Arolygiad o wasanaethau troseddau ieuenctid Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-Bont ar Ogwr
Rhagair (Back to top)
Mae’r arolygiad hwn yn rhan o’n rhaglen o arolygiadau ar draws gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid (GCI) yng Nghymru a Lloegr.1 Yn yr arolygiad hwn, rydym wedi arolygu a sgorio gwaith gyda phlant a dioddefwyr yn GCI Pen-y-bont ar Ogwr ar draws dau faes eang: ansawdd y gwaith a wneir gyda phlant sy’n gweithio gyda’r GCI ac ansawdd y gwaith a wneir gyda dioddefwyr.
Yn gyffredinol, cafodd GCI Pen-y-bont ar Ogwr sgôr ‘Rhagorol’.
Dechreuodd GCI Pen-y-bont ar Ogwr weithredu ym mis Ebrill 2019 ar ôl dadgyfuno Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae’r Gorllewin, a gafodd sgôr ‘Annigonol’ gennym. Arweiniodd arolygiad o GCI Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Chwefror 2022 at sgôr ‘Angen gwella’. Roedd canfyddiadau ein harolygiad diweddaraf yn dangos bod bwrdd rheoli’r GCI, arweinwyr ac ymarferwyr wedi gweithio’n galed iawn ac yn gyflym i symud y gwasanaeth yn ei flaen. Dylai GCI Pen-y-bont ar Ogwr fod yn falch o’i gynnydd eithriadol. Daethom o hyd i ddiwylliant brwdfrydig a chadarnhaol a oedd yn croesawu cyfleoedd i fyfyrio, dysgu a gwella. Dangosodd arweinwyr ac ymarferwyr ofal gwirioneddol am eu gwaith. Roedden nhw’n frwdfrydig, yn greadigol ac wedi ymrwymo i sicrhau canlyniadau uchelgeisiol i blant, rhieni neu ofalwyr, a dioddefwyr.
Roedd dulliau wedi’u gwreiddio sy’n ystyriol o drawma yn cydbwyso sicrhau newid cadarnhaol yn sensitif â diogelwch y plentyn a’r gymuned. Arweiniodd tîm trawma’r GCI gyfarfodydd llunio amlasiantaeth a arweiniodd at asesu, cynllunio a darparu cyfannol. Cymerodd ymarferwyr amser i feithrin perthynas â phlant, a gwelsom ddulliau cadarn, parhaus a chyson o gefnogi plant a oedd yn cael trafferth rheoli eu hunain ac ymgysylltu â gwasanaethau. Roedd gweithio mewn partneriaeth wedi’i wreiddio, er y gellid ei gryfhau drwy sicrhau mynediad cyson at wybodaeth a gedwir gan y Gwasanaeth Prawf.
Roedd y gwaith gyda dioddefwyr yn uchelgeisiol ac yn adlewyrchu’r egwyddorion sy’n ystyriol o drawma sy’n cael eu defnyddio wrth weithio gyda phlant. Roedd y cymorth wedi’i deilwra i anghenion unigol ac yn blaenoriaethu diogelwch dioddefwyr. Roedd dioddefwyr sy’n blant yn cael gafael ar amrywiaeth o gymorth arbenigol sydd ar gael drwy’r GCI, gan gynnwys therapi iaith a lleferydd, therapi celf, arbenigwyr iechyd, ac eiriolaeth addysg.
Roedd gwasanaeth a bwrdd rheoli’r GCI yn adnabod eu hunain yn dda ac roeddent wedi ymrwymo i fynd i’r afael â’r nifer sylweddol o blant nad oeddent yn ymgysylltu â’u hawl i addysg. Roedd gan y GCI fesurau lliniaru cryf ar waith drwy’r prosiect Meithrin Sgiliau a chymorth mentora addysg. Fodd bynnag, roedd cydnabyddiaeth na allai darpariaeth y GCI gymryd lle hawl plant i addysg ffurfiol, ac roedd hwn yn faes gwaith yr oedd angen canolbwyntio ymhellach arno.
Dylid canmol GCI Pen-y-bont ar Ogwr am ei ddarpariaeth cyfannol trawiadol o gymorth i blant, rhieni neu ofalwyr, a dioddefwyr. Wrth symud ymlaen, mae gan fwrdd rheoli’r GCI rôl bwysig i’w chwarae o ran sicrhau bod digon o adnoddau ar gael i gynnal y gwaith o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
Martin Jones CBE
Prif Arolygydd Prawf Ei Fawrhydi
Sgoriau (Back to top)
| Dechreuodd y gwaith maes ym mis Tachwedd 2025 | Sgôr 12/12 |
| Sgôr gyffredinol | Rhagorol |
Gweithio gyda phlant
| 2.1 Asesu | Rhagorol |
| 2.2 Cynllunio | Rhagorol |
| 2.3 Cyflawni | Rhagorol |
Gweithio gyda dioddefwyr
| V1 Gweithio gyda dioddefwyr | Rhagorol |
Argymhellion (Back to top)
O ganlyniad i ganfyddiadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud pedwar argymhelliad a fydd, os cânt eu rhoi ar waith, yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Bydd hyn yn gwella bywydau’r plant a’r dioddefwyr sydd mewn cysylltiad â gwasanaethau cyfiawnder ieuenctid ac yn diogelu’r cyhoedd yn well.
Dylai GCI Pen-y-bont ar Ogwr wneud y canlynol:
- sicrhau bod gwybodaeth gan y Gwasanaeth Prawf yn cael ei defnyddio a’i dadansoddi’n gyson i roi darlun cyfannol o bryderon sy’n effeithio ar ddiogelwch y plentyn a’r gymuned
- parhau i wreiddio’r strategaeth camfanteisio i hyrwyddo dulliau cyson o ganfod a mynd i’r afael â niwed y tu allan i’r cartref.
Dylai’r Bwrdd Rheoli Cyfiawnder Ieuenctid:
- fynd ati’n weithredol i fynd i’r afael â nifer y plant GCI nad ydynt yn manteisio ar eu hawl i addysg lawn, a lleihau’r niferoedd
- parhau i fonitro capasiti ac adnoddau’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid i sicrhau bod arweinwyr, staff ac arbenigwyr yn gallu parhau i ddarparu gwaith o ansawdd uchel i blant, rhieni neu ofalwyr, a dioddefwyr.
Cefndir (Back to top)
Fe wnaethom waith maes yn GCI Pen-y-bont ar Ogwr dros gyfnod o wythnos, gan ddechrau ar 24 Tachwedd 2025. Fe wnaethom archwilio achosion lle’r oedd y GCI wedi dechrau gweithio gyda phlant sy’n destun cystodaeth, datrysiadau yn y llys, neu ddatrysiadau y tu allan i’r llys rhwng 25 Tachwedd 2024 a 26 Medi 2025. Gwnaethom hefyd gynnal 15 cyfweliad gyda rheolwyr achos neu reolwyr.
Fe wnaethom arolygu’r trefniadau sefydliadol ar gyfer y gwaith a wnaed gyda dioddefwyr ac edrych ar achosion lle’r oedd y GCI wedi bod mewn cysylltiad â dioddefwyr rhwng 25 Tachwedd 2024 a 26 Medi 2025. Gwnaethom hefyd gynnal cyfweliadau â staff a rheolwyr sy’n gyfrifol am gyflawni’r gwaith hwn.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod lleol yn Ne Cymru gyda chyfanswm poblogaeth o 147,530. Mae plant 10 i 17 oed yn cyfrif am 9.5 y cant o’r boblogaeth. Roedd Cyfrifiad 2021 yn nodi bod 4.9 y cant o boblogaeth ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr yn Ddu ac o leiafrifoedd ethnig. Roedd canran y siaradwyr Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi gostwng o 9.7 y cant yn 2011 i 9.2 y cant yn 2021.
Arolygwyd Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ac Ymyrraeth Gynnar Bae’r Gorllewin gan Arolygiaeth Prawf EF yn 2018. Roedd Pen-y-bont ar Ogwr yn rhan o’r gwasanaeth hwn, ochr yn ochr â Chastell-nedd Port Talbot ac Abertawe. Cyhoeddwyd adroddiad yr arolygiad ym mis Mawrth 2019, gyda sgôr gyffredinol o ‘Annigonol’. Cafodd y gwasanaeth ei ddadgyfuno ym mis Ebrill 2019.
Roedd GCI Pen-y-bont ar Ogwr, y timau blynyddoedd cynnar a gofal plant, y tîm ymgysylltu ag addysg, a gwasanaethau cymorth ieuenctid wedi’u lleoli yn y Gyfarwyddiaeth Addysg, Blynyddoedd Cynnar a Phobl Ifanc (EEYYP). Cyfarwyddwr corfforaethol EEYYP oedd cadeirydd bwrdd rheoli’r GCI. Roedd tîm arwain y GCI yn cynnwys rheolwr gwasanaeth strategol, dau reolwr gweithredol, dau uwch ymarferydd (un cyfwerth ag amser llawn), uwch weithiwr cymdeithasol, arbenigwr trawma, cydlynydd dulliau adferol, a’r swyddog data, perfformiad a sicrhau ansawdd. Roedd awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr yn awdurdod lletyol i garchar y Parc a chafodd uwch ymarferwyr y GCI eu secondio i’r sefydliad.
Roedd arweinwyr y GCI yn cynrychioli’r gwasanaeth mewn fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol. Arweinydd strategol y GCI oedd cyd-gadeirydd Rheolwyr y GCI yng Nghymru. Roedd y GCI yn cael ei gynrychioli ar Fwrdd Diogelu Cwm Taf Morgannwg, a oedd wedi datblygu’r strategaeth camfanteisio ranbarthol a’r prosesau, y canllawiau a’r adnoddau sgrinio cysylltiedig.
Roedd y GCI, y tîm datblygu ieuenctid, cymorth cynnar a gwasanaethau cyrion gofal wedi cael cyllid gan y Gronfa Waddol Ieuenctid a’r Swyddfa Gartref i gyflawni’r prosiect Meithrin Perthnasoedd Gyda’n Gilydd (RBT) i gefnogi plant a oedd wedi profi trawma. Roedd y GCI wedi sefydlu tîm trawma i arwain cyfarfodydd llunio, a oedd yn hyrwyddo dull cyfannol o ddeall trawma a phrofiadau bywyd plant a’u rhieni neu ofalwyr. Cefnogwyd dulliau sy’n ystyriol o drawma mewn darpariaethau addysg ac roedd yna gynlluniau i ehangu’r ddarpariaeth hyfforddiant fel ffordd o gynyddu ymgysylltiad plant â’u hawl i addysg lawn. Roedd bwrdd rheoli’r GCI ac uwch arweinwyr wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad parhaus y prosiect hwn y tu hwnt i gyfnod y cyllid a ddyrannwyd.
Roedd gan y GCI fynediad at amrywiaeth o ymyriadau a gwasanaethau i fynd i’r afael ag anghenion a diogelwch plant, yn ogystal â hyrwyddo newid cadarnhaol. Roedd yr ymweliadau cyd-destun a’r slot arddangos yn ystod y gwaith maes yn dangos hyn. Ymwelodd yr arolygwyr â Chanolfan Ieuenctid Evergreen ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a oedd yn darparu lleoedd a mannau diogel i blant gael gafael ar gymorth gan amrywiaeth o wasanaethau ieuenctid. Roedd y GCI yn aml yn defnyddio’r lleoliad i gefnogi gweithgareddau meithrin perthynas ac i ddarparu ymyriadau. Roedd arolygwyr wedi’u plesio gan y prosiect Meithrin Sgiliau, a oedd yn rhoi cyfleoedd i blant ddylunio a datblygu offer a mannau chwarae pren ar raddfa fawr ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol, ac yn eu galluogi i ennill sgiliau ymarferol ym maes adeiladu, dylunio prosiectau ac iechyd a diogelwch. Nod y prosiect oedd rhoi strwythur, trefn, hyder a sgiliau i blant i’w helpu i ailintegreiddio i addysg, hyfforddiant a chyflogaeth. Daeth arolygwyr o hyd i enghreifftiau lle’r oedd hyn wedi digwydd yn llwyddiannus. Fodd bynnag, roeddem hefyd wedi nodi achosion lle nad oedd y cymorth helaeth a ddarparwyd gan y GCI yn cael ei ailadrodd gan ddarpariaethau addysg, gan arwain at blant yn cael eu gwrthod ar eu diwrnod cyntaf o ailintegreiddio.
Roedd data a ddarparwyd pan gyhoeddwyd yr arolygiad yn dangos bod y GCI yn gweithio gyda 61 o blant; roedd wyth yn destun datrysiadau yn y llys, a 53 yn destun datrysiadau y tu allan i’r llys. Bu’r GCI hefyd yn gweithio gyda phlant ychwanegol ar sail ataliol, gan ddarparu cymorth ac ymyrraeth gynnar helaeth i’r rheini sydd mewn perygl o droseddu.
Roedd y GCI yn gweithio’n bennaf gyda bechgyn 15-17 oed. Fodd bynnag, ar ddiwrnod cyhoeddi’r arolygiad, merched oedd 26 y cant o lwyth achosion y GCI, a oedd yn adlewyrchu cynnydd diweddar yn nifer y merched a atgyfeiriwyd at y gwasanaeth.
Mewn ymateb i gynnydd yn nifer y newydd-dyfodiaid, roedd bwrdd rheoli a thîm arwain y GCI wedi cwblhau adolygiad o gyswllt blaenorol plant â’r GCI ac asiantaethau partner, i ddadansoddi themâu, patrymau a chyfleoedd a gollwyd i ymyrryd. Sefydlwyd panel atal EEYYP amlasiantaethol i sicrhau bod anghenion plant yn cael eu nodi a’u cefnogi cyn gynted â phosibl.
Maes dau: Gweithio gyda phlant (Back to top)
Fe wnaethom edrych yn fanwl ar 15 achos lle mae’r GCI wedi gweithio gyda phlant sy’n destun dedfrydau cymunedol, adsefydlu, neu ddatrysiadau y tu allan i’r llys.
| 2.1. Asesu | Sgôr |
| Mae asesu yn seiliedig ar wybodaeth ac yn bersonol, gan ddadansoddi’n effeithiol sut mae sicrhau newid cadarnhaol a chadw plant a’r gymuned yn ddiogel. | Rhagorol |
Mae ein sgôr2 ar gyfer asesu yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
| A yw asesu yn dadansoddi’n ddigonol sut i wneud y canlynol: | % ‘Ydy’ |
| sicrhau newid cadarnhaol i’r plentyn? | 100% |
| cadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel? | 87% |
Roedd asesu gweithgarwch i sicrhau newid cadarnhaol i’r plentyn yn gryfder ym mhob achos a arolygwyd. Roedd y GCI wedi gwreiddio arferion sy’n canolbwyntio ar y plentyn a dulliau sy’n seiliedig ar drawma o ddeall ymddygiad plant. Roedd fforymau pennu llinell amser amlasiantaeth RBT yn darparu lle ar gyfer asesu cydweithredol ymysg asiantaethau, gan gynnwys y GCI, yr heddlu, gofal cymdeithasol plant, iechyd, addysg, a chynrychiolwyr o wasanaethau penodol sy’n cefnogi’r plentyn. Roedd gwaith asesu yn y fforymau hyn yn trafod oedran gwybyddol, cymdeithasol ac emosiynol yr oedd y plentyn yn ei arddangos pan oedd yn gallu a ddim yn gallu rheoli ei hun. Defnyddiodd y fforymau amlasiantaethol yr wybodaeth hon i nodi lle’r oedd y plentyn ar y Model Adfer ar ôl Trawma (TRM)3, ac roedd hyn yn hysbysu dulliau o weithio gyda’r plentyn. Roedd y fforwm amlasiantaethol hefyd yn edrych ar brofiadau rhieni neu ofalwyr o drawma a’r effaith y gallai hyn ei chael ar eu rolau gofalu.
Canfu’r arolygwyr ddull cyfannol o gefnogi’r plentyn, ei rieni neu ei ofalwyr, a’r rhwydwaith cymorth ehangach. Bu ymarferwyr y GCI yn gweithio ar y cyd â phlant i’w deall fel unigolion, ynghyd â’u cryfderau, eu nodau, eu dyheadau a’u meysydd angen. Gwelsom achosion lle’r oedd defnyddio’r ymarfer ‘dod i f’adnabod i’ wedi hyrwyddo ymgysylltu cadarnhaol â’r plentyn. Roedd rhieni a gofalwyr yn cael eu cynnwys yn gyson ac yn ystyrlon yn y gwaith o asesu gweithgarwch, a gwelsom nifer o enghreifftiau lle’r oedd eu hanghenion eu hunain, nad oeddent yn cael eu diwallu, wedi cael eu nodi a’u cefnogi fel rhan o ymyriad y GCI. Roedd hyn yn cynnwys cymorth i gael gafael ar gyngor meddygol arbenigol, ac eiriolaeth ar gyfer tai, cyflogaeth a chyllid.
Roedd asesu gweithgarwch yn ddadansoddol ac yn cydbwyso cryfderau’r plentyn â meysydd angen. Roedd asesiadau’n cael eu hysgrifennu’n sensitif i’r plentyn mewn arddull a oedd yn ystyried ei brofiadau bywyd. Roedd arferion o ran amrywiaeth yn gyson gryf, gan ystyried profiadau niweidiol plentyn yn ystod plentyndod, trawma, aeddfedrwydd, dulliau dysgu, anghenion iechyd, ac anghenion niwroddatblygiadol wedi’u diagnosio neu eu hamau. Gwelsom fod ymarferwyr yn hyderus wrth hwyluso sgyrsiau am ddiwylliant, treftadaeth a hunaniaeth plentyn. Roedd plant yn cael cynnig mynediad at wasanaethau yn Gymraeg.
Roedd asesu ar gyfer diogelwch y plentyn a’r gymuned yn gyson ac yn rhyng-gysylltiedig. Dangosodd ymarferwyr ddealltwriaeth gyfannol o sut y gallai newidiadau i ddiogelwch y plentyn effeithio ar ddiogelwch eraill, ac i’r gwrthwyneb. Er enghraifft, nid oedd nifer o blant GCI yn ymgysylltu â’u hawl i addysg, a gwelsom enghreifftiau lle nad oedd plant wedi bod yn yr ysgol am gyfnodau sylweddol. Roedd yr asesiad yn ystyried effaith diffyg addysg a strwythur ar les plentyn a’i ymdeimlad o berthyn, a’r goblygiadau posibl ar ymddygiad gwrthgymdeithasol, troseddu a chamfanteisio.
Rhoddwyd strategaeth camfanteisio Cwm Taf Morgannwg ar waith yn ddiweddar, gan fanylu ar brosesau a llwybrau diwygiedig ar gyfer nodi a mynd i’r afael â phryderon cyd-destunol. Canfu’r arolygwyr sawl enghraifft lle’r oedd pryderon ynghylch camfanteisio ar blant wedi arwain at atgyfeiriadau a gweithredu amserol gan y bartneriaeth. Fodd bynnag, roedd yna gyfleoedd i ddatblygu dulliau mwy cyson o nodi dangosyddion cynnar o gamfanteisio.
Aseswyd diogelwch plant a chymunedau yn y fforymau pennu llinell amser aml-asiantaeth, ac roedd hyn yn darparu cyd-ddealltwriaeth o’r pryderon a’r camau gweithredu sydd eu hangen i hyrwyddo diogelwch. Roedd plant na chawsant eu trafod yn ffurfiol yn y cyfarfodydd llunio a phennu llinell amser wedi elwa o lwybrau rhannu gwybodaeth sefydledig ar draws y trefniadau partneriaeth. Fodd bynnag, roedd yna gyfleoedd i gryfhau prosesau i sicrhau bod gwybodaeth a gedwir gan y Gwasanaeth Prawf yn cael ei defnyddio’n rheolaidd i roi darlun cyfannol o’r oedolion sy’n ymwneud â bywyd plentyn a’r goblygiadau cysylltiedig i ddiogelwch y plentyn.
Ychwanegwyd at asesu drwy ystyried y datganiadau cynhwysfawr ar yr effaith ar ddioddefwyr. Canfu’r arolygwyr fod arferion asesu yn ystyried dymuniadau, teimladau a diogelwch y dioddefwr yn gyson. Gwelsom enghreifftiau o asesu a oedd yn ystyried yn sensitif ymdeimlad corfforol, emosiynol a seicolegol y dioddefwr uniongyrchol o ddiogelwch.
| 2.2 Cynllunio | Sgôr |
| Mae cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn gyfannol ac wedi’i bersonoli, gan ganolbwyntio ar sut mae sicrhau newid cadarnhaol a chadw plant a chymunedau’n ddiogel. | Rhagorol |
Mae ein sgôr4 ar gyfer cynllunio yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
| A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar sut i wneud y canlynol: | % ‘Ydy’ |
| sicrhau newid cadarnhaol i’r plentyn? | 87% |
| cadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel? | 87% |
Roedd y cryfderau a welwyd wrth asesu yn llifo i arferion cynllunio. Cafodd cryfderau, dyheadau a nodau’r plant eu cynnwys yn y gwaith cynllunio, gydag enghreifftiau o’r GCI yn nodi pwysigrwydd cefnogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon, ailintegreiddio mewn addysg, cynnal perthnasoedd teuluol cadarnhaol, datblygu sgiliau cymdeithasol, a chymryd rhan mewn therapi celf.
Roedd y gweithgareddau cynllunio yn ystyriol o drawma, ac roedd y plant a drafodwyd yn ystod y cyfarfodydd llunio a phennu llinell amser yn cael eu halinio â lefel ar y TRM. Gwelsom enghreifftiau o ddulliau unigol o gynllunio a oedd yn nodi bod angen elfennau sylfaenol cysondeb, rhagweladwyedd a dibynadwyedd ar y plentyn er mwyn gallu rheoli ei hun ac ymgysylltu ag oedolion.
Roedd cynllunio’n cael ei hysbysu’n effeithiol gan argymhellion asesiadau lleferydd ac iaith, gan arwain at addasiadau i gynlluniau a oedd yn cael eu creu gyda’r plentyn, defnyddio iaith benodol, sesiynau byr, a theganau ffidlan. Arweiniodd cynllunio sy’n ystyriol o drawma at ystyriaeth sensitif o leoedd, gofodau a phobl. Roedd ymarferwyr y GCI yn cynllunio i gwrdd â phlant a rhieni neu ofalwyr mewn mannau a oedd yn hygyrch ac yn teimlo’n ddiogel. Roedd hyn yn cynnwys ymweliadau cartref, cyfarfodydd yn y gofod Evergreen sy’n addas i blant, cyfarfodydd mewn ysgolion, a gweithgareddau cymunedol fel ‘cerdded a sgwrsio’. Roedd ymarferwyr yn ystyried yr angen am amseroedd apwyntiadau cyson ac roedd dulliau graddol o gyflwyno pobl newydd i’r plentyn a’i rieni neu ofalwyr.
Cafodd y gweithgarwch cynllunio ei wella gan y panel canlyniadau dargyfeirio (DOP) y tu allan i’r llys. Roedd y panel amlasiantaeth yn cynnwys rheolwr y GCI, ymarferwyr y GCI, cydlynydd dulliau adferol, a chynrychiolwyr o’r heddlu, gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, gofal iechyd, addysg, y bartneriaeth diogelwch cymunedol, a’r tîm datblygu ieuenctid. Gwelsom enghreifftiau lle’r oedd cynllunio ar y cyd yn y DOP wedi sicrhau bod plant a’u rhieni neu ofalwyr yn gallu cael gafael ar yr amrywiaeth o wasanaethau i gefnogi eu hanghenion. Roedd y DOP hefyd yn hyrwyddo strategaethau cynllunio ymadael amserol.
Ystyriwyd cynllunio ar gyfer diogelwch y plentyn a’r gymuned. Trafodwyd plant yr aseswyd eu bod yn cyflwyno lefelau uchel o bryderon diogelwch yn y cyfarfodydd diogelwch a llesiant amlasiantaeth dan arweiniad y GCI. Arweiniodd hyn at gynllunio ar y cyd ac alinio’r amrywiaeth o gynlluniau sydd gan y GCI, gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, y darparwr addysg, yr heddlu a gwasanaethau gofal iechyd. Roedd gan weithwyr proffesiynol gyd-ddealltwriaeth glir o’u rolau a’u cyfrifoldebau, a oedd yn osgoi dyblygu gwasanaethau.
Daeth arolygwyr o hyd i enghreifftiau effeithiol o gynllunio gyda rhieni a gofalwyr i gefnogi diogelwch eu plentyn a/neu’r gymuned ehangach. Bu ymarferwyr y GCI yn gweithio gyda’r plentyn a’i rieni neu ofalwyr i greu cynlluniau diogelwch mewn ymateb i bryderon sy’n dod i’r amlwg fel dirywiad mewn llesiant, cynnydd yn y defnydd o sylweddau, cyfnodau coll, a chario cyllyll. Roedd y gwaith cynllunio’n ymateb i anghenion sy’n newid, ac roedd cryfderau mewn arferion rhannu gwybodaeth gyda’r heddlu, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, addysg a gwasanaethau gofal cymdeithasol plant wedi arwain at gamau amserol i gadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel. Canfu’r arolygwyr sawl enghraifft o gynllunio effeithiol i gadw’r plentyn yn ddiogel rhag camfanteisio. Fodd bynnag, byddai arferion cynllunio yn cael eu cryfhau drwy sicrhau ymatebion cyson i bryderon cyd-destunol sy’n dod i’r amlwg.
Roedd gweithgarwch cynllunio ar y cyd gyda’r heddlu a’r bartneriaeth diogelwch cymunedol wedi arwain at ddulliau gweithredu pwyllog i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwelsom enghreifftiau lle’r oedd cynlluniau a chontractau wedi’u dogfennu i fynd i’r afael ag ymddygiad o’r fath wedi cael eu haddasu gan y therapydd iaith a lleferydd i sicrhau bod y plentyn a’i rieni neu ofalwyr yn deall y disgwyliadau’n llawn.
Canfu’r arolygwyr sawl enghraifft o gynllunio ystyriol a arweiniodd at osod rheolaethau allanol i ddiogelu dioddefwyr troseddau uniongyrchol. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio gofynion dim cysylltiad ac ardaloedd dan waharddiad. Roedd arferion i hyrwyddo diogelwch cyffredinol dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posibl yn gryfder. Fodd bynnag, nid oedd y cynllunio bob amser yn cynnwys dymuniadau a theimladau dioddefwyr uniongyrchol yn benodol, ac roedd cyfleoedd i ddatblygu cysondeb yn y maes ymarfer hwn.
| 2.3 Cyflawni | Sgôr |
| Mae gwasanaethau cydlynol, personol ac o ansawdd uchel sydd â ffocws da yn cael eu darparu, gan sicrhau newid cadarnhaol a chadw plant a chymunedau’n ddiogel. | Rhagorol |
Mae ein sgôr5 ar gyfer cyflawni yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
| A yw cyflawni gwasanaethau cydlynol, personol â ffocws da yn: | % ‘Ydy’ |
| sicrhau newid cadarnhaol i’r plentyn? | 87% |
| cadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel? | 87% |
Roedd cyflawni gwasanaethau i sicrhau newid cadarnhaol wedi cael ei deilwra, ei bersonoli a’i drefnu i ddiwallu anghenion y plentyn. Roedd ymarferwyr ac arbenigwyr y GCI yn fedrus o ran meithrin perthynas â phlant a’u rhieni neu ofalwyr. Canfu’r arolygwyr fod ymarfer yn ystyried y plentyn yng nghyd-destun ei brofiadau bywyd. Arweiniodd hyn at ddull cyfannol ‘teulu cyfan’ o ddarparu gwasanaethau a oedd yn darparu cymorth i’r plentyn, ei frodyr a’i chwiorydd, a’i rieni neu ofalwyr. Canfu’r arolygwyr enghreifftiau lle’r oedd rhieni wedi cael cymorth i gael gafael ar driniaeth iechyd meddwl, asesiadau niwroddatblygiadol, ac eiriolaeth ar gyfer tai, cyllid a chyflogaeth.
Roedd arferion sy’n ystyriol o drawma yn ystyried gallu ac addasrwydd y plentyn i ymgysylltu ag ymyriadau penodol. Cymerodd ymarferwyr amser i feithrin perthynas â phlant, a gwelsom ddulliau cadarn, parhaus a chyson o gefnogi plant a oedd yn cael trafferth rheoli eu hunain ac nad oeddent yn ymddiried mewn gwasanaethau. Roedd ymarferwyr yn ymateb i anghenion sy’n newid, gan ofyn am gyngor a chymorth gan gydweithwyr arbenigol y GCI pan fo angen. Roedd hyn yn aml yn golygu bod arbenigwyr naill ai’n darparu gwaith uniongyrchol gyda’r plentyn neu’n darparu cyngor i gefnogi’r ymarferydd i gyflawni gwaith. Roedd yna gydnabyddiaeth o bwysigrwydd cysondeb a pheidio â llethu’r plentyn a’i riant neu ofalwr gyda chyfranogiad nifer o weithwyr proffesiynol.
Roedd darparu gwasanaethau’n ystyried mannau, lleoedd a phobl ddiogel. Roedd Canolfan Ieuenctid Evergreen yn darparu amgylchedd sy’n addas i blant i gefnogi’r gwaith o feithrin perthnasoedd. Canfu’r arolygwyr enghreifftiau trawiadol o sesiynau a ddarparwyd gan swyddog heddlu, gweithwyr camddefnyddio sylweddau, gweithwyr iechyd arbenigol, therapyddion iaith a lleferydd, gweithwyr addysg, therapyddion celf, a’r tîm datblygu ieuenctid. Nodwyd prosiectau gwneud iawn i ddiwallu anghenion unigol y plentyn, gan sicrhau bod y gwaith adfer yn cael ei gydbwyso â chyfleoedd i ddatblygu sgiliau ac integreiddio cymunedol.
Roedd bwrdd rheoli a gwasanaeth y GCI yn monitro’r nifer uchel o blant GCI nad oeddent yn ymgysylltu â’u hawl i addysg. Deallwyd y cysylltiadau rhwng peidio â mynychu’r ysgol a’r goblygiadau ar gyfer sicrhau newid cadarnhaol a diogelwch i’r plentyn. Canfu’r arolygwyr fod ymarferwyr ac arbenigwyr y GCI yn rhagweithiol o ran eiriol dros blant mewn cyfarfodydd ysgol a’u bod yn uwchgyfeirio pryderon fel mater o drefn i fforymau addysg strategol. Gweithiodd arbenigwyr addysg y GCI yn dda i liniaru’r bylchau drwy gefnogi plant i gymryd rhan mewn gweithgareddau adeiladol sy’n seiliedig ar sgiliau fel y prosiect Meithrin Sgiliau.
Roedd darparu gwasanaethau i gefnogi diogelwch y plentyn a’r gymuned yn aml yn ymateb i bryderon a oedd yn dod i’r amlwg, gan arwain at atgyfeiriadau amserol at wasanaethau gofal cymdeithasol plant ac arbenigwyr y GCI. Roedd yr heddlu’n rhannu gwybodaeth bob dydd i roi darlun cyfredol a chyfannol o amgylchiadau sy’n dylanwadu ar ddiogelwch y plentyn a’r gymuned. Canfu’r arolygwyr sawl enghraifft o ddarpariaeth a oedd yn canolbwyntio ar leihau pryderon sy’n gysylltiedig â chamfanteisio, gan gynnwys sesiynau uniongyrchol a ddarparwyd i blant a rhieni neu ofalwyr, atgyfeiriadau at wasanaethau arbenigol, atgyfeiriadau at dimau diogelu, a chwblhau cyflwyniadau i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol. Fodd bynnag, gwelsom hefyd enghreifftiau lle gellid cryfhau’r arfer hwn drwy ddadansoddi’r ystod o ddangosyddion sy’n gysylltiedig â chamfanteisio. Yn yr un modd, byddai cael gwybodaeth amserol yn uniongyrchol gan y Gwasanaeth Prawf yn gwella gallu’r GCI i ymateb i bryderon sy’n dod i’r amlwg am ddylanwad oedolion hysbys ym mywyd plentyn.
Daeth arolygwyr o hyd i enghreifftiau lle’r oedd diogelwch dioddefwyr gwirioneddol a phosibl yn cael ei ystyried yn dda. Roedd hyn yn cynnwys defnyddio cyfyngiadau fel gofynion dim cysylltiad, gwaharddiadau a gorchmynion atal. Roedd cyfleoedd i ddatblygu cysondeb o ran dangos tystiolaeth o’r gwaith a wnaed gyda’r plentyn i hyrwyddo diogelwch dioddefwyr.
Roedd rheolwyr yn goruchwylio cyflawni gwaith gyda phlant yn ffurfiol mewn cyfarfodydd goruchwylio a rheoli diogelwch a lles. Roedd ymarferwyr y GCI yn siarad yn gadarnhaol am y cymorth a’r arweiniad a ddarparwyd gan reolwyr gan fynegi nifer o enghreifftiau lle’r oedd hyn wedi arwain at gamau cadarnhaol i gadw’r plentyn a’r gymuned yn ddiogel. Canfu’r arolygwyr nad oedd cofnodi goruchwyliaeth rheolwyr bob amser yn dangos digon o dystiolaeth o faint y gefnogaeth a gynigir i ymarferwyr, ac roedd cyfleoedd i gryfhau’r maes ymarfer hwn.
Gweithio gyda dioddefwyr (Back to top)
Fe wnaethom edrych yn fanwl ar naw achos dioddefwyr lle’r oedd y GCI wedi cynnig gwasanaeth i ddioddefwyr a oedd wedi cydsynio i’w gwybodaeth gael ei rhannu.
| Gweithio gyda dioddefwyr | Sgôr |
| Mae’r gwaith gyda dioddefwyr o ansawdd uchel, yn unigol ac yn ymatebol, gan sicrhau canlyniadau cadarnhaol a diogelwch i ddioddefwyr. | Rhagorol |
Mae ein sgôr6 ar gyfer gweithio gyda dioddefwyr yn seiliedig ar y cwestiynau allweddol canlynol:
V 1.1 A yw gwaith gyda dioddefwyr yn unigol, ymatebol ac o ansawdd uchel?
V 1.2 A yw trefniadau a gweithgarwch sefydliadol yn ysgogi gwasanaeth unigol, ymatebol ac o ansawdd uchel i ddioddefwyr?
Cryfderau:
- Canfu’r arolygwyr fod y gwaith gyda dioddefwyr o ansawdd uchel, yn ymatebol ac yn unigol ym mhob achos a arolygwyd. Roedd dull rheoli achos o gefnogi dioddefwyr yn golygu bod ymarferwyr yn treulio amser yn dod i adnabod dioddefwyr unigol. Roedd hyn yn hyrwyddo dealltwriaeth ystyrlon o effaith y drosedd, dymuniadau a theimladau’r dioddefwr, ac ystyriaethau diogelwch yn y dyfodol. Daeth arolygwyr o hyd i enghreifftiau lle’r oedd dioddefwyr yn cael cymorth rhagweithiol dros gyfnod o dri i chwe mis, gan gynnwys ymweliadau cartref rheolaidd, galwadau ffôn, a negeseuon testun. Roedd dioddefwyr yn pennu lefel a natur y cymorth a ddarparwyd gan ymarferwyr y GCI.
- Roedd y GCI a’r bwrdd rheoli wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i ddioddefwyr. Ariannodd Swyddfa Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu Ffocws ar Ddioddefwyr ar draws ardal Heddlu De Cymru. Roedd Ffocws ar Ddioddefwyr yn gallu cynnig cymorth i unrhyw un yr effeithiwyd arnynt gan drosedd neu ddigwyddiadau a oedd wedi achosi niwed. Roedd Ffocws ar Ddioddefwyr yn ychwanegiad diweddar at fwrdd rheoli’r GCI.
- Roedd cynllun Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr 2025/2026 yn seiliedig ar gynllun datblygu gwasanaeth cynhwysfawr. Roedd gwaith dioddefwyr yn flaenoriaeth i’r bwrdd rheoli, gan arwain at is-grŵp adferol a dioddefwyr newydd gyda chynrychiolaeth cydlynydd dulliau adferol (RAC) y GCI, yr heddlu, y Gwasanaeth Prawf, a Ffocws ar Ddioddefwyr.
- Roedd bwrdd rheoli’r GCI yn cyfarfod bob deufis a chymerwyd rhan weithredol yn hyrwyddo datblygu gwaith gyda dioddefwyr. Roedd cyfarfodydd y Bwrdd wedi trafod safonau dioddefwyr Arolygiaeth Prawf EF, crynodeb o’r cryfderau a’r meysydd i’w gwella a nodwyd mewn adroddiadau arolygu a gyhoeddwyd, a’r cod ymarfer ar gyfer dioddefwyr troseddau yng Nghymru a Lloegr. Cyflwynwyd profiadau dioddefwyr ac astudiaethau achos i’r bwrdd mewn modd sensitif.
- Roedd yna drefniadau effeithiol gyda’r heddlu ar gyfer cael caniatâd a rhannu manylion dioddefwyr. Roedd y swyddog heddlu ar secondiad yn gyswllt hanfodol rhwng yr heddlu a’r GCI. Cyflwynodd swyddogion yr heddlu ffurflen atgyfeirio i swyddog heddlu ar secondiad y GCI, a oedd yn gwneud yr alwad gychwynnol i’r dioddefwr. Rhoddodd y swyddog heddlu ar secondiad wybodaeth i’r dioddefwr am ddarpariaeth dioddefwyr y GCI a sicrhau bod cydsyniad penodol ar sail gwybodaeth wedi’i gael cyn rhannu manylion â RAC y GCI. Dilynodd RAC y cyswllt cyntaf drwy gynnig ymweliad cartref.
- Cofnodwyd gwybodaeth am oedran, rhywedd, rhagenwau, ethnigrwydd ac anableddau, ynghyd â marcwyr perthnasol o system yr heddlu. Rhannwyd yr wybodaeth hon â RAC y GCI er mwyn hysbysu eu cyswllt cychwynnol. Canfu’r arolygwyr fod cofnod clir o nodweddion gwarchodedig y dioddefwr ym mhob achos a arolygwyd.
- Roedd y GCI yn cynnig amrywiaeth o ddulliau adferol, gan gynnwys cynadleddau adferol, cyfarfodydd wyneb yn wyneb, cyfryngu gwennol, llythyrau esboniadol, gwneud iawn uniongyrchol ac anuniongyrchol, cymorth parhaus, a chyfeirio at wasanaethau arbenigol. Roedd y gwasanaethau a gynigiwyd i ddioddefwyr yn cael eu harwain gan anghenion ac yn ymateb i amgylchiadau a oedd yn newid; roedd cyfleoedd i’r dioddefwr ‘optio i mewn’ i wasanaethau yn ddiweddarach, os oedd yn dymuno gwneud hynny. Ym mhob achos a arolygwyd, gwelsom fod dioddefwyr yn gallu cael gafael ar wasanaethau i gefnogi eu hanghenion.
- Roedd y cynnig i blant sy’n ddioddefwyr yn eithriadol. Gwnaed y cyswllt cyntaf drwy’r rhiant neu’r gofalwr, i benderfynu a oedd y dioddefwr sy’n blentyn eisiau ymgysylltu â’r RAC. Roedd dioddefwyr sy’n blant a’u rhieni neu ofalwyr yn gallu cael gafael ar yr amrywiaeth o wasanaethau a oedd ar gael drwy arbenigwyr y GCI. Yn ymarferol, gwelsom enghreifftiau o blant sy’n ddioddefwyr yn cael cymorth gan y therapydd iaith a lleferydd, gweithwyr addysg, ymarferwyr iechyd arbenigol/gwasanaethau iechyd meddwl plant a’r glasoed, a’r therapydd celf.
- Ystyriwyd diogelwch dioddefwyr, ni waeth a oedd y dioddefwr uniongyrchol wedi dewis defnyddio gwasanaethau’r GCI ai peidio. Mynychodd y RAC DOPs y tu allan i’r llys, paneli gorchmynion atgyfeirio, a chyfarfodydd rheoli diogelwch a lles. Gwelsom sawl enghraifft lle’r oedd hyn wedi arwain at ddefnyddio rheolaethau allanol i amddiffyn y dioddefwr, gan gynnwys defnyddio ardaloedd dan waharddiad a gofynion dim cysylltu fel rhan o rybuddion amodol i ieuenctid, contractau gorchmynion atgyfeirio, a gorchmynion adsefydlu ieuenctid. Roedd enghreifftiau ychwanegol o fesurau diogelwch dioddefwyr yn cynnwys hysbysu amodau trwydded, gosod marcwyr/fflagiau critigol ar systemau’r heddlu, mynychu cyfarfodydd strategaeth gwasanaethau plant, a gweithio ochr yn ochr â swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu.
- Roedd dioddefwyr yn cael eu cefnogi’n gyson i wneud dewisiadau gwybodus am fynediad at wasanaethau. Roedd yr wybodaeth a ddarparwyd iddynt am yr hyn y gallent ei ddisgwyl gan y GCI yn glir.
- Roedd y cynnig o iawn yn amrywiol ac yn ystyrlon. Ei nod oedd cydbwyso adferiad â chefnogi’r plentyn i ddatblygu sgiliau. Roedd pwyslais ar sicrhau newid cadarnhaol, gyda chyfleoedd i achredu gweithgareddau gwneud iawn.
- Roedd staff sy’n gweithio gyda dioddefwyr yn gallu manteisio ar yr amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a oedd ar gael i ymarferwyr sy’n gweithio gyda phlant, gan gynnwys dulliau adferol, ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn, dulliau sy’n ystyriol o drawma, diogelu, a rhagfarn ddiarwybod.
- Roedd y RAC yn rhan o’r uwch dîm rheoli, a oedd yn codi proffil dioddefwyr yn y gwasanaeth. Canfu’r arolygwyr ddull cydlynol o gefnogi datblygiad gwaith gyda dioddefwyr. Roedd ymarferwyr sy’n gweithio gyda dioddefwyr wedi’u gwreiddio yn nhîm y GCI.
- Roedd gan arweinwyr y GCI a oedd yn goruchwylio’r gwaith gyda dioddefwyr brofiad helaeth yn y maes gwaith hwn. Roeddent yn fedrus ac yn sensitif wrth gefnogi ymarferwyr sy’n gwneud gwaith uniongyrchol gyda dioddefwyr. Roedd archwiliad rheoli ac ymarfer ar y cyd o waith gyda dioddefwyr yn sail i gynlluniau datblygu gwasanaeth y GCI. Canfu’r arolygwyr fod goruchwyliaeth y rheolwyr yn ddigonol ym mhob achos perthnasol.
- Roedd goruchwyliaeth glinigol ar gael i ymarferwyr a rheolwyr a oedd yn gweithio gyda dioddefwyr. Roedd cymorth gan gymheiriaid yn cael ei ddarparu drwy gymryd rhan yng nghyfarfodydd swyddogion dioddefwyr GCI De Cymru.
- Roedd adolygu a gwerthuso gwaith gyda dioddefwyr yn gryfder. Cafodd polisi dioddefwyr a chyfiawnder adferol GCI Pen-y-bont ar Ogwr ei greu ym mis Mehefin 2022 a’i adolygu ym mis Medi 2025. Roedd y polisi diwygiedig yn seiliedig ar adolygiad gwasanaeth o waith gyda dioddefwyr ac roedd gwerthuso parhaus er mwyn mesur effeithiolrwydd. Roedd tîm arwain y GCI, yr heddlu a’r RAC wedi bod yn rhan o’r adolygiad o’r polisi. Ymgynghorwyd â dioddefwyr ynghylch y ffyrdd y dylid cael adborth gan ddioddefwyr.
- Roedd adborth dioddefwyr wedi cael ei gasglu gan y GCI, ac roedd hyn wedi arwain at gynllun ‘fe ddywedoch chi, fe wnaethom ni’. Ers hynny, roedd y GCI wedi datblygu holiadur adborth a chod QR i gasglu barn dioddefwyr.
Meysydd i’w gwella
- Roedd y cynnig cyfannol o gymorth i blant sy’n ddioddefwyr yn gryfder yn yr achosion a arolygwyd. Fodd bynnag, roedd angen monitro adnoddau a chapasiti arbenigwyr y GCI yn barhaus i sicrhau y gallai’r gwasanaeth barhau i ddiwallu anghenion pob plentyn.
- Roedd y GCI wedi datblygu arferion dadansoddi a chofnodi data, ac roedd cyfleoedd i wreiddio’r agwedd hon ar y gwaith ymhellach.
- Gellid cryfhau polisi dioddefwyr a chyfiawnder adferol y GCI drwy fanylu ar y prosesau penodol ar gyfer cyswllt statudol dioddefwyr gyda’r Gwasanaeth Prawf, a thrwy ehangu ar ddull y GCI o gefnogi’r ystod o nodweddion gwarchodedig ac anghenion amrywiol.
Cyfranogiad plant a’u rhieni neu ofalwyr (Back to top)
Roedd GCI Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i gyfranogiad ac roedd ymrwymiad cryf i rymuso plant a’u rhieni neu ofalwyr. Roedd strategaeth gyfranogi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu cyd-destun deddfwriaethol Cymru ar gyfer hyrwyddo lleisiau plant. Sicrhaodd tîm hawliau a chyfranogiad plant Pen-y-bont ar Ogwr fod gan blant a phobl ifanc lais yn yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw.
Roedd bwrdd rheoli’r GCI yn trafod lleisiau plant a’u rhieni neu ofalwyr fel mater o drefn. Casglodd y GCI adborth drwy holiaduron hunanasesu, prosesau adborth ‘Fy Llais’, a defnyddio cod QR. Roedd y GCI wedi dadansoddi’r adborth a gafwyd gan 83 o blant a 69 o rieni a gofalwyr, a thrafodwyd y themâu yng nghyfarfodydd tîm y GCI a gyda bwrdd rheoli’r GCI. Roedd cynllun ‘fe ddywedoch chi, fe wnaethom ni’ yn amlinellu bod camau’n cael eu cymryd i ddatblygu mwy o hyblygrwydd gydag amseroedd apwyntiadau, cynyddu’r defnydd o fannau awyr agored, a datblygu gweithgareddau creadigol i hyrwyddo ymgysylltiad. Roedd y GCI wedi hyrwyddo cyfranogiad drwy brosiectau cymunedol, gan gynnwys y prosiect Meithrin Sgiliau, gweithdai cynnal a chadw beiciau, a digwyddiadau elusennol. Roedd plant wedi cymryd rhan mewn therapi celf, therapi ceffylau, a sesiynau chwaraeon.
Cysylltodd y GCI, ar ein rhan, â phlant a oedd yn gweithio gyda’r GCI adeg yr arolygiad, i gael eu caniatâd ac i’w galluogi nhw a’u rhieni neu ofalwyr i roi adborth ar eu profiad o’r GCI. Roeddem wedi darparu amrywiaeth o gyfleoedd i blant a’u rhieni neu ofalwyr gymryd rhan yn y broses arolygu, gan arwain at 11 ymateb i’n harolwg testun, saith galwad ffôn, a phum cyfarfod wyneb yn wyneb.
Canmolwyd dulliau cydweithredol o weithio gyda phlant a’u rhiant neu ofalwyr a theimlai’r holl ymatebwyr fod ganddynt lais ynghylch pethau a oedd yn effeithio arnynt. Canmolwyd arferion a dulliau’r GCI o gefnogi’r rhwydwaith teulu/cymorth cyfan sy’n ystyriol o drawma. Dywedodd un rhiant:7
“Oherwydd bod yr ymarferydd wedi edrych ar hanes ein teulu, roedd ganddyn nhw ddealltwriaeth dda ohonon ni i gyd. Roedden nhw’n deall trawma a’n trawma ni. Maen nhw wedi edrych ar sut gallan nhw wneud therapi teulu i ni i gyd ac maen nhw wedi bod yn gymorth gwych. Roedden nhw’n deall ein hanghenion o’r cychwyn cyntaf.”
Ychwanegodd rhiant arall:
“Mae gweithiwr fy mab [HEPGORWYD], wedi bod yn wych nid yn unig gyda [HEPGORWYD] ond gyda’r teulu cyfan. Mae hi wedi helpu mewn sawl ffordd ac wedi mynd yr ail filltir yn ei rôl yn ein bywydau yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf.”
Dywedodd yr holl blant, rhieni neu ofalwyr y buom yn siarad â nhw eu bod yn teimlo’n ddiogel mewn mannau lle roeddent yn cwrdd ag ymarferwyr y GCI. Canmolodd nifer o ymatebwyr Ganolfan Ieuenctid Evergreen, lleoliad yr ymwelodd y tîm arolygu ag ef, i fynychu’r cyfarfod arddangos ac i siarad yn uniongyrchol â phlant. Roedd Evergreen yn ofod mawr a oedd yn cael ei ddefnyddio gan nifer o wasanaethau, a oedd yn golygu bod plant yn gallu mynychu i gael gafael ar gymorth neu dreulio amser mewn lle diogel i gymdeithasu ag eraill. Datblygwyd Evergreen mewn ymateb i adborth gan blant, ac roeddent wedi cyfrannu at ddyluniad yr adeilad ac wedi creu celf a oedd yn cael ei harddangos ar y waliau. Hwylusodd y GCI apwyntiadau yn Evergreen a dywedodd y plant wrthym eu bod yn mwynhau dod i’r lleoliad a’u bod yn gwerthfawrogi cyfleoedd i chwarae pŵl a siarad ag ymarferwyr. Roedd mannau preifat, fel yr ystafell drawma, yn cael eu defnyddio gan y GCI i hwyluso sesiynau unigol. Sylwodd yr arolygwyr fod y gofod yn Evergreen yn cael ei ddefnyddio’n dda, ei fod yn brysur, yn fywiog, a’i fod yn cefnogi ymgysylltu â phlant. Gweithiodd ymarferwyr o’r GCI a’r tîm datblygu ieuenctid gyda’i gilydd i sicrhau bod aelodau staff o’r ddau dîm bob amser yn bresennol i gefnogi plant.
Roedd y plant yn canmol tîm y GCI ac yn dweud ei fod wedi eu cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgareddau cadarnhaol. Canmolwyd therapi celf, gyda phlant yn dweud ei fod yn “hwyl” ac yn gyfle i siarad am y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Clywsom fod ymarferwyr wedi mynd â phlant i’w sesiwn campfa gyntaf, i hyrwyddo ymgysylltiad a hyder. Dywedodd un plentyn fod “fy iechyd meddwl wedi gwella oherwydd hynny”. Dywedwyd bod y cymorth a roddwyd gan y therapydd iaith a lleferydd yn “gwbl anhygoel” ac yn “ysbrydoledig”. Clywsom enghreifftiau lle’r oedd y plentyn a’r teulu wedi cael cymorth gyda’u hanghenion lleferydd ac iaith, gan ddefnyddio cynllun un dudalen i helpu’r plentyn yn yr ysgol, a siart hwyliau i helpu rhieni a’u plentyn i adnabod emosiynau.
Cafodd y prosiect Meithrin Sgiliau a’r dulliau a ddefnyddiwyd gan ymarferwyr i hwyluso sesiynau dderbyniad cadarnhaol gan blant a’u rhieni neu ofalwyr. Dangoswyd enghreifftiau i’r arolygwyr o’r gwaith trawiadol a gwblhawyd. Defnyddiwyd dulliau sensitif i gefnogi plant a gymerodd ran yn y gwaith o greu man coffa. Dywedodd un plentyn wrthym ei fod wedi dysgu llawer o’r prosiect Meithrin Sgiliau a’i fod yn teimlo’n “falch” o’r hyn yr oeddent wedi’i gyflawni, yn enwedig pan oedd aelodau o’r cyhoedd yn diolch iddynt. Roedd llawer o’r plant y buom yn siarad â nhw wedi cael cymorth i ddatblygu sgiliau, hyder ac ymdeimlad cadarnhaol o hunaniaeth. Dywedodd un plentyn wrthym:
“Fe wnes i ddweud fy mod i eisiau gweithio ym maes adeiladu…a cheisio bod yn berchen ar fusnes rhyw ddydd.” Fe wnaethon nhw [GCI] wrando ar hyn ac maen nhw wedi fy annog i fynychu bob dydd Llun i wneud fy nghwrs CSCS [Cynllun Ardystio Sgiliau Adeiladu] er mwyn i mi allu gweithio tuag at hynny. Ac fe wnaethon nhw fy helpu i gael fy nhrwydded dros dro fel roeddwn i eisiau ei wneud.“
Ychwanegodd rhiant:
“Maen nhw wedi gweithio’n dda iawn gyda fy mab ac wedi ei gael i wneud rhywbeth da yn gweithio gyda [HEPGORWYD] a’r coleg. Mae’n ei fwynhau’n fawr ac mae’r gefnogaeth mae’n ei chael ganddyn nhw i gyd a [HEPGORWYD], maen nhw’n anhygoel, mae wedi camu yn ei flaen yn sylweddol, ac mae’n newid ei ffyrdd.”
Teimlai plant a’u rhieni neu ofalwyr fod y GCI wir wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau.
Tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)
- Roedd GCI Pen-y-bont ar Ogwr wedi gwreiddio arferion tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant ar lefel strategol a gweithredol. Roedd Cynllun Cydraddoldeb 2024-2028 Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu’r ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a oedd yn ceisio creu Cymru fwy cyfartal lle gallai pawb gymryd rhan a chyrraedd eu llawn botensial.
- Roedd Polisi Anghymesuredd 2024 GCI Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu pwysigrwydd cydnabod nodweddion gwarchodedig, amrywiaeth ac anghenion unigol. Roedd y polisi’n seiliedig ar Gynllun Gweithredu Gwrth-hiliaeth Cyfiawnder Troseddol Cymru.
- Roedd y GCI yn cael ei gynrychioli yng ngrŵp cydraddoldeb EEYYP, ac roedd arweinydd gwasanaeth strategol y GCI yn mynychu fforymau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol a oedd yn cyfrannu at ddatblygu arferion amrywiaeth yng Nghymru.
- Roedd gan GCI Pen-y-bont ar Ogwr brotocol a chynllun gweithredu iaith Gymraeg. Canfu’r arolygwyr fod y ‘cynnig rhagweithiol’ i ddarparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn cael ei gofnodi a’i fonitro’n gyson gan y GCI.
- Fel rhan o’r arolygiad hwn, roeddem wedi ystyried sut roedd y gwasanaeth wedi ymateb i anghenion amrywiol a nodweddion gwarchodedig plant a dioddefwyr. Roedd cofnodi nodweddion gwarchodedig dioddefwyr yn glir ym mhob achos a arolygwyd a gwelsom ddulliau wedi’u teilwra o ymateb i anghenion unigol dioddefwyr.
- Wrth arolygu’r gwaith gyda phlant, gwelsom fod cofnodi nodweddion gwarchodedig plant yn gyson a bod asesu, cynllunio a chyflawni yn ystyried anghenion amrywiol ac unigol plant mewn modd sensitif. Roedd ymarferwyr yn hyderus wrth gynnal sgyrsiau gyda phlant, rhieni neu ofalwyr, a dioddefwyr am eu profiadau bywyd a’u hunaniaeth.
- Oherwydd bod y cofnodion am nodweddion gwarchodedig ac anghenion amrywiol plant yn gyson ac o ansawdd uchel, roedd y GCI a’r bwrdd rheoli yn deall demograffeg a phroffil y plant roeddent yn gweithio gyda nhw. Adolygodd bwrdd rheoli’r GCI y fframwaith perfformiad a dadansoddi data i nodi themâu a thueddiadau sy’n gysylltiedig â gorgynrychiolaeth.
- Nid oedd Pen-y-bont ar Ogwr yn fwrdeistref ethnig amrywiol, ac roedd y plant a oedd yn ymgysylltu â’r GCI adeg ein harolygiad yn Gymry Gwyn neu’n Brydeinwyr Gwyn yn bennaf. Roedd y GCI wedi gweld cynnydd yn nifer y merched a atgyfeiriwyd at y GCI. Clywsom am enghreifftiau o’r gwasanaeth yn ffurfio grŵp merched, a rhannodd y GCI fyfyrdodau ei bod yn ymddangos bod dulliau unigol seiliedig ar drawma a rhywedd yn diwallu anghenion merched yng ngharfan y GCI yn effeithiol. Roedd rheolwr gwasanaeth strategol y GCI yn rhan o fforymau a oedd yn trafod Glasbrint Cyfiawnder i Fenywod Cymru, a sefydlwyd llwybrau rhwng y GCI, timau rheoli troseddwyr integredig y gwasanaeth prawf, a’r Llwybr Menywod.
- Roedd bwrdd rheoli’r GCI a’r GCI yn blaenoriaethu camau gweithredu sy’n ymwneud ag addysg. Roedd monitro hawliau addysg plant, yr hyn y mae’r awdurdod lleol yn ei gynnig, ac ymgysylltiad y plentyn â’r oriau a gynigiwyd wedi arwain at rywfaint o weithredu cadarnhaol. Roedd y GCI yn darparu model ‘hyfforddi’r hyfforddwr’ sy’n ystyriol o drawma ar draws y bartneriaeth, gan gynnwys gyda darparwyr addysg, i hyrwyddo cyd-ddealltwriaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod a thrawma ar ymddygiad presennol plentyn. Y nod oedd lleihau gwaharddiadau o’r ysgol a hyrwyddo ymdeimlad cadarnhaol o berthyn.
Rhagor o wybodaeth (Back to top)
Mae rhestr o’r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.
Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Caren Jones, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob rhan o’r Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a helpodd i gynllunio ac a gymerodd ran yn yr arolygiad; heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosibl.
- Ceir dau fath o arolygiad fel rhan o’r rhaglen arolygu ieuenctid gyfredol ledled Cymru a Lloegr. Arolygiad o waith cyfiawnder ieuenctid gyda phlant a dioddefwyr (IYJWCV) ac arolygiad o wasanaethau cyfiawnder ieuenctid (IYJS). Mae rhagor o wybodaeth am yr archwiliadau hyn ar gael ar ein gwefan Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid – Arolygiaeth Prawf EM ↩︎
- Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar gyfer y cwestiynau allweddol. Wedyn mae’n cael ei rhoi mewn band sgorio (mewn ffont trwm yn y tabl). Mae esboniad manylach ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF. ↩︎
- Mae’r model adfer ar ôl trawma yn fframwaith strwythuredig sy’n ystyriol o drawma a ddatblygwyd gan Dr Tricia Skuse a Jonny Matthew i gefnogi plant – yn enwedig y rheini yn y system cyfiawnder ieuenctid – sydd wedi profi trallod a thrawma sylweddol. ↩︎
- Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar gyfer y cwestiynau allweddol. Wedyn mae’n cael ei rhoi mewn band sgorio (mewn ffont trwm yn y tabl). Mae esboniad manylach ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF. ↩︎
- Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar gyfer y cwestiynau allweddol. Wedyn mae’n cael ei rhoi mewn band sgorio (mewn ffont trwm yn y tabl). Mae esboniad manylach ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF. ↩︎
- Mae’r sgôr ar gyfer safon y dioddefwyr yn deillio o’r sgoriau o’r archwiliad achos ar gyfer V 1.1 a’r dystiolaeth ansoddol ar gyfer V 1.2. Mae sgoriau archwilio achosion ac esboniad manylach o’r broses sgorio ar gael ar ein gwefan Safonau a sgoriau – Arolygiaeth Prawf EF. ↩︎
- Daw’r dyfyniadau’n uniongyrchol gan blant, rhieni a gofalwyr. ↩︎