Skip to content

Table of contents

  1. A
  2. B
  3. C
  4. D
  5. E
  6. F
  7. G
  8. H
  9. I
  10. J
  11. K
  12. L
  13. M
  14. N
  15. O
  16. P
  17. R
  18. S
  19. T
  20. V
  21. Y

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk.

Archwiliad cyfiawnder ieuenctid – Geirfa

Published:

A (Back to top)

ABC

Contract ymddygiad derbyniol: cytundeb gwirfoddol rhwng plentyn (10-17 oed yn gynhwysol) a’r heddlu/awdurdod lleol, lle mae’r plentyn yn cytuno i beidio â chymryd rhan mewn gweithredoedd gwrthgymdeithasol penodol.

ACE

Profiadau negyddol yn ystod plentyndod: digwyddiadau trawmatig o bosibl sy’n gallu cael effaith negyddol, barhaol ar iechyd a llesiant.

AD(H)D

Mae anhwylder diffyg canolbwyntio (a gorfywiogrwydd) yn anhwylder ymddygiadol sy’n cynnwys symptomau fel diffyg sylw, gorfywiogrwydd a byrbwylltra.

Adnodd PAD neu PDAT

Adnodd Asesu ar gyfer Dargyfeirio ac Atal sydd dan fandad i’w ddefnyddio gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer yr holl Wasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid sy’n gweithio gyda phlant sy’n destun datrysiadau atal a dargyfeirio i sicrhau cysondeb o ran asesu a chynllunio.

Adran 17

o’r Ddeddf Plant (1989): darpariaethau i awdurdodau lleol hyrwyddo a diogelu lles plant a hyrwyddo sefyllfaoedd lle caiff plant eu magu gan eu teuluoedd. Darparu gwasanaethau i ‘blant mewn angen’, a elwir weithiau’n ‘CIN’.

Adran 20

o’r Ddeddf Plant (1989): rhaid i awdurdod lleol ddarparu llety i blentyn mewn angen ac fe’i defnyddir pan na all plentyn fyw gyda’i rieni. Mae adran 20 yn berthnasol pan fo cytundeb gwirfoddol rhwng gofalwyr y plentyn, yr awdurdod lleol a, phan fo’n bosibl, y plentyn, i ddod o hyd i ddarpariaeth amgen. Nid oes terfyn statudol ar ba mor hir y gellir lletya plentyn o dan yr adran hon.

Adran 21 (Cymru)

o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n amlinellu’r ddyletswydd a roddir ar yr awdurdod lleol i asesu a oes gan blentyn anghenion gofal a chymorth.

Adran 47

o’r Ddeddf Plant (1989): pan fydd awdurdod lleol yn derbyn gwybodaeth sy’n dangos bod angen amddiffyn plentyn yn ei ardal, a’i fod yn dioddef neu’n debygol o ddioddef niwed arwyddocaol, mae ganddo ddyletswydd i ymchwilio i weld a oes angen cymryd camau i hyrwyddo neu ddiogelu ei les.

Adran 76 (Cymru)

o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 sy’n sicrhau bod plant yng Nghymru nad yw eu rhieni’n gallu gofalu amdanynt yn cael llety gan yr awdurdod lleol.

ADY (Cymru)

Anghenion Dysgu Ychwanegol. Roedd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn creu Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Cymru 2021 (y Cod ADY) a Rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf. Mae’r Ddeddf ADY yn disodli’r termau ‘anghenion addysgol arbennig (AAA)’ ac ‘anawsterau a/neu anableddau dysgu (AAD)’ gydag ‘anghenion dysgu ychwanegol (ADY)’.

Ailsefydlu adeiladol

Fframwaith ar gyfer plant yn y ddalfa sy’n canolbwyntio ar gefnogi’r dasg o ddatblygu eu hunaniaeth, gan symud o fod eisiau troseddu i fod yn rhag-gymdeithasol.

AIM2 ac AIM3

Asesu, Ymyrryd a Symud Ymlaen: fframwaith asesu a gweithdrefnau i helpu gweithwyr proffesiynol i weithio gyda phlant sydd wedi ymosod yn rhywiol ar rywun neu wedi dangos ymddygiad rhywiol niweidiol. AIM3 yw’r fersiwn ddiweddaraf.

ASB

Ymddygiad gwrthgymdeithasol.

ASD/ASC

Anhwylder sbectrwm awtistiaeth (awtistig) (term clinigol) neu gyflwr ar y sbectrwm awtistig: gwahaniaeth niwroddatblygiadol sy’n effeithio ar y ffordd mae unigolyn yn cyfathrebu, yn ymddwyn, yn gwneud synnwyr o’r byd ac yn rhyngweithio ag eraill, a sut mae gwybodaeth yn cael ei phrosesu. Defnyddir llawer o wahanol dermau i ddisgrifio awtistiaeth. Ymddengys mai’r consensws ar hyn o bryd yw defnyddio’r term ‘awtistiaeth’ ac ‘ar y sbectrwm’ yn hytrach nag ASD. Gweler hefyd ND isod.

AssetPlus

Adnodd fframwaith asesu a chynllunio a ddatblygwyd gan y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid ar gyfer gwaith gyda phlant sydd wedi troseddu, neu sydd mewn perygl o droseddu, sy’n adlewyrchu ymchwil a dealltwriaeth o’r hyn sy’n gweithio gyda phlant.

Atal

Cefnogi a chymryd camau ymyrryd gyda phlant (a’u rhieni/gofalwyr) a allai fod yn dangos ymddygiad sydd o bosibl yn arwydd o anghenion sylfaenol neu’n arwydd o fod yn agored i niwed. Yn ymarferol, mae hyn yn cynnwys dull haenog o ataliaeth gynnar a phenodol cyn cyflawni trosedd.

Awdurdod Lleol

Ardal llywodraeth leol y mae’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn cyd-fynd â hi’n ddaearyddol fel arfer. Weithiau mae gwasanaethau’n cyd-fynd â mwy nag un ardal Awdurdod Lleol.


B (Back to top)

BSS

Cymorth a goruchwyliaeth ar gyfer mechnïaeth: wedi’i anelu at blant sydd mewn perygl o gael eu cadw ar remand yn y ddalfa neu mewn llety awdurdod lleol. Mae’n rhoi cyfle i aros yn y gymuned, mewn rhaglen sydd wedi’i theilwra i reoli risg a diogelwch y plentyn, ac i osgoi troseddu pellach.

Bwrdd Rheoli YOT/YOS/YJS Mae’r Bwrdd Rheoli’n dal y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i gyfrif i sicrhau ei fod yn cyflawni’r prif nod o atal troseddu gan blant. Weithiau bydd ganddo enw gwahanol yn lleol, er enghraifft, Bwrdd Partneriaeth Cyfiawnder Ieuenctid neu Fwrdd Gweithredol Cyfiawnder Ieuenctid.


C (Back to top)

CAMHS

Gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed: Darpariaeth gan y GIG i blant sy’n cael anawsterau iechyd meddwl.

CASP (Cymru)

Cynllun Gofal a Chymorth. Cynllun i gefnogi plant sydd wedi’u hasesu gan yr awdurdod lleol fel plant gydag anghenion gofal a chymorth.

CAWN

Hysbysiad rhybuddio am gipio plant: adnodd a ddefnyddir gan yr heddlu i atal oedolion rhag cysylltu â phlant y maent yn eu rhoi mewn perygl o gamfanteisio troseddol neu rywiol.

CBO

Gorchymyn ymddygiad troseddol: mae hwn ar gael ar euogfarn am unrhyw drosedd mewn llys troseddol. Mae’r gorchmynion hyn yn cynnwys gwaharddiadau i roi’r gorau i ymddygiad gwrthgymdeithasol.

CCE

Camfanteisio’n droseddol ar blant: pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei annog neu ei orfodi neu’n wynebu dylanwad i gymryd rhan mewn gweithgarwch troseddol yn gyfnewid am rywbeth arall, er enghraifft, anrhegion, cyffuriau, alcohol neu sylw emosiynol.

CIN

Plentyn mewn angen: y statws a roddir i blentyn y bernir bod angen cymorth arno gan yr awdurdod lleol i hyrwyddo neu ddiogelu ei les, ond nad yw’n bodloni’r meini prawf amddiffyn plant.

CME

Plentyn yn colli addysg.

CP

Amddiffyn plant: mae plant sy’n cael eu hasesu gan yr awdurdod lleol fel rhai sydd mewn perygl o niwed difrifol yn cael cymorth drwy broses strwythuredig, gan gynnwys cynllun amddiffyn plant amlasiantaeth, i reoli a lleihau’r risgiau i’w diogelwch a’u llesiant.

CR

Datrysiad cymunedol: datrysiad y tu allan i’r llys, a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer troseddau lefel isel. Maent yn cynnwys cytundeb anffurfiol, gan gynnwys barn y dioddefwr, ynghylch sut y dylid datrys y drosedd. Term cyffredinol yw datrysiad cymunedol; yn ymarferol, defnyddir llawer o dermau gwahanol yn lleol i olygu’r un peth.

CSC

Gofal cymdeithasol plant: mae ar gael ym mhob ardal awdurdod lleol/cyngor sir i amddiffyn a chefnogi diogelwch a llesiant plant sydd ag anghenion unigol uwch a/neu sydd mewn perygl o niwed gan eraill neu ganddyn nhw eu hunain.

CSE

Camfanteisio’n rhywiol ar blant: dyma fath o gam-drin sy’n digwydd pan fydd plentyn neu berson ifanc yn cael ei annog neu ei orfodi neu’n wynebu dylanwad i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol yn gyfnewid am rywbeth arall, er enghraifft, anrhegion, cyffuriau, alcohol neu sylw emosiynol.

CSP

Cyflwynwyd Partneriaethau Diogelwch Cymunedol gan Adran 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn 1998 ac maent yn dod â phartneriaid lleol at ei gilydd i lunio a gweithredu strategaethau i fynd i’r afael â throsedd, anhrefn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cyfradd aildroseddu

Diffinnir hyn gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder fel canran yr unigolion y rhoddir rhybuddiad neu euogfarn llys iddynt o fewn blwyddyn i drosedd neu yn ystod cyfnod pellach o chwe mis (i ganiatáu amser i achosion symud ymlaen drwy’r llysoedd), fel y dangosir gan ddata ar Gyfrifiadur Cenedlaethol yr Heddlu.

Cyswllt a Dargyfeirio

Mae gwasanaethau cyswllt a dargyfeirio yn darparu asesiad iechyd meddwl arbenigol yn gynnar i blant sydd wedi dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol, fel arfer yn y llys neu mewn gorsaf heddlu.


D (Back to top)

Dargyfeirio

Dargyfeirio yw pan fydd plant sydd â throsedd gysylltiedig yn cael canlyniad amgen nad yw’n arwain at gofnod troseddol ac yn osgoi cael eu huwchgyfeirio i’r system cyfiawnder ieuenctid ffurfiol.

Datrysiadau yn y llys

Dedfryd a roddir gan y llys. Mae gorchmynion atgyfeirio, gorchmynion adsefydlu ieuenctid a gorchmynion cadw a hyfforddi yn enghreifftiau o ddatrysiadau yn y llys ieuenctid.

Deilliant 20

Cod deilliannau’r heddlu lle na fu llawer o ymchwiliad gan yr heddlu a dim camau ffurfiol gan yr heddlu, ond lle trosglwyddwyd yr achos i gorff neu asiantaeth arall (h.y. gofal cymdeithasol plant, ysgol) i symud ymlaen pan fo angen.

Deilliant 21

Cod deilliannau’r heddlu, sy’n dangos ei bod yn debygol bod trosedd wedi’i chyflawni ond na fyddai cynnal ymchwiliad pellach neu gymryd camau ffurfiol er budd y cyhoedd. Defnyddir hyn yn aml pan fydd plentyn wedi cynhyrchu delweddau anweddus.

Deilliant 22 (Rhybuddiad Gohiriedig)

Cod gweinyddu’r Swyddfa Gartref a ddefnyddir gan yr heddlu. Yn yr achos hwn, mae penderfyniad ffurfiol i roi rhybuddiad ieuenctid yn cael ei ohirio gan ganiatáu i’r plentyn gwblhau amodau penodol.

Deilliant 22 (Erlyniad Gohiriedig)

Cod gweinyddu’r Swyddfa Gartref a ddefnyddir gan yr heddlu. Yn yr achos hwn, mae’r amod ‘erlyniad gohiriedig’ yn golygu bod yr erlyniad yn cael ei ohirio tra bo’r plentyn yn ymgymryd â gweithgareddau y cytunwyd arnynt am gyfnod penodol.

Deilliant 22 (NFA)

Cod gweinyddu’r Swyddfa Gartref a ddefnyddir gan yr heddlu. Yn yr achos hwn, fe’i defnyddir pan fydd yr heddlu’n penderfynu peidio â mynd ar drywydd cyhuddiad neu rybuddiad ffurfiol.

Diogelu

Mae diogelu yn derm ehangach nag amddiffyn plant ac mae’n golygu hybu iechyd a datblygiad plentyn a sicrhau bod ei anghenion lles cyffredinol yn cael eu diwallu.

Diogelu cyd-destunol

Dull diogelu sy’n ystyried profiad plentyn o niwed y tu allan i’r cartref – er enghraifft, gyda chyfoedion, mewn ysgolion ac yn y gymdogaeth.

Diogelu wrth Bontio

Dull gweithredu sy’n cefnogi pobl ifanc wrth iddynt bontio o fod yn blant i fod yn oedolion, gan sicrhau eu diogelwch a’u llesiant yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn.

Diogelwch a llesiant

Roedd AssetPlus yn disodli’r asesiad o fregusrwydd gyda golwg gyfannol ar bryderon diogelwch a llesiant plentyn. Caiff ei ddiffinio fel y canlyniadau hynny lle gallai diogelwch a llesiant y person ifanc gael eu peryglu oherwydd ei ymddygiad ei hun, oherwydd ei amgylchiadau personol neu oherwydd yr hyn y mae pobl eraill wedi ei wneud neu heb ei wneud (Canllawiau AssetPlus, 2016).

Drws ffrynt

Pwynt cyswllt yr awdurdod lleol ar gyfer y rheini sy’n bryderus am les plentyn (gweler MASH isod). Mae’n ymateb i ymholiadau ac atgyfeiriadau sy’n ymwneud â diogelu, gan benderfynu a yw am ymchwilio ac ymyrryd i gadw plentyn yn ddiogel a sut mae am wneud hynny.

DTO

Gorchymyn cadw a hyfforddi: dedfryd o gystodaeth ar gyfer plentyn. Mae’r hyd yn cael ei bennu gan y llys, ac mae’r plentyn yn cael ei leoli naill ai mewn cartref diogel i blant (SCH), canolfan hyfforddi ddiogel (STC), yn yr ysgol ddiogel (Oasis Restore) neu mewn sefydliad troseddwyr ifanc (YOI). Bydd y gorchymyn cadw a hyfforddi yn cynnwys elfennau cystodaeth a chymunedol, pan fydd y plentyn neu’r person ifanc yn cael ei ryddhau ar Hysbysiad Goruchwylio.

Dyletswydd Atal

Mae’r ddyletswydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i asiantaethau penodol fel rhai addysg, iechyd, awdurdodau lleol, yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol i helpu i atal y risg y bydd pobl yn bod yn derfysgwyr neu’n cefnogi terfysgaeth. Fel yr amlinellir yn Rhan 1 o Atodlen 6 i Ddeddf Gwrthderfysgaeth a Diogelwch 2015 (CTSA 2015).

Dyletswydd Trais Difrifol

Mae’r Ddyletswydd Trais Difrifol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau penodol yng Nghymru a Lloegr gydweithio i atal a lleihau trais difrifol.


E (Back to top)

ECM (Cymru a Lloegr)

Rheoli achosion uwch: Mae ECM yn ddull seicogymdeithasol perthynol sy’n seiliedig ar y model adfer ar ôl trawma (TRM).

EH

Cymorth cynnar: cymorth penodol a ddarperir drwy awdurdod lleol i helpu plant (a’u teuluoedd) i fynd i’r afael â phroblemau sy’n dod i’r amlwg a helpu i’w hatal rhag gwaethygu i’r lefel ‘mewn perygl’.

EHCNA

Asesiad o anghenion addysg, iechyd a gofal: asesiad cynhwysfawr o anghenion addysg, iechyd neu ofal plentyn er mwyn deall unrhyw anghenion addysgol arbennig a pha gymorth ychwanegol sydd ei angen. Fe’i cynhelir gan awdurdod lleol (Deddf Plant a Theuluoedd 2014).

EHCP

Cynllun addysg, iechyd a gofal: cynllun sy’n amlinellu anghenion addysg, iechyd a gofal cymdeithasol plentyn ag anghenion addysgol arbennig a/neu anabledd.

EHE

Addysg Ddewisol yn y Cartref: term a ddefnyddir i ddisgrifio dewis gan rieni i ddarparu addysg i’w plant gartref yn hytrach na’u hanfon i’r ysgol yn llawn amser.

EOTAS

Addysg heblaw yn yr ysgol: Plant sy’n derbyn eu haddysg y tu allan i leoliad ysgol brif ffrwd.

ETE

Addysg, hyfforddiant a chyflogaeth: y gwasanaeth a ddarperir i wella dysgu ac i wella rhagolygon gwaith yn y dyfodol.


F (Back to top)

FCAMHS

Gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc fforensig. Wedi’i gynllunio i roi cyfleoedd i ymgynghori ynghylch pobl ifanc sy’n peri pryder mawr, yn benodol mewn perthynas â risg ac ymddygiad troseddol.

FFT

Therapi teulu gweithredol: therapi teuluol i blant rhwng 11 ac 18 oed sy’n cefnogi’r dasg o leihau patrymau cyfathrebu aflonyddgar ac yn canolbwyntio ar ryngweithio cadarnhaol, goruchwyliaeth effeithiol a gosod ffiniau.

Ffurfio achos

Mae ffurfio achos yn broses a ddatblygwyd ym maes seicoleg glinigol a chwnsela i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o broblemau unigolyn. Yng nghyd-destun cyfiawnder ieuenctid, mae’n adnodd ar gyfer gwneud synnwyr o brofiadau plentyn, gan droi darnau asesu a dadansoddi amrywiol y bartneriaeth yn un naratif sy’n llywio dewisiadau ymyrryd.

FTE

Newydd ddyfodiad: Plentyn sy’n derbyn canlyniad cyfiawnder troseddol statudol (rhybuddiad ieuenctid, rhybuddiad amodol ieuenctid neu euogfarn) am y tro cyntaf.

FTE

Cyfwerth ag amser llawn: fe’i defnyddir yn aml yng nghyd-destun swyddogaethau staff ac adnoddau. Ni ddylid camgymryd hyn gydag FTE uchod.


G (Back to top)

Gorchymyn Atgyfeirio

Dedfryd gymunedol a roddir gan y llys troseddol, wedi’i hategu gan egwyddorion adfer, gwneud iawn ac ailintegreiddio. Caiff ei rhoi os yw’r plentyn yn pledio’n euog i drosedd y gellir rhoi carchar am ei chyflawni.

Gorfodi

Mesurau a gymerir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i ymateb i blentyn nad yw’n ymgysylltu neu’n cydymffurfio â’r camau a nodwyd fel rhan o drwydded neu ddedfryd gymunedol.

Grasusau Cymdeithasol

Acronym yw GGRRAAACCEEESSS (John Burnham, 1993) (gender, geography, race, religion, age, ability, appearance, culture, class, education, employment, ethnicity, spirituality, sexuality, a sexual orientation) ac mae’n adnodd a ddefnyddir i ddisgrifio agweddau ar hunaniaeth bersonol a chymdeithasol sy’n rhoi gwahanol lefelau o bŵer a braint i bobl.

Gwneud iawn

Mae hyn yn golygu plant yn cymryd camau ymarferol i wneud iawn am y niwed a achoswyd, naill ai’n uniongyrchol i’r dioddefwr neu drwy waith cymunedol.
Cyfiawnder adferol Proses wedi’i chynllunio a’i chefnogi sy’n dod â dioddefwyr troseddau i gysylltiad â’r plentyn sy’n gyfrifol, gan alluogi pawb y mae digwyddiad penodol wedi effeithio arnynt i chwarae rhan yn y gwaith o unioni’r niwed a dod o hyd i ffordd gadarnhaol ymlaen. Gellid gwneud hyn mewn amrywiol ffyrdd gan gynnwys llythyrau esboniadol, gwasanaeth cyfryngu gwennol neu gyfarfodydd wyneb yn wyneb.

Gwely PACE

Mae adran 38(6) o PACE yn gosod dyletswydd ar yr heddlu i drosglwyddo plant y gwrthodwyd mechnïaeth iddynt i lety awdurdod lleol yn hytrach na’u cadw yng ngorsaf yr heddlu dros nos. Cyfeirir at y llety sydd ar gael fel gwelyau PACE neu welyau Adran 38.


H (Back to top)

HMIP

Arolygiaeth Prawf Ei Fawrhydi.

HSB

Ymddygiad rhywiol niweidiol: ymddygiad rhywiol datblygiadol amhriodol gan blant, sy’n niweidiol i blentyn neu oedolyn arall a/neu i’r plentyn ei hun.


I (Back to top)

IDP (Cymru)

Cynllun datblygu unigol: Cynllun statudol sy’n nodi sut i gefnogi anghenion dysgu ychwanegol plant.

IRO

Swyddog adolygu annibynnol: Mae’r swyddogion hyn yn gwarchod buddiannau plant drwy gydol y broses o gynllunio gofal. Maent yn cadeirio ac yn sicrhau ansawdd y broses o gynllunio ac adolygu gofal ar gyfer pob plentyn sydd wedi cael profiad o fod mewn gofal a byddant yn sicrhau bod dymuniadau a theimladau plentyn yn cael eu hystyried yn llawn a bod camau gweithredu y cytunwyd arnynt yn cael eu cwblhau.

ISS

Goruchwyliaeth a gwyliadwriaeth ddwys: dewis arall llym yn lle cystodaeth i’r plant sy’n cyflawni’r troseddau mwyaf mynych neu ddifrifol. Gellir ei ddefnyddio hefyd ar gyfer plant sy’n cael mechnïaeth yn y llys ac sydd angen cymorth ychwanegol i atal remandio i lety cadw ieuenctid.

IYSS

Gwasanaethau cymorth ieuenctid integredig: lle mae’r Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid yn rhan o dîm ehangach sy’n cynnwys, er enghraifft, y gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau iechyd, gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau.


J (Back to top)

JAC

Canolfan bresenoldeb iau: gall y llys orchymyn i blant fynychu am nifer penodol o oriau o fewn cyfnod penodol i gymryd rhan mewn ymyriadau er mwyn cefnogi eu hymataliad a gwella eu llesiant.

JDMP

Paneli gwneud penderfyniadau ar y cyd: cyfarfodydd amlasiantaeth a gydlynir gan y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid a’r heddlu i benderfynu ar addasrwydd datrysiadau y tu allan i’r llys ar gyfer plant sydd wedi troseddu.


K (Back to top)

KCPO

Gorchmynion sifil yw gorchmynion atal troseddau cyllyll sydd â’r nod o atal troseddau cyllyll. Gellir eu rhoi yn erbyn plant 12 oed neu hŷn os yw’r llys o’r farn, yn ôl pwysau tebygolrwydd, fod y plentyn wedi cario cyllell (neu eitem arall â llafn) o leiaf ddwywaith; a bod y gorchymyn yn angenrheidiol i atal rhagor o ddigwyddiadau ac amddiffyn y cyhoedd.


L (Back to top)

LCJB

Mae byrddau cyfiawnder troseddol lleol yn dod ag arweinwyr cyfiawnder troseddol at ei gilydd mewn ardal heddlu i oruchwylio’r system a hyrwyddo dull cydweithredol o fynd i’r afael â heriau.

LCT

Tîm gadael gofal.

Llinellau cyffuriau

Y ffordd y mae cyffuriau’n symud yn anghyfreithlon o amgylch y DU, yn aml yn cynnwys camfanteisio ar blant neu oedolion agored i niwed i ddal gafael ar gyffuriau a’u symud.


M (Back to top)

MACE

Fframwaith amlasiantaeth i ddelio â chamfanteisio ar blant: y fframwaith sy’n disgrifio trefniadau ar gyfer ymateb i blant y gallai rhywun gamfanteisio arnynt, gan gynnwys camfanteisio’n rhywiol ar blant, plant sydd ar goll o’u cartref, camfanteisio troseddol, caethwasiaeth fodern a masnachu mewn plant.

MAPPA

Trefniadau amlasiantaethol ar gyfer amddiffyn y cyhoedd: lle mae’r gwasanaeth prawf, yr heddlu, carchardai ac asiantaethau eraill yn cydweithio’n lleol i reoli’r troseddwyr sy’n peri’r risg fwyaf o niwed i eraill. Mae Lefel 1 yn rheolaeth un asiantaeth, lle gall yr asiantaeth sy’n gyfrifol am oruchwylio neu reoli’r achos reoli’r risgiau a berir gan y sawl sydd wedi troseddu. Mae lefelau 2 a 3 yn gofyn am reolaeth amlasiantaeth.

MARAC

Cynhadledd amlasiantaeth asesu risg: wedi’i sefydlu mewn ardaloedd heddlu i ystyried anghenion diogelwch dioddefwyr cam-drin domestig lle asesir bod y risg iddynt yn ddifrifol. Un digwyddiad fel arfer, er y gellir cyfeirio dioddefwr ar gyfer trafodaeth ar ôl digwyddiad newydd.

MASH

Canolfan ddiogelu amlasiantaeth: dyma’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pryderon neu ymholiadau newydd sy’n ymwneud â diogelu. Maent fel arfer yn cynnwys cynrychiolwyr o’r awdurdod lleol (gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion a phlant), yr heddlu, y gwasanaeth prawf, iechyd a chyrff eraill. Cyfeirir atynt fel MASA weithiau (trefniadau diogelu amlasiantaeth).

Matrics disgyrchiant plentyn (CGM)

Adnodd a ddatblygwyd gan Gyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) i gefnogi’r broses o wneud penderfyniadau effeithiol a hyrwyddo cysondeb ar draws gwahanol ardaloedd heddluoedd. Dylid cyfeirio ato bob amser mewn prosesau gwneud penderfyniadau cyn mynd i’r llys.

MET

Ar goll, camfanteisio a masnachu: term y cyfeirir ato weithiau mewn partneriaethau lleol i ymdrin â phob agwedd ar gamfanteisio ar blant.

MFH

Ar goll o gartref.

Model Bywydau Da

Fframwaith ymarfer sy’n seiliedig ar gryfderau. Mae’n cael ei ddefnyddio wrth gynnal asesiadau i nodi cryfderau, anghenion a nodau unigolyn, a sut mae’r rhain yn cyfrannu at droseddu neu’n gallu cefnogi ymataliad a newid cadarnhaol.

Monitro electronig

Gelwir hyn yn ‘tagio’ hefyd. Fe’i defnyddir yng Nghymru a Lloegr i fonitro cyrffyw ac amodau dedfryd gymunedol neu ddedfryd o garchar a orchmynnir gan lys. Weithiau defnyddir tag GPS sy’n defnyddio lleoliad.

MOPAC

Swyddfa’r Maer ar gyfer plismona a throseddu. Y swyddfa y mae Maer Llundain yn ei defnyddio i oruchwylio plismona a diogelwch cymunedol.

MST

Therapi aml-systemig: ymyriad dwys yn y cartref lle defnyddir dull sy’n pwysleisio ar y teulu cyfan i ddeall ymddygiad troseddol a gwrthgymdeithasol plentyn a mynd ati i leihau’r ymddygiad hwnnw.


N (Back to top)

NEET

Dim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant.

ND

Niwroamrywiaeth: fframwaith ar gyfer deall amrywiaeth naturiol yr ymennydd sy’n gallu gwneud i unigolyn feddwl, dysgu, prosesu ac ymateb i bethau mewn ffordd wahanol i’r hyn sy’n niwronodweddiadol. Mae’n cynnwys awtistiaeth, ADHD, dyslecsia, dyscalcwlia, dyspracsia, dysgraffia a syndrom Tourette.

Nodweddion gwarchodedig

Cânt eu diffinio gan y Ddeddf Cydraddoldeb (2010) fel oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, hil, crefydd neu gred, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth.

NRM

Mecanwaith atgyfeirio cenedlaethol: y fframwaith cenedlaethol ar gyfer adnabod a chyfeirio dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern er mwyn cael cymorth i’w helpu a’u diogelu.


O (Back to top)

ODD

Anhwylder herio gwrthryfelgar: math o anhwylder ymddygiad lle mae plant yn dangos patrwm sefydledig o ymddygiad dadleuol a herfeiddiol tuag at oedolion sy’n gyfrifol am eu gofal.

OOCR

Datrys y tu allan i’r llys: datrys trosedd lefel isel fel arfer, lle na fyddai erlyn er budd y cyhoedd, a hynny drwy benderfyniad cymunedol, rhybuddiad ieuenctid neu rybuddiad amodol ieuenctid.

OPCC

Swyddfa’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu


P (Back to top)

PACE

Mae Deddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol (1984) yn nodi pwerau’r heddlu yng Nghymru a Lloegr a chodau ymarfer ar gyfer y pwerau hyn.

Partneriaethau Atal Lleol

Partneriaethau amlasiantaeth a ddefnyddir i adnabod pobl ifanc allai gael eu denu tuag at drais, a chamu i mewn, gyda gweithgarwch wedi’i dargedu.
Plentyn sy’n derbyn gofal O dan y Ddeddf Plant (1989), mae’r gyfraith yn diffinio plentyn fel plentyn sy’n derbyn gofal gan awdurdod lleol os yw:

  • yn cael llety gan yr awdurdod lleol am gyfnod di-dor o fwy na 24 awr
  • yn destun gorchymyn gofal (i roi’r plentyn yng ngofal yr awdurdod lleol)
  • yn destun gorchymyn lleoli (i roi’r plentyn i’w fabwysiadu)
  • yn cael ei remandio, naill ai ei remandio i ofal yr awdurdod lleol neu i lety cadw ieuenctid.

Yn fwy cyffredin, efallai y byddwn yn gweld ‘plentyn sy’n cael gofal’ neu ‘blentyn y gofalir amdano’ yn cael ei ddefnyddio, a dylem osgoi defnyddio’r term LAC.

Personol

Dull gweithredulle mae gwasanaethau’n cael eu teilwra i anghenion unigolion, gan roi cymaint o ddewis a rheolaeth â phosibl i bobl dros y cymorth maen nhw’n ei gael. Rydym yn defnyddio’r term hwn i gynnwys ffactorau amrywiaeth.

Plentyn â phrofiad o fod mewn gofal

Gelwir plentyn sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol am fwy na 24 awr yn blentyn â phrofiad o fod mewn gofal.

PNC

Cyfrifiadur cenedlaethol yr heddlu: y system rheoli gwybodaeth a ddefnyddir gan yr heddlu ledled y DU i hwyluso ymchwiliadau a rhannu gwybodaeth.

Pobl ifanc agored i niwed

Mae rhai pobl ifanc yn agored i ganlyniadau niweidiol iawn y gellir eu hosgoi, fel niwed corfforol neu feddyliol (gan gynnwys camfanteisio), sy’n arwain at fynediad i’r system ofal; cyswllt â’r system cyfiawnder ieuenctid; cyfnodau o beidio â bod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET); neu anawsterau iechyd meddwl difrifol. Mae rhai Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid wedi’u lleoli mewn modelau darparu sy’n targedu’r garfan hon o blant.

PRU

Uned cyfeirio disgyblion: mae’r uned hon yn darparu addysg (a mwy o gefnogaeth) i blant nad ydynt yn gallu mynychu darpariaeth addysg prif ffrwd.

PSR

Adroddiad cyn-dedfrydu: adroddiad a baratoir gan y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i helpu gyda dedfrydu yn y llys. Mae’r adroddiadau hyn yn darparu dadansoddiad o amgylchiadau’r plentyn, y brif drosedd, y tebygolrwydd o aildroseddu a sut i sicrhau diogelwch.


R (Back to top)

RLAA

Remandio i lety’r awdurdod lleol: mae dyletswydd ar awdurdodau lleol i gymeradwyo neu ddod o hyd i lety priodol i blant sy’n cael eu remandio gan y llys troseddol (cyn euogfarn neu ddedfryd) i lety awdurdod lleol.

RoH

Risg o niwed – gweler RoSH isod.

RoSH

Risg o Niwed Difrifol: y term a ddefnyddir yn AssetPlus. Mae pob achos yn cael ei ddosbarthu fel un sy’n peri risg isel, canolig, uchel neu uchel iawn o niwed difrifol i eraill. Mae Arolygiaeth Prawf EF yn defnyddio’r term hwn wrth gyfeirio at y system ddosbarthu ond mae’n defnyddio’r term ehangach ‘risg o niwed’ wrth gyfeirio at y dadansoddiad ddylai ddigwydd i bennu lefel y dosbarthiad. Mae hyn yn helpu i egluro’r gwahaniaeth rhwng y tebygolrwydd y bydd rhywbeth yn digwydd ac effaith/difrifoldeb y digwyddiad. Mae’r term ‘Risg o Niwed Difrifol’ yn cynnwys effaith ‘ddifrifol’ yn unig, lle mae defnyddio ‘risg o niwed’ yn golygu bod modd rhoi sylw angenrheidiol i blant y mae eu hymddygiad yn debygol o gael llai o effaith a/neu o fod yn llai niweidiol.

ROTH

Risg y tu allan i’r cartref. Fel rhan o drefniadau diogelu cyd-destunol, mae rhai awdurdodau lleol yn defnyddio ‘cyfarfodydd ROTH’ penodol yn ogystal â chyfarfodydd diogelu statudol eraill i sicrhau y rhoddir pwyslais ar les wrth gynllunio ar gyfer pobl ifanc sy’n wynebu effaith niwed y tu allan i’r teulu. Weithiau gellir cyfeirio at hyn fel ‘niwed y tu allan i’r cartref’ (HOTH).

ROTL

Mae rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL) yn adnodd gwerthfawr i gefnogi gwaith ailsefydlu. Mae ROTL yn gyfle i blant adael y lleoliad diogel am reswm penodol cyn eu rhyddhau ar drwydded i fwrw elfen gymunedol eu dedfryd.

RYDA

Mae remandio i lety cadw ieuenctid yn cyfeirio at gyfleusterau lle anfonir plant dros 10 oed pan gânt eu cyhuddo o drosedd ac y gwrthodir mechnïaeth iddynt.


S (Back to top)

SALN

Anghenion iaith a lleferydd.

SALT

Therapydd iaith a lleferydd.

SCH

Cartref diogel i blant: uned fach mewn awdurdod lleol sy’n darparu amgylchedd diogel a chefnogol i blant rhwng 10 ac 14 oed sy’n cael eu cadw am resymau lles neu drwy orchymyn y llys troseddol.

SCP

Mae partneriaethau diogelu plant yn fframwaith statudol i bartneriaid diogelu wneud trefniadau i gydweithio er mwyn diogelu a hyrwyddo lles plant lleol.

SEND

Anghenion addysgol arbennig ac anableddau.

SLCN

Anghenion iaith, lleferydd a chyfathrebu, sydd weithiau’n cael eu hehangu i gynnwys anghenion niwroanabledd.

SOS

Signs of safety: fframwaith seiliedig ar gryfderau ar gyfer gweithio gyda phlant agored i niwed. Mae SOS yn darparu amrywiaeth o adnoddau sy’n canolbwyntio ar atebion ar gyfer asesu, cynllunio ac ymyrryd sy’n tynnu sylw at y cryfderau yn ogystal â’r anawsterau sy’n wynebu teuluoedd.

STC

Canolfan hyfforddi ddiogel: mae’r llety hwn yn darparu amgylchedd byw dan reolaeth i blant rhwng 10 a 18 oed sydd wedi cael eu cadw ar remand neu sydd wedi cael eu dedfrydu i’r ddalfa gan y llys troseddol.


T (Back to top)

TAF/C

Tîm o amgylch y teulu/plentyn: tîm amlddisgyblaethol o ymarferwyr yw hwn sy’n gweithio mewn ffordd integredig i gefnogi llesiant plentyn neu blant mewn teulu

TG

Technoleg gwybodaeth: defnyddio systemau, yn enwedig cyfrifiaduron ac offer telathrebu, i storio, adalw a rhannu gwybodaeth

Trais Ieuenctid Difrifol

Unrhyw drosedd o’r trais mwyaf difrifol neu drosedd a alluogir gan arfau, lle mae’r dioddefwr rhwng 1 ac 19 oed (h.y. llofruddiaeth, dynladdiad, treisio, clwyfo’n fwriadol ac achosi niwed corfforol difrifol).

Turnaround

Rhaglen ymyrraeth gynnar i bobl ifanc dan arweiniad y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Trawma dirprwyol Y term a ddefnyddir i egluro’r effaith bosibl ar bobl eraill pan fyddant yn dod i gysylltiad â thrawma pobl eraill yn anuniongyrchol. Gall hyn gynnwys staff pan fyddant yn ymgysylltu’n empathig â phlant sydd wedi profi digwyddiadau trawmatig.


V (Back to top)

VRU

Unedau Lleihau Trais: Partneriaethau cydweithredol lleol sy’n dod â’r heddlu, llywodraeth leol, darparwyr iechyd, arweinwyr cymunedol a sefydliadau eraill fel y Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid at ei gilydd i fynd i’r afael â throseddau treisgar.


Y (Back to top)

YC

Rhybuddiad ieuenctid: rhybuddiad a dderbynnir gan blentyn ar ôl cyfaddef i drosedd lle nad yw er budd y cyhoedd i erlyn y plentyn.

YCC

Rhybuddiad amodol ieuenctid: fel ar gyfer rhybuddiad ieuenctid, ond gydag amodau ynghlwm y mae’n rhaid i’r plentyn gydymffurfio â nhw am hyd at dri mis. Gall peidio â chydymffurfio arwain at erlyn y plentyn am y drosedd wreiddiol.

YJAF

Fframwaith Cymhwyso Cyfiawnder Ieuenctid. Llwyfan ar-lein i’w ddefnyddio gan wasanaethau cyfiawnder ieuenctid a’r Ystad Ddiogel yn unig i gyfathrebu’n effeithiol (gan gynnwys rhannu AssetPlus, cofnodion dyddiadur achosion ac ati) a lawrlwytho dogfennau a thempledi ffurfiol.

YJB

Y Bwrdd Cyfiawnder Ieuenctid: un o gyrff y llywodraeth sy’n gyfrifol am fonitro a chynghori gweinidogion ynghylch effeithiolrwydd y systemau cyfiawnder ieuenctid.

Ymarfer sy’n seiliedig ar drawma (TIP)

Dull o weithio gyda phlant sy’n cydnabod effaith trawma a’u profiad bywyd (gweler ACE uchod) ac sy’n darparu ymateb arbenigol wedi’i deilwra’n arbennig sy’n adeiladu ar eu cryfderau ac yn osgoi atgyfnerthu’r trawma. Mae’r model adfer ar ôl trawma hefyd yn fodel sy’n cael ei ddefnyddio, yn enwedig yng Nghymru.

Ymataliad

Rhoi’r gorau i droseddu neu ymddygiad gwrthgymdeithasol arall.

YOI

Sefydliad troseddwyr ifanc: sefydliad cystodaeth ar gyfer unigolion 15-21 oed, a gedwir ar remand neu a ddedfrydir i’r ddalfa gan y llys troseddol.


YOT/YOS

Tîm Troseddau Ieuenctid yw’r term a ddefnyddir yn y Ddeddf Trosedd ac Anhrefn (1998) i ddisgrifio tîm amlasiantaeth sy’n ceisio lleihau troseddu ymysg pobl ifanc. Mae gan Dimau Troseddau Ieuenctid sawl teitl lleol, fel y gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid, y gwasanaeth troseddau ieuenctid, a theitlau generig eraill a allai gyfleu eu rôl ehangach yn yr ardal leol yn darparu gwasanaethau i blant.


YRO

Gorchymyn adsefydlu ieuenctid: dedfryd gymunedol a roddir gan y llys troseddol, a allai gynnwys un neu ragor o ofynion (e.e. goruchwyliaeth neu ofyniad i wneud gweithgaredd penodol).

Ysgol Ddiogel

Sefydliad gwarchodol sy’n darparu gwasanaethau addysgol ac adsefydlu gwell i blant mewn amgylchedd therapiwtig.