Skip to content

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk.

Arolygiad o wasanaethau prawf Gwent

Published:

Rhagair

Canfu ein harolygiad o Uned Gyflawni’r Gwasanaeth Prawf (PDU) yng Ngwent ei bod yn wynebu heriau sylweddol o ran staffio ac adnoddau. Dim ond am wyth mis yr oedd pennaeth y PDU wedi bod yn ei swydd pan gynhaliwyd yr arolygiad, ond roedd wedi deall yr heriau hyn yn gyflym ac wedi cynnwys y tîm arwain mewn strategaeth a gweledigaeth glir i fynd i’r afael â nhw gyda phendantrwydd.

Fodd bynnag, adeg ein harolygiad, roedd llawer i’w wneud o hyd, ac ‘Angen gwella’ oedd sgôr gyffredinol y PDU.

Roedd camau wedi’u cymryd i wella diwylliant y sefydliad. Gwelsom dystiolaeth bod staff bellach yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys yn well, a’u bod yn teimlo’n fwy hyderus yng ngallu’r tîm arwain i reoli newid a mynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol lle bo angen. Er ein bod yn cydnabod bod rhagor o waith i’w wneud i adennill hyder pob grŵp staff yn llawn, roeddem yn ffyddiog mai’r rhain oedd y camau cywir i’w cymryd.

Ar draws ein holl safonau arolygu, nid oedd y gwaith i gadw dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posibl yn ddiogel yn ddigonol. Yn aml iawn, roedd hyn yn ymwneud â diffyg manylion, neu fanylion cyfyngedig, yn y wybodaeth gychwynnol gan yr heddlu a’r gwasanaethau plant. Nid oedd ymarferwyr bob amser yn gofyn am ragor o wybodaeth i gefnogi gwaith cynllunio cadarnach ym maes rheoli risg er mwyn amddiffyn dioddefwyr gwirioneddol neu bosibl. Er bod rhywfaint o gamau wedi cael eu cymryd i fynd i’r afael â’r bylchau hyn mewn gwybodaeth, ac i ganolbwyntio llawer o amser dysgu a datblygu staff ar wella arferion diogelu’r cyhoedd, nid oedd hyn yn cael digon o effaith eto yn yr achosion a arolygwyd gennym.

Roedd cyfraddau swyddi gwag Swyddogion Prawf yn uchel, gan arwain at lwythi gwaith nad oedd modd eu rheoli a lefelau uchel o absenoldeb oherwydd straen cysylltiedig â gwaith. Roedd y tîm arwain yn adleoli staff ac adnoddau lle bo angen i sicrhau bod hyn yn cael cyn lleied o effaith â phosibl ar unigolion a oedd ar brawf. Fodd bynnag, roedd gormod o ailddyrannu’n digwydd yn yr achosion a arolygwyd gennym o’r herwydd. Roedd hyn yn aml yn arwain at wyriadau wrth fynd ati’n effeithiol i ddarparu a chydlynu gwasanaethau i roi sylw i aildroseddu’r person ar brawf, a chefnogi ymataliad.

Er gwaethaf llwythi gwaith trwm, roedd staff y PDU yn llawn cymhelliant ac wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar brawf. Roedd ymarferwyr yn fedrus wrth gysylltu â phobl ar brawf, er mwyn deall eu hanghenion, ac yn defnyddio dulliau hyblyg i’w cynnwys yn eu cynlluniau dedfrydu.

Roedd amrywiaeth eang o wasanaethau ar draws Gwent, gyda rhai trefniadau cydleoli gyda gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd a Gwasanaethau Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS). Fodd bynnag, nid oedd heriau staffio, yn y PDU ac ar draws rhai darparwyr gwasanaethau, bob amser yn help wrth geisio mynd ati’n effeithiol i rannu gwybodaeth a chydlynu’r dasg o ddarparu gwasanaethau. Roedd gwaith i fynd i’r afael â rhwystrau strwythurol rhag cael gafael ar lety amserol a gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ar brawf, i gefnogi prosesau adsefydlu a diogelu’r cyhoedd, yn y camau cychwynnol.

Rwy’n ffyddiog y gall y PDU barhau i adeiladu ar y camau sydd eisoes wedi’u cymryd i fynd i’r afael â rhai o’r prif heriau mae’n eu hwynebu. Mae angen i arweinwyr lleol barhau i ganolbwyntio ar wneud gwelliannau i waith i gadw pobl yn ddiogel, a sicrhau bod gwasanaethau critigol yn cael eu darparu’n effeithiol i fynd i’r afael â risgiau ac anghenion pobl sydd ar brawf ledled Gwent.

Martin Jones CBE 

Prif Arolygydd Prawf Ei Fawrhydi


Sgoriau (Back to top)

Gwaith maes yn dechrau –
mis Medi 2025
Sgôr 4/21
Sgôr gyffredinolAngen gwella

Trefniadau a gweithgareddau’r sefydliad

    P 1.1 ArweinyddiaethDa
    P 1.2 StaffAngen gwella
    P 1.3 GwasanaethauAngen gwella

    Darparu gwasanaethau

    P 2.1 AsesuAnnigonol
    P 2.2 CynllunioAnnigonol
    P 2.3 Gweithredu a darparuAnnigonol
    P 2.4 AdolygiadauAnnigonol

    Argymhellion (Back to top)

    O ganlyniad i ganfyddiadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion. Os cânt eu rhoi ar waith, credwn y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar safon y gwasanaethau prawf.

    Dylai PDU Gwent wneud y canlynol:

    1. gwella ansawdd gwaith i asesu, cynllunio, rheoli ac adolygu’r risg o niwed, gan sicrhau bod ymarferwyr yn cael gafael ar yr holl wybodaeth sydd ar gael ac yn ei defnyddio
    2. gwneud trefniadau gyda’r heddlu a’r gwasanaethau plant i sicrhau bod digon o wybodaeth yn cael ei rhannu i ganfod dioddefwyr gwirioneddol a phosibl yn gywir ac i lywio safon y gwaith o asesu a rheoli pobl sydd ar brawf 
    3. sicrhau bod yr ymyriadau sydd eu hangen i wella ymataliad a lleihau aildroseddu yn cael eu darparu ym mhob achos   
    4. datblygu hyder a sgiliau ymarferwyr wrth ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol a sgyrsiau heriol i fynd ati’n effeithiol i nodi, dadansoddi, asesu, cynllunio ac ymateb i ddangosyddion risg
    5. sicrhau bod gan staff sy’n gyfrifol am reoli achosion y sgiliau, y wybodaeth a’r amser i wneud y gwaith yn effeithiol
    6. sicrhau goruchwyliaeth effeithiol gan reolwyr er mwyn gwella a chynnal safon y gwaith gyda phobl ar brawf a chadw pobl yn ddiogel.

    Cefndir (Back to top)

    Cynhaliwyd gwaith maes yn PDU Gwent dros gyfnod o bythefnos, gan ddechrau ar 08 Medi 2025. Arolygwyd 31 o orchmynion cymunedol a 26 achos o ryddhau ar drwydded o’r ddalfa lle’r oedd dedfrydau a thrwyddedau wedi dechrau yn ystod dwy wythnos ar wahân, rhwng 10 Chwefror ac 16 Chwefror 2025, ac 17 Chwefror a 23 Chwefror 2025. Cynhaliwyd 47 o gyfweliadau gydag ymarferwyr prawf hefyd.

    Mae PDU Gwent yn cynnwys un heddlu (Heddlu Gwent) a phum ardal awdurdod lleol unedol (Casnewydd, Caerffili, Blaenau Gwent, Torfaen a Sir Fynwy). Mae tri llys (Llys Ynadon Casnewydd, Llys y Goron Casnewydd, a Llys Ynadon Cwmbrân), pedair swyddfa brawf (Casnewydd, Caerffili, Glynebwy a Phont-y-pŵl), ac un ganolfan i fenywod, yng Nghasnewydd. Mae PDU Gwent yn gwasanaethu dau garchar yn yr ardal (CEF Brynbuga a CEF Prescoed).

    Mae bwrdd diogelu Gwent yn cydlynu gwaith diogelu plant ac oedolion ar draws y pum ardal awdurdod lleol. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn gwasanaethu Gwent a De Powys i gyd. Mae PDU Gwent yn bartner statudol i dri gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid ar draws Gwent – Blaenau Gwent a Chaerffili, Sir Fynwy a Thorfaen, a Chasnewydd.

    Poblogaeth1 Gwent yw 601,686. Mae cyfraddau aildroseddu 2ar draws yr ardal yn amrywio’n sylweddol, gyda’r gyfradd isaf yn 19.7 y cant, yn Sir Fynwy, o’i gymharu â 29.8 y cant yng Nghasnewydd. Mae hyn yn cymharu â chyfradd aildroseddu gyffredinol o 28.5 y cant ledled Cymru.

    Baich achosion cyffredinol PDU Gwent oedd 2,363 o achosion – cynnydd bach o’i gymharu â’r nifer 12 mis ynghynt. Roedd cyfanswm o 1,092 yn ddedfrydau cymunedol, 760 yn cael eu goruchwylio ar drwydded, a 511 yn y ddalfa. 

    Roedd un ar ddeg o Swyddogion Prawf cyfwerth ag amser llawn wedi cael secondiad i rolau eraill. Roedd lefelau sylweddol o salwch ymhlith Swyddogion Prawf yn gwaethygu llwyth achosion a oedd eisoes yn uchel, gan olygu bod ambell un yn dal hyd at 140 y cant o’u capasiti cyffredinol.

    Yn 2022 yr arolygwyd PDU Gwent ddiwethaf gan Arolygiaeth Prawf EF, a chafodd sgôr gyffredinol ‘Angen gwella’. Roedd y prif ganfyddiadau’n cynnwys diffygion a welwyd yn y gwaith i gadw pobl yn ddiogel, diffyg goruchwyliaeth effeithiol gan reolwyr, a gwasanaethau annigonol i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol pobl ar brawf.

    Roedd y gwasanaethau adsefydlu canlynol wedi cael eu comisiynu: llety a gwasanaethau cyllid, budd-daliadau a dyledion wedi’u darparu gan y Forward Trust; gwasanaethau llesiant personol wedi’u darparu gan St Giles Wise; a gwasanaethau menywod wedi’u darparu gan Ymddiriedolaeth Nelson. Roedd gwasanaethau ychwanegol i gefnogi niwroamrywiaeth ar gyfer pobl ar brawf yn cael eu darparu gan 3SC. Darparwyd gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys ar gyfer y bobl hynny ar brawf a oedd yn rhwym wrth ofynion triniaeth dedfryd gymunedol, gan GDAS.


    1.Trefniadau a gweithgareddau’r sefydliad (Back to top)

    P 1.1. ArweinyddiaethSgôr
    Mae arweinyddiaeth y PDU yn golygu bod modd darparu gwasanaeth ymatebol a phersonol o safon uchel i bawb sydd ar brawf. Da

    Cryfderau:

    • Roedd pennaeth y PDU wedi bod yn ei swydd am tua wyth mis adeg yr arolygiad ac roedd ganddo ddealltwriaeth glir o gryfderau a heriau PDU Gwent. Roedd hyn wedi ei adlewyrchu yng nghynllun busnes y PDU i hybu ansawdd ymarfer, grymuso arweinwyr canol, sefydlogi a chryfhau trefniadau staffio, a rhoi rhaglenni newid cenedlaethol sylweddol ar waith i fynd i’r afael â galw’r gwasanaeth prawf. Roedd gweithgareddau’n cael eu cynnal i fynd i’r afael â phob agwedd ar y cynllun hwn.
    • Roedd cysylltiad clir rhwng cynllun y PDU a gweithgarwch grwpiau strategol a gweithredol y PDU, yn llywio tasgau rheoli dyddiol i gydlynu blaenoriaethau, adleoli adnoddau, a lliniaru risgiau busnes lle bo angen. Roedd hyn yn sbarduno canlyniadau trawiadol yn yr achosion a arolygwyd gennym, o ran ymgysylltu a gwaith i asesu a chynllunio i fynd i’r afael ag ymddygiad troseddol pobl ar brawf.
    • Roedd y PDU yn cymryd camau i fynd i’r afael â mesurau perfformiad gwael ar lefel gwasanaeth ac yn ceisio gwella ansawdd ymarfer. Dirprwy bennaeth y PDU oedd yn arwain y cynllun gwella ansawdd, gyda Swyddog Datblygu Ansawdd lleol ychwanegol yn cefnogi gwaith ar adnodd asesu achosion rhanbarthol ac archwiliadau ‘cadw pobl yn ddiogel’. Roedd cyfarfodydd perfformiad ac atebolrwydd yn ystyried anghenion unigol staff a chyfleoedd i ddefnyddio Swyddogion Datblygu Ansawdd i wella perfformiad staff, yn ogystal â chynnwys y tîm adnoddau dynol mewn sgyrsiau ehangach ynghylch cymorth a llesiant staff.
    • Roedd y tîm arwain yn aelodau gweithredol o bartneriaethau strategol. Roedd pennaeth y PDU yn cadeirio bwrdd rheoli strategol Trefniadau Amlasiantaethol ar gyfer Amddiffyn y Cyhoedd (MAPPA) yn lleol ac roedd yn weithgar yn y partneriaethau diogelu plant ac oedolion. Roedd y perthnasoedd hyn yn cael eu defnyddio i nodi a dechrau mynd i’r afael â rhwystrau rhag darparu gwasanaethau pwysig, gan gynnwys iechyd meddwl a’r galw mawr am lety priodol i bobl ar brawf ledled Gwent.
    • Roedd y tîm arwain wedi cymryd rhai camau cadarnhaol i ymateb i bryderon am ddiwylliant y sefydliad ac i fynd i’r afael ag ymddygiad amhriodol. Darparwyd hyfforddiant gan yr Uned Delio ag Ymddygiad Annerbyniol, ac roedd gan staff fforymau rheolaidd ac anffurfiol, yn ogystal ag awr wedi’i neilltuo bob dydd, i roi cyfle iddynt godi pryderon yn uniongyrchol gyda’r uwch dîm arwain. 
    • Roedd gwaith i ail-lansio grŵp misol ar gyfer llesiant staff a chyfarfodydd misol anffurfiol i fynd i’r afael â morâl isel a chynyddu ymgysylltiad staff wedi cael cryn groeso. Roedd staff yn gadarnhaol ar y cyfan ynghylch pa mor weledol a hawdd siarad â nhw oedd yr uwch arweinwyr yn y pedair swyddfa. Roedd llawer o staff yn teimlo eu bod yn gallu cysylltu â’r tîm arwain i drafod y prif heriau roeddent yn eu hwynebu. O’r rhai a ymatebodd i’r arolwg staff, dywedodd dros hanner fod diwylliant y PDU yn hyrwyddo bod yn agored, herio’n adeiladol a rhannu syniadau. Roedd hyn yn welliant sylweddol mewn sgoriau o Arolwg Pobl Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF 2024.
    • Roedd pryderon sylweddol wedi cael eu codi o’r blaen yn yr Arolwg Pobl ynghylch hyder staff yng ngallu’r tîm arwain i reoli newid yn effeithiol. Er y bu’n rhaid gweithredu nifer o raglenni newid cenedlaethol arwyddocaol yn y PDU, roedd hyder staff yn amlwg yn gwella. Yn wir, roedd bron i hanner yr holl staff a ymatebodd i’n harolwg yn nodi bod effaith newid ar ddarparu gwasanaethau, gan gynnwys effaith ar gydraddoldeb, wedi cael ei hasesu, gyda chamau priodol yn cael eu cymryd.
    • Roedd y gofrestr risgiau busnes yn adlewyrchu’r heriau niferus sy’n wynebu’r PDU, gan gynnwys effaith absenoldebau staff ar ddarparu gwasanaethau, y cyfleusterau gwael ac anniogel yn swyddfa Glynebwy, ac effaith diffyg defnydd o wybodaeth hanfodol am risg gan yr heddlu a’r gwasanaethau plant. Roedd camau wedi cael eu cymryd, gyda mesurau lliniaru wedi cael eu rhoi ar waith.
    • Roedd dulliau o ymgysylltu â phobl ar brawf wedi aeddfedu, gyda rheolwyr canol a staff yn cefnogi fforymau rheolaidd ledled Gwent. Roedd uwch arweinwyr yn cymryd rhan yn rheolaidd mewn fforymau i ymateb i adborth unigolion ar brawf. Roedd newidiadau wedi cael eu gwneud i swyddfeydd a’r cyfleusterau ar gyfer unigolion ar brawf, ar sail eu hadborth.

    Meysydd i’w gwella:

    • Nid oedd digon o gynnydd wedi’i wneud i wella’r gwasanaeth a ddarperir a’r gwaith i gadw pobl yn ddiogel ers ein harolygiad diwethaf. Er y blaenoriaethau busnes clir i ganolbwyntio gweithgarwch ar wella’r gwaith i gadw pobl yn ddiogel, barnwyd bod hyn yn annigonol ar draws pob elfen o reoli dedfrydau.
    • Roedd angen gwelliannau sylweddol yn y gwaith i ddiogelu’r cyhoedd yn yr achosion a arolygwyd gennym. Roedd y tîm arwain wedi bod yn cymryd camau sylweddol i fynd i’r afael â’r bylchau wrth rannu gwybodaeth ac wedi uwchgyfeirio pryderon yn briodol i arweinwyr rhanbarthol. Roedd gwaith gyda’r heddlu i fynd i’r afael â gwybodaeth wedi’i golygu wedi arwain at rywfaint o dystiolaeth o welliant cymedrol. Roedd arweinwyr rhanbarthol ym maes diogelu’r cyhoedd wedi cael eu cynnwys yn y gwaith o gefnogi prosesau rhannu gwybodaeth a mynediad uniongyrchol at wasanaethau plant, er bod llawer iawn o waith ar ôl i’w wneud i gyflawni hyn, yn rhannol oherwydd bod gwasanaethau plant yn symud i systemau newydd. Yn y cyfamser, roedd Uwch Swyddogion Prawf wedi bod yn ymgysylltu â’u cymheiriaid ym maes gwasanaethau plant i fynd i’r afael â rhwystrau. Defnyddiwyd diwrnodau dysgu wedi’u neilltuo i wella cysondeb ymarferwyr wrth ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol ac ymateb i ddigwyddiadau adroddadwy.
    • Nid oedd arweinwyr bob amser yn defnyddio’r wybodaeth am berfformiad ac atgyfeirio a oedd ar gael gan ddarparwyr y gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd er mwyn gallu deall rhwystrau rhag cyflawni a mynd i’r afael â nhw. Roedd pwysau staffio ar draws y gwasanaeth prawf a rhai darparwyr gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd wedi arwain at rwystrau o ran cyfnewid gwybodaeth a chydlynu gwasanaethau’n effeithiol i fynd i’r afael ag aildroseddu’r person ar brawf a chefnogi ymataliad.
    • Roedd angen i arweinwyr wneud rhagor o waith gyda rhai grwpiau o staff i roi mwy o hyder iddynt yn y broses gwyno, ac i ddangos iddynt y byddai eu profiadau’n cael eu cydnabod ac yn cael sylw mewn ffordd gynhyrchiol a chyfrinachol.
    • Hyn a hyn o gyswllt yr oedd y Gwasanaeth Prawf yn ei gael gyda’r tri bwrdd rheoli cyfiawnder ieuenctid lleol ar draws Gwent, er ei fod yn bartner statudol. Roedd hyn yn golygu nad oedd y gwasanaethau hyn yn cael eu briffio’n ddigonol ar newidiadau i bolisïau prawf cenedlaethol, a allai fod wedi effeithio ar eu gwaith ymgysylltu â phlant a theuluoedd sy’n defnyddio eu gwasanaethau.

    P 1.2 StaffSgôr
    Galluogir staff i ddarparu gwasanaeth ymatebol a phersonol o safon uchel i bawb sydd ar brawfAngen gwella

    Cryfderau:

    • Roedd y tîm rheolwyr canol wedi hen ennill ei blwyf ac yn gweithio’n gydlynol mewn cyfarfodydd tasgau dyddiol i sicrhau bod ei flaenoriaethau’n cyd-fynd â’i gilydd. Er gwaethaf heriau sylweddol o ran absenoldebau staff, roedd camau rhagweithiol wedi cael eu cymryd i sicrhau bod achosion yn cael eu hailddyrannu a bod staff yn cael eu hadleoli lle’r oedd yr angen mwyaf. Pan oedd nifer y Swyddogion Prawf wedi gostwng i lefelau annigonol yn swyddfa Glynebwy, cymerwyd camau cyflym i ail-neilltuo achosion a chynnig cyfarwyddiadau adrodd amgen i bobl ar brawf.
    • Roedd natur y gwaith i gefnogi pobl ar brawf a oedd â dedfrydau tymor byr – gwaith sy’n aml yn gymhleth ac yn cymryd llawer o amser – yn rhoi pwysau ychwanegol ar staff sy’n rheoli’r achosion hyn. Roedd y tîm arwain wedi ymateb, ac erbyn hyn, roedd achosion yn cael eu dyrannu ar draws timau rheoli dedfrydau generig er mwyn osgoi’r risg o fwy o absenoldebau staff. Roedd goruchwyliaeth rheolwyr a thasgau ailsefydlu yn dal ar waith o dan y model cyflawni a adolygwyd, gyda rhywfaint o waith ailsefydlu addawol i’w weld yn yr achosion a arolygwyd.
    • Roedd yr uwch dîm arwain wrthi’n hyrwyddo defnydd mwy cyson o’r polisi absenoldeb oherwydd salwch. Roedd gostyngiad cyson wedi bod yn nifer yr absenoldebau tymor byr dros y chwe mis cyn yr arolygiad, ond roedd absenoldebau Swyddogion Prawf yn dal yn rhy uchel.
    • Roedd cyfradd gadael swyddogion y gwasanaeth prawf yn uchel, sef 14.5 y cant yn y 12 mis cyn yr arolygiad. Yn ddiweddar, roedd y PDU wedi rhoi rhaglen gynefino a hyfforddi well ar waith ar gyfer swyddogion y gwasanaeth prawf, gyda’r bwriad o helpu gyda’r cyfraddau gadael.
    • Roedd staff a rheolwyr canol yn cael eu goruchwylio’n rheolaidd, gyda chyfleoedd i staff gymryd rhan mewn trafodaethau ymarfer myfyriol. Roedd hyn yn helpu ymarferwyr i ddadansoddi a chynllunio er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad troseddol yn effeithiol, a helpu pobl ar brawf i ymgysylltu â’u cynlluniau dedfrydu.
    • Roedd staff wedi croesawu lefelau uwch o hyfforddiant wyneb yn wyneb fel rhan o amser wedi’i neilltuo ar gyfer dysgu. Roedd y rhaglen yn cael ei chydlynu gan Swyddogion Datblygu Ansawdd gan ddefnyddio themâu o archwiliadau a’r hyn a ddysgwyd am Droseddau Difrifol Pellach. Roedd y rhan fwyaf o’r staff (41 allan o 60) a ymatebodd i’n harolwg yn teimlo bod diwylliant o ddysgu a gwelliant parhaus yn cael ei hyrwyddo’n frwd.

    Meysydd i’w gwella:

    • Dim ond dau o’r 60 aelod o staff a ymatebodd i’n harolwg staff a nododd fod lefelau staffio yn ‘weddol ddigonol’. Gwelwyd bylchau sylweddol ar draws graddau Swyddogion Prawf a gweinyddol. Roedd nifer sylweddol o Swyddogion Prawf ar secondiad ac nid oeddent ar gael i gefnogi darpariaeth rheng flaen. Er y cytunwyd ar drefniadau ôl-lenwi gyda’r tîm arwain rhanbarthol, roedd hyn yn dibynnu ar ymgyrchoedd recriwtio treigl. Nid oedd disgwyl i lefelau staffio Swyddogion Prawf fod ar y targed tan fis Mehefin 2026. Roedd hyn hefyd yn cynnwys y twf a ragwelwyd mewn niferoedd staffio targed.
    • Roedd y lefelau absenoldeb yn annerbyniol i Swyddogion Prawf, gyda 18 diwrnod ar gyfartaledd yn cael ei golli bob blwyddyn. Roedd hyn yn effeithio ar allu ymarferwyr i ddarparu ymyriadau effeithiol, cydlynu gwasanaethau, a blaenoriaethu’r gwaith i gadw pobl yn ddiogel. Roedd y lefelau uchel o absenoldeb Swyddogion Prawf hefyd yn effeithio ar lwyth gwaith Swyddogion y Gwasanaeth Prawf, a oedd yn aml yn dod i mewn i gefnogi rhai meysydd o’u gwaith.
    • Roedd tua 60 y cant o salwch staff yn ymwneud â chyflyrau cysylltiedig â straen ac iechyd meddwl, gyda llawer yn nodi bod llwythi gwaith trwm yn cyfrannu at eu habsenoldeb. Roedd y PDU wedi rhoi gweithdrefnau salwch ar waith mewn ffordd fwy cyson ac wedi gofyn am gymorth gan bartneriaid busnes adnoddau dynol a thimau iechyd galwedigaethol er mwyn cefnogi asesiadau risg straen a helpu staff i ddychwelyd i’r gwaith. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cael digon o effaith.
    • Roedd staff yn cael lefelau uchel o ddyraniadau yn fuan ar ôl dychwelyd i’r gwaith neu ar ôl cwblhau eu hyfforddiant. Nid oedd hyn bob amser yn fuddiol wrth gefnogi amgylchedd gwaith diogel ac effeithiol, nac yn atgyfnerthu dysg yn llwyddiannus.
    • Roedd cyfraddau gadael gweinyddwyr achosion yn uchel. Pan oeddem yn cynnal ein gwaith maes, roedd gan y PDU saith swydd wag ar gyfer gweinyddwyr, er bod naw ymgeisydd wedi cael ei recriwtio’n ddiweddar. Roedd oedi sylweddol oherwydd gwaith fetio a chyn cyflogi yn golygu bod llwyth gwaith gweinyddwyr a oedd yn eu swyddi ar hyn o bryd yn aml yn amhosibl i’w reoli.
    • Roedd rôl yr Uwch Swyddog Prawf yn rhy eang ac yn cynnwys rheolaeth linell, cyfrifoldebau Adnoddau Dynol, arwain meysydd pwnc, a darparu goruchwyliaeth rheolwyr ar gyfer achosion. Roedd yr uwch dîm arwain wedi cyflwyno pethau fel yr awr wedi’i neilltuo, lle’r oedd staff yn gallu gofyn am gyngor nad oedd yn frys gan Uwch Swyddogion Prawf er mwyn helpu i flaenoriaethu eu llwyth gwaith. Fodd bynnag, dim ond mewn 13 achos o blith y 54 achos perthnasol a arolygwyd gennym yr oedd goruchwyliaeth rheolwyr yn effeithiol.
    • Anogwyd ymarferwyr i fabwysiadu’r model SBAR (sefyllfa, cefndir, asesiad, argymhelliad) wrth ofyn am gyngor gan reolwyr. Bwriad hyn oedd grymuso ymarferwyr a sicrhau bod Uwch Swyddogion Prawf yn gallu gwneud penderfyniadau cyflym a gwybodus. Fodd bynnag, nid oedd penderfyniadau a chanllawiau Uwch Swyddogion Prawf bob amser yn cael eu cofnodi ar systemau rheoli achosion y gwasanaeth prawf. Roedd hyn yn destun pryder, o ystyried y nifer cymharol fawr o achosion a ail-ddyrannwyd yn yr achosion a arolygwyd gennym. Roedd hyn yn golygu bod posibilrwydd na fyddai staff bob amser yn ymwybodol o gyfarwyddiadau blaenorol, a allai fod yn hollbwysig, gan reolwyr.

    P 1.3 GwasanaethauSgôr
    Mae ystod gynhwysfawr o wasanaethau o safon uchel ar waith, sy’n cefnogi gwasanaeth ymatebol wedi’i deilwra ar gyfer pawb sydd ar brawf.Angen gwella

    Cryfderau:

    • Roedd gan y PDU fynediad at amrywiaeth o wasanaethau a oedd yn mynd i’r afael â risgiau ac anghenion pobl ar brawf yn gyffredinol. Roedd darparwyr gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd a gwasanaethau cyffuriau ac alcohol yn cydleoli i ryw raddau ar draws y pedair swyddfa brawf. Roedd y gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd i fenywod yn cael eu rhedeg o ganolfan benodol yng Nghasnewydd.
    • Roedd tîm arwain y PDU yn ymgysylltu â thimau rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau ychwanegol, yn seiliedig ar anghenion y llwyth achosion. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaethau i gefnogi pobl â niwroamrywiaeth neu anaf i’r ymennydd sydd ar brawf.
    • Roedd arweinwyr y PDU wedi gweithio gyda’r tîm comisiynu rhanbarthol i ganfod bylchau yn y gwasanaeth ar gyfer pobl ar brawf a oedd angen help gyda gwasanaethau iechyd meddwl acíwt a llety diogel. Roedd anawsterau wrth ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl wedi arwain at fwy o ddefnydd o reolaeth MAPPA Lefel 2 a Lefel 3, a oedd yn gyffredinol yn darparu lefel dynnach o gydlynu pan oedd angen gwasanaethau anodd cael gafael arnynt. Roedd arweinwyr wedi dechrau datblygu mynediad uniongyrchol at wasanaethau iechyd meddwl sylfaenol i’r rheini yr oedd MAPPA yn berthnasol iddynt.
    • Roedd ymarferwyr yn cyflawni rhywfaint o waith ymgysylltu cryf. Roedd unigolion ar brawf wedi cael eu cynnwys yn ystyrlon yn y cynlluniau i adeiladu ar eu cryfderau a’u ffactorau amddiffynnol mewn 48 o achosion o blith y 57 a arolygwyd gennym. Yn gyffredinol, roedd unigolion a oedd ar brawf yn rhoi adborth cadarnhaol am eu perthynas â’u hymarferwyr a hyblygrwydd amseroedd eu hapwyntiadau.
    • Roedd ymarferwyr yn defnyddio’r tîm canolog, gweithredol, ailsefydlu, cyfeirio a gwerthuso (CORRE) i ganfod pobl ar brawf a’u cyfeirio at wasanaethau priodol, er mwyn diwallu’r anghenion ymatal a aseswyd. Pan ofynnwyd iddynt mewn cyfweliadau, nododd 42 o’r 47 ymarferydd fod ganddynt fynediad at amrywiaeth briodol o wasanaethau, naill ai’n fewnol neu drwy asiantaethau eraill, i fynd i’r afael ag anghenion a risgiau pobl ar brawf.
    • Yn dilyn bwlch sylweddol, roedd Swyddogion Prawf wedi cael secondiad i’r tri gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid ar draws Gwent. Roedd y cysylltiadau gweithredol yn gadarnhaol, gyda threfniadau pontio cryf. Ar sail y canlyniadau anghymesur i bobl ifanc 18-25 oed, roedd y tîm arwain yn bwriadu defnyddio staff ar secondiad i gefnogi’r dasg o ddatblygu tîm arbenigol ar gyfer oedolion ifanc.
    • Roedd lansio’r gofyniad triniaeth iechyd meddwl yn dangos rhywfaint o ymgysylltu effeithiol â dedfrydwyr a chydlynu gwasanaethau iechyd yn ystod y camau cyn-dedfrydu. Adolygwyd y galw mawr am wasanaethau, gyda staff ychwanegol ar gael i gefnogi’r dasg o gyflawni’r gofynion.
    • Roedd y trefniadau ar gyfer rheoli troseddwyr yn integredig yn gryf ar lefel strategol a gweithredol, ac roedd cysylltiadau cydweithredol gyda’r heddlu. Er bod yr heddlu a swyddogion prawf yn gweithio o wahanol swyddfeydd, roedd rhywfaint o dystiolaeth o rannu gwybodaeth yn gadarnhaol a gweithio ar y cyd rhwng asiantaethau. Roedd yr hyfforddwr ffordd o fyw ychwanegol yn cefnogi pobl ar brawf i ymgysylltu â gwasanaethau ehangach.
    • Roedd arweinwyr y PDU wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau a oedd ar gael i bobl ar brawf. Roedd hyn yn cynnwys cynnig lleoliadau eraill ar gyfer darparu rhaglenni yng Nglynebwy. Pan ofynnwyd yn yr arolwg ar gyfer pobl ar brawf am eu profiadau, dywedodd y rhan fwyaf o’r ymatebwyr fod y pellter yr oedd yn rhaid iddynt deithio i apwyntiadau yn rhesymol. Roedd galw hefyd am ddarpariaeth swyddfa loeren yn Sir Fynwy.
    • Roedd gwasanaethau i bobl ar brawf o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cael eu comisiynu yng Ngwent yn ddiweddar. Ymateb oedd hyn i’r cynnydd yn nifer y mudwyr yng Nghasnewydd, a bod 7.5 y cant o lwyth achosion y PDU yn nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.

    Meysydd i’w gwella:

    • Er bod gan arweinwyr fynediad at ddata atgyfeirio a chwblhau gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd, nid oedd yn cael ei adolygu’n rheolaidd i werthuso effeithiolrwydd y gwasanaethau oedd yn cael eu darparu. Roedd absenoldebau staff yn y PDU, yn ogystal â rhai heriau staffio ar draws darparwyr gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd, wedi arwain at wyriadau wrth ddarparu rhai gwasanaethau. Nid oedd y gwaith o gydlynu gwasanaethau’n ddigonol mewn 28 o achosion o blith y 44 achos perthnasol a arolygwyd gennym.
    • Er bod darparwyr llety a llesiant personol gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd yn dweud eu bod yn gallu cynnig gwasanaethau hyblyg i ddiwallu anghenion pobl ar brawf, nid oedd tystiolaeth o hyn bob amser yn yr achosion a arolygwyd gennym. Yn aml iawn, nid oedd gwasanaethau’n cael eu darparu’n ddigon cyson gan rai darparwyr. Roedd apwyntiadau ar gyfer gwasanaethau llesiant personol yn aml yn cael eu cynnal dros y ffôn, a ddim yn gyson iawn.
    • Roedd cyflwyno rhaglen newydd Creu Dewisiadau yn genedlaethol a’r fframwaith blaenoriaethu ar gyfer rhaglenni achrededig yn golygu bod rhywfaint o oedi wedi bod cyn dechrau rhai rhaglenni, ynghyd ag oedi wrth ddarparu ymyriadau strwythuredig. Byddai’r rhain fel arfer wedi cael eu defnyddio i helpu ymarferwyr i ddarparu ymyriadau priodol. Fodd bynnag, o ystyried argaeledd cyfyngedig y gwasanaethau hyn, roedd ymarferwyr yn gwneud eu gorau glas i ddarparu pecynnau cymorth ac ymyriadau eraill o dan amgylchiadau anodd ac o dan bwysau. Roedd y gwaith o ddarparu ymyriadau strwythuredig i fod i ailddechrau yn fuan ar ôl yr arolygiad.
    • Hyn a hyn o lety priodol ar gyfer risgiau ac anghenion pobl ar brawf oedd ar gael. Er gwaethaf ambell berthynas weithredol gadarnhaol gyda thimau tai awdurdodau lleol a chymorth gweithiwr cymorth llwybrau llety rhanbarthol i’r PDU, nid oedd asesiadau risg tai a anfonwyd gan ymarferwyr yn aml yn ddigonol i alluogi darpariaeth llety a oedd yn rhesymol, yn ddiogel ac yn amserol. 
    • Nid oedd mynediad uniongyrchol at ofal iechyd meddwl sylfaenol, hyd yn oed pan oedd hyn yn ymwneud â mwy o risg o niwed difrifol i eraill. Er bod nyrs seiciatrig gymunedol ar gael i helpu’r PDU i ymdrin â llwybrau atgyfeirio cymhleth ac anhyblyg, nid oedd hyn bob amser yn cefnogi mynediad at wasanaethau priodol, gyda llwybrau uwchgyfeirio cyfyngedig nad oedd llawer yn gwybod amdanynt.
    • Er bod data’n awgrymu bod pobl ar brawf a oedd rhwng 40 a 49 oed, a’r rheini oedd yn anabl, yn cael canlyniadau llai ffafriol o ran addysg, hyfforddiant a chyflogaeth, nid oedd arweinwyr wedi cymryd digon o gamau i sicrhau mwy o fynediad at wasanaethau ar gyfer y cohortau hyn.
    • Nid oedd swyddfa Glynebwy yn addas ar gyfer darparu gwasanaethau i bobl ar brawf. Nid oedd yr ystafelloedd cyfweld yn ddigon preifat nac yn amsugno sŵn yn ddigonol, roedd problemau o ran diogelwch tân, ac roedd yr adeilad mewn cyflwr gwael yn gyffredinol.

    Amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)

    Cryfderau:

    • Roedd hunanwerthusiad o ymarfer yn y llys, a dargedwyd at gohortau blaenoriaeth, wedi nodi rhywfaint o welliannau o ran cyngor cyn-dedfrydu wrth ystyried anghenion amrywiaeth. Yn yr adroddiadau a arolygwyd gennym, roedd 69 y cant o’r cyngor i’r llys yn ystyried amrywiaeth ac amgylchiadau personol unigolion.   
    • Roedd dulliau o ymgysylltu â phobl ar brawf wedi aeddfedu, gyda rheolwyr canol a staff yn cefnogi fforymau rheolaidd ledled Gwent.  
    • Roedd Uwch Swyddog Prawf wedi cael y cyfrifoldeb ar gyfer cydymffurfio â Deddf yr Iaith Gymraeg. Roedd gan y PDU rai ymarferwyr Cymraeg eu hiaith ac roeddent yn defnyddio gwasanaethau cyfieithu ar y pryd priodol pan oedd angen y rhain.  
    • Yn dilyn bwlch sylweddol, roedd Swyddogion Prawf wedi cael secondiad i’r tri gwasanaeth cyfiawnder ieuenctid ar draws Gwent. Roedd y cysylltiadau gweithredol yn gadarnhaol, gyda threfniadau pontio cryf. Ar sail y canlyniadau anghymesur i bobl ifanc 18-25 oed, roedd y tîm arwain yn bwriadu defnyddio staff ar secondiad i gefnogi’r dasg o ddatblygu tîm arbenigol ar gyfer oedolion ifanc.  
    • Yn gyffredinol, cynigiwyd addasiadau rhesymol i staff pan oedd angen offer ychwanegol arnynt i gefnogi eu gwaith, gydag unrhyw oedi’n cael ei dracio a’i uwchgyfeirio. Roedd cyfanswm o 20 y cant o staff yn y PDU wedi datgan anabledd. Roedd rheolwyr yn gwneud atgyfeiriadau iechyd galwedigaethol ar gyfer staff er mwyn eu helpu i ddychwelyd i’r gwaith. Yn ôl yr arolwg staff, allan o 21 aelod o staff a oedd angen addasiadau rhesymol, cytunwyd ar 14 ohonynt. Roedd addasiadau rhesymol nad oedd rheolwyr wedi cytuno arnynt fel arfer yn ymwneud â mwy o weithio gartref neu leihau llwyth achosion staff.
    • Roedd tîm arwain y PDU yn ymgysylltu â thimau rhanbarthol i gefnogi’r gwaith o gomisiynu gwasanaethau ychwanegol, yn seiliedig ar anghenion y llwyth achosion. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaethau i gefnogi pobl â niwroamrywiaeth neu anaf i’r ymennydd sydd ar brawf.  
    • Roedd gwasanaethau i bobl ar brawf o gefndiroedd ethnig lleiafrifol wedi cael eu comisiynu yng Ngwent yn ddiweddar. Ymateb oedd hyn i’r cynnydd yn nifer y mudwyr yng Nghasnewydd, a bod 7.5 y cant o lwyth achosion y PDU yn nodi eu bod yn Ddu, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol.
    • Meysydd i’w gwella: 
    • Roedd cynlluniau gweithredu i fynd i’r afael â chanlyniadau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth llai ffafriol i bobl ar brawf rhwng 40 a 49 oed neu gydag anabledd. Fodd bynnag, nid oedd hyn yn cyrraedd gweithgareddau i gydlynu’r gwasanaethau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth oedd ar gael yn effeithiol a’u gwneud yn fwy hygyrch i’r cohortau hyn.

    2.Darparu gwasanaethau (Back to top)

    P 2.1 AsesuSgôr
    Mae’r asesiad yn seiliedig ar wybodaeth, yn ddadansoddol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.Annigonol

    Mae ein sgôr3 ar gyfer asesu yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd y barnwyd eu bod yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, ac mae’n cael ei sbarduno gan y sgôr isaf:

    Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
    A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar ymgysylltu â’r sawl sydd ar brawf?72%
    A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymataliad?68%
    A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?28%
    • Nid oedd yr asesiadau’n canolbwyntio digon ar gadw pobl eraill yn ddiogel. Hyn oedd wrth wraidd y sgôr ‘Annigonol’ cyffredinol. Roedd hyn yn aml yn ymwneud â diffyg gwybodaeth berthnasol a chritigol am risg. Nid oedd ymarferwyr wedi gofyn am wybodaeth gan yr heddlu mewn wyth achos o blith y 57 achos lle dylai hynny fod wedi digwydd. Ni ofynnwyd am wybodaeth am ddiogelu plant mewn saith achos o blith y 56 achos perthnasol.
    • Pan ofynnwyd am wybodaeth gan yr heddlu a’r gwasanaethau plant, roedd y PDU wedi cael ymateb bob tro. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion hynny’n amrywio o ran ansawdd. I gyd gyda’i gilydd, roedd 11 ymateb o blith y 57 ymateb a gafwyd gan yr heddlu yn cynnwys gwybodaeth a oedd wedi’i golygu’n helaeth ac nad oedd yn ddigonol. Roedd gwybodaeth am ddiogelu plant yn aml yn amwys ac nid oedd yn cynnwys y cyd-destun perthnasol yr oedd ei angen mewn 21 o achosion o blith y 56 achos perthnasol. Nid oedd ymarferwyr wedyn yn gofyn am wybodaeth ddilynol fel mater o drefn, i’w galluogi i wneud dadansoddiad digonol o’r risg a berwyd gan yr unigolyn ar brawf.
    • Yn yr achosion a arolygwyd, pan dderbyniwyd gwybodaeth gan yr heddlu, dim ond mewn 25 o achosion o blith y 39 achos perthnasol y’i defnyddiwyd yn ddigonol. Roedd dadansoddiadau a oedd yn ymwneud â diogelu plant ychydig yn fwy cadarnhaol, gyda 22 o achosion o blith y 30 achos perthnasol yn dadansoddi gwybodaeth gan y gwasanaethau plant yn ddigonol. Er gwaethaf rhai bylchau sy’n peri pryder, roedd yr arolygwyr yn cytuno â’r dosbarthiad risg cyffredinol a neilltuwyd i bobl ar brawf yn 88 y cant o’r achosion a arolygwyd gennym.
    • Roedd asesiadau i gadw pobl eraill yn ddiogel i fenywod ar brawf yn fwy effeithiol yn gyffredinol nag i ddynion ar brawf. Yn yr achosion hyn, roedd asesiadau’n defnyddio’r ffynonellau gwybodaeth a oedd ar gael yn amlach o lawer.
    • Roedd dulliau calonogol o gynnwys pobl ar brawf yn ystyrlon yn eu hasesiadau yn yr achosion a arolygwyd gennym. Roedd y dadansoddiad cadarnhaol o nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau personol yn rhoi lefel dda o ddealltwriaeth i ymarferwyr ynghylch y ffordd orau o gynnwys pobl ar brawf yn eu goruchwyliaeth. Pan oedd hyn yn cael ei wneud yn dda, roedd ymarferwyr yn ystyried aeddfedrwydd y person ar brawf, ei hanes o ran troseddu, ymatebion blaenorol i oruchwyliaeth, a sut gallai materion iechyd meddwl effeithio ar ei allu i ymgysylltu’n llawn â gwasanaethau.
    • Yn gyffredinol, roedd yr asesiadau a arolygwyd gennym yn dadansoddi’r ffactorau cysylltiedig â throseddu a oedd yn berthnasol i’r person ar brawf. Roedd y rhan fwyaf o’r asesiadau hyn yn seiliedig ar gryfderau ac yn defnyddio’r ffactorau amddiffynnol angenrheidiol i gefnogi ymataliad unigolion. Gallai rhagor o gyswllt – gan ymarferwyr gyda gwasanaethau sydd eisoes yn ymgysylltu â phobl ar brawf, i gael gwybod am eu cynnydd a’i ddilysu gyda’r ddarpariaeth hon – fod wedi gwella eu heffeithiolrwydd ymhellach.

    P 2.2 CynllunioSgôr
    Mae gwaith cynllunio yn seiliedig ar wybodaeth, yn gyfannol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.Annigonol

    Mae ein sgôr4 ar gyfer cynllunio yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd y barnwyd eu bod yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, ac mae’n cael ei sbarduno gan y sgôr isaf:

    Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
    A yw’r gwaith cynllunio yn canolbwyntio’n ddigonol ar ymgysylltu â’r sawl sydd ar brawf?74%
    A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar leihau aildroseddu a chefnogi ymataliad?79%
    A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?39%
    • Roedd bylchau critigol mewn gwybodaeth a diffyg dadansoddiadau cyson o’r risgiau i bobl eraill yn golygu nad oedd cynlluniau’n mynd i’r afael yn ddigonol â ffactorau cysylltiedig â’r risg o niwed nac yn blaenoriaethu’r rhai mwyaf critigol yn hanner yr achosion a arolygwyd gennym a mwy. Felly, yn gyffredinol, nid oedd cynlluniau’n cynnwys ymyriadau adeiladol neu gyfyngol angenrheidiol i reoli’r risg o niwed mewn 27 o achosion o blith y 53 achos perthnasol. Ffocws annigonol cynlluniau i gadw pobl eraill yn ddiogel oedd wrth wraidd y sgôr ‘Annigonol’ gyffredinol ar gyfer cynllunio.
    • Nid oedd y cynlluniau’n cyfeirio’n ddigonol at waith asiantaethau eraill, gan gynnwys gwasanaethau plant a’r heddlu, hyd yn oed pan oeddent yn ymwneud â rheoli risgiau’r person ar brawf. Roedd cynlluniau wrth gefn yn aml yn rhy amwys i ddeall pa gamau y dylid eu cymryd pe bai risg y person ar brawf yn cynyddu. Roedd hyn yn cynnwys cofnodi’r amgylchiadau lle dylid gwneud atgyfeiriad diogelu plant newydd.
    • Pan fyddai pobl ar brawf yn cael eu rhyddhau i’r gymuned ar ôl bwrw dedfryd yn y carchar, roedd cynlluniau i fynd i’r afael â’u risg o niwed i eraill yn fwy effeithiol o lawer na chynlluniau’r unigolion a oedd yn bwrw dedfrydau cymunedol. Cefnogwyd canlyniadau gwell gan lefel uwch o graffu gan reolwyr a gweithgarwch tasgau’n ymwneud â’r gwaith i ailsefydlu’r unigolion hyn o’u cymharu â dedfrydau yn y gymuned. Roedd rhywfaint o ddefnydd addawol o amodau trwydded i nodi ymyriadau adeiladol neu gyfyngol angenrheidiol i reoli’r risg o niwed, gyda chynlluniau wrth gefn mwy effeithiol ar waith yn gyffredinol.
    • Roedd llawer o ymarferwyr yn gallu mynd ati’n fedrus i gynnwys pobl ar brawf yn eu gwaith cynllunio. Roedd hyn yn golygu, yn y rhan fwyaf o’r achosion a arolygwyd gennym, fod cynlluniau wedi ystyried amgylchiadau personol y person ar brawf. Er bod llwyth gwaith yr ymarferwyr yn drwm, roedd staff yn parhau i bennu lefelau priodol o gyswllt, gyda’r rhain yn ddigonol i ymgysylltu ag unigolion i gefnogi effeithiolrwydd ymyriadau mewn 38 o achosion o blith y 51 achos perthnasol a arolygwyd gennym.
    • Roedd y rhan fwyaf o’r cynlluniau a arolygwyd gennym yn seiliedig ar gryfderau ac yn defnyddio ffynonellau cymorth posibl ar gyfer y person ar brawf. Roedd staff yn gadarnhaol am y gefnogaeth gan dîm CORRE, a oedd yn cefnogi’r gwaith cynllunio mewn llawer o achosion. Roedd cynlluniau’n nodi’r gwasanaethau a oedd fwyaf tebygol o leihau troseddu a chefnogi ymataliad mewn 45 o achosion allan o’r 57 achos. 

    P 2.3. Gweithredu a darparuSgôr
    Mae gwasanaethau cydlynol a phersonol o ansawdd uchel gyda ffocws da yn cael eu darparu, gan ymgysylltu â’r sawl sydd ar brawf.Annigonol

    Mae ein sgôr 5 ar gyfer gweithredu a darparu yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd y barnwyd eu bod yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, ac mae’n cael ei sbarduno gan y sgôr isaf:

    Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
    A yw’r ddedfryd neu’r cyfnod ar ôl bod yn y ddalfa yn cael eu rhoi ar waith yn effeithiol gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r sawl sydd ar brawf?72%
    A yw’r ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu gweithredu a’u darparu yn cefnogi ymataliad yn effeithiol?40%
    A yw gweithredu a darparu gwasanaethau yn cefnogi diogelwch pobl eraill yn effeithiol?28%
    • Nid oedd gweithredu a darparu gwasanaethau i fynd i’r afael ag aildroseddu a chefnogi ymataliad, a chyflawni gwaith i gefnogi diogelwch pobl eraill, yn ddigonol yn achos gormod o’r achosion a arolygwyd gennym. Hyn oedd wrth wraidd y sgôr ‘Annigonol’ cyffredinol.
    • Dim ond mewn 22 o achosion o blith y 57 achos a arolygwyd gennym y rhoddwyd digon o sylw i ddiogelu dioddefwyr posibl neu wirioneddol. Roedd bylchau sylweddol mewn ymarfer yn aml yn gysylltiedig â gwaith amlasiantaethol aneffeithiol gyda phartneriaid o ran rheoli’r risg o niwed i’r person ar brawf, neu amddiffyn eu dioddefwyr gwirioneddol neu bosibl.
    • Dim ond 20 o’r 48 o ymweliadau cartref oedd wedi cael eu cwblhau lle bo angen i gefnogi’r gwaith o reoli’r risg o niwed yn effeithiol. Er eu bod wedi cael mewnbwn am bwysigrwydd ymweliadau cartref yn ystod eu hamser dysgu wedi’i neilltuo, nid oedd gan ymarferwyr ddigon o gapasiti bob tro. Roedd hyn yn golygu bod cyfleoedd yn cael eu colli i nodi’r risg o niwed i amddiffyn dioddefwyr gwirioneddol neu bosibl.
    • Roedd angen gwneud rhagor o waith i sicrhau bod pob achos cymwys ar gyfer MAPPA yn cael ei sgrinio’n ddigonol ar ddechrau dedfrydau. Roedd trefniadau MAPPA Lefel 1 yn gweithio’n dda ar y cyfan ac roedd rhywfaint o oruchwyliaeth gan reolwyr. O’r 13 achos cymwys ar gyfer MAPPA a arolygwyd, roedd tystiolaeth o oruchwyliaeth amlasiantaeth gydlynol. Roedd hynny’n cynnwys gweithio ar y cyd â’r heddlu mewn wyth achos.
    • Er gwaethaf gwaith addawol i asesu a chynllunio ar gyfer ymyriadau i fynd i’r afael â risg y person ar brawf o aildroseddu a chefnogi ymataliad, dim ond mewn 23 o achosion o blith y 57 achos a arolygwyd gennym yr oedd y gwasanaethau hyn yn cael eu darparu’n ddigonol. Yn gyffredinol, roedd gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd yn cael eu cynnig pan ddylent fod yn cael eu cynnig. Fodd bynnag, nid oedd cyfraniad sefydliadau eraill wedi’i gydlynu’n ddigonol mewn 28 o achosion o blith y 44 achos perthnasol. Roedd llwyth achos trwm wedi arwain at oedi cyn cyflwyno rhai gofynion, a darparu pecynnau cymorth neu ymyriadau amgen gan ymarferwyr. Roedd hyn yn golygu bod rhai apwyntiadau’n aml yn debyg i sesiwn ‘cadw mewn cysylltiad’.
    • Roedd 13 achos o blith y 57 achos a arolygwyd gennym wedi cael eu dyrannu i dri ymarferydd neu ragor. Roedd diffyg trefniadau trosglwyddo cadarn yn golygu bod pethau wedi llithro wrth ddarparu a chydlynu gwasanaethau.
    • Roedd gan ymarferwyr lefelau priodol o gyswllt gyda phobl ar brawf, er mwyn cynnal perthynas waith effeithiol gyda nhw, ac roeddent wedi ystyried eu hanghenion amrywiaeth mewn 40 o achosion o blith y 51 achos perthnasol. Roedd gorfodaeth yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol ar y cyfan, gyda chamau priodol wedi’u cymryd yn ôl yr angen mewn 23 o achosion allan o’r 33 achos perthnasol.

    P 2.4. AdolyguSgôr
    Mae’r gwaith o adolygu cynnydd yn seiliedig ar wybodaeth, yn ddadansoddol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.Annigonol

    Mae ein sgôr6 ar gyfer adolygu yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd y barnwyd eu bod yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol, ac mae’n cael ei sbarduno gan y sgôr isaf:

    Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
    A yw’r gwaith adolygu yn canolbwyntio’n ddigonol ar gefnogi cydymffurfedd ac ymgysylltiad y sawl sydd ar brawf?67%
    A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gefnogi ymataliad?46%
    A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?36%
    • Nid oedd y broses o adolygu gweithgarwch yn canolbwyntio’n ddigonol ar y gwaith i fynd i’r afael â’r risg o aildroseddu ymysg pobl ar brawf neu gadw pobl eraill yn ddiogel. Roedd hyn yn sail i’r sgôr ‘Annigonol’ cyffredinol.
    • Yn gyffredinol, roedd ymarferwyr yn cael gwybodaeth gan yr heddlu mewn perthynas â newidiadau yn y risg i’r person ar brawf, o dan y system ‘digwyddiadau adroddadwy’. Roedd ymarferwyr yn ymwybodol ar y cyfan o’r broses i ymateb i ddigwyddiadau adroddadwy, ond roedd hyn yn cael ei gymhwyso’n rhy anghyson, gyda llawer o achosion heb ddigon o ddilyniant. O ganlyniad, nid oedd yr adolygiadau’n nodi ac yn mynd i’r afael â newidiadau mewn ffactorau cysylltiedig â’r risg o niwed, gyda’r addasiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud i’r cynllun gwaith parhaus mewn 32 o achosion o blith y 47 achos perthnasol a arolygwyd.
    • Er bod adolygiadau ysgrifenedig ffurfiol yn cael eu gwneud yn gyffredinol (31 o blith 47 o achosion), nid oedd y rhain yn cael eu llywio’n ddigonol gan y gwaith dilynol angenrheidiol i ddigwyddiadau adroddadwy pan oedd angen. Nid oedd mewnbwn gan asiantaethau eraill wedi cael ei gasglu yn ôl yr angen i baratoi ar gyfer yr adolygiadau hyn mewn 32 o achosion o blith y 47 achos perthnasol a arolygwyd.
    • Nid oedd ymarferwyr yn gofyn am ddiweddariadau am gynnydd gan asiantaethau eraill fel mater o drefn er mwyn gwneud eu hadolygiadau’n ddigonol. Roedd hynny’n golygu nad oedd ymarferwyr bob amser yn deall effaith y gwasanaethau a ddarparwyd i leihau’r risg o aildroseddu i bobl ar brawf. Pan oedd hyn yn cael ei wneud yn dda, roedd ymarferwyr wedi defnyddio cyfarfodydd gweithwyr proffesiynol neu negeseuon e-bost grŵp partneriaeth i sicrhau bod y rhai a oedd yn ymwneud â darparu gwasanaethau yn cael gwybod am gynnydd y person ar brawf.
    • Roedd ymarferwyr yn defnyddio cofnodion cyswllt strwythuredig ac yn aml yn adolygu ymgysylltiad pobl ar brawf â nhw mewn ffordd ystyrlon yn eu hapwyntiadau. Roeddent yn aml yn arbennig o fedrus wrth drafod gorfodaeth a materion cydymffurfio pobl ar brawf, ac roeddent wedi gwneud addasiadau angenrheidiol i’r cynllun gwaith mewn 24 o achosion o blith y 39 achos perthnasol.

    Cynnydd ar argymhellion blaenorol (Back to top)

    Argymhelliad blaenorolCamau a gymerwyd ac effaithCategoreiddioAngen gwella o hyd?
    O arolygiad blaenorol HMIP o PDU Gwent – mis Chwefror 2022Crynodeb o’r camau a gymerwyd a’u heffaithCynnyddOes / na
    Gwella’r trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth er mwyn asesu ac adolygu’r risg o niwed, gan gynnwys yn y cam cyn dedfrydu.Roedd mynediad at wybodaeth yr heddlu wedi gwella, gyda dull mwy cyson o ddelio â digwyddiadau adroddadwy. Roedd y PDU wedi nodi bylchau o ran rhannu gwybodaeth â’r heddlu a gwasanaethau gofal cymdeithasol, ac wedi ceisio mynd i’r afael â’r rhain. Fodd bynnag, roedd gwaith risg o niwed wrth roi cyngor i’r llys, ac arferion asesu ac adolygu, yn dal yn annigonol.Rhywfaint o gynnydd  Oes  
    Gwella ansawdd gwaith i asesu, rheoli ac adolygu’r risg o niwed.Roedd ffocws wedi’i roi ar wella cefnogaeth, hyfforddiant a goruchwyliaeth rheolwyr i ymarferwyr. Fodd bynnag, cyfyngedig oedd effaith hyn. Dim cynnydd  Oes  
    Gwella goruchwyliaeth rheolwyr a sicrwydd ansawdd yr holl waith achos.Roedd prosesau goruchwyliaeth rheolwyr wedi cael eu datblygu i ystyried ffactorau dynol. Fodd bynnag, nid oedd goruchwyliaeth rheolwyr yn ddigonol mewn 41 o achosion o blith y 54 achos perthnasol.  Rhywfaint o gynnydd Oes  
    Sicrhau bod yr ymyriadau sydd eu hangen i wella ymataliad a lleihau aildroseddu yn cael eu darparu ym mhob achos.Roedd y gwaith o ddarparu gwasanaethau wedi cael ei lesteirio gan bwysau staffio a llwyth gwaith, ochr yn ochr â newidiadau cenedlaethol i’r gwaith o ddarparu ymyriadau. Dim cynnydd  Oes  
    sicrhau bod gan staff sy’n gyfrifol am reoli achosion y sgiliau, y wybodaeth a’r amser i wneud y gwaith yn effeithiol.Nid oedd unrhyw ddyraniad amhriodol o achosion o fewn y cohort a arolygwyd. Roedd hyfforddiant wedi cael ei wella, gyda diwylliant dysgu wedi’i wreiddio yn y sefydliad. Fodd bynnag, nid oedd gan staff amser i weithredu nac ymgorffori’r hyn a ddysgwyd mewn ymarfer o hyd.  Rhywfaint o gynnydd  Oes 

    Rhagor o wybodaeth (Back to top)

    Mae data llawn o’r arolygiad hwn a rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynnal yr arolygiad ar gael yn yr atodiad data.

    Mae rhestr o’r termau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.

    Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Leon Bonas, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob rhan o’r Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr arolygiad hwn mewn unrhyw ffordd. Heb eu help a’u cydweithrediad, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosibl.

    coesynnod:

    1. Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Gorffennaf 2025). Amcangyfrifon poblogaeth y DU, canol 2024. ↩︎
    2. Ffynhonnell: Y Weinyddiaeth Gyfiawnder. (Gorffennaf 2025). Ystadegau aildroseddu a brofwyd: Hydref 2022 – Medi 2023. ↩︎
    3. Y sgôr a roddir i’r cwestiwn allweddol sy’n gyrru’r sgôr ar gyfer y safon. Mae wedyn yn cael ei rhoi mewn band sgorio. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolygiad ar gael yn yr atodiad data. ↩︎
    4. Y sgôr a roddir i’r cwestiwn allweddol sy’n gyrru’r sgôr ar gyfer y safon. Mae wedyn yn cael ei rhoi mewn band sgorio. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolygiad ar gael yn yr atodiad data. ↩︎
    5. Y sgôr a roddir i’r cwestiwn allweddol sy’n gyrru’r sgôr ar gyfer y safon. Mae wedyn yn cael ei rhoi mewn band sgorio. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolygiad ar gael yn yr atodiad data. ↩︎
    6. Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar gyfer pob un o’r cwestiynau allweddol. Mae wedyn yn cael ei rhoi mewn band sgorio (mewn ffont trwm yn y tabl). ↩︎