Skip to content

All content is available under the Open Government Licence v3.0, except where otherwise stated.

To view this licence, visit:
https://nationalarchives.gov.uk/doc/open-government-licence/version/3

or write to:
Information Policy Team,
The National Archives,
Kew,
London TW9 4DU

or email: psi@nationalarchives.gov.uk.

This publication is available at:
https://hmiprobation.justiceinspectorates.gov.uk.

Arolygiad o’r gwasanaethau prawf yn Nyfed Powys

Published:

Rhagair (Back to top)

Roedd y tîm arwain yn Uned Gyflawni Gwasanaeth Prawf Dyfed Powys yn llawn cymhelliant ac ymrwymiad i’w galluogi i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel. Dangosodd yr ymarferwyr sgiliau cadarn i ymgysylltu ag unigolion drwy gydol eu dedfryd, gan gynnwys wrth asesu a chynllunio gwaith i roi sylw i’w hymddygiad troseddol a’u cefnogi i ymatal.

Fodd bynnag, yn unol â chanfyddiadau arolygiadau o Unedau Cyflawni Gwasanaeth Prawf eraill, roedd ansawdd y gwaith i ddiogelu’r cyhoedd yn annigonol ar yr holl feysydd rheoli dedfrydau, roedd y gwasanaethau i helpu pobl newid agweddau ac ymddygiad yn cael eu gweithredu a’u darparu’n annigonol mewn gormod o achosion.

O ganlyniad, cafodd yr Uned sgôr ‘Angen gwella’ yn gyffredinol.

Roedd ymrwymiad pennaeth yr Uned i welededd ar draws ardal eang i’w ganmol ac roedd y staff yn gwerthfawrogi hynny. Roedd yr arfer o ddaearu ffactorau dynol yn ategu’r gweithrediadau dyddiol, gan geisio oresgyn rhagfarnau, cyfyngu ar batrymau meddwl a hyrwyddo diogelwch seicolegol. Roedd hyn yn golygu bod staff a phartneriaid yn gallu herio a mynegi pryderon ar draws pob gradd ac yn cael y cyfle i wneud hynny. O ganlyniad, roedd y rhan fwyaf o’r timau yn teimlo’n gydlynol ac yn gefnogol ac yn annog y rhinweddau hyn mewn timau eraill pan oedd yr angen yn codi. Roedd hyn yn ganmoladwy iawn yn achos timau gwledig a oedd yn teithio cryn bellter rhwng swyddfeydd lle’r oedd absenoldeb un aelod staff yn herio cadernid y tîm. O’r herwydd, er bod y lefelau staffio yn ymddangos yn iach ar bapur, ni theimlai’r holl staff fantais hyn yn ystod eu hwythnos waith.

O ystyried y diwylliant o dryloywder a gwelededd, nid oedd yn syndod bod ymgysylltu â phobl ar brawf yn un o gryfderau’r Uned hon ar draws yr holl feysydd rheoli dedfrydau. Dangosodd yr ymarferwyr degwch a hyblygrwydd yn eu gwaith, ac roedd gweithgarwch cynllunio ymhlith y mwyaf cadarn a welsom. Fodd bynnag, nid oedd yr ymarferwyr bob amser yn defnyddio’r ymgysylltiad cadarn hwn fel cyfrwng ar gyfer gwaith diogelu’r cyhoedd. Er bod y staff yn meddu ar y sgiliau ymgysylltu a chyfathrebu priodol, ceid diffyg trafodaeth dryloyw am y plant ym mywydau’r rhai y maent yn eu goruchwylio yn aml.

Yn bryderus, gwelsom nad oedd yr ymarferwyr bob amser yn cael gweld gwybodaeth yr heddlu am hanes cam-drin domestig eu hachosion yn gyflym a dirwystr. Roedd hyn yn eu hatal rhag cael dealltwriaeth lawn o risg a chywirdeb yr asesiadau. Roedd yr arweinwyr yn ymwybodol o hyn ac wedi gwneud gwelliannau amlwg ond roedd mwy i’w wneud o hyd.

Mae gan Ddyfed Powys y diwylliant a’r potensial i roi sylw i’r materion hyn. Roedd yr arweinwyr yn brofiadol ac yn rhoi sylw i’r rhan fwyaf o’r ffactorau a oedd yn rhwystro gwaith amddiffyn y cyhoedd effeithiol. Dymunwn yn dda iddynt yn eu cynlluniau newydd i sbarduno gwelliant.

Martin Jones CBE 

Prif Arolygydd Prawf EF


Sgoriau (Back to top)

Dechrau’r gwaith maes ym mis Awst 2025Sgôr 4/21
Sgôr gyffredinolAngen gwella
  1. Trefniadau a gweithgareddau’r sefydliad
P 1.1 ArweinyddiaethDa
P 1.2 StaffioAngen gwella
P 1.3 GwasanaethauAngen gwella
  1. Cyflenwi gwasanaeth
P 2.1 AsesuAnnigonol
P 2.2 CynllunioAnnigonol
P 2.3 Gweithredu a darparuAnnigonol
P 2.4 AdolyguAnnigonol

Argymhellion (Back to top)

O ganlyniad i ganfyddiadau ein harolygiad, rydym wedi gwneud nifer o argymhellion y credwn y byddant, os cânt eu gweithredu, yn cael effaith gadarnhaol ar ansawdd y gwasanaethau prawf.

Dylai Dyfed Powys wneud y canlynol:

  1. gwneud trefniadau gyda Heddlu Dyfed Powys i’w galluogi i gael gafael, ar unwaith ac yn ddirwystr, ar wybodaeth am gam-drin domestig y mae pobl ar brawf wedi’i gyflawni
  2. sicrhau bod gwybodaeth am gam-drin domestig a diogelu yn cael ei dadansoddi’n ddigonol i lywio ansawdd y dulliau o asesu, cynllunio a rheoli pobl sydd ar brawf
  3. cynnal dadansoddiad o sgiliau, gwybodaeth a phrofiad o fewn y grŵp ymarferwyr a rhoi system ar waith i sicrhau bod y gwersi a ddysgwyd wedi cael eu cyfuno yn yr ymarfer
  4. sicrhau bod cyfleusterau i gyfweld pobl ar brawf yn ddiogel, yn breifat ac yn addas ar gyfer y cysylltiadau hyn, a bod y staff yn ymwybodol o’r holl fesurau iechyd a diogelwch sydd ar waith i reoli unrhyw risg
  5. cysylltu â darparwyr gwasanaethau lleol i sicrhau eu bod yn rhoi cymorth o ansawdd uchel i bawb sydd ar brawf.

Cefndir (Back to top)

Fe wnaethom y gwaith maes yn Nyfed Powys dros gyfnod o bythefnos, gan ddechrau ar 11 Awst 2025. Fe wnaethom arolygu 27 o orchmynion cymunedol a 18 o achosion o ryddhau ar drwydded o’r ddalfa lle’r oedd dedfrydau a thrwyddedau wedi dechrau yn ystod dwy wythnos wahanol, rhwng 30 Rhagfyr a 05 Ionawr 2025 a 10 a 16 Chwefror 2025. Rydym hefyd wedi cynnal 40 o gyfweliadau gydag ymarferwyr prawf.

Dyfed Powys sydd â’r ardal fwyaf o blith chwe Uned Gyflawni Prawf yn rhanbarth Cymru y Gwasanaeth Prawf. Mae’n ardal wledig yn bennaf, ac yn cwmpasu dros hanner arwynebedd Cymru. Mae pobl ar brawf yn adrodd i swyddfeydd yn Aberystwyth, y Drenewydd, Aberhonddu, Llandrindod, Llanelli, Hwlffordd a Chaerfyrddin. Ceir hefyd ganolfan adrodd ran-amser yn Aberteifi. Mae’r staff a gyflogir gan yr Uned yn ysgrifennu adroddiadau cyn dedfrydu ar gyfer llysoedd ynadon yn Aberystwyth, Hwlffordd, Llanelli a’r Trallwng. Nid oes dim Llysoedd y Goron, adeiladau cymeradwy na charchardai yn yr ardal sy’n rhan o’r Uned Gyflawni.

Mae’r Uned yn cwmpasu ardal sy’n cynnwys 524,219 o bobl ac sy’n cael ei llywodraethu gan bedwar awdurdod lleol: Powys, Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin, ac mae gan bob un ohonynt wasanaeth cyfiawnder ieuenctid ar wahân. Heddlu Dyfed Powys yw’r heddlu lleol. Mae’r Uned yn goruchwylio 850 o bobl sydd ar ddedfrydau cymunedol a 393 o bobl ar drwydded o’r carchar. Roedd yr Uned wedi goruchwylio 272 o bobl yn y ddalfa cyn iddynt gael eu rhyddhau. Pobl ddu, Asiaidd ac ethnig leiafrifol oedd i gyfrif am dri y cant o’r llwyth achosion; mae’r ffigur hwn yn is na’r ffigur cyfartalog rhanbarthol, ac roedd gan ddwy ran o dair o’r bobl ar brawf anabledd, mae’r ffigur hwn yn uwch na’r ffigur cyfartalog rhanbarthol. Roedd pennaeth y gwasanaeth wedi bod yn ei swydd ers tua naw mis adeg yr arolygiad ac roedd yn cael ei gefnogi gan uwch reolwr cymorth gweithredol a oedd hefyd wedi bod yn ei swydd am naw mis.

Yn ôl y targed staffio, roedd yr Uned wedi’i staffio’n llawn ar draws pob gradd, ac roedd mwy na’r lefel staffio lawn i’w chael ar gyfer rhai graddau. Roedd nifer o staff yn cael eu hyfforddi i fod yn swyddogion prawf dan y Cymhwyster Proffesiynol mewn Gwaith Prawf (PQiP).

Roedd Gwasanaethau Adsefydlu wedi’u comisiynu ar gael ledled Dyfed Powys ar gyfer pobl ar brawf. Y darparwyr oedd Forward Trust ar gyfer llety, St Giles Wise ar gyfer lles personol a chyllid, budd-daliadau a dyledion, The Nelson Trust ar gyfer gwasanaethau menywod a Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Dyfed a Kaleidoscope ar gyfer dibyniaeth ar gyffuriau ac alcohol ac adferiad.

Roedd polisi Ailosod y Gwasanaeth Prawf yn weithredol adeg yr arolygiad.[1] Roedd pump o’r 45 achos a arolygwyd gennym yn dod dan bolisi Ailosod y Gwasanaeth Prawf, gydag un ohonynt yn defnyddio safonau addasedig yr Uned.[2]


1. Trefniadau a gweithgarwch sefydliadol (Back to top)

P 1.1. ArweinyddiaethSgôr
Mae arweinyddiaeth yr Uned yn golygu bod modd darparu gwasanaeth ymatebol, personol, o safon uchel i bawb sydd ar brawf. Da

Cryfderau:

  • Roedd gan yr Uned Gyflawni strategaeth glir a oedd yn cyd-fynd ag amcanion rhanbarthol a chenedlaethol. Fodd bynnag, nid oedd hyn bob amser yn cael ei drosi’n wasanaeth o ansawdd uchel. Gwelsom waith cadarnhaol sylweddol i annog y bobl sydd ar brawf a’u helpu i ymatal, yn enwedig yng ngham asesu a chynllunio eu dedfryd. Fodd bynnag, nid oedd hyn wedyn yn arwain at waith digonol i gadw pobl yn ddiogel yn gyffredinol.
  • Dywedwyd bod yr uwch arweinwyr yn weladwy ac agos-atoch. Cynhaliwyd sesiynau gwirio ffactorau dynol dyddiol gyda rheolwyr canol a oedd yn darparu fforwm cyson ac atebol ar gyfer cefnogi ei gilydd. Roedd hyn yn wir am bob swyddfa lle’r oedd y rheolwyr canol yn cynnal galwadau dyddiol gyda’u timau staff.
  • Roedd yr uwch arweinwyr yn uchel eu parch ymysg partneriaid strategol ac fe’u disgrifiwyd fel rhai a oedd yn gefnogol ac yn weithredol mewn cyfarfodydd bwrdd ac mewn darnau unigol o waith. Roedd bylchau diweddar mewn cynrychiolaeth wedi cael eu nodi ac wedi cael sylw ers i’r uwch arweinwyr newid. Roedd y gynrychiolaeth a’r gweithgarwch ar fyrddau llywodraethu gyda phartneriaid, a’r cyswllt anffurfiol, yn ardderchog ac ystyried yr ardal eang a nifer yr awdurdodau lleol. Mae’r perthnasoedd proffesiynol hirsefydlog rhwng partneriaid wedi bod yn allweddol i allu herio a sbarduno newid ystyrlon.
  • Roedd yr Uned yn gweithredu gyda’r nod o fod yn dryloyw ac yn agored i’w herio fel rhan o ddull ffactorau dynol. Ceid cyfleoedd dyddiol i staff drafod eu gwaith, cynllunio llwythi gwaith a dathlu llwyddiant.
  • Roedd gwaith ar y cyd â phartneriaid strategol i wella mynediad at wybodaeth am gam-drin domestig wedi arwain at rai gwelliannau yn ystod y naw mis diwethaf, ers i bennaeth y gwasanaeth ddechrau yn ei swydd. Roedd yr amseroedd aros ar gyfer ymatebion yr heddlu i ymholiadau ar ddechrau dedfryd wedi lleihau o wyth wythnos i ddwy i dair wythnos. Roedd angen gwella hyn ymhellach, ond cadarnhaodd yr uwch randdeiliaid fod yr Uned yn ymdrechu i sicrhau lle amlwg i rannu gwybodaeth ar agendâu cyfarfodydd.
  • Roedd y gweithgaredd i wella’r cyflawni gweithredol yn cael ei sbarduno gan ganlyniadau’r archwiliadau mewnol. Roedd hyn yn cynhyrchu cynlluniau chwarterol, gan groesgyfeirio at gynlluniau ansawdd rhanbarthol. Roedd yr Uned hefyd wedi creu cynllun datblygu a oedd yn seiliedig ar flaenoriaethau canolog, asesiadau o’r hinsawdd lleol ac arolygon staff. Roedd hyn yn golygu bod gwaith rheng flaen yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, gan ymgorffori mewnbwn ar draws graddfeydd.
  • Roedd pennaeth y gwasanaeth yn cwrdd â’r rheolwyr canol bob mis i drafod sut oeddent am roi’r amcanion strategol ar waith, gan ganolbwyntio ar weithredu a’r effaith ar bobl ar brawf. Roedd cyfarfodydd wythnosol yn canolbwyntio mwy ar gydlyniad timau a materion a oedd yn codi ac roeddent yn caniatáu i dîm rheoli gwasgaredig ddod at ei gilydd.
  • Roedd y dull o ymgysylltu â phobl ar brawf wedi’i sefydlu’n dda, gyda gweithgarwch penodol ar gyfer casglu barn menywod a phobl a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol. Roedd cydlynwyr y gwaith hwn yn angerddol ac yn ddymunol, a defnyddient sgiliau’r cyfranogwyr i sbarduno cynlluniau a fyddai’n gwella profiad yr unigolyn o’r gwasanaeth prawf, gan arwain at ymgysylltiad hirdymor. Ymgynghorwyd â’r cyfranogwyr ynghylch pecynnau cynefino ac roeddent yn datblygu eu syniadau eu hunain am gynllun mentora i bobl sy’n gadael y carchar, a phrosiect celf a fwriedir i annog twf personol.
  • Yn ôl ein harolwg staff, gwnaed addasiadau rhesymol ar gyfer staff ag anableddau, gyda chwech o’r saith aelod o staff a oedd angen cymorth yn ei gael. Roedd yr Uned hefyd yn annog ceisiadau i weithio oriau hyblyg gan fod Dyfed Powys yn ardal mor eang.
  • Roedd yr Uned wedi arwain Adolygiad Ymarfer Oedolion yn ddiweddar yn dilyn marwolaeth person agored i niwed ar brawf. Roeddent hefyd yn plethu’r dull ffactorau dynol o ddysgu oddi wrth adolygiadau o Droseddau Difrifol Pellach ar ffurf ymarferiad esgyrn pysgod. Fel rhan o’r ymarferiad hwn buont yn myfyrio ac yn cydweithio â phartneriaid, gan gynnwys adolygwyr Troseddau Difrifol Pellach rhanbarthol, i fapio ffactorau cyfranogol posibl, gyda ffocws ar faterion systemig. Roedd y gwersi a ddysgwyd oddi wrth adolygiadau o Droseddau Difrifol Pellach ac adolygiadau o achosion difrifol eraill yn cael eu rhannu gyda’r grŵp dysgu arferion gorau yn ogystal ag yn llywio diwrnodau datblygu gwarchodedig a ddarperir yn yr Uned.
  • Roedd pob cynllun dedfrydu yn cael ei gwblhau ar y cyd â thîm CORRE mewnol penodol (hyb Gweithredol, Adsefydlu, Atgyfeirio a Gwerthuso Canolog) a oedd yn dewis ymyriadau priodol ac yn gwneud yr atgyfeirio. Roedd gan yr ymarferwyr hefyd gyfeiriadur o wasanaethau a gomisiynir ac nas comisiynir i gyfeirio pobl sydd ar brawf atynt os oedd eu hanghenion yn newid wrth iddynt symud drwy eu dedfryd. Nod y broses hon oedd sicrhau bod yr ymyriadau iawn yn cael eu dewis a sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu’r brydlon. Roedd hyn hefyd o fantais gan ei fod yn ysgafnu rhywfaint ar lwyth gwaith yr ymarferwyr rheng flaen. Fodd bynnag, nid oedd yr holl staff yn glir ynghylch cylch gwaith CORRE, ac roedd hynny wedi arwain at fylchau posibl mewn atgyfeiriadau, yn enwedig yng nghamau diweddarach dedfrydau. Roedd yr uwch arweinwyr yn dwyn ymarferwyr i gyfrif am gynlluniau nad oeddent yn cael eu cwblhau gyda thîm CORRE, ac roedd effeithiolrwydd y system yn cael ei fonitro.
  • Roedd yr uwch arweinwyr wedi cynnal adolygiad o ddiogelwch staff yn dilyn digwyddiad difrifol. Cynhaliwyd adolygiad ar unwaith yn y swyddfa lle digwyddodd, gan arwain at newid lleoliad y larymau panig, y trefniadau mewn argyfwng a gosod ffonau ychwanegol yn y dderbynfa. Arweiniodd hyn at gynnal adolygiad o’r mesurau diogelwch yn y saith swyddfa, ac o ganlyniad, cafodd y mannau cudd eu nodi a gosodwyd teledu cylch cyfyng yno. Cafodd y staff yr oedd y digwyddiad wedi effeithio arnynt gynnig cwnsela ar y diwrnod gwaith canlynol, ynghyd ag absenoldeb tosturiol a dyletswyddau amgen dros dro os oedd angen. Roedd un ar bymtheg o’r 19 a ymatebodd i’n harolwg staff yn teimlo bod digon o sylw’n cael ei roi i’w diogelwch yn y gwaith.

Meysydd i’w gwella:

  • Yn aml, nid oedd y wybodaeth am gam-drin domestig a diogelu plant yn ddigonol i allu gwneud asesiadau a chynlluniau rheoli cadarn. Roedd gwaith yn mynd rhagddo i roi sylw i ansawdd y wybodaeth a gafwyd ond roedd angen gwneud gwaith ychwanegol i roi sylw i anghenion hyfforddi a hyder rhai ymarferwyr.
  • Roedd cynllunio, yn enwedig ar gyfer ymatal, yn un o’r cryfderau, a gallai hyn o bosibl fod yn gysylltiedig â chydweithrediad yr ymarferwyr â’r tîm CORRE. Fodd bynnag, pan symudai’r bobl ar brawf i gam gweithredu a cham cyflawni eu dedfryd, nid oedd digon o waith i roi sylw i ymatal yn cael ei wneud mewn dros hanner yr achosion a arolygwyd gennym. Roedd hyn yn dangos nad oedd CORRE bob amser yn cael effaith gadarnhaol ar wasanaethau nac ymyriadau nac yn arwain at newid tymor hwy. Er y ceid tystiolaeth bod canllawiau CORRE yn cael eu rhannu â’r staff, nid oedd y ddealltwriaeth o ba wasanaethau y gallai CORRE gyfeirio atynt yn gyson, ac roedd atgyfeiriadau dilynol y tu hwnt i’r cam cynllunio cychwynnol yn aml yn ddiffygiol.
  • Fe wnaeth staff ar draws pob gradd ddisgrifio heriau unigryw yn gysylltiedig ag ardal eang yr Uned Gyflawni hon a oedd yn effeithio ar wytnwch y staff.  Disgrifiodd y rheolwyr a’r ymarferwyr fod absenoldeb yn cael ei deimlo’n waeth mewn timau gwledig llai a bod llenwi i mewn i wneud gwaith cydweithwyr yn ddigwyddiad rheolaidd a oedd yn eu tynnu oddi wrth eu blaenoriaethau eu hunain ac yn lleihau’r capasiti.
  • Roedd ymweliadau cartref yn cymryd oriau o deithio, a oedd yn golygu y gallai staff dreulio cryn amser i ffwrdd o’r swyddfa. Nid oedd dim adeiladau cymeradwy na charchardai yn ardal yr Uned Gyflawni Prawf hon ac, er bod staff yn gwneud defnydd priodol o drefniadau cysylltu o bell, roedd gofyn teithio cryn dipyn i gyfarfodydd wyneb yn wyneb. Roedd yr ymarferwyr yn gweithio dros gapasiti fel mater o drefn, a dywedodd llawer wrthym fod hyn yn teimlo’n waeth nag yr oedd y cofnodion yn ei ddangos oherwydd y pwysau ychwanegol hyn na chaent eu mesur.
  • Er gwaethaf y ffocws ar ddiogelwch staff ar draws saith swyddfa, nid oedd pob aelod staff yn swyddfa Aberteifi yn teimlo’n ddiogel. Roeddent yn gweithio o is-ganolfan adrodd ddeuddydd yr wythnos, mewn adeilad a oedd yn eiddo i asiantaeth bartner ac yn cael ei redeg ganddi. Roedd pobl ar brawf yn cael eu derbyn i’r adeilad drwy intercom yng nghefn yr eiddo, yn hytrach na thrwy dderbynfa, a disgrifiodd y staff ddiffyg cysylltedd i ffonio’r gwasanaethau brys pe byddent angen. Roedd yr uwch arweinwyr wedi cynnal adolygiad gyda chydweithwyr iechyd a diogelwch canolog ac ystyriwyd bod y ganolfan yn ddiogel ac yn addas i’w defnyddio. Nid oedd hyn wedi cael ei rannu’n ddigonol â’r staff a oedd yn gweithio o’r swyddfa hon yr oedd, ac roedd eu pryderon parhaus am eu diogelwch yn gwneud iddynt deimlo na chaent eu gwerthfawrogi ddigon.
  • Nid oedd yr holl staff yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi. Roedd llawer o staff a oedd yn teimlo mwy o straen oherwydd eu bod yn gwneud gwaith eu cydweithwyr, yn teimlo nad oeddent yn cael cydnabyddiaeth nac adborth cadarnhaol am y gwaith ychwanegol roeddent yn ei wneud.

P 1.2 StaffioSgôr
Galluogir staff i ddarparu gwasanaeth ymatebol, personol o ansawdd uchel i bawb sydd ar brawfAngen gwella

Cryfderau:

  • Roedd y lefelau staffio ar draws pob gradd wedi gwella dros y 12 mis diwethaf. Roedd gan yr Uned lefelau staffio llawn yn swyddi’r swyddogion prawf, ac roedd gormod o uwch swyddogion prawf wedi cael eu recriwtio. Roedd y swyddi swyddogion prawf bron wedi’u llenwi’n llwyr. Roedd pennaeth y gwasanaeth wedi gofyn am gymeradwyaeth gan y rhanbarth i or-recriwtio i’r radd hon fel strategaeth i oresgyn y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag ardaloedd gwledig a gwytnwch staff. Roedd digon o staff derbynfeydd ar draws yr Uned ac o’r herwydd roedd llai o bwysau ar weinyddwyr achosion i wneud y gwaith hwn.
  • Er bod canran uchel o staff mewn swyddi, roedd absenoldeb salwch a mamolaeth a chyfraddau gadael uchel wedi arwain at fylchau yn y lefelau staffio’n gyffredinol. Defnyddiai pennaeth y gwasanaeth amrywiaeth o ddulliau i roi sylw i hyn, gan gynnwys symud staff, dargyfeirio’r gwaith o ysgrifennu adroddiadau cyn dedfrydu a chefnogi staff a oedd yn ystyried gadael y gwasanaeth.
  • Cynigiai pennaeth y gwasanaeth safbwynt ffres ar sut i reoli llwyth gwaith ymarferwyr a’r berthynas rhwng rheoli’r galw a lefelau straen. Roedd hi’n cydnabod y pwysau sy’n gysylltiedig â bod wastad ar gael i’r bobl sydd ar brawf drwy ffonau symudol, negeseuon e-bost a negeseuon gwib, yn enwedig wrth weithio gartref. I helpu’r staff i osod ffiniau iachach, caent eu hannog i adael gliniaduron yn y swyddfa ac ystyried a oedd angen ymateb ar unwaith i bob galwad ffôn. Roedd y testun hwn yn ganolbwynt i ddiwrnod dysgu gwarchodedig lle cymerodd y staff ran mewn hyfforddiant i’w helpu i gymryd mwy o reolaeth dros eu hamser ac i roi blaenoriaeth i’r tasgau pwysicaf.
  • Roedd y staff yn swyddfa Hwlffordd yn treialu adnodd deallusrwydd artiffisial i’w helpu i gofnodi sesiynau gyda phobl ar brawf. Roedd yr adborth yn unfrydol dda, gyda phawb yn teimlo effaith gadarnhaol ar gydbwysedd gwaith/bywyd a lles yn gyffredinol. Roedd y staff yn cysylltu â chydweithwyr HMPPS i roi adborth ac i gefnogi’r gwaith o ddatblygu’r adnodd er mwyn ei wneud yn fwy effeithiol.
  • Roedd y dull ffactorau dynol yn hwyluso sawl cyfle i ymarferwyr gymryd rhan mewn goruchwyliaeth fyfyriol. Roeddent hefyd yn cymryd rhan mewn sesiynau diweddaru dyddiol i weld a oedd modd iddynt gael cefnogaeth ac i ddathlu llwyddiant a gallent gadw slot dyddiol gyda’u rheolwr i drafod achosion. Roedd yr ymarferwyr yn gadarnhaol ar y cyfan am y dull SBAR (sefyllfa, cefndir, asesiad, argymhelliad) a’u hysgogodd i gefnogi eu hunanddatblygiad drwy ystyried atebion ac effaith cyn mynd at y rheolwyr.
  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r staff a ymatebodd i’n harolwg eu bod yn cael eu goruchwylio’n aml a bod hyn yn help iddynt wella’u hymarfer. Roedd y staff yn swyddfa’r Drenewydd yn gallu cael goruchwyliaeth grŵp a oedd yn defnyddio sgiliau ac arbenigedd pob gradd i sbarduno gwelliannau yn y gwasanaethau a ddarperir ac roedd yn cael ei groesawu.

Meysydd i’w gwella:

  • Nid oedd y staff yn teimlo bod y lefelau staffio’n ddigonol. Roedd hyn yn gysylltiedig â’r ffaith fod absenoldebau unigol yn cael eu teimlo’n amlycach mewn timau bach. Roedd bron tri chwarter yr ymatebwyr i’n harolwg staff yn teimlo nad oedd y lefelau staffio yn ddigonol o gwbl. Roedd y lefelau staffio ymysg yr ymarferwyr tua 15 y cant yn is oherwydd absenoldebau tymor hir a swyddi dros dro. Bu hefyd gynnydd bach yn nifer y diwrnodau gwaith a gollwyd oherwydd salwch yn ystod y 12 mis diwethaf.
  • Ceid diffyg hyfforddiant a chefnogaeth effeithiol i swyddogion y gwasanaeth prawf y tu allan i ddiwrnodau datblygu gwarchodedig. Roedd y Swyddogion Gwasanaeth Prawf yn asesu a chyflawni gwaith i reoli’r risg o niwed yn llai effeithiol na’u cydweithwyr sy’n swyddogion prawf. Roedd y Swyddogion Gwasanaeth Prawf yn ymroddedig ac yn gweithio’n galed yn eu swyddi, ond teimlai’r uwch arweinwyr nad oedd y gwersi a ddysgwyd yn cael eu sefydlu’n ddigon da i fodloni anghenion datblygu’r Swyddogion Gwasanaeth Prawf. Ceir pecyn hyfforddiant cynefino sydd dan arweiniad y tîm rhanbarthol, ond ychydig o gyfleoedd a geid i wella a gwreiddio hyn ar lefel leol oherwydd y llwyth gwaith trwm.
  • Ychydig o dan hanner yr achosion a arolygwyd gennym oedd yn cael eu goruchwylio’n ddigonol gan reolwyr. Er bod angen gwella ymhellach, roedd hwn yn rhoi darlun addawol. Roedd gan yr achosion ôl troed rheoli gyda thrafodaeth fyfyriol glir, a goruchwyliaeth yn y cam dyrannu. Câi’r staff nifer o gyfleoedd bob dydd i drafod yn fyfyriol gyda’r rheolwyr, mewn ffordd a oedd yn eu herio i arwain a chanfod atebion. Fodd bynnag, nid oedd y trafodaethau a’r camau gweithredu dilynol y cytunwyd arnynt ar ôl cysylltu â’r rheolwyr bob amser i’w gweld ar gofnodion achosion.

P 1.3 GwasanaethauSgôr
Ceir ystod gynhwysfawr o wasanaethau o ansawdd uchel sy’n cefnogi gwasanaeth sy’n ymatebol ac sy’n cael ei deilwra ar gyfer pob unigolyn sydd ar brawf.Angen gwella

Cryfderau:

  • Câi dedfrydau eu cynllunio ar lefel rhanbarthol, ac roedd y dull gweithredu hwnnw’n cael ei gryfhau gan y tîm CORRE a oedd yn cydweithio â’r ymarferwyr i ddewis y gwasanaethau priodol a chyfeirio atynt yn y camau goruchwylio cynnar. Roedd yr egwyddorion a’r bwriad y tu ôl i CORRE yn gredadwy ac roedd llawer o staff yn gwerthfawrogi’r seibiant oddi wrth y tasgau hyn. Roedd gan yr achosion a arolygwyd gennym gynlluniau dedfrydu clir a manwl. Crëwyd CORRE ar gyfer dewis gwasanaethau a gomisiynir a gwasanaethau lleol eraill sy’n bodloni anghenion ehangach fel gwaith, hyfforddiant ac addysg.
  • Mae Dyfed Powys yn cwmpasu 55 y cant o arwynebedd tir Cymru, sy’n golygu bod y natur wledig a’r teithio yn eu rhwystro rhag gallu defnyddio gwasanaethau. Cynigiai’r Uned saith swyddfa ar draws yr ardal, ynghyd ag is-swyddfa adrodd ychwanegol. Defnyddiwyd cyfleusterau lleol hefyd i gyflwyno rhaglenni lle bo angen. Roedd ymdrechion yn cael eu gwneud i sicrhau cydymffurfiaeth ac i leihau i ba raddau’r oedd natur wledig yr ardal yn rhwystr i bresenoldeb drwy gynnal ymweliadau cartref. Roedd sesiynau adrodd i fenywod yn unig hefyd ar gael yn y saith swyddfa.
  • Roedd yr Uned yn chwarae rhan amlwg mewn fforymau i roi sylw i anghenion achosion cymhleth. Mi wnaeth y Cyd-brosiect Deallusrwydd ddwyn partneriaid at ei gilydd i ganfod unigolion risg is sy’n gysylltiedig â throseddau cyfundrefnol difrifol. Amcan ataliol oedd i’r cynllun, sef torri ar draws gweithgarwch fel nad oedd yr unigolion hyn yn symud ymlaen i ymddwyn neu droseddu ar raddfa fwy. Roedd yn annog partneriaid ar draws nifer o awdurdodau lleol i fynd ati i rannu gwybodaeth.
  • Ceid cysylltiadau cryf â’r Is-adran Diogelwch Gwladol i sicrhau bod achosion addas yn cael eu huwch-gyfeirio neu’u his-gyfeirio’n ddidrafferth. Yn yr un modd, roedd presenoldeb yr Uned yn yr hyb bregusrwydd yn dwyn at ei gilydd gydweithwyr yn MAPPA (trefniadau aml-asiantaeth ar gyfer amddiffyn y cyhoedd), IOM (dull rheoli troseddwyr integredig), a’r cydlynwyr stelcio rhanbarthol i ddiogelu’r dioddefwyr mwyaf agored i niwed.
  • Roedd yr Uned yn deall anghenion y bobl a oedd ar brawf a oedd yn byw yn eu hardal, drwy gyfrwng eu cysylltiad â chydweithwyr integreiddio cymunedol a’r dadansoddiadau o anghenion.  Ymysg y prif broblemau yr oedd y gyfran uwch o bobl hŷn a oedd ar brawf; anghenion iechyd meddwl a phobl a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol. Wrth arolygu achosion, gwelsom becynnau cymorth ‘mapiau ar gyfer newid’ yn cael eu defnyddio, yn ogystal â gwaith i gynnwys pobl a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol yn ddiogel mewn fforwm i rannu eu barn a’u profiadau er mwyn sbarduno gwelliannau mewn gwasanaethau.
  • Roedd yr ymarferwyr yn cael eu cynorthwyo i ymgysylltu â phobl oedd ar brawf ac a oedd ag anghenion iechyd meddwl cymhleth, drwy’r Llwybr Anhwylder Personoliaeth i Droseddwyr, a drwy gyflawni’r gofynion triniaethau iechyd meddwl. Cafodd yr hyfforddiant ei greu gyda sefydliad o’r enw ‘Gweithredu dros Iechyd Meddwl Gorllewin Cymru’, wedi’i hwyluso gan nyrs iechyd meddwl sydd â phrofiad uniongyrchol.
  • Roedd cydleoli gwasanaethau cyffuriau ac alcohol ar draws yr Uned Gyflawni yn cael effaith gadarnhaol ar ymgysylltu ag unigolion anhrefnus. Roedd yr asiantaethau’n cydweithio i sicrhau y gallai’r rheini sydd â bywydau anhrefnus fynd i apwyntiadau ar y cyd neu gael gafael ar wasanaethau mewn un adeilad.  Roedd y trefniadau ar gyfer rhannu gwybodaeth yn effeithiol o ganlyniad i hynny ac roedd y rheini ar orchmynion triniaeth gorfodol gan y llys yn cael y gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt, a cheid tystiolaeth dda o gadw cofnodion ac adolygiadau llys cydweithredol. Gan fod y gwasanaethau hyn yn cael eu cyd-gomisiynu, roedd problemau fel amseroedd aros i bobl sy’n gadael carchar gael eu cyfeirio i wasanaethau camddefnyddio sylweddau yn cael sylw’n gyflym.

Meysydd i’w gwella:

  • Roedd yr ymarferwyr yn cael hysbysiadau amserol gan bartneriaid yr heddlu pan gâi unigolyn sydd ar brawf ei arestio, neu pe bai’r heddlu wedi cael eu galw i ddigwyddiad yr oedd yr unigolyn hwnnw’n rhan ohono, drwy system o ddigwyddiadau hysbysadwy. Roedd y diweddariadau hyn yn rhoi mantais i ymarferwyr gan eu bod yn gallu deall ac adolygu gwybodaeth am risg yn gyflym. Ceid rhywfaint o ddryswch, fodd bynnag, ynghylch a oedd achos heb unrhyw hysbysiadau angen archwiliadau heddlu fel mater o drefn ynteu a oedd diffyg hysbysiadau yn ddigon i gadarnhau llai o risgiau. Ni cheid sicrwydd, felly, fod yr holl wybodaeth berthnasol sy’n gysylltiedig â risgiau yn hysbys ac yn cael ei hadolygu’n rheolaidd.
  • Ceid rhywfaint o rwystredigaeth ynghylch y Gwasanaethau Adsefydlu Cymunedol, gan fod llawer o’r rhain yn cael eu cyflwyno dros y ffôn. Yn aml, nid oedd apwyntiadau’n cael eu cynnig mwyach os nad oedd yr unigolion yn mynychu, er gwaethaf eu bywydau anhrefnus. Roedd hyn yn cael effaith ar sut roedd ymarferwyr yn gweld y gwasanaethau hyn, gyda phobl ar brawf yn dweud nad oedd y model cyflawni hwn yn addas iddynt. Roedd yr Uned yn cael ei chefnogi gan gydweithwyr rhanbarthol ac roeddent yn codi materion gyda chomisiynwyr mewn cyfarfodydd strategol rhanbarthol.
  • Er gwaethaf y gwaith cadarnhaol i gynllunio gyda chefnogaeth y tîm CORRE, nid pawb oedd yn deall cylch gwaith y tîm hwn. Roedd y broses yn cynnwys atgyfeiriadau i wasanaethau a gomisiynir a gwasanaethau nas comisiynir, er ei bod yn ymddangos y ceir gorddibyniaeth ar Wasanaethau Adsefydlu Cymunedol, pan allai gwasanaethau lleol fod wedi bodloni anghenion a risg yr unigolyn yn well. Roedd hyn yn cael ei adlewyrchu yn yr achosion a arolygwyd gennym lle ceid diffyg gwasanaethau i roi sylw i ymatal.
  • Nid oedd ymarferwyr yn glir ynghylch pa ymyriadau strwythuredig oedd ar gael ar draws yr Uned. Roedd pa ymyriadau a oedd ar gael yn amrywio yn ôl yr anghenion a nodwyd, y gallu i ddarparu a’r lleoliad. Roedd y daenlen a roddai fanylion yr ymyriadau a oedd ar gael a’r dull cyflawni arfaethedig wedi cael ei hail-lansio’r wythnos cyn yr arolygiad. Gwelsom achosion lle na chafodd ymyriadau strwythuredig eu darparu, hyd yn oed pan fyddent wedi bod yn addas.
  • Roedd cyfraddau cwblhau rhaglenni achrededig yn y 12 mis diwethaf ar gyfer y rheini a gafwyd yn euog o droseddau rhyw yn uchel, ar 91 y cant. Roedd y cyfraddau cwblhau ar gyfer rhaglenni achrededig, pan nad oedd yr euogfarn yn drosedd rhyw, yn llawer is ar 27 y cant. Roedd y natur wledig yn effeithio ar ddechrau rhaglenni gan nad oedd digon o gyfranogwyr i allu eu cynnal. Y gobaith oedd y byddai newid y ffordd y darperir y rhaglen Building Choices yn goresgyn y problemau hyn o ystyried natur gyffredinol y rhaglen a’r gallu i’w chyflwyno i nifer uwch o gyfranogwyr ar yr un pryd. Nid oedd y rhaglen hon wedi dechrau eto. Dim ond dau o’r chwe achos a arolygwyd gennym a oedd wedi dechrau’r rhaglen a ddewiswyd fel un o’u gofynion. Gweithiai cydweithwyr ymyriadau gyda rhai ymarferwyr unigol i ganfod dewisiadau amgen addas fel pecynnau cymorth, a gwelsom y rhain yn cael eu darparu mewn rhai achosion.

Amrywiaeth a chynhwysiant (Back to top)

Cryfderau:

  • Roedd menywod ar brawf yn gallu mynd i’w hapwyntiadau ar amseroedd a oedd yn cael eu neilltuo ar eu cyfer. Roedd hyn yn gyson ar draws y saith swyddfa, a oedd yn golygu bod rhwystrau rhag presenoldeb fel natur wledig, hanes eu perthnasoedd neu ddiogelwch yn cael sylw.
  • Roedd y bobl sydd ar brawf ac sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn gallu cael apwyntiadau o saith swyddfa ac un is-swyddfa ar draws yr Uned. Ychydig o dystiolaeth a welwyd wrth arolygu achosion o orfodaeth a chydymffurfiaeth yn gysylltiedig ag anawsterau teithio neu’r natur wledig. Roedd y bobl sydd ar brawf ac sy’n byw mewn ardaloedd gwledig yn gallu tynnu oriau am amser teithio i leoliadau gwaith di-dâl.
  • Roedd yr Uned wedi comisiynu gwasanaeth niwroamrywiaeth, gan gynnig sesiynau ymgynghorol i staff a gwaith uniongyrchol gyda phobl sydd ar brawf gan ddefnyddio amrywiaeth o fodelau ymgysylltu ac arddulliau cyfathrebu.
  • Gan yr Uned hon oedd y gyfran uchaf o ymarferwyr gwrywaidd yn y rhanbarth, ac roedd hyn yn golygu ei bod yn gallu bod yn fwy hyblyg ac ymatebol wrth ddyrannu achosion. Roedd hefyd yn cyfoethogi deinameg y tîm ac yn caniatáu i’r Uned gynnig rôl-fodelau cadarnhaol o ddynion i bobl sydd ar brawf lle bo hynny’n briodol.

Meysydd i’w gwella:

  • Roedd yr arolygwyr yn fodlon y byddai siaradwyr Cymraeg sydd ar brawf sy’n gofyn am wasanaeth yn Gymraeg yn cael hynny gan yr Uned, er mai ychydig o dystiolaeth a geid bod arlwy weithredol wedi’i chynnwys yn yr ymarfer. Er enghraifft, nid oedd derbynyddion yn ateb y ffôn fel mater o drefn gan ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg ac ni allai’r staff yn yr Uned roi sicrwydd y byddai unigolion a oedd wedi dweud eu bod yn ffafrio defnyddio’r Gymraeg yn cael gohebiaeth yn yr iaith honno fel mater o drefn.
  • Er gwaethaf gwaith effeithiol i ymgysylltu â menywod sydd ar brawf, nid oedd yr ymarferwyr yn rheoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â’r achosion hyn cystal ag a wnaent mewn achosion dynion. Ceir thema o dan-asesu’r risg y mae’r fenyw yn ei pheri i eraill, yn enwedig o safbwynt hanes eu perthnasoedd a diogelu plant.
  • Arolygwyd nifer fach o achosion lle nad Cymraeg na Saesneg oedd iaith gyntaf yr unigolyn a oedd ar brawf. Ni wnaed digon o ymdrech i sicrhau eu bod yn cael eu deall ac yn gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf. Roedd gan yr Uned wasanaethau cyfieithu ar y pryd ar gael, ond ni chaent eu defnyddio, a gwelsom enghreifftiau o staff yn defnyddio Google Translate yn ystod apwyntiadau. Nid yw Dyfed Powys yn ardal ddiwylliannol nac ethnig amrywiol, a cheir y potensial o ddiffyg hygyrchedd i bobl sydd ar brawf o wahanol gefndiroedd.

2. Cyflenwi’r gwasanaeth (Back to top)

P 2.1 AsesuSgôr
Mae’r gwaith asesu yn seiliedig ar wybodaeth, yn ddadansoddol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys y sawl sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[3] ar gyfer asesu yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf?82%
A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar y ffactorau sy’n gysylltiedig â throseddu ac ymatal rhag troseddu?80%
A yw’r asesiad yn canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?38%
  • Ni chafodd gwybodaeth gan yr heddlu am gam-drin domestig ei defnyddio’n llawn bob amser ar gyfer gwneud asesiadau risg. Mewn rhai achosion, ni wnaed dim ymholiadau, ac, mewn eraill, roedd yr ymarferwyr yn aros wythnosau am ymateb gan yr heddlu. Nid oedd yr ymarferwyr, felly, yn gallu deall patrymau’r gamdriniaeth a ddigwyddodd yn y cartref.
  • Canfu’r arolygwyr, hyd yn oed pan geid gwybodaeth gan asiantaethau eraill, nad oedd yr ymarferwyr yn defnyddio hon yn ddigon aml i arwain eu hasesiadau. Gwelsom enghreifftiau o ymarferwyr yn derbyn gwybodaeth heb gael cadarnhad gan y rhai yr oeddent yn eu goruchwylio, ynghyd â thueddiad i ganolbwyntio ar y presennol yn hytrach nag ar y duedd i achosi niwed a pha mor debygol y gallai hyn fod.
  • Roedd y rhan fwyaf o’r achosion a arolygwyd gennym yn dangos cyswllt digonol gyda’r sawl sydd ar brawf, gan eu cynnwys yn eu hasesiad, rhoi gwybod iddynt a ydynt yn gymwys i gael eu rheoli gan y tîm MAPPA, a defnyddio cryfderau’r unigolyn a’r cymorth sydd o’u cwmpas. Er na welsom ddigon o achosion yn asesu risg i’r cyhoedd yn llawn, roedd y perthnasoedd yr oedd yr ymarferwyr yn eu meithrin yn gweithredu fel cyfrwng i wella’r gwaith diogelu’r cyhoedd. Roedd yr ymarferwyr mewn sefyllfa dda i gael sgyrsiau heriol a thryloyw gyda’r rhai yr oeddent yn eu goruchwylio.
  • Roedd yr ymarferwyr yn gallu asesu hanes troseddu pobl i raddau helaeth. Roedd y mwyafrif helaeth o’r achosion yn cofnodi ac yn dadansoddi’r rhesymau pam bod unigolyn yn troseddu a pha ffactorau gwarchodol yr oedd angen adeiladu arnynt i atal troseddu i’r dyfodol. Roedd dwy ran o dair o’r achosion a arolygwyd gennym yn defnyddio ffynonellau gwybodaeth eraill i asesu troseddau gan gynnwys dadansoddi euogfarnau blaenorol, gwybodaeth gan Wasanaeth Erlyn y Goron ac asesiadau prawf neu gyfiawnder ieuenctid blaenorol. Roedd yr ymarferwyr yn llai tebygol o ddefnyddio gwybodaeth o ffynonellau eraill, gan gynnwys yr heddlu a gwasanaethau plant, i asesu’r risg i eraill. Roedd hyn yn dangos bod angen gwella gallu a chwilfrydedd yr ymarferwyr i chwilio am wybodaeth a’i dilysu mewn rhai meysydd o’u gwaith. Gallu a chwilfrydedd yr ymarferwyr i chwilio am wybodaeth a’i dilysu mewn rhai meysydd o’u gwaith.

P 2.2 CynllunioSgôr
Mae’r gwaith cynllunio’n seiliedig ar wybodaeth, yn gyfannol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys yn weithredol y sawl sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[4] ar gyfer cynllunio’n seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym ac a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf?78%
A yw’r cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar leihau aildroseddu a’u cefnogi i ymatal?91%
A yw’r gwaith cynllunio’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?47%
  • Roedd bron yr holl weithgarwch cynllunio yn canolbwyntio’n ddigonol ar eu helpu i fyw bywyd i ffwrdd oddi wrth droseddu. Roedd y cynlluniau’n canolbwyntio ar ddelio â’r materion sy’n gysylltiedig â’r troseddu a sicrhau bod gan yr unigolyn well sefydlogrwydd. Roedd y cynlluniau dedfrydu unigol a grëwyd gan yr Uned Gyflawni hon yn arbennig o fanwl ac roedd yn amlwg pa waith y bwriadwyd ei wneud.
  • Mewn gormod o achosion, ni welwyd digon o waith cynllunio i amlinellu sut byddai ymarferwyr yn gweithio gydag asiantaethau eraill a’r sawl oedd ar brawf i gadw pobl yn ddiogel. Yn y rhan fwyaf o achosion, roedd yr ymarferwyr yn dewis mesurau i amddiffyn yr holl ddioddefwyr posibl ac yn cynllunio’n ddigonol ar gyfer unrhyw bosibiliadau. Fodd bynnag, ar wahân i’r ddau fesur hyn, yn gyffredinol, nid oedd digon o gynllunio i gadw pobl eraill yn ddiogel.
  • Gwelodd yr arolygwyr wahaniaethau yn ansawdd gwaith amddiffyn y cyhoedd y swyddogion prawf a’r swyddogion gwasanaeth prawf, gan ddangos bod angen mwy o gefnogaeth a hyfforddiant i wella sgiliau’r swyddogion gwasanaeth prawf

P 2.3. Gweithredu a darparuSgôr
Mae gwasanaethau cydlynol, personol ac o ansawdd uchel a gyda ffocws da yn cael eu darparu, gan ennyn diddordeb yr unigolyn sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[5] ar gyfer gweithredu a chyflawni yn seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r ddedfryd neu’r cyfnod ar ôl carcharu yn cael eu gweithredu’n effeithiol gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â’r person sydd ar brawf?84%
A yw gweithredu a darparu gwasanaethau yn eu helpu i ymatal yn effeithiol?47%
A yw gweithredu a darparu gwasanaethau yn cefnogi diogelwch pobl eraill yn effeithiol?36%
  • Roedd y mwyafrif helaeth o’r achosion a arolygwyd yn cynnwys hyblygrwydd priodol i bobl ar brawf i sicrhau bod eu gofynion yn cael eu bodloni. Roedd apwyntiadau ar gael o wyth lleoliad ac roedd menywod ar brawf yn gallu adrodd ar amseroedd a oedd ar gael i fenywod yn unig. Gwelsom hyblygrwydd tebyg gyda threfniadau gofal plant a chyflogaeth. Cwblhawyd ymweliadau cartref mewn 27 o’r 38 achos perthnasol a arolygwyd gennym, fel adnodd diogelu’r cyhoedd ond hefyd i gysylltu â phobl sy’n byw mewn ardaloedd anghysbell a allai fod ag anableddau.
  • Roedd yr ymarferwyr yn deg yn eu penderfyniad i gymryd camau gorfodi. Roeddent yn gweithredu ym mhob achos perthnasol bron i ganfod pryd yr oedd presenoldeb a chydymffurfiaeth yn llithro er mwyn osgoi’r angen i gymryd camau gorfodi. Roedd hyn yn awgrymu bod ymarferwyr yn defnyddio sgiliau ymgysylltu cryf i osod ffiniau a meithrin perthynas broffesiynol â’r bobl oedd ar brawf i sicrhau eu presenoldeb a’u hymgysylltiad. Roedd y mwyafrif helaeth o’r achosion a arolygwyd gennym yn dangos perthynas waith effeithiol â’r rhai dan oruchwyliaeth.
  • Er gwaethaf gwaith asesu a chynllunio effeithiol i leihau’r tebygolrwydd o aildroseddu a’r risg i eraill, ni welsom hyn yn y gwaith a wnaed yn ddiweddarach. Roedd llai na hanner yr achosion a arolygwyd gennym yn dangos bod digon o waith yn cael ei wneud i helpu pobl sydd ar brawf i ymatal rhag troseddu.
  • Y bylchau pwysicaf a welwyd yn y ddarpariaeth oedd y ffaith na roddwyd sylw i broblemau yn y teulu neu mewn perthnasoedd, nac i agweddau a ffordd o feddwl. Dywedodd yr ymarferwyr wrth yr arolygwyr nad oeddent bob amser yn siŵr pa raglenni mewnol ac ymyriadau strwythuredig oedd ar gael.
  • Dim ond 27 y cant o’r bobl ar brawf yn Nyfed Powys, yr oedd eu dedfrydau wedi dod i ben yn ystod y 12 mis diwethaf ac a ddedfrydwyd i raglen achrededig, a oedd wedi cwblhau’r rhaglen honno. Ceid canlyniadau gwell i bobl a gafwyd yn euog o droseddau rhywiol, gyda’r rhaglen briodol wedi’i chyflwyno i’r mwyafrif helaeth ohonynt. Roedd natur wledig a daearyddol yr Uned yn golygu ei bod yn anos cyflwyno rhaglenni ac ymyriadau strwythuredig, gan nad oedd digon o gyfranogwyr yn aml i ddechrau grŵp mewn rhai swyddfeydd, ac roedd yr oriau o deithio rhwng swyddfeydd yn ei gwneud yn anymarferol i gwblhau rhaglen mewn man arall.
  • Nid oedd digon o wybodaeth yn cael ei rhannu rhwng y gwasanaeth prawf ac asiantaethau eraill i gadw pobl yn ddiogel wrth gyflawni’r ddedfryd. Roedd hyn yn arbennig o wir gydag achosion cam-drin domestig, gyda dim ond 13 o’r 33 achos a oedd angen rhagor o wybodaeth gan yr heddlu, er mwyn rheoli risgiau, yn cael digon o wybodaeth i lywio’r gwaith o gyflawni eu dedfryd.
  • Câi’r ymarferwyr hysbysiadau amserol gan yr heddlu yn dilyn arestio neu ddigwyddiad yn ymwneud ag unigolyn yr oeddent yn ei oruchwylio. Roedd hwn yn adnodd gwerthfawr a oedd â’r potensial i ychwanegu cyfoeth at dull rheoli risg deinamig. Fodd bynnag, roedd y wybodaeth yn arwynebol, ac yn aml nid oedd yn cynnwys enwau na gwybodaeth sylfaenol arall. Roedd hyn yn golygu bod yn rhaid i ymarferwyr fynd ar drywydd y wybodaeth hon, ac nid oedd hyn bob amser yn cael ei gwblhau.
  • Roedd achosion MAPPA yn cael eu rheoli ochr yn ochr â mewnbwn gan asiantaethau eraill. Roedd deg o’r 12 achos a arolygwyd gennym yn dangos digon o gyswllt ag asiantaethau eraill, gan gynnwys yr heddlu.

P 2.4. AdolyguSgôr
Mae’r gwaith o adolygu cynnydd yn seiliedig ar wybodaeth, yn ddadansoddol ac yn bersonol, ac mae’n cynnwys y sawl sydd ar brawf.Annigonol

Mae ein sgôr[6] ar gyfer adolygu’n seiliedig ar ganran yr achosion a arolygwyd gennym a gafodd eu barnu’n foddhaol yn erbyn y tri chwestiwn allweddol ac mae’n cael ei gyrru gan y sgôr isaf:

Cwestiwn allweddolCanran ‘Ydy’
A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gefnogi cydymffurfiaeth ac ymgysylltiad y person sydd ar brawf?79%
A yw’r gwaith adolygu yn canolbwyntio’n ddigonol ar eu helpu i ymatal?61%
A yw’r gwaith adolygu’n canolbwyntio’n ddigonol ar gadw pobl eraill yn ddiogel?43%
  • Mewn 24 o’r 38 achos perthnasol a arolygwyd gennym, roedd y cynllun gwaith neu’r dull gweithredu gyda’r unigolyn ar brawf wedi cael ei addasu, oherwydd newidiadau mewn amgylchiadau, fel symud tŷ neu lithro’n ôl i gamddefnyddio sylweddau. Cefnogwyd y penderfyniadau hyn naill ai drwy ddogfennu neu gofnodi’r amgylchiadau newydd a pha gamau fyddai’n cael eu cymryd. Roedd y cofnodi hwn i’w weld mewn 34 o’r 38 achos perthnasol a arolygwyd gennym.
  • Roedd y gweithgaredd adolygu yn ddiffygiol o ran y camau a gymerwyd i gadw pobl yn ddiogel. Roedd themâu’r diffygion yn cynnwys: cyfnodau hir heb unrhyw ymholiadau diweddar gyda’r heddlu nac ymholiadau diogelu; dim ystyriaeth o’r hyn y gallai arestio pellach ei olygu i’r risg i eraill; gwirio gwybodaeth newydd gydag asiantaethau eraill a chofnodi gostyngiad mewn risg i eraill yn gynamserol neu heb sail resymegol ddigonol.
  • Er ein bod wedi gweld tystiolaeth o waith effeithiol mewn llawer o achosion, gwelwyd o hyd achosion lle’r oedd gwybodaeth hanfodol yn ymwneud â chadw pobl yn ddiogel wedi cael ei hepgor, gan gynnwys methiant i ystyried risg sy’n gysylltiedig â newidiadau mewn amgylchiadau neu i ddioddefwyr yn y gweithgaredd adolygu. Roedd hyn yn tanseilio’r gwaith a oedd yn cael ei gwblhau.

Rhagor o wybodaeth (Back to top)

Mae data llawn o’r arolygiad hwn a rhagor o wybodaeth am y fethodoleg a ddefnyddiwyd i gynnal yr arolygiad hwn ar gael yn yr atodiad data.

Mae’r eirfa a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan.

Arweiniwyd yr arolygiad hwn gan Arolygydd EF Donna Waters, gyda chefnogaeth tîm o arolygwyr a chydweithwyr o bob rhan o’r Arolygiaeth. Hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran mewn unrhyw ffordd yn yr arolygiad hwn. Heb eu cymorth a’u cydweithrediad, ni fyddai’r arolygiad wedi bod yn bosib.

[1] Ailosod y Gwasanaeth Prawf – Mae hyn yn mynnu y bydd yr oruchwyliaeth dros unigolyn ar brawf sy’n gymwys yn ôl meini prawf penodol, yn cael ei hatal ddwy ran o dair o’r amser i mewn i’w dedfryd. Nod y mesurau hyn yw targedu adnoddau ar ddechrau eu cyfnod o oruchwyliaeth yn y gymuned.

[2] Mewn achosion lle’r oedd cyswllt wedi cael ei atal dros dro ar ôl mwy nag wyth wythnos o oruchwyliaeth, fe wnaethom ddefnyddio ein safonau craidd, a gwneud penderfyniadau arolygu mewn ffordd gymesur. Defnyddiwyd set o safonau wedi’u haddasu gennym lle’r oedd cyswllt wedi’i atal o fewn wyth wythnos o oruchwyliaeth neu lai.

[3] Mae’r sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei roi mewn band sgorio, yn dylanwadu ar y sgôr ar gyfer y safon. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad data.

[4] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei gyrru gan y sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei roi mewn band sgorio. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad data.

[5] Mae’r sgôr ar gyfer y cwestiwn allweddol, sy’n cael ei roi mewn band sgorio, yn dylanwadu ar y sgôr ar gyfer y safon. Mae data llawn a rhagor o wybodaeth am fethodoleg arolygu ar gael yn yr atodiad data.

[6] Mae’r sgôr ar gyfer y safon yn cael ei gyrru gan y sgôr isaf ar gyfer pob un o’r cwestiynau allweddol, a roddwyd mewn band sgorio, a nodir mewn print trwm yn y tabl.