Arolygiad o wasanaethau prawf yng Nghaerdydd a’r Fro
Rhagair (Back to top)
Roedd gan PDU Caerdydd a’r Fro nodau strategol clir i gadw pobl yn ddiogel a grymuso staff i ddarparu gwasanaethau effeithiol, ond nid oedd gweithredu ei strategaeth yn cefnogi’r nodau hyn yn effeithiol. O ganlyniad, roedd ansawdd y gwaith a gyflawnwyd yn y PDU yn aml yn annigonol.
Roedd gwaith achos ar draws pob un o’r pedair safon darparu gwasanaethau a arolygwyd gennym yn ‘Annigonol’, gyda gwaith i gadw pobl yn ddiogel yn faes ymarfer gwannaf.
Dangosodd arweinwyr rai cryfderau, gan gynnwys dealltwriaeth drylwyr o broffil pobl ar brawf sy’n byw yng Nghaerdydd a Bro Morganwg. Roeddent hefyd yn cael eu hystyried yn gyfranwyr adeiladol a gwerthfawr o fewn y partneriaethau strategol lleol gydag asiantaethau eraill. Dangosodd cydleoli staff prawf gyda gweithwyr proffesiynol eraill mewn mentrau fel Grand Avenues fod arweinwyr yn barod i roi cynnig ar syniadau newydd mewn perthynas â diwallu anghenion pobl ar brawf. Fodd bynnag, nid oedd ymdrechion yn arwain at ganlyniadau boddhaol i’r rhai a oedd yn cael eu goruchwylio yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg.
Roedd lefelau staffio yn ymddangos yn gymharol ffafriol o’u cymharu â meysydd eraill yr ydym wedi’u harolygu. Fodd bynnag, roedd y realiti gweithredol, a nodweddwyd gan absenoldeb salwch, trosiant staff, a chyfran uchel o staff a rheolwyr oedd yn newydd yn eu rôl, yn golygu bod y gweithlu’n parhau i fod yn fregus ac o dan straen. Nid oedd yr oruchwyliaeth a ddarparwyd gan reolwyr yn llywio gwelliant digonol ar y cyflymder angenrheidiol. Roedd angen i arweinwyr fod yn fwy cyfarwyddiadol, gan sicrhau bod staff a rheolwyr canol yn cael digon o gefnogaeth, sgiliau a chyfarpar i ddarparu gwasanaethau prawf o ansawdd uchel. Roedd angen llywodraethu gwell hefyd i ganolbwyntio’n gliriach ar ansawdd y gwaith a gyflawnir i gefnogi pobl i newid ac amddiffyn pobl rhag niwed.
Roedd canolfannau trefol y PDU yn darparu mynediad at ystod eang o wasanaethau i bobl ar brawf. Fodd bynnag, roedd y ddarpariaeth yn anwastad ar draws Caerdydd a’r Fro, gyda bylchau nodedig ar gyfer menywod. Er gwaethaf cydleoli â darparwyr gwasanaethau a phartneriaethau strategol cadarnhaol, roedd y ddarpariaeth i fynd i’r afael â risg ac angen yn rhy aml yn annigonol ac yn methu â chyflawni disgwyliadau.
Roedd angen sylw brys ar ansawdd y gwaith i gadw pobl yn ddiogel yng Nghaerdydd a’r Fro. Mae hon wedi bod yn thema sy’n codi dro ar ôl tro yn ein gweithgarwch arolygu ac roedd yn amlwg yn yr achosion a arolygwyd gennym yma. Nid oedd ymdrechion i sicrhau gwelliannau yn amseroldeb ac ansawdd gwybodaeth allweddol gan asiantaethau partner, yn enwedig gwasanaethau plant, wedi mynd yn ddigon pell nac yn ddigon chyflym. Nid oedd gan ymarferwyr a rheolwyr canol ddigon o chwilfrydedd proffesiynol wrth adolygu’r wybodaeth oedd ar gael ac ymdrin â bylchau mewn asesiadau risg a gwneud penderfyniadau.
Mae’r arolygiad hwn wedi tynnu sylw at heriau sydd angen sylw brys a pharhaus. Er bod rhai sylfeini i adeiladu arnynt, mae angen gwelliant sylweddol i sicrhau bod y PDU yn gyson effeithiol wrth amddiffyn y cyhoedd a chefnogi adsefydlu.
Martin Jones CBE
Prif Arolygydd Prawf EF
Graddau (Back to top)
| Dechreuodd y gwaith maes ym mis Medi 2025 | Sgôr 2/21 |
| Sgôr gyffredinol | Annigonol |
- Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol
| P 1.1 Arweinyddiaeth | Angen gwella |
| P 1.2 Staffio | Annigonol |
| P 1.3 Gwasanaethau | Angen gwella |
- Cyflenwi gwasanaeth
| P 2.1 Asesu | Annigonol |
| P 2.2 Cynllunio | Annigonol |
| P 2.3 Gweithredu a chyflenwi | Annigonol |
| P 2.4 Adolygu | Annigonol |
Argymhellion (Back to top)
O ganlyniad i ganfyddiadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion yr ydym yn credu, os cânt eu gweithredu, y byddant yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd gwasanaethau prawf.
Dylai Caerdydd a’r Fro:
- sicrhau bod gwybodaeth am gam-drin domestig a diogelu yn gyflawn ac wedi’i dadansoddi’n ddigonol i lywio ansawdd asesu, cynllunio a rheoli pobl ar brawf.
- sicrhau bod gwaith yn cael ei wneud gydag asiantaethau eraill i reoli cam-drin domestig a diogelu plant, fel yr heddlu a gwasanaethau gofal cymdeithasol plant, er mwyn sicrhau bod dioddefwyr gwirioneddol a dioddefwyr posibl yn cael eu diogelu’n ddigonol
- sicrhau bod gan reolwyr canol ddigon o gapasiti i ddarparu’r lefel briodol o oruchwyliaeth yn unol ag anghenion aelodau staff a lefel y gwaith achos yn y tîm
- datblygu hyder a sgiliau ymarferwyr wrth ddefnyddio chwilfrydedd proffesiynol a sgyrsiau heriol i nodi, dadansoddi, asesu, cynllunio ac ymateb i ddangosyddion risg yn effeithiol
- gwella’r defnydd o ymyriadau a gwasanaethau sydd ar gael i bobl ar brawf i gefnogi ymatal a rheoli’r risg o niwed
- ymgysylltu â darparwyr gwasanaethau lleol i sicrhau eu bod yn darparu cefnogaeth o ansawdd uchel i bawb sydd ar brawf
- ystyried yn llawn farn pobl ar brawf i lywio datblygiad gwasanaethau.
Cefndir (Back to top)
Gwnaethom waith maes yn PDU Caerdydd a’r Fro dros gyfnod o bythefnos, gan ddechrau ar 15 Medi 2025. Fe wnaethom arolygu 45 o orchmynion cymunedol a 14 achos o ryddhau ar drwydded o’r ddalfa lle roedd dedfrydau a thrwyddedau wedi cychwyn yn ystod dwy wythnos ar wahân, rhwng 10 Chwefror 2025 a 16 Chwefror 2025 a 17 Mawrth a 23 Mawrth 2025. Fe wnaethom hefyd gynnal 44 o gyfweliadau ag ymarferwyr prawf.
Roedd Caerdydd a’r Fro yn un o chwe PDU yn rhanbarth prawf Cymru, gan wasanaethu poblogaeth o 519,662. Nododd saith deg naw y cant o drigolion eu bod yn Wyn, gan wneud Caerdydd y rhan fwyaf amrywiol o ran ethnigrwydd yng Nghymru. Y PDU hefyd oedd yn goruchwylio’r gyfran uchaf o bobl dan 25 oed. Roedd yr ardal yn wynebu heriau sylweddol, gan gynnwys prinder llety, cyfraddau uchel o droseddu yn gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau ac un o’r cyfraddau aildroseddu uchaf yng Nghymru.
Roedd pennaeth y PDU yn uwch arweinydd sefydledig a oedd wedi bod yn y swydd yng Nghaerdydd a’r Fro ers 2022 ac yn cael ei gefnogi gan uwch reolwr cymorth gweithredol. Ar adeg ein cyhoeddiad arolygu, roedd y PDU yn cyflogi 178 o staff cyfwerth ag amser llawn, gan oruchwylio llwyth achosion o 2,561 o bobl ar brawf. Roedd hyn yn cynnwys 1,192 o ddedfrydau cymunedol, 665 o unigolion yn destun goruchwyliaeth ar ôl rhyddhau a 704 o bobl yn y ddalfa.
Er bod y rhan fwyaf o’r staff wedi’u lleoli mewn ardaloedd trefol, fel canol dinas Caerdydd a gorsaf heddlu’r Barri ym Mro Morganwg, roedd y PDU yn cwmpasu ystod o gymunedau arfordirol a gwledig. Bu staff hefyd yn gweithio o hybiau cymunedol, gan gynnwys prosiect Grand Avenues yn Nhrelái a Chaerau, ac o hybiau arbenigol ar gyfer oedolion ifanc a menywod, y ddwy wedi’u cynnal gan bartner trydydd sector, Cymru Ddiogelach. Roedd y llysoedd lleol yn cynnwys Llys Ynadon Caerdydd a Llys y Goron Caerdydd.
Yn ddaearyddol, roedd y PDU yn rhannu ffiniau ag awdurdodau lleol Caerdydd a Bro Morgannwg ac yn dod o fewn ardal Heddlu De Cymru. Roedd Adeiladau Cymeradwy CEM Caerdydd a Mandeville House wedi’u lleoli o fewn ôl troed y PDU, er nad oedd y staff hyn o dan reolaeth llinell y PDU.
Darparwyd amrywiaeth o Wasanaethau Adsefydlu Cymunedol (CRS) rhanbarthol a gwasanaethau a gomisiynwyd ar y cyd yn lleol ar draws y PDU. Darparwyd gwasanaethau cymorth dibyniaeth ac adferiad gan Dyfodol; darparwyd gwasanaethau cymorth llety gan Forward Trust; a darparwyd gwasanaethau i fenywod gan The Nelson Trust.
Roedd safonau arolygu wedi cael eu diweddaru mewn ymateb i weithredu Ailosod y Cyfnod Prawf o fis Gorffennaf 2024. Roedd hyn yn golygu bod cyswllt unigolyn â’i ymarferydd prawf wedi’i atal am draean olaf ei gyfnod goruchwylio. Yn ogystal â’r safonau craidd, fe wnaethom gymhwyso set o safonau wedi’u haddasu i achosion trwydded lle roedd Ailosod y Cyfnod Prawf wedi’i gymhwyso wyth wythnos neu lai o’r pwynt rhyddhau. Fe wnaethon ni arolygu 11 achos oedd yn destun Ailosod y Cyfnod Prawf, gyda thri o’r rhain wedi’u harolygu yn erbyn safonau wedi’u haddasu.
1. Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol (Back to top)
| P 1.1. Arweinyddiaeth | Gradd |
| Mae arweinyddiaeth y PDU yn galluogi darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, personol ac ymatebol i bawb sydd ar brawf. | Angen gwella |
Cryfderau:
- Fe wnaeth arweinwyr yn PDU Caerdydd a’r Fro feithrin diwylliant o agoredrwydd, her adeiladol a syniadau. Roedd arweinwyr canol ac uwch yn hawdd mynd atynt ac yn awyddus i dderbyn awgrymiadau staff ar gyfer gwella.
- Roedd gan arweinwyr ddealltwriaeth gref o’r cymunedau yr oeddent yn gweithredu ynddynt, wedi’i hategu gan broffil amrywiaeth ac anghenion clir o’r garfan o bobl ar brawf.
- Cafodd Cynllun Gweithredu Blaenoriaeth a Chynllun Ansawdd lleol y PDU eu crynhoi’n gynllun staff cryno un dudalen i gynorthwyo cyfathrebu, a gallai staff ar bob lefel fynegi’n glir y flaenoriaeth graidd o gadw pobl yn ddiogel.
- Roedd cyfarfodydd rheoli ac atebolrwydd rheolaidd y PDU yn canolbwyntio ar flaenoriaethau gweithredol, perfformiad a goblygiadau newid sefydliadol. Pan oedd arweinwyr wedi canolbwyntio ar leihau’r ôl-groniad o ymweliadau cartref, er enghraifft, roedd gwelliannau mesuradwy wedi’u gwneud. Cafodd cynnwys a strwythur diwrnodau dysgu gwarchodedig i staff eu llywio gan wybodaeth o amrywiol ddulliau gan gynnwys archwiliadau Cadw Pobl yn Ddiogel ac Offeryn Sicrwydd Cymru, a gwybodaeth am berfformiad.
- Roedd arweinwyr yn gynrychiolwyr gwerthfawr a dylanwadol ym mhob fforwm partneriaeth perthnasol, gan gadeirio byrddau strategol a gweithredol allweddol. Disgrifiodd partneriaid allanol ddiwylliant o her broffesiynol iach ar lefel strategol.
- Roedd arweinwyr wedi nodi diffygion yn ansawdd y wybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant sydd ar gael i ymarferwyr wrth gynnal asesiadau a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar risg. Roedd nifer y ceisiadau hefyd yn bygwth gorlethu prosesau sefydledig. Drwy bartneriaethau strategol a rhanbarthol effeithiol, roedd gan rai staff gweinyddol y PDU fynediad bellach at wybodaeth darllen yn unig o gronfa ddata heddlu De Cymru. Roedd gan staff fynediad hefyd at wybodaeth am Ddigwyddiadau Adroddadwy gan yr heddlu, gan ganiatáu iddynt fonitro unrhyw gyswllt gan yr heddlu â phobl ar brawf.
- Gwnaeth arweinwyr ddefnydd effeithiol o ddata amrywiaeth soffistigedig y craffwyd arno gan y bwrdd anghymesuredd rhanbarthol wrth lunio’r ddarpariaeth o wasanaethau. Roedd gweithgarwch dilynol wedi targedu anghydraddoldebau yn gysylltiedig ag ethnigrwydd, anabledd, oedran, rhywedd a niwroamrywiaeth.
Meysydd i’w gwella:
- Roedd y dull arweinyddiaeth wedi blaenoriaethu grymuso a hunanreolaeth staff dros ficroreoli. Er bod hwn yn uchelgais briodol yn y tymor hwy, roedd heriau gweithredol cyfredol, megis swyddi gwag, llwythi gwaith uchel, a lefelau uchel o ddiffyg profiad, yn galw am arweinyddiaeth fwy cyfeiriadol gyda pherchnogaeth gliriach dros benderfyniadau a’u heffaith, nes bod y gweithlu’n cyrraedd mwy o aeddfedrwydd a sefydlogrwydd.
- Er bod arweinwyr wedi cyfleu’n glir y flaenoriaeth o gadw pobl yn ddiogel a’r gweithgarwch sydd ei angen i ategu’r amcan hwn, roedd canfyddiadau ein gwaith achos a’n sicrwydd mewnol yn dangos diffygion parhaus. Parhaodd llwythi achosion uchel, trosiant staff, a goruchwyliaeth reoli annigonol i danseilio ansawdd y gwaith, gan arwain at weithgarwch diogelu’r cyhoedd annigonol mewn gormod o achosion.
- Roedd trefniadau llywodraethu annigonol ar waith i lywio ansawdd ac arfer diogelu’r cyhoedd. Cydnabu arweinwyr, tan yn ddiweddar, fod llywodraethu wedi canolbwyntio ar berfformiad yn hytrach nag ar ddull ymchwiliol o ran ansawdd y gwaith a oedd yn cael ei gwblhau. Roedd hyn yn cyfyngu ar eu gallu i nodi a mynd i’r afael â materion sylfaenol mewn gwaith achos, gan arwain at golli cyfleoedd i lywio gwelliant ystyrlon.
- Roedd canfyddiadau’r arolygiad yn cyd-fynd yn agos â themâu archwilio mewnol, yn enwedig o ran cadw pobl yn ddiogel. Er bod y camau gweithredu a amlinellwyd yn y cynllun gwella ansawdd yn gadarn, mae cyflymder y newid mewn ymateb i bryderon ynghylch ansawdd gwaith achos wedi bod yn rhy araf. Er mwyn gwireddu gwelliant ystyrlon, roedd angen i arweinwyr gyflymu gweithgarwch gwella a chryfhau atebolrwydd am gynnydd.
- Roedd angen i arweinwyr roi cyfeiriad cliriach a chael goruchwyliaeth gryfach dros newid. Nid oedd pob achos Ailosod yn cael ei drosglwyddo i ymarferwyr sydd wedi’u pennu i weithio gyda phobl ar brawf yn nhraean olaf eu dedfrydau. O ganlyniad, nid oedd Ailosod y Gwasanaeth Prawf yn rhyddhau capasiti ymarferwyr fel y bwriadwyd. Roedd rhai ymarferwyr yn gweld y broses yn feichus ac oherwydd hynny fe wnaethant ostwng blaenoriaeth y fenter hon a oedd yn orfodol yn genedlaethol.
- Nid oedd arweinwyr wedi gwneud digon i sicrhau bod pob ymarferydd yn deall llwybrau atgyfeirio diogelu. Roedd y PDU wedi cydleoli swyddog gwasanaeth prawf (PSO) yn Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH) Caerdydd, gyda mynediad at systemau gofal cymdeithasol, ac i ddarparu presenoldeb mewn cyfarfodydd strategaeth yn ymwneud ag achosion sy’n destun goruchwyliaeth prawf. Er i’r swydd gael ei thynnu’n ôl oherwydd problemau staffio, mae gweinyddwr o’r tîm diogelu’r cyhoedd rhanbarthol yn cadw mynediad i’r system a oedd wedi gwella amseroedd ymateb ar gyfer ymholiadau diogelu. Fodd bynnag, ni arweiniodd hyn at welliannau i ansawdd y wybodaeth yn y gwaith achos a arolygwyd gennym. Ym Mro Morganwg, roedd mynediad yn parhau i fod ar gael ond roedd yn cael ei adolygu. Dangosodd achosion a arolygwyd fod gwasanaethau plant yn aml yn derbyn ymholiadau cychwynnol lluosog a oedd yn darparu gwybodaeth gyfyngedig. Roedd hynny’n effeithio ar ansawdd y gweithgarwch asesu a rheoli risg ac yn rhoi pwysau diangen ar bartneriaid gofal cymdeithasol.
- Roedd gan staff fynediad at ddigwyddiadau adroddadwy heddlu De Cymru, ond roedd ymatebion ymarferwyr i arestiadau a gwybodaeth am risg yn anghyson, gyda’r camau a gymerwyd heb fod yn glir bob amser. Roedd y nifer uchel o ddigwyddiadau yn cymryd hyd at dair awr y dydd i’w prosesu, ac roedd rhai staff, yn enwedig yn y tîm menywod, wedi’u llethu oherwydd amlder y digwyddiadau yn ymwneud â dioddefwyr a throseddwyr benywaidd.
- Nid oedd ymgysylltu â phobl ar weithgarwch prawf o fewn y PDU wedi’i ddatblygu’n ddigonol. Er bod rhai ymdrechion cychwynnol wedi bod, fel arolygon, blychau awgrymiadau a digwyddiadau cydnabod, roedd y rhain yn gyfyngedig o ran cwmpas ac effaith. Nid oedd gan y PDU fforwm sefydledig i bobl ar brawf roi adborth cyson, a dim ond wyth allan o 18 o ymatebwyr i’n harolwg o bobl ar brawf a ddywedodd y gofynnwyd iddynt am eu barn am fod dan oruchwyliaeth ac wedi teimlo eu bod wedi cael gwrandawiad da.
| P 1.2 Staffio | Gradd |
| Mae arweinyddiaeth y PDU yn galluogi darparu gwasanaeth o ansawdd uchel, personol ac ymatebol i bawb sydd ar brawf. | Annigonol |
Cryfderau:
- Cafodd pennaeth y gwasanaeth gefnogaeth dda gan uwch reolwr cymorth gweithredol. Er bod eu llwythi gwaith yn sylweddol, roedd llinellau atebolrwydd yn glir ar draws yr ystod o flaenoriaethau gweithredol a strategol.
- Roedd y tîm rheoli canol bellach wedi’i staffio’n llawn ac roedd ganddo gefnogaeth weinyddol bwrpasol. Roedd ganddyn nhw hefyd fynediad at hwb cydlynu rheoli i gael cymorth gyda thasgau gweinyddol.
- Ystyriodd arweinwyr ddatblygiad staff yn weithredol, gyda nifer o ymarferwyr yn symud ymlaen i rolau rheoli canol a rhanbarthol neu genedlaethol. Anogwyd staff a oedd yn perfformio’n dda i ddatblygu trwy hyfforddi a rolau arbenigol.
- Creodd y defnydd o restrau gwirio ffactorau dynol dyddiol le ar gyfer trafodaethau rhwng gweinyddwyr achosion, ymarferwyr, rheolwyr ac uwch arweinwyr ynghylch materion risg, pwysau llwyth gwaith a chamau lliniaru posibl. Canfu rhai staff fod y broses hon yn ddefnyddiol ar gyfer llesiant a blaenoriaethu tasgau, gan gynnwys nodi gwaith achos yr oedd angen ei uwchgyfeirio, fel trosglwyddiadau a gorfodi.
Meysydd i’w gwella:
- Dangosodd data sefydliadol fod PDU Caerdydd a’r Fro wedi cyrraedd ei lefel staffio darged. Fodd bynnag, roedd y capasiti gwirioneddol yn is oherwydd bod staff yn cael eu secondio, yn cyflawni dyletswyddau uwch neu ar absenoldeb estynedig. Arweiniodd hyn at y PDU yn gweithredu gyda 19 y cant yn llai o swyddogion prawf (POs) a 12 y cant yn llai o PSOs na’r targed. Dim ond dau allan o 28 o ymatebwyr i’n harolwg staff oedd o’r farn bod lefelau staffio yn ddigonol yn y PDU. Er bod arweinwyr wedi ymrwymo i ddatblygiad staff, creodd y newid o ran staff ansefydlogrwydd a thanseilio gwydnwch gweithredol. Roedd pum deg chwech y cant o achosion a arolygwyd wedi cael mwy nag un ymarferydd prawf ers dechrau eu cyfnod goruchwylio. Dywedodd un ymatebydd i’n harolwg o bobl ar brawf: “fel carcharor oes, rwy’n cael fy nhrosglwyddo o swyddog i swyddog bob chwech i 12 mis; dydych chi byth yn mynd i feithrin perthynas gadarn fel ‘na”.
- Roedd llwythi achosion cyfartalog ar gyfer POs wedi cynyddu dros 20 y cant yn y 12 mis cyn yr arolygiad. Ar gyfer PSOs, roedd y cynnydd hwnnw tua 11 y cant. Parhaodd nifer o staff i weithredu ymhell uwchlaw’r capasiti yn ôl yr offeryn mesur llwyth gwaith. Dim ond chwech allan o 28 o ymatebwyr i’n harolwg staff oedd yn teimlo bod eu llwyth gwaith yn hylaw.
- Cafodd llwythi gwaith uchel eu gwaethygu gan salwch staff. Er bod salwch cyfartalog PO wedi gostwng o 18.2 i 14.8 diwrnod, cododd cyfraddau absenoldeb PSO o 8.4 i 11.6 diwrnod. Adroddodd llawer o staff fod eu capasiti wedi’i ymestyn oherwydd bod angen cyflenwi ar gyfer cydweithwyr absennol, gan roi mwy o straen ar y gweithlu.
- Cododd y gyfradd ymadael ar raddfa gweinyddwyr achosion o 14.6 y cant i 20.6 y cant yn y 12 mis cyn yr arolygiad. Er bod hyn wedi’i lywio’n rhannol gan gyfleoedd datblygu cadarnhaol, fe greodd ansefydlogrwydd. Roedd rhai staff gweinyddol yn teimlo fel darnau gwyddbwyll, yn aml yn cael eu hail-leoli i lenwi bylchau brys. Pan gânt eu cyfuno â diffyg sefydlu a hyfforddiant ar gyfer y radd hon, cyfrannodd y ffactorau hyn at deimlad o gael eu tanbrisio a’u gorymestyn.
- Roedd adleoli staff ac ailddosbarthu gwaith yn aml yn adweithiol, hyd yn oed pan ragwelwyd swyddi gwag. Roedd hyn yn arwain at drosglwyddiadau llwyth achosion sydyn rhwng staff, yn aml heb ddigon o amser i ymgyfarwyddo â’u llwyth gwaith cynyddol, gan ychwanegu pwysau a tharfu ar barhad. Mewn sawl achos, anfonwyd PQiPs i dimau a oedd yn wynebu bylchau mewn adnoddau, a oedd mewn perygl o effeithio ar ansawdd eu dysgu a’u datblygiad.
- Roedd lefelau o ddiffyg profiad ar draws graddau, gan gynnwys rheolwyr canol, yn her. Er bod arweinwyr yn cydnabod yr angen i wella arfer, ac roedd rhywfaint o dystiolaeth o weithgarwch rheoli perfformiad ffurfiol ac anffurfiol, roedd y gweithrediad yn anghyson. Mewn rhai achosion, roedd rheolwyr yn betrusgar i fynd i’r afael â thanberfformiad oherwydd pryderon ynghylch gwaethygu salwch staff neu broblemau llesiant. Roedd hyn yn peri risg i arfer gwael ddod yn annatod mewn rhai achosion. Byddai cryfhau cefnogaeth reoli drwy hyfforddi effeithiol a sicrhau llwythi achosion y gellir ymdopi â hwy yn helpu i wreiddio diwylliant gwella mwy ymatebol a gwydn.
- Roedd gan reolwyr canol lwythi gwaith uchel. Cafodd hyn ei waethygu gan lefelau o ddiffyg profiad ar draws graddau; ystyriaethau swyddi gwag a salwch; a phrosesau AD beichus. Nid oedd gan reolwyr amser i gofnodi nifer y trafodaethau achos a gynhaliwyd ganddynt gyda’u staff. Roedd goruchwyliaeth reoli yn effeithiol mewn dim ond 19 y cant o achosion a arolygwyd gennym, gan gynnwys rhai â risgiau ac anghenion cymhleth. Hyd yn oed lle’r oedd goruchwyliaeth yn amlwg, nid oedd bob amser yn nodi diffygion sylfaenol mewn gwaith achos ac yn ysgogi camau cywirol digonol.
- Roedd ansawdd y gweithgarwch asesu, cyflwyno ac adolygu a gwblhawyd gan POs a PQiPs yn amlach yn ddigonol na’r hyn a gwblhawyd gan PSOs1. Roedd rhai PSOs yn pryderu nad oedd eu hyfforddiant wedi eu paratoi’n ddigonol i reoli rhai o’r materion cymhleth sy’n gyffredin yn eu llwythi achosion, megis iechyd meddwl, cam-drin domestig a diogelu plant. Cafodd y pryder hwn ei adleisio gan reolwyr ac roedd yn amlwg yn yr achosion a arolygwyd gennym.
| P 1.3 Gwasanaethau | Gradd |
| Mae ystod gynhwysfawr o wasanaethau o ansawdd uchel ar waith, gan gefnogi gwasanaeth ymatebol wedi’i deilwra i bawb sydd ar brawf. | Angen gwella |
Cryfderau:
- Mewn ymateb i gyfraddau amddifadedd ac aildroseddu yn Nhrelái a Chaerau, cydleolodd arweinwyr staff prawf o fewn prosiect Grand Avenues, gan oruchwylio 130 o unigolion â mynediad at wasanaethau lleol, cefnogaeth y trydydd sector a chyfleoedd gwaith di-dâl. Gyda chefnogaeth 10 mlynedd o gyllid, roedd y prosiect yn cael ei werthuso gan Brifysgol De Cymru, gyda sawl canlyniad cadarnhaol wedi’u nodi. Adroddodd ymarferwyr fod ymgysylltiad a chydymffurfiaeth wedi gwella. Clywodd arolygwyr gan bobl ar brawf am eu profiadau cadarnhaol yn Grand Avenues, gan dynnu sylw at werth dulliau lleol o ran ailintegreiddio i’r gymuned.
- Roedd ymarferwyr prawf wedi’u cydleoli â Cymru Ddiogelach yn yr hwb oedolion ifanc yng Nghaerdydd. Roedd hyn yn caniatáu i bobl ar brawf rhwng 18 a 25 oed gael eu goruchwylio i ffwrdd o’r brif swyddfa. Gallai oedolion ifanc gael mynediad at amrywiaeth o wasanaethau yn yr hwb gan gynnwys mentora, gwasanaethau adsefydlu wedi’u comisiynu a gofynion triniaeth dedfrydau cymunedol, yn ogystal â chymorth ymarferol gyda bwyd a dillad. Siaradodd arolygwyr ag oedolyn ifanc a oedd yn frwdfrydig ynghylch y posibilrwydd o gael ei oruchwylio yn yr hwb, gan ddweud wrthym ei fod yn teimlo’n fwy diogel a chroesawgar na’r brif swyddfa. Disgrifiodd staff yn yr hwb berthnasoedd rhagorol â’u cydweithwyr yn Cymru Ddiogelach a siaradasant ag angerdd am eu gwaith gydag oedolion ifanc.
- Darparodd y PDU PO ar secondiad i ddau dîm Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid (YJS) Caerdydd a’r Fro a disgrifiwyd y perthnasoedd strategol a gweithredol fel rhai cadarnhaol. Roedd yr Hwb Oedolion Ifanc yn cael ei ddefnyddio i gefnogi trosglwyddo pobl ifanc o’r YJS i’r Gwasanaeth Prawf. Cynhaliwyd apwyntiadau ar gyfer y garfan honno yn yr hwb gydag ymarferwyr o YJS a’r gwasanaeth prawf yn ystod y cyfnod trosglwyddo, gan sicrhau trosglwyddiad llyfnach a mynediad cynnar at wasanaethau perthnasol.
- Chwaraeodd ymarferwyr PDU ran bwysig yn y Bartneriaeth Cudd-wybodaeth ar y Cyd (JIP), fforwm amlasiantaeth gyda gwasanaethau carchardai, heddlu a phrawf, gyda’r nod o ymateb i lefelau uchel o droseddu sy’n gysylltiedig â chyffuriau ac oedolion ifanc ar brawf yng Nghaerdydd a’r Fro. Galluogodd y JIP rannu cudd-wybodaeth yn rhagweithiol a rheoli risg cadarn ar gyfer 123 o unigolion nad oeddent yn bodloni’r meini prawf ar gyfer rheoli o dan fframweithiau eraill megis Trefniadau Diogelu’r Cyhoedd Amlasiantaeth (MAPPA) neu reoli troseddwyr integredig (IOM). Ymhlith y materion a drafodwyd roedd troseddau difrifol wedi’u trefnu, caethwasiaeth fodern a chamfanteisio ar blant, gyda’r dull yn gwella goruchwyliaeth a diogelu ar gyfer achosion cymhleth.
- Roedd trefniadau IOM yn gweithio’n dda, gyda chydleoli yn cryfhau’r cydweithio rhwng y gwasanaeth prawf a’r heddlu. Roedd cyfathrebu’n effeithiol drwy gydol y ddedfryd, ac roedd rheoli ar y cyd yn amlwg o fudd i’r ddau achos IOM yn ein sampl. Targedodd prosiect WISDOM (Rheoli Troseddwyr Difrifol a Pheryglus Integredig Cymru) 40 o bobl a gafwyd yn euog o droseddau meddiangar difrifol ledled Caerdydd a’r Fro. Cafodd cynnig y tîm ei wella gan fewnbwn seicoleg a gweithwyr cymorth i oedolion ifanc, gan alluogi cymorth ymarferol yn y gymuned ac ymarfer sy’n wybodus yn seicolegol.
- Darparwyd gwasanaethau camddefnyddio sylweddau a gomisiynwyd ar y cyd drwy Dyfodol. Drwy bartneriaethau effeithiol rhwng y PDU, arweinydd y prosiect camddefnyddio sylweddau rhanbarthol a Dyfodol, roedd y defnydd o ofynion adsefydlu cyffuriau a thriniaeth alcohol wedi cynyddu’n sylweddol ers 2023.
- Roedd gofynion triniaeth iechyd meddwl wedi bod ar gael yn y PDU ers 12 mis ac wedi cael derbyniad da gan ddedfrydwyr ac ymarferwyr. Er bod y niferoedd yn uwch na’r disgwyl i ddechrau, nid oedd rhestrau aros ar y pryd, ac roedd cyllid wedi’i sicrhau ar gyfer adnoddau seicolegwyr ychwanegol ledled De Cymru.
- Cefnogodd y tîm Ailsefydlu, Atgyfeirio a Gwerthuso Gweithredol Canolog (CORRE) atgyfeiriadau amserol i ddarpariaeth CRS ar ddechrau cyfnodau newydd o oruchwyliaeth, er bod angen rhai gwelliannau i drefnu ymyriadau yn fwy gofalus.
Meysydd i’w gwella:
- Roedd y ddarpariaeth i fenywod ar brawf yn amrywio’n sylweddol ar draws y PDU. Yng Nghaerdydd, roedd mynediad at ganolfan menywod Cymru Ddiogelach yn cefnogi dull cydgysylltiedig, wedi’i lywio gan drawma. Mewn cyferbyniad, roedd y ddarpariaeth i fenywod yn y Fro wedi’i chyfyngu i hanner diwrnod yr wythnos i fenywod yn unig gael adrodd yn yr orsaf heddlu. Roedd arweinwyr wedi cydnabod hyn ac yn ystyried sut i wella’r cynnig hwn. Er bod y darparwr CRS, The Nelson Trust, yn cynnig ystod o gefnogaeth, gan gynnwys meithrinfa yn ei ganolfan, roedd ei leoliad y tu allan i ganol y ddinas yn ei gwneud hi’n anodd cyrraedd llawer o fenywod ar brawf. Roedd heriau staffio ar draws asiantaethau yn golygu na ellid darparu’r cynnig llawn bob amser. Adlewyrchwyd hyn mewn cynllunio, cyflwyno ac adolygu gwannach mewn achosion benywaidd o’i gymharu ag achosion gwrywaidd a arolygwyd gennym.
- Ar adeg yr arolygiad, roedd ôl-groniad o fwy na 100 o achosion cymwys ar gyfer MAPPA a oedd angen ystyriaeth o ran gosod lefel, ac roedd bron i 70 o adolygiadau achosion Lefel 1 yn hwyr. Roedd hyn yn golygu bod risg na fyddai unigolion sy’n peri risg i’r cyhoedd yn cael eu hasesu, eu rheoli a’u hadolygu’n briodol. Yn ddiweddar, roedd arweinwyr wedi sefydlu fforymau adolygu gyda’r heddlu i ystyried achosion Lefel un drwy lens amlasiantaeth.
- Nid oedd rhai achosion lefel dau MAPPA yn cael eu trafod yn ddigon cyflym. Mewn dau o’r pedwar achos a arolygwyd gennym, roedd cyfarfodydd cychwynnol wedi’u gohirio. Ers mis Ebrill 2025 bu cynnydd mewn achosion lefel dau, a briodolwyd i gynnydd mewn rhyddhau adalw cyfnod penodol; mwy o achosion cam-drin domestig categori tri; a chodi ymwybyddiaeth yn ddiweddar i ymarferwyr. Roedd partneriaid allweddol, gan gynnwys y Swyddfa Gartref, yn aml yn absennol, a oedd yn golygu bod risg o effeithio ar reoli achosion dinasyddion tramor. Roedd problemau llety mawr yng Nghaerdydd hefyd yn rheswm dros glywed achosion ar lefel dau MAPPA.
- Roedd camau gweithredu o Gynadleddau Asesu Risg Amlasiantaeth (MARAC) yn aml yn aneglur neu’n anghyflawn, gan godi pryderon ynghylch effeithiolrwydd diogelu a rheoli risg ar gyfer dioddefwyr cam-drin domestig. Mewn sawl achos, cafodd atgyfeiriadau gan ymarferwyr prawf mewn perthynas â phryderon ynghylch cam-drin domestig eu methu, eu gohirio, neu eu gwrthod heb gyfiawnhad clir. Roedd arweinwyr wedi nodi MARAC yn briodol fel risg ar eu cofrestr ac roeddent yn rhan o adolygiad parhaus gyda phartneriaid strategol, ond roedd angen gwaith pellach i wella effeithiolrwydd y gwaith yn y maes hwn.
- Nid oedd ymarferwyr bob amser yn ymatebol i anghenion newydd pobl ar brawf, weithiau oherwydd diffyg hyder yn y gwasanaethau a ddarperir drwy CRS. Ar wahân i wasanaeth llety Forward Trust, a oedd wedi’i or-danysgrifio, roedd cyfradd yr atgyfeiriadau a arweiniodd at gychwyniadau a chwblhau yn rhy isel ar draws holl ddarpariaeth CRS. Nid oedd nifer o wasanaethau a gomisiynwyd yn lleol yn cael eu defnyddio digon. Lle gwnaed atgyfeiriadau, nid oedd bob amser yn glir pa waith a wnaed gan ddarparwyr, na sut yr oedd hyn wedi’i gydlynu gan ymarferwyr. Nid oedd peidio ag ymgysylltu â darpariaeth CRS yn cael ei orfodi’n gyson bob amser. Effeithiodd y ffactorau hyn ar effeithiolrwydd y ddarpariaeth mewn rhai achosion.
Amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)
Cryfderau:
- Fel y PDU gyda’r gyfran uchaf o oedolion ifanc yng Nghymru, roedd darpariaeth bwrpasol ar gyfer pobl 18–25 oed ar gael trwy hwb oedolion ifanc Cymru Ddiogelach. Roedd yr elusen genedlaethol, St Giles, hefyd yn darparu gwasanaeth llesiant personol yn benodol ar gyfer y grŵp oedran hwn.
- Roedd Cymru Ddiogelach yn cynnig gwasanaeth i oedolion ifanc ar brawf o gefndir Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Roedd y defnydd cychwynnol o’r cynnig hwn a ariennir gan grant yn araf, fodd bynnag, ers ffurfio’r tîm oedolion ifanc arbenigol mae gwybodaeth a dealltwriaeth o’r cynnig wedi gwella ac mae’n cael ei ddefnyddio. Gallai pobl ar brawf yn y garfan hon gael mynediad at gymorth wedi’i dargedu gyda chyngor ar loches, mewnfudo, budd-daliadau a llety. Roedd gweithiwr ieuenctid ymroddedig yn yr hwb hefyd yn darparu cymorth ymarferol gyda llythrennedd, costau teithio sy’n gysylltiedig â chyflogaeth ac addysg, a mynediad at weithgareddau cynhwysiant cymdeithasol.
- Mewn ymateb i anghydraddoldebau iechyd, cydweithiodd y PDU â’r tîm lleihau aildroseddu a phartneriaid iechyd Caerdydd a’r Fro i ddatblygu cynnig meddygfa deulu, gan ddarparu mynediad brys, presgripsiynu, sgrinio, ac atgyfeiriadau iechyd. Roedd hyn wedi’i ymgorffori yng nghanolfan y menywod ac wedi’i gyflwyno’n ddiweddar yn swyddfa Stryd Westgate. Roedd gwasanaethau hefyd wedi’u comisiynu i gefnogi’r rhai ag anafiadau i’r ymennydd neu unigolion niwroamrywiol.
- Roedd data ynghylch canlyniadau addysg, hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer oedolion ifanc a dynion 40–49 oed wedi arwain at ddarparu digwyddiadau cyngor cyflogaeth ar gyfer y cohortau hynny. Cafwyd adborth hefyd gan gyfranogwyr yn y digwyddiadau hynny a dangosodd amrywiaeth o ganlyniadau, gan gynnwys cofrestru ar gyfer digwyddiadau hyfforddi, cysylltu â chyflogwyr a chyflwyno ceisiadau am swyddi. Dywedodd y rhan fwyaf o’r cyfranogwyr fod y digwyddiadau wedi bodloni neu wedi rhagori ar eu disgwyliadau.
- Roedd gan y PDU gynnig iaith Gymraeg, gan ddyrannu ymarferwyr sy’n rhugl yn y Gymraeg i achosion perthnasol lle gofynnwyd am hynny.
- Dywedodd deuddeg allan o 18 o ymatebwyr i’n harolwg o bobl ar brawf fod eu hymarferydd prawf wedi cymryd yr amser i ddeall eu hanghenion personol yn ystod y cyfnod sefydlu.
Meysydd i’w gwella:
- Roedd yn ymddangos bod ansawdd y gwaith a wnaed i bobl Wyn ar brawf yn ddigonol yn amlach nag i bobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrifoedd ethnig.2
- Gwnaeth arweinwyr ddefnydd effeithiol o ddata tasglu anghymesuredd rhanbarthol i lywio penderfyniadau comisiynu a gwelliannau i wasanaethau. Arweiniodd data ethnigrwydd yn dangos mai Caerdydd a’r Fro oedd y PDU fwyaf amrywiol yng Nghymru at gomisiynu BtheChange. Yn anffodus, roedd cyfraddau atgyfeirio yn rhy isel, ac nid oedd sawl ymarferydd y siaradom â nhw yn ymwybodol o’r gwasanaeth.
2. Cyflenwi’r gwasanaeth (Back to top)
| P 2.1 Asesu | Gradd |
| Mae asesu yn wybodus, yn ddadansoddol ac yn bersonol, gan gynnwys y person sydd ar brawf yn weithredol. | Annigonol |
Mae ein gradd3 am asesu yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a farnwyd yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei llywio gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
| A yw asesu yn canolbwyntio digon ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf? | 53% |
| A yw asesu yn canolbwyntio digon ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymatal? | 75% |
| A yw asesu yn canolbwyntio digon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 24% |
- Roedd asesiadau bron bob amser yn ystyried pa mor frwdfrydig oedd pobl ar brawf i ymgysylltu a chydymffurfio â’u dedfryd. Mewn dwy ran o dair o achosion, ystyriodd ymarferwyr effaith amgylchiadau personol, fel cyflogaeth a gofal plant, a allai ddylanwadu ar lefelau ymgysylltiad. Roedd gweithgarwch ymgysylltu mewn achosion ailsefydlu yn gryfder penodol, wedi’i ategu gan lefelau da o gyswllt cyn rhyddhau gan ymarferwyr.
- Cafodd gweithgarwch ymgysylltu ei wanhau gan asesiad anghyson o nodweddion gwarchodedig. Mewn sawl achos, ni chanfu arolygwyr unrhyw dystiolaeth bod amrywiaeth wedi’i thrafod ar ddechrau’r oruchwyliaeth. Roedd hyn yn golygu nad archwiliwyd ffactorau allweddol fel anabledd, diwylliant, crefydd ac iaith yn ystyrlon ac o ganlyniad, collwyd cyfleoedd pwysig i ddeall effaith y ffactorau allweddol hyn ar ymgysylltiad.
- Gallai ymarferwyr nodi ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu yn rheolaidd, ac yn aml roedd asesiadau’n defnyddio dull yn seiliedig ar gryfderau, gan nodi dylanwadau cadarnhaol a rhwydweithiau cymorth a allai helpu i ddatblygu ffyrdd o fyw mwy sefydlog. Roedd y gwaith hwn yn arbennig o gryf yn yr achosion hynny a gafodd eu rhyddhau o’r ddalfa.
- Roedd gwaith i asesu diogelwch eraill yn annigonol mewn llawer gormod o achosion. Roedd pryderon ynghylch diogelu plant yn bresennol mewn 68 y cant o’r achosion a arolygwyd gennym, ond roedd gan lai na hanner yr achosion perthnasol fynediad at ddigon o wybodaeth i lywio asesiadau. Yn aml, roedd ceisiadau diogelu a wnaed yn y llys heb ymateb neu’n brin o fanylion digonol, ac nid oedd ymarferwyr yn dilyn i fyny ar hyn yn gyson gyda gofal cymdeithasol plant. Er bod gwelliannau diweddar o ran amseroldeb rhannu gwybodaeth yn galonogol, roedd yr ansawdd yn parhau i fod yn wael, yn aml yn brin o’r manylion sydd eu hangen i wneud asesiadau gwybodus. Yn hollbwysig, hyd yn oed pan oedd gwybodaeth diogelu ar gael, dim ond mewn 15 allan o 49 o asesiadau perthnasol y cafodd ei defnyddio’n effeithiol, gan adlewyrchu diffyg chwilfrydedd proffesiynol a thrylwyredd mewn arferion diogelu sy’n peri pryder.
- Er bod mynediad at wybodaeth am gam-drin domestig gan yr heddlu yn gyffredinol well, roedd ei defnydd effeithiol mewn asesiadau risg yn parhau i fod yn anghyson, sy’n achosi pryder. Gwnaeth ymarferwyr ddefnydd ystyrlon o’r wybodaeth hon mewn 21 yn unig allan o 49 o achosion perthnasol. Yn rhy aml, roeddent yn dibynnu ar wybodaeth sydd wedi dyddio neu’n methu â dadansoddi patrymau ymddygiad a oedd yn amlwg yng nghofnodion yr heddlu. Roedd hyn yn cyfyngu ar eu hadnabyddiaeth a’u dealltwriaeth o’r risgiau a achosir i ddioddefwyr posibl, fel aelodau o’r teulu a phartneriaid newydd, ac yn arwain at golli cyfleoedd i ddiogelu’r rhai sydd mewn perygl o niwed yn llawn.
| P 2.2 Cynllunio | Gradd |
| Mae cynllunio yn wybodus, yn ddadansoddol ac yn bersonol, gan gynnwys y person sydd ar brawf yn weithredol. | Annigonol |
Mae ein gradd4 am gynllunio yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a farnwyd yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei lywio gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
| A yw cynllunio yn canolbwyntio digon ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf? | 59% |
| A yw cynllunio yn canolbwyntio digon ar leihau aildroseddu a chefnogi ymatal? | 71% |
| A yw cynllunio yn canolbwyntio digon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 37% |
- Roedd cyfranogiad tîm CORRE wrth gwblhau cynlluniau dedfrydu yn llywio cynllunio ymatal o ansawdd da. Roedd amcanion cynhwysfawr a oedd yn targedu ffactorau ymatal allweddol yn amlwg mewn tua thri chwarter o’r achosion a arolygwyd gennym. Roedd hyn yn arbennig o effeithiol pan oedd staff CORRE, ymarferwyr a phobl ar brawf yn cymryd rhan mewn trafodaethau ystyrlon am y gwaith oedd ei angen yn ystod y ddedfryd; yn ei drefnu’n ofalus; yn ystyried lefelau cymhelliant i ymgysylltu; ac yn nodi atebion ar gyfer rhwystrau posibl.
- Arweiniodd diffygion wrth asesu nodweddion gwarchodedig at gynllunio nad oedd yn mynd i’r afael yn gyson â rhwystrau allweddol i ymgysylltu. Nid oedd hyn yn ddigonol mewn mwy na hanner yr achosion perthnasol. Lle anwybyddwyd ethnigrwydd a diwylliant, methodd cynlluniau ag adlewyrchu’r profiadau bywyd a’r rhwystrau posibl a wynebir gan unigolion, megis gwahaniaethu, anghenion iaith, neu ddiffyg cefnogaeth gymunedol. Nid oedd ymarferwyr bob amser yn ystyried sut i ymgysylltu’n ystyrlon â phobl niwroamrywiol ar brawf neu’r rhai ag anghenion iechyd mewn gofynion allweddol fel gwaith di-dâl, neu gydag asiantaethau partner sy’n cyflawni elfennau o’r cynllun.
- Roedd rhy ychydig o gynlluniau (17 allan o 53 o achosion perthnasol) yn cysylltu â gwaith asiantaethau diogelu’r cyhoedd eraill, ac roedd diffygion wrth nodi’r holl ddioddefwyr perthnasol a materion risg yn golygu bod llai na hanner y cynlluniau wedi mynd i’r afael â phob ffactor risg o niwed. Tanseiliodd hyn effeithiolrwydd rheoli risg. Roedd angen i gynllunio fod yn fwy cydweithredol a chael ei lywio gan wybodaeth ddadansoddol amserol.
- Roedd angen gwella cynllunio wrth gefn yn y rhan fwyaf o’r achosion a arolygwyd gennym (32 allan o 58 o achosion perthnasol). Canfu arolygwyr sawl enghraifft o gynlluniau wrth gefn a oedd yn fformiwlaidd ac nad oeddent yn cynllunio ar gyfer senarios critigol, fel torri diogelwch neu gysylltiad â dioddefwyr posibl. O ganlyniad, roedd cynlluniau’n aneffeithiol o ran cefnogi ymatebolrwydd ymarferwyr i uwchgyfeirio risgiau.
| P 2.3. Gweithredu a chyflenwi | Gradd |
| Darperir gwasanaethau o ansawdd uchel sydd wedi’u ffocysu’n dda, wedi’u personoli a’u cydgysylltu, gan ymgysylltu â’r person sydd ar brawf. | Annigonol |
Mae ein gradd5 am weithredu a chyflenwi yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a farnwyd yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei llywio gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
| A yw’r ddedfryd neu’r cyfnod ar ôl y ddalfa yn cael ei weithredu’n effeithiol gyda ffocws ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf? | 54% |
| A yw gweithredu a chyflenwi gwasanaethau yn cefnogi ymatal yn effeithiol? | 37% |
| A yw gweithredu a chyflenwi gwasanaethau yn cefnogi diogelwch pobl eraill yn effeithiol? | 19% |
- Dywedodd mwyafrif rhesymol (13 allan o 18) o’r ymatebwyr i’n harolwg o bobl ar brawf fod ganddynt berthynas dda â’u hymarferydd prawf, a chanfu arolygwyr fod ffocws digonol ar gynnal perthynas waith effeithiol mewn 70 y cant o’r achosion a arolygwyd.
- Dangosodd ymarferwyr hyblygrwydd yn eu dull ac yn eu hystyriaeth o amgylchiadau personol yn y rhan fwyaf o’r achosion a arolygwyd gennym (84 y cant). Fodd bynnag, dylid cymryd gofal i gynnal cydbwysedd priodol rhwng hyblygrwydd a gorfodi. Cymerwyd camau gorfodi annigonol mewn 16 allan o 45 o achosion perthnasol. Roedd hyn yn amlwg mewn perthynas â phresenoldeb mewn gwaith di-dâl ac apwyntiadau CRS, gyda thystiolaeth annigonol wedi’i darparu ar gyfer absenoldebau a gweithgarwch gorfodi oedi neu absennol. Roedd hyn yn peryglu tanseilio hygrededd goruchwyliaeth prawf, gwanhau atebolrwydd, a lleihau effeithiolrwydd ymyriadau adsefydlu.
- Er i ni weld cynllunio o ansawdd da yn gyson yn gysylltiedig ag ymatal, roedd gostyngiad amlwg yn nifer y cynlluniau hynny a oedd yn ddigonol. Roedd hyn hefyd yn amlwg mewn achosion a oedd yn destun Ailosod y Cyfnod Prawf, er gwaethaf y fenter hon yn ceisio gosod ymyriadau yn brydlon yng nghyfnodau cynnar y ddedfryd.
- Nid oedd pobl ar brawf yn cael digon o fynediad at wasanaethau a anelir at hyrwyddo eu hatal rhag troseddu a lleihau eu risg o niwed. Roedd cyfraddau atgyfeirio i’r ystod o ddarparwyr CRS wedi cynyddu yn y 12 mis cyn yr arolygiad ac roedd darpariaeth CRS wedi’i chynnig mewn 37 allan o 51 o achosion perthnasol yn ein harolygiad. Fodd bynnag, roedd cyfraddau cyflawni yn llawer rhy isel ar draws yr holl wasanaethau a gomisiynwyd i helpu pobl ar brawf i fynd i’r afael â phroblemau sy’n gysylltiedig â’u troseddu. Roedd data ar gyfraddau cwblhau ar gyfer darpariaeth CRS yn peri pryder, ac roedd sawl gwasanaeth a gomisiynwyd yn lleol, fel Brainkind a BtheChange, yn cael eu tanddefnyddio. Dim ond wyth allan o 16 o ymatebwyr perthnasol i’n harolwg o bobl ar brawf a deimlai fod ganddynt fynediad at y gwasanaethau gofynnol.
- Er gwaethaf nifer uchel y troseddau sy’n gysylltiedig â sylweddau yng Nghaerdydd a’r Fro, roedd effaith y gwasanaethau yn gyfyngedig. Dim ond chwech allan o 31 o achosion perthnasol a gafodd ddigon o gefnogaeth ar gyfer camddefnyddio alcohol, a dim ond saith allan o 39 o achosion perthnasol ar gyfer camddefnyddio cyffuriau. Nid oedd cyfathrebu gan ymarferwyr â Dyfodol ynghylch profion cyffuriau yn gyson. Tanseiliodd hyn ymdrechion i fynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau a risg a lleihau effeithiolrwydd gofynion adsefydlu.
- Cododd ymarferwyr bryderon ynghylch ansawdd y ddarpariaeth gan rai darparwyr gwasanaethau adsefydlu a gomisiynwyd, gan nodi gorddibyniaeth ar apwyntiadau dros y ffôn, cyfathrebu gwael, a thystiolaeth gyfyngedig o ganlyniadau cadarnhaol i’r bobl yr oeddent yn eu goruchwylio. Effeithiodd y materion hyn ar hyder ymarferwyr yn effeithiolrwydd ymyriadau ac roeddent yn peryglu datgysylltu o waith adsefydlu. Er bod camau wedi’u cymryd (megis cydleoli a briffiau rheolaidd) i gryfhau perthnasoedd a gwella dealltwriaeth, roedd angen cymryd camau pellach.
- Roedd angen gwelliannau brys i wella ansawdd y gwaith a gyflawnwyd i gadw pobl yn ddiogel, a barnwyd bod hyn yn ddigonol mewn llai nag un o bob pum achos a arolygwyd gennym. Roedd diogelu dioddefwyr gwirioneddol a phosibl yn ddigonol mewn 15 allan o 54 o achosion perthnasol. Nododd arolygwyr fylchau difrifol mewn gweithio amlasiantaeth a rhannu gwybodaeth, yn enwedig mewn achosion cam-drin domestig a diogelu plant. Nid oedd cyfranogiad asiantaethau eraill wrth reoli a lleihau’r risg o niwed wedi’i gydlynu’n ddigonol mewn 31 allan o 48 o achosion perthnasol, gan arwain at ddull digyswllt o reoli risg. Roedd angen gwelliannau yn hyder ymarferwyr i godi her broffesiynol lle bo’n briodol a dwyn partneriaid i gyfrif am yr elfennau o’r ddarpariaeth yr oeddent yn gyfrifol amdanynt. Roedd angen dull mwy cydweithredol o ddarparu gwasanaethau ar frys ar draws yr ystod o bartneriaethau gweithredol.
| P 2.4. Adolygu | Gradd |
| Mae adolygu cynnydd yn wybodus, yn ddadansoddol ac yn bersonol, gan gynnwys y person sydd ar brawf yn weithredol. | Annigonol |
Mae ein gradd6 am adolygu yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a farnwyd yn foddhaol yn erbyn tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei llywio gan y sgôr isaf:
| Cwestiwn allweddol | Canran ‘Ydy’ |
| A yw adolygu yn canolbwyntio digon ar gefnogi cydymffurfiaeth ac ymgysylltiad y person sydd ar brawf? | 64% |
| A yw adolygu yn canolbwyntio digon ar gefnogi ymatal? | 51% |
| A yw adolygu yn canolbwyntio digon ar gadw pobl eraill yn ddiogel? | 36% |
- Roedd adolygiad ysgrifenedig yn y rhan fwyaf o achosion, er mai dim ond 43 y cant o bobl ar brawf oedd wedi cael eu cynnwys yn ystyrlon yn yr adolygiad o’u cynnydd. Nid oedd ymarferwyr bob amser yn defnyddio adolygu i annog pobl ar brawf i ymgysylltu â’u dedfrydau, ac nid oedd cynnydd yn cael ei gofnodi ym mhob achos a arolygwyd gennym.
- Mewn 27 allan o 51 o achosion perthnasol, nid oedd y gweithgarwch adolygu yn ystyried yn llawn newidiadau mewn ffactorau sy’n gysylltiedig ag ymddygiad troseddol nac yn arwain at addasiadau i’r cynllun gwaith. Roedd hyn wedi’i ategu gan ystyriaeth annigonol o wybodaeth gan asiantaethau eraill sy’n gweithio gyda’r unigolyn.
- Nid oedd risg bob amser yn cael ei rheoli’n weithredol yng Nghaerdydd a’r Fro. Nid oedd yr adolygu yn ddigon ymatebol i risg sy’n dod i’r amlwg mewn 30 allan o 51 o achosion perthnasol. Dim ond 28 allan o 51 o adolygiadau perthnasol a ddefnyddiodd fewnbwn gan asiantaethau eraill sy’n ymwneud â rheoli’r risg o niwed, gan arwain at gyfyngiadau ar gywirdeb y gweithgarwch adolygu. Yn aml, roedd ymarferwyr yn methu ag ymgysylltu ag unigolion allweddol, fel aelodau o’r teulu a gweithwyr proffesiynol eraill. Roedd y ffactorau hyn yn golygu nad oedd gan ymarferwyr wybodaeth gyfoes a chywir bob amser i adolygu ffactorau deinamig ac ymateb yn unol â hynny.
Rhagor o wybodaeth (Back to top)
Mae data llawn o’r arolygiad hwn a rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynnal yr arolygiad hwn ar gael yn yr atodiad data.
Mae rhestr o’r termau a ddefnyddiwyd yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.
Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Helen Cox, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob cwr o’r Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd yn yr arolygiad hwn. Heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosibl.
- Nid yw’r canfyddiadau sy’n ymwneud â graddau staff wedi bod yn destun dadansoddiad mynegai cyfraddau cymharol, sef prawf a ddefnyddir i gymharu cyfraddau achosion, ac rydym yn adrodd ar ein canfyddiadau gyda’r rhybudd hwnnw. ↩︎
- Nid yw’r canfyddiadau sy’n ymwneud ag ethnigrwydd wedi bod yn destun dadansoddiad mynegai cyfraddau cymharol, sef prawf a ddefnyddir i gymharu cyfraddau achosion, ac rydym yn adrodd ar ein canfyddiadau gyda’r rhybudd hwnnw. ↩︎
- Mae’r radd ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei rhoi mewn band graddio. Mae data llawn a gwybodaeth bellach am fethodoleg yr arolygiad ar gael yn yr atodiad data. ↩︎
- Mae’r radd ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei rhoi mewn band graddio. Mae data llawn a gwybodaeth bellach am fethodoleg yr arolygiad ar gael yn yr atodiad data. ↩︎
- Mae’r radd ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei rhoi mewn band graddio. Mae data llawn a gwybodaeth bellach am fethodoleg yr arolygiad ar gael yn yr atodiad data. ↩︎
- Mae’r radd ar gyfer y safon yn cael ei llywio gan y sgôr isaf ar bob un o’r cwestiynau allweddol, sy’n cael ei rhoi mewn band graddio, wedi’i nodi mewn print bras yn y tabl. ↩︎