau. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi’i atal dros dro ar ôl wyth wythnos o oruchwyliaeth neu lai, rydym yn defnyddio set o gwestiynau wedi’u haddasu. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi cael ei atal dros dro ar ôl mwy nag wyth wythnos o oruchwyliaeth, rydym yn defnyddio ein cwestiynau craidd, ac yn gwneud dyfarniadau arolygu mewn ffordd gymesur.
Effaith y Gwasanaeth Prawf
Rydym yn cynnwys achosion y mae Effaith y Gwasanaeth Prawf yn effeithio arnynt, lle maen nhw’n ymddangos yn ein samplau. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi’i atal dros dro ar ôl wyth wythnos o oruchwyliaeth neu lai, rydym yn defnyddio set o gwestiynau wedi’u haddasu. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi cael ei atal dros dro ar ôl mwy nag wyth wythnos o oruchwyliaeth, rydym yn defnyddio ein cwestiynau craidd, ac yn gwneud dyfarniadau arolygu mewn ffordd gymesur.
Achosion gyda dedfrydau lluosog
Mewn achosion lle mae’r unigolyn wedi bod yn destun dedfrydau cymunedol ychwanegol neu gyfnodau o oruchwyliaeth ar ôl rhyddhau ers dyddiad dechrau’r gorchymyn/goruchwyliaeth ar ôl rhyddhau, bydd arolygwyr yn ystyried y cyfnod cyfan o oruchwyliaeth barhaus ers y dyddiad hwnnw. Lle defnyddiwyd mesurau Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn credu bod hynny’n doriad mewn goruchwyliaeth barhaus.
Os cafodd gorchymyn cymunedol ei ddiddymu a’i ddisodli gan orchymyn cymunedol cymwys arall, bydd y gwaith o’i gyflwyno a’i weithredu dan bob gorchymyn yn cael ei arolygu. Os cafodd dedfryd gymunedol ei diddymu ac nad oedd dedfryd gymunedol arall yn cymryd ei lle ar unwaith, dim ond gwaith hyd at y pwynt diddymu y bydd arolygwyr yn ei ystyried.
Os oedd trwydded wedi arwain at adalw, a bod yr unigolyn wedyn wedi cael ei ail-ryddhau ar drwydded newydd neu gyfnod o oruchwyliaeth ar ôl dedfrydu, bydd y cyfnod cyfan o oruchwyliaeth barhaus (gan gynnwys unrhyw amser a dreuliwyd yn y ddalfa ar adalw) yn cael ei ystyried.
Arolygiad dynamig o waith diogelu’r cyhoedd Un o brif nodweddion yr arolygiad hwn yw archwilio’r rhesymau pam mae gwaith yn ddigonol neu’n annigonol. Pan fydd yr ymarferydd sy’n gyfrifol am y gwaith hwnnw’n cael ei gyfweld, bydd arolygwyr yn trafod y rhesymau posib gyda nhw. Pan na fydd yr ymarferydd sy’n uniongyrchol gyfrifol yn cael ei gyfweld, bydd arolygwyr yn casglu unrhyw wybodaeth y gallant o gofnodion achos ac o bosib yn mynd ar drywydd themâu mewn cyfarfodydd yn ystod ail wythnos y gwaith maes.
Gwybodaeth am yr achos (Back to top)
| Cwestiwn arolygu | CARaG | |
| 2.0.19 Pob achos | A yw hwn yn achos lle dylid defnyddio’r cwestiynau arolygu craidd? | Rydym yn defnyddio’r cwestiynau arolygu craidd ym mhob achos lle parhaodd y cyswllt am fwy nag wyth wythnos ar ôl dechrau’r gorchymyn neu ryddhau ar drwydded, cyn unrhyw ataliad o dan Effaith y Gwasanaeth Prawf neu Ailosod y Gwasanaeth Prawf. I farnu hyn, rydym yn chwilio am y faner berthnasol ar nDelius neu dystiolaeth glir yng nghofnodion yr achos, bod y cyswllt hwnnw wedi’i atal dros dro, a dyddiad y penderfyniad hwnnw. Pe gallai Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf fod wedi cael eu defnyddio ar ôl wyth wythnos neu lai, ond na chafodd y cyswllt ei atal dros dro (fel y nodir uchod) tan ar ôl wyth wythnos o’r adeg rhyddhau, rydym yn defnyddio’r cwestiynau arolygu craidd. |
| 2.0.20 Pob achos | A yw hwn yn achos lle dylid defnyddio’r cwestiynau arolygu wedi’u haddasu? | Rydym yn defnyddio’r cwestiynau’r arolygu wedi’u haddasu: • mewn unrhyw achosion trwydded neu oruchwyliaeth ar ôl dedfryd (PSS) lle mae cyswllt wedi cael ei atal o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, ar adeg hyd at ac yn cynnwys wyth wythnos o ddyddiad rhyddhau’r carcharor sydd wedi arwain at ei gynnwys yn y sampl achosion ac • mewn unrhyw achos dedfryd gymunedol lle mae Effaith y Gwasanaeth Prawf wedi’i defnyddio hyd at ac yn cynnwys wyth wythnos o’r dyddiad dechrau. Mae arolygwyr yn chwilio am y faner berthnasol ar nDelius neu ddatganiad clir yng nghofnodion yr achos, bod y cyswllt hwnnw wedi’i atal dros dro, a dyddiad y penderfyniad hwnnw. Os yw’r cyswllt wedi’i atal dros dro (fel y nodwyd uchod) ond bod rhywfaint o gyswllt parhaus wedi bod y tu hwnt i’r pwynt lle nodwyd atal dros dro, gan gynnwys cyswllt i ymchwilio i wybodaeth newydd a gafwyd neu gyswllt rheolaidd â phobl sy’n ddigartref, rydym yn dal yn defnyddio’r cwestiynau wedi’u haddasu. Os yw cyswllt o natur fwy sylweddol wedi parhau, y tu hwnt i’r pwynt lle mae cofnod yr achos yn nodi bod cyswllt wedi’i atal, efallai y byddwn yn defnyddio’r cwestiynau arolygu craidd. |
Gwybodaeth asesu (Back to top)
| Achosion gydag adroddiad llys yn unig | Os cafodd adroddiad llys ei baratoi gan y rhanbarth prawf yn y digwyddiad a arolygwyd yn y 12 mis cyn gwaith maes yr arolygiad; a gafodd cynnig priodol ei wneud i’r llys i gefnogi gwaith diogelu’r cyhoedd yn yr achos hwn? | Rydym yn disgwyl i’r cynnig ganiatáu ar gyfer rheoli unrhyw risg o niwed a nodwyd neu risg bosib o niwed. Os yw’r unigolyn yn debygol o fod yn gymwys ac yn addas ar gyfer unrhyw raglenni achrededig, dylid cynnig rhaglen achrededig i’r llys fel arfer. Os na chynigir rhaglen neu os nad yw’n glir a aseswyd addasrwydd, bydd arolygwyr yn asesu addasrwydd y gofynion/dedfryd arfaethedig i gefnogi diogelwch y cyhoedd. Hyd yn oed pan fydd y llys wedi gofyn am asesiad penodol, er enghraifft ar gyfer gwaith di-dâl, dylai’r Gwasanaeth Prawf roi gwybod i’r llys a yw hon yn debygol o fod yn ddedfryd effeithiol i gefnogi diogelwch y cyhoedd, a dylai wneud cynnig am ddedfryd fwy addas os yw hynny’n cefnogi diogelwch y cyhoedd yn well. Lle mae ffactorau’n gysylltiedig â niwed, er enghraifft cam-drin domestig neu ddiogelu plant, rydym yn disgwyl i’r cynnig ganiatáu i’r materion hyn gael sylw a’u rheoli’n ddiogel, hyd yn oed pan nad yw’r brif drosedd yn gysylltiedig â’r materion hyn. |
| Achosion gydag adroddiad llys yn unig | A gafodd asesiad digonol o’r risg o niwed difrifol (RoSH) ei gynnal fel rhan o broses adrodd y llys? | Model gweithredu presennol y Gwasanaeth Prawf yw bod asesiad llawn o RoSH yn cael ei gynnal fel rhan o unrhyw broses adrodd y llys. Rydym yn disgwyl i’r asesiad hwn fodloni’r canlynol: • bod yn seiliedig ar gasglu digon o wybodaeth, gan gynnwys gwybodaeth am gam-drin domestig a (lle bo’n berthnasol) diogelu plant • rhoi ystyriaeth briodol i ddiogelwch dioddefwyr, gan gynnwys dioddefwr y brif drosedd, ond nid y dioddefwr hwnnw’n unig • cynnwys llais y sawl sydd ar brawf • ystyried gwybodaeth am droseddu blaenorol ac ymddygiad hysbys neu honedig arall, nid dim ond yn seiliedig ar y brif drosedd • diweddaru unrhyw asesiad cyfredol gyda gwybodaeth berthnasol o’r troseddau diweddaraf • cefnogi’r gwaith o ddyrannu’n ddiogel i ymarferydd prawf sydd â’r sgiliau a’r profiad priodol • ei gwneud yn bosib rheoli risg o niwed yn ddiogel o’r adeg y rhoddir y ddedfryd. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. Gallai’r rhesymau posib gynnwys gwybodaeth neu hyder yr ymarferydd, ansawdd trefniadau partneriaeth, arferion gweithredu lleol neu oruchwyliaeth rheolwyr. Rydym yn cydnabod nad ydym fel arfer yn cyfweld awdur yr adroddiad ar wahân, felly rydym yn chwilio am dystiolaeth mewn dogfennau porthgadw, adlofnodi ar y System Asesu Troseddwyr (OASys) a goruchwyliaeth rheolwyr. |
| Achosion ailsefydlu yn unig | A wnaeth y rheolwr troseddwyr yn y gymuned nodi a rhoi sylw i’r materion risg allweddol o niwed cyn rhyddhau? | Rydym yn disgwyl i’r rheolwr troseddwyr yn y gymuned nodi a chynllunio i roi sylw i unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed a allai fod yn bresennol yn ystod misoedd olaf y ddedfryd o garchar ac ar ôl rhyddhau. Mae hyn yn cynnwys cael digon o wybodaeth gan y carchar am ymddygiad a allai fod yn arwydd o risgiau parhaus ar ôl rhyddhau. Gall hefyd gynnwys gwirio a rhoi sylw i ddiogelwch dioddefwyr, partneriaid a phlant. Gellid cyfrif gwaith y bwriedir ei gyflawni gan staff sy’n gweithio yn y ddalfa fel rhan o’r dystiolaeth yma, lle mae’r rheolwr troseddwyr yn y gymuned wedi bod yn cydlynu. Dylid hefyd cysylltu a chydlynu gydag asiantaethau partner ynghylch rheoli risg o niwed. Gallai hyn gynnwys MAPPA, rheoli troseddwyr integredig (IOM), yr heddlu, neu wasanaethau plant. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Achosion ailsefydlu yn unig | A roddwyd amodau trwydded priodol ar waith i ddiogelu dioddefwyr a’r cyhoedd? | Rydym yn disgwyl i’r rheolwr troseddwyr yn y gymuned nodi amodau trwydded priodol i gefnogi ymyriadau adeiladol a chyfyngol yn ystod cyfnod y drwydded. Dylai’r rhain gynnwys, lle bo’n berthnasol: • amodau dim cyswllt i ddiogelu dioddefwyr presennol a dioddefwyr posib (p’un ai bod gan y dioddefwyr hynny hawl i gyswllt dioddefwyr statudol ai peidio) • amodau sy’n mynnu bod ffactorau ymddygiad sy’n berthnasol i’r risg o niwed yn cael sylw • ardaloedd gwaharddedig • gweithgareddau gwaharddedig, gan gynnwys amodau dim cyswllt gyda chyd-ddiffynyddion • amodau cyrffyw preswyl a thagio, gan gynnwys cyrffyw cyfyngu i’r cartref, monitro GPS a thagio alcohol. Dylai unrhyw amodau trwydded fod yn angenrheidiol ac yn gymesur. Rydym yn disgwyl i ddiogelwch dioddefwyr a dioddefwyr posib gael ei ystyried, ac y dylai pobl a enwir ar y drwydded gael gwybod am amodau’r drwydded fel rheol. Rydym yn cydnabod mai dim ond yn ystod cyfnodau trwydded ffurfiol y gellir defnyddio amodau trwydded ychwanegol, nid goruchwyliaeth ar ôl dedfrydu (PSS). Rydym yn disgwyl i’r sawl sydd ar brawf fod wedi cael gwybodaeth glir am amodau penodol y drwydded, a sut byddant yn cydymffurfio â nhw. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos | Pa rai o’r ffactorau hyn oedd yn berthnasol yn yr achos hwn? | Os yw’r arolygydd yn credu bod unrhyw un o’r ffactorau penodol hyn yn bresennol yn yr achos, mae’n ei nodi, ac yn disgwyl gweld cofnod clir. Rydym yn chwilio am yr wybodaeth hon gan ddefnyddio baneri nDelius ac unrhyw wybodaeth arall a gofnodwyd yn yr achos i lywio ein hateb. Dyma’r ffactorau: • Troseddu Cyfundrefnol • Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant – Y Troseddwr • Troseddwr rhyw cofrestredig • Troseddwr rhyw anghofrestredig • Risg i Oedolion • Troseddwr o dan y Ddeddf Terfysgaeth • Caethwasiaeth Fodern – Y Troseddwr • Gangiau Stryd • Rhaglen Gwybodaeth ar y Cyd • Camfanteisio’n Droseddol ar Blant – Y Troseddwr • Llinellau Cyffuriau – Y Troseddwr • Troseddau Casineb |
| 2.3.01 Achosion craidd yn unig | A yw’r gwaith asesu yn dadansoddi cymhelliant a pharodrwydd y sawl sydd ar brawf i ymgysylltu a chydymffurfio â’r ddedfryd? | Mae arolygwyr yn chwilio am fwy na datganiad syml am gymhelliant a pharodrwydd yr unigolyn i ymgysylltu â’r ddedfryd a chydymffurfio â hi. Rydym yn disgwyl dod o hyd i asesiad clir o barodrwydd yr unigolyn i ymgysylltu, gan gydnabod y gwahanol gamau yn y cylch newid. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr gydnabod lefel cymhelliant yr unigolyn i gydymffurfio, ac unrhyw ffactorau ategol neu anghyson. Rydym yn chwilio am dystiolaeth mewn dogfennau asesu ffurfiol, cofnod yr achos a’r cyfweliad gyda’r ymarferydd. Dim ond at gymhelliant a pharodrwydd i ymgysylltu a chydymffurfio â’r ddedfryd y mae’r cwestiwn hwn yn cyfeirio, yn benodol yr elfennau o’r ddedfryd sy’n ymwneud â diogelu’r cyhoedd. Os bydd hunanasesiad ysgrifenedig wedi’i gynnal (megis holiadur hunanasesu OASys), gall hwn gynnwys gwybodaeth ddefnyddiol. Rydym yn disgwyl i’r ymarferydd ystyried gwybodaeth o gyfnodau blaenorol o oruchwyliaeth prawf a nodi unrhyw rwystrau posib i ymgysylltu, y gellir eu nodi gan wybodaeth am achosion blaenorol o dorri amodau neu ddiffyg cydymffurfio. |
| 2.3.02 Achosion craidd yn unig | A yw’r gwaith asesu yn dadansoddi nodweddion gwarchodedig yr unigolyn ac yn ystyried yr effaith a gaiff y rhain ar ei allu i gydymffurfio ac ymgysylltu â darpariaeth gwasanaethau? | Mae arolygwyr yn disgwyl gweld archwiliad ystyrlon o unrhyw ffactorau amrywiaeth sy’n berthnasol i’r unigolyn. Rydym yn cydnabod y naw nodwedd warchodedig (rhyw, oedran, hil, crefydd a chred, anabledd, beichiogrwydd a mamolaeth, cyfeiriadedd rhywiol, ailbennu rhywedd a phriodas neu bartneriaeth sifil). Fel man cychwyn, mae arolygwyr yn disgwyl gweld ffurflen monitro amrywiaeth gyfredol wedi’i llenwi’n llawn. Rydym hefyd yn disgwyl gweld tystiolaeth bod hyn wedi cael ei drafod gyda’r unigolyn er mwyn cael dealltwriaeth glir o effaith pob ffactor ar ei fywyd ac ar ei allu i ymgysylltu â’r ddedfryd, ac yn benodol yr elfennau o’r ddedfryd sy’n ymwneud â diogelu’r cyhoedd. Bydd effaith bosib unrhyw ffactor ac i ba raddau y mae angen ei ystyried yn amrywio yn ôl yr achos unigol. Gall nifer o ffactorau effeithio ar y graddau y mae unigolion yn gallu ymgysylltu â gwasanaethau; gall profiad o wahaniaethu gyfrannu at hyn. Mae llawer o ddefnyddwyr gwasanaethau prawf i oedolion wedi cael y profiadau hyn. Rydym yn cydnabod bod gan lawer o unigolion nifer o nodweddion gwarchodedig perthnasol, a bydd arolygwyr yn ystyried materion sy’n ymwneud â chroestoriadedd. Ar ôl dadansoddi’r ffactorau amrywiaeth, rydym yn disgwyl gweld disgrifiad o’r effaith y mae’r rhain yn ei chael yn benodol ar allu’r unigolyn i ymgysylltu a chydymffurfio’n benodol/yn gyfan gwbl â’r elfennau o’r ddedfryd sy’n cefnogi diogelwch y cyhoedd. |
| 2.3.05 Achosion wedi’u haddasu yn unig | A yw’r gwaith asesu yn ystyried ffactorau amrywiaeth a rhwystrau posib i gynllunio ar gyfer dod â chyswllt i ben a chydymffurfio yn ystod y cyfnod atal dros dro? | Hyd yn oed pan nad oes llawer o gyswllt â’r unigolyn sydd ar brawf, rydym yn disgwyl i ymarferwyr ystyried ffactorau amrywiaeth yn llawn ac unrhyw rwystrau posib i ymgysylltu, fel y man cychwyn ar gyfer gallu rhoi trefniadau priodol a phersonol ar waith ar gyfer unrhyw ddarpariaeth uniongyrchol mewn cysylltiad â gweithgarwch i gefnogi diogelwch y cyhoedd cyn atal dros dro, ac ar gyfer cymorth ar ôl goruchwyliaeth. |
| 2.1.04 Pob achos | Ar ddechrau’r ddedfryd, a oedd unrhyw arwyddion y gallai’r unigolyn ar brawf fod yn gyfrifol am gam-drin domestig? | Rydym yn cydnabod y diffiniad trawslywodraethol o gam-drin domestig fel unrhyw ddigwyddiad o reoli, gorfodi neu ymddygiad bygythiol, trais neu gam-drin rhwng pobl sy’n 16 oed a hŷn sydd, neu sydd wedi bod, yn bartneriaid agos neu’n aelodau o’r teulu, ni waeth beth yw eu rhyw neu eu rhywioldeb. Mae cam-drin domestig yn cynnwys y mathau canlynol o gam-drin, ond heb fod yn gyfyngedig iddynt: • seicolegol • corfforol • rhywiol • ariannol • emosiynol. Mae arolygwyr yn edrych ar y dystiolaeth a fyddai wedi bod ar gael i’r ymarferydd prawf. Gallai’r brif drosedd fod yn gyfystyr â cham-drin domestig yn uniongyrchol, oherwydd natur y drosedd, fel ymosodiad. Gall datganiadau dioddefwyr a thystion a dogfennau eraill yr erlyniad hefyd nodi elfennau o gam-drin domestig mewn perthynas â throseddau eraill, megis dwyn a throseddau’n ymwneud â chyffuriau. Nid yw rhestrau o euogfarnau blaenorol yn nodi pa droseddau unigol oedd yn gyfystyr â cham-drin domestig. Rydym yn disgwyl i awduron adroddiadau ddangos lefel briodol o chwilfrydedd proffesiynol mewn amgylchiadau lle mae euogfarnau blaenorol yn cynnwys troseddau fel ymosod, difrod troseddol, ymddygiad bygythiol, aflonyddu neu dorri gorchmynion atal. Gall cofnodion y Gwasanaeth Prawf ddangos bod yr unigolyn wedi bod yn gyfrifol am gam-drin domestig neu wedi dioddef hynny. Gall asesiadau’r system asesu troseddwyr (OASys), cofnodion achos nDelius a dogfennau eraill sydd ar gael, gan gynnwys adroddiadau allanol, nodiadau cynadleddau amddiffyn plant a chyfathrebu ag asiantaethau eraill, ddarparu ffynonellau gwybodaeth defnyddiol. Gallai’r unigolyn ddatgelu yn y cyfweliad ei fod wedi bod yn gyfrifol am gam-drin domestig, neu ddatgelu gwybodaeth arall am ei berthnasoedd a allai ddangos y potensial i gam-drin domestig fod yn bresennol. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol addas i archwilio’r materion hyn. Mae’r cwestiwn hwn yn ymwneud yn benodol â’r unigolyn yn bod yn gyfrifol am gam-drin domestig neu fod posibilrwydd o hynny, er mwyn gallu gwneud cysylltiad ag asesu’r risg o niwed difrifol y gallai ei achosi. Os yw’r unigolyn wedi dioddef cam-drin domestig, disgwyliwn i hynny gael ei gynnwys fel rhan o amgylchiadau personol yr unigolyn hwnnw. |
| 2.1.05 Pob achos | A gafwyd digon o wybodaeth am gam-drin domestig? | Rydym yn cydnabod bod sawl ffordd wahanol y gall y Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am gam-drin domestig, gan gynnwys ymholiadau uniongyrchol i’r heddlu, ymholiadau drwy’r Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaeth (MASH) a rhannu gwybodaeth yn rheolaidd gan yr heddlu. Beth bynnag fo’r trefniadau lleol, disgwyliwn i’r Gwasanaeth Prawf gael digon o wybodaeth am gam-drin domestig yn y cartref gan yr heddlu ym mhob achos pan orchmynnir ACD gan y llys. I fod yn ddigonol, rhaid i’r wybodaeth gwmpasu cyfnod rhesymol o amser, a rhaid iddi ddarparu digon o fanylion i alluogi’r Gwasanaeth Prawf ddeall ymddygiad yr unigolyn sydd wedi dod i sylw’r heddlu. Nid yw rhestr syml o ddyddiadau galwadau’r heddlu yn debygol o fod yn ddigonol. Dylid cofnodi unrhyw ymholiadau, ac ymatebion gan yr heddlu, yn glir ar nDelius. Yr unig sefyllfa lle nad oes angen gwneud ymholiadau newydd yw lle mae digon o wybodaeth gyfredol ar gael o ffynonellau eraill, megis cofnodion achos cyfredol neu wybodaeth gan Wasanaeth Erlyn y Goron. Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf fod yn gweithio gyda heddluoedd i hwyluso ymateb clir, manwl a chyflym i bob ymholiad neu i fod â threfniadau rhannu gwybodaeth eraill ar waith. Os nad oes gwybodaeth wedi’i chael adeg yr ACD, rydym yn dal i ddisgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael digon o wybodaeth ar ôl i’r unigolyn gael ei ddedfrydu. |
| 2.1.06 Pob achos | A gynhaliwyd asesiad a dadansoddiad digonol o’r risg o gam-drin domestig? | Disgwyliwn i unrhyw wybodaeth berthnasol am gam-drin domestig gael ei defnyddio wrth asesu’r achos. Felly, dylid ei drafod gyda’r unigolyn fel rhan o’r broses asesu. Os yw’r wybodaeth a gafwyd yn cadarnhau nad oes unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, mae angen gwneud hyn yn glir mewn unrhyw asesiad ysgrifenedig. Os oes ffactorau sy’n gysylltiedig â cham-drin domestig, dylid dadansoddi’r rhain fel rhan o’r asesiad. Pan fydd cam-drin domestig yn ffactor yn yr achos, dylai’r asesiad ddangos bod yr ymarferydd wedi defnyddio chwilfrydedd proffesiynol i chwilio am agweddau, syniadau ac ymddygiad a ddangosir gan y sawl sydd ar brawf sy’n ymwneud â cham-drin domestig, a’u dadansoddi’n feirniadol. Dylai hynny gynnwys trais neu fygythiadau o drais, niwed rhywiol neu fygythiadau o niwed rhywiol, ac ymddygiad sy’n gorfodi neu ymddygiad arall sy’n rheoli. Dylai gynnwys ymddygiad sydd wedi arwain at euogfarnau, ac ymddygiad arall y rhoddwyd gwybod amdano nad yw wedi arwain at euogfarnau, a dylai wahaniaethu rhwng y ddau. Dylai dadansoddiad esbonio’n glir unrhyw batrymau ymddygiad camdriniol y mae’r unigolyn wedi’u dangos mewn perthnasoedd agos a chyd-destunau teuluol nawr ac yn y gorffennol. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. Gallai esboniadau posib gynnwys gwybodaeth, hyder a phrofiad yr ymarferydd, natur ac ansawdd y cymorth a’r oruchwyliaeth, neu ansawdd perthnasoedd gwaith amlasiantaeth. |
| 2.1.07 Pob achos | Ar ddechrau’r ddedfryd, a oedd unrhyw arwyddion y gallai fod pryderon ynghylch amddiffyn plant neu ddiogelu plant yn yr achos hwn? | Mae arolygwyr yn edrych ar y wybodaeth a fyddai wedi bod ar gael i’r ymarferydd. Gallai’r brif drosedd fod wedi cynnwys plentyn yn gyd-ddiffynnydd, plentyn yn ddioddefwr neu blentyn yn dyst. Ar gyfer y rhan fwyaf o droseddau, nid yw’r rhestr o euogfarnau blaenorol yn nodi pa droseddau unigol sy’n nodi risgiau i blant, na phryderon am blant. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ddangos lefel briodol o chwilfrydedd proffesiynol i archwilio oedran unrhyw gyd-ddiffynyddion, a dioddefwyr troseddau rhywiol neu dreisgar. Gall cofnodion presennol y Gwasanaeth Prawf ddatgelu pryderon presennol neu flaenorol ynghylch diogelu plant neu amddiffyn plant mewn cysylltiad â throseddu’r unigolyn neu ei amgylchiadau teuluol. Gall asesiadau OASys, cofnodion achos nDelius a dogfennau eraill sydd ar gael, gan gynnwys adroddiadau allanol, nodiadau cynadleddau amddiffyn plant a chyfathrebu ag asiantaethau eraill, ddarparu ffynonellau gwybodaeth defnyddiol. Gallai’r unigolyn ddatgelu materion yn y cyfweliad sy’n gysylltiedig â’i amgylchiadau personol, ei ffordd o fyw a’i gysylltiadau sy’n dangos pryderon ynghylch amddiffyn plant neu ddiogelu plant. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol addas i archwilio’r materion hyn. |
| 2.1.08 Pob achos | A gafwyd digon o wybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant? | Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth glir yn cael ei chofnodi sy’n dangos a ofynnwyd i’r unigolyn a oes ganddo blant neu a yw mewn cysylltiad â phlant (er mwyn i ni wybod a oes angen gwybodaeth am amddiffyn plant neu ddiogelu plant). Ein diffiniad o ‘blentyn’ yw unrhyw un sydd heb gyrraedd 18 oed eto. Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant ym mhob achos lle: • mae gan yr unigolyn blant, neu • mae gan yr unigolyn gyswllt â phlant, neu • mae’r unigolyn yn cyflwyno risg bosib o niwed i blant. Os oes gan y sawl sydd ar brawf blant ei hun, rydym yn disgwyl gweld manylion eu henw, eu hoedran neu eu dyddiad geni, a’u trefniadau byw (os nad ydynt yn byw gyda’r sawl sydd ar brawf). Mae ‘cyswllt â phlant’ yn cynnwys amgylchiadau lle maen nhw’n byw gyda phlant partner, lle maen nhw’n cael cyswllt sylweddol neu heb oruchwyliaeth â phlant yn y teulu estynedig, neu lle gallai eu cyflogaeth olygu eu bod yn cael cyswllt sylweddol neu heb oruchwyliaeth â phlant. Rydym yn cydnabod bod sawl ffordd wahanol y gall y Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant, gan gynnwys ymholiadau uniongyrchol i ofal cymdeithasol plant, ac ymholiadau drwy MASH. Beth bynnag fo’r trefniadau lleol, disgwyliwn i’r Gwasanaeth Prawf gael digon o wybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant ym mhob achos perthnasol ar ddechrau dedfryd, os nad yw hynny wedi digwydd yn barod pan orchmynnir ACD gan y llys. Mewn achosion ailsefydlu, dylid cael gwybodaeth cyn rhyddhau. I fod yn ddigonol, rhaid i’r wybodaeth gwmpasu cyfnod rhesymol o amser, a rhaid iddi ddarparu digon o fanylion i alluogi’r Gwasanaeth Prawf ddeall ymddygiad yr unigolyn a/neu bryderon ynghylch y plant maen nhw mewn cysylltiad â nhw sydd wedi dod i sylw’r gwasanaethau plant. Dylid gwneud ymholiadau yn ardal awdurdod lleol cartref yr unigolyn, ac yn ardal yr awdurdod lleol lle mae unrhyw blant perthnasol yn byw, os ydynt yn wahanol. Nid yw rhestr syml o ddyddiadau cyswllt â gofal cymdeithasol plant yn debygol o fod yn ddigonol. Dylid ceisio gwybodaeth pan fydd y llys yn gorchymyn ACD. Dylid cofnodi unrhyw ymholiadau ac ymatebion gan wasanaethau plant yn glir ar nDelius. Yr unig sefyllfa lle nad oes angen gwneud ymholiadau newydd yn yr achosion hyn yw lle mae digon o wybodaeth gyfredol ar gael o ffynonellau eraill, megis cofnodion achos cyfredol, neu ymholiadau diweddar fel rhan o adroddiad llys. Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf fod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i hwyluso ymateb clir, manwl a chyflym i bob ymholiad. |
| 2.1.09 Pob achos | A gynhaliwyd asesiad a dadansoddiad digonol o’r risg i blant? | Os oes risgiau neu risgiau posib i blant, disgwyliwn i unrhyw wybodaeth berthnasol am amddiffyn plant a diogelu plant gael ei defnyddio wrth asesu’r achos. Dylai’r asesiad ddisgrifio unrhyw ymddygiad a ddangosir gan y sawl sydd ar brawf sy’n gysylltiedig ag unrhyw risgiau i blant. Dylai hynny gynnwys trais uniongyrchol neu fygythiadau o drais, niwed rhywiol neu fygythiadau o niwed rhywiol, ac unrhyw ymddygiad meithrin perthynas amhriodol. Dylai hefyd gynnwys unrhyw ymddygiad arall, fel cam-drin domestig, sy’n debygol o gael effaith ar blant er nad ydynt yn ddioddefwyr uniongyrchol. Dylai hyn gynnwys ymddygiad sydd wedi arwain at euogfarnau, ac ymddygiad arall y rhoddwyd gwybod amdano nad yw wedi arwain at euogfarnau, a dylai wahaniaethu rhwng y ddau. Dylai dadansoddiad esbonio’n glir unrhyw batrymau ymddygiad y mae’r unigolyn wedi’u dangos. Dylid trafod unrhyw risgiau gyda’r unigolyn fel rhan o’r broses asesu. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos | A gynhaliwyd asesiad a dadansoddiad digonol o’r risg o niwed drwy drosedd rywiol? | Os oes unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed rhywiol yn yr achos, dylai’r asesiad ddisgrifio unrhyw ymddygiad a ddangosir gan y sawl sydd ar brawf sy’n gysylltiedig â throseddu rhywiol gwirioneddol neu bosib. Dylid gwahaniaethu’n glir rhwng ymddygiad cyswllt ac ymddygiad digyswllt; a rhwng ymddygiad sydd wedi arwain at euogfarnau ac ymddygiad sydd heb arwain at euogfarnau. Dylid nodi unrhyw ffactorau perthnasol sy’n ymwneud â dioddefwyr a dioddefwyr posib, gan gynnwys oedran a rhyw. Dylai dadansoddiad esbonio’n glir unrhyw batrymau ymddygiad, a’r ffordd o feddwl sylfaenol, i gefnogi’r gwaith o nodi risgiau yn y dyfodol. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos | A gynhaliwyd asesiad a dadansoddiad digonol o’r risg o niwed drwy drosedd gasineb? | Os oes unrhyw ffactorau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad sy’n seiliedig ar gasineb yn yr achos, dylai’r asesiad ddisgrifio’r ymddygiad hwnnw, p’un ai fod wedi arwain at euogfarn gydag elfen sy’n seiliedig ar gasineb ai peidio. Dylai’r asesiad ddadansoddi’r ymddygiad a’r meddyliau a’r credoau sylfaenol, er mwyn cefnogi’r gwaith o nodi risgiau yn y dyfodol. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos | A gynhaliwyd asesiad digonol o drais, bygythiadau ac agweddau ac ymddygiadau niweidiol (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â cham-drin domestig, diogelu plant, ymddygiad sy’n seiliedig ar gasineb ac ymddygiad rhywiol niweidiol)? | Mae’r cwestiwn hwn yn ymdrin ag amrywiaeth o ymddygiad a allai fod yn niweidiol, ar wahân i ymddygiad sy’n ymwneud yn uniongyrchol â cham-drin domestig, diogelu plant neu ymddygiad rhywiol niweidiol. Gall hyn gynnwys troseddau gyrru, stelcio (ac eithrio stelcio sy’n ymwneud â cham-drin domestig), trais cyfryngol, trais adweithiol, trais grŵp neu ymddygiad sy’n seiliedig ar gymhelliant gwleidyddol. Dylai’r asesiad nodi unrhyw ffactorau ac ymddygiad perthnasol, p’un a ydynt wedi arwain at euogfarn ai peidio. Dylai’r dadansoddiad archwilio unrhyw feddyliau a chredoau sylfaenol, er mwyn cefnogi’r gwaith o nodi risgiau yn y dyfodol. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos | Beth yw dosbarthiad risg o niwed difrifol yr unigolyn ar brawf (ar ddechrau’r gorchymyn neu’r drwydded) yn ôl yr ymarferydd prawf? | Rydym yn cydnabod diffiniadau OASys o’r lefelau o niwed difrifol. ‘Diffinnir niwed difrifol fel digwyddiad sy’n bygwth bywyd a/neu’n drawmatig, ac y gellir disgwyl i adferiad, boed yn gorfforol neu’n seicolegol, fod yn anodd neu’n amhosibl.’ Er ein bod yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu nodi a’u dadansoddi, wrth asesu lefel y risg o niwed, rydym yn edrych ar lefel y risg o niwed difrifol. Dylai’r asesiad fod yn benodol ynghylch yn union pa niwed a allai gael ei achosi a’r amgylchiadau lle mae niwed yn fwyaf tebygol o ddigwydd yn y dyfodol. Y rhagfynegydd gorau ar gyfer ymddygiad yn y dyfodol yw ymddygiad yn y gorffennol. Diffinnir lefel y niwed difrifol yn nhermau’r tebygolrwydd y bydd ymddygiad niweidiol difrifol yn digwydd. Dyma ddiffiniadau o lefelau RoSH: Uchel iawn: Mae RoSH ar fin digwydd. Mae’r digwyddiad posib yn fwy tebygol na pheidio o ddigwydd yn fuan iawn, a byddai’r effaith yn ddifrifol. Uchel: Mae dangosyddion amlwg o RoSH. Gallai’r digwyddiad posib ddigwydd unrhyw bryd a byddai’r effaith yn ddifrifol. Canolig: Mae dangosyddion amlwg o RoSH. Mae gan y troseddwr y potensial i achosi niwed difrifol ond nid yw’n debygol o wneud hynny oni bai fod yr amgylchiadau’n newid Isel: Nid yw’r dystiolaeth bresennol yn dangos ei bod yn debygol yr achosir niwed difrifol. Dylai’r asesiad fod yn glir ynghylch lefel a natur y risg a gyflwynir i unrhyw/pob categori o ddioddefwr gwirioneddol neu bosib. Wrth asesu’r tebygolrwydd o ymddygiad niweidiol difrifol, rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ystyried y canllawiau canlynol. Gallai asesiad o RoSH isel fod yn briodol os: • nad oes unrhyw ffactorau o gwbl sy’n dangos y potensial ar gyfer ymddygiad niweidiol iawn • oes ffactorau sy’n dangos y potensial ar gyfer ymddygiad niweidiol difrifol, ond mae tystiolaeth dda bod y ffactorau hynny’n cael eu lliniaru gan gyfuniad o ffactorau mewnol ac allanol, ac mae amgylchiadau’r unigolyn sydd ar brawf yn sefydlog ac yn debygol o aros felly. Dylid asesu RoSH canolig os oes ffactorau sy’n dangos y potensial i niwed difrifol gael ei achosi ond mae hyn yn annhebygol o ddigwydd oni bai fod amgylchiadau’n newid. Lle mae ffactorau ar hyn o bryd sy’n dangos y potensial ar gyfer ymddygiad niweidiol difrifol, rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ystyried y canlynol, wrth farnu lefel RoSH: • Beth mae’r ffactorau sefydlog yn yr achos a’r rhagfynegyddion ystadegol yn eu dangos? Mae pobl hŷn yn llai tebygol o aildroseddu. Gallai sgoriau uwch ar yr adnodd Risg o Aildroseddu Difrifol a Rhagfynegydd Trais OASys ddangos mwy o debygolrwydd o ymddygiad niweidiol difrifol yn y dyfodol. • Beth rydym yn ei wybod am y ffactorau risg dynamig sefydlog? Gall hyn gynnwys materion fel y gallu i ddatrys problemau neu reoli emosiynau. Gall presenoldeb amrywiaeth o ffactorau risg dynamig sefydlog, neu sy’n gwella, leihau’r lefel RoSH a asesir. • Beth rydym yn ei wybod am y ffactorau risg dynamig acíwt? Gall hyn gynnwys materion fel camddefnyddio sylweddau neu ymateb tebygol i ffactorau sy’n achosi straen. Gall presenoldeb nifer o ffactorau risg dynamig acíwt gynyddu’r lefel RoSH a asesir. • Beth sy’n hysbys am gryfderau’r unigolyn ar brawf, gan gynnwys ffactorau amddiffynnol mewnol (fel teimlo’n rhan o’r gymuned neu fod yn obeithiol am y dyfodol)? Gall presenoldeb cryfderau hysbys leihau lefel y RoSH a asesir. • Pa adnoddau neu wasanaethau sydd ar gael i’r unigolyn ar brawf, gan gynnwys perthnasoedd teuluol cefnogol neu fynediad at wasanaethau adsefydlu? • Beth sy’n hysbys am allu a chymhelliant yr unigolyn ar brawf i newid? I ba raddau y mae’r unigolyn ar brawf wedi dangos ei fod yn gallu ac yn fodlon ymgysylltu â rheoli risg? Gall tystiolaeth o ymrwymiad i newid a chydweithredu â threfniadau rheoli risg leihau lefel y RoSH a asesir. • Beth yw’r amgylchiadau lle gallai ymddygiad niweidiol difrifol godi, a pha mor debyg yw’r amgylchiadau presennol? • A oes tystiolaeth bod y sawl sydd ar brawf yn mynd ati i chwilio am gyfleoedd i droseddu? • A oes tystiolaeth bod y sawl ar brawf yn ymddwyn mewn ffordd arall sy’n cynyddu’r tebygolrwydd o niwed difrifol yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol? Nid yw diffyg mynediad ar unwaith at ddioddefwyr, boed hynny drwy garcharu, trefniadau amddiffyn plant neu ddod â pherthynas i ben, neu gyfyngiadau allanol eraill, ynddo’i hun yn rheswm dros ostwng lefel y RoSH a aseswyd. Gall tystiolaeth bod y sawl sydd ar brawf yn cydymffurfio’n wirioneddol â threfniadau i amddiffyn dioddefwyr neu leihau mynediad at ddioddefwyr, gyfrannu at ostwng y lefel o RoSH a aseswyd. |
| Pob achos | Ydy dosbarthiad yr ymarferydd prawf o risg o niwed difrifol yn rhesymol? | Yn y cwestiwn hwn, rydym yn edrych ar ddosbarthiad cyffredinol y risg o niwed difrifol, a’r lefelau unigol a aseswyd ar gyfer pob grŵp penodol o ddioddefwyr posib. Mewn achosion sy’n agos at ffin rhwng lefelau dosbarthiad, bydd arolygwyr yn ystyried a oedd dosbarthiad yr ymarferydd prawf yn rhesymol yng nghyd-destun yr holl wybodaeth a oedd ar gael iddo ar y pryd. Rydym yn cydnabod bod union lefel RoSH yn bwynt ar gontinwwm, ac ar gyfer achosion sy’n agos at y ffin rhwng dwy lefel, bod y dosbarthiad o’r union lefel yn gofyn am ddyfarniad manwl. Disgwyliwn weld eglurhad clir o’r rhesymau dros bennu pob lefel benodol o RoSH, yn seiliedig ar ddiffiniadau OASys. Os nad yw arolygwyr yn credu bod dosbarthiad yr ymarferydd yn rhesymol, byddant yn cofnodi’r rhesymau dros hynny. |
| Pob achos | A gafwyd gwybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant a’i defnyddio fel rhan o’r asesiad o addasrwydd ar gyfer cyrffyw? | Mewn achosion lle cynigir cyrffyw sy’n cael ei fonitro’n electronig, gan gynnwys cyrffyw cyfyngu i’r cartref a chyrffyw fel un o ofynion dedfryd gymunedol, rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael a defnyddio gwybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant. Dylid gofyn am wybodaeth am gam-drin domestig ym mhob achos. Dylai’r wybodaeth a geir fod yn ddigonol i nodi unrhyw ymddygiad hysbys neu risg o niwed mewn cysylltiad â chyfeiriad arfaethedig y cyrffyw ac unrhyw breswylwyr yno, a hefyd unrhyw ymddygiad sy’n gysylltiedig ag unigolion eraill neu amgylchiadau a allai awgrymu risg barhaus o gam-drin domestig. Credwn na ddylid cynnig cyrffyw os oes unrhyw dystiolaeth o risg barhaus o gam-drin domestig. Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth glir yn cael ei chofnodi sy’n dangos a ofynnwyd i’r unigolyn a oes ganddo blant neu a yw mewn cysylltiad â phlant (er mwyn i ni wybod a oes angen gwybodaeth am amddiffyn plant neu ddiogelu plant). Rydym yn disgwyl i’r Gwasanaeth Prawf gael gwybodaeth am amddiffyn plant a diogelu plant ym mhob achos lle ystyrir cyrffyw, lle: • mae gan yr unigolyn blant, neu • mae gan yr unigolyn gyswllt â phlant, neu • mae’r unigolyn yn cyflwyno risg bosib o niwed i blant. Dylai’r wybodaeth a geir fod yn ddigonol i ganfod a yw’r unigolyn yn peri unrhyw risg barhaus o niwed i blant a allai fod yn byw yng nghyfeiriad arfaethedig y cyrffyw neu’n ymweld ag ef. Credwn na ddylid cynnig cyrffyw os oes unrhyw dystiolaeth o risg barhaus i blant yng nghyfeiriad arfaethedig y cyrffyw. |
Asesu (Back to top)
Mae asesu yn cyfeirio at y broses asesu, nid dim ond at baratoi un ddogfen asesu. Mae’r adran hon yn cyfeirio at yr asesiad cyffredinol ar ddechrau’r ddedfryd gymunedol neu’r drwydded.
Ffynonellau tystiolaeth:
Gall tystiolaeth ar gyfer y safon asesu ddod o’r cyfweliad gyda’r ymarferydd prawf a chofnodion achos parhaus, gan gynnwys adroddiadau llys, yn ogystal ag unrhyw asesiad OASys ysgrifenedig. Mae’r adran hon yn cyfeirio at yr asesiad cyffredinol ar ddechrau’r gorchymyn neu’r drwydded sy’n cael ei harolygu.
Amserlenni:
Nid ydym yn nodi’r amserlen ar gyfer cynnal yr asesiad, ond os oes oedi cyn cynnal elfennau sylweddol o’r asesiad, gall hynny arwain at ddyfarniad negyddol, hyd yn oed pan fydd unrhyw asesiad terfynol yn ddigon da. Os yw’r unigolyn sydd ar brawf wedi bod yn destun dedfrydau eraill ar yr adeg y dechreuodd y ddedfryd hon, gellir ystyried asesiadau blaenorol, ond byddem yn disgwyl iddynt gael eu diweddaru ar gyfer y ddedfryd. Mewn rhai achosion, bydd y sawl sydd ar brawf wedi cael dedfrydau cymunedol/goruchwyliaeth ar ôl rhyddhau ychwanegol gan ddechrau ar ôl dyddiad y ddedfryd sy’n cael ei harolygu. Byddem yn disgwyl gweld ailasesiad yn yr amgylchiadau hynny, ond bydd y gwaith hwnnw’n cael ei arolygu o dan y safon ‘Adolygu’.
Risg o niwed:
Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i asesiad roi sylw i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed (nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol).
Achosion ar ôl rhyddhau:
Mewn achosion ar ôl rhyddhau, rydym yn edrych ar asesu o’r adeg rhyddhau. Lle bu asesiad yn y cyfnod yn union cyn rhyddhau, gellir cynnwys hynny fel rhan o’r dystiolaeth ar gyfer y cwestiynau hyn.
Achosion lle mae Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf wedi cael eu defnyddio:
Pan fydd cwestiynau’n berthnasol mewn achosion craidd ac wedi’u haddasu, rydym yn disgwyl i’n cwestiynau asesu gael eu bodloni i’r un lefel ym mhob achos lle mae Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf wedi cael eu defnyddio, ni waeth beth fo hyd y cyswllt gweithredol. Y rheswm am hyn yw mai asesiad digonol yw’r sylfaen angenrheidiol ar gyfer darparu gwasanaethau naill ai gan y Gwasanaeth Prawf, neu fel rhan o gynllunio ar gyfer ymadael a bod trosglwyddo i wasanaethau eraill ar y pwynt cyswllt yn cael ei atal.
| A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | |||
| Cwestiwn arolygu | CARaG Rheolau a chanllawiau asesiadau achos | ||
| 2.3.24 Pob achos | A yw’r gwaith asesu yn nodi ac yn dadansoddi’n glir unrhyw risg o niwed i eraill? | Egwyddorion arolygu Ein hegwyddor allweddol yw ein bod yn arolygu ansawdd asesu yn gyffredinol yn hytrach na defnyddio unrhyw ddogfen, offeryn neu broses benodol. Nid ydym yn gofyn am ddefnyddio unrhyw offeryn asesu penodol, ond yn hytrach rydym yn barnu ansawdd yr asesu yn ei gyfanrwydd. Mae ein dyfarniadau’n seiliedig ar y broses asesu gyffredinol, gan gynnwys tystiolaeth o’r canlynol: OASys (sgrinio RoSH, dadansoddiad llawn, ac adrannau eraill) • unrhyw asesiadau penodol eraill a gynhaliwyd • cofnodion achos parhaus • unrhyw gyfweliad gyda’r swyddog cyfrifol • gwybodaeth o ffynonellau allanol, gan gynnwys cofnodion Timau Troseddau Ieuenctid, lle bo’n berthnasol. Rydym yn arolygu yn erbyn y cwestiynau rydym wedi’u cyhoeddi, nid yn erbyn cydymffurfedd y Gwasanaeth Prawf ag unrhyw bolisi penodol ar asesu. Mewn unrhyw asesiad risg o niwed, rydym yn disgwyl i’r holl ffactorau, neu unrhyw un ohonynt sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu nodi a’u dadansoddi, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Dylid disgrifio’r ymddygiad gwirioneddol sy’n gysylltiedig â’r potensial ar gyfer niwed yn y dyfodol; nid yw enwi’r drosedd y mae person wedi’i gael yn euog ohoni yn ddigon. Dylai’r dadansoddiad egluro’r cymhelliant a’r ffordd o feddwl sy’n sail i’r ymddygiad, ac agwedd yr unigolyn ato, fel rhan o’r sail ar gyfer gallu asesu risgiau yn y dyfodol. Rydym yn disgwyl gweld dadansoddiad clir o unrhyw risgiau i blant (sy’n hysbys i’r unigolyn neu i blant yn gyffredinol), ac o unrhyw risgiau cam-drin domestig (i bartneriaid agos a/neu aelodau eraill o’r teulu). Mae niwed yn cynnwys niwed corfforol, niwed rhywiol a niwed seicolegol. Rydym yn disgwyl i swyddogion cyfrifol nodi’r potensial ar gyfer niwed seicolegol tymor hir sy’n deillio o droseddau di-drais, fel esgeuluso plant neu gam-drin domestig. Dylai asesiad risg o niwed ystyried: asesiadau risg actiwaraidd (gan gynnwys rhagfynegyddion Risg o Aildroseddu Difrifol (RSR) ac OASys ar gyfer troseddu rhywiol a threisgar (OVP, OSP/DC, OSP/IIC) ffactorau risg sefydlog, gan gynnwys oedran a rhywedd, a natur, nifer ac amgylchiadau euogfarnau blaenorol ffactorau risg dynamig (a all fod yn acíwt neu’n sefydlog) • ffactorau risg deinamig acíwt yw’r rheini sydd â’r potensial i newid yn gyflym, fel camddefnyddio sylweddau • ffactorau risg deinamig sefydlog yw’r rheini a allai newid dros gyfnod hirach, fel y gallu i ddatrys problemau neu ymateb i drawma cryfderau’r defnyddiwr gwasanaeth, gan gynnwys ffactorau amddiffynnol mewnol (fel teimlo’n rhan o’r gymuned neu fod yn obeithiol am y dyfodol) yr adnoddau sydd ar gael i’r defnyddiwr gwasanaeth, neu ffactorau amddiffynnol allanol (gan gynnwys perthnasoedd personol cadarnhaol a mynediad at ymyriadau adsefydlu) y gallu a’r cymhelliant i newid (gan gynnwys i ba raddau y mae’r defnyddiwr gwasanaeth yn gallu ac yn barod i ymwneud â rheoli risg). Rydym yn disgwyl gweld gwybodaeth yn cael ei dilysu lle bo hynny’n bosib, a hygrededd a pherthnasedd y wybodaeth yn cael ei hystyried. Rydym hefyd yn ystyried cynnwys unrhyw asesiadau arbenigol a gynhaliwyd yn yr achos. | |
| 2.3.27 Pob achos | A yw’r gwaith asesu yn gwneud defnydd digonol o ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael, gan gynnwys ymddygiad ac euogfarnau blaenorol, ac yn cynnwys asiantaethau eraill lle bo’n briodol? | Rydym yn disgwyl i’r asesiad fod yn seiliedig ar yr holl ffynonellau gwybodaeth sydd ar gael. Gallai hyn gynnwys cofnodion goruchwylio cyfredol a blaenorol, asesiadau gan asiantaethau eraill (gan gynnwys gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid, darparwyr gofal iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion), asesiadau arbenigol, a gwybodaeth am elfen garchar y dedfrydau. Dylid hefyd ystyried gwybodaeth gan y sawl sydd ar brawf (ac aelodau ei deulu, os ydynt ar gael). Dylai asesiadau ystyried euogfarnau blaenorol ac ymddygiad blaenorol hysbys neu a amheuir, gan gynnwys gwybodaeth am droseddu dramor. Rydym yn disgwyl i’r ymarferydd prawf geisio cymaint o wybodaeth berthnasol â phosib, fel sail i’r asesiad. Fodd bynnag, ni ddylid oedi cyn cynnal yr asesiad heb fod angen os nad oes rhywfaint o wybodaeth ar gael. Bydd lefel y wybodaeth sydd ar gael yn amrywio, yn dibynnu ar natur yr achos. Mae ein dyfarniadau’n seiliedig ar y ffynonellau gwybodaeth y byddai’n rhesymol i’r ymarferydd prawf fod wedi gallu cael gafael arnynt adeg yr asesiad. Dylai ymarferwyr prawf fynd ati i chwilio am yr holl wybodaeth berthnasol; os oes angen, dylent ddefnyddio prosesau uwchgyfeirio i gael gafael ar ffynonellau gwybodaeth allweddol sy’n cael eu cadw gan asiantaethau eraill. Daw gwybodaeth am euogfarnau cyfredol a blaenorol o ddogfennau’r erlyniad, cofnodion prawf a’r sawl sydd ar brawf. Mewn rhai achosion, bydd gwybodaeth ychwanegol yn dod o ffynonellau allanol, fel y tîm troseddau ieuenctid, cofnodion carchardai, yr heddlu, y Gofrestr Troseddwyr Treisgar a Throseddwyr Rhyw (ViSOR) a MAPPA. Gallai gwybodaeth am ymddygiad yn y gorffennol (heb euogfarn) ddod o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys y sawl sydd ar brawf, aelodau o’i deulu a gweithwyr proffesiynol eraill sy’n gweithio gydag ef. Gall hyn gynnwys ymatebion i orchmynion blaenorol, ymddygiad ieuenctid a barn ymarferwyr blaenorol. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr ystyried effaith unrhyw drawma a brofir gan yr unigolyn ar y risg i eraill. Mewn rhai achosion, ni fydd unrhyw euogfarnau blaenorol na gwybodaeth am ymddygiad yn y gorffennol. Dylai ymarferwyr prawf fod yn gyson wrth geisio cael gwybodaeth gan sefydliadau eraill. Dylent ddadansoddi a yw ymddygiad yn y gorffennol yn dal yn berthnasol, ac o dan ba amgylchiadau y gallai’r ymddygiad ddod i’r amlwg. Enghraifft o hyn fyddai ailddechrau yfed ar ôl cyfnod o ymatal. Os yw’r sawl sydd ar brawf yn wladolyn tramor, mae canllawiau mewnol y Gwasanaeth Prawf yn nodi sut y gellir cael gafael ar wybodaeth berthnasol, gan gynnwys gan y Swyddfa Gartref a’r Hyb Troseddwyr sy’n Wladolion Tramor (FNO). | |
| 2.3.28 Pob achos | A yw’r gwaith asesu yn dadansoddi unrhyw risgiau a phryderon penodol sy’n gysylltiedig â dioddefwyr gwirioneddol a phosib? | Dylai asesiadau nodi, lle bo’n bosib, unrhyw ddioddefwyr gwirioneddol neu bosib, gan ddefnyddio’r categorïau canlynol: y cyhoedd, oedolion hysbys, plant, staff a charcharorion. O fewn y penawdau eang hyn, dylai’r asesiad nodi’n glir unrhyw is-grwpiau sy’n fwy tebygol o fod mewn perygl, fel ‘y cyhoedd – cyfoedion mewn tafarndai/clybiau’, ‘oedolion hysbys – neiniau a theidiau’, ‘plant – o fewn cylchoedd teulu a chyfeillgarwch’ neu ‘staff – swyddogion heddlu a diogelwch’. Wrth asesu pwy allai fod yn ddioddefwyr posib yn y dyfodol, rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf chwilio am batrymau ymddygiad sy’n cael eu hailadrodd ac felly sy’n debygol o ddigwydd eto. Dylid rhoi sylw i unrhyw nodweddion amrywiaeth penodol sydd gan y dioddefwr a allai naill ai ei wneud yn fwy tebygol o gael ei dargedu, neu ei gwneud yn anoddach iddo roi gwybod am droseddau. Rydym yn disgwyl i’r asesiad fod yn glir ynghylch a oes risg barhaus i unrhyw ddioddefwyr troseddau presennol neu flaenorol. Dylai’r asesiad nodi natur a lefel unrhyw risgiau parhaus i ddioddefwyr presennol neu flaenorol, ac i unrhyw ddioddefwyr posib y gellir eu hadnabod. | |
| P 2.1.3 | Dyfarniad cryno: A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | Bydd arolygwyr yn barnu a yw ansawdd cyffredinol yr asesiad risg o niwed yn diwallu anghenion yr achos, gan ystyried natur a lefel y risg o niwed yn yr achos, a byddant yn chwilio am ddull cymesur o asesu. • Ystyriwch dystiolaeth o’r cwestiynau yn yr adran hon yn unig, gan ganolbwyntio ar weithgarwch ac effaith, nid dim ond cydymffurfedd â phrosesau’r Gwasanaeth Prawf • Beth sydd wedi cael ei wneud a beth oedd effaith hynny o ran asesu? • Beth sydd wedi cael ei hepgor, a faint o wahaniaeth mae hynny wedi’i wneud i’r achos o ran effaith wirioneddol neu bosib? • Esboniwch pa bwysoliad a roddir i ba ffactorau, gan gofio’r asesiad cyffredinol i gadw pobl yn ddiogel. • Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond am asesiad digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig â risg o niwed. Lle nad oedd unrhyw ffactorau’n gysylltiedig â’r risg o niwed, mae’r arolygwyr yn ateb ‘ydi’. | |
Cynllunio (Back to top)
Mae cynllunio yn cynnwys yr holl weithgarwch cynllunio, nid dim ond paratoi cynllun ysgrifenedig. Gall tystiolaeth ar gyfer y safon hon ddod o’r cyfweliad gyda’r ymarferydd prawf a chofnodion achos parhaus, yn ogystal ag o OASys. Dylai’r cynllunio fod yn gymesur â risg ac anghenion yr unigolyn, ac â natur y ddedfryd a’i gofynion. Rhaid i’r cynllun fod yn ddealladwy i’r sawl sydd ar brawf ac asiantaethau eraill. Dylai’r sawl sydd ar brawf ddeall ei rôl yn y gwaith cynllunio, a’r camau gweithredu a ddisgwylir ganddo. Pan fydd pobl ar brawf yn destun amrywiaeth o gynlluniau (dedfryd, MAPPA, amddiffyn plant ac ati), dylid cydlynu’r rhain, gan gynnwys cytuno ar drefn y camau gweithredu.
Achosion ar ôl rhyddhau:
Mewn achosion ar ôl rhyddhau, rydym yn edrych ar gynllunio ar ôl rhyddhau o dan y safon hon. Lle bu cynllunio yn y cyfnod yn union cyn rhyddhau, gellir cynnwys hynny fel rhan o’r dystiolaeth ar gyfer y safon hon.
Achosion lle mae Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf wedi cael eu defnyddio:
Rydym ni’n disgwyl cynllunio mewn achosion lle mae Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf wedi cael eu defnyddio i ddarparu ar gyfer gweithgarwch yn ystod cyswllt gweithredol, a gwasanaethau y gellir eu cynnig ar ôl i’r cyswllt gael ei atal dros dro, fel rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer ymadael. Mewn achosion lle rydym yn defnyddio safonau wedi’u haddasu, lle mae cyfnod cyswllt byr iawn, neu ddim cyfnod cyswllt o gwbl, dylai’r gwaith cynllunio fod yn gymesur er mwyn mynd i’r afael â beth, os o gwbl, y gellir ei gyflawni yn ystod y cyfnod o gyswllt gweithredol, a beth fydd yn cael ei gynnig fel rhan o’r gwaith cynllunio ar gyfer ymadael. Byddwn yn chwilio am dystiolaeth mewn dogfennau cynllunio ffurfiol a chysylltiadau â’r unigolyn sydd ar brawf.
Risg o niwed:
Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i waith gael ei gynllunio i fynd i’r afael â’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol.
| A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | ||
| Cwestiwn arolygu | CARaG Rheolau a chanllawiau asesiadau achos | |
| Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed fod yn destun gwaith cynllunio, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Felly, bydd rhai achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg isel o niwed difrifol yn galw am gynllunio i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â niwed. | ||
| 2.4.20 Pob achos | A yw’r gwaith cynllunio’n mynd i’r afael â ffactorau risg o niwed yn ddigonol ac yn blaenoriaethu’r rhai sydd fwyaf hanfodol? | Dylai’r gwaith cynllunio nodi gweithgareddau ac ymyriadau sy’n lleihau unrhyw risg adnabyddadwy o niwed i eraill (nid RoSH yn unig), a mynd i’r afael â’r holl ffactorau sy’n berthnasol i gadw pobl eraill yn ddiogel. Dylai gwaith cynllunio gynnwys gwaith i’w wneud yn uniongyrchol gyda’r unigolyn ar brawf, a gwaith i’w wneud gan y Gwasanaeth Prawf, o bosib ar sail amlasiantaeth. Dylai’r unigolyn sydd ar brawf fod yn rhan o’r gwaith cynllunio i fynd i’r afael â diogelwch pobl eraill. Dylai’r gwaith cynllunio nodi pwy sydd i gwblhau’r gweithgareddau, a sut mae’r unigolyn sydd ar brawf yn gwybod pan fydd y canlyniad wedi’i gyflawni. Dylai roi sylw i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i gadw pobl eraill yn ddiogel, ni waeth a gawsant eu nodi yn y cam asesu ai peidio. Dylai cynllunio flaenoriaethu’r ffactorau mwyaf critigol, sef y rhai sydd â’r cysylltiad cryfaf â’r tebygolrwydd o niwed yn cael ei achosi. Dylai’r cynllunio fod yn gymesur â natur y ddedfryd, a lefel a natur y risg o niwed. Mewn achosion ar ôl rhyddhau, dylai’r cynllunio cychwynnol gynnwys staff o’r carchar, a dylai ystyried risgiau yn amgylchedd y carchar ac yn y gymuned. Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt yn cael ei atal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer y cyfnod goruchwylio gweithredol a hefyd trefniadau clir ynghylch sut bydd y ffactorau risg o niwed yn cael eu holrhain gan asiantaethau eraill, ar ôl i’r oruchwyliaeth gael ei hatal dros dro. |
| 2.4.21 Pob achos | A yw’r gwaith cynllunio’n nodi’r ymyriadau adeiladol a/neu gyfyngol angenrheidiol i reoli’r risg o niwed? | Gan ddibynnu ar lefel a natur y risg yn yr achos unigol, nid yw’r holl elfennau hyn yn angenrheidiol ym mhob achos. Gall cynllunio ar gyfer ymyriadau adeiladol gynnwys: • goruchwyliaeth fel rhan o’r gorchymyn neu’r drwydded, a goruchwyliaeth y gellir ei chynnig gan sefydliadau eraill sy’n gweithio gyda’r sawl sydd ar brawf • ymyriadau penodol â ffocws, gan gynnwys rhaglenni achrededig, gweithgareddau RAR neu ymyriadau un-i-un sydd wedi’u cynllunio i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed • cynllunio sy’n ystyriol o drawma, lle bo angen. Gall cynllunio ar gyfer ymyriadau cyfyngol gynnwys: • mesurau rheoli fel cyrffyw neu lety mewn adeilad cymeradwy, sy’n anelu at gyfyngu ar allu’r sawl sydd ar brawf i achosi niwed • dod o hyd i leoliad gwaith di-dâl priodol er mwyn osgoi dod i gysylltiad â dioddefwyr posib • monitro gweithgareddau gan yr ymarferydd prawf, yr heddlu neu eraill, i sicrhau cydymffurfedd a nodi newidiadau mewn ffactorau risg • cynllunio i gadw dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posib yn ddiogel, gan gynnwys amodau trwydded penodol a rhannu gwybodaeth. Bydd arolygwyr yn barnu a ddefnyddiwyd pob ymyriad adeiladol a chyfyngol rhesymol, yn dibynnu ar anghenion yr achos. Mewn rhai achosion, efallai mai ychydig iawn o ymyriadau cyfyngol fydd eu hangen, os o gwbl. Dylai pob achos lle ceir ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed gael o leiaf rhai ymyriadau adeiladol. Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt yn cael ei atal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl cynllunio ar gyfer y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a chynllunio ar gyfer rhannu gwybodaeth yn glir pan fydd goruchwyliaeth yn cael ei hatal dros dro, lle na fydd y Gwasanaeth Prawf yn darparu ymyriadau mwyach. |
| 2.4.22 Pob achos | A yw’r gwaith cynllunio’n gwneud cysylltiadau priodol â gwaith asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r sawl sydd ar brawf ac unrhyw gynlluniau amlasiantaeth? | Dylai cynnwys a rhesymeg cynlluniau asiantaethau eraill fod yn hysbys i’r ymarferydd prawf. Dylai copïau o’r cynlluniau fod ar gael yng nghofnod yr achos. Dylid integreiddio rhwng gwahanol gynlluniau, a dylent gefnogi ei gilydd. Pan fydd achos yn cael ei asesu fel risg uchel/uchel iawn o niwed, a bod angen rheoli risg amlasiantaeth sylweddol, mae’n hanfodol bod cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn nodiadau MAPPA, cofnodion diogelu plant, system rheoli risg weithredol (ARMS) ac OASys yn cyd-fynd â’i gilydd, a’u bod yn cyfeirio’n glir at ei gilydd, er mwyn hwyluso cydweithio a sicrhau bod modd cymryd camau brys yn ddiogel os oes angen. Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt yn cael ei atal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl cynllunio ar gyfer y cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth a chynllunio ar gyfer rhannu gwybodaeth yn glir pan fydd goruchwyliaeth yn cael ei hatal dros dro, lle na fydd y Gwasanaeth Prawf yn darparu ymyriadau mwyach. |
| 2.4.23 Pob achos | A yw’r gwaith cynllunio’n nodi’r trefniadau wrth gefn angenrheidiol ac effeithiol i reoli’r risgiau hynny sydd wedi’u nodi? | Dylai cynlluniau wrth gefn fod ar waith lle gellid rhagweld cynnydd yn lefel y risg o niwed. Mewn achosion RoSH canolig, gall y cynlluniau wrth gefn fod yn fyr. Mae angen cynlluniau wrth gefn manylach ar gyfer y rheini sy’n cyflwyno RoSH uchel neu uchel iawn. Dylai cynlluniau wrth gefn fod yn benodol a mynd i’r afael â bygythiadau posib hysbys. Gallai hyn gynnwys camau sydd eu hangen i amddiffyn dioddefwyr hysbys, neu newidiadau mewn trefniadau goruchwylio, gan gynnwys amrywio cyrffyw neu adalw, i fynd i’r afael ag ymddygiad arall sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed. Nid yw ymadroddion cyffredinol fel ‘ymgynghorwch â’r rheolwr’ neu ‘ystyriwch orfodi’ yn debygol o fod yn ddigonol. Gallai enghreifftiau o gamau wrth gefn gynnwys cyfeirio’r achos at wasanaethau gofal cymdeithasol plant os bydd rhywun sy’n gyfrifol am gam-drin domestig yn ffurfio perthynas ag unigolyn sydd â phlant; symud unigolyn sydd ar brawf i adeilad cymeradwy; rhannu gwybodaeth am y risg o niwed â sefydliadau sydd mewn cysylltiad â’r unigolyn sydd ar brawf; neu gynyddu lefel rheolaeth MAPPA. Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt yn cael ei atal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir wrth gefn ar gyfer y cyfnod goruchwylio gweithredol a throsglwyddo i asiantaethau eraill ar yr adeg y caiff goruchwyliaeth ei hatal dros dro. Dylai cynlluniau wrth gefn hefyd nodi ymatebion gofynnol i unrhyw wybodaeth y gallai’r Gwasanaeth Prawf ei derbyn ar ôl i’r cyswllt gael ei atal dros dro, a’r camau y dylid eu cymryd. Er enghraifft, os derbynnir gwybodaeth am newid cyfeiriad, disgwyliwn gynllunio clir ar gyfer sut y dylid rhannu’r wybodaeth honno ag asiantaethau eraill i sicrhau diogelwch plant neu bartneriaid. |
| P 2.2.3 | Dyfarniad cryno: A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | Bydd arolygwyr yn barnu a yw ansawdd cyffredinol y cynllunio i gadw pobl eraill yn ddiogel yn diwallu anghenion yr achos. Dylai cynllunio mewn achosion ar ôl rhyddhau ddechrau tua saith mis cyn rhyddhau, neu o’r pwynt dedfrydu ar gyfer dedfrydau byrrach (gydag arolygwyr yn cymryd agwedd gymesur at yr hyn sy’n rhesymol, gan gofio’r amser gwirioneddol a dreulir yn y ddalfa), a dylai gynnwys staff y carchar. Mae arolygwyr yn ystyried tystiolaeth o’r cwestiynau yn yr adran hon yn unig, gan ganolbwyntio ar weithgarwch ac effaith, nid dim ond cydymffurfedd â phrosesau’r Gwasanaeth Prawf • Beth sydd wedi cael ei wneud a beth oedd effaith hynny o ran cynllunio? • Beth sydd wedi cael ei hepgor, a faint o wahaniaeth mae hynny wedi’i wneud i’r achos o ran effaith wirioneddol neu bosib? • Esboniwch pa bwysoliad a roddir i ba ffactorau, gan gofio’r cynllun cyffredinol i gadw pobl yn ddiogel. • Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond am asesiad digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig â risg o niwed. Mewn achosion lle nad oedd unrhyw ffactorau’n gysylltiedig â’r risg o niwed, bydd yr arolygwyr yn ateb ‘ydi’. Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt yn cael ei atal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gweld cynllunio digonol ar gyfer y cyfnod goruchwylio gweithredol a chynllunio ar gyfer trosglwyddo clir i asiantaethau eraill ar yr adeg y caiff goruchwyliaeth ei hatal dros dro. |
Cwestiynau gwybodaeth am weithredu a chyflawni (Back to top)
| A yw’r ddedfryd neu’r cyfnod ar ôl carchar yn cael ei weithredu’n effeithiol gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf? | ||
| Cwestiwn arolygu | CARaG Rheolau a chanllawiau asesiadau achos | |
| 2.5.01 Achosion craidd yn unig | A yw gofynion y ddedfryd yn dechrau’n brydlon, neu ar adeg briodol, er mwyn cefnogi diogelwch y cyhoedd? | Rydym yn disgwyl i ofynion gorchymyn neu drwydded ddechrau’n brydlon, oni bai fod rheswm penodol y gellir ei amddiffyn dros beidio â gwneud hynny. Mewn gorchmynion neu drwyddedau sydd â nifer o ofynion, rydym yn disgwyl i’r gwahanol ofynion gael eu rhoi mewn trefn mewn ffordd synhwyrol. Mae angen i’r drefn hon fod yn hysbys i’r sawl sydd ar brawf a chan unrhyw asiantaethau partner sy’n cyflawni gofynion. Dylai unigolion allu cael gafael ar unrhyw ofynion penodol mewn da bryd, fel bod yr amserlen cwblhau yn caniatáu ar gyfer gwaith atgyfnerthu os oes angen. Bydd arolygwyr yn edrych ar gofnod yr achos ac yn siarad â’r ymarferydd prawf am y rhesymeg dros y drefn. Byddant yn llunio eu dyfarniadau ar sail y gwaith a’r ymyriadau sydd wedi’u cyflawni go iawn, yn hytrach na’r rheini sydd wedi’u cynllunio. Mewn achosion ar ôl rhyddhau, mae’r cwestiwn hwn yn cyfeirio’n benodol at ofynion ar ôl rhyddhau, nid at waith ailsefydlu cyn rhyddhau. Mewn achosion lle rhagwelir y bydd cyswllt yn cael ei atal o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl i’r gwaith o gyflawni’r gofynion gael ei ddarparu ymlaen llaw yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol, tra gall rhai gofynion (gwaith di-dâl a rhaglenni achrededig) barhau y tu hwnt i’r pwynt lle mae goruchwyliaeth yn cael ei hatal dros dro. |
| 2.5.05 Achosion craidd yn unig | A gymerwyd camau gorfodi pan oedd angen, i gefnogi diogelwch y cyhoedd? | Mae’r cwestiwn hwn yn cyfeirio at gamau gorfodi cynnar, gan gynnwys cyhoeddi llythyrau rhybuddio neu geisiadau i amrywio amodau trwydded, yn ogystal â chamau ffurfiol fel torri amodau neu adalw. Dylid cymryd camau gorfodi ffurfiol yn brydlon pan fo angen, i gefnogi diogelwch y cyhoedd. Ar gyfer pob penderfyniad am orfodi ffurfiol, rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ystyried lefel gyffredinol y cydymffurfio, unrhyw ffactorau sy’n ymwneud â’r risg o niwed neu’r tebygolrwydd o aildroseddu, a ‘budd y cyhoedd’ mewn gorfodi. Rydym yn disgwyl gweld penderfyniadau clir ynghylch sut yr eir ar drywydd materion gorfodi ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal. |
| Pob achos | A oedd Gwasanaethau Adsefydlu wedi’u Comisiynu yn ofynnol neu wedi’u defnyddio yn yr achos hwn i gefnogi diogelwch y cyhoedd? | Rydym yn disgwyl gweld Gwasanaethau Adsefydlu wedi’u Comisiynu yn cael eu defnyddio mewn ffordd sy’n cefnogi diogelwch y cyhoedd. Dylid rhannu gwybodaeth am y risg o niwed â darparwyr yn ystod y cam atgyfeirio, a dylid disgwyl adborth o unrhyw wybodaeth berthnasol am y risg o niwed. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pa mor dda y mae defnyddio’r gwasanaethau wedi cyfrannu at gefnogi diogelwch y cyhoedd. |
| 2.5.29 Pob achos gyda rhaglen achrededig | Pa amod/gofyniad rhaglenni achrededig a ddefnyddiwyd yn yr achos hwn? | Nodwn pa raglen achrededig a ddefnyddiwyd yn yr achos, os oedd gofyniad o’r fath. Bydd arolygwyr yn cofnodi pa mor dda y cyflawnwyd y rhaglen. Rydym yn disgwyl i ofynion y rhaglen, gan gynnwys gwaith cyn y rhaglen, ddechrau’n brydlon ac i’r rhaglen gael ei chyflawni mewn ffordd sy’n ystyried unrhyw nodweddion gwarchodedig sy’n gysylltiedig â materion amrywiaeth. Rydym yn disgwyl gweld cyfathrebu dwyffordd rhwng yr ymarferydd prawf a’r tîm ymyriadau. Dylai’r ymarferydd prawf roi gwybod i’r tîm ymyriadau am unrhyw newidiadau yn amgylchiadau neu lefel cymhelliant yr unigolyn. Dylai’r tîm ymyriadau fod yn rhagweithiol o ran rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r ymarferydd prawf am ddyddiadau dechrau tebygol ar gyfer gwaith grŵp, a’r wybodaeth ddiweddaraf am ymgysylltu a chynnydd yn ystod y sesiynau gwaith grŵp, yn benodol lle mae hynny’n berthnasol i ddiogelwch y cyhoedd. Mewn achosion perthnasol, bydd arolygwyr yn cofnodi i ba raddau y mae cyflawni rhaglenni achrededig wedi cefnogi diogelwch y cyhoedd yn gyffredinol. |
| 2.5.47 Pob achos MAPPA | Mewn achosion MAPPA, a oes tystiolaeth o oruchwyliaeth amlasiantaeth gydlynol, gan gynnwys cydweithio â’r heddlu? | Ym mhob achos MAPPA, beth bynnag fo’r categori a’r lefel, rydym yn disgwyl gweld dull gweithredu amlasiantaeth cydlynol. Rydym yn disgwyl gweld cydweithio â’r heddlu, yn enwedig mewn achosion lle mae’r sawl sydd ar brawf wedi cyflawni troseddau rhywiol. Ym mhob achos MAPPA, rydym yn disgwyl gweld goruchwyliaeth glir gan reolwyr ar waith yr ymarferydd prawf, ac ar berthynas waith yr asiantaethau eraill sy’n rhan o’r achos. Mewn achosion a reolir ar MAPPA Lefel 2 neu 3, rydym yn disgwyl gweld y trefniadau amlasiantaethol yn cydlynu cynllunio priodol i reoli diogelwch y cyhoedd, gan gynnwys dal asiantaethau eraill i gyfrif. Mewn achosion a reolir ar MAPPA Lefel 1, rydym yn disgwyl gweld y Gwasanaeth Prawf yn adolygu cynnydd yr achos yn glir, yn rheolaidd ac yn fanwl, gan gynnwys unrhyw gyswllt angenrheidiol ag asiantaethau eraill ac, os oes angen, ystyriaeth weithredol ynghylch a ddylid ystyried codi’r achos i’w reoli ar Lefel 2 neu 3. Bydd arolygwyr yn cofnodi eu canfyddiadau am ansawdd ac effaith rheolaeth MAPPA ar ddiogelwch y cyhoedd yn gyffredinol yn yr achos. |
| 2.5.43 Achosion craidd yn unig | A oedd gwaith amlasiantaeth effeithiol, gan gynnwys rhannu gwybodaeth, mewn perthynas â diogelu plant? | Mewn achosion lle mae pryderon gweithredol ar hyn o bryd ynghylch diogelu plant, rydym yn disgwyl gweld ymarferwyr prawf yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos. Mae hyn yn berthnasol mewn achosion lle mae pryderon am y plant yn codi gan yr unigolyn sydd ar brawf, a phan fydd plant sydd mewn cysylltiad â’r unigolyn sydd ar brawf mewn perygl oddi wrth eraill. Rydym yn disgwyl gweld gwybodaeth yn cael ei rhannu, o ran adroddiadau ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd amlasiantaeth, a diweddariadau anffurfiol i asiantaethau eraill, fel gofal cymdeithasol plant, am newidiadau yn yr achos. Rydym hefyd yn disgwyl gweld gwaith uniongyrchol gan yr ymarferydd prawf gyda’r sawl sydd ar brawf i fonitro’r sefyllfa ac i ddarparu ymyriadau adeiladol, yn ogystal â chyfyngol. Pan fydd unigolyn yn cael ei asesu fel risg ganolig o niwed i blant neu uwch, ond nad oes unrhyw bryderon gweithredol (nid oes ganddo blant ei hun ac nid yw’n hysbys ei fod mewn cysylltiad ag unrhyw blant) yna efallai na fydd angen rhagor o gyswllt amlasiantaeth, y tu hwnt i ymholiadau cychwynnol i gadarnhau hyn, nac ymholiadau ychwanegol i gadarnhau nad oes unrhyw newidiadau. Yn y sefyllfa hon, bydd arolygwyr yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol. Mewn achosion lle rhagwelir goruchwyliaeth yn cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gwaith uniongyrchol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Cyn atal cyswllt, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad dros dro a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol. Dylai’r Gwasanaeth Prawf fonitro’n weithredol unrhyw wybodaeth a dderbynnir mewn perthynas â diogelu plant ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal dros dro; dylid ymchwilio i wybodaeth newydd a ddaw i law a’i rhannu ag asiantaethau perthnasol eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau bod plant yn parhau i gael eu diogelu yn ystod y cyfnod atal. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| 2.5.44 Achosion craidd yn unig | A oedd gwaith amlasiantaeth effeithiol, gan gynnwys rhannu gwybodaeth, mewn perthynas â cham-drin domestig? | Mewn achosion lle mae pryderon ar hyn o bryd am gam-drin domestig, p’un ai’r sawl ar brawf sy’n gyfrifol am hynny, sydd wedi dioddef hynny, neu’r ddau, rydym yn disgwyl gweld ymarferwyr prawf yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth yn cael ei rhannu, o ran adroddiadau ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd amlasiantaeth, fel MARAC, a diweddariadau anffurfiol i asiantaethau eraill, fel yr heddlu a gweithwyr cam-drin domestig, am newidiadau yn yr achos. Rydym hefyd yn disgwyl gweld gwaith uniongyrchol gan yr ymarferydd prawf gyda’r sawl sydd ar brawf i fonitro’r sefyllfa ac i ddarparu ymyriadau adeiladol, yn ogystal â chyfyngol. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gwaith uniongyrchol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Cyn atal cyswllt, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad dros dro a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol. Dylai’r Gwasanaeth Prawf fonitro’n weithredol unrhyw wybodaeth a dderbynnir mewn perthynas â cham-drin domestig, gan gynnwys gwybodaeth am gyfeiriadau newydd neu bartneriaid newydd, ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal dros dro; dylid ymchwilio i wybodaeth newydd a ddaw i law a’i rhannu ag asiantaethau perthnasol eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau ymateb parhaus i’r posibilrwydd o gam-drin domestig yn ystod y cyfnod atal. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos lle mae hyn yn ffactor | A gafodd digon o waith ei wneud mewn perthynas ag ymddygiad rhywiol niweidiol? | Pan fydd ffactorau’n ymwneud â’r risg o ymddygiad rhywiol niweidiol, rydym yn disgwyl gweld gwaith uniongyrchol yn cael ei wneud gyda’r sawl sydd ar brawf i fynd i’r afael yn uniongyrchol â’r risg yn y dyfodol. Gallai hynny gynnwys gwaith un i un, rhaglen achrededig, a/neu gydweithio ag asiantaethau eraill. Rydym hefyd yn disgwyl gweld ymyriadau cyfyngol priodol yn cael eu rhoi ar waith i reoli’r risgiau hynny. Lle bo’n briodol, dylid gweithio gydag aelodau o’r teulu i gefnogi’r gwaith cyffredinol o reoli risg. Os yw’r achos yn droseddwr rhyw cofrestredig, rydym yn disgwyl gweld cyswllt gweithredol â rheolwyr troseddwyr yr heddlu i sicrhau dull gweithredu cydlynol. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos lle mae hyn yn ffactor | A gafodd digon o waith ei wneud mewn perthynas ag ymddygiad sy’n seiliedig ar gasineb? | Pan fydd ffactorau’n gysylltiedig ag ymddygiad sy’n seiliedig ar gasineb, rydym yn disgwyl gweld ymyriadau adeiladol a chyfyngol i fynd i’r afael â’r ymddygiad hwnnw. Gall hynny gynnwys gwaith i fynd i’r afael ag agweddau a chredoau sylfaenol, aelodaeth o grwpiau penodol neu gysylltiadau anffurfiol. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Pob achos lle mae hyn yn ffactor | A gafodd digon o waith ei wneud mewn perthynas â thrais, bygythiadau, agweddau ac ymddygiadau niweidiol (ac eithrio’r rhai sy’n ymwneud â cham-drin domestig, diogelu plant, ymddygiad sy’n seiliedig ar gasineb ac ymddygiad rhywiol niweidiol)? | Pan fydd ffactorau’n gysylltiedig â mathau eraill o drais, bygythiadau, agweddau ac ymddygiadau niweidiol, rydym yn disgwyl gweld ymyriadau adeiladol a chyfyngol i fynd i’r afael â’r ymddygiad hwnnw. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
Gweithredu a darparu (Back to top)
Delio â dedfrydau lluosog:
Mewn achosion lle mae’r unigolyn wedi bod yn destun dedfrydau cymunedol ychwanegol neu gyfnodau o oruchwyliaeth ar ôl rhyddhau ers dyddiad dechrau’r gorchymyn/goruchwyliaeth ar ôl rhyddhau sy’n destun arolygu, bydd arolygwyr yn ystyried y cyfnod cyfan o oruchwyliaeth barhaus ers y dyddiad dechrau hwnnw.
Os cafodd gorchymyn cymunedol ei ddiddymu a’i ddisodli gan orchymyn cymunedol cymwys arall, bydd y gwaith o’i gyflwyno a’i weithredu dan bob gorchymyn yn cael ei arolygu. Os cafodd dedfryd gymunedol ei diddymu ac nad oedd dedfryd gymunedol arall yn cymryd ei lle ar unwaith, dim ond gwaith hyd at y pwynt diddymu y bydd arolygwyr yn ei ystyried.
Os oedd trwydded wedi arwain at adalw, a bod yr unigolyn wedyn wedi cael ei ail-ryddhau ar drwydded newydd neu gyfnod o oruchwyliaeth ar ôl dedfrydu, bydd y cyfnod cyfan o oruchwyliaeth barhaus (gan gynnwys unrhyw amser a dreuliwyd yn y ddalfa ar adalw) yn cael ei ystyried.
Achosion ar ôl rhyddhau:
Mewn achosion ar ôl rhyddhau, rydym yn edrych ar waith a gyflawnwyd ar ôl rhyddhau o dan y safon hon.
Achosion lle mae Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf wedi cael eu defnyddio:
Rydym yn cydnabod, o dan drefniadau Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, bod y Gwasanaeth Prawf ar hyn o bryd yn gweithio yn unol â chanllawiau cenedlaethol sy’n caniatáu i gyswllt â phobl ar brawf gael ei atal cyn diwedd gorchmynion neu drwyddedau. Mewn achosion lle mae cyswllt yn cael ei atal am hyd at wyth wythnos ar ôl dechrau’r gorchymyn neu ryddhau ar drwydded, rydym yn defnyddio cwestiynau wedi’u haddasu. Mewn achosion wedi’u haddasu lle nad yw’r ataliad dros dro yn digwydd yn syth, rydym yn disgwyl gweld rhywfaint o ddarpariaeth gan y Gwasanaeth Prawf yn ystod y cyfnod cyswllt gweithredol; ym mhob achos rydym yn disgwyl tystiolaeth o ddarpariaeth drwy atgyfeirio ymlaen ac adeiladu cynlluniau ymadael ar gyfer pobl ar brawf. Nid ydym yn arolygu darpariaeth gan asiantaethau eraill y tu hwnt i’r pwynt lle mae goruchwyliaeth yn cael ei hatal.
Ym mhob achos lle mae cyswllt yn para mwy nag wyth wythnos, rydym yn disgwyl gweld darpariaeth ymlaen llaw i fodloni anghenion y sawl sydd ar brawf yn ystod y cyfnod cyswllt cyn atal.
Mewn achosion lle mae ychydig iawn o gyswllt fu â’r person ar brawf, er enghraifft oherwydd diffyg cydymffurfio neu adalw, bydd arolygwyr yn ateb cwestiynau am weithredu a chyflwyno ar sail yr hyn y byddai’n rhesymol disgwyl i’r ymarferydd prawf ei wneud o fewn cyfyngiadau o’r fath. Bydd arolygwyr yn nodi a yw gwasanaethau wedi cael eu darparu, neu heb gael eu darparu, ond ni fyddant yn barnu achos yn negyddol lle mae ffactorau y tu hwnt i reolaeth y Gwasanaeth Prawf wedi bod yn gyfrifol am lefel isel o ddarpariaeth.
Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i waith gael ei ddarparu i fynd i’r afael â’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. Felly, bydd rhai achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg isel o niwed difrifol yn galw am waith i fynd i’r afael â ffactorau sy’n gysylltiedig â niwed.
| A yw gweithredu a darparu gwasanaethau yn cefnogi diogelwch pobl eraill? | ||
| Cwestiwn arolygu | CARaG Rheolau a chanllawiau asesiadau achos | |
| 2.5.41 Achosion craidd yn unig | A yw lefel a natur y cyswllt a gynigir yn ddigon i reoli a lleihau’r risg o niwed? | Dylai cyswllt â phobl sydd ar brawf fod yn ddigon i ddarparu ymyriadau adeiladol, monitro RoSH a rhoi cyfleoedd i’r ymarferydd prawf wneud asesiad parhaus. Ar gyfer achosion sy’n cael eu hasesu fel rhai sy’n cyflwyno RoSH uchel neu uchel iawn, dylid cael cyswllt wythnosol heblaw mewn amgylchiadau eithriadol. Dylai natur y cyswllt adlewyrchu lefel a natur y risg o niwed. Lle bo’n briodol, dylai gynnwys ymweliadau cartref wedi’u cynllunio a heb eu cynllunio, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, a chyfarfodydd ar wahanol adegau o’r dydd. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gweld darpariaeth uniongyrchol o’r gwaith hwn yn ystod unrhyw gyfnod gweithredol o oruchwylio. Dylai cynlluniau ymadael roi unrhyw drefniadau posib ar waith i barhau i reoli a lleihau’r risg o niwed ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal, gan gynnwys rhannu gwybodaeth. |
| 2.5.42 Pob achos | A oes digon o sylw’n cael ei roi i ddiogelu dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posib? | Ym mhob achos, ni waeth a yw’r cynllun cyswllt â dioddefwyr statudol yn berthnasol ai peidio, rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf nodi a oes dioddefwr blaenorol neu ddioddefwyr posib eraill y gellir eu hadnabod a allai fod mewn perygl o niwed. Dyma’r sefyllfa’n aml mewn achosion cam-drin domestig neu amddiffyn plant. Bydd arolygwyr yn chwilio am reolaeth weithredol ar yr achos sy’n rhoi blaenoriaeth i ddiogelwch dioddefwyr. Gallai tystiolaeth gynnwys sicrhau nad yw man preswylio neu gyflogaeth yr unigolyn yn cynyddu’r risg i unrhyw ddioddefwyr neu ddioddefwyr posib; cyswllt gweithredol â’r heddlu, gwasanaethau plant neu asiantaethau eraill; trafodaeth â chyflogwyr neu asiantaethau cyflogaeth am gyfyngiadau ar gyflogaeth; defnyddio MAPPA a ViSOR i gael gafael ar wybodaeth a’i rhannu; a lleihau cyswllt drwy roi ystyriaeth briodol i leoliadau gwaith di-dâl, amseroedd adrodd, dyrannu rhaglenni, ac ati. Bwriad y rhan fwyaf o’r gofynion a’r amodau cyfyngol sydd ar gael mewn gorchmynion a thrwyddedau yw amddiffyn dioddefwyr hysbys neu bosib. Gellir amrywio’r amodau hyn, os oes angen, ar ôl dechrau’r gorchymyn neu’r drwydded. Byddai cyflawni’n effeithiol yn cynnwys monitro unrhyw amodau trwydded neu orchmynion eraill yn weithredol (fel gorchmynion atal, gorchmynion atal niwed rhywiol a gorchmynion atal trais domestig). Mewn achosion lle mae dioddefwr yn gymwys i gael cyswllt statudol â dioddefwyr, bydd arolygwyr yn edrych yn fanylach ar y gwaith a wnaed i gynnal cyswllt â dioddefwyr cymwys o dan ein cwestiynau penodol ar gyfer y gwaith hwn. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi’i hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gwaith uniongyrchol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Cyn atal cyswllt, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad dros dro a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol gan y Gwasanaeth Prawf. Yn ystod unrhyw gyfnod lle mae cyswllt wedi’i atal, rydym yn disgwyl gweld cyswllt rheolaidd â phobl ar brawf nad oes ganddynt gyfeiriad sefydlog. Dylid defnyddio’r cyswllt hwnnw i wirio a mynd ar drywydd unrhyw ffactorau sy’n berthnasol i ddiogelu dioddefwyr posib a gwirioneddol. |
| 2.5.48 Pob achos | A yw cyfranogiad asiantaethau eraill o ran rheoli a lleihau’r risg o niwed wedi’i gyd-drefnu’n ddigonol? | Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth o gyfathrebu rheolaidd ac effeithiol rhwng yr holl asiantaethau sy’n ymwneud â’r achos, er mwyn rheoli a lleihau’r risg o niwed. Rhaid i fforymau amlasiantaethol, fel MAPPA a chynadleddau asesu risg amlasiantaeth (MARAC), fod yn effeithiol a chynnwys y bobl iawn er mwyn gallu cymryd camau effeithiol. Rydym yn disgwyl gweld tystiolaeth o herio ac uwchgyfeirio effeithiol, gan gynnwys gan uwch reolwyr, os na ellir datrys anawsterau. Mewn rhai achosion, ni fydd angen gwneud gwaith amlasiantaeth. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gweld gweithgarwch yn cael ei gydlynu’n glir yn ystod y cyfnod gweithredol o oruchwylio. Cyn atal cyswllt, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad dros dro a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol. Dylai’r Gwasanaeth Prawf fonitro’n weithredol unrhyw wybodaeth a dderbynnir mewn perthynas â risg o niwed i eraill ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal dros dro; dylid ymchwilio i wybodaeth newydd a ddaw i law a’i rhannu ag asiantaethau perthnasol eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau ymateb parhaus i reoli a lleihau’r risg o niwed yn ystod y cyfnod atal. |
| 2.5.49 Achosion craidd yn unig | A yw unigolion allweddol ym mywyd y sawl sydd ar brawf yn cael eu cynnwys lle bo hynny’n briodol i gefnogi’r gwaith o reoli’r risg o niwed yn effeithiol? | Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf ymgysylltu ag unigolion allweddol ym mywyd y sawl sydd ar brawf, i gefnogi’r gwaith o reoli’r risg o niwed yn effeithiol. Mewn achosion o garchar, mae’n arfer da dechrau hyn cyn i’r unigolyn gael ei ryddhau. O ystyried y dystiolaeth bod rhieni a phartneriaid yn chwarae rhan ganolog wrth gefnogi’r gwaith o reoli’r risg o niwed, dylai staff prawf ystyried pob ffordd bosib o gefnogi a chynnal y perthnasoedd hollbwysig hyn. Dylai’r ymarferydd prawf allu nodi pwy yw’r unigolion allweddol, a disgrifio sut maen nhw wedi ymgysylltu i gefnogi’r gwaith o reoli risg. Gallai enghreifftiau gynnwys cymorth i bartner a theulu’r unigolyn sydd ar brawf, i atgyfnerthu trefniadau diogelu plant. Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd gweithwyr proffesiynol eraill sydd â rôl allweddol ym mywyd y sawl sydd ar brawf a, thrwy rannu gwybodaeth yn briodol, efallai y byddant hefyd yn cael eu cyflogi i gefnogi’r gwaith o reoli risg. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gweld cyfathrebu clir â’r unigolion hynny i sicrhau eu bod wedi cael gwybod am effaith atal dros dro. |
| 2.5.50 Achosion craidd yn unig | A gynhelir ymweliadau cartref lle bo angen i gefnogi’r gwaith o reoli’r risg o niwed yn effeithiol? | Rydym yn disgwyl gweld ymweliadau cartref yn cael eu defnyddio ym mhob achos lle mae materion yn ymwneud â diogelu plant neu gam-drin domestig, oni bai fod rheswm penodol dros beidio â gwneud hyn (er enghraifft, bod y sawl sydd ar brawf yn byw mewn adeilad cymeradwy). Mewn achosion eraill, mae’n arfer da ymweld â chartrefi, deall yr amgylchiadau y mae’r unigolyn sydd ar brawf yn byw ynddynt, a chwrdd â phartneriaid ac aelodau eraill o’r teulu. |
| Achosion wedi’u haddasu yn unig | A oedd darpariaeth effeithiol, gan gynnwys gwaith amlasiantaeth a rhannu gwybodaeth, mewn perthynas â diogelu plant? | Mewn achosion lle mae pryderon gweithredol ar hyn o bryd ynghylch diogelu plant, rydym yn disgwyl gweld ymarferwyr prawf yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos. Mae hyn yn berthnasol mewn achosion lle mae pryderon am y plant yn codi gan yr unigolyn sydd ar brawf, a phan fydd plant sydd mewn cysylltiad â’r unigolyn sydd ar brawf mewn perygl oddi wrth eraill. Rydym yn disgwyl gweld gwybodaeth yn cael ei rhannu, o ran adroddiadau ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd amlasiantaeth, a diweddariadau anffurfiol i asiantaethau eraill, fel gofal cymdeithasol plant, am newidiadau yn yr achos. Rydym hefyd yn disgwyl gweld gwaith uniongyrchol gan yr ymarferydd prawf gyda’r sawl sydd ar brawf i fonitro’r sefyllfa ac i ddarparu ymyriadau adeiladol, yn ogystal â chyfyngol. Pan fydd unigolyn yn cael ei asesu fel risg ganolig o niwed i blant neu uwch, ond nad oes unrhyw bryderon gweithredol (nid oes ganddo blant ei hun ac nid yw’n hysbys ei fod mewn cysylltiad ag unrhyw blant) yna efallai na fydd angen rhagor o gyswllt amlasiantaeth, y tu hwnt i ymholiadau cychwynnol i gadarnhau hyn, nac ymholiadau ychwanegol i gadarnhau nad oes unrhyw newidiadau. Yn y sefyllfa hon, bydd arolygwyr yn ateb y cwestiwn hwn yn gadarnhaol. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi’i atal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gweld gwaith uniongyrchol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Cyn atal cyswllt, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad dros dro a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol. Dylai’r Gwasanaeth Prawf fonitro’n weithredol unrhyw wybodaeth a dderbynnir mewn perthynas â diogelu plant ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal dros dro; dylid ymchwilio i wybodaeth newydd a ddaw i law a’i rhannu ag asiantaethau perthnasol eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau bod plant yn parhau i gael eu diogelu yn ystod y cyfnod atal. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| Achosion wedi’u haddasu yn unig | A oedd darpariaeth effeithiol, gan gynnwys gwaith amlasiantaeth a rhannu gwybodaeth, mewn perthynas â cham-drin domestig? | Mewn achosion lle mae pryderon ar hyn o bryd am gam-drin domestig, p’un ai’r sawl ar brawf sy’n gyfrifol am hynny, sydd wedi dioddef hynny, neu’r ddau, rydym yn disgwyl gweld ymarferwyr prawf yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth yn cael ei rhannu, o ran adroddiadau ffurfiol ar gyfer cyfarfodydd amlasiantaeth, fel MARAC, a diweddariadau anffurfiol i asiantaethau eraill, fel yr heddlu a gweithwyr cam-drin domestig, am newidiadau yn yr achos. Rydym hefyd yn disgwyl gweld gwaith uniongyrchol gan yr ymarferydd prawf gyda’r sawl sydd ar brawf i fonitro’r sefyllfa ac i ddarparu ymyriadau adeiladol, yn ogystal â chyfyngol. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi’i atal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl gwaith uniongyrchol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol. Cyn atal cyswllt, rydym yn disgwyl gweld cynllunio clir ar gyfer trosglwyddo neu ymadael er mwyn sicrhau bod asiantaethau eraill wedi cael gwybod am effaith yr ataliad dros dro a rhoi’r gorau i fonitro gweithredol. Dylai’r Gwasanaeth Prawf fonitro’n weithredol unrhyw wybodaeth a dderbynnir mewn perthynas â cham-drin domestig, gan gynnwys gwybodaeth am gyfeiriadau newydd neu bartneriaid newydd, ar ôl i oruchwyliaeth gael ei hatal dros dro; dylid ymchwilio i wybodaeth newydd a ddaw i law a’i rhannu ag asiantaethau perthnasol eraill yn ôl yr angen, er mwyn sicrhau ymateb parhaus i’r posibilrwydd o gam-drin domestig yn ystod y cyfnod atal. Yn dibynnu ar eu hateb i’r cwestiwn hwn, bydd arolygwyr yn cofnodi pam mae hyn wedi’i gwblhau neu heb ei gwblhau i safon ddigonol. |
| P 2.3.3 Pob achos | Dyfarniad cryno: A yw gweithredu a darparu gwasanaethau yn cefnogi diogelwch pobl eraill yn effeithiol? | Rydym yn disgwyl i Ymarferwyr Prawf gymryd camau rhesymol i gadw pobl eraill yn ddiogel, gan gynnwys sicrhau bod ymyriadau adeiladol a chyfyngol yn cael eu cyflawni. Bydd arolygwyr yn barnu a yw gweithrediad cyffredinol y gwaith i fynd i’r afael â’r risg o niwed yn diwallu anghenion yr achos. Mewn achosion ar ôl rhyddhau, mae’r cwestiwn hwn yn cyfeirio at waith sydd wedi’i gwblhau ar ôl rhyddhau. Mae arolygwyr yn ystyried tystiolaeth o’r cwestiynau yn yr adran hon yn unig, gan ganolbwyntio ar weithgarwch ac effaith, nid dim ond cydymffurfedd â phrosesau’r Gwasanaeth Prawf. • Beth sydd wedi cael ei wneud a beth oedd effaith hynny o ran gweithredu a chyflawni? • Beth sydd wedi cael ei hepgor, a faint o wahaniaeth mae hynny wedi’i wneud i’r achos o ran effaith wirioneddol neu bosib? • Esboniwch pa bwysoliad a roddir i ba ffactorau, gan gofio’r cynllun cyffredinol i gadw pobl yn ddiogel. • Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond am asesiad digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig â risg o niwed. Mewn achosion lle nad oedd unrhyw ffactorau’n gysylltiedig â’r risg o niwed, bydd yr arolygwyr yn ateb ‘ydi’. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl darpariaeth ddigonol yn ystod y cyfnod goruchwylio gweithredol; trosglwyddo digonol i asiantaethau perthnasol eraill pan fydd goruchwyliaeth yn cael ei hatal dros dro; a monitro ac ymateb gweithredol parhaus i wybodaeth newydd a dderbynnir, i gefnogi diogelwch pobl eraill. Gallai hynny gynnwys gwneud atgyfeiriad diogelu plant neu ddechrau gwiriadau cam-drin domestig yr heddlu. |
Adolygu (Back to top)
Daw’r dystiolaeth ar gyfer y safon adolygu o’r cofnodion achos parhaus, y cyfweliad gyda’r ymarferydd prawf ac unrhyw adolygiadau ysgrifenedig ffurfiol a gynhaliwyd yn yr achos.
Dylid adolygu drwy gydol cyfnod y gorchymyn neu’r drwydded. Dylai fod yn weithredol ac yn ymatebol i unrhyw newidiadau. Gall yr adolygu gadarnhau bod y trefniadau presennol yn foddhaol, neu gall dynnu sylw at yr angen i weithredu neu wneud newidiadau. Mewn rhai achosion, bydd angen adolygiadau ysgrifenedig ffurfiol; mewn achosion eraill, mae adolygu parhaus yn ddigonol.
Mewn achosion lle rhoddwyd mwy nag un ddedfryd gymunedol a/neu y rhyddhawyd o’r ddalfa fwy nag unwaith, bydd unrhyw ailasesiad a wneir fel rhan o’r cyfnodau yn y ddalfa neu oruchwylio newydd hyn yn cael ei arolygu o dan y safon ‘Adolygu’.
Risg o niwed:
Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu hadolygu (nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol).
Mae adolygu’n broses barhaus; dylai gydnabod ac ymateb i unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau unigol. Gall adolygiadau ysgrifenedig fod yn rhan o’r broses adolygu; dylai amseriad adolygiadau ysgrifenedig ddibynnu ar anghenion yr achos, ac, ar wahân i adolygu yn syth ar ôl rhyddhau, nid ydym yn gosod unrhyw amserlen benodol ar gyfer hyn.
Mewn achosion lle cafwyd nifer o ddedfrydau cymunedol a/neu ryddhau o’r ddalfa, bydd unrhyw ailasesiad a wneir fel rhan o’r cyfnodau goruchwylio newydd hyn yn cael ei arolygu o dan yr adran ‘adolygu’.
Ar gyfer achosion ar ôl adalw, rydym yn disgwyl gweld adolygiad ysgrifenedig llawn pan fydd yr unigolyn yn cael ei ail-ryddhau o’r ddalfa.
| A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | ||
| Cwestiwn arolygu | CARaG Rheolau a chanllawiau asesiadau achos | |
| Mae Arolygiaeth Prawf EF yn disgwyl i’r holl ffactorau sy’n berthnasol i’r risg o niwed gael eu hadolygu, nid dim ond ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed difrifol. | ||
| 2.6.20 Pob achos | A yw’r gwaith adolygu’n nodi ac yn mynd i’r afael â newidiadau mewn ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed, gyda’r addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i’r cynllun gwaith parhaus? | Rydym yn disgwyl gweld y risg o niwed yn cael ei hadolygu’n barhaus, hyd yn oed mewn achosion lle mae lefel y risg o niwed a aseswyd yn isel. Byddai ymholiadau parhaus ynghylch perthnasoedd, cyswllt â phlant, lefel camddefnyddio sylweddau, ymddygiad ac unrhyw aildroseddu yn dystiolaeth o adolygu anffurfiol. Gall hefyd gynnwys gwybodaeth gan berthnasau neu weithwyr proffesiynol eraill, gan gynnwys gwybodaeth gan yr heddlu. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf fod â meddwl ymholgar. Dylid nodi, dadansoddi ac ystyried unrhyw ymddygiad newydd a allai fod yn gysylltiedig â’r risg o niwed wrth adolygu unrhyw weithgarwch a gynlluniwyd. Mewn rhai achosion, efallai na fydd unrhyw wybodaeth newydd sy’n golygu bod angen adolygu’r risg o niwed yn ffurfiol, ond dylai ymarferwyr prawf gymryd camau digonol i sicrhau bod yr wybodaeth bresennol yn dal yn gywir. Mewn achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg uchel neu uchel iawn o niwed, dylai’r gwaith adolygu fod yn barhaus, er mwyn sicrhau bod y cynllun rheoli risg yn gweithio. Gallai tystiolaeth o adolygu gynnwys cyfarfodydd neu drafodaethau amlasiantaeth, neu ymgynghori â rheolwr, ac nid oes angen ei gwblhau bob amser yn OASys. Mewn achosion lle mae’r sawl sydd ar brawf wedi’i gael yn euog o drosedd â chymhelliant rhywiol, byddem yn disgwyl i asesiadau arbenigol perthnasol gael eu hadolygu mewn unrhyw amgylchiadau lle mae unrhyw un o’r ffactorau’n newid. Dylid gwneud newidiadau i’r cynllun gwaith parhaus mewn ymateb i newidiadau yn natur unrhyw risg o niwed, nid dim ond i’r lefel a aseswyd, er mwyn rheoli a lleihau risgiau. Ar sail eu gwybodaeth am yr achos, bydd arolygwyr yn penderfynu a yw’r newidiadau cywir wedi cael eu nodi. Gallai hyn gynnwys gwneud gwiriadau am bartneriaid newydd neu ystyried effaith beichiogrwydd neu ddod â pherthynas i ben (gall y naill a’r llall gynyddu lefel y risg o niwed); cynyddu lefel y cyswllt neu ymweliadau cartref; neu atgyfeirio at asiantaethau eraill. Ar gyfer newidiadau sylweddol mewn ffactorau risg o niwed, efallai y bydd angen ailasesu lefel y risg o niwed. Pan fydd lefel y risg a aseswyd yn cynyddu neu’n gostwng, rydym yn disgwyl y bydd rhesymeg glir dros hynny fel rhan o adolygiad ysgrifenedig. Dylai lleihau lefel y risg o niwed a aseswyd fod yn seiliedig ar dystiolaeth wedi’i dilysu o newid ymddygiad, nid dim ond ar newid amgylchiadol, fel dod â pherthynas i ben, neu ar gydymffurfio arwynebol â chyfyngiadau. Mewn rhai amgylchiadau, byddai’n rhesymol i ymarferwyr prawf ofyn am gyngor gan eu rheolwr cyn cwblhau adolygiad llawn o’r risg o niwed. Os oedd yr asesiad gwreiddiol o’r risg o niwed yn annigonol, ond na fu unrhyw newidiadau dilynol yn y ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed, ni fydd arolygwyr o reidrwydd yn sgorio’n negyddol am absenoldeb adolygu; bydd y dyfarniad hwnnw’n cael ei wneud ar sail pa mor effro i newid ydyw. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi cael ei atal ar unwaith neu’n gynnar iawn o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, gall arolygwyr gofnodi nad oes gwybodaeth ar gael i’w hadolygu. Mewn achosion lle mae cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth cyn atal dros dro, rydym yn disgwyl adolygu cyn atal er mwyn dadansoddi unrhyw newidiadau mewn ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed, a nodi meysydd o waith sy’n weddill. Yn ystod unrhyw gyfnod atal dros dro, rydym yn disgwyl i ymarferwyr fonitro unrhyw wybodaeth a dderbynnir am newidiadau mewn amgylchiadau sy’n ymwneud â’r risg o niwed, ac ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau. Gallai camau priodol gynnwys rhannu gwybodaeth ag asiantaethau eraill, neu wneud atgyfeiriadau diogelu plant neu MARAC. |
| 2.6.21 Pob achos | A yw’r gwaith adolygu’n cael ei lywio gan y mewnbwn angenrheidiol gan asiantaethau eraill sy’n ymwneud â rheoli risg o niwed? | Mae gwybodaeth gan asiantaethau eraill yn hanfodol wrth adolygu’r risg o niwed. Mewn achosion cam-drin domestig, rydym yn disgwyl gweld gwybodaeth yn cael ei rhannu’n rheolaidd â staff cam-drin domestig yr heddlu am unrhyw ymddygiad newydd sy’n cael ei riportio. Mewn achosion lle mae gwasanaethau plant yn gweithio gyda phlentyn sydd mewn cysylltiad â’r sawl sydd ar brawf, rydym yn disgwyl gweld cyfathrebu rheolaidd â gweithwyr cymdeithasol. Dylai ymarferwyr prawf bob amser fynychu cyfarfodydd amlasiantaeth, gan gynnwys cyfarfodydd MARAC, MAPPA ac amddiffyn plant. Os daw gwybodaeth ychwanegol i’r amlwg, rhaid rhannu hyn ag asiantaethau perthnasol, er mwyn iddynt fod yn ymwybodol o wybodaeth allweddol yn yr achos. Bydd y cwestiwn hwn yn cael ei ateb yn negyddol os bydd arolygwyr yn canfod diffyg chwilfrydedd proffesiynol; os yw’r risg yn cael ei hystyried ar wahân i asiantaethau eraill; neu os nad yw adolygu’n arwain at y camau angenrheidiol. Wrth adolygu achosion sydd â phroblemau cam-drin domestig hysbys, dylai ymarferwyr fod yn effro i adegau pan fydd risg yn debygol o gynyddu, gan gynnwys dechrau perthynas newydd, methu cydweithredu â gwasanaethau plant, cynnydd mewn camddefnyddio sylweddau, neu iechyd meddwl yn dirywio. Rhaid i’r adolygiad gynnwys unrhyw asiantaethau eraill sy’n ymwneud â’r achos. Rhaid i ymarferwyr prawf fod yn effro i’r potensial ar gyfer materion diogelu ac amddiffyn plant, drwy gydol cyfnod y gorchymyn/trwydded. Pan fydd pryderon hysbys, dylid rheoli’r rhain yn rhagweithiol, eu monitro a’u hadolygu. Pan fydd pryderon newydd yn cael eu nodi, dylid rhoi blaenoriaeth i weithredu i amddiffyn plant ac oedolion agored i niwed. Ym mhob achos, bydd rhannu gwybodaeth yn hollbwysig; ni ddylai ymarferwyr prawf dybio bod asiantaethau eraill yn gwybod am sefyllfaoedd ac amgylchiadau. Gallai adolygu olygu atgyfeirio’r plentyn o’r newydd at y gwasanaethau plant, neu gymryd rhan mewn adolygu amlasiantaeth. Dylid addasu’r gwaith cynllunio gan yr ymarferydd prawf yng ngoleuni canlyniad unrhyw adolygiadau allanol. Gall staff prawf wneud cyfraniad sylweddol at ddiogelu plant, ond er mwyn gwneud hyn mae angen iddynt ddeall eu rôl a’u cyfrifoldebau a gwybod sut i gynrychioli barn eu sefydliad. Dylai cofnodion ddangos tystiolaeth o gyfraniad effeithiol at adolygiadau amlasiantaeth. Mewn achosion lle mae cyswllt wedi cael ei atal ar unwaith neu’n gynnar iawn o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, gall arolygwyr gofnodi nad oes gwybodaeth ar gael i’w hadolygu. Mewn achosion lle mae cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth cyn atal dros dro, rydym yn disgwyl i ymarferwyr gael gwybodaeth gyfredol gan asiantaethau eraill sy’n gweithio gyda’r sawl ar brawf, i fod yn sail i ffactorau a adolygir sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed cyn atal dros dro. Yn ystod unrhyw gyfnod atal dros dro, rydym yn disgwyl i ymarferwyr fonitro unrhyw wybodaeth a dderbynnir gan asiantaethau eraill, sy’n ymwneud â’r risg o niwed, ac ystyried a oes angen cymryd unrhyw gamau. |
| 2.6.22 Achosion craidd yn unig | A yw’r sawl sydd ar brawf (a, lle bo hynny’n briodol, a yw unigolion allweddol yn ei fywyd) yn ymwneud yn ystyrlon â’r dasg o adolygu ei risg o niwed? | Dylai natur a lefel cyfranogiad y sawl sydd ar brawf ddibynnu ar natur a maint y risg o niwed. Dylai’r ymarferydd prawf allu cysylltu sut mae wedi ystyried barn y sawl sydd ar brawf a, lle bo hynny’n briodol, unrhyw unigolion allweddol yn ei fywyd. Dylai pobl ar brawf wybod beth a ddisgwylir ganddynt i leihau’r risg o niwed, a dylai adolygu eu cynnwys ac ystyried cynnydd tuag at hyn. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl y bydd adolygu cyn atal yn cynnwys y sawl sydd ar brawf, ac unigolion allweddol yn ei fywyd (lle bo hynny’n briodol), wrth adolygu’r risg o niwed. |
| 2.6.23 Achosion craidd yn unig | A yw adolygiadau ysgrifenedig yn cael eu cwblhau fel y bo’n briodol fel cofnod ffurfiol o reoli risg o niwed? | Gan y bydd yr achosion sy’n cael eu harolygu tua chwech i saith mis oed, nid ydym bob amser yn disgwyl gweld adolygiad ysgrifenedig ffurfiol o risg o niwed ar adeg yr arolygiad, oni bai fod newid sylweddol wedi bod. Nid ydym yn pennu unrhyw gyfnod penodol lle rydym yn disgwyl gweld adolygiadau ysgrifenedig. Rydym yn disgwyl gweld adolygiad ysgrifenedig lle bu newid sylweddol yn yr achos. Gallai hynny fod yn newid cadarnhaol neu negyddol i’r ffactorau allweddol sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed, gan gynnwys cwblhau rhaglen achrededig neu ofyniad arall y gorchymyn neu’r drwydded; dechrau neu ddiwedd perthynas mewn achosion lle mae cam-drin domestig yn nodwedd; terfynu’r gorchymyn neu’r drwydded; ailadrodd neu waethygu ymddygiad blaenorol sy’n gysylltiedig â risg; ymddygiad newydd sy’n gysylltiedig â risg yn dod i’r amlwg; neu honiadau o drosedd newydd (niweidiol). Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal dros dro o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf neu Effaith y Gwasanaeth Prawf, rydym yn disgwyl adolygiad ysgrifenedig o’r risg o niwed cyn atal i gadarnhau lefel a natur y risg o niwed ar adeg yr ataliad, gan gynnwys unrhyw drefniadau wrth gefn angenrheidiol, i gefnogi unrhyw benderfyniadau y gallai fod eu hangen am wybodaeth a dderbynnir ar ôl atal. |
| 2.6.25 Achosion wedi’u haddasu yn unig | A gymerwyd camau priodol i adalw lle na ellir rheoli’r risgiau yn y gymuned mwyach? | Pan fydd newid mewn amgylchiadau sy’n dangos nad oes modd rheoli risg yn ddiogel yn y gymuned mwyach, a phan fydd trwydded yn dal yn weithredol, rydym yn disgwyl gweld ymchwiliad llawn a phrydlon i ganfod a oes angen adalw er mwyn diogelu’r cyhoedd. Os bydd y trothwy hwnnw’n cael ei groesi, rydym yn disgwyl gweld camau adalw prydlon. Rydym yn cydnabod y bydd llawer o’r achosion a arolygwyd o dan gwestiynau wedi’u haddasu yn ddarostyngedig i PSS yn unig neu i ddedfrydau cymunedol, lle nad yw’n bosib adalw. |
| 2.6.26 Achosion Ailosod y Gwasanaeth Prawf lle dylid ail-ddechrau cyswllt yn unig | A oes adolygiad digonol wedi’i gynnal o’r gwaith asesu a’r gwaith cynllunio? | Byddai’r amgylchiadau a fyddai’n arwain at ail-ddechrau cyswllt bron yn sicr o fod yn gysylltiedig â newidiadau mewn ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed. Felly, rydym yn disgwyl gweld adolygiad llawn o asesu a chynllunio pan fydd goruchwyliaeth yn cael ei hail-ddechrau, er mwyn cyfrannu at waith yn y dyfodol. Dylai hyn gael ei lywio gan ddiweddariadau gan y rheini sy’n gweithio gyda’r sawl sydd ar brawf, os yw’n berthnasol ac yn briodol, a chyfnewid gwybodaeth am ddiogelu a cham-drin domestig. Yn ystod y cyfnod o atal cyswllt, os bydd cyfeiriad yn newid, byddem yn disgwyl i’r adolygiad gynnwys rhyw lefel o ymholiad ynghylch a yw plant neu oedolion agored i niwed yn y cyfeiriad a bod gwiriadau priodol yn cael eu cynnal. Mewn rhai achosion, efallai y bydd angen i’r ymarferydd neu asiantaethau eraill sy’n parhau i weithio gyda’r unigolyn ymweld â’r cartref, er mwyn cyfrannu at asesiad a chynllun diwygiedig. Bydd arolygwyr yn chwilio am dystiolaeth o’r adolygu hwnnw ar ffurf adolygiad ysgrifenedig ffurfiol, cofnodion cyswllt neu o drafodaeth gyda’r ymarferydd prawf. |
| 2.6.27 Achosion Ailosod y Gwasanaeth Prawf lle dylid ail-ddechrau cyswllt yn unig | A oes digon o oruchwyliaeth gan reolwyr? | Pan fydd amgylchiadau wedi codi sy’n sbarduno ail-ddechrau cyswllt, rydym yn disgwyl gweld goruchwyliaeth gan reolwyr i adolygu’r camau y mae angen eu cymryd i ddiogelu’r cyhoedd. |
| P 2.4.3 Pob achos craidd, ac unrhyw achosion wedi’u haddasu lle dylid bod wedi ail-ddechrau goruchwyliaeth | Dyfarniad cryno: A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf fod yn effro i unrhyw newidiadau yn y ffactorau sy’n gysylltiedig â’r risg o niwed, gan gynnwys gwelliannau a dirywiad. Rydym yn disgwyl gweld adborth cadarnhaol am unrhyw gynnydd, yn ogystal â her lle na fu gwelliannau. Rydym yn disgwyl i ymarferwyr prawf fod yn rhagweithiol wrth geisio a gwirio gwybodaeth a allai effeithio ar gadw pobl eraill yn ddiogel, drwy gydol y cyfnod goruchwylio. Mewn achosion ar ôl rhyddhau, bydd arolygwyr yn barnu gwaith adolygu o’r adeg rhyddhau yn unig. Mae arolygwyr yn ystyried tystiolaeth o’r cwestiynau yn yr adran hon yn unig, gan ganolbwyntio ar weithgarwch ac effaith, nid dim ond cydymffurfedd â phrosesau’r Gwasanaeth Prawf. • Beth sydd wedi cael ei wneud a beth oedd effaith hynny o ran adolygu? • Beth sydd wedi cael ei hepgor, a faint o wahaniaeth mae hynny wedi’i wneud i’r achos o ran effaith wirioneddol neu bosib? • Esboniwch pa bwysoliad a roddir i ba ffactorau, gan gofio’r adolygu cyffredinol i gadw pobl yn ddiogel. • Nid ydym yn chwilio am berffeithrwydd, ond am asesiad digonol o’r ffactorau pwysicaf sy’n gysylltiedig â risg o niwed. Mewn achosion lle nad oedd unrhyw ffactorau’n gysylltiedig â’r risg o niwed, bydd yr arolygwyr yn ateb ‘ydi’. Mewn achosion lle mae goruchwyliaeth wedi cael ei hatal ar unwaith neu’n gynnar iawn o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, gall arolygwyr gofnodi nad oes gwybodaeth ar gael i’w hadolygu. Mewn achosion lle mae cyfnod gweithredol o oruchwyliaeth cyn atal dros dro, rydym yn disgwyl adolygu cyn atal er mwyn diweddaru’r sefyllfa gyfredol yn llawn, o ran y risg o niwed. |
Crynodeb o’r achos (Back to top)
| Goruchwyliaeth gan reolwyr | ||
| Cwestiwn arolygu | CARaG Rheolau a chanllawiau asesiadau achos | |
| 2.9.06 Pob achos | Sut y byddech chi’n disgrifio goruchwyliaeth y rheolwyr yn yr achos? | Mae datganiad sefyllfa Arolygiaeth Prawf EF ar oruchwyliaeth rheolwyr wedi’i gyhoeddi ar ein gwefan[1]. Mae goruchwyliaeth effeithiol rheolwyr yn llawer mwy na chydlofnodi. Mae’n cynnwys elfennau o sicrhau ansawdd, goruchwylio staff, delio â meysydd sy’n peri pryder mewn achosion unigol a hwyluso gwelliannau mewn ymarfer. Dylai ganolbwyntio’n benodol ar sicrhau bod dioddefwyr gwirioneddol neu bosib a phobl ar brawf eu hunain, yn cael eu diogelu’n ddigonol rhag niwed. Dylai goruchwyliaeth rheolwyr ganolbwyntio’n bennaf ar achosion yr aseswyd eu bod yn peri risg uchel neu uchel iawn o niwed i eraill, neu’r rheini sydd â phroblemau cam-drin domestig neu ddiogelu plant gweithredol. Mae goruchwyliaeth yn arbennig o bwysig ar yr adeg pan allai cyswllt o’r fath gael ei atal o dan Ailosod y Gwasanaeth Prawf, er mwyn sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu’n effeithiol a bod cynlluniau wrth gefn ar gyfer newidiadau a allai ddigwydd ar ôl atal. Rydym hefyd yn disgwyl i reolwyr fod yn ymwybodol o achosion nad ydynt yn cael eu hasesu ar hyn o bryd ar y lefelau risg hyn o niwed, ond sydd â’r potensial i gynyddu, a dylent eu monitro’n weithredol. |